Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd
Brian Jones – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Richard Mainon – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 13 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Tony
Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen Cofnodion: Cynghorydd Brian
Jones – Eitem 5 ar y Rhaglen – Aelod o Grŵp Busnes y Rhyl Cynghorydd Tony
Thomas – Eitem 5 ar y Rhaglen – Aelod/Perchennog Busnes Grŵp BID Cynghorydd Emrys
Wynne – Eitem 7 ar y Rhaglen – aelod o’i deulu wedi’u cyflogi gan y Cyngor. Cynghorydd
Richard Mainon – Eitem 13 ar y Rhaglen – ei ferch wedi’i chyflogi gan
Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan yn y gorffennol. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
ARDAL GWELLA BUSNES Y RHYL PDF 428 KB Ystyried
adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd
ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig)
yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â datblygu Ardal Gwella
Busnes y Rhyl, ac yn ceisio cymeradwyaeth i’w sefydlu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'u hystyriaethau; (b) nodi cynnwys y Cynllun Busnes AGB (Atodiad 2) ac argymhelliad y Swyddog nad
oes unrhyw sail i roi feto o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (Atodiad 3) gan
nad yw’n gwrthdaro ag unrhyw bolisïau lleol presennol nac yn gosod baich
anghymesur ar fusnesau penodol yn yr ardal; (c) cytuno i gefnogi sefydlu’r AGB trwy bleidleisio 'o blaid' ym mhleidlais yr
AGB mewn perthynas â phob un eiddo ardrethadwy cymwys sydd gan y Cyngor yn yr
AGB, a (d) chytuno i roi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Economi a Pharth Cyhoeddus i fwrw pleidleisiau mewn perthynas â phob eiddo
ardrethadwy cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r Cabinet ar ddatblygiad Ardal Gwella Busnes y Rhyl (AGB) ac yn
gofyn i’r aelodau gefnogi sefydliad yr ardal. Cafwyd ychydig o gefndir yn rhoi
manylion am y gwaith gyda'r gymuned fusnes leol i bennu dichonolrwydd AGB yn Rhyl ynghyd â'r cais i ddatblygu prosesau a
materion cyfreithlondeb cysylltiedig â hyn. Roedd y cam nesaf yn ymwneud â phleidlais bost er mwyn i
fusnesau cymwys allu pleidleisio 'dros' neu 'yn erbyn' y cynnig AGB, gan nodi
sut y byddai'n gweithredu (incwm arfaethedig, gwariant, yr ardal GB ei hun a
mesuryddion perfformiad) a sut y byddai’r ardoll AGB yn cael ei wario. Bod y Cabinet yn cytuno i
gefnogi sefydlu’r AGB trwy bleidleisio 'o blaid' ym mhleidlais yr AGB mewn
perthynas â phob un eiddo ardrethol cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB. Mewn
ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd/eglurodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion - ·
y byddai Civica yn casglu’r
ardoll ar ran y cwmni AGB a bod trafodaethau ar y gweill mewn perthynas â hyn -
nid oedd cost y casglu wedi ei gadarnhau eto ond y cwmni AGB fyddai’n talu’r
costau. ·
na fyddai’r gweithgareddau y
byddai’r gymuned fusnes yn eu blaenoriaethu yn disodli gwasanaethau presennol y
cyngor ond yn hytrach yn ychwanegu gwerth at y gwasanaethau hynny. ·
cafwyd diweddariad ar gynnydd
o ran datblygu AGB Prestatyn. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau; (b) nodi cynnwys y Cynllun Busnes AGB (Atodiad 2) ac argymhelliad y Swyddog nad
oes unrhyw sail i roi feto o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (Atodiad 3) gan
nad yw’n gwrthdaro ag unrhyw bolisïau lleol presennol nac yn gosod baich
anghymesur ar fusnesau penodol yn yr ardal; (c) cytuno i gefnogi sefydlu’r AGB trwy bleidleisio 'o blaid' ym mhleidlais yr
AGB mewn perthynas â phob un eiddo ardrethol cymwys sydd gan y Cyngor yn yr
AGB, a (d) cytuno i roi awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus i fwrw pleidleisiau mewn
perthynas â phob eiddo ardrethol cymwys sydd gan y Cyngor yn yr AGB. |
|
AMRYWIO CONTRACTAU CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF CARTREF CYNGOR SIR DDINBYCH PDF 384 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a
Theithio Cynaliadwy (copi’n amgaeedig) ynglŷn â threfniadau gweithredu
tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref y Cyngor yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cytuno i ymestyn y contract presennol cymaint â dwy flynedd (hyd at 31
Mawrth 2021) gan ganiatáu trydydd flwyddyn wrth gefn (tan 31 Mawrth 2022); (b) awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i gyflwyno
llythyr amrywio Contract i CAD Recycling i ymestyn y contract presennol ddwy
flynedd (at 31 Mawrth 2021) gan gynnwys cymal toriad chwe mis yn caniatáu
trydydd flwyddyn wrth gefn (at 31 Mawrth 2022).
Mae hyn yn caniatáu’r hyblygrwydd i gaffael gwasanaethau ar unrhyw adeg
os yw’r Prosiect Cydweithio yn dod i ben yn gynt na’r disgwyl. Mae hefyd yn rhoi digon o amser i wneud
trefniant newydd, a (c) bod y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yn rhoi gwybod am
gynnydd a/neu ganlyniadau’r Prosiect Newid ar y cyd i’r Pwyllgor Craffu dim
hwyrach na Rhagfyr 2019, ynghyd ag argymhellion ynglŷn â’r dewis a ffafrir
ar gyfer comisiynu gwasanaethau HRC i’r dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones adroddiad yn ymwneud â threfniadau gweithredu'r
dyfodol ar gyfer tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor yn Rhuthun,
Dinbych a'r Rhyl. Bydd y
contract presennol ar gyfer derbyn, cadw, trin a gwaredu gwastraff cartref mewn
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) yn dirwyn i ben ar 31 Mawrth
2019. Argymhellwyd ymestyn y contract am ddwy flynedd arall a chaniatáu trydedd
flwyddyn fel blwyddyn wrth gefn er mwyn galluogi’r Cyngor i gymryd rhan mewn
ymarfer gyda Rhaglen Newid Cydweithredol WRAP Cymru ac Awdurdodau eraill
Gogledd Cymru er mwyn gweld a oes cyfleoedd i wneud arbedion o weithrediadau
CAGC ar draws y rhanbarth drwy gyd-gaffael a/neu aildrefnu gwasanaethau. Trafododd
y Cabinet gyda’r swyddogion rinweddau’r ymdriniaeth hon a fyddai’n galluogi
parhad y contract presennol tra bo trafodaethau ynghylch dichonoldeb cydweithio
rhanbarthol ar y gweill. Byddai
ymestyn y contract hefyd yn caniatáu rhagor o drafodaethau ar y model gwastraff
newydd. Y
bwriad oedd ymrwymo i drefniant rhanbarthol yn y tymor canolig/hirdymor ar yr
amod ei fod yn drefniant ariannol fuddiol. Rhagwelwyd y byddai
ymarferoldeb caffael ar sail ranbarthol yn hysbys o fewn y deuddeng mis cyntaf
ac y byddai darpariaeth yn y contract i roi chwe mis o rybudd cyn terfynu’r
contract a mynd allan i dendr. Cynigiodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ddiwygiad i’r argymhelliad er mwyn cynnwys
cyfeiriad penodol at y cymal chwe mis o rybudd, a chafodd hynny ei gymeradwy. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cytuno i ymestyn y contract presennol o ddwy flynedd (hyd at 31 Mawrth
2021) gan ganiatáu trydedd flwyddyn wrth gefn (tan 31 Mawrth 2022); (b) Awdurdodi’r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i gyflwyno llythyr Amrywio
Contract i CAD Recycling yn ymestyn y contract presennol ddwy flynedd (at 31
Mawrth 2021) gan gynnwys cymal toriad chwe mis yn caniatáu trydedd flwyddyn
wrth gefn (at 31 Mawrth 2022). Mae hyn
yn caniatáu’r hyblygrwydd i gaffael gwasanaethau ar unrhyw adeg os yw’r
Prosiect Cydweithio yn dod i ben yn gynt na’r
disgwyl. Mae hefyd yn rhoi digon o amser
i wneud trefniant newydd, a (c) Bod y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yn rhoi gwybod am
gynnydd a/neu ganlyniadau’r Prosiect Newid ar y cyd i’r Pwyllgor Craffu dim
hwyrach na Rhagfyr 2019, ynghyd ag argymhellion ynglŷn â’r dewis a ffefrir
ar gyfer comisiynu gwasanaethau HRC i’r dyfodol. |
|
POLISÏAU CYFLOGAETH PDF 367 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol dros Safonau Corfforaethol
(copi’n amgaeedig) yn argymell mabwysiadu nifer o bolisïau cyflogaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer eu
mabwysiadu yn y Cyngor, a (b) chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Mark Young adroddiad yn argymell mabwysiadu’r pedwar polisi
cyflogaeth sydd wedi eu datblygu/hadolygu. Roedd yr adroddiad yn manylu
hefyd ar y ddau bolisi newydd ac yn amlygu newidiadau arfaethedig o fewn y
polisïau presennol a'r rhesymau am hynny. Ymgynghorwyd â’r Undebau ac
maent yn fodlon â’r polisïau. Y chwe
pholisi yw - (1) Polisi
Amser o’r Gwaith (cyfuniad o’r holl bolisïau sy’n ymwneud ag amser i ffwrdd). (2) Polisi
Rhianta (cyfuniad o’r polisi mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, rhieni ac
absenoldeb rhiant a rennir) (3) Polisi
Apeliadau Corfforaethol (polisi diwygiedig) (4) Polisi
Disgresiwn CPLlL a Bandio (polisi diwygiedig) (5) Polisi
dyletswyddau Wrth Gefn, Ar Alwad a Cysgu i Mewn (Diwygiedig) (6) Polisi
Mynd a Data Personol o Eiddo CSDd (Newydd) Rhoddodd
y Partner Busnes Arweiniol – Sefydliadau, grynodeb byr o bob polisi ac
ymatebodd swyddogion i gwestiynau fel a ganlyn: ·
nid oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r
polisïau ac eglurwyd y broses ymgynghori gyda’r undebau a’r aelodau. ·
roedd pawb yr ymgynghorwyd â nhw yn cytuno, nid oedd yr
aelodau bellach yn rhan o’r broses apeliadau. ·
gellid talu hyd at bum niwrnod
o wyliau gofalwyr bob blwyddyn o dan y polisi hwn, fodd bynnag roedd y polisi o
dan adolygiad ar hyn o bryd fel rhan o’r polisi rheoli anghenion gofalwyr a
fyddai’n cynnwys elfen o wyliau di-dâl, ac ·
eglurwyd y broses o ran y
disgwyliad bod staff rhai adrannau penodol yn gorfod cyflawni dyletswyddau wrth
gefn ar gyfer achosion lle byddai o bosib angen galw staff allan. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo’r polisïau cyflogaeth fel y nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer
mabwysiadu yn y Cyngor, a (b) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (atodiad i’r adroddiad) fel rhan o'u hystyriaethau. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 2017/18 PDF 199 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli
trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad y Cyngor â chyfyngiadau'r trysorlys a’r
Dangosyddion Darbodus yn ystod 2017/18. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2017/18 a’i
chydymffurfiaeth â’r dangosyddion darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn
adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2017/18 (Atodiad 1 yr adroddiad), a (b) chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n
amgaeedig) adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar berfformiad y swyddogaeth rheoli’r trysorlys
ac yn dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus
yn ystod 2017/18. Wrth
grynhoi'r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at bwysigrwydd
rheolaeth trysorlys a chyfeiriodd at y cefndir economaidd a'i effaith ar
weithgareddau rheoli'r trysorlys. Amlygodd y prif bwyntiau ar
gyfer yr aelodau o ran gweithgaredd benthyca a buddsoddi a chadarnhaodd
gydymffurfiad â’r
holl ddangosyddion ariannol a osodwyd, gan dywys aelodau drwy’r dangosyddion
hynny fel y’u manylir yn Atodiad B, a chadarnhau cymarebau priodol o ran costau
ariannu a lefelau benthyca sydd ymhell o fewn y terfynau. Cafwyd sicrwydd y defnyddir ymgynghorwyr
allanol yn ogystal â swyddogion mewnol er mwyn sicrhau y cymerir y camau
priodol er budd gorau’r Cyngor a bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu
cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Mewn
ymateb i gwestiynau cadarnhaodd Cynghorydd Thompson-Hill bod yr holl fenthyca
ar gyfradd sefydlog drwy gydol cyfnod y benthyciad ac eglurodd hefyd y terfyn
awdurdodedig a’r ffin weithredol a osodwyd ar gyfer dyled allanol. Eglurodd y Pennaeth
Cyllid/Swyddog A.151 strwythur aeddfedu benthyca cyfradd sefydlog er mwyn
sicrhau lledaeniad rhesymol o aeddfedrwydd dyledion gyda therfyn penodedig o
ran faint o ddyled sy’n aeddfedu o fewn cyfnod gosodedig. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi
perfformiad swyddogaeth Rheoli’r Trysorlys y Cyngor yn ystod 2017/18 a’i
gydymffurfiad â’r dangosyddion darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn adroddiad
Rheoli’r Trysorlys Blynyddol 2017/18 (Atodiad 1 yr adroddiad), a (b) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'u hystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a (b) chymeradwyo diddymu dyled hanesyddol o £26,481.43. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad
yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a
wnaed yn erbyn y strategaeth gyllid y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor – ·
cyllideb
refeniw net y Cyngor ar gyfer 2018/19 yw £194.418m (£189.252m yn 2017/18) ·
Rhagwelir
y bydd gorwariant o £0.811m ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol ·
nododd
arbedion ac effeithiolrwydd a gytunwyd o £4.6m gan gynnwys y rhai a gyflawnwyd eisoes
gan dybio y byddai'r holl effeithiolrwydd/ arbedion gwasanaeth yn cael eu
darparu - byddai unrhyw eithriadau yn cael eu hadrodd i'r Cabinet os oes angen ·
amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r gwahaniaethau mewn perthynas â meysydd gwasanaeth
unigol, a ·
darparwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r
Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol). Gofynnwyd hefyd i’r Cabinet gymeradwyo dileu dyled
hanesyddol sydd werth £26k yn ymwneud â grant a or-haliwyd a gwaith ar eiddo
sy’n dyddio'n ôl i
2011. Codwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
Safle Glasdir – fel arfer y
contractwr sy’n gyfrifol am gost mân
waith atgyweirio (fel rhan o'r contract gwreiddiol) ac roedd y rhan fwyaf o'r
gwaith y tynnwyd sylw ato wedi ei gwblhau dros fisoedd yr haf gyda rhywfaint o
fan waith yn weddill a cheisiadau am rywfaint o waith ychwanegol wedi’u gwneud
– cafwyd eglurhad ar y materion y byddai angen i’r ysgol eu noddi. ·
Mae cynlluniau i wella
llwybrau cerdded a beicio i’r ysgol wedi eu hadnabod a bydd y rhain yn cael eu
hariannu drwy Leoliadau y Tu Allan i’r Sir Llywodraeth Cymru - roedd y
trafodaethau'n canolbwyntio ar y pwysau parhaus ar draws y rhanbarth a
chadarnhawyd fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp i ystyried y materion
hyn ymhellach. Cynhyrchwyd
adroddiad gan ADSS Cymru a CLlLC a oedd yn amlygu’r goblygiadau o ran costau a
chynaladwyedd Gwasanaethau Plant yn y dyfodol, gan gynnwys costau lleoliadau. Ystyriodd yr aelodau’r heriau sy’n wynebu’r
awdurdod o ran diwallu anghenion cymhleth unigolion yn unol â’i ddyletswyddau
statudol, a nodwyd na fyddai modd diwallu rhai anghenion penodol heblaw drwy
ddarpariaeth arbenigol ar gost uchel dros ben y tu allan i’r sir. Yr awdurdod fydd yn gyfrifol am y costau hyn
ac nid yw’n hawdd darogan niferoedd. ·
Balansau Ysgolion – mae’r
sefyllfa wedi sefydlogi fel y rhagwelwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf
a rhagwelir cynnydd ym malans y diffyg yn gyffredinol. Cafodd y sefyllfa ei monitro'n
ofalus a gweithiodd swyddogion gyda’r ysgolion er mwyn sicrhau bod cynlluniau
adfer cadarn yn eu lle; amlygwyd hefyd gyfrifoldebau rheolaeth ariannol Cyrff
Llywodraethu ysgolion, ·
Bu gostyngiad yn y Grant
Gwella Addysg gan Lywodraeth Cymru a rhagwelwyd gostau ymadael o £15k – mewn
achosion lle daeth arian grant i ben daeth maes gwaith y grant hwnnw hefyd i
ben, ond roedd yn rhaid i’r Cyngor dalu rhai costau a gododd yn sgil hynny, er
enghraifft diswyddiadau. ·
Priffyrdd - amlygwyd effaith y
gostyngiad yn y gwaith a’r ad-daliadau sy’n dod gan Asiantaeth Cefnffyrdd
Gogledd a Chanolbarth Cymru a dywedodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai’r swm
yn cael ei addasu yn unol â hynny. · Arbedion cytunedig – o ran arbedion effeithlonrwydd a gytunwyd ar gyfer 2018/19, tra byddai rhai o’r arbedion hyn o bosibl yn cael effaith ar wasanaethau, ystyriwyd na fyddai effaith arwyddocaol ar ddarpariaeth gwasanaethau - byddai modd gwireddu'r holl arbedion gwyrdd a melyn heb gael effaith niweidiol ar wasanaethau rheng flaen – cytunodd y pennaeth Cyllid y byddai’n edrych a oedd dileu swydd Rheolwr Gwasanaeth (Cyf CSS E001) wedi’i gynnwys yn y gost ar gyfer ailstrwythuro’r Tîm ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 209 KB Derbyn
Blaenraglen Waith y Cabinet sy’n amgaeedig, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nodwyd y byddai’r eitemau a ganlyn yn cael eu hychwanegu at y
rhaglen waith - ·
Dyfarniad
grant ar gyfer caffaeliadau eiddo yn Rhodfa’r Gorllewin a Stryd Sussex yn y
Rhyl - Hydref ·
Digartrefedd - Cynllun Comisiynu Atal/Cefnogi Pobl –
Rhagfyr PENDERFYNWYD Nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Ar y pwynt hwn
(11.30am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar
y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i
diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
DEWISIADAU AR GYFER GORFODAETH TROSEDDAU AMGYLCHEDDOL Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai,
Rheoleiddio a'r Amgylchedd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â’r dewisiadau ar
gyfer gorfodi amgylcheddol yn y sir. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi’r dewisiadau ar gyfer cyflawni camau gorfodi ar gyfer troseddau
amgylcheddol yn yr adroddiad ac awdurdodi swyddogion i symud ymlaen â dewis 3
gyda chydweithwyr caffael i gaffael darparwr gwasanaeth allanol; (b) cytuno y dylai’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gytuno ar gynnwys
manyleb terfynol darpariaeth gwasanaeth gorfodaeth amgylcheddol ar ôl ystyried
y fanyleb drafft gan y Pwyllgor Craffu, a (c) bydd swyddogion yn parhau i archwilio i’r cyfle i gydweithio yn rhanbarthol
neu isranbarthol a rhoi gwybod i'r Pwyllgor Craffu am gynnydd y gwaith mewn
chwe mis. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Tony Thomas adroddiad cyfrinachol yn rhoi manylion am opsiynau ar
gyfer darparu gorfodaeth amgylcheddol yn y sir. Rhoddwyd rhywfaint o gefndir am y gwasanaeth gorfodi blaenorol a
ddarparwyd gan Kingdom Security Ltd a'r dull cydweithredol o daclo troseddau
amgylcheddol drwy addysgu/codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a glanhau strydoedd
effeithiol gan arwain at amgylchedd lleol glanach. Yn dilyn terfynu contract
Kingdom Security Ltd yn gynnar, cwblhawyd gwerthusiad o opsiynau ar gyfer
darpariaeth y dyfodol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Argymhellwyd ail-dendro’r contract ar gyfer
darparu gorfodaeth mewn perthynas â throseddau amgylcheddol gan barhau i
archwilio’r opsiwn o ateb cydweithredol rhanbarthol neu isranbarthol. Ystyriodd
y Cabinet y gwerthusiad o’r opsiynau a manteision ac anfanteision opsiynau
unigol. Pwysleisiwyd
ar angen am ateb niwtral o ran cost ac eglurder ar y fanyleb ar gyfer darparu'r
gwasanaeth, ynghyd â'r
angen am fesurau priodol yn y cyfamser. Mynegwyd ffafriaeth dros
weithio rhanbarthol ond o ystyried yr amserlen berthnasol ystyriwyd mai priodol
fyddai cefnogi’r opsiwn i ail-dendro er mwyn sicrhau na fyddai oedi gormodol yn
narpariaeth gorfodaeth tra byddai ymarferoldeb opsiwn rhanbarthol yn cael ei
archwilio. O ystyried pwysigrwydd y fanyleb
ar gyfer darpariaeth y gwasanaeth ac er mwyn i aelodau allu cyfrannu at y
broses, cefnogodd y Cabinet gynnig gan y Cynghorydd Richard Mainon bod y
fanyleb ddrafft yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu a chytunwyd hefyd y
byddai'r Pwyllgor Craffu yn cael
adroddiad ar gynnydd o ran y cyfle i gydweithio’n rhanbarthol /
isranbarthol. Wrth agor y drafodaeth i rai nad
oeddent yn aelod o’r Cabinet mynegwyd pryderon y byddai ail-dendro i gwmni
preifat yn achosi’r un problemau a brofwyd o dan y contract blaenorol a’r farn
oedd y gellid arfer mwy o reolaeth dros ddarpariaeth y gwasanaeth drwy
ddarpariaeth fewnol. Cyfeiriwyd
hefyd at y posibilrwydd o gyfuno'r holl wasanaethau gorfodi ar y stryd, gan
gynnwys gorfodaeth parcio. Soniodd
yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd unwaith eto am y
goblygiadau sylweddol o ran cost a’r anawsterau recriwtio gyda darpariaeth
fewnol Eglurwyd
y byddai manyleb ddiwygiedig ar ofynion y gwasanaeth yn cael ei llunio gan
ystyried profiadau’r gorffennol ac adborth a gafwyd ac y byddai aelodau’n cael
rhagor o fewnbwn i’r telerau hynny drwy’r broses graffu. Eglurwyd mai pwrpas y contract
fyddai mynd i’r afael â materion amgylcheddol ac nid gweithredu fel modd o
gynhyrchu incwm. Gellir
ystyried cyfuno gwasanaethau gorfodi fel rhan o’r ailstrwythuro sydd ar ddod. Roedd hefyd rywfaint o gefnogaeth
dros gydweithio rhanbarthol, boed yn ddarpariaeth fewnol neu allanol, a
dywedwyd wrth yr aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt diddordeb a
thrafodaethau gydag awdurdodau eraill Gogledd
Cymru. Ni fyddai ymgynghoriad cyhoeddus ar yr
opsiynau. Trafododd yr aelodau hefyd
ymgyrch addysgu a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd a’r posibilrwydd o
ailgyflwyno’r arwyddion triongl mewn mannau lle mae baw cŵn yn broblem
fawr, gyda chyfleoedd yn y dyfodol i weithio gyda gwasanaethau addysg mewn
ysgolion. Cytunodd yr aelodau
i ystyried yr opsiynau hyn a hefyd i gysylltu â’r Heddlu o ran y posibilrwydd
iddyn nhw gymryd camau gorfodi yn y cyfamser. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) Nodi’r opsiynau yn yr adroddiad ar gyfer camau gorfodi mewn perthynas â throseddau
amgylcheddol ac awdurdodi swyddogion i symud ymlaen â dewis 3 gyda chydweithwyr
yn yr adran gaffael er mwyn caffael darparwr gwasanaeth allanol; (b) Cytuno y dylai’r Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd gytuno ar gynnwys
manyleb derfynol ar gyfer darpariaeth
gwasanaeth gorfodaeth amgylcheddol ar ôl ystyried y fanyleb ddrafft gan y
Pwyllgor Craffu, a (c) swyddogion i barhau i archwilio’r cyfle i gydweithio yn rhanbarthol neu’n isranbarthol a rhoi gwybod i'r Pwyllgor Craffu am gynnydd ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
DARPARU SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai,
Rheoleiddio a’r Amgylchedd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â chynigion ar gyfer lleoliadau
safleoedd preswyl a safleoedd tramwy i Sipsiwn a Theithwyr, ynghyd â materion
cysylltiedig o ran cynllunio, ariannu a chyfathrebu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyn cynllunio a cheisiadau cynllunio llawn
dilynol (gan ystyried canlyniadau’r ymarfer cyn cynllunio) ar gyfer safleoedd
preswyl a theithiol Sipsiwn a Theithwyr ar y safle 'Green-gates Farm East' yn y
lleoliadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a (b) chymeradwyo cyflwyno ceisiadau cyllid i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â
chynigion ar gyfer safleoedd preswyl a/neu Sipsiwn a Theithwyr yn amodol ar roi
caniatâd cynllunio yn unol â’r rhaglen a amlinellwyd ym mharagraff 4.11 yr
adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas adroddiad cyfrinachol am gynigion ar
gyfer lleoliad safleoedd sipsiwn a theithwyr preswyl a thramwy i ddiwallu
dyletswyddau statudol ynghyd â’r cynllunio, yr ariannu a’r materion cyfathrebu
cysylltiedig. Roedd
yn ofynnol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru gynnal Asesiad o Lety Sipsiwn a
Theithwyr a gwneud darpariaeth os daw’r angen i wneud hynny i’r amlwg. Yn sgil yr asesiad nodwyd bod angen un safle
preswyl parhaol ac un safle tramwy ac mae'r asesiad yn cynnwys gwybodaeth am
drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r posibilrwydd o gael
safleoedd preswyl a thramwy agos at ei gilydd, gan nodi opsiynau i’w hystyried
wrth symud ymlaen. Cynigiwyd
lleoli’r ddau safle yn Fferm Green-gates East ger Llanelwy ac i ymgynghori ar y
cynnig hwnnw a chyflwyno ceisiadau ariannu i Lywodraeth Cymru er mwyn
datblygu’r cyfleusterau arfaethedig yn amodol ar ganiatâd cynllunio. Roedd
y Cabinet yn cydnabod y cyfrifoldebau statudol o ran diwallu’r anghenion a
ddynodwyd ac a gydnabyddir yn y gwaith cynhwysfawr a wnaed hyd yma. Wedi ystyried hyfywedd y
safleoedd a ddynodwyd, cefnogodd y Cabinet y cynnig bod y ddau safle’n cael eu
lleoli yn Green-gates Farm East ac argymhellwyd camau ar gyfer diwallu’r
amserlen ar gyfer gwneud cais am arian grant gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod llythyr y Gweinidog
(gweler yr atodiad i’r adroddiad) yn darparu peth sicrwydd o ran cyllid ar
gyfer y dyfodol. Ymatebodd
y Swyddogion i nifer o faterion a gododd y Cynghorydd Peter Scott ynghylch
asesiadau hyfywedd safleoedd penodol a pham yr ystyriwyd bod Fferm Green-gates
yn fwy addas na’r safleoedd eraill. Gofynnodd y Cynghorydd Scott
hefyd am sicrwydd y byddai ymgynghori cyhoeddus trylwyr yn digwydd a
chadarnhaodd swyddogion y byddai’r broses ymgynghori cyn-cynllunio statudol yn
berthnasol. PENDERFYNWYD – bod y Cabinet yn (a) cymeradwyo cynnal ymgynghoriad cyn-cynllunio a cheisiadau cynllunio llawn
dilynol (gan ystyried canlyniadau’r ymarfer cyn-cynllunio) ar gyfer safleoedd
Sipsiwn a Theithwyr preswyl a thramwy ar y safle 'Green-gates Farm East' yn y
lleoliadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a (b) cymeradwyo cyflwyno ceisiadau cyllid i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â
chynigion ar gyfer safleoedd preswyl a/neu Sipsiwn a Theithwyr yn amodol ar roi
caniatâd cynllunio yn unol â’r rhaglen a amlinellwyd ym mharagraff 4.11 yr
adroddiad. Pleidleisiodd Cynghorydd
Richard Mainon yn erbyn y penderfyniad uchod. |
|
CASTELL BODELWYDDAN, BODELWYDDAN
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet o delerau gwerthu’r buddiant rhydd-ddaliadol yng
Ngwesty Castell Bodelwyddan a rhan o’r ystâd, yn unol â’r manylion yn yr
adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) dylai’r Cyngor werthu’r cysylltiad rhydd-ddaliad yng Ngwesty Castell Bodelwyddan
ar y telerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad; (b) dylai’r Cyngor werthu’r cysylltiad rhydd-ddaliad yn eiddo Ymddiriedolaeth
Castell Bodelwyddan, (ac eithrio tir ar osod ar denantiaeth amaethyddol, y
Porthdy a thir ar gyfer mynediad cyhoeddus) ar y telerau a nodwyd yn Atodiad 1
yr adroddiad; (c) bod y Cyngor yn cadw’r maes parcio gwair-goncrid, yr ardal chwarae a’r
Ffosydd Rhyfel ynghyd â phrydles 125 mlynedd y coetir. Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu cynnal gan y
Gwasanaethau Cefn Gwlad gyda mynediad cyhoeddus; (d) bydd tir sydd ar hyn o bryd yn destun tenantiaeth amaethyddol yn cael ei
gadw fel rhan o ddaliadaeth tir amaethyddol corfforaethol y Cyngor, a (e) bydd y porthdy bychan ar derfyn dwyreiniol y stad yn cael ei gadw gan y
Cyngor nes ceir adolygiad o'i ddefnydd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn gofyn
bod telerau gwerthu’r buddiant rhydd-ddaliadol yng Ngwesty Castell Bodelwyddan
a rhan o’r ystâd ond gan gadw ardaloedd eraill ar gyfer mynediad cyhoeddus, yn
cael eu cymeradwyo. Rhoddodd y
Cabinet awdurdod i swyddogion gychwyn trafodaethau ar werthiant Castell
Bodelwyddan ym mis Gorffennaf 2017 ac roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb
o’r telerau dros dro y cytunwyd arnynt gyda'r prynwr. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cynigion
ar gyfer cadw rhan o’r ystâd gyda’r bwriad o wella a datblygu mynediad
cyhoeddus i’r ardaloedd hynny ac i gadw tir a oedd yn destun tenantiaeth
amaethyddol, a’r porthdy. Roedd manylion y goblygiadau ariannol wedi eu
nodi yn yr adroddiad ac atebodd yr Aelod Arweiniol a’r Rheolwr Prisio ac
Ystadau gwestiynau am y goblygiadau ariannol hynny; effaith y telerau gwerthu
arfaethedig ar bob parti cysylltiedig â’r canlyniadau posib, a rheolaeth yr
ardaloedd sydd i'w cadw gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad yn amodol ar achos busnes
i’r Grŵp Buddsoddi Strategol. Cytunodd yr aelodau hefyd i geisio
darganfod a allai’r cynigion arwain at adfachu arian grant ar gyfer
ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf. PENDERFYNWYD – (a) Bod y Cyngor yn gwerthu’r buddiant rhydd-ddaliadol yng Ngwesty Castell
Bodelwyddan am £1.2 miliwn ar y telerau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad; (b) Bod y Cyngor yn gwerthu’r buddiant rhydd-ddaliadol yn eiddo Ymddiriedolaeth
Castell Bodelwyddan (ac eithrio tir ar osod ar denantiaeth amaethyddol, y
Porthdy a thir ar gyfer mynediad cyhoeddus) am £500,000 ar delerau a nodwyd yn
Atodiad 1 yr adroddiad; (c) Bod y Cyngor yn cadw'r maes parcio a’r tir parc presennol, y lle chwarae
a'r ffosydd Rhyfel Byd Cyntaf, ynghyd â phrydles 125 mlynedd ar gyfer y
coetir. Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu rhedeg gan y
Gwasanaethau Cefn Gwlad gyda mynediad cyhoeddus; (d) bydd tir sydd ar hyn o bryd yn destun tenantiaeth amaethyddol yn cael ei
gadw fel rhan o ddaliadaeth tir amaethyddol corfforaethol y Cyngor, a (e) Bydd y porthdy bychan ar derfyn dwyreiniol y stad yn cael ei gadw gan y
Cyngor hyd nes y gwneir adolygiad o'i
ddefnydd. |
|
TIR YN NHIRIONFA, FFORDD GALLT MELYD, RHUDDLAN Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio
cymeradwyaeth i ddiwygio telerau penderfyniad blaenorol y Cabinet ynglŷn â
gwerthu’r safle. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) diwygio cyfran canrannol y dderbynneb cyfalaf gros a gafwyd gan y Cyngor
fel a nodwyd yn yr adroddiad gan adlewyrchu’r tir glas sy’n cael ei werthu gan
ein cyd-werthwr yn rhydd o unrhyw gyfyngiadau gan y Cyngor; (b) caniatáu ar gyfer cost ychwanegol darparu’r tai fforddiadwy ar y safle
oherwydd yr ansicrwydd i’r dyfodol ynglŷn â’r grant tai cymdeithasol i
gynorthwyo eu darparu, lleihad yng nghyfran canrannol y Cyngor yn amodol ar
gwblhau cytundeb gorswm gyda’r prynwr yn y gwaith papur gwerthu fel a nodwyd yn
yr adroddiad; (c) mae’r cynnig a gafwyd gan y prynwr arfaethedig wedi’i leihau trwy gytundeb
i adlewyrchu presenoldeb costau datblygu annormal ar gyfer mynediad priffyrdd,
draenio dŵr storm, amodau tir a mannau agored cyhoeddus ar y safle, a (d) nodi, oherwydd cymhlethdod y gwerthiant, bod angen amryw o ddogfennau ac er
y bydd y Cyngor yn rhyddhau’r cyfamod ar y tir coch yn y pen draw ac y bydd y
cydwerthwr/prynwr yn galluogi’r Cyngor i sicrhau hawl tramwy dros dir y
cydwerthwr, sy’n debygol o fod y tir coch, ond efallai y tir gwyrdd, ac
ymdrinnir â’r rhain mewn dogfennau ar wahân ac nid yn y Cytundeb Rhannu Tir. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth
i ddiwygio telerau cymeradwyaeth blaenorol y Cabinet perthnasol i werthiant y
safle. Roedd
yr adroddiad yn rhoi manylion am y newidiadau hynny i’r gwerthiant nad oeddent
wedi’u cynnwys yng nghymeradwyaeth blaenorol y Cabinet ym mis Ionawr 2017,
ynghyd â’r
rhesymau y tu ôl i’r newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn symud ymlaen â’r gwerthiant. Codwyd cwestiynau ynglŷn â nifer y
consesiynau a wnaed a gofynnwyd am sicrwydd fod y telerau newydd hyn yn
cynrychioli’r opsiwn gorau i’r Cyngor ar gyfer datblygu. Cadarnhawyd bod y telerau
newydd wedi deillio o drafodaethau cymhleth ac estynedig ac yr ystyrir mai’r
rhain yw'r opsiynau gorau er mwyn sicrhau’r gwerth a’r manteision gorau i’r
naill ochr a’r llall. Atebodd
Swyddogion hefyd gwestiynau gan aelodau lleol, y Cynghorwyr Ann Davies ac Arwel
Roberts, yn ymwneud ag elfennau o'r datblygiad arfaethedig - rhai ohonynt y
byddai angen rhoi sylw iddynt yn ystod y cam cais cynllunio. PENDERFYNWYD – bod y Cabinet yn (a) diwygio siâr ganrannol y derbyniad cyfalaf
gros a gafwyd gan y Cyngor fel y nodir yn yr adroddiad, gan adlewyrchu’r tir
glas sy’n cael ei werthu gan ein cyd-werthwr yn rhydd o unrhyw gyfyngiadau gan
y Cyngor; (b)
caniatáu ar gyfer cost ychwanegol darparu’r tai fforddiadwy ar y safle yng
ngoleuni’r ansicrwydd sydd ar hyn o bryd ynglŷn â grant tai cymdeithasol i
gynorthwyo â’u darpariaeth, gostyngiad
yn siâr ganrannol y Cyngor o’r derbyniad yn amodol ar gwblhau cytundeb gorswm
gyda’r prynwr yn y gwaith papur gwerthu, fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad; (c) mae’r cynnig a gafwyd gan y prynwr arfaethedig wedi’i leihau trwy gytundeb
i adlewyrchu presenoldeb costau datblygu annormal ar gyfer mynediad priffyrdd,
draenio dŵr storm, amodau tir a mannau agored cyhoeddus ar y safle, a (d)
nodi, oherwydd cymhlethdod y gwerthiant, bod angen amryw o ddogfennau ac er y
bydd y Cyngor yn rhyddhau’r cyfamod ar y tir coch yn y pen draw ac y bydd y
cyd-werthwr/prynwr yn galluogi’r Cyngor i sicrhau hawl tramwy dros dir y
cyd-werthwr, sy’n debygol o fod y tir coch, ond efallai'r tir gwyrdd, ymdrinnir
â’r rhain mewn dogfennau ar wahân ac nid yn y Cytundeb Rhannu Tir. Daeth y cyfarfod i ben am 1.30pm. |