Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nicola Stubbins,
Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau Cofnodion: Nicola Stubbins,
Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd y Cynghorwyr Meirick Davies, Huw
Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Arwel Roberts, Glenn Swingler, Rhys Thomas,
Tony Thomas, Julian Thompson-Hill Emrys Wynne a Mark Young gysylltiad personol
ag eitem 6 - Darpariaeth Band B- Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif. Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Cyflawni Rhaglen
Ysgolion yr 21ain ganrif Band B Y Cynghorydd
Meirick Davies - Llywodraethwr Ysgol Cefn Meiriadog ac Ysgol Trefnant Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – Llywodraethwr Ysgol Brynhyfryd a Pen Barras/Rhiant Y Cynghorydd
Martyn Holland - Llywodraethwr Ysgol Bro Famau Y Cynghorydd
Arwel Roberts – Llywodraethwr Ysgol y Castell ac Ysgol Dewi Sant Y Cynghorydd
Glenn Swingler – Llywodraethwr Ysgol Pendref Y Cynghorydd Rhys
Thomas – Llywodraethwr Ysgol Twm o’r Nant ac Ysgol Frongoch Y Cynghorydd Tony
Thomas – Llywodraethwr Ysgol Brynhedydd/Plentyn yn Ysgol y Santes Ffraid Y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill - Llywodraethwr Ysgol Clawdd Offa Y Cynghorydd
Emrys Wynne – Llywodraethwr Ysgol Borthyn Y Cynghorydd Mark
Young – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Dinbych Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies hefyd fudd personol yn eitem 9 yn y
rhaglen sef Cyllideb 2018/19 – Cynigion Terfynol oherwydd ei fod yn Gadeirydd
yr Awdurdod Tân ac Achub. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2017 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir ac y
dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir ac y
dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
CYNNIG I SEFYDLU GRŴP CYNLLUNIO STRATEGOL PDF 303 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Theithio
Cynaliadwy (copi’n amgaeedig) yn amlinellu’r cynigion ar gyfer sefydlu
Grŵp Cynllunio Strategol i arwain ar ddatblygiad disodliad Cynllun
Datblygu Lleol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo sefydlu’r grŵp, y cylch gorchwyl ac aelodaeth y Grŵp Cynllunio
Strategol fel y nodir yn Atodiad 1, yn amodol ar gynnwys y canlynol yn y cylch
gorchwyl (1) cyfeiriad cliriach at y ffaith na fydd cyfarfodydd y grŵp yn
agored i bob aelod etholedig eu mynychu, a (2) eglurhad pellach ynghylch y
broses ar gyfer paratoi’r Adroddiad Monitro Blynyddol. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad yn amlinellu'r cynigion i ddisodli’r
Grŵp Llywio Cynllun Datblygu Lleol gyda Grŵp Cynllunio Strategol gyda
mwy o ffocws i arwain ar ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd. Byddai’r
Grŵp newydd yn darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd corfforaethol i symud
y Cynllun Datblygu Lleol newydd yn ei flaen i’r broses fabwysiadu ffurfiol ac i
ganolbwyntio ar weithredu strategaeth a pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol.
Roedd y cylch gorchwyl drafft yn amlinellu rôl a diben y Grŵp a’i aelodau
ynghlwm â’r adroddiad hwn. Nododd
y Cabinet y cynigion ar gyfer Grŵp llai, fyddai â mwy o ffocws, a
cheisiodd sicrwydd y byddai cyfleoedd yn cael eu darparu i’r holl aelodau gael
mewnbwn yn y broses newydd. Cadarnhaodd
swyddogion fod y cylch gorchwyl drafft yn darparu ar gyfer un cynrychiolydd a
dirprwy gynrychiolydd o bob un o'r Grwpiau Ardal Aelodau a chyfrifoldeb yr
aelod hwnnw fyddai adrodd yn ôl a darparu mewnbwn o’u Grwpiau Ardal Aelod
unigol a grwpiau gwleidyddol. Hefyd
byddai'r holl waith papur perthnasol yn ymwneud â chyfarfodydd y Grŵp ar
gael i’r holl gynghorwyr a byddai gweithdai/sesiynau briffio yn cael eu cynnal
bob chwe mis i sicrhau cyfranogiad parhaus yr holl aelodau. Byddai adroddiadau diweddaru yn cael eu cynnwys ar
raglenni’r Grŵp Ardal Aelodau yn ôl yr angen a byddai cyfnodau allweddol o
ran datblygiad yn cael eu hadrodd i’r Cabinet a/neu’r Cyngor. Wrth ymateb i gwestiynau atebodd yr Aelod Arweiniol
a’r Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai y cwestiynau fel a ganlyn – ·
cadarnhawyd na fyddai
cyfarfodydd y Grŵp newydd ar agor i’r holl aelodau eu mynychu a chytunwyd
i wneud hyn yn fwy eglur yn y cylch gorchwyl ·
pwysleisiwyd na fyddai’r
cyfarfodydd ar agor i’r cyhoedd ·
cydnabuwyd gwaith caled y
Grŵp Llywio CDLl a chadarnhawyd y byddai’r rhagolygon poblogaeth ac
aelwydydd diwygiedig yn sail i'r CDLl newydd ·
eglurwyd y gofyniad statudol i
ddarparu Adroddiad Monitro Blynyddol i Lywodraeth Cymru a rôl y Grŵp
newydd mewn goruchwylio paratoi'r adroddiad hwnnw; cytunwyd i roi eglurhad
pellach ar y broses honno yn y cylch gorchwyl ·
ailategwyd y bwriad i sicrhau
un cynrychiolydd ac un dirprwy gynrychiolydd o bob Grŵp Ardal Aelodau gan
gofio ei fod yn Grŵp newydd a oedd angen llai o aelodau na'r Grŵp
Llywio blaenorol. Pwysleisiodd
y Cabinet ei bod yn bwysig fod
cynrychiolwyr y Grwpiau Ardal Aelodau yn ymgysylltu’n rhagweithiol
gyda'u Grŵp Ardal Aelodau perthnasol i roi adborth a darparu mewnbwn
pellach i'r broses. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo sefydlu’r grŵp, y Cylch Gorchwyl drafft ac
aelodaeth y Grŵp Cynllunio Strategol fel y nodir yn Atodiad 1, yn amodol
ar gynnwys y canlynol yn y cylch gorchwyl (1) cyfeiriad cliriach at y ffaith na
fyddai cyfarfodydd y grŵp yn agored i bob aelod etholedig eu mynychu, ac
(2) eglurhad pellach ynghylch y broses ar gyfer paratoi’r Adroddiad Monitro
Blynyddol. |
|
DARPARIAETH BAND B - RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF PDF 283 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant
a Phobl Ifanc (copi’n amgaeedig) ar gynnydd o ran Band B a’r Rhaglen Addysg
Ysgolion yr 21ain Ganrif a goblygiadau’r ddarpariaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cadarnhau ei ymrwymiad i
ddarparu cynigion Band B yn unol â’r Rhaglen Amlinellol Strategol, fel y’u
cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, er mwyn cwrdd â’r flaenoriaeth a nodir yng
Nghynllun Corfforaethol 2017-2022; (b) cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1) fel
rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad yn cynghori’r Cabinet
ynglŷn â chymeradwyo cyflwyno rhaglen Band B ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr
21ain Ganrif ac Addysg a goblygiadau cyflawni. Roedd
y Cyngor wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran cyflawni’r cynigion Band A mewn
partneriaeth â Llywodraeth Cymru a gyda’i gilydd fe fyddent wedi buddsoddi dros
£90m erbyn 2019 i gyflawni prosiectau allweddol. Fis
Gorffennaf 2017, cymeradwyodd y Cabinet gyflwyno cynigion Band B gwerth £80.5m
i Lywodraeth Cymru fel rhan o gam nesaf y buddsoddiad. Roedd
Llywodraeth Cymru ers hynny wedi cymeradwyo’r buddsoddiad mewn egwyddor yn
ddibynnol ar gymeradwyo achosion busnes prosiectau unigol. Yn dilyn hynny gofynnwyd i’r Cabinet
gadarnhau ymrwymiad ariannol y Cyngor i gyflawni cynigion Band B yn unol â'r
Cynllun Corfforaethol. £32.8m fyddai cyfraniad Sir
Ddinbych a tua £1.8m fyddai’r gyllideb refeniw fyddai ei hangen i ariannu'r
benthyca i gefnogi'r rhaglen dros saith mlynedd y rhaglen. Nid
oedd unrhyw fanylion wedi ei ddarparu yn nhermau cynigion unigol a fyddai'n
ddibynnol ar achosion busnes unigol yn cael eu hystyried gan y Grŵp
Buddsoddiad Strategol a'r Cabinet. Croesawodd
y Cabinet yr adroddiad a buddsoddiad yng ngwaith adeiladu ysgolion er budd
plant a phobl ifanc ac roedd yr Arweinydd yn awyddus i barhau â buddsoddiad a
chynnydd y Cyngor blaenorol a manteisio ar unrhyw gyllid fyddai ar gael gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer y diben hwnnw. Pwysleisiodd
y Cynghorydd Mark Young yr angen i sicrhau proses agored ar gyfer cymunedau a
rhoddodd yr Aelod Arweiniol sicrwydd o ran y gwersi sydd wedi eu dysgu o
adolygiadau blaenorol a fyddai’n cael eu hadlewyrchu ym mhrosesau'r dyfodol. Ymatebodd
yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant i gwestiynau gan
aelodau nad ydynt yn aelodau o'r Cabinet fel a ganlyn - ·
roedd y Rhaglen Amlinellol
Strategol wedi ei chyflwyno cyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag arian
ychwanegol yn benodol ar gyfer addysg Cyfrwng Cymraeg. ·
Ond atgoffwyd aelodau fod tua
£30m wedi ei fuddsoddi mewn cynyddu a gwella cyfleusterau ar gyfer addysg
Cyfrwng Cymraeg yn rhan Band A o’r cyllid a rhoddwyd sicrwydd pellach y byddai
unrhyw gynlluniau fyddai’n mynd ymlaen i Fand B yn canolbwyntio ar barhau i
gryfhau a chynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer addysg Cyfrwng Cymraeg.Roedd swyddogion yn awyddus i sicrhau fod aelodau’n cael eu hysbysu
ynglŷn ag unrhyw gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru a allai ychwanegu neu
alluogi cynlluniau i symud ymlaen i fuddsoddi yn ystâd yr ysgol yn gyffredinol.
Roedd swyddogion yn ymrwymedig i sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw ddiffygion mewn
darpariaeth addysgol ar draws yr holl ysgolion yn Sir Ddinbych a thrafodwyd y
ddarpariaeth ar gyfer Dysgwyr ag Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig yn ystod
datblygiad y Cynllun Amlinellol Strategol; byddai'r drafodaeth yn parhau wrth i
gynlluniau mwy manwl gael eu datblygu. ·
unwaith roedd y Cabinet wedi
cadarnhau ei ymrwymiad ariannol byddai’n bosibl mynd i'r afael â thrafodaethau
helaeth yn ymwneud ag unrhyw gynigion dilynol fyddai'n cael eu cyflwyno yn unol
â'r broses ddemocrataidd a glynu at bolisïau a gweithdrefnau’r Cod Trefniadaeth
Ysgol ·
hefyd rhoddwyd sicrwydd fod
swyddogion yn gweithio’n agos gyda thimau dylunio o ran yr effeithiau ar yr
amgylchedd gan gydnabod yr ymrwymiad i sicrhau fod gofynion amgylcheddol yn
cael eu hateb cymaint â phosibl o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar
gyfer prosiectau penodol. PENDERFYNWYD - bod y Cabinet
yn:- (a) cadarnhau ei
ymrwymiad ariannol i gyflawni cynigion Band B yn unol â’r Rhaglen Amlinellol
Strategol fel a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i’w alluogi i gwrdd â'r
flaenoriaeth a gynhwysir o fewn y Cynllun Corfforaethol 2017 – 2022, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2018/19 PDF 231 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i godi rhent blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo'r Cyfrif
Refeniw Tai a Chyllidebau Cyfalaf ar gyfer 2018/19 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai
ar gyfer 2018/19 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai
(Atodiad 2 i’r adroddiad); (b) cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol
â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd fis Ebrill
2015 i rent wythnosol cyfartalog o £87.63 o ddydd Llun 2 Ebrill 2018 ymlaen. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet
ar gyfer y cynnydd rhent blynyddol i dai yn Sir Ddinbych, Cyfalaf y Cyfrif
Refeniw Tai a Chyllidebau Refeniw ar gyfer 2018/19 a’r Cynllun Busnes Stoc Tai. Cafodd aelodau eu
harwain drwy ffigyrau’r gyllideb gan y Cynghorydd Thompson-Hill a hefyd drwy'r
rhagdybiaethau lefelau incwm a gyfrifwyd drwy ystyried Polisi Rhenti
Llywodraeth Cymru ar gyfer rhenti tai cymdeithasol a mecanwaith ar gyfer
cynyddu rhenti. Roedd yr adolygiad
blynyddol o Gynllun Busnes y Stoc Dai yn dangos ei fod yn parhau’n gadarn ac yn
hyfyw yn ariannol gydag adnoddau digonol i gefnogi rheoli a goruchwylio’r
gwasanaeth tai ac anghenion y stoc o ran buddsoddiad. Roedd y Cabinet
yn falch o nodi'r raddfa uchel o ran bodlonrwydd gan denantiaid a bod Sir
Ddinbych yn cymharu’n ffafriol gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai
eraill mewn perthynas â rhenti tai.
Nodwyd hefyd fod gan Sir Ddinbych ôl- ddyledion rhenti tai sy’n gyson
isel mewn cymhariaeth â Chymru a'r DU. Ond cydnabuwyd fod Credyd Cynhwysol yn
risg oedd yn cael ei reoli yn dda o fewn Sir Ddinbych gyda niferoedd isel o
ôl-ddyledion rhent ar hyn o bryd. Roedd Aelodau hefyd yn falch o nodi fod
rhaglen o 170 o gartrefi newydd wedi eu hymgorffori o fewn y Cynllun Busnes
Stoc Tai ac atebodd yr Aelod Arweiniol - Tai Cymunedol gwestiynau'n ymwneud â
chynnydd gyda'r rhaglen benodol honno a hefyd cadarnhaodd fod ffynonellau
cynhesu gwahanol i nwy hylifol mewn ardaloedd gwledig yn cael eu
harchwilio. Ni ymdriniwyd â modurdai yn
yr adroddiad gan nad ydynt yn ddarostyngedig i Bolisi Rhent Llywodraeth Cymru a
byddai'r ffioedd a'r defnydd o safleoedd modurdai yn cael eu hadolygu gan y
Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai. Er
hynny mynegodd y Cynghorydd Bobby Feeley bryder yn ymwneud â’r amser y mae wedi
ei gymryd i gwblhau’r adolygiad o safleoedd modurdai a chytunwyd i dderbyn
adroddiad yn ôl ar ymagwedd y Cyngor o ran modurdai yn dilyn cwblhau'r
adolygiad mewn tua chwe mis. PENDERFYNWYD – (a) mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a
Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r adroddiad), a (b) cynyddu rhenti
anheddau’r Cyngor yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a
gyflwynwyd fis Ebrill 2015 i rent wythnosol cyfartalog o £87.63 o ddydd Llun 2
Ebrill 2018 ymlaen. |
|
ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 233 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar
gyfer prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, sydd i'w cynnwys yng
Nghynllun Cyfalaf 2018/19, yn cael eu cefnogi, ynghyd ag eitem o Atodiad 2 sy’n
ymwneud â chyfyngiad cyflymder o 40mya ar Fwlch yr Oernant os yw’r cais am
grant yn aflwyddiannus, a’u hargymell i'r Cyngor llawn. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet
i brosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2018/19 fel yr
argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (GBS) ac fel y nodwyd yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. Arweiniodd y Cynghorydd Thompson-Hill yr aelodau
drwy’r adroddiad ac ymhelaethodd ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer dyraniadau
bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus. Cyfeiriwyd at waith y GBS wrth adolygu’r cynigion
am ddyraniadau a darparwyd crynodeb o’u hargymhellion ac fe ymhelaethwyd arnynt
ymhellach yn y cyfarfod. Roedd cynigion penodol lle roedd y GBS wedi argymell peidio â dyrannu
cyllid, neu ddyrannu llai o gyllid ar eu cyfer, wedi eu nodi yn Atodiad 2 i'r
adroddiad. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at
sylwadau a dderbyniwyd gan aelodau yn ymwneud â’r cynnig am gyfyngiad cyflymder
40 milltir yr awr ym Mwlch yr Oernant, gyda safbwynt y GBS nad oedd ffynonellau
ariannol eraill wedi eu harchwilio’n llawn. Byddai cais am arian grant yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ond os
yn aflwyddiannus byddai diwygiad i'r argymhelliad i gynnwys bod dyraniad cyllid
ar gyfer ei gynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2018/19 yn cael ei wneud. Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y
cwestiynau fel a ganlyn – ·
Bloc
Priffyrdd C07 – roedd cyllid ar gyfer materion yn ymwneud â’r priffyrdd wedi ei
gynnwys o fewn y dyraniad bloc cyfan a byddai’r Pennaeth Gwasanaeth yn
penderfynu ar y defnydd mwyaf priodol o’r dyraniad hwnnw. ·
Roedd
yr elfen fenthyciad i ganiatáu parhau gyda rhaglen y lanternau stryd newydd yn
cael ei drin ar wahân. ·
C06
Gwaith Traffig – Astudiaeth Dichonoldeb Parcio Bysiau – roedd yr elfen hon o’r
cais yn ymwneud ag astudiaeth ddichonoldeb ar draws nifer o feysydd ond nid oedd
wedi ei gefnogi o ganlyniad i fforddiadwyedd gyda ffynonellau cyllid eraill i
gael eu harchwilio ·
PENDERFYNWYD bod y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r
adroddiad, sydd i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2018/19, yn cael eu cefnogi,
ynghyd ag eitem o Atodiad 2 sy’n ymwneud â chyfyngiad cyflymder o 40mya ar
Fwlch yr Oernant, os yw’r cais grant am gyllid yn aflwyddiannus, a’u hargymell
i'r Cyngor llawn. |
|
CYLLIDEB 2018/19 – CYNIGION TERFYNOL PDF 302 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn nodi goblygiadau Setliad
Drafft Llywodraeth Leol 2018/19 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer
2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) nodi effaith Setliad
Llywodraeth Leol 2018/19; (b) cefnogi'r cynigion a
amlinellir yn Atodiad 1, sy’n cyd-fynd â’r rhagdybiaethau a gyflwynwyd i
aelodau yn ystod y sesiynau briffio a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2017, a chan
hynny'n eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn pennu cyllideb derfynol 2018/19; (c) argymell i’r Cyngor mai’r
cynnydd cyfartalog sydd ei angen i Dreth y Cyngor er mwyn cefnogi’r gyllideb yw
4.75%, sy’n cydnabod y pwysau ariannol cynyddol ar wasanaethau gofal
cymdeithasol plant ac oedolion drwy ddarparu cyllid ychwanegol o £1.5 miliwn. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau
Setliad Llywodraeth Leol 2018/19 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol
2018/19, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor. Darparodd y
Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y
gyllideb ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r
cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2018/19. Roedd y setliad
terfynol wedi arwain at ostyngiad ariannol o -0.2% (roedd setliad dros dro wedi
dangos -0.9%) ond er mwyn i’r sefyllfa ariannu aros yn niwtral byddai angen i’r
setliad fod o leiaf +3.6%. Er nad oedd y
gostyngiad mor ddrwg â'r hyn a ofnwyd i ddechrau, roedd angen ystyried
ffactorau eraill, fel pwysau cyflogau, pensiwn a'r Cyflog Byw Cenedlaethol, yn
ogystal â chwyddiant prisiau/ynni, lefi'r gwasanaeth tân a lle ar gyfer cynnydd
yn y Cynllun Gostyngiadau i Dreth y Cyngor. Roedd pwysau’n parhau ar draws yr
awdurdod gyda galw cynyddol am ariannu addysg a gofal cymdeithasol – roedd y
gyllideb arfaethedig yn cynnwys cynnydd o £1.8m (2.7%) mewn cyllidebau ar gyfer
ysgolion a dyraniad ychwanegol o £1.5m (3.2%) i ofal cymdeithasol. Roedd
arbedion wedi eu canfod ar draws y Cyngor i gynorthwyo i ddarparu cyllideb
gytbwys. O ran Treth y Cyngor cynigiwyd
cynnydd o 4.75% oedd yn cynnwys dyraniad ychwanegol o 2% i ariannu pwysau gofal
cymdeithasol gwerth £1.5m. Trafododd y
Cabinet y cynigion yn ymwneud â’r gyllideb, gan gydnabod y gostyngiad oedd yn
parhau yn nyraniad cyllideb Sir Ddinbych a'r goblygiadau i wasanaethau o
ganlyniad i hynny, a hefyd cydnabod fod yr hinsawdd ariannol yn parhau'n her
i'r dyfodol a fyddai'n arwain at fwy o benderfyniadau anodd. Tra’n croesawu’r cynnydd arfaethedig i’r
gyllideb gofal cymdeithasol, pwysleisiodd y Cynghorydd Bobby Feeley ei
phryderon yn ymwneud ag ariannu ar gyfer y blynyddoedd i ddod o ystyried y galw
cynyddol parhaus a’r pwysau sydd wedi eu nodi ar gyfer y dyfodol. Hefyd
pwysleisiodd yr angen i sicrhau fod preswylwyr yn dod yn ymwybodol o’r cynnydd
penodol yn Nhreth y Cyngor i ariannu'r pwysau presennol o ran gofal
cymdeithasol. Cytunodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, gan ychwanegu fod yna
gysyniad fod Treth y Cyngor yn cyfrif am y rhan fwyaf o gyllideb y Cyngor,
elfen yr oedd angen ymdrin â hi hefyd. Credai fod y gyllideb arfaethedig yn
deg, yn ddealladwy ac yn ddoeth ac y dylai roi hyder i'r preswylwyr gyda gofal
cymdeithasol, addysg a gwasanaethau plant yn cael eu hamddiffyn. Yng ngoleuni pwysau parhaus a gostyngiad mewn
setliadau yn y dyfodol, roedd aelodau hefyd yn awyddus i ddechrau proses y gyllideb
ar gyfer y blynyddoedd i ddod mor fuan â phosibl. Roedd
trafodaethau pellach ar gynigion y gyllideb yn canolbwyntio ar y canlynol - ·
roedd
gwaith yn parhau i reoli costau ynni a chadw cynnydd mor isel â phosibl; mae
lleihau'r cyfanswm o ynni sy’n cael ei ddefnyddio yn fater allweddol yn y
Cynllun Corfforaethol ac mae Prosbectws Ynni yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ·
talwyd
teyrnged i waith Archaeolegydd y Sir sy’n ymddeol a thrafodwyd goblygiadau
dileu’r swydd honno. ·
Nodwyd
y gallai fod rhaid cael cyngor arbenigol o du allan i'r awdurdod yn y dyfodol ·
y
rhesymu y tu ôl i ddiddymu cynllun grant datblygu'r busnesau bach er mwyn cael
arbediad o 50% a hefyd ymhelaethwyd ar fuddsoddi mewn system wella busnes sydd
â mwy o ffocws ·
roedd
gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion ac Adnoddau Dynol i sicrhau fod
cytundebau i staff yn addas a bod modd eu haddasu o fewn ysgolion i alluogi i
gytundebau gael eu newid yn unol â newid mewn anghenion. · roedd y Cyngor yn dal i gefnogi ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol a
gytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2018/19 a'r cynnydd a
wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol a chytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr
adroddiad yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd o ran
strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn- ·
amcanwyd
y byddai cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol yn adennill costau o ganlyniad
i ddefnyddio cynlluniau corfforaethol wrth gefn ·
arbedion
effeithlonrwydd gwasanaeth gwerth £0.902m oedd eisoes wedi eu cytuno fel rhan o’r
gyllideb gyda'r dybiaeth y byddai'r cyfan yn cael ei gyflawni – byddai’r
Cabinet yn cael eu hysbysu ynglŷn ag unrhyw eithriadau os oedd angen ·
pwysleisiwyd
y risgiau ac amrywiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a ·
darparwyd
diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Cynllun Cyfalaf Tai a’r
Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol). Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn awyddus i
ailategu y byddai yna bwysau o hyd ar gyllidebau gofal cymdeithasol, hyd yn oed
gyda dyraniad y cyllid ychwanegol arfaethedig i Wasanaethau Cefnogi Cymunedol,
a nododd y Cabinet y byddai'r sefyllfa'n cael ei monitro'n ofalus. O ran y tywydd garw a’r effaith ar gyllid
cyfeiriodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill at y gronfa wrth gefn ar gyfer
cynnal yn ystod y gaeaf er mwyn cynorthwyo’r amrywiaeth mewn gwariant, a doedd
dim materion penodol ar hyn o bryd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar
gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni. . |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 276 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/
diwygiadau canlynol - ·
Rhanbarthau Gwella Busnes – wedi eu haildrefnu o Fai i
Fawrth 2018 ·
Canolfan Ddydd Hafan Deg Y Rhyl – wedi ei hychwanegu at y
rhaglen waith ar gyfer Ebrill 2018 ·
Adolygiad Cartref Gofal – i’w ychwanegu i’r rhaglen
waith, dyddiad i'w gadarnhau PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar
y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i
diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 16 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH – GWEITHDREFN GORCHYMYN PRYNU GORFODOL
Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol (copi’n amgaeedig) yn diweddaru’r Cabinet ar weithdrefn Gorchymyn Prynu Gorfodol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cefnogi’r broses a nodir yn yr adroddiad ar gyfer penderfynu ar y
dewis datblygu a’r datblygwr a ffefrir ar gyfer y safle ar ôl i broses y
Gorchymyn Prynu Gorfodol ddod i ben. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad
cyfrinachol yn diweddaru’r Cabinet ar y weithdrefn Gorchymyn Prynu Gorfodol yn
ymwneud â chyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych a cheisio cefnogaeth aelodau i’r
broses o benderfynu beth yw'r dewis gorau o ran datblygu a’r datblygwr ar gyfer
y safle fel yr amlinellir o fewn yr adroddiad. Nodwyd yr ymgynghorwyd â swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru a’u bod yn
fodlon gyda'r broses arfaethedig. Darparodd swyddogion ychydig o wybodaeth gefndir
yn arwain at y sefyllfa bresennol a nododd aelodau’r amserlen ar gyfer
cwblhau’r Gorchymyn Prynu Gorfodol a chyflawni’r
prosiect. Roedd y fersiwn derfynol o fanyleb y tendr
wedi ei gylchredeg yn y cyfarfod a phwysleisiodd swyddogion y prif newidiadau
o’r drafft blaenorol. Trafododd aelodau yr argymhellion, fel y
nodir o fewn yr adroddiad, gyda swyddogion gan gynnwys manyleb y tendr a’r
weithdrefn asesu a gwerthuso er mwyn penderfynu ar y dewis gorau ar gyfer y
safle yn ogystal â rhai materion cyfreithiol a risgiau o gylch y broses gyfan a
goblygiadau o ran cost yn y dyfodol. Yn dilyn trafodaeth fanwl: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cefnogi’r broses a nodir yn yr adroddiad ar gyfer penderfynu ar y
dewis o ran datblygu a’r datblygwr a
ffefrir ar gyfer y safle ar ôl i broses y Gorchymyn Prynu Gorfodol ddod i ben. Daeth y cyfarfod i ben am 1.00 pm. |
|
NORTH WALES HOSPITAL DENBIGH - REVISED APPENDIX Dogfennau ychwanegol: |