Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNTIAU SYLW Fe wnaeth yr
Arweinydd - ·
groesawu
a chyflwyno'r ddau Aelod Cabinet newydd – y Cynghorydd Brian Jones, Aelod
Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy a'r Cynghorydd Mark Young,
Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol, a ·
adrodd
ar ymadawiad Rebecca Maxwell, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r Parth Cyhoeddus ym mis Medi a
diolchodd iddi am ei gwaith gwerthfawr yn ystod ei chyfnod yn Sir Ddinbych, yn
enwedig o ran yr economi ac adfywio'r Rhyl, a dymunodd ddymuniadau gorau ar
gyfer y dyfodol ar ran y Cabinet a'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd
Martyn Holland - Cysylltiad personol - Eitem Rhaglen Rhif 5 Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Richard Mainon – Cysylltiad Personol a Rhagfarnol – Eitem rhif 12 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Tony
Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem 5
ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill – Cysylltiad Personol - Eitem 5 ar y Rhaglen. Y Cynghorydd
Emrys Wynne – Cysylltiad Personol –
Eitem 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Mark
Young – Cysylltiad Personol – Eitem 5 ar
y Rhaglen Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen - Y Cynghorydd
Martyn Holland - Llywodraethwr Ysgol Bro Famau Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts – Llywodraethwr AALl a Rhiant Y Cynghorydd Tony
Thomas – Llywodraethwr Ysgol y Santes
Ffraid Y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill - Llywodraethwr Ysgol Clawdd Offa Y Cynghorydd
Emrys Wynne – Llywodraethwr Ysgol Borthyn Y Cynghorydd Mark
Young – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Dinbych Datganodd y
Cynghorydd Richard Mainon gysylltiad personol sy'n rhagfarnu yn eitem 12 ar y
rhaglen oherwydd bod aelodau o'i deulu'n cael eu cyflogi yng Nghastell
Bodelwyddan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2017 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2017 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2017. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2017 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
POLISI CLUDIANT DYSGWYR SIR DDINBYCH PDF 231 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a
Phobl Ifanc (copi’n amgaeedig) yn argymell mabwysiadu Polisi Cludiant Dysgwyr
newydd Sir Ddinbych i’w roi ar waith ar 1 Medi 2018. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cadarnhau eu bod
wedi darllen a deall yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 5 i’r adroddiad) a (b) ar ôl ystyried
yr wybodaeth o’r adroddiad a’r broses ymgynghori fanwl, a’r mân newidiadau godwyd gan y Pwyllgor
Archwilio a’r Cyngor llawn, yn
cymeradwyo mabwysiadu Polisi Cludiant Dysgwyr newydd Sir Ddinbych o 1 Medi
2018. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad yn nodi'r adborth yn dilyn
ymgynghoriad ar Bolisi Cludiant Dysgwyr newydd Sir Ddinbych ac yn argymell y
dylid mabwysiadu'r polisi o 1 Medi 2018. Darparwyd rhywfaint o hanes y
polisi a fu'n destun y broses archwilio ac wedi'i ystyried yn y Cyngor Sir ar 4
Gorffennaf pan benderfynwyd y dylid cymeradwyo cyflwyno'r polisi i'r Cabinet
i'w fabwysiadu. Cyfeiriwyd
hefyd at y broses ymgynghori ac adborth a ddefnyddiwyd i hysbysu'r ddogfen
derfynol. Mae'r
polisi newydd wedi'i groesawu ac yn cael ei ystyried fel gwelliant sylweddol,
gan ddarparu dull sy'n fwy cyfartal na'r polisi blaenorol. Roedd y prif newidiadau yn
cynnwys y broses apeliadau dau gam a'r defnydd o bwerau disgresiwn mewn
achosion penodol. Byddai'r
polisi terfynol hefyd yn destun rhai newidiadau mân fel yr argymhellwyd gan y
pwyllgor Archwilio ac yn y Cyngor Sir. Nododd
y Cabinet y broses ymgynghori gynhwysfawr a gwaith archwilio manwl y polisi
newydd ac roeddent yn falch o nodi'r newidiadau cadarnhaol a wnaed i
ddarpariaeth cludiant i ddysgwyr yn dilyn adborth gan aelodau etholedig a'r
cyhoedd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) Cadarnhau bod yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 5 yr adroddiad) wedi'i ddarllen
a'i ddeall, ac (b) Ar ôl ystyried yr wybodaeth yn yr adroddiad a'r broses ymgynghori benodol,
yn cymeradwyo mabwysiadu Polisi Cludiant Dysgwyr newydd Sir Ddinbych o 1 Medi
2018 yn amodol ar fân addasiadau a godwyd gan y pwyllgor archwilio a'r Cyngor
llawn. |
|
RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF - CYNIGION BAND B PDF 213 KB Ystyried adroddiad gan y Cyng. Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol
Addysg, Plant a Phobl Ifanc (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo
Rhaglen Amlinelliad Drafft Ysgolion yr 21ain ganrif ac Addysg i’w gyflwyno i
Lywodraeth Cymru er ystyriaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) bod y Rhaglen
Amlinellol Strategol ddrafft ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif ac
Addysg yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru, a (b) bod y Cabinet yn
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
Rhaglen Amlinellol Strategol ddrafft (Cynigion Band B) ar gyfer Ysgolion yr
21ain Ganrif a'r Rhaglen Addysg i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Tynnwyd
sylw'r Cabinet at y cynigion ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol yn rownd
nesaf y rhaglen gyllid yn seiliedig ar ardaloedd adolygu â blaenoriaeth fel a
ganlyn- ·
Adolygiad o Ddarpariaeth
Dinbych gan gynnwys Ysgol Plas Brondyffryn (cais am £23.6m). ·
Darpariaeth Ysgolion Cynradd y
Rhyl (cais am £5.15m) ·
Canolfan i ddarparu cymorth
bugeiliol ychwanegol i ddisgyblion (cais am £3.95m) ·
Adolygiad o Ddarpariaeth
Llangollen (cais am £11.9m) ·
Estyniad yn Ysgol y Faenol,
Bodelwyddan (cais am £900mil) Byddai'r
cynigion yn destun cymeradwyaeth LlC ac argaeledd cyllid ac ni ellir gwarantu y
byddai'r prosiectau yn cael eu cyflawni. Byddai'r cais cyffredinol yn
costio £32m i'r Cyngor ac nid oedd unrhyw gyllid wedi'i gytuno i gefnogi
cyfraniad y Cyngor ar y cam hwn a fyddai'n destun trafodaethau yn y rowndiau
cyllid yn y dyfodol. Os
na fydd buddsoddi mewn ysgolion yn cael ei nodi’n flaenoriaeth, bydd angen
lleihau maint y Rhaglen yn sylweddol. Tynnodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill sylw at yr angen i drafod y buddsoddiad sydd ei angen mewn
ysgolion eraill sydd y tu hwnt i raglen cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif gan
gyfeirio'n benodol at y sefyllfa yn Ysgol Uwchradd Prestatyn. Atebodd
yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau fel a ganlyn – ·
roedd y cynigion wedi'u
cyflwyno yn seiliedig ar gyfradd ymyrraeth o 50/50 ar gyfer prosiectau cyfalaf
traddodiadol ac roedd LlC wedi nodi y byddai'r prosiectau yn cael eu hystyried
ochr yn ochr â'r rhai a gyflwynir gan awdurdodau lleol eraill gan mai dim ond
swm penodol o gyllid oedd ar gael – nid oedd y cynigion wedi'u cyflwyno yn
nhrefn blaenoriaeth a byddai canlyniadau trafodaethau gyda LlC yn cael eu
hadrodd yn ôl. ·
ymhelaethu ar y ddau ddewis
cyllid (1) llwybr cyfalaf traddodiadol a (2) Model Buddsoddiad Cydfuddiannol
(MIM) a oedd yn denu cyfradd o 75% LlC / 25% Awdurdod Lleol. Nid oedd cynigion a fyddai'n
denu cyllid MIM wedi’u cyflwyno ar y cam hwn oherwydd y safbwynt cychwynnol
oedd na fyddai'n ddewis cyllid addas ar gyfer Sir Ddinbych. Roedd MIM yn debyg i gytundeb
Cynllun Ariannu Preifat, ac roedd y manylion yn cael eu profi ar hyn o bryd i
asesu sut y byddai'n diwallu anghenion Sir Ddinbych. ·
nid oedd y meini prawf ar
gyfer y cam hwn yn y rhaglen gyllid yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar leoedd
dros ben ond roedd yn fater i'w ystyried oherwydd yr aneffeithlonrwydd yr oedd
yn ei greu. Cyfeiriwyd
at ddogfen ymgynghori gan LlC yn ddiweddar ynglŷn ag ysgolion gwledig
bychan a allai weld newid yn y pwyslais ar y math hwnnw o ddarpariaeth
addysgol. Roedd
y swyddogion wedi parhau â'r un dull a ddefnyddiwyd ar gyfer Band A o ran
ystyried yr ardal gyfan a chyd-destun cyflwr ac addasrwydd yr adeilad a lle bo
diffygion yn y ddarpariaeth addysgol. Cytunodd
y Cabinet y defnyddiwyd dull synhwyrol er mwyn llunio'r cynigion. PENDERFYNWYD – (a) bod y Rhaglen Amlinellol Strategol ddrafft ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr
21ain ganrif ac Addysg yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru, a (b) bod y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr
Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'u hystyriaethau. |
|
PENODI AELODAU I GYRFF ALLANOL PDF 196 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi a
Llywodraethu Corfforaethol (copi'n amgaeedig) ar yr adolygiad a phenodi aelodau
i gyrff allanol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – bod
y Cabinet yn cymeradwyo penodi aelodau i gyrff allanol fel yr argymhellwyd yn
Atodiad 1 yr adroddiad ac eithrio Partneriaeth AHNE Bryniau Clwyd; Grŵp
Gweithredu Lleol Sir Ddinbych Cadwyn Clwyd; Hosbis Cyndeyrn, Llanelwy
(Ymddiriedolaeth), a Thribiwnlys Prisio Cymru, lle byddai’r penodiadau iddynt
trwy benderfyniad wedi’i ddirprwyo yn dilyn ymgynghori pellach gydag aelodau
mewn perthynas â’r penodiadau hynny. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad ar adolygu a phenodi aelodau i gyrff
allanol a oedd yn ofynnol yn dilyn etholiadau llywodraeth leol a llunio'r Cyngor
newydd. Cyfeiriodd
y Cynghorydd Evans at y broses adolygu a gynhaliwyd er mwyn sicrhau penodiadau
addas i gyrff allanol priodol ac fe gyflwynodd ddiwygiad i'r argymhelliad i
gymeradwyo'r penodiadau a nodwyd yn yr adroddiad heblaw pedwar sefydliad lle
byddai'r penodiadau yn cael eu gwneud drwy benderfyniad dirprwyol yn dilyn
ymgynghori pellach gyda'r aelodau. Ymhelaethodd Pennaeth y
Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd
gyda'r cyrff allanol a'r aelodau etholedig o ran penodiadau a nodwyd bod angen
gwybodaeth bellach cyn y gellir cadarnhau penodiadau i rai o'r cyrff allanol. Byddai penodiadau i gyrff
allanol nad oeddent wedi'u cynnwys yn yr adroddiad yn destun adroddiadau
penderfyniad dirprwyol yn y dyfodol neu'n cael eu hystyried gyda'i gilydd yn y
Cabinet pe bai nifer o benodiadau angen eu cymeradwyo ar yr un pryd. Anogwyd yr Aelodau i gyflwyno
eu safbwyntiau ar unrhyw benodiadau sy'n weddill a fyddai'n cael eu hystyried
fel rhan o'r broses i benodi. Cymerodd
yr Aelodau'r cyfle i drafod yr adroddiad gyda Phennaeth y Gyfraith, AD a'r
Gwasanaethau Democrataidd fel a ganlyn- ·
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn –
fel cyn-gynrychiolydd y Cyngor ar y corff hwnnw eglurodd y Cynghorydd Bobby
Feeley ei bod yn cefnogi'r penodiad a argymhellwyd, sef bod y Cynghorydd Emrys
Wynne yn derbyn y rôl honno ·
Eglurodd y Cynghorydd Martyn
Holland bod angen rhagor o wybodaeth er mwyn galluogi cynghorwyr i fewnbynnu at
y broses yn well. Roedd
hefyd yn teimlo y dylid datblygu mecanweithiau priodol er mwyn i'r
cynrychiolwyr adrodd yn ôl i'r Cyngor. Ymatebodd y Pennaeth
Gwasanaeth y byddai gwybodaeth bellach, ynglŷn â'r cyrff sy'n weddill y
mae angen i'r Cyngor benodi cynrychiolwyr iddynt, yn cael ei dosbarthu i'r
aelodau ar ôl derbyn yr wybodaeth berthnasol. Eglurodd hefyd bod y gofynion
ar gyfer penodiadau penodol yn amrywio rhwng y sefydliadau, ynghyd â'r
lwfansau/treuliau sy'n daladwy. Lle bo gan gyrff allanol eu
system eu hunan o ad-dalu, roedd yn cael ei ddefnyddio, ac mewn achosion eraill
gellir cyflwyno hawliad drwy gynllun lwfans y Cyngor. Roedd hyfforddiant yn cael ei
ddarparu yn ymwneud â chyfrifoldebau aelodau ar gyrff allanol ac o ran
atebolrwyddau roedd gan y Cyngor brotocol a chanllawiau mewn perthynas â'r
gwahanol rolau a'r indemniad a gynigir, y gellir eu dosbarthu. Byddai'r mater o ran
mecanweithiau adrodd ar gyfer y cynrychiolwyr hynny'n cael ei ystyried gan y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. ·
Adroddodd y Cynghorydd
Jeanette Chamberlain-Jones ar ei phrofiad fel aelod ar Baneli Mabwysiadu a
Maethu a thynnu sylw at yr anghysondebau rhwng y lwfansau sy'n daladwy. Teimlai y dylai bod mwy o
ymwybyddiaeth o'r rolau hyn, yn enwedig ar gyfer aelodau newydd, ac y dylid
cynnwys y cyfarfodydd hynny yng nghalendr yr aelodau. Cytunodd y Pennaeth Gwasanaeth
i ystyried ymarferoldeb cynnwys y cyfarfodydd hynny yng nghalendr yr aelodau. Ymhelaethodd hefyd ar y
lwfansau sy'n daladwy mewn perthynas â gwahanol gyrff, gan gynnwys
anghysondebau rhwng rhai aelodau ar y Panel Mabwysiadu a'r gwahaniaeth rhwng
aelodau annibynnol a chynghorwyr. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo penodiad aelodau i gyrff allanol fel yr argymhellir yn
Atodiad 1 yr adroddiad gan eithrio Partneriaeth AHNE Bryniau Clwyd; Grŵp Gweithredu
Lleol Sir Ddinbych, Cadwyn Clwyd; Hosbis
St Kentigern; (Ymddiriedolaeth) Llanelwy a Thribiwnlys Prisio Cymru, a
bydd penodiadau'r rhain yn cael eu gwneud drwy benderfyniad dirprwyol yn dilyn
ymgynghori pellach gyda'r aelodau mewn perthynas â'r penodiadau hyn. |
|
STRATEGAETH RHEOLI ASEDAU PDF 223 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n cyflwyno’r Strategaeth Rheoli
Asedau ar gyfer ei gymeradwyo a’i fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – bod
y Cabinet yn cymeradwyo a mabwysiadu’r Strategaeth Rheoli Asedau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y Strategaeth Rheoli Asedau
i'w chymeradwyo a'i mabwysiadu. Roedd y Strategaeth Rheoli Asedau newydd wedi'i datblygu mewn ymateb i
gyllidebau tynnach a dyletswyddau newydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn nodi ymagwedd gorfforaethol y Cyngor i reoli ei
asedau. Roedd y strategaeth ddrafft
wedi bod yn destun ymgynghoriad ac roedd dadansoddiad cryno o'r ymatebion
wedi'i gynnwys yn yr adroddiad ynghyd â'r newidiadau o ganlyniad i hynny ac yn
dilyn trafodaethau gyda Swyddfa Archwilio Cymru. Ychwanegodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod y strategaeth newydd yn
atgyfnerthu'r broses ac yn sicrhau y defnyddir dull sy'n fwy cyfannol gan
gysylltu â dogfennau allweddol eraill.
Ymhelaethodd hefyd ar y pedwar prif amcan yn nogfen y strategaeth ynghyd
â'r camau gweithredu sy'n ategu at y canlyniadau hynny. Tynnwyd sylw at rôl y Grŵp Rheoli
Asedau a oedd yn darparu lefel briodol ar gyfer gwneud penderfyniadau ac roedd
y cyfarfodydd yn agored i'r holl aelodau i sicrhau mwy o dryloywder yn y
broses. Roedd yr Asesiad o Effaith ar
Les wedi dangos effaith gadarnhaol yn gyffredinol. Tynnodd yr Arweinydd sylw at bwysigrwydd y ddogfen i gynorthwyo'r Cyngor i
ddiwallu ei amcanion a blaenoriaethau a oedd yn cynnwys y potensial ar gyfer
buddsoddi ynghyd â gwaredu asedau a oedd wedi peri rhywfaint o bryder. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar
Ganlyniad 4 – capasiti a gwydnwch cymunedol. Nododd yr aelodau bod y canlyniad
hwn wedi'i ychwanegu yn dilyn ymgynghoriad gyda Grwpiau Ardal Aelodau ac y
byddai angen gwaith pellach i ddatblygu'r canlyniad ymhellach. Roedd y Cabinet yn falch o nodi ei fod
wedi'i ychwanegu a thynnwyd sylw at yr angen i fod yn ymwybodol o heriau
seilwaith yn y gymuned a bod angen ystyried yr effaith ar y gymuned wrth
ystyried gwaredu. Roedd rhywfaint o'r
drafodaeth yn canolbwyntio ar y cynigion ar gyfer Llyfrgell Rhuthun a sut y
gellir gwella'r broses ymgynghori ar gyfer cynlluniau'r dyfodol er mwyn rhannu
gwybodaeth ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid a'r gymuned ar gam cynnar yn y broses
ynglŷn â manteision cynigion penodol i sicrhau cefnogaeth leol a chreu
canlyniad cadarnhaol ar gyfer pawb.
Cyfeiriodd y swyddogion at y broses o ymgysylltu ac ymgynghori a nodwyd
bod y strategaeth yn pwysleisio ar weithio gyda'r gymuned a Chynghorau Dinas/
Tref /Cymuned wrth ystyried derbyniadau a gwarediadau. Ychwanegodd y Cabinet efallai y byddai rhai
asedau yn anodd eu gwaredu a thynnwyd sylw at yr angen i ddiogelu rhag gadael
yr asedau yn wag. Nodwyd bod Rheoli Asedau wedi'i nodi yn Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa
Archwilio Cymru fel maes i fynd i'r afael ag ef ac roedd Swyddfa Archwilio
Cymru yn ymwybodol o'r strategaeth ac yn fodlon a'i chynnwys. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu'r Strategaeth Rheoli Asedau. |
|
GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL - CYLCH GORCHWYL PDF 277 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer
Cylch Gorchwyl diwygiedig y Grŵp Buddsoddi Strategol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD - bod
y Cabinet yn cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Grŵp Buddsoddi Cyfalaf
fel y manylwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer Cylch Gorchwyl diwygiedig y Grŵp Buddsoddi
Strategol. Darparwyd rhywfaint o gefndir a arweiniodd at sefydlu'r Grŵp Buddsoddi
Strategol presennol, sef grŵp o aelodau etholedig/swyddogion, a oedd yn
gwerthuso cynigion ar gyfer gwariant cyfalaf.
Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys pwerau dirprwyol ac felly roedd yn
briodol bod y Cabinet yn eu cadarnhau ac yn eu diweddaru'n gyffredinol i
adlewyrchu'r arferion presennol, ac roeddent yn awr yn cynnwys cyfeiriad at
Wariant Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai.
Bydd y cylch gorchwyl wedi’i ddiweddaru'n sicrhau bod y Grŵp
Buddsoddi Strategol yn parhau i roi asesiad effeithiol a swyddogaeth rheoli
mewnol. Roedd aelodaeth y Grŵp
Buddsoddi Strategol yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Cabinet a'r Pwyllgorau
Archwilio. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Grŵp Buddsoddi
Strategol fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol a gytunwyd
arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) yn nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni, a (b) Cymeradwyo
trosglwyddo £653k o’r tanwariant Corfforaethol i’r Gronfa Blaenoriaethau
Corfforaethol Dros Ben newydd er mwyn helpu gyda darpariaeth gychwynnol y
Blaenoriaethau Corfforaethol a oedd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.432miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau
corfforaethol ·
arbedion
effeithlonrwydd gwasanaeth gwerth £0.902m a oedd wedi’u cytuno eisoes fel rhan
o'r gyllideb, gyda'r rhagdybiaeth y byddai’r cyfan yn cael ei ddarparu – byddai
unrhyw eithriadau’n cael eu hadrodd i'r Cabinet pe bai angen ·
ychydig
iawn o amrywiadau oedd i'w hadrodd ar y cam hwn yn y flwyddyn ariannol, ond
roedd nifer o bwysau gwasanaeth wedi’u nodi sydd angen eu monitro'n ofalus, a ·
darparodd
ddiweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r
Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol) Gofynnwyd hefyd i'r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo
£653 mil o’r tanwariant Corfforaethol i Gronfa Wrth Gefn y Blaenoriaethau
Corfforaethol er mwyn cynorthwyo i gyflwyno’r Blaenoriaethau Corfforaethol
newydd sy’n cael eu datblygu. Eglurwyd y materion canlynol wrth drafod – ·
Cwsmeriaid,
Cyfathrebu a Marchnata - roedd y gorwariant a ragwelir ar gyfer costau TG yn
cynrychioli'r rhagamcan presennol ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol, ac roedd
y gwasanaeth yn ystyried mesurau lliniaru gyda'r nod o gyrraedd sefyllfa
gytbwys. Anogir gwasanaethau i dynnu sylw at bwysau yn gynnar er mwyn gallu mynd i'r
afael â nhw cyn gynted â phosib. ·
Cludiant
Ysgol – roedd cost gweithredu'r polisi newydd yn anhysbys ar hyn o bryd a
byddai'n cael ei fonitro'n ofalus drwy gydol y flwyddyn ·
Ysgolion
– roedd cynlluniau adfer ariannol ar fin cael eu cytuno gydag ysgolion â diffyg
ariannol a byddent yn cael eu monitro'n barhaus, byddai unrhyw bryderon
ynglŷn â'r rhain yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
·
Datblygiad
Harbwr y Rhyl - roedd trafodaethau yn parhau gydag adeiladwyr y bont i sicrhau
bod amserlen cynnal a chadw priodol ar waith yn hirdymor. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni, ac (b) Yn cymeradwyo trosglwyddo £653 mil o’r tanwariant Corfforaethol i Gronfa
Wrth Gefn y Blaenoriaethau Corfforaethol er mwyn cynorthwyo i gyflwyno’r
Blaenoriaethau Corfforaethol newydd sy’n cael eu datblygu. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 338 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet
i'w hystyried ac roedd dwy eitem ychwanegol wedi'u hychwanegu at y rhaglen
waith ar gyfer mis Medi ynglŷn â Chynhyrchu Incwm Corfforaethol/ Ffioedd a
Thaliadau ac Ad-dalu Dyledion. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 4 Atodlen 12A Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: |
|
CASTELL BODELWYDDAN
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â dyfodol
Castell Bodelwyddan. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) Bod y Cyngor yn
parhau â thrafodaethau gyda thrydydd parti a enwyd ar gyfer gwerthu’r
rhydd-ddaliad gyda meddiant gwag; (b) Trafod telerau
ar gyfer gwaredu rhydd-ddaliad Gwesty’r Bodelwyddan Castle Hotel (fel sydd
wedi’i liwio mewn glas ar gynllun 2 sydd ynghlwm i’r adroddiad), i’r trydydd
parti a enwyd am y swm a amlinellwyd yn yr adroddiad; (c) Trafod telerau
ar gyfer gwaredu rhydd-ddaliad i drydydd parti a enwyd fel rhan o Ystâd Castell
Bodelwyddan, gan gynnwys adeiladau Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan (BCT),
maes parcio, gerddi, ardal ddigwyddiadau a’r coetir (sydd ar hyn o bryd yn
destun prydles 125 mlynedd) i BCT) am y swm a amlinellwyd o fewn yr adroddiad; (d) I’r Cyngor
gadw’r parcdir presennol, gan gynnwys ffosydd o’r RhB1af a maes parcio grascrit
ynghyd â phrydles 125 mlynedd o’r coetir.
Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu cynnwys gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad
fel Parc Gwledig gyda mynediad i'r cyhoedd; (e) Cadw’r tir
amaethyddol fel rhan o Ystâd Amaethyddol y Cyngor, a (f) bod y Cabinet yn
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les sydd ynghlwm i’r adroddiad fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Richard Mainon gysylltiad personol sy'n rhagfarnu a gadawodd y
cyfarfod wrth i’r eitem hon gael ei thrafod.] Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol ynglŷn â dyfodol
Castell Bodelwyddan. Darparwyd
rhywfaint o wybodaeth gefndir i'r Cabinet ynglŷn â derbyn Ystâd Castell
Bodelwyddan gan gyn-Gyngor Sir Clwyd ym 1984 ynghyd â rheolaeth ei weithrediad
hyd yn hyn. Roedd yr adroddiad yn nodi
cynigion gwaredu rhydd-ddaliad Gwesty Castell Bodelwyddan a rhan o'r ystâd
tra'n cadw ardaloedd eraill gan eu gweithredu fel Parc Gwledig gyda mynediad
cyhoeddus. Roedd manylion y goblygiadau
ariannol wedi'u nodi'n glir yn yr adroddiad ac ymatebodd y swyddogion i'r
cwestiynau ynglŷn â'r ystyriaethau ariannol a chyfreithlondeb y cynigion a
darparu sicrwydd ynglŷn â darpariaeth cynnal a chadw yn y dyfodol. PENDERFYNWYD – (a) Y dylai'r Cyngor gynnal trafodaethau gyda thrydydd parti a enwyd ar gyfer
gwerthu'r budd rhydd-ddaliad gyda meddiant gwag. (b) I drafod telerau ar gyfer gwaredu rhydd-ddaliad Gwesty Castell Bodelwyddan
(sy'n las ar gynllun 2 a oedd ynghlwm i'r adroddiad), i drydydd parti a enwyd
am y swm a nodwyd yn yr adroddiad; (c) I drafod telerau ar gyfer gwaredu rhydd-ddaliad i drydydd parti a enwyd ar
gyfer rhan o Ystâd Castell Bodelwyddan, gan gynnwys adeiladau Ymddiriedolaeth
Castell Bodelwyddan, maes parcio, lawntiau, arena digwyddiadau a choetir (sy'n
destun prydles 125 mlynedd i Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan) am y swm a
nodwyd yn yr adroddiad; (d) Bod y Cyngor yn cadw'r tir parc presennol, gan gynnwys ffosydd y rhyfel byd
cyntaf a'r maes parcio ynghyd â phrydles 125 mlynedd ar gyfer y coetir. Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu rhedeg gan
y Gwasanaethau Cefn Gwlad fel Parc Gwledig gyda mynediad cyhoeddus; (e) Y cedwir y tir amaethyddol fel rhan o Ystâd Amaethyddol y Cyngor, a (f) bod y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr
Asesiad o Effaith ar Les, ynghlwm i'r adroddiad fel rhan o'u hystyriaethau. Daeth y cyfarfod i ben am 11.30 a.m. |