Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNTIAU SYLW Yr Arweinydd - ·
croesawodd bawb i gyfarfod cyntaf Cabinet y Cyngor newydd
gan ddweud y bydd y cyfarfod yn cael ei we ddarlledu ·
dywedodd
y byddai munud o dawelwch yn cael ei gynnal am 11:00am i gofio'r sawl a fu farw
yn y digwyddiadau yn Llundain, ·
cyflwynwyd y chwe aelod Cabinet a oedd yn bresennol a
rhoddwyd manylion am eu portffolios. Esboniwyd bod dwy sedd y Cabinet
sy'n weddill wedi cael eu cynnig i'r Grŵp Plaid Cymru ond bod angen
cadarnhau’r penodiadau hynny gan eu Gweithredwr Cenedlaethol. Yn yr interim, byddai’r Arweinydd a’r
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yn arwain ar y ddau bortffolio sy’n weddill,
Priffyrdd a Theithio Cynaliadwy a Safonau Corfforaethol, yn y drefn honno. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mawrth, 2017 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2017 fel cofnod cywir ac y dylai’r
Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2017 . PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2017 fel cofnod cywir ac y dylai’r
Arweinydd eu llofnodi. |
|
YSGOL GATHOLIG NEWYDD ARFAETHEDIG 3 - 16 YN Y RHYL PDF 390 KB Ystyried
adroddiad (copi’n amgaeedig) ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y
cynnig a cheisio cymeradwyaeth i gyhoeddi’r hysbysiad statudol i gau Ysgol Mair
ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones 31 Awst 2019, ac i
Esgobaeth Wrecsam sefydlu Ysgol Gatholig 3 – 16 newydd ar y safle presennol o 1
Medi 2019. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Gynradd
Gatholig Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward
Jones ac agor Ysgol Gatholig i ddisgyblion 3 – 16 oed newydd; (b) cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gau Ysgol
Gynradd Gatholig y Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y
Bendigaid Edward Jones ar 31 Awst 2019; ac Esgobaeth Wrecsam i sefydlu Ysgol
Gatholig newydd 3-16 mlwydd oed ar y safle presennol o 1 Medi 2019 ac yn (c) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad ar ganfyddiadau ymgynghori
ffurfiol y cynnig, gan geisio cymeradwyaeth cyhoeddi hysbysiad statudol i gau
Ysgol Gynradd
Gatholig y Santes Fair (Ysgol Mair) ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid
Edward Jones ar 31 Awst 2019; ac i Esgobaeth Wrecsam sefydlu Ysgol Gatholig
newydd 3-16 oed ar y safle presennol o 1 Medi 2019. Cyflwynodd
y Cynghorydd Hilditch-Roberts y Gwir Barchedig Peter Brignall, Esgob Wrecsam,
gan ddiolch iddo am ei gefnogaeth gyda’r broses. Roedd
manylion yr ymgynghori ffurfiol a gynhaliwyd gan y Cyngor mewn partneriaeth ag
Esgobaeth Wrecsam wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad, ac roedd y Cynghorydd
Hilditch-Roberts yn falch o adrodd ar yr ymateb cadarnhaol gan yr holl sectorau
gydag ymateb aruthrol o blaid y cynnig. Cymerodd y cyfle hefyd i
amlygu buddion y cynnig o ran model newydd cyflwyno’r cwricwlwm. Ar ôl ystyried
canfyddiadau’r ymgynghoriad, argymhellwyd bod y Cabinet yn parhau â'r camau
nesaf, a oedd yn cynnwys cyhoeddi hysbysiad statudol yn seiliedig ar y cynnig
presennol. Ar
wahoddiad yr Arweinydd, cyfarchodd y Gwir Barchedig, Peter Brignall, y Cabinet
gan fynegi cefnogaeth am y cynnig ar ran Esgobaeth Wrecsam. Cyflwynodd y cynnig i’r
Cabinet fel prosiect cyffrous, gan dynnu sylw at y cyfleoedd y byddai'r ysgol
newydd yn ei darparu ar gyfer y rhai sy'n dymuno cael addysg ffydd yn yr ardal,
ac edrychodd ymlaen at ei chynnydd. Croesawodd
yr Arweinydd yr adroddiad a oedd yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i
fuddsoddi mewn addysg yn y sir, a thalodd deyrnged i'r gwaith caled sy'n rhan o
ddatblygu'r cynnig hyd yma. Atseiniodd
y Cabinet y farn honno ac roedd yn falch o gefnogi dilyniant y cynnig i’r cam
nesaf. Nodwyd
mai amcangyfrif o’r gyllideb bresennol ar gyfer y prosiect oedd £23.8m ac roedd
elfen fach o risg o ystyried ei bod yn rhaid i’r Cyngor ddarparu’r costau
cychwynnol i ddatblygu'r achos busnes cyn y byddai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo
i'w siâr ariannu. Canolbwyntiodd
trafodaeth bellach ar y canlynol - ·
ceisiwyd eglurhad ar
deilyngdod y model 3 – 16 newydd fel cynnig cadarnhaol. ·
Cyfeiriodd swyddogion at ethos
ac ysbryd cyfan addysg ffydd o ran meithriniad a chynhwysiant, gan gynghori y
gellid cyflunio addysg ar gyfer yr holl ddysgwyr fel y gellid cyflwyno'r
cwricwlwm yn briodol o ran gofynion oedran, tra bod gwerthoedd yr ysgol yn
parhau yr holl ffordd i fyny fel bod y cyfnod pontio rhwng darpariaeth gynradd
ac uwchradd yn llyfn. Byddai un tîm arwain yn rheoli’r cwricwlwm a darpariaeth weithredol yr
ysgol, a oedd yn ffafriol i ysbryd y cwricwlwm newydd. Byddai’r model newydd hefyd yn
cefnogi darpariaeth addysgu a dysgu o safon, ac yn gwella cyfleoedd a
hyfforddiant mewnol. Roedd
model 3 – 18 yn gweithredu’n llwyddiannus yn Ysgol St. Brigid’s,
Dinbych, ac roedd y model 3 – 16 yn gweithredu’n llwyddiannus mewn ardaloedd
eraill ·
er bod canlyniad yr Asesiad o
Effaith ar Les yn gadarnhaol, canolbwyntiodd yn bennaf ar yr amgylchedd ffisegol
o ran gwytnwch, gan roi llai o bwyslais ar unigolion yn y gymuned ac o fewn yr
ysgol. Dywedodd
Swyddogion y byddai'r model ei hun yn cryfhau gwytnwch drwy gefnogi datblygiad
sgiliau a chyflawni cymwysterau, a fyddai o fudd llawer gwell i ddisgyblion o ystyried
yr amgylchedd a oedd yn cael ei greu. Cadarnhaodd y Cynghorydd
Hilditch-Roberts y byddai Asesiadau o Effaith ar Les yn y dyfodol yn cynnwys
mwy o fanylion am yr effaith ar bobl, yn ogystal â'r amgylchedd ffisegol. Croesawodd y Cynghorydd Joan Butterfield y prosiect yn ogystal, y teimlai oedd yn gyfannol i adfywiad Y Rhyl, a diolchodd i bawb a gymerodd ran am eu hymrwymiad a’u dyfalbarhad wrth fynd â’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADNEWYDDU FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU PDF 146 KB Ystyried
adroddiad (copi’n amgaeedig), yn amlinellu’r dull arfaethedig i gaffael y
genhedlaeth nesaf o Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cadarnhau'r dull a amlinellwyd o fewn yr
adroddiad i gaffael Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru'r genhedlaeth nesaf; a (b) chadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i
ddechrau caffael ail gam Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru (NWCF), i fod yn
effeithiol yn dilyn gorffen y cam cyntaf ym mis Mai 2018. Byddai adroddiad
pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar ganlyniad yr ymarfer caffael hwnnw. Roedd
NWCF yn bartneriaeth rhwng chwe chyngor Gogledd Cymru, ymhle roedd gan Sir
Ddinbych y rôl arweiniol, a darparwyd mecanwaith symlach, cost effeithiol i
sicrhau contractwyr i adeiladu ysgolion newydd ac adeiladau cyhoeddus eraill. Roedd chwe chontractwr
ar yr NWCF ar hyn o bryd, gydag ugain o brosiectau’n cael eu prosesu ar draws y
rhanbarth gyda gwerth o dros £200m. Roedd manylion prosiectau Sir
Ddinbych wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â buddion cymunedol
wedi'u sicrhau o dan yr NWCF gan fuddsoddi mewn sgiliau lleol a'r economi. Nodwyd bod 80% o wariant y
gadwyn gyflenwi wedi dod o radiws 30 milltir o brosiectau. Cyfeiriwyd at y trefniadau
NWCF presennol a sut i feithrin y llwyddiant hwnnw o ran buddion ac arbedion ar
gyfer yr ail gam. Roedd
newidiadau allweddol i’r fframwaith newydd yn cynnwys - ·
lleihau’r trothwyon ariannol ar
gyfer contractau a allai gynyddu nifer y contractwyr lleol ar y fframwaith ·
Gwneud y mwyaf o ddarparu
buddion cymunedol, megis gofynion hyfforddiant a datblygu cadwyni cyflenwi
lleol, a ·
chyflwyno ffi codi tâl
fframwaith i ostwng cost y fframwaith i'r chwe awdurdod lleol, lle codir ffi ar
gontractwyr am bob prosiect yr enillir. Oherwydd
y cynnydd i’r gwaith cysylltiedig, cynigiwyd ehangu'r tîm presennol rywfaint ac
roedd darpariaeth yn y gyllideb eisoes wedi'i gwneud. Yn olaf, cyfeiriwyd at yr
Asesiad o Effaith ar Les gydag effaith gadarnhaol ar yr holl feysydd, yn
ogystal â statws cynaliadwyedd da. Nododd
y Cabinet lwyddiant y fframwaith gan gymeradwyo Tîm Rheoli’r Fframwaith, a oedd
wedi ennill gwobrau cenedlaethol am eu gwaith yn y diwydiant adeiladu. Ystyriodd aelodau y dull i
sicrhau’r ail gam a thrafodwyd y materion canlynol yn fanylach - ·
roedd y rhan fwyaf o
gontractwyr cyfredol nad oeddent yn rhai lleol ac esboniwyd bod y fframwaith
wedi ei sefydlu i ddechrau i ddelio â phrosiectau mawr, nad oedd gan lawer o
gontractwyr lleol y capasiti i ddarparu ar eu cyfer. ·
Fodd bynnag, o fewn y gadwyn gyflenwi, cafodd
llawer iawn ei gwblhau gan gwmnïau lleol a llawer o waith wedi'i wneud gan
gontractwyr lleol i'w gwneud yn haws iddynt gael eu hystyried ar gyfer
contractau a datblygu cwmnïau lleol lle'r oedd bylchau yn y gadwyn
gyflenwi. Rhagwelwyd hefyd y byddai
nifer sylweddol o gontractwyr lleol yn gymwys ar gyfer y fframwaith o ganlyniad
i'r lleihad arfaethedig yn nhrothwyon ariannol contractau yn yr ail gam. Roedd
y fframwaith presennol wedi bod yn weithredol ers 2014 ac ystyriwyd bod y
gyllideb yn ddigonol i reoli'r fframwaith heb ofyn am unrhyw gyllid ychwanegol.
Roedd y refeniw a ddyfarnwyd gan y chwe awdurdod lleol yn ddigon i gwmpasu Tîm
Rheoli'r Fframwaith i helpu gyda newidiadau allweddol. Byddai capasiti hefyd yn y Tîm
Dylunio a Datblygu i helpu, a phe digwydd unrhyw ddiffygion gellid comisiynu
adnoddau ychwanegol ar sail ad hoc ·
pan gafodd y fframwaith ei
ddatblygu, roedd Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar recriwtio a
hyfforddiant wedi'u targedu a chafodd y fframwaith ei sefydlu i gyflawni'r
elfennau hynny o fuddion cymunedol. Cafwyd hyblygrwydd gyda’r
fframwaith i ddarparu buddion cymunedol ffisegol, a oedd wedi’u cyflawni mewn
rhai achosion, pan yn briodol, yn dibynnu ar y prosiect penodol ac anghenion yr
ardal · trafodwyd ffi y contract arfaethedig ac awgrymwyd bod y ffi yn cael ei godi ar ddiwedd y broses ar gyfer cwmnïau llai er mwyn helpu gyda llif arian a ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 4 – 2016/17 PDF 213 KB Ystyried
adroddiad (copi’n amgaeedig) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012 - 17 fel y mae ar ddiwedd chwarter 4 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun
Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 4 o 2016/17. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i aelodau
ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 - 17
ar ddiwedd chwarter 4 o 2016/17. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dwy brif elfen - ·
Crynodeb
Gweithredol - cyflawniadau manwl ac eithriadau allweddol gyda pherfformiad da
yn gyffredinol. ·
Dim ond un canlyniad wedi cael ei asesu fel Coch: Blaenoriaeth ar gyfer Gwella - Canlyniad 7 Mae myfyrwyr yn cyflawni eu
potensial, a oedd yn ddangosydd blynyddol (dim data newydd ar gyfer y chwarter
hwn) fel y nodwyd a thrafodwyd yn flaenorol. Roedd pob canlyniad arall wedi’i werthuso i fod yn
dderbyniol neu’n well, ac roedd adroddiad chwarterol llawn wedi darparu asesiad
ar sail tystiolaeth o'r sefyllfa bresennol yn canolbwyntio ar eithriadau
allweddol. Roedd eglurhad ar gyfer statws pob dangosydd
penodol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gyda materion allweddol yn cael sylw a’u
trafod ymhellach yn y cyfarfod. Roedd y rhan fwyaf o feysydd yn ddangosyddion blynyddol ac ni fu fawr o
symudiad ers y chwarter diwethaf. Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r
materion canlynol – ·
Canlyniad
7: Mae myfyrwyr yn cyflawni eu potensial – ar gyfer eglurder, esboniodd y
Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant y cefndir hyd at y sefyllfa bresennol. ·
Yn 2012, roedd y Cyngor wedi gosod targed uchelgeisiol iddo ei hun i fod y
Cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran cyrhaeddiad addysgol. Mesurodd Estyn berfformiad yn ôl safle
Prydau Ysgol Am Ddim y Cyngor, lle'r
oedd Sir Ddinbych yn safle 14, ac roedd lefel llwyddiant Sir Ddinbych yn unol â
hynny. Ym mis Ebrill 2013, aeth Gwasanaeth Rhanbarthol Gwella Ysgolion, GwE, yn
fyw a dirprwywyd y gwasanaeth i ddarparu ar ran awdurdodau lleol yn
rhanbarthol, a chafodd adnoddau eu cyfeirio at yr awdurdodau hynny mewn angen
fwyaf. Gan fod Sir Ddinbych yn perfformio’n dda, golygai’r dull nad oedd gwelliant
yn parhau ar yr un raddfa, ac er bod y Cyngor yn dal i gyflawni'n gadarnhaol yn
unol â phroffil Estyn o'r awdurdod, nid oedd wedi cyflawni ei uchelgais. Gan fod yna bellach well cysondeb ar draws
y rhanbarth, rhagwelwyd y byddai cyfradd gwelliant Sir Ddinbych yn cynyddu. Ychwanegodd yr Arweinydd bod
uchelgeisiau'r Cyngor yn parhau’n uchel a bod angen sicrhau tuedd o welliant. O ran heriau'r dyfodol, cynghorodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod disgyblion CA2 yn cyflawni’n dda ond bod bwlch mewn
lefel perfformiad rhwng CA2 a CA4, ac y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal
gyda GwE er mwyn sicrhau'r lefel cywir o gefnogaeth yn hynny o beth. Ychwanegodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts
fod yna bellach well cysondeb ar draws y rhanbarth, ac felly roedd angen
ymdrechu i gyrraedd lefel uwch o welliant. Roedd yn hyderus y byddai'r
adroddiad nesaf yn adlewyrchu'r nod hwnnw. Dadleuodd y Prif Weithredwr fod angen mwy o
bwyslais ar ansawdd addysg mewn ysgolion yn hytrach nag ansawdd y gwasanaeth
cefnogi, a theimlai y gellid rhoi teilyngdod i adolygu’r targed, er y dylai
barhau yn uchelgeisiol. Canlyniad 8: Gwella ein ffyrdd – trafodwyd yr her o
gynnal ansawdd ein ffyrdd gwledig yn barhaus, yn ogystal â p'un a fyddai
buddsoddiad ychwanegol ar gael at y diben hwnnw. Nodwyd y byddai aelodau yn trafod blaenoriaethau
corfforaethol y cyngor ar gyfer buddsoddi yn y Cyngor llawn ym mis Gorffennaf ·
Canlyniad
9: Mesur Newydd - nifer y lleoliadau newydd i oedolion y mae'r awdurdod yn eu
cefnogi mewn cartrefi gofal (65 oed neu hŷn). Esboniwyd bod hwn yn fesur newydd heb
unrhyw ffigurau eto, ond mai ei bwrpas oedd nodi tueddiadau'r dyfodol. Fodd bynnag, roedd y duedd gyffredinol i
lawr gan fod yna bellach lawer o ddewisiadau amgen i gartrefi gofal. PENDERFYNWYD bod y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD CYLLID (ALLDRO ARIANNOL 2016/17) PDF 305 KB Ystyried
adroddiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar sefyllfa alldro refeniw terfynol
2016/17 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a)
nodi’r sefyllfa alldro refeniw terfynol ar gyfer 2016/17; (b) cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y
manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3 a (c) nodi manylion y trosglwyddiadau i ac o Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel
y nodwyd yn Atodiad 4. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar y sefyllfa
alldro refeniw terfynol am 2016/17 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth
gefn a balansau. Byddai drafft cyntaf
Datganiad Cyfrifon Blynyddol 2016/17 yn cael ei gyflwyno i archwilwyr allanol
erbyn 30 Mehefin a’r cyfrifon wedi’u harchwilio yn cael eu cyflwyno i'r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Medi i’w cymeradwyo’n ffurfiol. Tywyswyd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a'r atodiadau. Yn fyr, roedd y sefyllfa alldro derfynol ar
gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys ysgolion) yn orwariant o £2.626m
(1.4% o’r gyllideb refeniw net). Roedd y
prif feysydd i’w nodi wedi cael eu hamlygu ac yn cynnwys pwysau ar Gyllidebau
Ysgolion; Gwasanaethau Cymorth Cymunedol; Addysg a Gwasanaeth Plant a
Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd, a thrafodwyd y materion hynny ymhellach
yn y cyfarfod. O ran ysgolion, bu'n
flwyddyn anodd oherwydd pwysau chwyddiannol mwy nag arfer, ac roedd sefyllfa’r
alldro yn cynnwys gorwariant o £2.618m ar gyllidebau dirprwyedig – roedd 26 o ysgolion
yn dangos balansau â diffyg ac roedd swyddogion cyllid yn gweithio’n agos gyda
hwy ar gynlluniau adfer ariannol. Cyfeiriwyd at y
trosglwyddiadau i ac o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a chafodd nifer o
drafodion diwedd y flwyddyn eu hargymell i'w cymeradwyo hefyd. O
ystyried y sefyllfa gyffredinol o fewn gwasanaethau ac argaeledd cyllid
corfforaethol, cynigiwyd bod y gwasanaethau yn dwyn ymlaen y tanwariant net a
restrir fel balansau gwasanaethau ymrwymedig er mwyn helpu i gyflawni
strategaeth cyllideb 2017/18 a bodloni ymrwymiadau sy'n bodoli eisoes. Bu’n flwyddyn dda ar gyfer yr awdurdod yn
gyffredinol, er bod tuedd sylfaenol i orwario ar y cyfan, ac roedd yn bwysig
monitro’r sefyllfa mewn ysgolion er mwyn sicrhau na fydd yn gwaethygu yn y dyfodol. Teimlai’r Arweinydd ei bod yn bwysig deall y pwysau
sy'n wynebu Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn well, a’r goblygiadau ariannol
wrth fynd ymlaen gan fod defnyddio cronfeydd wrth gefn i gynnwys pwysau’r
gyllideb yn anghynaladwy. Tynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley sylw at rai
o’r pwysau ariannol sy’n wynebu’r gwasanaeth, gan ychwanegu bod pwysau ar ofal
cymdeithasol yn fater byd-eang. Cytunodd
y byddai peth teilyngdod wrth drafod y mater gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Esboniodd y Pennaeth Cyllid fod y Cynllun
Ariannol Tymor Canolig yn cydnabod y beichiau ychwanegol ar ofal cymdeithasol,
a fyddai’n ffurfio rhan o’r trafodaethau yn ystod y broses nesaf o osod
cyllidebau. Cadarnhaodd y defnyddiwyd
cronfeydd arian parod wrth gefn yn 2015/16 a 2016/17 ac y caniataodd y sefyllfa
ddiwedd y flwyddyn i ailgyflenwi rhywfaint o’r cronfeydd wrth gefn hynny. Cydnabuwyd nad oedd y defnydd o gronfeydd
arian parod wrth gefn yn ddatrysiad hirdymor. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi’r sefyllfa
alldro refeniw derfynol ar gyfer 2016/17; (b) cymeradwyo'r
driniaeth arfaethedig o gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr
adroddiad ac yn Atodiadau 1, 2 a 3 a (c) nodi manylion y
trosglwyddiadau i ac o Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn
Atodiad 4. |
|
ADRODDIAD CYLLID (MAI – YN CYNNWYS LLYFR CRYNODEB Y GYLLIDEB 2017/18) PDF 340 KB Ystyried
adroddiad (copi’n amgaeedig), yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r
cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad gan roi manylion y sefyllfa ariannol a’r cyllidebau gwasanaeth
diweddaraf ar gyfer 2017/18 ynghyd â Llyfr Crynodeb Cyllideb 2017/18 (Atodiad 1
yr adroddiad). Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor- ·
roedd
cyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2017/18 yn £189.252m (£185.062m yn
2016/17) ·
manylion
arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth gwerth £0.902m a oedd wedi’u cytuno eisoes
fel rhan o'r gyllideb, gyda'r rhagdybiaeth y byddai’r cyfan yn cael ei ddarparu
– byddai unrhyw eithriadau’n cael eu hadrodd i'r Cabinet pe bai angen ·
does
dim anghytundebau i’w hadrodd ar y cam hwn yn y flwyddyn ariannol, ond roedd
nifer o bwysau gwasanaeth wedi’u nodi sydd angen eu monitro'n ofalus, a ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, Y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.
Cwestiynodd y
Cynghorydd Huw Jones y gostyngiad yn y gyllideb a ddangosir yn erbyn y
gwasanaethau parcio, sef yr incwm a gyllidebwyd yn bennaf, y disgwyliwyd iddo
gael ei godi o daliadau parcio. Cytunodd
y Pennaeth Cyllid i ganfod a yw'r swm yn cynnwys unrhyw ffioedd neu elfennau
eraill a allai gyfrif am y gostyngiad ac adrodd yn ôl ar hynny. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2017/18 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 349 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd
Blaenraglen Waith y Cabinet i'w hystyried a nodwyd efallai y bydd oedi cyn
cyflwyno Cynigion Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif 21 a drefnwyd ar
gyfer mis Gorffennaf. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 a.m. |