Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Croesawodd yr Arweinydd bawb
i’r cyfarfod ac estyn croeso arbennig i’r Cynghorydd Huw Jones oedd yn
dychwelyd ar ôl salwch. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Martyn Holland gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen:
Adolygiad o Ysgol Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn gan ei fod yn Lywodraethwr yn
Ysgol Bro Famau. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Martyn Holland gysylltiad personol ag eitem rhif 5 ar y rhaglen : Adolygu
Ysgol Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn gan ei fod yn Lywodraethwr yn Ysgol Bro
Famau. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2016 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2016 fel cofnod cywir a’u
llofnodi gan yr Arweinydd. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 25 Hydref 2016. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2016 fel cofnod cywir a’u
llofnodi gan yr Arweinydd. |
|
ADOLYGIAD O YSGOL LLANFAIR AC YSGOL PENTRECELYN PDF 172 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi yn amgaeedig) ynglŷn â’r ffordd ymlaen ar gyfer Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cytuno bod swyddogion yn datblygu achos busnes ar gyfer adeilad newydd i
Ysgol Llanfair DC, a (b) Chytuno i barhau â’r sefyllfa bresennol o ran Ysgol Pentrecelyn Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad a oedd yn nodi cefndir yr adolygiad mewn
perthynas ag Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn, ynglŷn â’r rhesymeg
dros y dull a argymhellir. Ar ôl cwblhau’r
broses trefniadaeth ysgolion ym mis Hydref 2015, cymeradwyodd y Cabinet
argymhelliad i gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ac agor ysgol gynradd
newydd Categori 2 yr Eglwys yng Nghymru gyda dwy ffrwd. Heriwyd y penderfyniad drwy Adolygiad
Barnwrol a’i ddileu ar seiliau gweithdrefnol.
Nid oedd y Llys wedi beirniadu rhinweddau’r cynnig a byddai modd gwneud
penderfyniad tebyg yn dilyn ymarfer ymgynghori pellach. Fodd bynnag, roedd angen ailystyried unrhyw
gynnig yn y dyfodol yn seiliedig ar effaith ehangach a’r amgylchiadau presennol
gan roi sylw dyledus i gydlyniant cymunedol a dysgwyr. Ar ôl trafodaethau gyda chymunedau’r ddwy
ysgol, roedd yn amlwg nad oeddent yn dymuno ail-ystyried yr un cynnig a byddai
olrhain y dewis hwnnw yn peri risg o
ymraniad cymunedol a heriau cyfreithiol pellach. Roedd hefyd yn amlwg na ellir parhau â’r
sefyllfa bresennol yn Ysgol Llanfair ac roedd galw am ysgol Categori 2
gynaliadwy yn yr ardal. Yn sgil yr ystyriaethau
hynny, argymhellwyd na ddylid ymgynghori ar y cynnig gwreiddiol. Yn hytrach, gofynnwyd i’r Cabinet ystyried
cynigion i ail-adeiladu Ysgol Llanfair ar safle newydd ac i beidio â chymryd
unrhyw gam pellach ar gyfer dyfodol Ysgol Pentrecelyn a fyddai’n parhau fel
ysgol Categori 1. Amlygodd yr
Arweinydd nod y cyngor i fuddsoddi mewn ysgolion newydd a chreu adeiladau
cynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac i roi plant wrth wraidd y broses o wneud
penderfyniadau. Er bod yr holl aelodau
wedi cefnogi blaenoriaeth y Cyngor i foderneiddio ysgolion, roedd y broses wedi
arwain at benderfyniadau anodd a chydnabuwyd fod y broses yn yr achos hwn wedi
bod yn anodd iawn ar gyfer y cymunedau dan sylw. Er y byddai modd ymgynghori eto ar y cynigion
gwreiddiol, teimlwyd y byddai’r ymraniad a achoswyd yn y cymunedau o ganlyniad
i’r broses yn amharu ar unrhyw gydweithrediad rhwng y cymunedau yn y dyfodol
agos. O ganlyniad, fel yr Aelod Lleol,
cefnogodd yr Arweinydd argymhellion yr adroddiad a fyddai’n caniatáu i Ysgol
Pentrecelyn barhau fel ysgol Categori 1 ac i elwa o’r un gefnogaeth a ddarperir
i bob ysgol arall yn y sir, a darparu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Llanfair o
ystyried y cyfleusterau gwael iawn sydd ar y safle a’r pryderon o ran diogelwch
ar y ffyrdd. Ar ôl ystyried y
ffactorau perthnasol a’r rhesymau dros y cynigion, cefnogodd y Cabinet yr
argymhellion. Derbyniwyd na fyddai’n
fuddiol parhau â’r cynnig gwreiddiol o ystyried y digwyddiadau diweddar a’r
gwrthdaro parhaus dros y categori iaith arfaethedig na ellir ei ddatrys i
fodloni cymunedau’r ddwy ysgol. O ran
Ysgol Llanfair, roedd yn amlwg bod angen buddsoddi mewn adeiladu ysgol newydd
Categori 2 â dwy ffrwd yn yr ardal, ac fe gyfeiriwyd yn benodol at yr amodau
llawn a’r cyfleusterau anaddas nad oeddent yn arwain at ddysgu da a dyletswydd
y Cyngor i ddarparu’r cyfleusterau gorau ar gyfer disgyblion lle bo modd. Gwahoddodd yr
Arweinydd gwestiynau a sylwadau gan rai nad oeddent yn Aelodau Cabinet ac roedd
prif bwyntiau'r drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol- · Er bod cefnogaeth gyffredinol ar gyfer argymhellion yr adroddiad ceisiwyd sicrwydd o ran diogelu Ysgol Pentrecelyn ar gyfer y dyfodol, a phwysleisiwyd bod angen cydraddoldeb a chwarae teg, yn enwedig o ran buddsoddiad yn yr ysgol. Eglurodd y Cynghorydd Eryl Williams y byddai’r sefyllfa bresennol yn cael ei chynnal yn Ysgol Pentrecelyn a fyddai’n parhau i dderbyn cefnogaeth gan y Cyngor a GwE ochr yn ochr â holl ysgolion y sir. O ran buddsoddiad, defnyddir yr ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
AMRYWIAD CONTRACT Y DYFODOL (ESTYNIAD) PDF 96 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant (copi yn amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn contract ‘Y Dyfodol’ Clwyd Alyn i 30 Medi 2018 ac ymchwilio ymhellach i’r opsiwn o ddatblygu cytundeb partneriaeth â Chlwyd Alyn i ddarparu’r gwasanaeth ar ôl Medi 2018. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo estyniad i gontract Y Dyfodol Clwyd Alyn tan 30 Medi 2018, a (b) chymeradwyo’r cynnig i ymchwilio ymhellach yr opsiwn o ddatblygu cytundeb
partneriaeth gyda Clwyd Alyn i ddarparu’r gwasanaeth ar ôl mis Medi 2018. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
ymestyn contract prosiect Y Dyfodol gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alyn tan 30 Medi
2018, ac archwilio’r dewis o ddatblygu cytundeb partneriaeth gyda Clwyd Alyn ar
gyfer darparu’r gwasanaeth ar ôl mis Medi 2018. Roedd
46% o ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc a ariennir gan Gefnogi Pobl yn Sir
Ddinbych yn cael ei ddarparu o dan brosiect Y Dyfodol a oedd yn darparu 33 uned
o dai â chymorth. Roedd
y contract presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2017 a byddai’r amrywiad
contract arfaethedig yn ymestyn y contract am 18 mis pellach gan arwain at
werth contract diwygiedig o £2,627,698.10 (roedd y gost flynyddol eisoes wedi’i
chyllidebu yng Ngrant Cefnogi Pobl). Ymhelaethodd y Cynghorydd
Feeley ar y rhesymau dros ymestyn y contract er mwyn ail-fodelu Y Dyfodol mewn
cydweithrediad â budd-ddeiliaid allweddol fel rhan o ddatblygiad ymagwedd
ehangach Llwybr Pobl Ifanc oedd wedi’i nodi fel blaenoriaeth ar gyfer
datblygu’r gwasanaeth. Roedd
amlinelliad bras a llinell amser wedi’u cytuno ac fe gynhaliwyd trafodaethau
cychwynnol gyda Clwyd Alyn i ddarparu’r gwasanaeth a ailfodelwyd. O ystyried
lefel y goblygiadau gwario o ganlyniad i estyniad y contract, roedd angen
cymeradwyaeth y Cabinet. Ymatebodd
y Swyddog Comisiynu a Thendro i’r cwestiynau fel a ganlyn- ·
ymhelaethodd ar fwriad y
gwasanaeth a ail-fodelwyd i leihau nifer yr unedau llety â chymorth gan eu
disodli gyda chymhareb staff uwch gydag un uned a rennir llai sydd â dwysedd
uwch ac unedau hunangynhwysol gwasgaredig. ·
eglurodd y rhesymeg y byddai
symud i ymyraethau gwell ar gam cynharach yn y Llwybr newydd ar gyfer pobl
ifanc sy’n datgan eu bod yn ddigartref yn arwain at ostyngiad mewn galw am
unedau llety â chymorth. ·
cynghorodd bod ‘gweithwyr
cymorth fel bo’r angen’ yn darparu cymorth i bobl ifanc yn eu llety eu hunain
yn hytrach na chymorth penodedig i gyfeiriad penodol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo
estyniad contract Y Dyfodol gan Clwyd Alyn tan 30 Medi 2018, ac yn (b) cymeradwyo’r
cynnig i archwilio’r dewis o ddatblygu cytundeb partneriaeth gyda Clwyd Alyn er
mwyn darparu'r gwasanaeth ar ôl mis Medi 2018. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaeth ar
gyfer 2016/17. Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.545 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
Roedd
68% o’r arbedion wedi’u cyflawni hyd yn hyn (targed o 5.2m) gyda 2% pellach yn gwneud
cynnydd da; byddai 25% yn cael eu gohirio ac yn cael eu cyflawni yn 2017/18
gyda dim ond 5% o’r arbedion heb eu cyflawni o fewn y terfyn amser. ·
amlygodd
y risgiau cyfredol a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol). Cafodd y materion canlynol eu codi yn ystod y
drafodaeth - ·
cyfeiriwyd
at y goblygiadau ariannol sy’n deillio o fethiant GHA Coaches, ac adroddodd y
Cynghorydd David Smith ar yr ymdrechion parhaus i dderbyn cymorth ariannol gan
Lywodraeth Cymru i gynorthwyo i ddiwallu’r costau hynny – roedd y mater wedi’i
ganlyn yn gryf ac fe hysbysir y Cabinet pan dderbynnir ymateb gan Weinidog yr
Economi a Seilwaith mewn perthynas â hynny. ·
Tynnwyd sylw at y pwysigrwydd o ddarparu gwasanaethau bysiau lleol, yn
enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac eglurodd y Cynghorydd Smith y byddai unrhyw
gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru’n daliad un tro mewn perthynas â’r costau
ychwanegol a achoswyd i’r Cyngor i adfer y gwasanaethau bysiau lleol ar ôl
methiant GHA. O ran darpariaeth barhaus gwasanaethau bysiau lleol, byddai Aelodau
Arweiniol o awdurdodau lleol Gogledd Cymru’n cyfarfod yn ddiweddarach yr
wythnos honno i drafod y mater. Nodwyd nad oedd Fforwm Cludiant Gwledig y Cyngor wedi cyfarfod ers peth
amser ac roedd yr Arweinydd yn teimlo y byddai’n briodol trefnu cyfarfod er
mwyn derbyn gwell dealltwriaeth o wasanaethau lleol yn Sir Ddinbych. ·
Roedd
rhan o’r drafodaeth yn canolbwyntio ar falansau ysgolion ac fe godwyd pryderon
ynglŷn â’r pwysau ar ysgolion a’r defnydd o falansau er mwyn parhau â’r
gwaith da nad oedd yn gynaliadwy yn hirdymor- cyfeiriwyd at lefel y balansau a
chanllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hynny. Canmolodd y Cynghorydd Eryl Williams waith
y Fforwm Cyllideb Ysgolion ac adroddodd am y Grŵp Tasg a Gorffen a
sefydlwyd i adolygu lefel balansau ysgolion a sut yr ariennir ysgolion. ·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd Bobby Feeley at ddatblygiad yr adeilad ysgol newydd a rennir yng
Nglasdir ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Penbarras a cheisiodd sicrwydd y
byddai’r ysgolion yn agor ar amser ym mis Medi 2017. Eglurodd y Cynghorydd Eryl
Williams fod prosiectau adeiladu o’r fath bob amser yn achosi rhywfaint o oedi
mewn rhai agweddau penodol ac aildrefnu agweddau eraill. Adroddodd ar y mesurau cadarn sydd yn eu
lle i fonitro cynnydd drwy’r bwrdd prosiect ac fe gadarnhaodd yr asesir y risg
ar gyfer pob prosiect ac yr ymatebir i unrhyw broblemau yn briodol. Er nad oedd pryder gormodol na fyddai’r
terfyn amser yn cael ei ddiwallu, cytunwyd pe bai’r sefyllfa yn newid dylai’r
Cyngor fod yn agored am unrhyw oedi i’r terfyn amser a rhannu’r wybodaeth cyn
gynted â phosib. · mewn ymateb i’r cwestiynau, ymhelaethodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ar y 5% o arbedion na fyddent yn cael eu diwallu o fewn y terfyn amser. Roedd yn cynnwys dwy elfen yn ymwneud â phrosiect ‘newid sianeli – dewis digidol’ a’r gostyngiad mewn galw am ffioedd cyfreithiol/proffesiynol oedd heb eu gwireddu fel y disgwyliwyd. O ran arbedion y Cynllun Ariannu Preifat byddai £1.4m yn cael ei wireddu a byddai arbedion ariannol yn ystod y flwyddyn yn cael eu dyrannu pan fo'r holl bwysau ar gyllidebau yn hysbys; o 2017/18 roedd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 385 KB Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau/ diwygiadau canlynol - ·
achos
busnes ar gyfer adeilad newydd Ysgol Llanfair - Ionawr (i'w gadarnhau) ·
diweddariad
ar y gwerthusiad opsiynau ar gyfer gwasanaethau gofal mewnol – annhebygol ym
mis Rhagfyr gan y byddai’n rhaid cyflwyno canlyniadau’r Grŵp Tasg a
Gorffen i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn y lle cyntaf. ·
tynnu
enwau penodol yr Aelodau Cabinet Arweiniol unigol o’r rhaglen gwaith i’r
dyfodol o fis Mai 2017 ymlaen (gan aros am ganlyniad yr etholiad) PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.15 a.m. |