Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Aelod Arweiniol
ar gyfer Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill Cofnodion: Aelod Arweiniol
ar gyfer Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2016 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2016 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2016. Cywirdeb – Tudalen 9: Eitem 6, Ymrwymiad Aelodau
mewn Apeliadau – Gofynnodd y Cynghorydd Barbara Smith pe gellid cofnodi ei bod
wedi rhoi gwybod i’r Cabinet nad oedd digon o aelodau yn bresennol ar y
Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol i ffurfio cworwm pan drafodwyd y mater a bod
aelodau wedi cytuno y gellid pasio eu barn ymlaen at y Cabinet. PENDERFYNWYD yn
ddibynnol ar bwynt cywirdeb, y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2016 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu
llofnodi. |
|
ADOLYGIAD AC YMGYNGHORIAD GWASANAETHAU GOFAL MEWNOL PDF 347 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol, Gwasanaethau Oedolion a Phlant (copi'n amgaeedig) yn rhoi
dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau gofal
cymdeithasol mewnol y Cyngor ar gyfer pobl hŷn ac yn ceisio cymeradwyaeth
y Cabinet ar gyfer swyddogion i edrych ar y dewisiadau ar gyfer pob un o'r
pedwar sefydliadau gofal yn fanylach gyda golwg ar wneud penderfyniadau
terfynol ar ba opsiynau ddylai cael eu gweithred. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cymeradwyo’r canlynol – (a) Hafan Deg (y Rhyl) – Bod y cyngor yn archwilio
partneriaeth posibl gyda sefydliad allanol gyda golwg ar drosglwyddo'r adeilad
iddynt, comisiynu gwasanaeth gofal dydd o fewn yr adeilad ac, yn ogystal â
hynny, alluogi asiantaethau 3ydd sector i ddarparu gweithgareddau ymyrryd
cynnar ar gyfer pobl hŷn a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol, cefnogi
annibyniaeth a hybu gwydnwch. Dylai’r
gwaith mewn cysylltiad â'r opsiwn hwn gynnwys cost, ansawdd y gofal a
dadansoddiad darpariaeth iaith Gymraeg rhwng y darparwr presennol ac unrhyw
wasanaeth posibl yn y dyfodol. (b) Dolwen (Dinbych) – Bod y cyngor yn archwilio
partneriaeth bosibl gyda sefydliad allanol gyda'r bwriad o drosglwyddo’r
adeilad a'r gwasanaeth cyfan iddynt, tra'n sicrhau bod Dolwen wedi'i gofrestru
i ddarparu gofal preswyl a dydd EMH.
Dylai’r gwaith mewn cysylltiad â'r opsiwn hwn gynnwys cost, ansawdd y
gofal a dadansoddiad darpariaeth iaith Gymraeg rhwng y darparwr presennol ac
unrhyw wasanaeth posibl yn y dyfodol. (c) Awelon (Rhuthun) – bod y Cyngor yn ystyried yn fanwl y tri
opsiwn a gyflwynwyd mewn perthynas â’r sefydliad hwn a bod y gwaith mewn
perthynas â’r dewisiadau hyn yn cynnwys costau cymharol, ansawdd y gofal a
dadansoddiad darpariaeth iaith Gymraeg rhwng y gwasanaeth presennol a phob un
o'r tri opsiwn. Yr opsiynau
yw – ·
Opsiwn 1 (yr opsiwn mae’r Cabinet yn ei
ffafrio): Bydd y Cyngor yn ymuno mewn partneriaeth â pherchennog Llys Awelon i
ddatblygu mwy o fflatiau Gofal Ychwanegol ar y safle, gan ddisodli'r
ddarpariaeth breswyl a chymunedol bresennol.
Fodd bynnag, dylid nodi bod y Cabinet wedi cytuno na fydd yn rhaid i
unrhyw breswylydd adael os nad ydynt eisiau gadael a bod eu hanghenion yn cael
eu diwallu yn y ddarpariaeth breswyl ·
Opsiwn 2: I weithio mewn partneriaeth gyda
landlord cymdeithasol cofrestredig, gwasanaethau iechyd a'r 3ydd sector i
ddatblygu amrywiaeth o wasanaethau, trosglwyddo hanner yr adeilad i ddatblygu
mwy o fflatiau gofal ychwanegol, o bosibl fel estyniad i Lys Awelon, gan
ddefnyddio’r gweddill fel uned breswyl fach y gellid ei defnyddio i ddiwallu’r
angen am ofal seibiant a sicrhau nad oes rhaid i unrhyw breswylydd presennol
symud oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny. ·
Opsiwn 3:
(Awgrym gan rai Aelodau) Dylai’r Cyngor ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr i ymchwilio i ba mor ymarferol yw datblygu capasiti gofal
nyrsio ychwanegol yn Rhuthun a fyddai yn ei dro yn gwella’r cynnig i bobl
hŷn yn ardal Rhuthun. (d) Cysgod y Gaer (Corwen) – Mae'r cyngor yn edrych ar
ymuno mewn partneriaeth â rhanddeiliaid perthnasol (gan gynnwys BCU a'r 3ydd
sector) i ddatblygu'r safle i 'ganolfan gymorth' sy’n cynnig cyfleusterau
preswyl a gofal ychwanegol yn ogystal â gwasanaeth allgymorth gofal cartref a
gwasanaeth cefnogi i denantiaid Cynlluniau Tai Gwarchod lleol phoblogaeth
ehangach Corwen a'r ardal gyfagos; ac (e) O gwblhau'r uchod, cyflwynir dadansoddiad o bob un o'r
opsiynau mewn perthynas â phob sefydliad i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad i’w
archwilio cyn gwneud penderfyniad gan y Cabinet, gyda bob un yn cael ei
gyflwyno fel y caiff ei ddatblygu. Cofnodion: Nododd yr Arweinydd y byddai’n ddefnyddiol darparu peth cyd-destun, gan fod
y broses adolygu yn un gymhleth oedd yn cymryd amser. O
ganlyniad, gwahoddodd y rheiny sy’n ymwneud â’r broses i siarad gyda’r Cabinet. Eglurodd y
Cynghorydd Meirick Daves, aelod a chyn Gadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen a
sefydlwyd i gynorthwyo gyda’r adolygiad, am aelodaeth y Grŵp, ei bwrpas,
ei sgôp a’i amserlenni a oedd wedi arwain at eu hargymhellion i’r Pwyllgor
Archwilio Perfformiad. Gofynnwyd i’r
Grŵp Tasg a Gorffen archwilio’r opsiynau gwerth am arian ar gyfer darparu
gwasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yn y Sir. Manylodd y Cynghorydd Davies ar rôl y
Grŵp wrth arolygu’r broses gynllunio ar gyfer yr ymgynghoriad ac archwilio
opsiynau posib dros y ddwy flynedd diwethaf, gan arddangos natur gymhleth a
gwytnwch y broses. Talodd deyrnged hefyd
i waith y diweddar Gynghorydd Richard Davies a’i gyfraniad tuag at y broses. Adroddodd y Cynghorydd Barry Mellor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio
Perfformiad ar archwiliad craff y pwyllgor o ganfyddiadau, casgliadau a
chynigion y Grŵp Tasg a Gorffen yn ystod eu cyfarfod ar 12 Ebrill 2016.
Roedd wedi ei siomi mai ymateb gwael gafwyd gan y cyhoedd i’r broses ymgynghori
er bod y mater yn un uchel ei broffil. Yn gyffredinol roedd y Pwyllgor
Archwilio Perfformiad yn fodlon â chanfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen. Wrth greu argymhelliad y pwyllgor i’r Cabinet
cynhwyswyd cafeatau ychwanegol o safbwynt cynnwys dadansoddiad cymharol o
gostau, safon gofal a darpariaeth cyfrwng Cymraeg rhwng y darparwr cyfredol ac
unrhyw wasanaeth posib. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Mellor ei fod yn gyfforddus gyda’r argymhellion sydd wedi eu rhoi
gerbron y Cabinet. Diolchodd y
Cynghorydd Bobby Feeley i aelodau a swyddogion am eu mewnbwn i'r broses hyd yma
ac am eu holl waith caled. Amlinellodd
yr achos dros newid gan gymryd i ystyriaeth ofynion Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r angen i foderneiddio gwasanaethau mewn
ymateb i ddemograffeg newidiol ac anghenion y cyhoedd mewn amgylchiadau
ariannol anodd. Roedd yr adroddiad yn
crynhoi’r wybodaeth gafodd ei gasglu o’r ymgynghoriad cyhoeddus a barn y
Pwyllgor Archwilio Perfformiad wrth ystyried adroddiad y Grŵp Tasg a
Gorffen a sefydlwyd i ddadansoddi’r wybodaeth ac argymell ffordd ymlaen. Roedd gwybodaeth a thystiolaeth a ystyriwyd
fel rhan o’r adolygiad wedi ei gynnwys mewn atodiadau i’r adroddiad. Ar y pwynt hwn
rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a Phrif Reolwr – Cymorth
Busnes gyflwyniad PowerPoint ar y dystiolaeth o’r ymgynghoriad cyhoeddus oedd
yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol - ·
eglurwyd sut roedd yr egwyddorion cyfreithiol o amgylch
yr ymgynghoriad wedi eu cwrdd, a natur yr ymgynghoriad ·
manylodd
ar yr achos dros newid gan gymryd i ystyriaeth y gofyn am fathau o ofal
cymdeithasol ac anghenion trigolion lleol a darparu deilliannau gwell, gan
alluogi pobl i fod yn annibynnol am fwy o amser a chymryd cost darparu
gwasanaeth i ystyriaeth ·
manylodd ar yr opsiynau am bob un o’r pedwar sefydliad
gofal yn ogystal â’r rhesymau dros bob dewis ·
rhoddodd
grynodeb o’r ymgynghoriad cyhoeddus yn ogystal â throsolwg o’r ymatebion a dderbyniwyd, y prif
bryderon a godwyd ac ymateb y Cyngor i hynny a oedd wedi ei nodi o fewn yr
atodiadau i’r prif adroddiad. Trafododd y
Cabinet yr adroddiad gyda’r Aelod Arweiniol a swyddogion a cheisiwyd sicrwydd
ynghylch nifer o faterion a chodwyd cwestiynau pellach fel a ganlyn - ·
os
bydd Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion rhoddwyd sicrwydd y byddai
gwasanaethau yn parhau fel arfer yn y cyfamser, gan gynnwys derbyniadau i
gartrefi gofal cyn belled ag y gellid cwrdd gofynion yr unigolion hynny. · ymhelaethodd swyddogion ymhellach dros yr achos am newid gan ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Yn absenoldeb y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r
sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth
gyllidol y cytunwyd arni. Darparwyd
crynodeb o elfennau’r adroddiad - ·
cyllideb
refeniw’r Cyngor ar gyfer 2016/17 heb unrhyw amrywiant i adrodd amdano ar y
pwynt hwn yn y flwyddyn ariannol – roedd effaith safle diwedd blwyddyn 2015/16
yn cael ei orffen ar gyfer ei gynnwys yn yr adroddiad Alldro Terfynol i’r
Cabinet ym mis Mehefin ·
roedd
91% o arbedion wedi eu cyrraedd yn llawn yn 2015.16 gyda’r 9% oedd yn weddill
i’w cyflawni yn 2016/17 – byddai asesiad cychwynnol o arbedion 2016/17 yn cael
ei ddarparu yn adroddiad Cyllid rheolaidd y Cabinet fis nesaf. ·
cefndir
ar safle ariannu grant refeniw Llywodraeth Cymru a diweddariad ar grantiau
refeniw y disgwylir eu derbyn yn 2016/17 ·
amlinellwyd
nifer o bwysau o fewn y gyllideb gyffredinol y mae angen i wasanaethau penodol
weithredu arnynt ·
bydd
manylion am y gwasanaethau a ganiateir i gario tanwariant sylweddol ymlaen i
ariannu prosiectau penodol yn y flwyddyn ariannol nesaf yn adroddiad Alldro
Terfynol y mis nesaf, a ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol). Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y
drafodaeth - ·
roedd
y setliad llywodraeth leol wedi golygu toriad o 1.3% yn y Grant Cynnal Refeniw
ond mynegwyd pryderon, bod y setliad 'gwirioneddol’, o ystyried toriadau i
grantiau uniongyrchol, yn agosach at 1.8%.
·
Nododd y Cabinet waith
swyddogion cyllid llywodraeth leol a’r CLlLC wrth adolygu. Cynghorodd y Prif
Weithredwr bod yr Arweinydd wedi gofyn am gyfarfod cynnar gyda’r Ysgrifennydd
newydd dros Gyllid a Llywodraeth Lleol a byddai’n cynnwys y mater hwn i’w
drafod fel mater o bryder ·
mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Meirick Davies, eglurodd y Prif Swyddog
Cyllid bod cario tanwariant gwasanaethau trosodd wedi ei gymeradwyo mewn
egwyddor yn y Cabinet - o safbwynt
gwaith gwella yn Wigfair, Cefn Meiriadog roedd y cynllun hwn wedi ei gymeradwyo
a chytunwyd y byddai’r Prif Swyddog Cyllid yn darparu ymateb ysgrifenedig i’r
Cynghorydd Davies yn hynny o beth ·
Adroddodd
y Cynghorydd Huw Jones ar newidiadau arfaethedig i weinyddiaeth cyllido mentrau
hamdden fel chwaraeon y ddraig gan nodi ei fod o’r farn y byddai awdurdodau
lleol o dan anfantais o ganlyniad ·
mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Eryl Williams o safbwynt cymryd rhan o’r
Grant Cynnal Refeniw a’i benodi i gyllideb gwasanaeth arall (‘topslicing'), nododd y Prif Swyddog
Cyllid na ellid darparu manylion ar y grantiau penodol yr effeithiwyd arnynt
gan nad oedd trywydd tystiolaeth ·
amlygwyd
nifer o bwysau penodol o safbwynt Cludiant i'r Ysgol; Contract Asiantaeth
Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru; pwysau chwyddiannol Gwasanaethau
Cymunedol a nifer cynyddol o ysgolion yn symud i falansau diffygiol. O safbwynt Cludiant i’r Ysgol rhoddodd
swyddogion ddiweddariad ar yr angen i adolygu’r polisi yn dilyn cyfres o heriau
ac y dylai gael ei ariannu yn briodol.
Nodwyd y diffyg mewn gofal nyrsio hefyd fel her a phwysau sylweddol yr
oedd angen mynd i’r afael ag ef. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 78 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Blaenraglen Waith y Cabinet i’w hystyried
a nododd yr aelodau’r canlynol - ·
byddai
adroddiad ar hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych (Gorchymyn Prynu Gorfodol) yn
cael ei ychwanegu ar y rhaglen waith unwaith y byddai syniad gwell o amserlenni
yn dod i’r amlwg ·
byddai
adroddiad ar y Ddarpariaeth Ffydd Uwchradd yn cael ei ychwanegu ar y rhaglen
waith at fis Gorffennaf PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau
Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig
yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 o Ran 4 o
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
DYFARNU CONTRACT AR GYFER GWAREDU GWASTRAFF GWEDDILLIOL A CHOMPOSTIO GWASTRAFF GWYRDD Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth
Cyhoeddus (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu
contract sengl ar gyfer gwaredu gwastraff gweddilliol a chontract sengl ar
gyfer compostio gwastraff gwyrdd. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo dyfarnu un contract ar gyfer gwaredu gwastraff gweddilliol ac un
contract ar gyfer compostio gwastraff gwyrdd i'r tendrwyr a enwir fel y
manylwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio
cymeradwyaeth y Cyngor i ddyrannu un contract ar gyfer gwaredu gwastraff
gweddilliol ac un contract ar gyfer
compostio gwastraff gwyrdd i’r tendrwr oedd yn cynnig y fantais ariannol fwyaf
fel y manylir o fewn yr adroddiad yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Gontractau Roedd angen contract interim er mwyn symud y Cyngor ymlaen at y pwynt pan
fyddai’r adnodd rhanbarthol ar gael (yr amcangyfrif presennol yw 2019). Roedd
manylion y ceisiadau a dderbyniwyd yn ogystal â pheirianwaith sgorio wedi ei
ddarparu ar gyfer pob contract, yna roedd swyddogion wedi argymell dyfarnu’r
contractau i dendrwyr penodol fel y nodir yn yr adroddiad. Atebodd yr
Aelod Arweiniol a swyddogion gwestiynau gan aelodau ynglŷn ag opsiynau’r
adnoddau trin a gwaredu. Awgrymodd y
Cynghorydd Eryl Williams ddatganiad i'r wasg yn nodi na fyddai gwastraff
gweddilliol yn cael ei waredu mewn safle tirlenwi yn y dyfodol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo dyfarnu un contract ar gyfer gwaredu gwastraff gweddilliol ac un
contract ar gyfer compostio gwastraff gwyrdd i'r tendrwyr a enwir fel y
manylwyd yn yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm |