Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd
Barbara Smith Cofnodion: Y Cynghorydd
Barbara Smith |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad personol na rhagfarnol ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad personol na rhagfarnol ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2014 [copi ynghlwm]. Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2014 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2014 PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2014 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
YMGYNGHORIAD- YSGOL ESGOB MORGAN PDF 97 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi'n
amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi'r hysbysiad statudol ar
gynigion i newid ysgol o ysgol gynradd gymunedol i ysgol gynradd Ffydd
Anglicanaidd a Reolir yn Wirfoddol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol ar gyfer y cynigion
canlynol -
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad
yn manylu ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd ar gynigion i
newid Ysgol Esgob Morgan o fod yn ysgol iau gymunedol i fod yn ysgol iau o
ffydd Anglicanaidd gan ddod i rym ar 1 Medi 2015. Roedd yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet i'r gymryd y cam nesaf – sef cyhoeddi hysbysiad statudol
i wneud y cynnig i newid enwad yr ysgol. Ystyriodd y Cabinet rinweddau'r cynnig ynghyd â
chanlyniadau’r ymgynghoriad a nododd y byddai'r cynnig yn helpu gyda’r broses o
drosglwyddo disgyblion o St. Asaph VP Infants i Ysgol Esgob Morgan a symleiddio
unrhyw gynigion i gyfuno yn y dyfodol rhwng y ddwy ysgol. Wrth ymateb i gwestiynau fe fanylodd y
swyddogion ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd, a oedd yn cynnwys ymgynghoriad
wedi'i deilwra ar gyfer y disgyblion, ac yn rhoi golwg gyffredinol ar y
dadansoddiad o'r ymatebion a dderbyniwyd. Ystyriwyd nad oedd y rhan fwyaf o'r gwrthwynebwyr
yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r ysgol. Gofynnwyd am sicrwydd ynghylch yr effaith ar
safonau addysg ac fe gadarnhaodd swyddogion na fyddai unrhyw effaith negyddol
ond yn hytrach byddai gwelliannau cadarnhaol o ganlyniad i gryfhau cysylltiadau
presennol gyda'r eglwys. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i wneud y cynigion canlynol
-
|
|
CYNLLUN TRWYDDEDU YCHWANEGOL AR GYFER TAI AMLFEDDIANNAETH PDF 113 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus
(copi'n amgaeedig), yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-ddynodi cynllun
trwyddedu ychwanegol ar gyfer HMOs yn y Rhyl, ynghyd ag amodau a ffioedd
cysylltiedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cymeradwyo
ail-ddynodi cynllun trwyddedu ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn y Rhyl
am 5 mlynedd arall fel y nodir yn Atodiad 1; (b) cymeradwyo’r Amodau i'w gosod fel rhan o Gynllun Trwyddedu
"Ychwanegol” a “Gorfodol" fel y nodir yn Atodiad 2; (c) cymeradwyo’r Ffioedd i'w gosod fel rhan o Gynllun
Trwyddedu "Ychwanegol” a “Gorfodol" fel y nodir yn Atodiad 3; (d) cefnogi’r syniad na ddylai’r
dyddiad gweithredu fod yn hwyrach nag 1 Ebrill 2015 sy’n cydymffurfio â’r
isafswm cyfnod statudol o 3 mis rhwng dynodiad cymeradwy a gweithredu. Cofnodion: Fe gyflwynodd y
Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet i ail-ddynodi cynllun trwyddedu ychwanegol ar gyfer Tai
Amlfeddianaeth yn y Rhyl, ynghyd ag amodau a ffioedd trwyddedu cysylltiedig. Mae'r
cynllun ychwanegol ar hyn o bryd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2014, ac yn dilyn
adolygiad ac ymgynghoriad cynhwysfawr, argymhellwyd bod y cynllun yn cael ei
ail-ddynodi am bum mlynedd arall. Ystyriodd y
Cabinet ganfyddiadau'r adolygiad a’r ymgynghoriad ac roeddent yn gefnogol i'r
cynllun fel ffordd o wella safonau llety. Cadarnhaodd
y swyddogion bod Cyngor Tref y Rhyl a Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl yn cefnogi
a bod ymgynghoriad wedi’i gynnal ag awdurdodau lleol eraill er mwyn rhannu
arfer gorau. Gofynnwyd am sicrwydd bod adnoddau digonol ar gael
ar gyfer gorfodaeth tai ac fe eglurodd y swyddogion mai dim ond un allan o amrywiaeth o fesurau i
sicrhau gwelliant yw gorfodaeth a’u bod yn fodlon bod adnoddau priodol ar gael
o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol. Cyflwyno'r
cynllun wedi cael ei nodi fel blaenoriaeth gwasanaeth. Amlinellodd
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y
ddadl craffu ar ail-ddynodi’r cynllun a chadarnhaodd eu bod yn cefnogi hynny. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn - (a) cymeradwyo ail-ddynodi cynllun trwyddedu ychwanegol ar gyfer Tai
Amlfeddiannaeth yn y Rhyl am 5 mlynedd arall fel y nodir yn Atodiad 1 o’r
adroddiad; (b) cymeradwyo’r Amodau i'w gosod fel rhan o Gynllun Trwyddedu
"Ychwanegol” a “Gorfodol" fel y nodir yn Atodiad 2 o’r adroddiad; (c) cymeradwyo’r Ffioedd i'w gosod fel rhan o Gynllun Trwyddedu
"Ychwanegol” a “Gorfodol" fel y nodir yn Atodiad 3 o’r adroddiad, a (d) cefnogi’r syniad na ddylai’r dyddiad gweithredu fod yn hwyrach nag 1 Ebrill
2015 sy’n cydymffurfio â’r isafswm cyfnod statudol o 3 mis rhwng dynodiad
cymeradwy a gweithredu. |
|
AMRYWIO CYTUNDEBAU TENANTIAETH TAI CYNGOR PDF 106 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a
Chymunedau (copi'n amgaeedig), sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
fabwysiadu'r cytundeb tenantiaeth newydd gyda rhybudd ffurfiol o amrywiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn mabwysiadu'r fersiwn derfynol ddiwygiedig o’r Cytundeb Tenantiaeth
Tai Cyngor gyda Rhybudd Terfynol o Amrywio fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
fabwysiadu'r cytundeb tenantiaeth newydd gyda rhybudd ffurfiol o amrywiad. Mae’r
cytundeb tenantiaeth wedi'i ddiwygio i adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith ac
arfer ac i alluogi’r cyngor i ddelio â materion megis ymddygiad
gwrthgymdeithasol yn fwy effeithiol. Nododd y Cabinet
bod y cytundeb tenantiaeth wedi bod yn destun proses adolygu ac ymgynghori
cynhwysfawr gan dderbyn llawer o adborth cadarnhaol. Mae'r
amserlen ar gyfer gweithredu'r cytundeb newydd ar gyfer tenantiaid presennol a
newydd hefyd wedi nodi diwygiad o 1 Ionawr 2015 sy’n berthnasol i denantiaid
newydd. Roedd y Cynghorydd Irving yn falch o adrodd ar
gyfraniad cadarnhaol y Grŵp Cynghori Tenantiaid o fewn y broses. Croesawodd
yr Aelodau y cytundeb newydd fel dogfen gadarn sy'n darparu cysondeb i’r holl
denantiaid ac roeddent yn hapus i nodi lefel y mewnbwn gan denantiaid a
rhanddeiliaid eraill wrth ei chreu.
O ran darpariaeth Gymraeg fe
gadarnhaodd y swyddogion y byddai'r holl ddogfennau ar gael yn ddwyieithog a
byddai ceisiadau am braille neu ieithoedd eraill yn cael eu trin ar sail un i
un. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn mabwysiadu'r fersiwn derfynol ddiwygiedig o’r Cytundeb Tenantiaeth
Tai Cyngor gyda Rhybudd Terfynol o Amrywio fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|
DADELFENNU NEWIDIADAU GWASANAETH AR GYFER TENANTIAID Y CYNGOR PDF 106 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a
Chymunedau (copi'n amgaeedig), sy’n ceisio cytundeb y Cabinet o egwyddorion
allweddol er mwyn penderfynu sut y byddai taliadau gwasanaeth yn cael eu
cyfrifo a'u gweithredu o renti o fis Ebrill 2015. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cytuno ar yr egwyddorion allweddol a fydd yn penderfynu sut y bydd taliadau
gwasanaeth yn cael eu cyfrifo a'u gweithredu o renti o fis Ebrill 2015 ymlaen
fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn benodol i - ·
fabwysiadu polisi Codi Tâl
Amrywiol ar gyfer dosraniad ac adennill i bob Tenant sy’n derbyn gwasanaethau,
a ·
bod rhenti unigol yn cael eu
lleihau yn y flwyddyn gyntaf gan gyfanswm y gwasanaethau y gellir codi tâl
amdanynt y mae tenantiaid yn eu derbyn. ·
bod y Cabinet yn nodi y bydd
papur arall yn cael ei ystyried ar y taliadau terfynol fel rhan o broses bennu rhent
tai cyngor blynyddol y cyngor ym mis Chwefror 2015. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad yn ceisio cytundeb y Cabinet ar yr
egwyddorion allweddol er mwyn penderfynu sut y byddai taliadau gwasanaeth yn
cael eu cyfrifo a'u gweithredu o renti o fis Ebrill 2015. Roedd yr adroddiad
wedi cael ei baratoi mewn ymateb i bolisi gosod rhent newydd Llywodraeth Cymru
a oedd yn gofyn i daliadau gwasanaeth gael eu gwahanu o daliadau rhent
tenantiaid i nodi'n glir pa wasanaethau y maent yn talu amdanynt a thaliadau a
wnaed. Ystyriodd y
Cabinet yr opsiynau yn yr adroddiad er mwyn bodloni'r gofyniad a derbyniwyd y
rhesymeg y tu ôl i'r argymhelliad i fabwysiadu polisi tâl amrywiol i adennill
taliadau gwasanaeth ac i leihau rhent am y flwyddyn gyntaf yn ôl swm a
dderbyniwyd o wasanaethau y codir tâl amdanynt. Fe
dynodd y Cynghorydd Bobby Feeley sylw at gymhlethdod y broses a gofynwyd am
sicrwydd y byddai'r newidiadau yn cael eu cyfleu'n effeithiol i denantiaid. Roedd
hi'n arbennig o bryderus am yr effaith anghymesur ar gyfadeiladau gwarchod a
oedd yn effeithio pobl hŷn yn bennaf a sut y byddai hynny'n cael ei reoli. Eglurodd
y Swyddog Tâl Gwasanaeth (SCO) y byddai taliadau yn uwch mewn cynlluniau
gwarchod oherwydd y costau cynnal ardaloedd cymunedol a fyddai'n cael ei
liniaru yn rhannol ar gyfer y rhai sy'n derbyn budd-dal tai a chan y cynnig i
leihau rhenti yn y flwyddyn gyntaf ac yna polisi dyrchafol. Mewn
ymateb i bryderon cyfathrebu, fe gytunodd i ystyried cysylltiad pellach gyda
chyfadeiladau gwarchod i egluro materion. Gofynnwyd
am sicrwydd na fyddai'r dull amrywiol yn arwain at gynnydd mewn costau
sylweddol yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i beidio â chodi digon o dâl
arnynt. Roedd y STG yn hyderus bod y rhagamcanion wedi
cael eu cyfrifo yn gywir, gan roi manylion ar gyfanswm y gwaith a wnaed yn y
cyswllt hwnnw. Cadarnhaodd hefyd nad oedd unrhyw fecanwaith i
eithrio allan ar gyfer tenantiaid. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cytuno ar yr egwyddorion allweddol a fydd yn penderfynu sut y bydd taliadau
gwasanaeth yn cael eu cyfrifo a'u gweithredu o renti o fis Ebrill 2015 ymlaen
fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn benodol i - ·
fabwysiadu polisi Codi Tâl
Amrywiol ar gyfer dosraniad ac adennill i bob Tenant sy’n derbyn gwasanaethau,
a ·
bod rhenti unigol yn cael eu
lleihau yn y flwyddyn gyntaf gan gyfanswm y gwasanaethau y gellir codi tâl
amdanynt y mae tenantiaid yn eu derbyn. bod y Cabinet yn
nodi y bydd papur arall yn cael ei ystyried ar y taliadau terfynol fel rhan o
broses bennu rhent tai cyngor blynyddol y cyngor ym mis Chwefror 2015. |
|
ADRODDIAD Y CYNLLUN Y CYNLLUN CORFFORAETHOL (CHWARTER 2 2014 – 15) PDF 104 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a
Pherfformiad (copi’n amgaeedig), yn diweddaru’r Cabinet ynglŷn â darparu’r
Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 2, 2014 - 15. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Cofnodion: Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd
Barbara Smith, cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf i’r Cabinet ar y gwaith o gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar
ddiwedd chwarter 2 o 2014/15. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys perfformiad
mewn perthynas â'r Cytundeb Canlyniadau a’r Gofrestr Prosiectau. Dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn fwy
ffafriol na'r chwarter blaenorol, yn enwedig o ran yr economi leol ac fe
amlygodd nifer o welliannau. Cyfeiriwyd at effaith y toriadau ariannol a’r cysylltiadau rhwng gwneud
penderfyniadau o gwmpas broses y gyllideb a'r Cynllun Corfforaethol. Pwysleisiodd y pwysigrwydd i barhau gydag
uchelgeisiau a blaenoriaethau’r Cyngor fel y manylir yn y Cynllun
Corfforaethol. Holodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y tebygolrwydd
o dderbyn taliad llawn o'r grant cytundeb canlyniadau. Fe gyfeiriodd y swyddogion at y broses o
gyd-drafod targedau gyda Llywodraeth Cymru ac ni ragwelwyd unrhyw golli
pwyntiau a fyddai'n effeithio ar y swm sy'n daladwy ar gyfer 2014-15. Disgwylir penderfyniad terfynol ym mis
Ionawr o ran y cytundeb ar berfformiad ar gyfer 2013-2014. Amlygodd y Cynghorydd David Smith ei
bryderon ynghylch cynnal a chadw priffyrdd ac er ei fod yn gobeithio y byddai
safon dderbyniol yn cael ei gynnal, ni fyddai modd ei warantu ar gyfer y
blynyddoedd i ddod o ystyried y sefyllfa ariannol a chael gwared ar gyllid
LABGI (Menter Twf Busnesau Awdurdodau Lleol). PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r Cynllun Corfforaethol. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd
ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer
2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo trosglwyddo £20,000
i Gronfa Gwasanaeth y Crwner; a (c) bod y Cyngor yn ysgrifennu at holl
Aelodau'r Cynulliad yng ngogledd Cymru i ofyn am eu barn am y gostyngiad yn y
cyllid a roddir i briffyrdd Sir Ddinbych a’r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer y
gwelliannau i’r M4. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant o £327,000 yn y gyllideb refeniw ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a
chyllidebau corfforaethol ·
cytunwyd
ar arbedion o £7.1 miliwn yn rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd mae 90% wedi eu
cyflawni ac mae 10% yn mynd rhagddynt ·
amlygwyd
y prif amrywiadau oddi wrth gyllidebau neu dargedau arbedion sy’n berthnasol i
feysydd gwasanaeth unigol, a ·
cafwyd
diweddariad cyffredinol ynglŷn â’r Cyfrif Refeniw Tai; y Cynllun Tai
Cyfalaf a’r Cynllun Cyfalaf (yn cynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd i gymeradwyo
trosglwyddiad o £20,000 i'r Gronfa Gwasanaeth Crwner. Darparodd y Cynghorydd David Smith ddiweddariad ar
Gam 3 o Brosiect Amddiffyn Môr Gorllewin y Rhyl ac fe nododd yr aelodau y
byddai'n cael ei gynnwys yn y Cynllun Cyfalaf yn fuan. Fel Cadeirydd TAITH, fe adroddodd y
Cynghorydd Smith ar lythyrau a anfonodd at y Gweinidog Busnes ynghylch pryderon
am incwm o Asiantaeth Cefnffordd Gogledd a Chanolbarth Cymru ac i'r Gweinidog
Cyllid ynghylch pryderon am gyllid LAGBI, y mae o’n aros am ymatebion. Ailadroddodd y Cynghorydd Eryl Williams ei
bryderon blaenorol ynghylch goblygiadau o ran dyrannu cyllid ar gyfer y
gwelliannau M4 a gofynnodd i lythyrau gael eu hanfon at Aelodau'r Cynulliad yn
hynny o beth. Mewn perthynas â'r gostyngiad yn y Grant Cefnogi Pobl, adroddodd y
Cynghorydd Thompson-Hill ar sefydlu cronfa wrth gefn i reoli'r mater hwn. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo trosglwyddo £20,000 i Gronfa Gwasanaeth y Crwner,
a (c) bod y Cyngor yn ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad yng ngogledd Cymru i
ofyn am eu barn am y gostyngiad yn y cyllid a roddir i briffyrdd Sir Ddinbych
a’r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer y gwelliannau i’r M4. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 251 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried. Holodd y Cynghorydd Bobby Feeley ynglŷn â’r
posibilrwydd o ohirio Cynigion Moderneiddio Addysg ar gyfer ardal Rhuthun er
mwyn caniatáu amser ychwanegol i ystyried yr opsiynau. Y Cynghorydd Eryl Williams yn awyddus i'r
eitem fynd yn ei flaen ym mis Ionawr o gofio bod y prosiectau penodol eisoes
wedi cael eu gohirio er mwyn galluogi pob prosiect i gael eu hystyried ar yr un
pryd, a thynnodd sylw at yr angen am gyllid i gael ei ddyrannu yn ffurfiol. Teimlai hefyd nad oedd digon o amser ar
gyfer yr holl randdeiliaid i ystyried y cynigion ymlaen llaw. Anogodd yr Arweinydd yr holl aelodau i
geisio mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n weddill cyn y cyfarfod nesaf. Derbyniwyd awgrym y Pennaeth Cyllid ac Asedau i
ddileu'r eitem Trethi Busnes o’r rhaglen waith ym mis Ionawr. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Ar y pwynt hwn
(11.25 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth. |
|
DYFODOL GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL MEWNOL PDF 123 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Gofal
Cymdeithasol, Oedolion a Phlant, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gytuno
ag ymgynghoriad ar wasanaethau mewnol y dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cytuno i - (a) yn unol â'r fframwaith
statudol priodol, ymgynghori â phob defnyddiwr gwasanaeth unigol a'u teulu o
ran y cynigion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad i gynnwys asesiad o'u
hanghenion ac argaeledd darpariaeth arall addas i ddiwallu'r anghenion hynny; (b) cynnal ymarfer ymgynghori
cyhoeddus ehangach ar foderneiddio gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol; (c) cyflwyno
adroddiad/adroddiadau ar ganlyniadau'r ymgynghoriadau y cyfeirir atynt yn (a) a
(b) uchod i'r Grŵp Tasg a Gorffen cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Cabinet
gydag arfarniad opsiynau ar gyfer pob un o'r gwasanaethau; a (d) bod y Cabinet yn cadarnhau
na fydd unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth unigol yn cael ei symud oni bai bod
darpariaeth arall addas yn cael ei nodi. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn gofyn
i’r Cabinet gytuno ag ymgynghoriad ar wasanaethau gofal cymdeithasol mewnol y
dyfodol. Cyfranodd gyd-destun i'r adroddiad gan dynnu sylw
at ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) ac effaith y toriadau
sylweddol yn y gyllideb. Sefydlwyd
Grŵp Gorchwyl a Gorffen i edrych ar gynaliadwyedd ariannol y gwasanaethau
gofal cymdeithasol mewnol y Cyngor ac ar eu hargymhelliad i allanoli
gwasanaethau ac arbed £700,000 a gytunwyd arno fel rhan o’r broses o osod y
gyllideb. Er mwyn symud ymlaen â’r gwaith hwnnw roedd angen
ymgymryd ag ymarfer ymgynghori, gan gynnwys asesiadau effaith ar gydraddoldeb. Mae
llawer o sylw wedi bod ar y cynnig i gau y tri chartref gofal preswyl presennol
a chafwyd sicrwydd ar y cychwyn cyntaf na fyddai unrhyw un ohonynt yn cael eu
cau oni bai fod modd diwallu gofynion y trigolion mewn darpariaeth arall. Roedd
y Cynghorydd Feeley hefyd yn awyddus i dynnu sylw at ansawdd y ddarpariaeth yn
y sector preifat a oedd wedi bod yn destun rhywfaint o gyhoeddusrwydd annheg
gan gynghori bod bron i 90% o leoliadau cartrefi gofal a ariennir gan y Cyngor
yn y cartrefi sector preifat. Cyfeiriodd y
Cabinet at yr effaith y byddai cau cartrefi gofal yn ei gael ar eu preswylwyr,
teuluoedd a chymunedau ehangach. Roedd yr aelodau'n awyddus i archwilio'r
posibilrwydd o opsiynau eraill, fel cynlluniau tai gofal ychwanegol ynghyd â
phecynnau gofal gwell gan alluogi pobl i fyw gartref yn annibynnol am gyfnod
hirach, ond tynwyd sylw at yr angen i ystyried a allai anghenion defnyddwyr
gwasanaeth presennol ac yn y dyfodol gael eu diwallu o fewn eu hardaloedd
presennol pe baent yn bwrw mlaen â’r cynigion. Mae
mwy o ddarpariaeth o'r fath i’w gael mewn ardaloedd mwy poblog y sir ond yn
brin yn y De, yn enwedig yn ardal Corwen ac mae angen rhoi ystyriaeth i
ddarpariaeth iaith Gymraeg wrth ymgymryd ag asesiadau effaith ar unigolion. Ymhelaethodd
y swyddogion ar y cynnydd o ran datblygu darpariaeth amgen mewn ardaloedd
penodol ynghyd â'r broses ymgynghori a fyddai'n cynnwys cyfarfod â phreswylwyr
cartrefi gofal a'u teuluoedd i egluro sut y gellir darparu gwasanaethau a
chasglu barn ar unrhyw newidiadau.
Byddai asesiad effaith ar gyfer
y rhai yr effeithir arnynt yn cael ei wneud a fyddai'n cynnwys darpariaeth
iaith Gymraeg. Teimlai'r Aelodau y byddai’n fanteisiol cael y
Grŵp Grwp Tasg a Gorffen i ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad cyn i'r
mater gael ei adrodd yn ôl i'r Cabinet ym mis Ebrill/Mai 2015. Fe dynodd y
Cynghorydd Ray Bartley sylw at yr angen am ymgynghoriad cyhoeddus ehangach ac
fe ysgogodd hynny drafodaeth hir am natur yr ymgynghoriad i'w gynnal o ran
safbwyntiau canfasio a diwallu anghenion penodol y defnyddwyr gwasanaeth
presennol a'r ddadl ehangach ar foderneiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yn
y dyfodol. Yn gyffredinol derbyniwyd bod angen dau
ymgynghoriad ar wahân. Amlygwyd yr angen am gyfathrebu effeithiol
gyda defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a staff hefyd ynghyd â rheolaeth
briodol o’r wasg. Pwysleisiodd y Cynghorydd Cefyn Williams fod
Cysgod y Gaer yn rhan bwysig o'r gymuned leol a oedd eisoes wedi bod yn destun
cau ysgolion a chyfleusterau llai ac roedd yn bryderus bod darpariaeth arall
addas yn golygu symud allan o'r ardal i drigolion lleol. Ystyriodd y
Cabinet bod angen i ddiwygio'r argymhellion yng ngoleuni'r ddadl ac yn dilyn
hynny - PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cytuno i - (a) yn unol â'r fframwaith statudol priodol, ymgynghori â phob defnyddiwr
gwasanaeth unigol a'u teulu o ran y cynigion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad i
gynnwys asesiad o'u hanghenion ac argaeledd darpariaeth arall addas i
ddiwallu'r anghenion hynny; (b) cynnal ymarfer ymgynghori ... view the full Cofnodion text for item 12. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
o dan Adran 100A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd i'w gwahardd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail fod tebygrwydd y byddai
gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 13, 14, 15 ac 16 o Ran
4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
MORFA LODGE, FFORDD ABERGELE, RHUDDLAN A'R TIR YN FFORDD ABERGELE, RHUDDLAN Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol
dros Gyllid ac Asedau, (copi’n amgaeedig) yn argymell i’r Cabinet
gymeradwyo i ddatgan nad oes angen y
fferm a’r tir, a’u gwerthu ar y farchnad agored. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo datgan Morfa Lodge Farm, a thir yn Ffordd Abergele (ag ymyl coch ar
Atodiad A ynghlwm wrth yr adroddiad) fel tir dros ben a chymeradwyo cael gwared
ar y fferm ar y farchnad agored trwy arwerthiant. Cofnodion: Fe gyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad cyfrinachol yn argymell i’r Cabinet
gymeradwyo i ddatgan nad oes angen y
fferm a’r tir, a’u gwerthu ar y farchnad agored. Ystyriodd y
Cabinet rinweddau'r cynnig gan nodi bod gwarediad yn cydymffurfio â strategaeth
ystadau amaethyddol y Cyngor ac y byddai'n creu derbynneb cyfalaf sylweddol a
fyddai’n darparu cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf. Cadarnhaodd
y swyddogion y byddai'r tir yn cael ei rhannu'n lotiau i wneud y mwyaf o’r
incwm a gynhyrchir gan ymateb i gwestiynau ynghylch defnydd tir posibl. Gofynnodd
yr Aelodau gwestiynau hefyd ynghylch polisi ac arfer cyffredinol sy'n ymwneud â
rheoli ystadau a datblygiadau amaethyddol sy’n berthnasol i ffermydd penodol. O
ganlyniad - PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo datgan Morfa Lodge Farm, a thir yn Ffordd Abergele (ag ymyl coch ar
Atodiad A ynghlwm wrth yr adroddiad) fel tir dros ben a chymeradwyo cael gwared
ar y fferm ar y farchnad agored trwy arwerthiant. Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm. |