Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 67 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorwyr Richard Davies, Huw Hilditch-Roberts, Huw Jones, Martyn Holland, Dewi Owens, David Simmons, Julian Thompson-Hill a Joe Welch gysylltiad personol yn Eitem Rhaglen Rhif 5.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Richard Davies, Huw Hilditch-Roberts, Huw Jones, Martyn Holland, Dewi Owens, David Simmons, Julian Thompson-Hill a Joe Welch gysylltiad personol yn Eitem 5 ar yr Agenda.

 

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 143 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2014 (copi’n amgaeedig). 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2014 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2014

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2014 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd ei lofnodi.

 

 

5.

POLISI CYMHWYSTER CLUDIANT O’R CARTREF I’R YSGOL pdf eicon PDF 305 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth i gael mannau codi disgyblion ysgolion uwchradd ac i egluro'r polisi presennol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cytuno i ddiwygio'r polisi presennol i gyflwyno mannau casglu canolog ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd;

 

(b)       nodi'r polisi llawn yn Atodiad 1 i'r adroddiad a fydd yn ei grynodeb yn darparu cludiant am ddim i'r ysgol uwchradd briodol agosaf o fan casglu dynodedig;

 

(c)        caniatáu i ddisgyblion ysgol uwchradd presennol barhau i gael mynediad i gludiant am ddim am weddill eu bywyd ysgol statudol presennol o fan casglu canolog;

 

(d)       nodi nad oes unrhyw newid i gludiant ar gyfer disgyblion ysgol gynradd;

 

(e)       cytuno bod yr argymhellion uchod yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith yn unol â galwad y Cyngor o ran rheolau gweithdrefn a gynhwysir yn y cyfansoddiad yn wyneb yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad,

 

(f)         gofyn i'r Grŵp Strategol Addysg Gymraeg adolygu categori iaith pob ysgol yn ystod tymor yr hydref a chyflwyno adroddiad i’r pwylgor archwilio yn gynnar yng ngwanwyn 2015; a

 

(g)    fod asesiad o effaith adolygu’r polisi yn cael ei gynnal gyda’r canfyddiadau yn cael eu cyflwyno i bwyllgor archwilio ar derfyn blwyddyn gyntaf ei weithrediad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg adroddiad (copi'n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i weithredu mannau codi ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd ac i egluro'r polisi presennol. 

 

Darparwyd ychydig o gefndir i'r adroddiad ynghyd ag eglurhad o'r broses ymgynghori a'r amserlenni i’w gweithredu.  Diolchodd y Cynghorydd Williams i ymatebwyr i’r ymgynghoriad am eu cyfraniad.  Mae'r holl ymatebion wedi'u hystyried yn ofalus ac mae'r prif faterion a godwyd wedi cael sylw yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet i weithredu mannau casglu canolog ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd a fyddai'n cynhyrchu arbedion o tua £272k a nodwyd bod adborth wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan yn dibynnu os oedd y prosesau asesu risg perthnasol yn eu lle.  Canolbwyntiodd y Cabinet hefyd ar ganlyniad gorfodi'r polisi newydd i gael gwared ar anghysondebau hanesyddol yn y broses cymhwyster ynghyd â'r pryderon a godwyd fel rhan o'r broses ymgynghori, gan gydnabod ei fod yn fater cymhleth iawn.  O ganlyniad, gofynnodd yr aelodau gwestiynau yn ogystal â cheisio cael sicrwydd ynghylch materion penodol a godwyd er mwyn bodloni eu hunain bod y cynigion a gafwyd yn yr adroddiad yn cynrychioli'r ffordd orau ymlaen.

 

Canolbwyntiodd prif rannau’r drafodaeth ar y canlynol -

 

·        cydnabuwyd bod unrhyw arbedion a gynhyrchir yn gweithredu mannau casglu canolog yn mynd i'r afael â'r gorwariant presennol yn y gyllideb cludiant ysgol yn unig ac ni fyddai'n dod i rym tan fis Medi 2015 – o ystyried y sefyllfa ariannol bresennol sydd ohoni byddai adrannau anstatudol eraill o’r polisi yn debygol o fod yn amodol i adolygiad yn y dyfodol

·        eglurwyd bod anghysondebau wedi'u creu dros nifer o flynyddoedd oherwydd y diffyg eglurder yn y polisi gyda swyddogion wedi cymryd ymagwedd bragmatig a rhesymol i geisiadau, ond mae'r costau cynyddol a diffyg eglurder yn golygu bod angen adolygiad i fynd i'r afael â'r materion hynny – roedd aelodau’n cydnabod bod yna angen am bolisi clir a chryno i sicrhau dull cyson ar draws Sir Ddinbych a chydraddoldeb i bob disgybl

·        dywedodd y swyddogion er mwyn bod yn gymwys am gludiant ysgol am ddim roedd y pellter rhwng y cartref a'r ysgol yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio ffyrdd dosbarthiadol - cydnabuwyd o bosib na fyddai’r llwybr mwyaf uniongyrchol yn cael ei ddefnyddio i gludo disgyblion yn dibynnu ar y nifer a lleoliad y disgyblion eraill i gael eu cludo a chan gymryd i ystyriaeth y llwybr mwyaf diogel, a dyna pam mae anghysondeb lle mae'r man codi ar gyfer disgyblion yn nes i ysgol wahanol na'r un y maent yn ei fynychu - efallai y bydd achlysuron pan ei fod yn fwy cost-effeithiol i ddarparu cludiant i ysgol arall a'r hawl i ddefnyddio disgresiwn yn yr amgylchiadau penodol hynny wedi cael ei gynnwys yn y polisi hwn

·        nododd yr aelodau bryderon rhieni yn ardal Saron lle byddai gorfodi’r polisi yn effeithio’r arw ar eu plant ac er  y cafodd y posibilrwydd o  ysgolion sy'n bwydo gael ei grybwyll cydnabuwyd mai’r dull o gyfrifo cymhwyster o'r cartref i'r ysgol yn hytrach na ysgol i ysgol a ddefnyddiwyd ac ni fyddai'n gyfreithlon i wneud eithriad i'r polisi ar gyfer un ysgol neu ardal benodol

·        dangosol yn unig oedd y rhestr o fannau codi yn y polisi drafft ar hyn o bryd a byddai'n amodol ar asesiadau risg a wnaed yn unol â'r Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) – darparodd swyddogion fanylion penodol am y broses asesu risg a rhoi sicrwydd bod y ffordd rhwng Saron a Chyffylliog (a oedd wedi bod yn destun pryder penodol) ddim yn cael ei ddefnyddio gan fysiau ysgol ac yn amodol ar asesiad risg ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

DEDDF A SGORIO HYLENDID BWYD (CYMRU) 2013 - AWDURDOD DIRPRWYEDIG pdf eicon PDF 84 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeedig) yn argymell pwerau dirprwyedig ychwanegol ar gyfer Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod -

 

(a)       y pwerau o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ynghyd ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan hynny ac unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau iddo ac ymarfer yr holl bwerau perthnasol eraill, gan gynnwys pwerau i gael mynediad o dan ddeddfwriaeth o'r fath, yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd,

 

(b)      

y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd hefyd yn cael yr awdurdod i ddirprwyo’r pwerau hyn ymhellach i swyddogion yn y gwasanaeth gyda'r cymwyseddau perthnasol, sgiliau, cymwysterau ac awdurdodiadau

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad su’n argymell pwerau dirprwyedig ychwanegol ar gyfer Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.

 

Byddai rhoi pwerau dirprwyedig yn galluogi gorfodi'r ddeddfwriaeth ac yn caniatáu i’r dyletswyddau statudol hynny dan y Ddeddf i gael eu rhyddhau.  Cadarnhawyd y dylai bathodyn y System Sgorio Hylendid Bwyd gael ei arddangos eisoes mewn eiddo busnesau bwyd.  Talodd yr Arweinydd deyrnged i waith y Tîm Diogelwch Bwyd ar gyfer busnesau sy'n dal i gyfrif a'r cymorth a'r cyngor y maent yn ei ddarparu.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       bod y pwerau o dan y Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ynghyd ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan hynny ac unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau iddo, a'r  holl bwerau perthnasol eraill, gan gynnwys pwerau i gael mynediad o dan ddeddfwriaeth o'r fath yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, a

 

(b)       bod Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd hefyd yn cael yr awdurdod i ddirprwyo’r pwerau hyn i swyddogion o fewn y gwasanaeth gyda'r cymwyseddau, sgiliau, cymwysterau ac awdurdodiadau perthnasol.

 

 

7.

DEDDF RHEOLI CEFFYLAU (CYMRU) 2014 - AWDURDOD DIRPRWYEDIG pdf eicon PDF 125 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeedig) yn argymell mabwysiadu’r ddeddfwriaeth newydd a’r pwerau dirprwyedig ychwanegol ar gyfer Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod -

 

(a)       Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 yn cael ei fabwysiadu gan yr Awdurdod hwn;

 

(b)       y pwerau o dan Ddeddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd,

 

(b)       awdurdod dirprwyedig yn cael ei ddirprwyo’n awtomatig i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mewn perthynas ag unrhyw Reoliadau dilynol a wnaed o dan y Ddeddf.

 

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad sy’n argymell mabwysiadu deddfwriaeth newydd sef y Ddeddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 a dirprwyo pwerau ychwanegol i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.  Esboniodd fod y Ddeddf yn rhoi pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r materion gadael ceffylau a merlod a phori anghyfreithlon.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       mabwysiadu Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 gan yr Awdurdod hwn;

 

(b)       bod y pwerau o dan Ddeddf Rheoli Ceffylau a Merlod (Cymru) 2014 yn cael ei ddirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.

 

(c)        bod yr awdurdod dirprwyedig yn cael ei ddirprwyo yn awtomatig i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mewn perthynas ag unrhyw Reoliadau dilynol a wnaed o dan y Ddeddf.

 

 

8.

DEDDF CARTREFI SYMUDOL (CYMRU) 2013 – AWDURDOD DIRPRWYEDIG pdf eicon PDF 107 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeedig) yn argymell mabwysiadu’r ddeddfwriaeth newydd a’r pwerau dirprwyedig ychwanegol ar gyfer Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod -

 

(a)       Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn cael ei mabwysiadu ar ran y Cyngor;

 

(b)       y pwerau o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd;

 

(c)        awdurdod dirprwyedig yn cael ei ddirprwyo’n awtomatig i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mewn perthynas ag unrhyw Reoliadau dilynol a wneir o dan y Ddeddf;

 

(d)       awdurdod dirprwyedig i osod ffioedd a thaliadau i’w darparu i'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd;

 

(e)       y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn cael ei awdurdodi i ddirprwyo'r pwerau i Swyddogion eraill sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ac sy’n gymwys o fewn y Cyngor drwy ddarparu Awdurdodiadau perthnasol iddynt.

 

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad sy’n argymell mabwysiadu deddfwriaeth newydd sef y Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 a dirprwyo pwerau ychwanegol i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.  Eglurodd bod y Ddeddf yn rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol yng Nghymru i wella rheoleiddio'r diwydiant cartrefi symudol fel bod amodau ar safleoedd cartrefi symudol yn well a bod hawliau trigolion yn cael eu hamddiffyn yn well.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving am y problemau a brofwyd gan breswylwyr cartrefi symudol yn ei ward ac am y gobaith y byddai mabwysiadu'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y byddai'r materion hynny yn derbyn sylw.  Ymatebodd Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd i gwestiynau ac eglurodd sut y byddai'r broses drwyddedu yn cael ei weithredu a'i reoli er mwyn sicrhau bod safonau'n cael eu bodloni.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       bod y Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn cael ei mabwysiadu ar ran y Cyngor;

 

(b)       bod y pwerau o dan Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn cael eu dirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd;

 

(c)        bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei ddirprwyo yn awtomatig i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mewn perthynas ag unrhyw Reoliadau dilynol a wnaed o dan y Ddeddf;

 

(d)       rhoi awdurdod dirprwyedig i osod ffioedd a thaliadau i Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, a

 

(e)       bod y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn cael ei awdurdodi i ddirprwyo'r pwerau i Swyddogion eraill sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ac sy’n gymwys o fewn y Cyngor drwy ddarparu awdurdodiadau perthnasol iddynt.

 

Ar y pwynt hwn (11.30am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

9.

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2013/14 pdf eicon PDF 82 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2013/14 i'r Cabinet cyn ei gyflwyno i'r Cyngor er cymeradwyaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y bydd Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2013/14 yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir er cymeradwyaeth.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith ddrafft o’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2013/14 i'r Cabinet i'w ystyried cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

Mae gofyn i’r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar ei berfformiad erbyn 31 Hydref pob blwyddyn.   Darparodd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol werthusiad ôl-weithredol o gynnydd y Cyngor yn ystod 2013/14 a bod trefniadau wedi’u gwneud i sicrhau gwelliant parhaus.  Ar y cyfan yr oedd yn adroddiad cadarnhaol ac roedd yn galonogol nodi'r gwelliannau a wnaed mewn meysydd penodol. 

 

Trafodwyd y materion canlynol:-

 

·        roedd problemau gyda echdynnu data o'r System Rheoli Cyswllt Cwsmer (RhCC) a chafodd  dangosyddion eu hadolygu o ganlyniad – roedd llawer o’r gwaith yn mynd rhagddo er mwyn moderneiddio a gwella'r broses a gwnaed achos busnes ar gyfer RhCC newydd

·        cydnabuwyd nad oedd dangosyddion coch o reidrwydd yn achosi pryder a bu'n rhaid eu hystyried mewn cyd-destun, roedd yr enghreifftiau a ddarparwyd yn cynnwys amseroldeb cyfarfodydd grŵp craidd yn dilyn cynadleddau amddiffyn plant a nifer y diwrnodau/shifftiau gwaith a gollwyd oherwydd absenoldeb salwch - cytunwyd darparu’r cyd-destun hwn yn y crynodeb canlyniadau yn adroddiadau’r dyfodol

·        adroddodd y swyddogion ar y broses ar gyfer pennu dangosyddion a throthwyon gan ystyried data cenedlaethol a’r lefelau a'r blaenoriaethau ar gyfer y Cyngor

·        nid oedd yn glir yn y ddogfen fod y saethau yn dynodi tuedd o welliant/dirywiad a chytunodd yr aelodau bod yr eglurhad hwn yn cael ei ddarparu mewn adroddiadau yn y dyfodol er mwyn osgoi dryswch

·        o ran canlyniad 7 - byddai myfyrwyr yn cyflawni eu potensial, fe adroddodd y Cynghorydd Eryl Williams ar y canlyniad eleni a oedd yn dangos ychydig o welliant ar gyfer Sir Ddinbych.  Atgoffodd yr aelodau bod Sir Ddinbych wedi dechrau o sylfaen dda a bod strategaeth yn ei le i herio a gwella canlyniadau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

 

Fe ystyriodd y Cabinet hefyd sut y byddai'r toriadau sylweddol yn y gyllideb sy'n wynebu'r awdurdod yn effeithio ar berfformiad yn y dyfodol ac a oes angen adolygu’r dangosyddion o ganlyniad i hynny.  Dywedodd y Prif Weithredwr am yr angen i wneud penderfyniadau ymwybodol ynglŷn â pha adrannau y byddai'r Cyngor yn fodlon derbyn gostyngiad mewn perfformiad ond cynghorwyd yn erbyn adolygu dangosyddion tuag i lawr, gan ychwanegu y dylai'r Cyngor ymdrechu i gadw ei safle fel y gorau yng Nghymru.  Adroddodd am waith i alinio proses y gyllideb gyda'r broses o reoli perfformiad yn ei le i olrhain effaith y penderfyniadau hynny.  Ar ôl cwblhau hynny byddai'r gwaith hwn yn cael ei gyflwyno i'r aelodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Barbara Smith y byddai Chwarter 2 o’r Adroddiad Perfformiad yn cael ei gynhyrchu ym mis Tachwedd ac yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i'w ystyried.

 

PENDERFYNWYD –bod drafft Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2013/14 yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir i’w gymeradwyo.

 

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI TRYSORLYS 2013/14 pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn diweddaru'r Cabinet ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad y Cyngor â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2013/14.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y caiff yr Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2013/14 yn cael ei nodi.

 

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn diweddaru'r Cabinet ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys a dangos cydymffurfiad y Cyngor â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2013/14.

 

Wrth grynhoi'r adroddiad fe esboniodd y Cynghorydd Thompson-Hill ei bod yn ddogfen hanesyddol a thynnodd sylw’r aelodau at y prif bwyntiau o ran benthyca a gweithgarwch buddsoddi yn ystod 2013/14 ac ymhelaethodd hefyd ar nifer o ddangosyddion darbodus allweddol.  Fe dynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau (HFA) sylw at yr ansicrwydd yn y sector yn ariannol a chyfeiriodd at y strategaethau a ddefnyddir i reoli'r risgiau hynny a'r angen i edrych ar fuddsoddiadau eraill yn y dyfodol.  Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch ail-ariannu dyled fe eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau ers cyflwyno cosbau mawr gan y llywodraeth nid yw bellach yn opsiwn ymarferol.

 

PENDERFYNWYD bod Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2013/14 yn cael ei nodi.

 

 

11.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 105 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth cyllideb y cytunwyd arni;

 

(b)       Cymeradwyo’r gwaith o greu Gwarchodfa Offer Newydd ar gyfer y Gwasanaethau Hamdden gan nodi y byddai dyraniadau i'r gronfa wrth gefn yn amodol ar gymeradwyaeth bellach gan y Cabinet;

 

(c)        Cymeradwyo proses o drosglwyddo £30k i Gronfa Gwasanaeth y Crwner a fydd yn helpu i hwyluso gostyngiad yn y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.  Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        rhagwelwyd gorwariant net ar y gyllideb refeniw o £114k ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        cytunwyd ar arbedion o £7.1m fel rhan o'r gyllideb ac ar hyn o bryd ystyrir bod y rhain wedi eu cyflawni

·        amlygwyd y prif amrywiadau eraill o gyllidebau neu dargedau arbedion  sy’n berthnasol i feysydd gwasanaeth unigol, a

·        diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf Tai a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Gofynnwyd hefyd i'r Cabinet gymeradwyo’r Cronfa wrth gefn ar gyfer Newid Offer i Wasanaethau Hamdden a throsglwyddo £30k i'r Gronfa Gwasanaeth Crwner.

 

Tynnodd y Cynghorydd Hugh Irving sylw at  y posibilrwydd o ostyngiad mewn incwm parcio o ystyried y ddarpariaeth parcio am ddim ym Mharc Prestatyn.  Tynnodd sylw at y problemau sy'n gysylltiedig â pharcio ceir yn anghyfrifol a bod angen mynd i'r afael â’r broblem.  Cytunodd y Cynghorydd David Smith bod lle i wella gan ddweud y byddai'r wardeiniaid traffig yn cael eu defnyddio ar ddiwrnodau afreolaidd gydag oriau amrywiol ac y byddai'n cadw llygad barcud ar y mater.  Teimlai'r Cynghorydd Eryl Williams fod angen presenoldeb dyddiol mewn trefi ac awgrymodd dull partneriaeth gyda chynghorau tref i fynd i'r afael â'r mater a fyddai hefyd yn darparu incwm.  O ran balansau ysgolion fe atgoffodd y Cynghorydd Williams yr aelodau nad oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros y ffordd y byddai’r cyllid hynny’n cael ei wario.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby Feeley ynghylch y Gronfa Gofal Canolraddol fe gynghorodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol eu bod yn disgwyl cadarnhad ynghylch a fyddai'r grant yn cael ei ymestyn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2014/15 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo creu Cronfa ar gyfer Newid Offer ar gyfer Gwasanaethau Hamdden gan nodi y byddai dyraniadau i'r gronfa wrth gefn yn amodol i gymeradwyaeth pellach gan y Cabinet, a

 

(c)        cymeradwyo trosglwyddo £30k i Gronfa Gwasanaeth y Crwner a fydd yn helpu i hwyluso gostyngiad yn y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod.

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 115 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’r aelodau ei ystyried ac fe nododd yr aelodau nifer o eitemau ychwanegol i'w cynnwys.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm.