Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

CROESO

Estynnodd yr arweinydd groeso cynnes i aelodau’r cyhoedd a oedd yn bresennol i glywed y drafodaeth am gynigion am ddarpariaeth ffydd.  Cyflwynwyd cynrychiolwyr o'r Awdurdodau Esgobaethol ac Ymddiriedolaeth Santes Ffraid.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnus ag unrhyw fusnes y bwriedir ei ystyried yn y cyfarfod.

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw ddatganiad o gysylltiad personol neu ragfarnus.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad personol na rhagfarnllyd gan unrhyw un.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys o dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Dim mater brys wedi’i godi.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 200 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 16 Ebrill 2013 (copi’n amgaeedig).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 16 Ebrill 2013 fel cofnod cywir a’u llofnodi gan yr Arweinydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2013.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2013 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

 

5.

DARPARIAETH YN SEILIEDIG AR FFYDD pdf eicon PDF 107 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi'n amgaeedig) yn rhoi gwybod i'r Cabinet am ganfyddiadau'r ymgynghoriad anffurfiol cychwynnol ar ddyfodol darpariaeth sy'n seiliedig ar ffydd, a cheisio cymeradwyaeth i ddechrau’r cam ffurfiol nesaf o ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i gau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Santes Ffraid ac agor ysgol newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad;

 

(b)       cymeradwyo’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cynigion i gau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Santes Ffraid o 31 Awst 2014 er mwyn hwyluso sefydliad ysgol ffydd newydd yn unol â'r penderfyniad canlynol;

 

 (c)       cymeradwyo ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer agor ysgol newydd o 1 Medi 2014 mewn partneriaeth ag Awdurdodau Esgobaethol yr Eglwys Gatholig ac Eglwys yng Nghymru;

 

(d)       cytuno bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal dim hwyrach na haf 2015 i nodi’r safle lle byddai’r ysgol ffydd newydd ar y cyd, a

 

(e)       cynnal ymgynghoriad pellach i archwilio'r posibilrwydd o ddarparu darpariaeth gynradd ar yr un safle â’r ysgol uwchradd ffydd ar y cyd

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol â’r eitem hon.]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg, yr adroddiad yn rhoi gwybod i'r Cabinet am ganfyddiadau'r ymgynghoriad anffurfiol cychwynnol ar ddyfodol addysg ffydd, a cheisio cymeradwyaeth i ddechrau’r cam ffurfiol nesaf o ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i gau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Santes Ffraid ac agor ysgol ffydd newydd ar y cyd.  Cyflwynwyd ymateb ffurfiol i’r cynigion gan yr Awdurdodau Esgobaethol ac Ymddiriedolaeth y Santes Ffraid yn y cyfarfod a gwahoddwyd cynrychiolwyr i roi cyflwyniad byr.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Williams rywfaint o gefndir i’r sefyllfa a thynnodd sylw at yr angen am ddull gweithredu strategol a chydlynol sy’n ystyried polisïau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau buddsoddiad a sicrhau darpariaeth addysg o safon.  Cyfeiriodd at y camau yn y broses adolygu gan ddweud bod angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ac addysg o safon yn y dyfodol.  Ymatebodd y Cynghorydd Williams i bryderon a godwyd gan Ymddiriedolaeth Santes Ffraid yn eu hymateb ffurfiol gan ddweud bod cynllun cyllideb cynhwysfawr wedi’i baratoi i sicrhau bod modd gwireddu dyheadau a bod cyllidebau wedi’u neilltuo i gyflawni cynigion.  Rhoddodd sicrwydd hefyd ynghylch y galw am ysgol newydd gan sôn am y dadansoddiad manwl a gynhaliwyd yn hynny o beth a rhagamcaniadau ar gyfer y dyfodol.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd gynrychiolwyr a oedd yn bresennol o’r Awdurdodau Esgobaethol ac Ymddiriedolaeth Santes Ffraid i roi cyflwyniad byr.

 

Mynegodd Carole Burgess o Esgobaeth Llanelwy ei boddhad o fod yn rhan o syniad mor gyffrous a chadarnhaodd fod Bwrdd ac Esgobaeth Llanelwy yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig fel cyd-hyrwyddwyr i’r cynnig am ysgol uwchradd ffydd newydd ar y cyd. 

Wrth groesawu’r cynnig, tynnodd sylw at lwyddiant Ysgol St. Joseph yn Wrecsam sy’n cynnig darpariaeth Anglicanaidd/Gatholig ar y cyd.  Adleisiodd Rita Price o Esgobaeth Gatholig Wrecsam y teimladau hynny gan ddweud bod y syniad o ysgol a rennir wedi bod dan drafodaeth ers tro.  Roedd Esgobaeth Wrecsam, fel cyd-hyrwyddwr, yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i’r cynnig am ysgol uwchradd a rennir a’i dyheadau am addysg ffydd yn Sir Ddinbych.  Tynnodd sylw at yr ymrwymiad i ddarparu ysgol o’r safon uchaf i wella dyheadau i blant a theuluoedd yn yr ardal.  Cyfeiriodd John Kenworthy, cyn Bennaeth Ysgol St. Joseph at debygrwydd sylfaenol ag Ysgol Santes Ffraid a soniodd am lwyddiant cyfnod pontio Ysgol St. Joseph i fod yn ysgol ffydd ar y cyd.  Gofynnodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am sicrwydd gan yr Awdurdodau Esgobaethol am eu hymrwymiad yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad a’u cyfraniad ariannol.  Cadarnhaodd Carole Burgess a Rita Price eu hymrwymiad i ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion a byddent yn ymateb mor gadarnhaol ag y gallent i ganlyniad yr ymgynghoriad.  Nodwyd mai cyfraniad bach fyddai ar gael gan Esgobaeth Llanelwy a bod Esgobaeth Wrecsam wedi ymrwymo unrhyw sicrwydd pellach a gafwyd o werthu rhan o safle’r Rhyl.  Eglurodd y Cynghorydd Williams nad oedd y cynigion yn dibynnu ar unrhyw gyfraniadau ariannol a bod cyllid wedi’i neilltuo at y diben hwnnw.

 

Cyfeiriodd Mr Philip Eyton-Jones o Ymddiriedolaeth Santes Ffraid at lwyddiant Ysgol Santes Ffraid wrth gynnig darpariaeth barhaus i blant rhwng 3 ac 19 oed a thynnodd sylw at y gefnogaeth a gafwyd gan rieni i'r ysgol fel a ddangoswyd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad a’u hawydd i weld yr ethos a’r fframwaith presennol yn aros. 

Roedd yr Ymddiriedolaeth o’r farn fod y cynnig yn gynamserol o ystyried bod yr arfarniad o’r dewis yn ddiffygiol o ran manylion sylweddol, felly ni fyddai'r Ymddiriedolaeth yn gallu hybu'r cynnig ar ei ffurf bresennol.  Mynegwyd pryderon penodol ynghylch absenoldeb penderfyniadau cadarn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 83 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig), yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.  Rhoddodd grynodeb byr o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·         nid oedd amrywiant gwasanaeth i’w adrodd yn y cam cynnar hwn yn y flwyddyn ariannol

·         roedd £514k (17%) o arbedion y cytunwyd arnynt wedi’u sicrhau hyd yma

·         cyfanswm y gyllideb net i ysgolion oedd £68.3m - yn yr elfen heb ei dirprwyo, roedd cyfrifoldeb am ddarpariaethau clwb brecwast wedi’i drosglwyddo o grant penodol i Grant Cynnal Refeniw y Cyngor gan arwain at gyllid ychwanegol o tua £150k a fyddai’n cael ei ddefnyddio i gyfrannu at ddarparu sicrwydd i ysgolion y mae’r adolygiad diweddar o’r fformwla cyllido wedi effeithio’n andwyol arnynt

·         roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn dal i fod ar ei darged, ac

·         roedd yn darparu manylion am y Cynllun Cyfalaf gan gynnwys y gwariant a gynlluniwyd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol.

 

Cymerodd yr aelodau’r cyfle i ofyn cwestiynau a chawsant yr ymatebion canlynol -

 

·         dylid cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd 2013/14.

·         dim ond ar gyfer darparu gwasanaethau tai y cyngor y gellid defnyddio cyllid o’r Cyfrif Refeniw Tai

·         roedd arolwg cyflawn o stoc tai wedi’i gwblhau y flwyddyn flaenorol ac roedd rhaglen dreigl fuddsoddi hirdymor ar waith

·         roedd cydnabyddiaeth yn y Gwasanaethau Amgylcheddol wrth gytuno ar yr arbedion, bod angen cyllido rhai pwysau hefyd

·         byddai arbedion a oedd yn gysylltiedig â throsi defnyddwyr car hanfodol yn ddefnyddwyr achlysurol yn cael eu darparu yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol ond roedd pwysau wedi’i nodi ar gyfer y flwyddyn nesaf

·         mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies ynghylch effaith y dreth ystafelloedd gwely ac ailgartrefu tenantiaid, awgrymodd yr Arweinydd fod y mater yn cael ei gyfeirio at y pwyllgor archwilio priodol i’w ystyried

·         eglurwyd y dyraniad treigl o £1m i gynlluniau dros dro yn y Cynllun Cyfalaf

·         byddai eglurhad manwl o’r Cynllun Corfforaethol gan gynnwys defnydd adnoddau a chynlluniau cyllido yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a byddai mwy o fanylder ynghylch yr elfennau hynny yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau cyllid yn y dyfodol i’r Cabinet.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru i gronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol a goblygiadau posibl i Sir Ddinbych o ran ei strategaeth i adeiladu cronfa wrth gefn i gyllido’r Cynllun Corfforaethol.  Roedd yn bwysig bod rhinweddau’r strategaeth hon yn llywio’r drafodaeth ar lefelau priodol ar gyfer cronfeydd wrth gefn.  Ychwanegodd y Cynghorydd Thompson-Hill y dylid gwahaniaethu rhwng cronfeydd wrth gefn amhenodol a darpariaethau a neilltuwyd at ddiben penodol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

 

7.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 119 KB

I dderbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol sy’n amgaeedig a nodi ei chynnwys.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w ystyried.  Gofynnodd yr Aelodau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i aildrefnu rhai eitemau ar y rhaglen gwaith ar gyfer mis Mehefin o ystyried faint o faterion oedd i’w trafod ac os oes angen, dylid paratoi ar gyfer cyfarfod diwrnod cyfan.   Cytunwyd symud yr adolygiad o Grŵp Llywio’r CDLl o’r rhaglen honno a’i gynnwys yn adroddiad y CDLl i’r Cyngor yn lle hynny.  Cytunwyd hefyd cynnwys Darpariaeth Ffydd fel eitem ar y rhaglen gwaith ar gyfer 24 Medi. 

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

8.

TRAWSNEWID CLUDIANT – PROSIECT CYDWEITHREDOL RHANBARTHOL CLUDIANT TEITHWYR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeedig), yn ceisio cytundeb y Cabinet i ddatblygu Achos Busnes Llawn ar gyfer gweithredu uned integredig unigol yn raddol, i ddarparu gwasanaethau cludiant i deithwyr yng Ngogledd Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r Achos Busnes Amlinellol, yn derbyn yr opsiwn a ffafrir ac yn cytuno bod y prosiect rŵan yn cynnig datblygu Achos Busnes Llawn ar gyfer gweithredu uned integredig sengl yn raddol er mwyn darparu gwasanaethau cludo teithwyr yng Ngogledd Cymru a

 

(b)       nodi y byddai unrhyw benderfyniad i weithredu uned integredig ond yn cael ei wneud ar ôl i’r Cynghorau ystyried a chymeradwyo’r Achos Busnes Llawn, ac y byddai trefniadau llywodraethu’r dyfodol ond yn cael sylw yn ystod datblygiad yr Achos Busnes Llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio cytundeb y Cabinet i ddatblygu Achos Busnes Llawn ar gyfer gweithredu uned integredig unigol yn raddol i ddarparu gwasanaethau cludiant teithwyr yng Ngogledd Cymru.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers tro ar lefel ranbarthol ar yr opsiynau dros gyfuno gwasanaethau Cludiant Teithwyr ar draws cynghorau Gogledd Cymru.  Roedd manylion am gwmpas y prosiect; arfarnu opsiynau a therfynau amser wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a gwnaed cyfeiriad penodol at y dewis a argymhellir a’r rhesymau dros hynny.   Ychwanegodd y Cynghorydd Smith fod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau wedi ystyried yr Achos Busnes Amlinellol a’r dewis a argymhellir a’u bod yn fodlon gweld y cynigion yn datblygu i gam nesaf yr ymchwiliad a chael adroddiadau cynnydd rheolaidd ar ddatblygiad yr Achos Busnes Llawn.

 

Wrth drafod yr adroddiad, gofynnwyd am sicrwydd ynghylch cyllid a threfniadau llywodraethu a dywedwyd wrth yr aelodau y byddai’r elfennau hynny’n cael eu hymchwilio’n llawn wrth i’r Achos Busnes Llawn ddatblygu.  Darparwyd manylion am y toriadau mewn grantiau cyllido bysiau ynghyd â newidiadau arfaethedig i’r system cyllido bysiau a oedd yn ffactor wrth ddewis y Dewis a Ffefrir.  o ran atebolrwydd ac ymatebolrwydd lleol, cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y model a fabwysiadwyd ar gyfer cydweithredu rhanbarthol gan gyfeirio at y Cydbwyllgor fel fforwm lle byddai Sir Ddinbych yn dylanwadu.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn nodi’r Achos Busnes Amlinellol, yn derbyn y Dewis a Ffefrir ac yn cytuno bod y prosiect yn symud i ddatblygu Achos Busnes Llawn ar gyfer gweithredu un uned integredig ar gyfer darparu gwasanaethau cludiant teithwyr yng Ngogledd Cymru, a

 

b)         yn nodi na fyddai unrhyw benderfyniad i weithredu uned integredig yn digwydd hyd nes bo’r Cynghorau wedi rhoi ystyriaeth i’r Achos Busnes Llawn a’i gymeradwyo, ac y byddai trefniadau llywodraethu at y dyfodol yn cael sylw yn ystod cyfnod datblygu’r Achos Busnes Llawn.

            [RM i weithredu]

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35 pm.