Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nid oedd y Cynghorydd Bobby Feeley wedi gallu ymuno â’r cyfarfod (a gynhaliwyd trwy gynhadledd fideo) oherwydd anawsterau technegol.

 

Cofnodion:

Nid oedd y Cynghorydd Bobby Feeley wedi gallu ymuno â’r cyfarfod (a gynhaliwyd trwy gynhadledd fideo) oherwydd anawsterau technegol.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, drosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran Covid-19.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau, drosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran Covid-19 yn Sir Ddinbych.   O ganol mis Mehefin roedd Cymru wedi gweld cynnydd mewn achosion a chyfraddau positif.  Roedd Lloegr eisoes wedi gweld sawl wythnos o gynnydd cyflym ac fel gyda’r ddwy don arall o'r coronafeirws, roedd Cymru oddeutu pythefnos ar eu holau.   Roedd y cynnydd uchaf ymysg pobl ifanc nad oeddent wedi derbyn eu brechlyn eto ac yn cymdeithasu mwy yn gyffredinol.   Nid oedd yn eglur faint yr oedd y rhaglen frechu wedi torri’r cysylltiad rhwng yr haint, derbyn i’r ysbyty a marwolaeth a byddai oddeutu 2/3 wythnos cyn y gellir gwybod taflwybr y feirws.   Cyfradd achosion wythnosol Sir Ddinbych oedd 104.5 fesul 100,000 o’r boblogaeth (cynnydd o 27% o’r wythnos flaenorol) ac yn uwch na chyfartaledd Cymru o 53.1, gyda phump allan o chwech o awdurdodau lleol Gogledd Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru.   Roedd Sir Ddinbych wedi dechrau gweld cynnydd mewn achosion positif mewn cartrefi gofal ac ysgolion a disgwylir i hyn barhau ac oherwydd oedi mewn data disgwylir bod y ffigyrau diweddar yn is na’r sefyllfa bresennol mewn gwirionedd.  Byddai'r aelodau’n derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 457 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021 (copi ynghlwm).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

IECHYD MEDDWL YN Y GWEITHLE pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o ymdriniaeth arfaethedig y Cyngor i gefnogi Iechyd Meddwl yn y Gweithle a chyflwyno'r Polisi Iechyd Meddwl a’r canllawiau cysylltiedig i’w mabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Polisi Iechyd Meddwl, y Canllawiau Iechyd Meddwl ar gyfer Rheolwyr a’r Canllawiau ar Gynnal Sgwrs Sensitif am Iechyd Meddwl yn cael eu mabwysiadu ar gyfer y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad gan ddarparu trosolwg o ymagwedd arfaethedig y Cyngor i gefnogi Iechyd Meddwl yn y Gweithle ac yn argymell mabwysiadu Polisi Iechyd Meddwl a dogfennaeth gysylltiol.

 

Tynnwyd sylw at y pwysigrwydd o gefnogi iechyd meddwl yn y gweithle gydag amcanion allweddol i wella ymwybyddiaeth iechyd meddwl, mynd i’r afael â'r hyn sy'n achosi salwch meddwl yn ymwneud â’r gweithle, creu diwylliant yn y gweithle lle gellir trafod iechyd meddwl, a chefnogi gweithwyr sy’n profi problemau iechyd meddwl.   Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn roedd y Cyngor wedi cofrestru ar gyfer Addewid Amser i Newid gyda chynllun gweithredu i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu a chefnogi iechyd meddwl.   Roedd Polisi drafft Cefnogi Iechyd Meddwl yn y Gweithle wedi’i ddatblygu gyda Chanllaw Iechyd Meddwl ar gyfer Rheolwyr.   Roedd canllawiau pellach wedi’u darparu i reolwyr o ran sut i gynnal sgwrs sensitif gyda staff a allai fod yn profi salwch meddwl.   Gyda’r camau hyn, gellir helpu i leihau difrifoldeb, hyd a faint o salwch meddwl a geir yn y gweithle.  Roedd y polisi drafft a’r dogfennau ategol wedi’u cytuno gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Undebau Llafur a’u hargymell i’r Cabinet i’w mabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr.

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad a'r ymagwedd ragweithiol a gymerir o ran iechyd meddwl yn y gweithle, yn enwedig o ystyried effaith y pandemig a newidiadau mewn patrymau gwaith.   Roedd yr Aelodau’n awyddus i sicrhau bod rheolwyr hefyd yn derbyn cefnogaeth i ymgymryd â'u rolau ac fe holwyd cwestiynau o ran hynny ynghyd â’r heriau o gefnogi staff sy’n gweithio o bell a monitro canlyniadau.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·        roedd rhaglen hyfforddiant i alluogi rheolwyr i gefnogi gweithwyr yn well wedi dechrau ac roedd rhywfaint o’r hyfforddiant eisoes wedi’i roi ar waith.

·        roedd cefnogaeth ar gyfer rheolwyr wedi’i nodi yn yr adroddiad ac yn cynnwys hyfforddiant a chanllawiau, gydag arbenigwyr AD a phartneriaid busnes yn gweithio’n agos gyda’r rheolwyr ar faterion iechyd meddwl a straen yn y gweithle.

·         roedd gwaith ar y gweill i nodi Cefnogwyr Lles mewn gwasanaethau ac roedd rhai Cynorthwywyr Cyntaf Iechyd Meddwl eisoes wedi’u hyfforddi ac wedi defnyddio eu sgiliau.

·        Roedd camau a gymerwyd gan wasanaethau i alluogi rheolwyr i gadw mewn cysylltiad gyda staff a gwirio eu lles wedi’u trafod mewn Cynhadledd Rheolwyr Canol yn ddiweddar er mwyn rhannu a hyrwyddo arferion da ar draws yr awdurdod.

·        byddai Arolwg Lles Iechyd Meddwl yn cael ei gynnal ym mis Medi i nodi’r sefyllfa bresennol o ran iechyd meddwl  a byddai arolygon rheolaidd i ddilyn bob 1-2 flynedd i fesur cynnydd a sicrhau bod camau gweithredu'n effeithiol i wella lles iechyd meddwl.

 

PENDERFYNWYD bod y Polisi Iechyd Meddwl, y Canllawiau Iechyd Meddwl ar gyfer Rheolwyr a’r Canllawiau ar Gynnal Sgwrs Sensitif am Iechyd Meddwl yn cael eu mabwysiadu ar gyfer y Cyngor.

 

 

6.

GWEITHREDU I LEIHAU CAM-DRIN DOMESTIG pdf eicon PDF 233 KB

I ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Richard Mainon, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol a Mark Young, Aelog Arweiniol Cyllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar Flaenoriaeth Gorfforaethol Gweithredu i Leihau Cam-drin Domestig a chyflwyno’r Polisi Cam-drin Domestig ar gyfer gweithwyr i’w fabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Polisi Cam-Drin Domestig i staff yn cael ei fabwysiadu ar gyfer y Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young yr adroddiad gan ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Flaenoriaeth Gorfforaethol Gweithredu i Leihau Cam-drin Domestig ac argymell mabwysiadu Polisi Cam-drin Domestig ar gyfer gweithwyr.

 

Roedd yr achos busnes terfynol ar gyfer y flaenoriaeth Gweithredu i Leihau Cam-drin Domestig wedi'i gytuno ym mis Hydref 2019 ac er bod gwaith ar y prosiect wedi’i ohirio oherwydd Covid-19, roedd cryn gynnydd wedi'i gyflawni ers mis Medi 2020.  Roedd y prosiect yn cynnwys 13 o ffrydiau gwaith ac yn y chwe mis diwethaf roedd cynnydd yn canolbwyntio ar 9 o’r ffrydiau gwaith hynny (roedd crynodeb o bob un wedi’i ddarparu) gyda'r ffrydiau gwaith sy’n weddill i’w symud ymlaen yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Roedd y Cyngor yn condemnio pob math o gamdriniaeth a thrais ac wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant yn y gweithle o ddim goddefgarwch tuag at gam-drin domestig a /neu drais.  Roedd Polisi Cam-Drin Domestig drafft wedi’i ddatblygu i gefnogi gweithwyr oedd yn profi cam-drin domestig neu wedi’i brofi yn y gorffennol ac yn cynnwys canllawiau i reolwyr o ran sut i adnabod arwyddion cam-drin domestig a pha gefnogaeth sydd ar gael i staff.   Roedd y polisi drafft wedi’i gytuno gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Undebau Llafur a’u hargymell i’r Cabinet i’w mabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr.

 

Yn ystod y drafodaeth holodd y Cynghorydd Brian Jones am yr oedi cychwynnol o ran symud ymlaen â’r prosiect (nodwyd mai Covid-19 oedd y rheswm dros hyn) er gwaethaf pryderon y byddai cynnydd mewn achosion / digwyddiadau cam-drin domestig yn ystod pandemig y coronafeirws.   Codwyd cwestiynau pellach o ran cynnydd yn nifer yr achosion yr ymdriniwyd â nhw yn y deuddeg mis diwethaf ynghyd â’r prif newidiadau i’r polisi.

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y cwestiynau fel a ganlyn –

 

·        roedd yr oedi cychwynnol gyda rhywfaint o’r gwaith i symud ymlaen â Blaenoriaeth Gweithredu i Leihau Cam-drin Domestig o ganlyniad i'r angen i weithio gyda phartneriaid ac ati.

·        roedd polisi cam-drin domestig eisoes ar waith ond roedd wedi’i adolygu gan ystyried y cynnydd mewn gweithio o bell / gweithio’n hyblyg a gan ddysgu o ymdrin â materion sydd wedi codi yn ystod pandemig  Covid-19; roedd y gwaith gyda'r flaenoriaeth Gweithredu i Leihau Cam-drin Domestig hefyd wedi hysbysu'r polisi drafft diwygiedig.

·        Roedd y polisi diwygiedig yn fwy trylwyr ac yn darparu gwell eglurder, gan gynnig canllawiau pellach i gefnogi rheolwyr a gweithwyr, ac yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol mewn un dogfen.   

Un newid allweddol oedd cyflwyno pum diwrnod o absenoldeb oherwydd cam-drin domestig i gefnogi gweithwyr ymhellach.

·        roedd adroddiadau cam-drin domestig wedi cynyddu ond darparwyd sicrwydd nad oedd unrhyw oedi cychwynnol gyda’r prosiect wedi cael effaith negyddol ar yr ymateb a’r ymatebion sy’n ofynnol.   

Roedd adroddiadau’n cael eu trin yn gyflym ac yn broffesiynol ac roedd y broses honno wedi parhau drwy gydol y pandemig.

·        cyfeiriodd yr Aelod Arweiniol at ei ddiweddariad chwarterol i'r aelodau a oedd yn nodi'r ffigyrau a'r cynnydd mewn trais domestig a'r rhesymeg tu ôl i'r ffigyrau hynny - cytunodd y bydd yn ail-anfon yr wybodaeth honno at yr aelodau.  

[Roedd yr eitem nesaf ar y rhaglen ar yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn cynnwys data ar drais domestig].

 

Mynegodd yr Aelod Arweiniol y pwysigrwydd o gael trafodaeth agored ar drais domestig ac annog adrodd am  achosion.   Roedd yn fodlon â’r gwaith sy’n cael ei gyflawni ac yn credu bod y partneriaethau a’r sgiliau mewnol yn eu lle i ddelio â’r mater yn well yn y dyfodol.

 

 PENDERFYNWYD bod y Polisi Cam-drin Domestig i staff yn cael ei fabwysiadu ar gyfer y Cyngor.

 

 

7.

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2020 - 2021 pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020-2021 i’w gadarnhau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn ddarostyngedig i newidiadau y cytunwyd arnynt, bod y Cabinet yn cadarnhau cynnwys Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2020 i 2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ynghyd â’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020-2021, cyn ei gyflwyno i’r Cyngor.

 

Aethpwyd drwy’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol sydd wedi'i ymestyn i gyfuno nifer o adroddiadau a oedd yn cael eu hadrodd ar wahân yn y gorffennol, gan gwrdd â gofynion y Cyngor dan nifer o ddeddfwriaethau, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno gwerthusiad ôl-weithredol ar lwyddiant y Cyngor o ran cyflawni yn erbyn ei gynlluniau yn ystod 2020-2021 ac yn edrych ymlaen at yr hyn y gellir ei gyflawni yn 2021-2022. Roedd yn cynnwys y cynnydd o ran cyflawni’r blaenoriaethau corfforaethol, gan gynnwys y statws presennol a llwyddiant y rhaglen. Roedd y Gofrestr Prosiectau a’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol hefyd wedi’u cynnwys.  Roedd yr Adolygiad wedi’i ystyried gan Bwyllgor Craffu Perfformiad a oedd wedi gofyn am fanylion costau cynllun unigol yn rhan cyllid yr adroddiad yn ymwneud â Phriffyrdd ac Addysg ac roedd y gwariant yn cael ei gasglu ar hyn o bryd.

 

Darparodd Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol drosolwg o’r cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau a darparodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad drosolwg o’r adran iechyd corfforaethol newydd sydd yn yr adroddiad er mwyn bodloni’r gofynion i hunanasesu dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Ystyriodd y Cabinet yr Adolygiad a canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn -

 

·         Nododd yr Arweinydd bod y Cyngor wedi gosod Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol yn fwriadol ac roedd yn falch o nodi’r cynnydd a wnaed, wrth gydnabod bod rhai blaenoriaethau, fel cysylltedd digidol, y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.   

O ran yr adran iechyd corfforaethol newydd yn yr adroddiad, pwysleisiodd bod angen cydbwyso’r elfen yn briodol yn erbyn darpariaeth y blaenoriaethau hynny a oedd yn seiliedig ar ymgysylltu â phreswylwyr a'u disgwyliadau.   Cytunodd y swyddogion gan gadarnhau bod yr amcanion perfformiad wedi’u gosod mewn lleoliad blaenllaw yn y ddogfen yn fwriadol.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Mark Young at y Cynllun Adsefydlu Pobl Ddiamddiffyn o Syria a chefnogaeth y  Cabinet i barhau i gefnogi ffoaduriaid drwy’r Rhaglen Adsefydlu Fyd-eang - o ystyried y pryderon ynglŷn â chael mynediad at ofal iechyd a thai o safon gofynnodd bod y materion hynny’n cael eu cynnwys yn yr Adolygiad hefyd er mwyn nodi’r ymateb i’r pryderon hynny.   

Cytunodd y swyddogion i adolygu’r geiriad fel y gofynnwyd ond nodwyd bod rhai materion y tu hwnt i reolaeth y Cyngor er y gallai'r Cyngor ystyried annog sefydliadau eraill i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny.

·        er bod tai gofal ychwanegol Rhuthun wedi profi rhai rhwystrau gyda heriau o ran trefnu contractwr, ar y cyfan roedd hyder y byddai’r prosiect yn symud ymlaen o fewn amserlen y Cynllun Corfforaethol cyfredol.

·        mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts tynnwyd sylw at y ffigyrau trais domestig oedd yn dangos cynnydd yn y nifer cronnus ail-ddioddefwyr trais domestig yn Sir Ddinbych, o 517 i 515 yn Chwarter 4 (cynnydd o 7.6% o'r flwyddyn flaenorol).   

Nodwyd faint o waith a  wnaed yn y maes o ran cynyddu ymwybyddiaeth ac ati, ac felly disgwylir newid mewn ffigyrau ac mae'n debyg bod cyfyngiadau Covid-19 wedi cael effaith ar droseddau domestig.   Er nad oedd ganddo fanylion y ffigyrau trais domestig wrth law, eglurodd y Cynghorydd Mark Young fod ei adroddiad chwarterol i’r aelodau yn darparu dadansoddiad o’r ffigyrau a byddai’n ei ail-anfon at yr aelodau.

·        roedd y Cyngor yn gweithio’n rhanbarthol o ran cyllid gofal cymdeithasol ac roedd y ffioedd yn seiliedig ar y farchnad ac wedi cynyddu dros amser ac yn uwch na chwyddiant.   

Roedd yn faes oedd yn cael ei ystyried ond roedd yn ddibynnol iawn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD CYLLID (MAI 2021/22 – YN CYNNWYS ADRODDIAD CRYNO AR GYLLIDEB 2021/22) pdf eicon PDF 290 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      cymeradwyo cynnwys £250k yn y Cynllun Cyfalaf ar gyfer 2022/23 er mwyn cyrraedd y gofynion arian cyfatebol o 10% ar gyfer y Gronfa Codi’r Gwastad (fel nodwyd yn adran 6.9 yr adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad a nodai’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaethau ar gyfer 2021/22, ynghyd ag Adroddiad Crynhoi’r Gyllideb 2021/22. Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21).

·        rhagwelir y byddai gorwariant o £0.708miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol.

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a’r sefyllfa o ran hawliadau i Lywodraeth Cymru.

·        nodwyd arbedion ac effeithlonrwydd a gytunwyd o £4.448m gyda’r tybiaethau bod arbedion gweithredol a chynnydd mewn ffioedd a chostau wedi’u cyflawni ac roedd arbedion ysgolion wedi’u dirprwyo i gyrff llywodraethu i'w monitro a'u darparu; byddai'r arbedion o £0.781m yn cael eu monitro'n agos yn ystod y flwyddyn  

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Gofynnwyd hefyd bod y Cabinet yn cymeradwyo cynnwys £250,000 yn y Cynllun Cyfalaf ar gyfer 2022/23 er mwyn bodloni’r gofyniad arian cyfatebol o 10% (£423,181) ar gyfer cynnig Cronfa Codi’r Gwastad – De Clwyd.

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·        croesawyd y cadarnhad gan Lywodraeth Cymru (LlC) o ran parhad y system gyfredol o  hawliadau o ran gwariant a cholli incwm ar gyfer y ddau chwarter nesaf gydag arwyddion, yn amodol ar argaeledd y gyllideb, y byddai cyllid LlC yn parhau y tu hwnt i’r terfyn amser hwnnw os oes angen  

·        adroddodd yr Arweinydd ar y berthynas dda gyda LlC a’r gefnogaeth ariannol sylweddol a ddarparwyd i liniaru pwysau ariannol o ganlyniad i Covid-19. Ond nid oedd setliad ariannol llywodraeth leol wedi bod yn ddigon i fynd i'r afael â'r pwysau parhaus a'r heriau ariannol a'r buddsoddiad sydd ei angen i symud yr awdurdod yn ei flaen.   

Roedd pryder hefyd bod Sir Ddinbych wedi llithro o'r setliad chwartel uchaf.   Parhaodd yr Arweinydd i lobïo am setliad ariannol 3 blynedd er mwyn gallu cynllunio'n ariannol yn well ac roedd LlC wedi nodi y byddai hynny'n dibynnu ar Lywodraeth y DU.   Roedd y tebygolrwydd na fyddai’r setliad ariannol yn hysbys tan fis Rhagfyr yn peri heriau pellach o ran cynllunio’r gyllideb.   Er yr anawsterau hynny, croesawodd yr Arweinydd yr eglurder yn yr adroddiad a’r ymagwedd  a gymerwyd o ran gosod cyllideb a diolchodd i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am y gwaith caled a wnaed.

·        eglurwyd yr ymagwedd a gymerwyd i geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cyllid sydd ei angen ar gyfer cynnig De Clwyd ar gyfer Cronfa Codi’r Gwastad o ystyried y terfyn amser tynn ar gyfer y cynnig mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.   

Roedd cynigion cyllid y dyfodol ar gyfer Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd wedi’u cynnwys yn y Strategaeth Gyfalaf ar y sail y byddai angen 10% o gyllid cyfatebol; gobeithir y byddai rhywfaint o'r cyllid yn deillio o brosiectau a nodwyd fel rhan o broses cynllunio ar gyfer y dyfodol yr awdurdod a byddai gwaith pellach yn cael ei gyflawni o ran hynny dros y misoedd nesaf

·        cafwyd rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â’r risgiau a nodwyd yn y cyllidebau corfforaethol a’r effaith barhaus ar Dreth y Cyngor a Chynllun Gostyngiad Treth y Cyngor ynghyd â’r setliadau talu ar gyfer 2021/22. Er bod rhagolygon presennol yn dangos y byddai cyllid arian at raid yn gofalu am yr elfennau hynny gobeithir y byddai LlC yn parhau i gydnabod y pwysau hynny ac yn darparu cyllid yn unol â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf ar gyfer Treth y Cyngor a Chynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.   

Ond nodwyd bod y gyllideb ar gyfer Cynllun Gostyngiad Treth  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 283 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried.

 

Nododd yr Aelodau’r diddordeb tebygol gan y Cyhoedd yn eitem Llangollen 2020 a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf a holodd y Cynghorydd Brian Jones a fyddai’n bosibl cyfarfod yn Siambr y Cyngor er mwyn hwyluso’r eitem honno’n well.   Cadarnhawyd bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal o bell yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ond byddai’r sefyllfa’n cael ei hadolygu yn dibynnu ar yr amgylchiadau ar y pryd a chyngor diweddaraf LlC.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30am.