Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: TRWY GYFRWNG FIDEO.
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol
oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng
fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr
a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Leol wahoddiad i arsylwi hefyd. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn eitem 7 –
Ymestyn Fframwaith Hamdden DU y Cyngor,
oherwydd eu bod yn Gyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Bobby Feeley a Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol ag eitem 7
ar y rhaglen – Estyniad i Fframwaith Hamdden y DU y Cyngor, gan eu bod ill
dau’n Gyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Rhoddodd y Prif
Weithredwr ddiweddariad yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y diwrnod cynt y
bydd Cymru i gyd yn cael ei rhoi dan gyfyngiadau cyfnod clo byr mewn ymdrech i
geisio ailafael mewn rheolaeth ar y coronafeirws. Cofnodion: Ar gais yr
Arweinydd, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Prif Weithredwr yn dilyn
cyhoeddiad Llywodraeth Cymru (LlC) y byddai’n cyflwyno cyfnod torri’r cylch
ledled Cymru i helpu rheoli’r coronafeirws.
Mewn trafodaethau â LlC, ceisiwyd mesurau penodol i warchod economi a
dinasyddion Sir Ddinbych, gan gynnwys pecynnau cymorth i fusnesau ynghyd â
gwybodaeth a chanllawiau clir, y trafodwyd rhywfaint ohonynt yng nghyhoeddiad
LlC. Darparwyd sicrwydd fod swyddogion
yn gweithio’n galed i sicrhau y gellid cau gwasanaethau’n ddiogel a sefydlu
dulliau i gefnogi busnesau a chleientiaid diamddiffyn, yn ogystal â sicrhau bod
cymaint o wybodaeth ag sy’n bosib ar gael drwy sianeli cyfathrebu a chyfryngau
cymdeithasol. Bydd gwybodaeth bellach yn
cael ei darparu eto yn y dyddiau nesaf. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020 (copi ynghlwm). Penderfyniad: Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad PENDERFYNWYD y
dylid, yn amodol ar un pwynt o gywirdeb, derbyn cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 22 Medi 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020. Cywirdeb – Tudalen 13, Eitem 9 Adroddiad Cyllid – Gofynnodd y
Cynghorydd Mark Young i’w sylw am y £500 a roddwyd i weithwyr gofal gael ei
gynnwys yn y cofnodion. Roedd wedi
llongyfarch Llywodraeth Cymru ar roi’r taliad fel rhodd i staff gofal
ymroddedig, a dywedodd ei bod yn drueni fod Trysorlys y DU wedi codi treth ar y
rhodd. PENDERFYNWYD,
yn amodol ar y pwynt cywirdeb uchod, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 22 Medi 2020 a chadarnhau eu bod yn gofnod cywir. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD y byddai aelodau’r Wasg yn cael eu gwahardd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail fod yr eitem yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel
y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 16 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
DULL ARFAETHEDIG O DENDRO AR GYFER CAM 1/ CONTRACT GWAITH GALLUOGI AR GYFER ESTYNIAD I YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, GAN GYNNWYS GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF CSDd Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a'r Amgylchedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
gyflawni’r ymarfer tendro arfaethedig i adnabod prif gontractwr i ddarparu Cam
1/ Galluogi Contract Gwaith ar gyfer rhoi estyniad i Ystâd Ddiwydiannol
Colomendy, Dinbych. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) Caniatau’r ymarfer tendro arfaethedig, a (b) Nodi y bydd adroddiad arall yn cael ei roi gerbron y Cabinet (drwy'r
Grŵp Buddsoddi Strategol) i geisio cymeradwyaeth i'r Dyfarniad Contract
dilynol ar ôl yr ymarfer tendro, a fydd hefyd yn cadarnhau'r trefniadau rheoli
contract, costau'r tendr a manylion y contract. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad cyfrinachol oedd yn ceisio cymeradwyaeth
y Cabinet i gynnal yr ymarfer tendro arfaethedig i ganfod prif gontractwr i
gyflawni Cam 1/ Contract Gwaith Galluogi ar gyfer estyniad i Ystâd Ddiwydiannol
Colomendy yn Ninbych, gan gynnwys Adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff (GTG). Roedd
manylion yr ymarfer tendro arfaethedig wedi’u nodi yn yr adroddiad ynghyd â’r
amserlenni amlinellol a gwerth disgwyliedig y contract, gan gynnwys sut y mae’n
gysylltiedig â’r GTG arfaethedig (Plot 1) a’r gwaith galluogi i’w gyflawni
(Plotiau 2 i 5). Cyfeiriwyd at y cydweithio
sy’n mynd rhagddo ar yr estyniad i’r safle a chyflawni’r contract wrth symud
ymlaen i ddatblygu. Cydnabuwyd
y cyfleoedd ar gyfer busnesau a thwf economaidd sy’n codi o’r estyniad hefyd. Roedd y cyngor yn arwain ar yr
ymarfer tendro oherwydd y rhyngddibyniaethau rhwng y plotiau ar draws y safle
cyfan. Darparwyd
sicrwydd bod y prosiect wedi rhoi ystyriaeth i agweddau ar newid hinsawdd a
bioamrywiaeth, gan gynnwys gwarchod cynefinoedd, lleihau nifer y teithiau
cerbyd i gasglu gwastraff a gosod mannau gwefru Cerbydau Trydan, a rhoddwyd
ystyriaeth hefyd i dechnolegau hydrogen yn y dyfodol. Croesawodd
y Cynghorydd Mark Young y cydweithio a’r manteision fydd yn dod yn ei sgil, ac
roedd hefyd yn awyddus i sicrhau bod cwmnïau lleol yn cael cyfle i wneud cais. Darparwyd sicrwydd yn hynny o
beth ac roedd disgwyl y byddai yna ddiddordeb lleol yn y tendr, gyda thuedd
amlwg i ymgysylltu â busnesau lleol lle bo hynny’n bosib o fewn rheolau'r
weithdrefn gontractau. Byddai’r
contract hefyd yn darparu ar gyfer mantais gymunedol a buddsoddiad lleol i
gefnogi’r nod honno ymhellach. Mewn
ymateb i gwestiynau pellach, cadarnhaodd y swyddogion mai amser swyddogion
fyddai’r unig gost gysylltiedig â’r tendr, gan y cyhoeddwyd y tendr drwy
GwerthwchiGymru, sy’n adnodd ar y we. O ystyried gwerth posib y
gwaith, bydd amserlenni Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) yn
gymwys a bydd dyfarnu’r contract yn amodol ar adroddiad pellach i’r Cabinet. PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) rhoi
cymeradwyaeth i gynnal yr ymarfer tendro arfaethedig, ac yn (b) nodi y bydd
adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet (drwy’r Grŵp Buddsoddi
Strategol) i gael cymeradwyaeth ar gyfer Dyfarnu’r Contract wedi hynny, yn
dilyn yr ymarfer tendro, a fydd hefyd yn cadarnhau trefniadau rheoli’r
contract, costau cyflwyno tendr a manylion y contract. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl
cwblhau’r busnes uchod, ailddechreuwyd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau
(copi ynghlwm) yn nodi casgliadau y daeth y Pwyllgor Craffu iddynt yn dilyn
ystyried penderfyniad y Cabinet a alwyd i mewn ar 22 Medi 2020, o ran cael
gwared ar dir yn ymyl Ysgol Pendref ac argymell i’r Cabinet i ailedrych ar ei
benderfyniad i ystyried casgliadau’r Pwyllgor Craffu ac argymhellion pellach. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidlais: 4 o
blaid, 4 yn erbyn, 0 ymataliad; Defnyddiodd yr Arweinydd ei bleidlais fwrw i
bleidleisio o blaid y penderfyniad. PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) Yn cydnabod casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn
ei adolygiad o benderfyniadau’r Cabinet ar 22 Medi 2020; (b) Ar ôl adolygu eu penderfyniad ac ystyried argymhellion y Pwyllgor Craffu
Cymunedau, gadarnhau penderfyniad y Cabinet ar 22 Medi i: (i) cymeradwyo
gwaredu tir wrth ymyl Ysgol Pendref, Dinbych a amlinellir mewn coch ar y
cynllun (Atodiad A yr adroddiad) nad oes ei angen ar y Cyngor, ar y farchnad
agored ar gyfer datblygiad preswyl, a dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i gymeradwyo’r gwerthiant terfynol, a (ii) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o Effaith ar Les i ystyriaeth
(Atodiad B o’r adroddiad) fel rhan o'i benderfyniad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y
Pwyllgor Craffu Cymunedau, adroddiad oedd yn rhoi manylion y casgliadau a
gyrhaeddwyd gan y Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyried y cais galw i mewn o ran
penderfyniad y Cabinet a wnaed ar 22 Medi 2020 i gael gwared ar dir ger Ysgol
Pendref, Dinbych, nad oedd y cyngor ei angen mwyach, ar y farchnad agored ar
gyfer datblygiad preswyl. Hysbyswyd y Cabinet am y trafodaethau manwl a
gynhaliwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau mewn perthynas â
phenderfyniad y Cabinet. Nodwyd
casgliadau’r Pwyllgor Craffu yn yr adroddiad, ynghyd â’i argymhellion. Yn gryno, roedd y Pwyllgor wedi argymell bod
y Cabinet yn - ·
cydnabod casgliadau ac
argymhellion y Pwyllgor Craffu; ·
ailedrych ar ei
benderfyniad gan roi ystyriaeth i’r weledigaeth ar gyfer tai cymdeithasol a
thai fforddiadwy yn y dyfodol fel a nodir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol
newydd drafft, ‘Cymru’r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol 2040’; ·
gohirio’r penderfyniad
o ran y safle penodol hwn am 12 mis, nes i’r fframwaith datblygu cenedlaethol
newydd gael ei gytuno; ·
ystyried opsiynau i
wneud y tir yn fwy deniadol i landlordiaid cymdeithasol a datblygwyr llai drwy
ei rannu’n barseli/blotiau llai, a ·
peidio creu
gorgyflenwad o dai anfforddiadwy mawr yn Ninbych, nad ydynt yn diwallu angen
lleol. Fel Aelod Arweiniol, atgoffodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill y Cabinet fod y tir dan sylw wedi cael ei ddyrannu ar gyfer tai
yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn 2013, yn dilyn yr holl brosesau a chamau
ymgynghori priodol. Roedd y tir wedi’i
gadw yn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ac felly byddai unrhyw dderbyniad cyfalaf
o’r gwerthiant yn cael ei glustnodi ar gyfer y CRT ac ni ellid ei ddefnyddio ar
gyfer unrhyw ddiben arall. Ymatebodd i argymhellion
y pwyllgor craffu fel a ganlyn - ·
mae fframwaith
datblygu cenedlaethol newydd LlC yn dal i fod ar ei ffurf ddrafft heb unrhyw
arwydd y bydd unrhyw gyllid newydd yn cael ei gynnig i gefnogi’r dyheadau am
dai fforddiadwy. Er y gallai awdurdodau lleol
gael gafael ar grant tai cymdeithasol o Ebrill 2021 ymlaen, swm penodol
fyddai’r cyllid hwn wedi’i dorri allan o gyllidebau presennol, y byddai angen i
gynghorau ymgeisio yn erbyn ei gilydd amdano a chyfrannu’n ariannol tuag
ato. Byddai’r gyfradd ymyrraeth o 58% ar
gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael ei diogelu ac nid oedd
disgwyl i’r swm i gynghorau fod yn fawr iawn; ·
nid yw gohirio
penderfyniad yn y gobaith y gallai rhywbeth ddigwydd yn y dyfodol yn ffordd
gynaliadwy o wneud penderfyniadau. Roedd y derbyniad cyfalaf o
werthu’r safle eisoes wedi’i ragdybio yng nghynllun busnes y CRT a byddai
unrhyw oedi yn effeithio ar gyflawniad y cynllun hwnnw, gan arwain at lai o dai
newydd neu lai o waith cynnal a chadw i’r stoc bresennol neu gyfuniad o’r ddau,
a byddai yna gyfnod hirach o aros am dai fforddiadwy ar y safle; ·
roedd yna resymau
pwysig pam na fyddai’n ymarferol rhannu’r safle’n blotiau datblygu llai, sef yr
effaith ar y derbyniad cyfalaf a chost fesul uned y tai fforddiadwy a gynigir,
sy’n codi o gost uwch y datblygiad a gwerth is y tir. Roedd plotiau llai yn cynyddu
costau ar bob cam o’r datblygiad a byddai angen i gonsortiwm o ddatblygwyr
gytuno ar raglen gyfan o waith cyn prynu.
Gallai’r cyngor ddarparu’r seilwaith ar eu risg a’u cost eu hunain heb
sicrwydd y gallent adennill yr arian gan brynwyr y dyfodol, a byddai hefyd yn
lleihau neu’n negyddu unrhyw dderbyniad cyfalaf; · o ran creu gorgyflenwad o dai anfforddiadwy nad ydynt yn diwallu angen lleol, byddai’r gwerthiant arfaethedig yn digwydd ar y farchnad agored gydag amod o 20% o ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ESTYNIAD I FFRAMWAITH HAMDDEN Y DU Y CYNGOR PDF 284 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) a Bobby Feeley, Aelod
Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi estyniad
i Fframwaith Hamdden y DU y Cyngor tan fis Ionawr 2022. Penderfyniad: Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo estyniad i Fframwaith Hamdden y DU tan Ionawr 2022 ar
yr un telerau ag y cafodd ei ddyfarnu, ac mewn unrhyw achos bydd y fath gyfnod
o estyniad wedi’i gyfyngu i 50% o werth y cytundeb fframwaith gwreiddiol yn
unol â Rheoliad 72 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y cyd-adroddiad gyda’r Cynghorydd Bobby
Feeley, oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i estyn Fframwaith Hamdden y DU
y Cyngor tan fis Ionawr 2022. Hysbyswyd
y Cabinet y bydd tymor pedair blynedd Fframwaith Hamdden bresennol y DU yn dod
i ben ym mis Ionawr 2021. Nodwyd y darpariaethau a’r cyfyngiadau o fewn deddfwriaeth
caffael, fel yr oedd yn berthnasol i’r fframwaith, ynghyd ag effaith gweithredu
o fewn y cyfyngiadau a orfodwyd o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Er budd y cyngor a Hamdden Sir
Ddinbych Cyfyngedig (DLL), a hefyd o ran tegwch i bob darparwr yn y farchnad,
argymhellwyd gohirio lansiad proses gaffael newydd tan y flwyddyn nesaf, pan
fydd ymarfer newydd a gynlluniwyd yn cychwyn. Nodwyd fod DLL dan gontract i
reoli’r fframwaith bresennol ar ran y cyngor a’u bod yn cefnogi’r estyniad, a
bod y cyflenwr presennol, sef Alliance Leisure, wedi cadarnhau y byddai’n
fodlon parhau â’r fframwaith bresennol. Cydnabu’r
Arweinydd fanteision y fframwaith ar gyfer y cyngor a DLL fel ei gilydd, ac o
ran codi amlygrwydd gwasanaethau hamdden y tu hwnt i ffiniau Sir Ddinbych. Fel Cadeirydd DLL,
pwysleisiodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr anawsterau y mae’r cwmni newydd
wedi’u hwynebu ers iddo gychwyn ym mis Ebrill a’r heriau i fasnach mewn
amgylchiadau anodd, a thalodd deyrnged i’r holl aelodau staff yn hynny o beth. Roedd y cyhoeddiad am y cyfnod
clo diweddaraf wedi bod yn ergyd pellach a'r gobaith oedd y bydd y
gwasanaethau'n ailgychwyn ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu codi. Ategodd y Cabinet y teimladau
hyn. PENDERFYNWYD y
byddai’r Cabinet yn cymeradwyo'r estyniad i Fframwaith Hamdden y DU tan fis
Ionawr 2022 ar yr un telerau gosod, ac y bydd cyfnod estynedig o’r fath yn
gyfyngedig i 50% o werth y cytundeb fframwaith gwreiddiol yn unol â Rheoliad 72
Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. |
|
CONTRACT CAEL GWARED AR ASBESTOS PDF 217 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i gychwyn proses gaffael ar gyfer contract gwaith gyda Chontractwyr
Cael Gwared ar Asbestos. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) Cytuno i gychwyn y broses gaffael a hysbysebu ar gyfer y contract gwaith
hwn gyda Chontractwr Cael Gwared ar Asbestos (b) Cytuno y dylid gweithredu ar unwaith yn dilyn y penderfyniad uchod er mwyn
rhwystro unrhyw oedi o ran dyfarnu’r contract, a (c) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau; Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gychwyn proses gaffael ar gyfer
contract gwaith gyda Chontractwr Cael Gwared ar Asbestos trwyddedig. Mae’r trefniadau presennol i hwyluso’r gwaith o
gael gwared ar asbestos yn eiddo’r cyngor drwy fframwaith cydweithredol yn dod
i ben ym mis Rhagfyr 2020. I hwyluso
dull mwy hyblyg a syml, argymhellwyd contract gwaith sy’n cynnwys cytundeb ag
un contractwr a chyfraddau sefydlog i sicrhau gwell gwerth am arian a
gwasanaeth wedi’i deilwra’n well. Byddai’r contract gwaith yn cael ei sefydlu am 12 mis i gychwyn, gyda’r
cyfle i’w estyn bob blwyddyn hyd at uchafswm o 10 mlynedd, a dim ond os yw
perfformiad y contractwr yn foddhaol y byddai’r contract yn cael ei adnewyddu. Nodwyd manylion gwerth y contract yn yr
adroddiad, gyda chyfanswm gwerth i’r contract o hyd at £4 miliwn. Er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth ddyfarnu’r
contract, argymhellwyd y dylid gweithredu’r penderfyniad i gychwyn ar y broses
gaffael ar unwaith. Roedd y Cabinet yn fodlon bod y broses gaffael a
argymhellwyd yn cefnogi anghenion busnes y cyngor ac yn cynnig gwerth am arian. Nodwyd y byddai’r caniatâd i ddyfarnu’r
contract i’r cynigiwr llwyddiannus yn amodol ar adroddiad pellach i'r Cabinet
ym mis Rhagfyr. PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn – (a) cytuno i gychwyn
ar y broses gaffael ar gyfer y contract gwaith hwn, gan hysbysebu am Gontractwr
Cael Gwared ar Asbestos trwyddedig; (b) cytuno i
weithredu’r penderfyniad uchod ar unwaith er mwyn osgoi unrhyw oedi i
ddyfarnu’r contract; ac yn (c) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall a rhoi ystyriaeth i’r Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1
yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed
yn erbyn y strategaeth gyllidol a gytunwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad yn rhoi manylion am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a
wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir
isod - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn
2019/20); ·
rhagwelir
gorwariant o £5.107 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid
oedd y gorwariant yn rhagdybio derbyn unrhyw grantiau na hawliadau 'colli
incwm’ pellach); ·
tynnwyd
sylw at y risgiau a’r rhagdybiaethau presennol sy’n ymwneud â meysydd
gwasanaeth unigol, ynghyd ag effaith ariannol y coronafeirws a chyllidebau
Model Darparu Amgen Hamdden; ·
cytunwyd
ar arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gofynnol manwl o £4.448 miliwn, gan
gynnwys arbedion corfforaethol sy’n gysylltiedig ag adolygiad actiwaraidd bob
tair blynedd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2m); 1% o arbedion ysgolion (£0.692m);
arbedion gwasanaeth (£1.756m); ·
cafwyd
diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai. Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf mewn manylder, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19,
gan gynnwys y cyllid grant a sicrhawyd hyd yma a’r sefyllfa o ran hawliadau ar
gyfer y cyngor. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd - ·
Eglurwyd
fod setliad gwell na’r disgwyl gan LlC wedi arwain at i’r Cyngor gymeradwyo
gostyngiad yn yr arbedion ysgolion o 2% i 1% ym mis Chwefror 2020, i gydnabod
balansau diffyg net ysgolion. ·
Bydd
y setliad cyllideb drafft yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, gyda’r setliad
terfynol i’w gyhoeddi ym mis Mawrth 2021, ond ni chafwyd unrhyw arwydd o’r hyn
y bydd yn ei olygu. Oherwydd y cyhoeddiad hwyr, ychydig o newidiadau a
ddisgwylir yn y setliad drafft, ac roedd yn debygol y byddai’r cyngor angen
gosod cyllideb cyn cyhoeddi’r setliad terfynol. ·
Nid
oedd unrhyw gyhoeddiad wedi’i wneud o ran y cyllid ychwanegol ar gyfer
llywodraeth leol mewn perthynas â’r cyfnod clo sydd ar ddod yn benodol, a thybiwyd
y byddai hawliadau am golli incwm a chostau ychwanegol a ysgwyddwyd o ganlyniad
yn cael eu hawlio o’r gronfa £264 miliwn a gyhoeddwyd yn flaenorol gan LlC. ·
Teimlai’r
Cynghorydd Bobby Feeley y dylai LlC ddarparu cyllid penodol ar gyfer y sector
hamdden o ystyried ei fod yn wasanaeth hanfodol o ran iechyd a lles, a’i fod yn
parhau i wynebu sefyllfa fasnachu ansicr ac anodd. Nodwyd fod yr hawliad am golli incwm mewn
perthynas â Hamdden ar gyfer Chwarter 1 wedi cael ei dalu a bod yr hawliad am
Chwarter 2 wrthi’n cael ei baratoi, ond roedd ansicrwydd o hyd o ran Chwarteri
3 a 4. Adroddodd yr Arweinydd ar
gyfarfodydd rheolaidd a thrafodaethau cadarnhaol â LlC, a oedd yn ymwybodol o’r
pwysau sy’n wynebu llywodraeth leol, gan gynnwys y gwasanaethau hamdden. Fodd bynnag, mae’n eithaf posib y bydd y
pwysau ariannol cynyddol ar LlC yn risg i lywodraeth leol, yn enwedig o ran
setliadau’r dyfodol. ·
Holodd
y Cynghorydd Mark Young sut y byddai’r cyngor yn mynd i’r afael â’r diffyg
ariannol os nad oedd cyllid ar ddod gan LlC, a cheisiodd sicrwydd fod y cyngor
yn parhau i weithio gyda busnesau a thrigolion o ran ardrethi busnes a threth y
cyngor o ystyried yr heriau ariannol cyfredol. Adroddodd y Pennaeth Cyllid fod y cyngor wedi bod yn ddoeth gyda’i gronfeydd wrth gefn, gyda chronfeydd wedi’u clustnodi a chronfa liniaru’r gyllideb y gellid ei defnyddio os bydd angen, a bydd unrhyw argymhellion yn hynny o beth yn cael eu dwyn ger bron y Cabinet. Roedd yn hyderus y byddai’r cyngor yn parhau’n ddiddyled dros y flwyddyn ariannol bresennol, ond roedd pryderon o ran y flwyddyn ariannol nesaf a thu hwnt. Roedd y ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 188 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Penderfyniad: Pleidlais: 8 o
blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet
i’w hystyried. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 13.05. |