Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Dim.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorwyr Hugh Irving ac Eryl Williams gysylltiad personol ag Eitem 8 - Datblygiadau Polisi Trethi Busnes yng Nghymru.  Datganodd y Cynghorwyr Hugh Irving ac Eryl Williams gysylltiad personol ag Eitem 9 – Rhyddhad Trethi Dewisol

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Hugh Irving ac Eryl Williams gysylltiad personol ag Eitem 8 - Datblygiadau Polisi Trethi Busnes yng Nghymru.  Datganodd y Cynghorwyr Hugh Irving ac Eryl Williams gysylltiad personol ag Eitem 9 – Rhyddhad Trethi Dewisol

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 151 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 17 Rhagfyr 2013 (copi’n amgaeedig). 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2013 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2013.

 

Tudalen Rhif: 1 - DEISEB - Gofynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley i'r Cabinet gael gwybod pan fydd ymateb wedi bod i’r ddeiseb.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2013 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

 

5.

Y CYNNIG I GAU YSGOL LLANBEDR pdf eicon PDF 165 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi’n amgaeedig) ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2014 ac ar symud y disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2014 a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.

 

Cofnodion:

[Ar gais yr Arweinydd Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (PGCD) i’r materion cyfreithiol a godwyd cyn y cyfarfod ynghylch y broses ymgynghori.   Cadarnhaodd y PGCD ei fod yn fodlon ein bod wedi cadw at y ddeddfwriaeth berthnasol ac nad oedd unrhyw rwystr cyfreithiol rhag gwneud penderfyniad.]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst, 2014 a throsglwyddo’r disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni, a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig.  Dosbarthwyd llythyr oddi wrth Esgob Llanelwy’n gwrthwynebu'r cau yn y cyfarfod.

 

Cydnabu'r Cynghorydd Williams fod hwn yn benderfyniad anodd, gan nodi bod Ysgol Llanbedr yn arfer bod yn ysgol ffyniannus, a rhoddodd ganmoliaeth i’r gofal cyflawn a ddarparwyd gan yr ysgol.  Nododd fod nifer o blant o Lanbedr wedi penderfynu peidio â mynychu’r ysgol a chyfeiriodd at anawsterau blaenorol sydd wedi effeithio ar nifer y disgyblion.  Eglurodd y Cynghorydd Williams y cyd-destun dros adolygu ysgolion a thynnodd sylw at benderfyniadau a chanlyniadau blaenorol fel rhan o'r rhaglen foderneiddio addysg.  Disgrifiodd hefyd gamau’r broses adolygu a oedd yn cynnwys cau, uno neu ffederaleiddio’r ysgol neu gynnal y drefn bresennol.

 

 Cyfeiriodd yr Arweinydd at gyfarfod diweddar gyda rhieni a llywodraethwyr i drafod y mater o chwarae teg i Lanbedr.  Roedd yn fodlon bod y broses yn un deg ac y byddai Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i’r mater pe na bai wedi bod yn deg.

 

Cydnabu’r Cabinet yr angen i fynd i'r afael â lleoedd gwag fel rhan o’r adolygiad yn ardal Rhuthun a nodwyd bod 21 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol a oedd â lle i 54. Nodwyd hefyd mai dim ond 7 o’r 21 disgybl oedd yn byw yn y gymuned ac nid oedd yn ymddangos bod unrhyw ddewis penodol dros unrhyw ysgol arall.  Roedd yr Aelodau'n cydnabod y pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ond tynnwyd sylw at bwysigrwydd darparu addysg o ansawdd a gwneud y mwyaf o botensial addysgol pobl ifanc yn ardal Rhuthun.  Gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn ag effaith cau ar gyrhaeddiad disgyblion a gofynnwyd am eglurhad pellach o ran dewisiadau ysgol a chymryd ymagwedd gyson tuag at ysgolion eraill.  Ymatebodd y Cynghorydd Eryl Williams a'r swyddogion fel a ganlyn -

 

·        Enwyd Ysgol Borthyn fel ysgol arall (fel ysgol ffydd Cyfrwng Saesneg) gydag ysgolion eraill yn cael eu crybwyll fel dewisiadau eraill addas gan ymatebwyr i'r ymgynghoriad, gan gynnwys Gellifor, Bro Famau a Stryd y Rhos

·        dim ond un ymatebydd gadarnhaodd y byddent yn anfon eu plentyn/plant i Ysgol Borthyn gyda'r mwyafrif yn dewis peidio â datgan dewis - os cytunwyd i gau'r ysgol, byddem yn cysylltu â rhieni ynghylch eu dewisiadau

·        eglurwyd y rhesymeg y tu ôl i benderfyniadau cynharach a wnaed mewn perthynas ag ysgolion llai a'r cynigion ar gyfer ysgolion eraill fel rhan o adolygiad ardal Rhuthun yn seiliedig ar ffactorau penodol yn ymwneud â’r ysgolion hynny

·        nid fu’r adolygiadau blaenorol yn seiliedig ar niferoedd yn llwyddiannus a gellid buddsoddi mewn ysgolion llai os oeddynt yn gynaliadwy

·         adroddwyd ar y safonau da o gyrhaeddiad yn ysgolion Rhuthun, gan dynnu sylw at y ffaith fod perfformiad y tair ysgol ffydd yn dda

·        nad oedd unrhyw broblemau gyda darpariaeth cyfrwng Saesneg na dwyieithog yn yr ardal.

 

Siaradodd y Cynghorydd Huw Williams yn erbyn cau Ysgol Llanbedr ac roedd yn siomedig bod y mater wedi’i ddwyn gerbron y Cabinet mor fuan ar ôl dyddiad cau'r ymgynghoriad.  Tynnodd sylw at y cysylltiadau cymunedol cryf rhwng yr ysgol a'r eglwys, a chefnogaeth rhieni a phlant lleol  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

FFRAMWAITH AR GYFER GWASANAETHAU INTEGREDIG AR GYFER POBL HŶN pdf eicon PDF 122 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Oedolion a Phlant (copi'n amgaeedig) yn hysbysu'r aelodau o fwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig i bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Datganiad o Fwriad drafft sydd i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn ymateb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i gyflwyno’r Datganiad o Fwriad drafft (gwelwch Atodiad 1) i Lywodraeth Cymru fel ymateb rhanbarthol cychwynnol i ddogfen Llywodraeth Cymru "Fframwaith ar gyfer Darparu Gofal Iechyd a Chymdeithasol Integredig" (Gorffennaf 2013).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Datganiad o Fwriad drafft (ynghlwm wrth yr adroddiad) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’w bwriad i sefydlu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig i bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth.  Roedd y Datganiad yn ddogfen ranbarthol ond yn tynnu sylw at feysydd o arfer da a ddatblygwyd yn Sir Ddinbych.

 

Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones drosolwg o drafodaeth y pwyllgor archwilio ar y Datganiad a chadarnhaodd bod y pwyllgor wedi croesawu'r cynigion ac wedi gofyn i ddigon o adnoddau gael eu darparu i gynnig y gwasanaethau integredig.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol -

 

·        Amlygwyd yr Iaith Gymraeg fel elfen bwysig o ran sicrhau y gallai pobl sgwrsio yn Gymraeg os oeddent yn dymuno - nodwyd hefyd fod hwn yn fater a allai elwa o fonitro fel rhan o'r fframwaith integreiddio

·        rhoddwyd manylion yr amserlen ar gyfer datblygu cynigion am ddarpariaeth integredig drwy gyflwyno’r camau gweithredu pellach i Lywodraeth Cymru oedd yn ofynnol ystod y flwyddyn a’r dyddiad cwblhau ym mis Rhagfyr 2014

·        sefydlwyd fod y rhaglen integreiddio hefyd yn cynnwys y sector gwirfoddol ond byddai angen archwilio arian ar gyfer grwpiau gwirfoddol drwy’r ardaloedd lleol

·        gobeithiwyd y gellid hwyluso anawsterau blaenorol o ran gwaith partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) fel rhan o’r rhaglen integreiddio ac roedd yn fater a fyddai'n elwa o gael ei fonitro’n agos

·        Amlygwyd swyddogaeth hanfodol Meddygon Teulu wrth sefydlu gwasanaethau integredig ynghyd â phryderon dros amseroedd aros am apwyntiadau a sut y gellid ymdrin â’r materion hynny drwy'r fframwaith integredig – roedd y mater yn cael ei reoli drwy nifer o fforymau, gan gynnwys timau arweinyddiaeth lleol dan arweiniad meddygon teulu.  O safbwynt amseroedd aros, nodwyd fod y mater wedi’i godi o’r blaen gyda BIPBC a gellid ei amlygu eto fel rhwystr rhag integreiddio.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno y dylid cyflwyno’r Datganiad o Fwriad drafft (fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad) i Lywodraeth Cymru fel ymateb rhanbarthol cychwynnol i ddogfen Llywodraeth Cymru “Fframwaith ar gyfer Darparu Gofal Iechyd a Chymdeithasol Integredig” (Gorffennaf 2013).

 

 

7.

POLISI DYRANIADAU CYFFREDIN - UN LLWYBR MYNEDIAD AT DAI pdf eicon PDF 108 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau (copi'n amgaeedig) sy’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf  ar ddatblygu Un Llwybr Mynediad at Dai ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru Ac yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo Polisi Dyraniadau Cyffredin i’w weithredu’n lleol .

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cymeradwyo'r Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer Sir Ddinbych fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad,

 

(b)       yn gofyn i swyddogion adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio ar y camau i'w cymryd mewn perthynas â'r materion a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a phwyntiau pellach a godwyd gan aelodau etholedig yn y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad ar ddatblygu Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) ar draws isranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru a gofyn i’r Cabinet roi cymeradwyaeth i weithredu’r Polisi Dyraniadau Cyffredin yn lleol.  Roedd SARTH yn brosiect partneriaeth rhwng landlordiaid cymdeithasol mawr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.  Roedd yr adroddiad yn manylu ar nod y Polisi Dyraniadau Cyffredin (PDC) a’i weithrediad arfaethedig ar draws sefydliadau partner.

 

Ymatebodd y swyddogion i nifer o wahanol senarios a gyflwynwyd iddynt mewn perthynas ag anghenion tai a chadarnhawyd nad oedd unrhyw gyswllt trawsffiniol rhwng awdurdodau lleol.  Rhoddwyd sicrwydd i Aelodau na fyddai pobl leol, gan gynnwys y rhai a oedd ar y rhestr dai ar hyn o bryd, o dan anfantais o ganlyniad i’r polisi newydd a bod cysylltiadau lleol yn nodwedd amlwg yn y broses asesu.  Cyfeiriwyd at y cyd-destun cyfreithiol a’r categorïau dewis rhesymol mewn perthynas ag anghenion tai lle gellid gweithredu cysylltiadau lleol hefyd.

 

Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones drosolwg o drafodaeth y pwyllgor archwilio ar yr adroddiad gan dynnu sylw at nifer o bryderon a oedd wedi eu manylu yn Atodiad C yr adroddiad.  Adroddodd swyddogion ar y cynnydd wrth fynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd, a nodwyd y dylid delio â phryderon mewn perthynas â thai o ansawdd gwael a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fel mater ar wahân.  Cododd aelodau eraill faterion nad oeddynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r PDC, gan gynnwys is-osod tai fforddiadwy; safonau llety gwarchod a diffyg wardeiniaid mewn ardaloedd penodol, a thenantiaid nad oedd yn cynnal eiddo ac yn mynd ati i atal gwelliannau i eiddo.  I sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r holl faterion, cytunwyd y byddai swyddogion yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor archwilio ar hynny.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo'r Polisi Dyraniadau Cyffredin ar gyfer Sir Ddinbych fel y manylwyd yn Atodiad A yr adroddiad, a

 

(b)       gofyn i swyddogion adrodd yn ôl i’r pwyllgor archwilio ar y camau i'w cymryd mewn perthynas â'r materion a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau fel y nodir yn Atodiad C yr adroddiad a phwyntiau eraill a godwyd gan aelodau etholedig yn y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

8.

DYFODOL CLWYD LEISURE LIMITED

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi i ddilyn) ar y dewisiadau ar gyfer cyfleusterau a weithredir ar hyn o bryd gan Clwyd Leisure Limited.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

(a)       bod y Cyngor yn ailddatgan ei weledigaeth o ran datblygu cyfleusterau twristiaeth a hamdden o'r radd flaenaf fel rhan o'r cynnig tymor hir;

 

(b)       bod y Cabinet yn gofyn i Fwrdd Clwyd Leisure Limited ymateb erbyn 31 Ionawr 2014 gan nodi eu cynlluniau tymor byr a chanolig ar gyfer eu cyfleusterau;

 

(c)        bod y Cabinet yn cadarnhau y byddai rheoli Cwmni Cyfyngedig Clwyd Leisure yn ormod o risg;

 

(d)       yn sgil y pryderon parhaus a chanfyddiadau ymarfer sylw dyledus, bod y Cyngor yn rhoi'r gorau i ariannu Clwyd Leisure Limited o 1 Ebrill 2014 ymlaen;

 

(e)       bod y cyllid presennol sydd ar gael i gefnogi Clwyd Leisure Limited (tua £200 mil yn 2014/15) yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r newidiadau hyn ac i ddatblygu cynnig dros dro tra bod y Cyngor yn penderfynu ar y cynnig tymor hir.

 

Cofnodion:

[Cafodd yr eitem hon ei dwyn ymlaen ar y rhaglen gyda chydsyniad yr Arweinydd]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones adroddiad cyfrinachol ar yr opsiynau ar gyfer darparu’r cyfleusterau a weithredir ar hyn o bryd gan Clwyd Leisure Limited yn y dyfodol.

 

Darllenwyd deiseb a gydlynwyd gan aelod o staff Canolfan Fowls Gogledd Cymru yn annog y Cyngor i gymryd camau i atal y cyfleusterau rhag cau.

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth ofalus i ganfyddiadau'r ymarferiad diwydrwydd dyladwy a gynhaliwyd a'r achos a wnaed ar gyfer opsiynau i'r dyfodol a manteisiwyd ar y cyfle i holi’r swyddogion ar hynny er mwyn bodloni eu hunain o ran y ffordd orau o weithredu.  Yn ystod trafodaeth fanwl, codwyd pryderon dwys am y ffordd roedd y cwmni’n cael ei redeg a gweithrediad y cyfleusterau.  Er y cytunwyd na allai'r Cyngor gymryd drosodd na pharhau i ariannu'r cwmni yn sgil y pryderon hynny, ailadroddwyd eu hymrwymiad i wella’r ddarpariaeth twristiaeth a hamdden arfordirol.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       bod y Cyngor yn ailddatgan ei weledigaeth o ran datblygu cyfleusterau twristiaeth a hamdden o'r radd flaenaf fel rhan o'r ddarpariaeth arfordirol tymor hir.

 

(b)       bod y Cabinet yn galw ar Fwrdd Clwyd Leisure Limited i ddatgan erbyn 31 Ionawr 2014 beth oedd eu cynlluniau tymor byr a chanolig ar gyfer gweithredu’r cyfleusterau;

 

(c)        bod y Cabinet yn cadarnhau y byddai rheoli Cwmni Clwyd Leisure Limited yn ormod o risg.

 

(d)       yn sgil y pryderon parhaus a chanfyddiadau’r ymarferiad diwydrwydd dyledus, dylai’r Cyngor roi'r gorau i ariannu Clwyd Leisure Limited o 1 Ebrill 2014 ymlaen, a

 

(e)       bod y cyllid presennol sydd ar gael i gefnogi Clwyd Leisure Limited (tua £200k yn 2014/15) yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r newidiadau hyn ac i ddatblygu darpariaeth dros dro tra bod y Cyngor yn penderfynu ar ddyfodol tymor hir y ddarpariaeth arfordirol.

 

Ar y pwynt hwn, cafodd y Cabinet egwyl ar gyfer cinio ac ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored am 3.00 pm

 

 

9.

DATBLYGIADAU POLISI TRETHI BUSNES YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 78 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) ynghylch newidiadau deddfwriaethol i Drethi Busnes i hyrwyddo datblygiadau newydd a dod eiddo gwag hir dymor yn ôl i ddefnydd. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn i’r Cabinet fabwysiadu’r ddau gynllun newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod yr aelodau yn mabwysiadu'r 'penderfyniadau enghreifftiol’ yn ffurfiol a’r 'ffurflenni cais enghreifftiol' ar gyfer y ddau gynllun fel y nodir gan Lywodraeth Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn manylu ar newidiadau deddfwriaethol i Drethi Busnes i hyrwyddo datblygiadau newydd a gwneud defnydd o’r newydd o eiddo gwag hir dymor, ac argymhellodd y dylai’r Cabinet fabwysiadu’r ddau gynllun newydd.

 

Crëwyd y ddau gynllun i hyrwyddo twf a chynyddu lefelau cyflogaeth ar raddfa genedlaethol.   Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd y Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau y byddai uchafswm y terfynau cymorth Ewropeaidd yn berthnasol ac y byddai trethdalwyr yn elwa ar y cynllun mwyaf ffafriol mewn achosion lle'r oedd mwy nag un yn berthnasol.  Nododd y Cabinet rinweddau’r cynlluniau a gofynnodd yr Arweinydd iddynt gael eu hyrwyddo gymaint ag y bo modd i sicrhau’r budd economaidd mwyaf.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu ‘penderfyniadau enghreifftiol’ a 'ffurflenni cais enghreifftiol' y ddau gynllun mewn perthynas â Threthi Busnes yn ffurfiol fel yr amlinellir gan Lywodraeth Cymru.

 

 

10.

GOSTYNGIAD DEWISOL AR DRETHI pdf eicon PDF 85 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) sy'n adolygu lefelau Gostyngiad Dewisol ar Drethi a ddyfarnwyd i elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Mae’r adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo diwygiadau arfaethedig i'r Meini Prawf ar gyfer Gostyngiad Dewisol ar Drethi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau'n cymeradwyo'r newidiadau bwriedig i'r Meini Prawf Rhyddhad Trethi Dewisol i fod yn weithredol o 1 Ebrill 2014 ar gyfer ymgeiswyr newydd ac 1 Ebrill 2015 ar gyfer ymgeiswyr presennol, fel y nodir ym mharagraffau 4.1-4.9 o’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar lefelau’r Gostyngiad Dewisol ar Drethi (GDD) a ddyfarnwyd i Elusennau a sefydliadau Nid am Elw a gofynnodd am gymeradwyaeth i ddiwygiadau arfaethedig i'r Meini Prawf GDD.

 

Rhoddwyd amlinelliad i’r Aelodau o gost bresennol GDD i’r Cyngor ynghyd â chamau i sicrhau arbedion ar gyfer 2015/16, a gofynnwyd iddynt ystyried diwygiadau pellach i feini prawf y GDD.  Dan y ddeddfwriaeth bresennol byddai ond yn bosibl diwygio gostyngiad ar drethi o 2015/16 ar gyfer ymgeiswyr presennol ond byddai’n dod i rym ar unwaith ar gyfer ceisiadau newydd.  Trafododd y Cabinet yr achos dros ddiwygio a chroesawyd y cynigion fel ffordd deg ymlaen i sicrhau fod y Cyngor yn parhau i ddarparu gostyngiad dewisol lle bo angen a bod hynny er budd y gymuned leol.

 

 PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn rhoi cymeradwyaeth i weithredu'r diwygiadau bwriedig i'r Meini Prawf Gostyngiad Dewisol ar Drethi o 1 Ebrill 2014 ar gyfer ymgeiswyr newydd ac o 1 Ebrill 2015 ar gyfer ymgeiswyr presennol, fel yr amlinellir ym mharagraffau 4.1 - 4.9 yr adroddiad.

 

 

11.

CYLLIDEB 2014/15 pdf eicon PDF 198 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) sy’n rhoi diweddariad ar y broses o bennu'r gyllideb ac yn manylu ar gynigion i’w cymeradwyo gan y Cyngor Sir er mwyn pennu cyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer 2014/15.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cefnogi'r cynigion ar gyfer cyllideb 2014/15 fel y dangosir yn Atodiad 1 o'r adroddiad ac yn argymell hynny i'r Cyngor llawn,

 

(b)       yn argymell y cynnydd o 3.5% yn lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2014/15 i'r Cyngor llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn manylu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2014/15 a’r cynnydd o 3.5% yn lefel Treth y Cyngor yn sgil hynny.  Roedd cynigion ar gyfer arbedion ychwanegol o £2m i’r gyllideb er mwyn cwblhau’r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2014/15 wedi’u hatodi i’r adroddiad (Atodiad 1) ynghyd â manylion am arbedion o £6.5m ar y gyllideb a gymeradwywyd yn flaenorol ar gyfer 2014/15 (Atodiad 2).

 

Cyfeiriwyd at farn yr aelodau yn deillio o'r Gweithdy diweddar ar y Gyllideb a’r rhesymeg y tu ôl i’r cynigion a gyflwynwyd.   Mynegwyd rhai amheuon ynghylch y defnydd o falansau cyffredinol i helpu ymateb i’r diffyg o ran arbedion, ond rhoddwyd sicrwydd i’r Cabinet y byddai balansau’n aros ar lefel resymol ac nad oedd yn peri risg i'r Awdurdod.  Roedd y defnydd o falansau wedi’i fwriadu fel dyraniad un waith yn unig i ganiatáu amser i ddatblygu cynigion pellach am arbedion ar gyfer 2015/16. Byddai unrhyw ddigwyddiadau ar hap ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael eu dyrannu i falansau cyffredinol oni bai eu bod wedi’u clustnodi ar gyfer gwasanaethau penodol. Amlygwyd hefyd yr her ariannol sylweddol dros y blynyddoedd nesaf gyda phenderfyniadau anoddach i'w gwneud.

 

Talodd y Cynghorydd David Smith deyrnged i'r Pennaeth Cyllid ac Asedau a’i dîm am eu gwaith caled a’r rheolaeth o’r broses o bennu’r gyllideb.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cefnogi'r cynigion ar gyfer cyllideb 2014/15 fel y dangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad ac yn argymell hynny i'r Cyngor llawn, ac

 

(b)       argymell y cynnydd o 3.5% yn lefel Treth y Cyngor yn sgil hynny ar gyfer 2014/15 i’r Cyngor llawn.

 

 

12.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi i ddilyn) yn nodi manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a gytunwyd ar gyfer y gyllideb.

 

(b)       yn cymeradwyo trosglwyddo’r symiau canlynol i gronfeydd wrth gefn fel y nodir yn Adran 6 yr adroddiad:

 

  • £72 mil i Gronfa Wrth Gefn EDRMS
  • £355 mil i'r Gronfa Buddsoddi Strategol (Tai Gofal Ychwanegol)
  • £300 mil i Gronfa Wrth Gefn Moderneiddio Gofal Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.  Rhoddodd y grynodeb ganlynol ar sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        rhagwelwyd tanwariant o £951k ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        roedd 76% (£3.061m) o’r arbedion y cytunwyd arnynt wedi’u sicrhau hyd yma

·        amlygwyd y prif amrywiadau oddi wrth dargedau cyllideb neu arbedion yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol

·        symudiad negyddol o £6k ar falansau ysgolion a ddygwyd ymlaen o 2012/13.

·        diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

 Gofynnwyd hefyd i’r Cabinet gymeradwyo tri throsglwyddiad i gronfeydd wrth gefn fel y nodir yn adran 6 yr adroddiad:  Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd, dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod y Cyngor ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o £950k ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ond gallai’r ffigwr hwnnw newid.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a gytunwyd ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       Cymeradwyo’r trosglwyddiad canlynol i’r cronfeydd wrth gefn a nodir yn Adran 6 yr adroddiad:

 

  • £72k i’r Gronfa Wrth Gefn EDRMS
  • £355k i'r Gronfa Buddsoddi Strategol (Tai Gofal Ychwanegol)
  • £300k i Gronfa Wrth Gefn Moderneiddio Gofal Cymdeithasol.

 

 

13.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 119 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet amgaeedig a nodi’r cynnwys.   

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y  Cabinet i’w hystyried.  Os bydd un o’r pwyllgor archwilio’n galw ar y Cabinet i adolygu'r penderfyniad a wnaed mewn perthynas ag Ysgol Llanbedr, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai angen ystyried y mater yn y cyfarfod ym mis Chwefror.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

14.

FFRAMWAITH CONTRACTWR YSGOLION AC ADEILADAU CYHOEDDUS GOGLEDD CYMRU

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn argymell penodi’r contractwyr a enwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD fod y contractwyr a enwir ym mharagraff 3 yr adroddiad yn cael eu penodi Fframwaith Contractwyr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad cyfrinachol a oedd yn argymell penodi contractwyr a enwyd i Fframwaith Contractwr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru (NWSPBCF).  Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion ar ganlyniad proses gaffael NWSPBCF a rhinweddau’r ymagwedd o gydweithio.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Thompson-Hill y tîm sy’n gweithio ar y fframwaith a thalodd deyrnged iddynt am eu gwaith caled.  Cadarnhaodd y swyddogion y gallai pob awdurdod bennu eu hanghenion economaidd penodol eu hunain a’r manteision cymunedol y ceisir eu sicrhau ar gyfer pob prosiect.

 

PENDERFYNWYD penodi’r contractwyr a enwir ym mharagraff 3 yr adroddiad i Fframwaith Contractwyr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.15pm