Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Croesawodd
a llongyfarchodd yr Arweinydd y Cynghorydd Will Price, Cynghorydd Sir oedd
newydd ei ethol ac a oedd yn mynychu ei gyfarfod cyntaf o’r Cabinet. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y
Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol Cofnodion: Y Cynghorydd
Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol, Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi
ynghlwm), sy’n ceisio cymeradwyaeth ar gyfer adnoddau ychwanegol, er mwyn
sicrhau y gall y gwasanaeth ailgylchu trolibocs wythnosol newydd a
swyddogaethau casglu gwastraff cysylltiedig weithredu fel y rhagwelwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo £1.299m ychwanegol mewn
gwariant cyfalaf er mwyn caffael cerbydau ailgylchu ychwanegol, wedi’i ariannu
drwy fenthyca darbodus; (b) cymeradwyo £1.067m ychwanegol o gostau
refeniw er mwyn sicrhau y gall y newid gwasanaeth ddarparu fel y cynlluniwyd ar
sylfaen gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys
y costau refeniw ar gyfer benthyca darbodus ar gyfer y cerbydau y cyfeirir
atynt yn 3.1 yr adroddiad; (c) cytuno bod y penderfyniad yn cael ei
weithredu ar unwaith heb gael ei alw i mewn, yn unol ag adran 7.25 yng Nghyfansoddiad
y Cyngor, a (d) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad A yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad
oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer adnoddau ychwanegol, er mwyn
sicrhau y gallai’r gwasanaeth ailgylchu trolibocs wythnosol newydd a
swyddogaethau casglu gwastraff cysylltiedig weithredu fel y rhagwelwyd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Mellor at weithrediad y
gwasanaeth gwastraff/ailgylchu newydd ar 3 Mehefin 2024 nad oedd wedi gweithio
fel y disgwyl, ac roedd o a’r Arweinydd wedi ymddiheuro'n gyhoeddus i
breswylwyr, ac wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r problemau er mwyn sicrhau bod
y system newydd yn gweithredu’n effeithiol.
Byddai adolygiad craffu dan arweiniad aelodau am gyflwyno’r system
newydd yn cael ei gynnal er mwyn deall beth aeth o’i le, a pha wersi y gellid
eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Fodd
bynnag, roedd adroddiad heddiw yn ymwneud yn benodol â mynd i’r afael â’r
problemau oedd wedi dod i’r amlwg ac i sicrhau bod y system newydd yn gweithio.
Ers cyflwyno’r gwasanaeth newydd, nid oedd nifer
o’r rowndiau ailgylchu newydd wedi llwyddo i gwblhau eu casgliadau dyddiol gan
arwain at niferoedd annerbyniol o gasgliadau’n cael eu methu/gwastraff ddim yn
cael eu casglu, ac roedd adnoddau dros dro ychwanegol wedi cael eu dyrannu’n
sydyn i fynd i’r afael â’r broblem.
Roedd yna gost ar gyfer yr adnoddau ychwanegol dros dro, ond fe fydd
cyfanswm y gost ychwanegol ar gyfer 2024/25 yn cael ei osod yn erbyn taliad
untro yn sgil ail ariannu Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd
Cymru, gan olygu nad oes yna bwysau cyllidebol yn y flwyddyn ariannol bresennol
ar gyfer y gwasanaeth. Serch hynny, mae
angen datrysiad parhaol i alluogi’r gwasanaeth i fod yn llwyddiannus a
chynaliadwy yn yr hirdymor fel y nodwyd yn yr adroddiad. Yn gryno, nid oedd yna ddigon o rowndiau
ailgylchu wedi’u cynllunio wrth ddylunio’r gwasanaeth, ac roedd angen adnoddau
ychwanegol i ddarparu datrysiad parhaol a gwasanaeth cynaliadwy. Fe argymhellodd y Cynghorydd Mellor y cynnig fel y
nodwyd yn yr adroddiad i ddyrannu adnoddau ychwanegol i alluogi’r gwasanaeth i
weithredu fel y rhagwelwyd. Byddai
methiant i wneud hynny yn arwain naill ai at barhau i glustnodi adnoddau
ychwanegol dros dro nad oedd yn effeithlon ac yn fwy drud na’r datrysiad
parhaol arfaethedig, neu gael gwared ar yr adnoddau ychwanegol dros dro a
fyddai eto’n arwain at niferoedd uchel o gasgliadau’n cael eu methu - nid oedd
modd cefnogi yr un dewis na’r llall. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr
Amgylchedd a’r Economi fwy o fanylion i’r adroddiad. Roedd y model ar gyfer y gwasanaeth
ailgylchu newydd wedi cael ei seilio ar nifer o ragdybiaethau a gafodd eu
profi’n anghywir. Y prif broblem oedd bod rhai o’r rowndiau ailgylchu dyddiol
wedi cael eu dylunio gyda gormod o gartrefi ac nid oeddynt yn cael eu
cwblhau. Byddai angen rowndiau ailgylchu
ychwanegol i ddarparu’r gwasanaeth newydd yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy. Roedd y model gwreiddiol wedi cael ei seilio
ar 20 rownd ailgylchu fesul diwrnod ac roedd y nifer o rowndiau ychwanegol oedd
eu hangen yn amrywio o 6 i 8 rownd, yn dibynnu ar ddiwrnod yr wythnos. Roedd hyn yn golygu bod angen prynu 8 cerbyd
ychwanegol ar gost cyfalaf o tua £1.3m (wedi’i ariannu trwy fenthyca darbodus)
a gyrwyr a llwythwyr ychwanegol i weithredu’r cerbydau. Y costau refeniw oedd yn gysylltiedig â’r
rowndiau ychwanegol oedd £1.067m, oedd
yn cynnwys costau refeniw ar gyfer benthyca darbodus y cerbydau ychwanegol. Byddai cais ffurfiol yn cael ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf ychwanegol i gynorthwyo â’r gost o brynu’r
cerbydau. Bydd angen ystyried y
gyllideb ychwanegol sydd ei hangen (£1.067m) o fis Ebrill 2025 yn rhan o broses
gosod y gyllideb ar gyfer 2025/26. Yn olaf, cafodd y Cabinet wybod ... view the full Cofnodion text for item 3. |