Agenda, decisions and draft minutes
- Manylion Presenoldeb
- Blaenddalen Agenda
PDF 285 KB
- Pecyn adroddiadau'r agenda
- CANLYNIAD ADOLYGIAD PWYLLGOR CRAFFU PARTNERIAETHAU O BENDERFYNIAD Y CABINET YN YMWNEUD Â CHYNNIG ARBEDION TOILEDAU CYHOEDDUS - ASESIAD O'R ANGEN LLEOL A STRATEGAETH DDRAFFT TOILEDAU LLEOL
PDF 767 KB
- Penderfyniadau wedi eu hargraffu
PDF 266 KB
- Cofnodion Drafft Argraffedig
PDF 413 KB
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol Cyllid Cofnodion: Y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol Cyllid |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag
unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiadau eu datgan. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2025 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn amodol ar
ymchwilio i’r pwynt o gywirdeb a godwyd gan y Cynghorydd Brian Jones, derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2025 a chadarnhau eu bod yn
gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2025. Materion yn
Codi – Eitem 5
Cynnig Arbedion Cyfleusterau Cyhoeddus – Asesiad o Anghenion Lleol a
Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol – ·
Holodd y Cynghorydd Julie
Matthews ynghylch hynt y gwaith ers y cyfarfod blaenorol i sicrhau toiledau
cyhoeddus newydd a/neu gadw’r rhai presennol ar agor ond gan y trafodid y pwnc
yn yr eitem ganlynol ar y rhaglen, byddai’n codi’r pwynt bryd hynny yn hytrach
nag yn yr eitem hon. ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd
Arwel Roberts at adroddiad gwallus yn y wasg wedi cyfarfod blaenorol y Cabinet,
a honnai nad oedd Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned Llanelwy, Rhuddlan a Dyserth
wedi ymateb i’r Cyngor yn y mater hwn (“met with silence”), a dywedodd
fod hynny’n anghywir. Gofynnodd am
geisio ymddiheuriad i’r cynghorau hynny gan y gohebydd dan sylw. Cytunodd yr
Arweinydd i drafod y mater â’r Dirprwy Swyddog Monitro gyda’r bwriad o gysylltu
â’r gohebydd i’r perwyl hwnnw. ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd
Brian Jones at we-ddarllediad cyfarfod blaenorol y Cabinet, pan ddywedodd
swyddogion na ddymunai grwpiau cymunedol yn y Gerddi Botaneg fod yn rhan o
drafodaethau ynglŷn â chadw’r toiledau ar agor. Dywedodd ei fod yn gwybod am grwpiau
cymunedol a ddymunai fod yn rhan o drafodaethau a’i bod yn anghywir i
swyddogion ddatgan fel arall. Awgrymodd
yr Arweinydd bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cofnodion ar yr amod yr ymchwilid
i’r pwynt a godwyd. PENDERFYNWYD,
ar yr amod
yr ymchwilid i’r pwynt o gywirdeb a gododd y Cynghorydd Brian Jones, derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2025 a chadarnhau eu bod yn
gywir. |
|
Ystyried
canlyniad adolygiad o’r penderfyniad a wnaethpwyd gan y Cabinet ar 29 Ebrill
2025 ynghylch Cynnig Arbedion Toiledau Cyhoeddus a oedd wedi cael ei alw i mewn
a’i ystyried gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 22 Mai 2025. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet, drwy bleidlais fwyafrifol, ar ôl ystyried a chymryd
argymhelliad y Pwyllgor Craffu Partneriaeth i ystyriaeth, yn cytuno i
ychwanegu 3 argymhelliad pellach at ei benderfyniad a wnaed ar 29 Ebrill 2025: (f) bod swyddogion yn parhau i gael trafodaethau
ystyrlon gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned perthnasol ac unrhyw drydydd
parti perthnasol arall ynglŷn â’r opsiynau ar gyfer cadw’r cyfleusterau
cyhoeddus dan sylw ar agor ac adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r trafodaethau hyn i
gyfarfod y Pwyllgor Craffu a’r Cabinet cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl yn y
dyfodol o ystyried proses gosod cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026/27; (g) bod yr argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor
Craffu Partneriaeth i ariannu’r cyfleusterau cyhoeddus trwy gynnydd yn
Nhreth y Cyngor yn rhan o broses gosod cyllideb flynyddol y Cyngor ar gyfer
2026/27 ac yn cymryd canlyniad y trafodaethau y cyfeirir atynt uchod i
ystyriaeth, ac (h) y
bydd y cyfleusterau cyhoeddus dan sylw yn aros ar agor nes y bydd y
trafodaethau y cyfeirir atynt yn (f) ac (g) uchod wedi'u cwblhau er boddhad y
Cabinet. Cofnodion: Roedd sôn yn yr adroddiad am y ddadl drwyadl a gafodd y
Pwyllgor Craffu ynglŷn â’r sail ar gyfer galw’r penderfyniad i mewn. Wedi ystyried yr holl safbwyntiau a’r atebion
i’r cwestiynau a ofynnwyd, cytunodd y Pwyllgor â’r holl bwyntiau a godwyd yn y
Rhybudd o Alw i Mewn. Yn ogystal â
hynny, mynegodd aelodau bryderon ynghylch · effaith cau toiledau mewn mannau poblogaidd fel Dyserth, Rhuddlan a
Llanelwy ar fywydau a lles y bobl a chymunedau lleol · effaith cau’r toiledau ar enw da’r Cyngor ymysg pobl leol, busnesau a
budd-ddeiliaid eraill, gan gadw casgliadau’r Asesiad o’r Effaith ar Les mewn
cof · effaith y penderfyniad ar staff y gwasanaeth a’r aelodau hynny o staff
a ddefnyddiai’r toiledau wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl leol · amlder yr ohebiaeth ag aelodau etholedig a budd-ddeiliaid eraill
ynglŷn â newidiadau arfaethedig yn narpariaeth y gwasanaeth · camdybiaeth fod peidio ag ymateb i’r ymgynghoriad yn gyfystyr a bod o
blaid y cynigion. Wrth gyfeirio’r mater yn ôl i’w adolygu, gofynnai’r
Pwyllgor gyda pharch bod y Cabinet a’r swyddogion yn gwneud pob ymdrech i
gyfathrebu â Chynghorau Dinas/Tref/Cymuned a’r holl fudd-ddeiliaid eraill drwy
bob dull posib, er mwyn sicrhau mynediad i bawb ag urddas at gyfleusterau
cyhoeddus o ansawdd da ledled y sir. Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r Cynghorydd Merfyn Parry
am ei argymhelliad a’i gydnabyddiaeth o’r costau a ddeilliai o gadw toiledau ar
agor a bodloni anghenion yn y dyfodol, a derbyniwyd y gallai fod angen
diwygio’r ffigurau yn sgil pennu’r gyllideb.
Felly, gofynnwyd i’r Cabinet ailystyried ei benderfyniad i gau
cyfleusterau cyhoeddus oedd dan reolaeth Cyngor Sir Ddinbych ac yn hytrach,
cynnal y gwasanaethau hynny drwy dalu’r costau gofynnol drwy gynnydd neilltuol
o 0.27% yn sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2026/27. Ni fyddai hynny’n fwy na £4.38 y flwyddyn ar
gyfartaledd i aelwyd Band D, a chredai’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau y
byddai hynny’n fuddsoddiad teg a chymesur mewn diogelu iechyd, urddas a
hygyrchedd i bobl leol ac ymwelwyr ledled y sir. Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Jones am adrodd
ynghylch trafodaeth y Pwyllgor Craffu a’i argymhellion, a diolchodd hefyd i’r
Pwyllgor Craffu am ei waith. Gofynnodd
yr Arweinydd i’r Cabinet ganolbwyntio ar argymhelliad y Pwyllgor Craffu yn
ystod y drafodaeth. Trafodwyd y prif bynciau canlynol - · cyfeiriodd y Cynghorydd Julie Matthews at gofnodion y cyfarfod blaenorol, a gyfeiriai at adran 4.8 o’r adroddiad, lle’r oedd y Cabinet wedi pwysleisio bod angen gweithio i sicrhau darpariaeth yn lle cyfleusterau sy’n cau a/neu gynnal y ddarpariaeth bresennol lle bo modd drwy gydweithio, gan gydnabod fod cyfleusterau cyhoeddus yn dal yn darparu gwasanaeth hanfodol, a gofynnodd am gynigion mwy cadarn ar gyfer diogelu’r ddarpariaeth, a sicrwydd bod y gwaith yn dod yn ei flaen. Dywedodd swyddogion y bu cyswllt â’r Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned dan sylw, gan gynnwys trafodaeth ar y cyd â chynghorau Llanelwy, Dyserth a Rhuddlan gyda’r nod o ddod o hyd i ffyrdd o gadw toiledau ar agor yn yr ardaloedd hynny, ac roedd y trafodaethau’n parhau. Roedd galw’r penderfyniad i mewn wedi amharu ar y trafodaethau, fodd bynnag, wrth i swyddogion aros am gadarnhad o fwriad y Cyngor cyn medru dal ati i drafod. Pwysleisiodd yr Arweinydd mor bwysig oedd y trafodaethau hynny ac anogodd y swyddogion i ddal ati yn ddiymdroi. Gofynnodd y Cabinet hefyd am roi gwybod i’r holl aelodau am unrhyw ddatblygiadau yn y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Chludiant (copi ynghlwm) ynglŷn â’r prosiect i amnewid Pont Llanerch a’r
risgiau sy’n gysylltiedig ag adeiladu pont. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet – (a) wedi
ystyried yr adroddiad a’r adroddiad am y cam dylunio manwl (ynghlwm fel Atodiad
A i’r adroddiad) ac ar sail y dystiolaeth o’r risgiau a gyflwynwyd, ei fod yn
cefnogi casgliadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a phenderfynu rhoi’r gorau
i’r prosiect sydd â’r nod o ddisodli Pont Llannerch, a (b) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad B
i'r adroddiad). Cofnodion: Roedd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi, y Pennaeth Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Uwch-beiriannydd – Pontydd ac Adeiladu. Tynnwyd
sylw’r Cabinet at y pwyntiau yn yr adroddiad, gan gynnwys y gwaith helaeth a
wnaed eisoes a chymhlethdodau’r prosiect i godi pont newydd wedi i Bont
Llannerch ddymchwel yn 2021. Rhennid y
prosiect yn dri cham: Gwaith ar
opsiynau, Dylunio Manwl ac Adeiladu.
Bu’r cam dylunio manwl yn drefn gymhleth a hirfaith a daeth amryw heriau
i’r amlwg, yn bennaf felly’r sylfeini roedd eu hangen ar gyfer pont
newydd. Adeiladwyd hen Bont Llannerch
dros dyfrhaen dŵr croyw dan haen o dywodfaen ac roedd Dŵr Cymru’n
berchen ar safle echdynnu dŵr gerllaw.
Byddai gosod sylfeini ar gyfer pont newydd yn golygu turio drwy’r haenau
tywodfaen, a fedrai amharu ar ansawdd y dŵr a chreu perygl o atal
cyflenwadau 85,000 o gwsmeriaid Dŵr Cymru, yn ogystal â risg i iechyd y
cyhoedd gyda goblygiadau pellgyrhaeddol. Tynnwyd sylw’r aelodau hefyd i gyflwyniad technegol a roes ychwaneg o
fanylion ynglŷn â’r Gwaith ar Opsiynau a’r Dylunio Manwl, gan gynnwys y
sail resymegol ar gyfer y dewis a ffefrid, y sylfeini, archwiliadau o’r tir a’r
canlyniadau. Rhoddwyd sicrwydd i’r Cabinet yr ystyriwyd pob dull
peirianyddol posibl o adeiladu pont newydd a bod y Cyngor wedi ymchwilio’n
drylwyr i bob dewis a dyluniad posib. Er
hynny, ni fu modd dylunio pont newydd heb greu lefel anhysbys o risg i’r
cyflenwad dŵr yn yr ardal ac ni ellid dod o hyd i ffordd o ddatrys
hynny. Bu’r Pwyllgor Craffu
Partneriaethau’n trafod y mater ym mis Ebrill 2025 a chyflwynwyd eu casgliadau
a’u hargymhellion yn yr adroddiad i’r Cabinet eu hystyried. Oherwydd y risgiau arwyddocaol oedd yn
gysylltiedig ag adeiladu pont newydd, argymhellwyd bod y Cabinet yn penderfynu
atal y prosiect. Dywedodd
aelodau’r Cabinet y dymunai pawb ailadeiladu Pont Llannerch a bod hynny’n un o
nodau’r Cynllun Corfforaethol, a soniwyd am y gwaith helaeth a wnaed ynghylch
hynny gyda chymorth Llywodraeth Cymru a chryn wariant ar gostau. Wedi ymchwilio’n drylwyr i’r holl ddewisiadau
ar gyfer dylunio pont newydd, fodd bynnag, roedd y cyngor arbenigol a gafwyd
ynghylch materion peirianyddol a rheoli risg yn dangos yn bendant na fyddai
modd adeiladu pont heb greu’r perygl o amharu ar gyflenwad dŵr ar gyfer
85,000 o aelwydydd a bod dim ffordd hysbys o ddatrys y broblem nac yswirio rhag
atebolrwydd am hynny. Trafodwyd y prif
bynciau canlynol - ·
oherwydd cymhlethdodau’r
prosiect a materion technegol, roedd teimlad fod y cyhoedd dan gamargraff i
raddau a bod diffyg dealltwriaeth o’r sefyllfa ·
methodd cynrychiolydd
Dŵr Cymru â dod i’r cyfarfod i ateb cwestiynau, ond bu cynrychiolydd yn
bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ym mis Ebrill 2025 i
gyfrannu at y drafodaeth, ac roeddent yn dal o’r un farn y byddai bwrw ymlaen
â’r prosiect yn creu gormod o risg i gartrefi a busnesau yn y rhan helaeth o
ogledd Cymru ·
roedd y ddyfrhaen ar ffurf
craig hydraidd â dŵr y tu mewn iddi, ac fe gâi’r dŵr ei hidlo drwy’r
graig honno cyn ei echdynnu; roedd y ddyfrhaen tua 22 cilometr o hyd, 5
cilometr o led a 100 metr o ddyfnder ac felly ni fyddai modd symud y bont ryw
fymryn i lawr yr afon, gan y byddai’n dal yn mynd dros y ddyfrhaen · codwyd y posibilrwydd o adeiladu pont dros dro, ond byddai angen sylfeini ar gyfer hynny hefyd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
DIWYGIO’R GYLLIDEB O £500,000 Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a
Theuluoedd (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet ar wariant arfaethedig
o £500,000 ychwanegol i gefnogi lles, presenoldeb, ymddygiad a dysgwyr mewn
tlodi. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cefnogi'r cynllun arfaethedig i ddatblygu lles, presenoldeb ac ymddygiad
dysgwyr, a chefnogi dysgwyr mewn tlodi. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Diane King yr adroddiad a
geisiai gefnogaeth y Cabinet o blaid cynnig i wario’r swm ychwanegol o £500,000
a drosglwyddwyd i’r Gwasanaeth Addysg ar ddatblygu lles dysgwyr, presenoldeb,
ymddygiad a chefnogi dysgwyr mewn tlodi yn sgil diwygio’r gyllideb fel y
cytunodd y Cyngor ar 20 Chwefror 2025. Hysbyswyd y Cabinet nad oedd yno un ateb pendant
i’r problemau oedd yn destun pryder yn lleol a chenedlaethol a bod y pandemig
Covid wedi cael effaith sylweddol. Câi’r
arian ei wario ar gynnal y gwaith oedd eisoes yn digwydd a datblygu ffrydiau
gwaith newydd. Roedd cryn drafodaeth
wedi bod ynglŷn â’r ffordd orau o wario’r arian ac roedd yr adroddiad yn
cynnwys barn broffesiynol y swyddogion ynghyd â’r dystiolaeth genedlaethol
ynghylch arferion effeithiol. Nod y
cynnig oedd bodloni anghenion ysgolion ac yn bwysicach fyth, galluogi pobl
ifanc i gyflawni eu potensial. Manylodd y Pennaeth Addysg ynghylch y cyswllt a
gafwyd â swyddogion proffesiynol a phenaethiaid i drafod sut orau i dargedu’r
cyllid ac ystyried safbwyntiau lleol a chenedlaethol. Diolchodd i’r Cabinet a’r Cyngor llawn am y
cyllid ychwanegol ac am ddal i roi pwyslais ar gefnogi addysg. Tynnodd sylw’r Cabinet at fanylion yr
adroddiad a’r cynigion ar gyfer gwario’r swm ychwanegol o £500,000 a ddyrannwyd
i’r Gwasanaeth Addysg, a oedd yn cynnwys dadansoddiad o’r costau dan chwech o
benawdau gwariant, sef diwygio’r system dadansoddi data a recriwtio Gweithwyr
Cyswllt â Theuluoedd, Gweithwyr Ymgysylltu â Theuluoedd, Staff Cefnogi
Ymddygiad, Seicolegydd Addysg a Swyddog Lles. Bwriedid penodi cyfanswm o naw o
swyddogion i gynyddu’r gallu i gyflawni a byddent yn canolbwyntio ar ddulliau
sydd eisoes wedi profi’n llwyddiannus.
Er y croesewid y £500,000 yn fawr roedd hi’n bwysig nodi na fyddai’n
datrys yr holl broblemau yn y pedwar o feysydd allweddol. Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion
gwestiynau fel a ganlyn – ·
cynhaliwyd ymgynghoriad
trylwyr â swyddogion proffesiynol, Penaethiaid, Undebau, Fforwm Cyllideb
Ysgolion a’r Tîm Gweithredol Corfforaethol; roedd y Pwyllgor Craffu Perfformiad
wedi craffu ar y cynigion a’u cymeradwyo ·
esboniwyd fod Llywodraeth
Cymru wedi darparu grantiau yn y maes hwn ond y bu’n anodd recriwtio pobl i’r
swyddi cyfnod penodol. Gan y byddai’r swm o £500,000 yn rhan barhaol o’r gyllideb,
byddai’r swyddi dan sylw’n rhai parhaol ac felly’n fwy deniadol i ddarpar
ymgeiswyr ·
roedd mesur lles yn heriol
dros ben ac roedd mynychu’r ysgol yn cyfrannu’n fawr at les plant ac yn fuddiol
o safbwynt dysgu, problemau cymdeithasol a phrydau ysgol am ddim i blant iau, a
byddai’r cyllid ychwanegol yn helpu i fynd i’r afael â’r meysydd hynny gyda naw
o swyddogion ychwanegol. Diolchodd yr Arweinydd i’r Aelod Arweiniol, y
Pennaeth Addysg a’i dîm am eu gwaith caled wrth sicrhau y câi’r arian ychwanegol
ei wario yn y ffordd fwyaf effeithlon. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cefnogi'r cynllun arfaethedig i ddatblygu lles dysgwyr, presenoldeb ac
ymddygiad a chefnogi dysgwyr mewn tlodi. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET Derbyn Rhaglen
Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried. PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.50pm. |