Agenda and decisions

Agenda and decisions

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

2.

DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 395 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2025 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2025 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

5.

DATGANIAD INTERIM CYNGOR SIR DDINBYCH YNGHYLCH Y DARPAR BARC CENEDLAETHOL YNG NGOGLEDD DDWYRAIN CYMRU pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r datganiad interim drafft ar ymateb yr awdurdod i’r ymgynghoriad cyfredol ar gynnig y Parc Cenedlaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      yn cymeradwyo’r datganiad interim fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac

 

(b)      yn cymeradwyo’r datganiad interim fel ymateb yr adroddiad i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch y bwriad i greu Parc Cenedlaethol.

 

6.

LLYTHYR BLYNYDDOL OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU 2023/24 pdf eicon PDF 213 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi ynghlwm) yn cyflwyno Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’w ystyried ac yn gofyn i’r Cabinet gytuno i adrodd yn ôl wrth yr Ombwdsmon ynghlwm ag unrhyw ystyriaethau a chamau arfaethedig o ganlyniad i’r Llythyr Blynyddol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      wedi ystyried y data yn y llythyr, ynghyd â data’r Cyngor, i ddeall mwy am berfformiad ar gwynion, gan gynnwys unrhyw batrymau neu dueddiadau a chydymffurfiaeth y sefydliad ag argymhellion yr Ombwdsmon, ac

 

(b)      yn cytuno y dylai unrhyw ystyriaethau a chamau a gynigiwyd o ganlyniad i Lythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gael eu hadrodd yn ôl i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru cyn gynted â phosib.

 

7.

DIWEDDARU RHEOLAU’R WEITHDREFN GONTRACTAU pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi ynghlwm) yn manylu ar newidiadau i Reolau’r Weithdrefn Gontractau i gyd-fynd â Deddf Caffael 2023 er mwyn gallu parhau i gydymffurfio wrth gaffael ar draws y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cydnabod y newidiadau yn Rheolau'r Weithdrefn Gontractau i alluogi parhad y broses gaffael sy’n cydymffurfio ar draws y Cyngor.

 

8.

ASESIAD PERFFORMIAD PANEL CYNGOR SIR DDINBYCH – ADRODDIAD AC YMATEB pdf eicon PDF 312 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet adolygu a chymeradwyo ymateb statudol y Cyngor i adroddiad yr Asesiad Perfformiad Panel a’r camau mae’n bwriadu eu cymryd ac argymell yr un fath i’r Cyngor ei gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      yn nodi a chroesawu’r Adroddiad ynghylch yr Asesiad Perfformiad Panel (Atodiad 1),

 

(b)      wedi adolygu a chymeradwyo’r datganiadau statudol (Adrannau 4.7 a 4.8) yr oedd yn ofynnol i’r Cyngor eu gwneud mewn ymateb i’r Adroddiad a’r camau gweithredu’r oedd y Cyngor yn bwriadu eu cymryd fel y’u nodwyd yn y ‘Cynllun Gweithredu’ (Atodiad 2) ac wrth wneud hynny, wedi adolygu a chymeradwyo’r ymateb i’r argymhellion ar gyfer newid a wnaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 22 Ionawr (Atodiad 2 i’r adroddiad), ac

 

(c)      yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Datganiadau a’r Cynllun Gweithredu ar 20 Chwefror 2025.

 

9.

CYLLIDEB Y CYNGOR 2025/26 pdf eicon PDF 265 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i’r cynigion er mwyn gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26 cyn cyfarfod y Cyngor ar 20 Chwefror 2025.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      yn cefnogi’r cynigion a amlinellwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2025/26 – 2027/28 (Atodiad 1 i’r adroddiad), y manylwyd yn eu cylch yn Adran 4 o’r adroddiad, er mwyn gosod cyllideb ar gyfer 2025/26,

 

(b)      yn cymeradwyo’r cynnydd cyfartalog o 5.29% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ynghyd ag 0.71% yn ychwanegol ar gyfer y cynnydd yn ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru; roedd hynny’n hafal i gynnydd cyffredinol arfaethedig o 6.00% (paragraff 4.5 o’r adroddiad),

 

(c)      yn dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid, addasu’r modd y defnyddid arian wrth gefn oedd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500,000 pe byddai gwahaniaeth rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol, er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn amserol,

 

(ch)    o blaid y strategaeth i ddefnyddio arian wrth gefn fel y nodwyd ym mharagraff 4.6 o’r adroddiad, ac

 

(d)      yn cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les fel y nodwyd yn Adran 7 o’r adroddiad, ei ddeall a’i ystyried.

 

10.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni, ac

 

(b)      o blaid neilltuo £3.956 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, fel y nodwyd ym mharagraff 4.4 o’r adroddiad.

 

11.

RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 306 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

12.

DYFARNU CYTUNDEB GOFAL CARTREF RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU

Ystyried adroddiad cyfrinachol ar y cyd gan y Cynghorwyr Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu Cytundeb Gofal Cartref Rhanbarthol Gogledd Cymru fel mae’r adroddiad yn ei nodi ar ôl llwyddo i gwblhau proses Gwahoddiad Agored i Dendro er mwyn darparu Gofal Cartref i Oedolion ac i Blant a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)      yn cymeradwyo derbyn y tendrau a gyflwynwyd gan 97 o gyflenwyr a gwrthod 3 o’r cyflenwyd am y rhesymau a nodwyd yn yr Adroddiad Argymell Dyfarnu Contractau (Atodiad 1 i’r adroddiad), ac

 

(b)      yn cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod i benderfyniad.