Rhaglen
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1 – GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I FOD YN BRESENNOL YN Y RHAN HON O’R CYFARFOD Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu
gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod
hwn. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19
Tachwedd 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: |
|
STRATEGAETH DDRAFFT TOILEDAU LLEOL PDF 234 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod
Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi'n amgaeëdig) yn gofyn i'r Cabinet
gymeradwyo'r Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol:
|
|
GOSOD RHENTI TAI A CHYLLIDEBAU CYFALAF A REFENIW TAI 2025/26 PDF 410 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod
Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
gynyddu rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif
Refeniw Tai ar gyfer 2025/26 a Chynllun Busnes y Stoc Dai. Dogfennau ychwanegol: |
|
Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
|
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 330 KB Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a
nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHAN 2 - MATERION CYFRINACHOL GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Argymhellir, yn unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod tra bydd yr
eitem fusnes ganlynol yn cael ei thrafod oherwydd ei bod yn debygol y bydd
gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y'i diffinnir ym mharagraff 14,
Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.
Dogfennau ychwanegol: |
|
GWASANAETH CEFNOGAETH ATAL DIGARTREFEDD A CHAM-DRIN DOMESTIG SIR DDINBYCH, PROSIECT GRANT CEFNOGI TAI (HSG) - AILGARTREFU’N GYFLYM Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Rhys Thomas,
Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn cynnwys canlyniad yr
ymarfer tendro ar gyfer Gwasanaeth Cefnogi Atal Digartrefedd a Cham-drin
Domestig yn ôl y angen a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer dyfarnu’r
contract i’r darparwr penodol yn unol ag argymhellion yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
|
|
PENODI CONTRACTWYR AR GYFER FFRAMWAITH CYNNAL A CHADW AC AILWAMPIO TAI GWAG Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Rhys Thomas,
Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn cynnwys canlyniad y
broses gaffael Y Fframwaith Tai Gwag a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer
dyfarnu’r fframwaith i’r darparwr penodol yn unol ag argymhellion yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
|
|
MARCHNAD Y FRENHINES Y RHYL GWEITHREDIADAU / RHEOLI Ystyried cyd-adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorwyr Jason
McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd a
Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n
amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu a dyfarnu contract i
reoli Marchnad y Frenhines yn y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
|