Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. Cofnodion: |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniataodd yr Arweinydd gwestiwn gan y Cynghorydd Terry
Mendies yn ymwneud â’r Gwasanaeth Bws X51 i Landegla. Cofnodion: Caniataodd yr
Arweinydd gwestiwn gan y Cynghorydd Terry Mendies yn ymwneud â’r Gwasanaeth Bws
X51 (Wrecsam - Rhyl) i Landegla. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Mendies at gŵyn a dderbyniwyd yn ddiweddar ynglŷn â
Gwasanaeth Bws X51 lle’r oedd y gyrrwr wedi gwrthod dilyn y llwybr dynodedig
trwy Landegla oherwydd niwl. Gofynnodd
a allai’r Aelod Arweiniol, Barry Mellor ddarparu copi o’r cytundeb rhwng y
Cyngor â’r cwmni bws o ran y llwybr a’r oriau gweithredu ac os oedd yna unrhyw
ddarpariaethau ar gyfer cosbau neu ddirwyon ariannol mewn achos o leihau
gwasanaeth. Mae cyswllt wedi cael ei
wneud gyda’r cwmni bysiau a oedd yn edrych i mewn i’r achos. Mae’r gŵyn ddiweddaraf yn dilyn yr
amhariad blaenorol i’r gwasanaeth oherwydd y cyfyngiad cyflymder 20mya a’r
parcio yn ymyl y man troi yn y pentref.
Roedd y Cynghorydd Mendies yn cydnabod gwaith caled y Cynghorydd Mellor
mewn datrys problemau yn y gorffennol a gofynnodd a fyddai’n mynychu cyfarfod
gydag ef a’r cwmni bysiau ar yr achos a phwysleisio pwysigrwydd y gwasanaeth i
breswylwyr. Cadarnhaodd y
Cynghorydd Barry Mellor y byddai’n codi’r achos gyda Rheolwr Cludiant
Gweithredol y Cyngor ar ôl iddi ddychwelyd i edrych ymhellach i mewn i’r achos
ac i benderfynu os oedd y gwasanaeth wedi bod yn gweithredu’n fasnachol neu o
dan gytundeb yn ystod amser y gŵyn.
Cytunodd hefyd i ddarparu copi o’r cytundeb yn ôl y gofyn ac i
gyfathrebu gyda’r cwmni bysiau gyda’r bwriad o drefnu cyfarfod. Diolchodd y
Cynghorydd Mendies i’r Cynghorydd Mellor am ei gymorth gyda hyn. |
|
Derbyn - (a) cofnodion cyfarfod Arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 1
Hydref 2024 (copi’n amgaeedig), a (b) chofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Hydref
2024 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2024 a 22 Hydref 2024 a chadarnhau eu bod
yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y cyfarfod Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2024 a chyfarfod
y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfodydd a
gynhaliwyd ar 1 Hydref 2024 a 22 Hydref 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL: EBRILL I FEDI 2024 Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno’r Adroddiad Diweddariad
Perfformiad ar gyfer y cyfnod Ebrill i Fedi 2024 cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Craffu Perfformiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar gyfer y
cyfnod rhwng Ebrill a Medi 2024 ac yn cadarnhau cynnwys yr adroddiad ar gyfer
ei gymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn darparu’r
wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Cyngor yn erbyn ei Gynllun Corfforaethol
o fis Ebrill i fis Medi 2024 gan gynnwys yr amcanion Cydraddoldeb Strategol a’r
saith maes llywodraethu allweddol. Amlygwyd y cyd-destun ariannol presennol a’r effaith anochel y byddai’n ei
gael ar safon gwasanaethau. Fodd bynnag
roedd hefyd yn bwysig cydnabod y gwaith gwych sy’n cael ei wneud er gwaethaf yr
heriau eithriadol a chredai’r Cynghorydd Ellis fod hynny’n adlewyrchu gwaith
caled a dyfalbarhad staff y cyngor.
Gwnaeth gyfeiriad penodol at y newidiadau cadarnhaol mewn darparu
gwasanaethau digartrefedd a oedd hefyd wedi creu arbediad sylweddol a
chanlyniad cadarnhaol o Asesiad Perfformiad Panel diweddar. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y ddogfen fel offer
rheoli perfformiad ac mewn monitro cynnydd. Mynychodd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau a’r Swyddog
Cynllun Strategol a Pherfformiad ar gyfer yr eitem hon. Gofynnwyd eisoes am gymeradwyaeth Cabinet
o’r Adroddiad Diweddariad ar Berfformiad cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio
Perfformiad. Mae’r adroddiad yn
amlinellu’r cynnydd yn erbyn amcanion perfformiad a hefyd yn adnabod
dangosyddion neu weithgareddau a oedd yn Amcanion Cydraddoldeb neu’n cyfrannu
at y Gymraeg a Diwylliant ynghyd ag astudiaethau achos fel enghreifftiau o’r
gwaith da sy’n cael ei wneud. Darparodd
y Swyddog Cynllun Strategol a Pherfformiad drosolwg cyffredinol o berfformiad a
thynnu sylw at rai o’r uchafbwyntiau a gafodd eu trafod yn yr adroddiad
eglurhaol. Ar y cyfan ac o ystyried yr
amseroedd heriol yn ariannol mae’r adroddiad wedi dangos fod y cyngor yn
gweithio ar werthoedd ac egwyddorion ei hun yn ogystal ag egwyddorion lles i
greu canlyniadau ardderchog ledled amrywiaeth o wasanaethau. Cafodd rhagor o fanylion eu cynnwys ar y
camau gweithredu gwelliant a nodwyd. Bu i’r Arweinydd ddiolch i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am y trosolwg
a’r negeseuon allweddol sy’n codi o’r adroddiad perfformiad. Roedd Cabinet yn cydnabod y meysydd i’w
gwella yn yr adroddiad ac effaith y sefyllfa ariannol ynghyd â’r canlyniadau a
chyraeddiadau cadarnhaol er gwaethaf yr heriau ariannol hynny gan dalu teyrnged
i waith caled y staff a’r gwaith sydd wedi cael ei wneud i greu’r adroddiad. Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd – ·
Roedd y Cynghorydd Rhys
Thomas wedi tynnu sylw yn arbennig at y gwaith da a wnaed yn y sector dai yn
cynnwys cynnal perthnasau da gyda thenantiaid a’r ymateb i ddigartrefedd gan
ganmol staff am y gwaith y maen nhw wedi’i gyflawni. ·
Mae gofyn i bob awdurdod
lleol yng Nghymru i greu Cynllun Corfforaethol (sydd fel arfer yn cynnwys yr
amcanion lles disgwyliedig) ond mae ei ymddangosiad a’r cyfnod o amser y mae’n
ei drafod yn amrywio dros y gwahanol awdurdodau. ·
Darparodd swyddogion
eglurhad o’r fethodoleg rheoli perfformiad sy’n cael ei ddefnyddio gyda
pherfformiad un ai’n cael ei feincnodi’n genedlaethol neu’n lleol. Pan fydd perfformiad yn cael ei feincnodi’n
genedlaethol bydd yn cael ei fesur yn erbyn llawer neu bob un o’r awdurdodau
lleol eraill yng Nghymru gyda’r chwartel uchaf o berfformiad yn cael ei weld
fel y perfformiad gorau; pan nad oes data cenedlaethol cymaradwy bydd gwaith yn
cael ei gyflawni gydag arbenigwyr a gwasanaethau i bennu trothwyon perfformiad.
·
Gellir mesur tueddiadau
data trwy’r platfform Data Cymru gydag awdurdodau lleol yn cael eu gosod mewn
grwpiau teuluol o awdurdodau lleol eraill gyda demograffeg debyg ac ati sy’n
rhoi mynediad i ddata cymharol ar nifer o swyddogaethau amrywiol. Mae mynediad i Ddata Cymru ar gael i bawb a
bydd swyddogion yn rhannu manylion pellach gydag Aelodau Cabinet ynglŷn â
hynny y tu allan i’r cyfarfod. · Cyfeiriodd y Cynghorydd Emrys Wynne at benodiad diweddar y Swyddog Iaith Gymraeg ac mae ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb . Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni. Cofnodion: Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2024/25 oedd £271.021 miliwn (£250.793 miliwn yn 2023/24) ·
rhagwelwyd y byddai
tanwariant o £479,000 mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
y risgiau a’r rhagdybiaethau
presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth ·
arbedion effeithlonrwydd
gan wasanaethau ar gyfer cyllideb 2024/25 (£10.384 miliwn) a chynnydd ar
gyflawni arbedion a gymeradwywyd oedd yn parhau i gael eu holrhain/monitro ·
y wybodaeth ddiweddaraf am
Ysgolion, y Cyfrif Refeniw Tai a Rheoli’r Trysorlys. Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio
yr Aelodau drwy’r adroddiad. Y
rhagdybiaeth oedd bod tanwariant o £479,000 (ac eithrio ysgolion) o’i gymharu
â’r gorwariant o £400,000 y mis diwethaf.
Mae gwasanaethau yn ei gyfanrwydd yn parhau i orwario mewn meysydd yn
cynnwys Addysg a Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd, ac
i raddau llai Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad a Thai a
Chymunedau. Mae’r rhagfynegiad ar yr
alldro presennol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd yn
£510,000 o danwariant oherwydd cynnydd yn y tanwariant ar Ddigartrefedd o
£300,000 (cyfanswm o £1.3m o danwariant) a’r gorwariant mewn Gofal Cymdeithasol
i Oedolion (£790,000). Roedd meysydd
risg uchel yn cynnwys lleoliadau preswyl mewn Gwasanaethau Plant, gofal a
gomisiynir gan Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Chludiant Ysgolion. Mae’r traciwr arbedion wedi cael ei gynnwys
er gwybodaeth ynghyd â’r Cyfrif Refeniw Tai a sefyllfa ysgolion. Bu i’r Arweinydd ddiolch i’r Aelod
Arweiniol a Phennaeth y Gwasanaeth am yr adroddiad manwl gan nodi fod y
gyllideb wedi cael ei thrafod mewn manylder mewn amryw o fforymau gwahanol. Yr oedd prif feysydd y drafodaeth yn
canolbwyntio ar y canlynol – ·
Tynnodd y Cynghorydd Rhys
Thomas sylw at y gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud gyda’r gwasanaeth
digartrefedd gydag arbedion pellach yn cael eu gwireddu ar y misoedd a fu gyda
chynnydd mewn tanwariant o £300,000 sy’n gyfanswm o £1.3m o danwariant. Roedd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yn
cytuno gan dynnu sylw at y newid mewn sefyllfa o orwariant i danwariant gan
arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy ddilyn ymagwedd Un Cyngor. ·
Bu trafodaeth ynghylch y
risg sy’n gysylltiedig â chymhwysedd y Tîm Cyllid a’r system ariannol newydd
a’r effaith ar fonitro’r gyllideb. Mae’r
system newydd wedi disodli nifer o systemau ariannol gwahanol gyda’r modiwl
rhagdybiaeth yn ei le ac y byddai’n cymryd amser i fireinio’r system gyda’r tîm
o dan bwysau ar hyn o bryd ac felly mae risg yn cael ei nodi o fewn yr
adroddiad hwn. Wrth ymateb i gwestiwn
dilynol gan y Cynghorydd Hugh Irving fe eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio
y sefyllfa bresennol o ran lefelau staffio a throsiant ynghyd â’r anawsterau
gyda recriwtio ar gyfer swyddi penodol yn unol ag eraill yn y sector
gyhoeddus. Sicrhawyd er bod y Tîm
Cyllid o dan bwysau eu bod nhw’n ymdopi ac yn llwyddo i weithio o dan y pwysau
yn ystod y cyfnod hwn. · Mae cymhlethdodau cynllunio cyllideb wedi’i ategu a chafwyd trafodaeth ar ystyr terminoleg benodol sy’n cael ei ddefnyddio wrth gyfeirio at risg a rhagdybiaeth yn y broses gyllideb. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd unrhyw gyllideb yn cael ei osod heb elfen o risg ac wrth osod cyllidebau roedd ystyriaeth yn cael ei roi i batrymau gwariant ac roedd yn hynod o anodd rhagdybio gwasanaethau statudol sy’n cael eu harwain gan alw ac sy’n rhaid eu darparu ac felly roedd hynny’n golygu risg o lefel uwch ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith
y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried. PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei
datgelu fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12, 13 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.
Dogfennau ychwanegol: |
|
GWAREDU CALEDFRYN, DINBYCH Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
waredu Caledfryn yn unol ag argymhellion yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo gwaredu Caledfryn, Dinbych yn
unol ag argymhellion yr adroddiad i’r parti a enwir ac ar gyfer y cyfanswm a
ddangosir, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Gwyneth Ellis adroddiad cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i waredu Caledfryn yn unol ag argymhellion yr adroddiad. Roedd yr
adroddiad yn cynnwys cefndir ar resymoli’r Ystâd Gorfforaethol a’r rhesymeg
dros gau Caledfryn ac i roi’r safle ar y farchnad am dendr anffurfiol. Darparwyd manylion ar y broses dendro
anffurfiol a’r cynigion a dderbyniwyd.
Mae manteision y cynigion wedi cael eu hasesu gan swyddogion ac
ymgynghorwyd arnynt gyda’r Grŵp Rheoli Asedau, aelodau ward lleol a
Chabinet. Ar ôl adolygu pob cynnig yn
cynnwys y risgiau a’r cyfleoedd; gofynnwyd am gymeradwyaeth Cabinet i waredu
Caledfryn i’r cynigydd a enwir yn yr adroddiad. Pwysleisiodd
Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:
Perfformiad, Digidol ac Asedau y gwaith caled a’r camau gweithredu
cyflym a gymerwyd ar draws nifer o wasanaethau er mwyn cyrraedd y cam hwn o’r
broses gan ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a’r
ymarfer ymgysylltu am eu cyfraniad gwerthfawr a’u herio adeiladol. Ymhelaethodd ar y gwarediad a argymhellir
gan gynnwys y manteision a’r buddion amlwg i Ddinbych a’r ardal leol ynghyd â’r
risgiau a’r camau lliniaru mewn perthynas â hynny. Yn ystod y
drafodaeth dyma’r Arweinydd yn diolch i bawb wnaeth gymryd rhan am eu cyfraniad
a’r gwaith caled sydd wedi cael ei wneud.
Cydnabuwyd pwysigrwydd yr adeilad i Ddinbych ac roedd Cabinet yn falch o
nodi ymgysylltiad a mewnbwn aelodau Dinbych a’r aelodau ehangach gyda’r broses
o wneud penderfyniad. O ystyried yr
angen am newid roedd yr aelod lleol, y Cynghorydd Pauline Edwards o blaid
gwaredu Caledfryn ar gyfer yr hyn sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad ac y byddai’n
cael ei groesawu gan breswylwyr fel y defnydd gorau o’r adeilad. Fodd bynnag roedd hi’n awyddus i sicrhau pe
bai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo bod y trosglwyddiad yn cael ei wneud yn
gyflym ac yn esmwyth a bod y safle yn cael ei ddefnyddio i’w llawn botensial
cyn gynted â phosib. Tynnodd sylw hefyd
at yr angen i gyfathrebu gyda phreswylwyr ar ôl gwneud y penderfyniad. Cytunodd Cabinet gyda’r pwyntiau hynny gan
ymholi hefyd os byddai’n bosib cyflwyno amodau yn y gwerthiant o ran amserlen
ddisgwyliedig ar gyfer cwblhau a datblygu.
Mynegodd y swyddogion ymhellach fod gwaith paratoi eisoes wedi cael ei
wneud ar drosglwyddo ac ar gynnal momentwm gyda’r broses o werthu wrth symud
ymlaen. Gall amodau gwerthiant gynnwys
yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cyfnewid a chwblhau ynghyd â dyddiad atal
hir ar gyfer derbyn caniatâd cynllunio mewn perthynas â’r safle a’i ddatblygiad
ar gyfer y dyfodol. Cadarnhaodd yr
Arweinydd y byddai’r Cyngor yn gwneud popeth yn ei allu i symud y broses
gwerthu a datblygu yn ei flaen mor gyflym â phosib ac wedi rhoi cyfrifoldebau i
swyddogion i sicrhau cyfathrebu priodol gyda phreswylwyr Dinbych a bod
Grŵp Ardal yr Aelodau Dinbych yn parhau i dderbyn yr holl wybodaeth
ddiweddaraf. Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraeth a Busnes fod unrhyw benderfyniad sy’n
cael ei wneud yn destun cyfnod arferol o alw i mewn cyn y gellir ei weithredu. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo
gwaredu Caledfryn, Dinbych yn unol ag argymhellion yr adroddiad i’r parti a
enwir ac ar gyfer y cyfanswm a ddangosir, a (b) chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les. |
|
GRANT CYMORTH TAI - PROSIECT CADW FY NGHARTREF - AILGARTREFU CYFLYM Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a
Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn cynnwys canlyniad yr ymarfer tendro ar gyfer
gwasanaeth cefnogaeth yn ôl yr angen newydd a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet
ar gyfer dyfarnu’r contract i’r darparwr penodol yn unol ag argymhellion yr
adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn – (a) cydnabod
fod ymarfer tendr teg a chadarn wedi ei gynnal yn unol â Rheolau Gweithdrefn
Gontractau Sir Ddinbych ac a oedd wedi nodi ‘enillydd’ clir (fel y nodir ym
mharagraff 3.1 yr adroddiad) a oedd wedi amlinellu rhaglen a oedd yn bodloni
amcanion a dyheadau manylion y prosiect a nodir yn y cais tendr (Atodiad 3 i’r
adroddiad); (b) cytuno
i ddyfarnu’r contract i’r darparwr contract a enwir (fel nodir ym mharagraff
3.2 yr adroddiad) yn seiliedig ar eu cynigion tendr ar lefel y ffi a gynigir, a (c) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Yn unol â’r gwaith o bontio at Ailgartrefu
Cyflym, dyluniwyd Gwasanaeth Cadw Fy Nghartref i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir
Ddinbych i gadw eu llety ac i atal digartrefedd. Darparwyd manylion o’r ymarfer tendro a
gwerthuso gyda’r ffioedd tendr wedi’u cadarnhau o fod yn cyd-fynd â’r gyllideb
a bod y gwerth am arian wedi cael ei werthuso fel rhan o’r broses caffael. Byddai’r cytundeb am gyfnod o dair blynedd
(gyda’r dewis i ymestyn am ddwy flynedd arall) gyda’r gwasanaeth yn dechrau ym
mis Mai 2025. Cyfeiriodd Cabinet at lwyddiant y
prosiectau cymorth tai a’u pwysigrwydd mewn atal a mynd i’r afael â digartrefedd. Wrth ymateb i gwestiynau fe ddarparodd y
Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaeth Digartrefedd wybodaeth ychwanegol ar gefndir a
phrofiad y darparwr cytundeb a argymhellwyd mewn darparu cymorth arbenigol i’r
rheiny sy’n gyfrifol am eu llety. Mae
elfen bwysig o’r cytundeb yn berthnasol i’r gwasanaeth cyfryngu gyda model wych
o gefnogaeth allgymorth pwrpasol i unigolion wedi’i gynnwys yn y tendr. Ar ôl adolygu’r adroddiad a’r broses dendr
a gwerthuso - PENDERFYNWYD
bod
y Cabinet yn – (a)
cydnabod fod ymarfer tendr teg a chadarn wedi ei gynnal yn unol â Rheolau
Gweithdrefn Gontractau Sir Ddinbych ac a oedd wedi nodi ‘enillydd’ clir (fel y
nodir ym mharagraff 3.1 yr adroddiad) a oedd wedi amlinellu rhaglen a oedd yn
bodloni amcanion a dyheadau manylion y prosiect a nodir yn y cais tendr
(Atodiad 3 i’r adroddiad); (b) cytuno i ddyfarnu’r contract i’r darparwr
contract a enwir (fel nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad) yn seiliedig ar eu
cynigion tendr ar lefel y ffi a gynigir, a (c) chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2
i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. Daeth y cyfarfod i
ben am 11.35am. |