Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 299 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

DARPARIAETHAU CODI FFIOEDD AC AWDURDOD DIRPRWYEDIG - CYNLLUN TRWYDDEDU GORFODOL AR GYFER TRINIAETHAU ARBENNIG pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a Thai (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu’r strwythur ffioedd a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer y Cynllun Trwyddedu Gorfodol Arbennig newydd a dirprwyo pwerau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      mabwysiadu’r strwythur ffioedd a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer y Cynllun Trwyddedu Gorfodol Triniaethau Arbennig fel nodir yn Nhabl 1 Atodiad 2;

 

(b)      dirprwyo’r swyddogaethau o dan y Rheoliadau newydd i’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad fel y nodir yn Atodiad 3;

 

(c)      awdurdodi Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad i ddiwygio’r ffioedd a’r taliadau yn unol â’r cynllun statudol, fel bo’n briodol, o hyn ymlaen.

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alan James adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu’r strwythur ffioedd a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer y Cynllun Trwyddedu Gorfodol Arbennig newydd a dirprwyo pwerau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad.

 

Rhoddwyd cefndir i’r fframwaith cyfreithiol oedd â’r nod o wella a chynnal safonau atal a rheoli haint yn y diwydiant triniaethau arbennig a sicrhau iechyd a diogelwch cleientiaid ac ymarferwyr. Roedd strwythur ffioedd ar gyfer y cynllun newydd wedi cael ei gytuno’n genedlaethol ac roedd wedi’i gyfrifo i sicrhau cysondeb yn y costau i fusnesau ac adfer costau i awdurdodau lleol. Byddai’r ffioedd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd fel sy’n ofynnol gan y rheoliadau. Roedd manylion y gweithgareddau oedd yn cael eu cynnwys yn y cynllun, y strwythur ffioedd a gytunwyd yn genedlaethol a’r swyddogaethau arfaethedig i’w dirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth ynghlwm i’r adroddiad. 

 

Gofynnodd y Cabinet nifer o gwestiynau, yn enwedig o ran costau a gallu’r Cyngor i wneud y dyletswyddau ychwanegol a sicrhau cydymffurfiaeth, ynghyd â materion yn codi o’r Asesiad o Effaith ar Les i leihau’r effaith ar fusnesau.

 

Ymatebodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd i gwestiynau fel a ganlyn:

 

·       ni fyddai staff ychwanegol yn cael eu cyflogi i wneud y gwaith, fyddai’n cael ei rannu rhwng y timau trwyddedu a gwarchod y cyhoedd

·       byddai rhywfaint o gostau sefydlu cychwynnol a byddai adolygiad yn cael ei gynnal ar ôl blwyddyn ar yr amser a dreuliwyd yn ymgymryd â’r cyfrifoldebau newydd (sy’n cael ei amcangyfrif ar hyn o bryd) i sicrhau bod costau’n cael eu hadfer, ynghyd ag adolygiadau pellach bob tair blynedd

·       byddai’r eiddo/ymarferwyr hynny sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd yn cael eu trosglwyddo i’r cynllun newydd a byddai cyswllt yn cael ei wneud gydag eraill fyddai angen trwydded efallai; roedd gwaith hefyd ar y gweill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y cynllun newydd a byddai pob busnes yn cael archwiliad pellach o fewn cyfnod y drwydded o dair blynedd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau newydd

·       rhoddwyd mwy o fanylion am effaith bosibl y ffioedd newydd ar fusnesau, yn enwedig y rhai ble roedd elfen triniaethau arbennig eu busnes yn fychan ac felly nad oeddent o bosibl yn hyfyw yn ariannol o’r herwydd

·       roedd busnesau wedi cymryd rhan yn ystod yr ymgynghoriad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru wrth ddrafftio’r rheoliadau newydd ac roedd y Cyngor wedi annog busnesau’n weithredol i adrodd yn ôl fel rhan o’r broses honno.

 

Diolchodd yr Aelod Arweiniol i’r swyddogion am eu gwaith caled a thynnodd sylw at bwysigrwydd y ddeddfwriaeth newydd o ran iechyd cyhoeddus a gwarchod y cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      mabwysiadu’r strwythur ffioedd a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer y Cynllun Trwyddedu Gorfodol Triniaethau Arbennig newydd fel nodir yn Nhabl 1 Atodiad 2;

 

(b)      dirprwyo’r swyddogaethau o dan y Rheoliadau newydd i’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad fel y nodir yn Atodiad 3;

 

(c)      awdurdodi Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad i ddiwygio’r ffioedd a’r taliadau yn unol â’r cynllun statudol, fel bo’n briodol, o hyn ymlaen, a

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

6.

STRATEGAETH RHEOLI ASEDAU 2024 – 2029 pdf eicon PDF 374 KB

I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n cyflwyno’r Strategaeth Rheoli Asedau 2024 - 2029 ar gyfer ei fabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo mabwysiadu Strategaeth Rheoli Asedau 2024 – 2029 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis y Strategaeth Rheoli Asedau 2024 – 2029 sydd wedi’i adolygu a’i ddiweddaru, ar gyfer ei fabwysiadu. Roedd y Strategaeth Rheoli Asedau presennol wedi’i fabwysiadu gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2017 ac roedd yn hen bryd ei adolygu.

 

Nod y Strategaeth Rheoli Asedau newydd yw sicrhau bod y cynlluniau asedau a’r deilliannau a geisir yn cyd-fynd â Themâu Strategol y Cyngor fel yr amlinellir yn y Cynllun Corfforaethol i sicrhau bod ein hasedau eiddo yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r blaenoriaethau hyn.  Tynnwyd sylw at yr egwyddor sylfaenol ar gyfer y Strategaeth newydd fel a ganlyn -

 

“Byddwn yn darparu’r asedau cywir, yn y lle cywir, ac yn y cyflwr cywir i fodloni anghenion darparu gwasanaeth cyfredol ac yn y dyfodol, gan ystyried pwy sydd orau i fod yn berchen a gweithredu bob ased a chyfleoedd ar gyfer cydweithio.”

 

Mae pedair blaenoriaeth wedi’u dynodi yn y Strategaeth newydd i gyd-fynd â’r Cynllun Corfforaethol a chynhaliwyd ymgynghoriad trylwyr ar lefel swyddogion ac aelodau. Mae canlyniadau’r broses honno yn yr adroddiad. [Er cywirdeb, roedd y Strategaeth wedi cael ei adolygu gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 12 Medi ac nid ar 12 Mai fel y nodwyd yn yr adroddiad.]

 

Arweiniodd y Pennaeth Gwasanaeth y Cabinet drwy’r adroddiad a’r atodiadau gan bwysleisio pwysigrwydd y ddogfen a gwaith caled y rhai oedd yn rhan o’r tîm Asedau.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Gwasanaeth i gwestiynau fel a ganlyn –

 

·       cytunwyd i gynnwys cyfeiriad at y buddsoddiad ysgol newydd yn Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ym mharagraff 7.1.1 y Strategaeth newydd cyn ei gyhoeddi

·       cyllid a gallu fyddai’r prif gyfyngiadau wrth gyflawni’r Strategaeth newydd

·       roedd y Strategaeth yn nodi’r canlyniadau a fwriadwyd a byddai cydweithio o fewn y Cyngor a chyda partneriaid i ddenu mewnfuddsoddiad a gwneud y mwyaf o gyfleoedd; roedd y Bloc Toiledau yng Nghorwen yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft i ddangos manteision dull o’r fath

·       cyfeiriwyd at gymhlethdodau cyllideb llywodraeth leol a chadarnhawyd na fyddai’n bosibl gwerthu asedau i dalu am gostau o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, gellid defnyddio unrhyw incwm a gafwyd wrth werthu asedau, megis Caledfryn yn Ninbych, i ariannu cynlluniau cyfalaf eraill yn y Cyngor, ac roedd hyn yn cael ei ystyried

·       roedd adnoddau ac asedau, yn cynnwys gwaredu, yn cael eu hystyried yn rheolaidd gan y Grŵp Rheoli Asedau, oedd ar agor i bob Cynghorydd fynychu.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo mabwysiadu Strategaeth Rheoli Asedau 2024 – 2029 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

7.

PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI / CARTREFI GWAG HIRDYMOR pdf eicon PDF 476 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo polisi codi tâl y Cyngor ar gyfer 1 Ebrill 2025 a chymeradwyo’r amserlen arfaethedig i adolygu’r polisi ar gyfer 2026/27.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi a chymeradwyo polisi codi tâl y Cyngor ar gyfer 1 Ebrill 2025 fel y nodir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, a

 

(b)      cymeradwyo’r amserlen arfaethedig a nodir yn yr adroddiad i adolygu’r polisi ar gyfer 2026/27.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo polisi’r Cyngor i godi Premiwm Treth Cyngor ar Ail Gartrefi / Cartrefi Gwag Hirdymor ar gyfer 1 Ebrill 2025 a chymeradwyo’r amserlen arfaethedig i adolygu’r polisi ar gyfer 2026/27.

 

Atgoffwyd y Cabinet am y polisi codi tâl a gymeradwywyd gan y Cyngor llawn ym mis Medi 2023, oedd yn golygu, o 1 Ebrill 2025 y byddai 150% yn cael ei godi ar ben y Dreth Cyngor safonol am y ddau fath o eiddo oedd wedi bod yn wag am lai na 5 mlynedd a 50% ychwanegol am eiddo oedd wedi bod yn wag a heb eu dodrefnu am 5 mlynedd neu fwy. Nid oedd y polisi yn cynnwys 2026/27 ymlaen ac roedd cynlluniau ar gyfer adolygiad i ddeall effaith y polisi cyfredol i lywio penderfyniadau yn y dyfodol wedi cael eu nodi yn yr adroddiad, ynghyd ag amserlenni. Pwysleisiwyd eto mai pwrpas y premiwm yw cynyddu nifer y tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych a chynnal a meithrin cymunedau cynaliadwy.

 

Roedd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio, y Prif Reolwr Refeniw, Budd-daliadau a Chontractau a’r Rheolwr Darparu Gwasanaeth - Refeniw a Budd-daliadau yn bresennol.

 

Roedd y Cabinet yn ystyried bod y cynllun gweithredol a nodwyd yn yr adroddiad yn ddull synhwyrol, â strwythur da i roi cyfle i bob budd-ddeiliad, yn cynnwys y cyhoedd, i ymateb fel rhan o’r broses. Trafododd y Cabinet fanylion yr adroddiad â swyddogion gan ofyn cwestiynau am y mecanweithiau adolygu a phwerau dewisol y Cyngor i hepgor unrhyw bremiwm mewn amgylchiadau penodol.    Manylodd y swyddogion ar y fethodoleg adolygu, fyddai’n cynnwys dadansoddi’r cyfoeth o wybodaeth a gafwyd ac effaith y newid a gwersi a ddysgwyd gan awdurdodau lleol eraill, gan gymharu data a pholisi gyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol i roi adolygiad cynhwysfawr i arwain y polisi yn y dyfodol. Rhoddodd y swyddogion enghreifftiau hefyd o achosion ble gellid defnyddio pwerau dewisol, a phwysleisiwyd bod pob achos yn cael ei ystyried ar ei rinweddau ei hun ac y byddai dull ymarferol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi unigolion pan fo’n bosibl.   Cadarnhaodd rhai aelodau eu bod wedi gweld drostynt eu hunain pa mor barod oedd swyddogion i ystyried achosion unigol yn ofalus. Nodwyd hefyd bod arweiniad Llywodraeth Cymru yn gofyn am ddull ymarferol gan awdurdodau lleol wrth adolygu’r premiwm ac ystyried rhyddhad dewisol a byddai dadansoddi data yn helpu i lywio argymhellion posibl o ran eithriadau i’r premiwm yn y dyfodol. Roedd hi’n bwysig bod digon o amser yn cael ei roi i’r polisi esblygu er mwyn deall yn llawn beth yw’r effeithiau a sicrhau y gellir diwygio’r polisi yn seiliedig ar y data sydd ar gael, a dyna’r rheswm am y dull a gymerwyd yn y Cynllun Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi a chymeradwyo polisi codi tâl y Cyngor ar gyfer 1 Ebrill 2025 fel y nodir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, a

 

(b)      cymeradwyo’r amserlen arfaethedig a nodir yn yr adroddiad i adolygu’r polisi ar gyfer 2026/27.

 

 

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y STRATEGAETH A CHYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG AR GYFER 2025/26 - 2027/28 pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, ac ystyried y cynnigion arbedion cynnar ar gyfer pennu cyllideb 2025/26.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig sydd yn Atodiadau 1 a 3 yr adroddiad;

 

(b)      nodi’r cynigion arbedion cynnar ar gyfer pennu cyllideb 2025/26 fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad, a

 

(c)      nodi’r gwaith parhaus i bennu cyllideb gytbwys yn 2025/26.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a gofynnodd am i gynigion arbedion cynnar gael eu hystyried ar gyfer pennu cyllideb 2025/26.

 

Ni fu llawer o newid i’r dogfennau ers y fersiwn blaenorol ac nid oedd unrhyw newid i’r darlun cyffredinol. Fodd bynnag, gallai’r sefyllfa newid yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y DU ar 30 Hydref 2024. O ran yr arbedion arfaethedig, roedd canlyniad cadarnhaol wedi bod i’r ffordd y mae’r Cyngor yn ymateb i ddarparu gwasanaethau digartrefedd fyddai hefyd yn creu arbedion sylweddol.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio’r aelodau drwy’r adroddiad a oedd yn cynnwys –

 

·       y Cynllun Ariannol Tymor Canolig lefel uchel oedd yn cynnwys rhagamcaniadau presennol ar y gyllideb, ynghyd ag ystod o ragdybiaethau i roi amcangyfrif isel, canolig ac uchel pob pwysau ynghyd ag effaith amcangyfrifon o gynnydd i Dreth y Cyngor a chyllid gan Lywodraeth Cymru (Atodiad 2 i’r adroddiad)

·       roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn crynhoi data hyd at ddechrau mis Hydref yn nodi dull strategol y Cyngor o reoli ei gyllid a maint yr her ariannol (Atodiad 3 i’r adroddiad) ac roedd y prif bwyntiau wedi’u hamlygu yn yr adroddiad eglurhaol a’r newidiadau a wnaed i’r Strategaeth wedi’u hamlygu mewn melyn, a

·       chynnydd ar gynigion arbed mewn gwasanaethau oedd yn cael eu datblygu fel rhan o’r gwaith pennu cyllideb ar gyfer 2025/26 (Atodiad 2 i’r adroddiad).

 

Roedd llawer o’r gwaith yn canolbwyntio ar bennu’r gyllideb ar gyfer 2025/26 a rhagwelwyd y byddai costau darparu gwasanaethau’n codi £18 miliwn. Roedd cynnydd mewn cyflogau staff yn parhau’n bwysau ynghyd â phwysau sylweddol ar wasanaethau yn ymwneud yn bennaf â gwasanaethau oedd yn cael eu harwain gan alw, oedd yn sylweddol, a thu allan i reolaeth y Cyngor i raddau helaeth. Roedd rhagdybiaethau gweithredol wedi’u gwneud am setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar ostyngiadau ychydig yn negyddol a Threth y Cyngor ar tua 9%, oedd yn gadael bwlch a ragwelir yn y gyllideb o £12 miliwn, fyddai’n gofyn am arbedion sylweddol ar hyd a lled yr awdurdod er mwyn mantoli’r gyllideb. Roedd cynigion arbedion cynnar wedi cael eu dwyn ymlaen ac roedd llawer o waith yn dal ar y gweill i fodloni’r arbedion gofynnol. Roedd y rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn rhagweld bwlch o £15 miliwn yn 2026/27 a £14 miliwn yn 2027/28.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Pennaeth Gwasanaeth am y trosolwg manwl ac roedd y dogfennau eisoes wedi cael eu trafod yn fanwl gan y Cabinet. Nodwyd bod Gweithdy ar Gyllideb y Cyngor wedi cael ei gynnal yn ddiweddar i bob aelod.

 

Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       rhoddwyd diweddariad ar y system ariannol newydd a gyflwynwyd yn ddiweddar oedd yn disodli nifer o systemau gwahanol ac roedd yr elfen modiwl rhagolygon ariannol ar waith ers mis Medi. Roedd y system newydd yn newid mawr i ffordd y tîm o weithio a darparu gwybodaeth ariannol; byddai’r system yn parhau i gael ei mireinio ac roedd hyfforddiant a datblygu ar y gweill

·       cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at osod Treth y Cyngor ym mis Chwefror ac y byddai preswylwyr yn disgwyl iawndal oherwydd y tarfu a achoswyd wrth gyflwyno’r system gwastraff newydd. Eglurodd y swyddogion fod Treth y Cyngor yn ariannu’r gwasanaethau cyffredinol a ddarperir gan y Cyngor ac nad oedd yn gysylltiedig â maes gwasanaeth penodol; roedd yn dreth yr oedd gan y Cyngor rwymedigaeth gyfreithiol i’w gosod ac roedd gan y rhai sy’n cael gorchymyn Treth y Cyngor rwymedigaeth i’w dalu. Nid rhwymedigaeth gytundebol ydoedd y gellid rhoi iawndal i unigolion amdano. Cytunodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd ar y strategaeth y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad misol a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2024/25 oedd £271.021 miliwn (£250.793 miliwn yn 2023/24)

·       rhagwelwyd y byddai tanwariant o £400,000 mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       y risgiau a’r rhagdybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth

·       arbedion effeithlonrwydd gan wasanaethau ar gyfer cyllideb 2024/25 (£10.384 miliwn) a chynnydd ar gyflawni arbedion a gymeradwywyd oedd yn parhau i gael eu holrhain/monitro

·       y wybodaeth ddiweddaraf am Ysgolion, y Cyfrif Refeniw Tai a Rheoli’r Trysorlys.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad. Rhagwelir tanwariant o £400,000 (ac eithrio ysgolion) o’i gymharu â gorwariant o £240,000 y mis diwethaf oherwydd diwygio’r model ar gyfer darparu gwasanaethau digartrefedd a lleihau gwariant ar lety brys.   Roedd gwasanaethau’n gyffredinol yn parhau i orwario ac roedd meysydd o orwariant gan wasanaethau’n cael eu mantoli gan danwariant ar gyllidebau corfforaethol yn cynnwys tâl ac ynni. Roedd meysydd risg uchel yn cynnwys lleoliadau preswyl mewn Gwasanaethau Plant, gofal a gomisiynir mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Chludiant Ysgolion. Roedd yr offeryn olrhain arbedion wedi cael ei gynnwys yn yr adroddiad yn ogystal â throsolwg o’r cynnydd. Roedd 82% o’r arbedion a ragwelwyd wedi cael eu cyflawni ar brosiectau mawr a 90% o arbedion heb fod yn strategol. Rhagwelir diffyg cyffredinol o £2.7 miliwn i ysgolion ac roedd gwaith ar y gweill gyda’r ysgolion i geisio lleihau faint o falansau sy’n cael eu defnyddio.

 

Nododd y Cabinet, yn ychwanegol i’w adroddiad misol rheolaidd, roedd cyfarfod cyllideb wedi cael ei gynnal yn ddiweddar i bob aelod a byddai trafodaeth gynnar am y gyllideb yng nghyfarfod nesaf y Cyngor ar 12 Tachwedd.   Roedd y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio hefyd wedi gwneud trefniadau i gyfarfod â’r holl grwpiau gwleidyddol ar wahân i drafod y gyllideb ac roedd yr Arweinydd wedi pwysleisio mor bwysig oedd i gymaint o aelodau â phosibl fod yn y trafodaethau hynny am y gyllideb er mwyn rhoi eu mewnbwn i’r broses. Roedd y Cynghorydd Julie Matthews hefyd yn awyddus i sicrhau bod ymgysylltu priodol yn digwydd â’r cyhoedd ar y broses o bennu’r gyllideb. Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio at gymhlethdodau’r gyllideb llywodraeth leol a’r gwaith gyda’r Grŵp Cyfathrebu ar y Gyllideb ynghyd â chynlluniau i gyfathrebu â’r cyhoedd o ran codi ymwybyddiaeth am gyllid y Cyngor a’r gwasanaethau a ddarperir drwy ffyrdd megis y cyfryngau cymdeithasol, fideos ar wefan y Cyngor a ffeithluniau ynghyd ag ymgynghori ar gynigion ar y gyllideb yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd ar y strategaeth y cytunwyd arni.

 

 

10.

SYSTEM RHEOLI GWYBODAETH GOFAL CYMDEITHASOL NEWYDD - DYFARNU CONTRACT pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorwyr Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyo’r Achos Busnes a chymryd rhan yn y Rhaglen genedlaethol Cysylltu Gofal.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r adroddiad Dyfarnu Contract sydd ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad, a

 

(b)      parhau i gefnogi cyfranogiad Sir Ddinbych yn y rhaglen genedlaethol Cysylltu Gofal.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad ar y cyd â’r Cynghorwyr Julie Matthews a Diane King yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo dyfarnu’r contract a chyfranogiad parhaus yn y rhaglen genedlaethol cysylltu gofal. Roedd yr adroddiad yn cynnwys atodiadau cyfrinachol gyda gwybodaeth ariannol a gofynnwyd i’r Cabinet fynd i sesiwn breifat os oeddent eisiau trafod y manylion ariannol.

 

Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo cyfranogiad Sir Ddinbych mewn proses gaffael ar gyfer system rheoli gwybodaeth gofal cymdeithasol newydd yn seiliedig ar yr Achos Busnes a gyflwynwyd yn ei gyfarfod ar 30 Gorffennaf 2024. Rhoddwyd manylion y broses dendro fel rhan o glwstwr o chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru ynghyd â’r broses werthuso leol a sesiynau cymedroli. Bydd gan gontractau a ddyfernir gyfnod cychwynnol o 7 mlynedd, gyda’r opsiwn i’w hymestyn fesul 2 flynedd hyd at uchafswm o 21 mlynedd. Roedd crynodeb o gostau’r tendr a chopi drafft o’r dyfarniad wedi cael eu cynnwys yn yr atodiadau cyfrinachol.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol a Phartneriaid Busnes TGCh yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y broses drylwyr a gynhaliwyd yn fewnol, gyda phartneriaid rhanbarthol a’r broses gaffael genedlaethol, gydag ymgysylltiad gan gydweithwyr TG arbenigol a’r gwasanaeth fyddai’n defnyddio’r system newydd os bydd yn cael ei chaffael. Pwysleisiodd y Cynghorydd Julie Matthews mor bwysig oedd cael system newydd a thynnodd sylw at y broses gaffael drylwyr a gynhaliwyd a’r gwasanaeth gwell fyddai preswylwyr yn ei gael o ganlyniad i’r system newydd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r adroddiad Dyfarnu Contract sydd ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad, a

 

(b)      parhau i gefnogi cyfranogiad Sir Ddinbych yn y rhaglen genedlaethol Cysylltu Gofal.

 

 

11.

RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 329 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried.

 

Nododd y Cabinet na fydd yr eitem ar Drefniadau Llywodraethu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn barod mewn pryd i’w chyflwyno i’r Cabinet ym mis Tachwedd.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30am.