Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 351 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2024 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2024.

 

Materion yn Codi - Tudalen 9: Eitem 7 Dyfarnu Cyllid Ffyniant Bro Gyffredin Llywodraeth y DU (Rownd 3) - Etholaeth Dyffryn Clwyd - wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian Jones, dywedodd yr Arweinydd y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud ym mis Hydref yn rhan o Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â chyllid ac amserlenni.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

CYNLLUN YNNI ARDAL LEOL SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer Prif Adroddiad ac Adroddiad Technegol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo Prif Adroddiad ac Adroddiad Technegol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych (Atodiadau 1 a 2), gan ddeall bod y camau gweithredu sydd wedi’u rhoi i Gyngor Sir Ddinbych yn amodol ar sicrhau a chynnal y cyllid angenrheidiol, a

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Prif Adroddiad ac Adroddiad Technegol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych (CYAL).   Roedd y CYAL wedi cael ei lunio yn rhan o Brosiect gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y CYAL yn system ynni cyfan, oedd yn cael ei yrru gan ddata oedd yn nodi’r llwybr er mwyn i’r ardal leol symud tuag at gyrraedd targedau sero net yn rhan o ddull cydlynol.  Roedd Uchelgais Gogledd Cymru yn rheoli contract gydag ymgynghorwyr sy’n llunio’r CYAL i Sir Ddinbych a siroedd eraill yng ngogledd Cymru, a bydd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn berchen ar y cynlluniau.   Bydd pob CYAL yn cael eu cydgrynhoi i hysbysu datblygiad y Cynllun Ynni Cenedlaethol.  Roedd y CYAL wedi cael ei adolygu gan Fwrdd Sir Ddinbych Werddach, y Gweithgor Gwleidyddol Trawsbleidiol (Newid Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol), y Grŵp Cynllunio Strategol a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ac roedd yr adroddiad yn cynnwys yr adborth hwnnw.   Roedd y camau nesaf yn cynnwys Briff i Aelodau am y CYAL, creu dull darparu/monitro er mwyn symud ymlaen â chamau gweithredu CYAL, ac adolygu’r Cynllun mewn tua phum mlynedd.

 

Cafodd y Cabinet wybod bod y CYAL yn cynnwys costau dangosol lefel uchel gyda chamau gweithredu wedi’u neilltuo i nifer o sefydliadau.   Roedd y camau gweithredu a neilltuwyd i’r Cyngor yn cyd-fynd â’r Strategaeth Hinsawdd a Natur ac roeddynt yn amodol ar sicrhau a chynnal y cyllid angenrheidiol.   Byddai cyflawni’r camau gweithredu yn rhywbeth ar gyfer amrywiaeth o fudd-ddeiliaid ac yn amodol ar gefnogaeth wleidyddol ac ariannol ddigonol.

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:  Perfformiad, Digidol ac Asedau a’r Rheolwr Newid Hinsawdd hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Fe ystyriodd y Cabinet yr adroddiad cynhwysfawr gan gydnabod pwysigrwydd y CYAL a dull cydlynol i ddarparu ar uchelgeisiau ar gyfer targedau sero net. 

 

Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       er bod yna un Asesiad o’r Effaith ar Les ar gyfer y cynllun cyfan, roedd yn asesiad lefel uchel oedd yn canolbwyntio ar feysydd eang, tra y byddai prosiectau unigol yn debygol o fod angen Asesiad pellach, o faint priodol, neu astudiaeth ddichonoldeb benodol er mwyn canfod beth oedd angen ei wneud a’r effeithiau.

·       gofynnwyd cwestiynau ynghylch defnyddio systemau ynni penodol mewn adeiladau preifat, megis paneli solar ar ben toeau ac ati, a cheisiwyd sicrwydd eu bod yn cael eu cofnodi’n gywir i gael eu cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.   Cadarnhaodd Swyddogion fod yr Ymddiriedolaeth Garbon wedi defnyddio data ffynhonnell agored yn rhan o’r broses er mwyn sicrhau bod inswileiddiad mewn adeiladau preifat yn cael ei gynnwys yn rhan o waelodlin yr adroddiad.   Serch hynny, fe dynnodd yr adroddiad sylw at yr angen am lefel o fonitro a goruchwylio’r systemau ynni hynny, ac fel rhanbarth gogledd Cymru, byddai rhagor o waith yn cael ei wneud i archwilio tracio gyda Llywodraeth Cymru drwy Uchelgais Gogledd Cymru er mwyn dylanwadu ar y gwaith hwnnw ac ymgysylltu gyda datblygwyr cartrefi preifat a pherchnogion tai preifat.   Fe dynnwyd sylw at yr angen i fod â mecanweithiau yn eu lle i roi cyfle i bawb gyfrannu.

·       cafodd cyflymder y newid ei gydnabod, ac o ystyried y nifer o ffactorau gwahanol ac elfennau amrywiol oedd yn cyfrannu at y CYAL, byddai’r data fyddai’n dylanwadu arno yn newid yn gyflym.   Y bwriad oedd adolygu a diweddaru'r CYAL mewn tua phum mlynedd wrth i 2030, sef y dyddiad targed i fod yn ddi-garbon net agosáu, ond fe fyddai monitro blynyddol yn digwydd hefyd a chysylltiadau gyda strategaethau ynni rhanbarthol a pholisïau cenedlaethol a fyddai’n cael eu cynnal yn llawer cynharach ac  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni, a

 

(b)      cadarnhau bod y gyfran enillion o £1.2 miliwn a gafwyd o ailariannu Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru fel a nodir ym mharagraff 6.2 yr adroddiad yn cael ei drin fel incwm ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff a’i ddefnyddio i wrthbwyso costau ychwanegol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad misol a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2024/25 oedd £271.021 miliwn (£250.793 miliwn yn 2023/24)

·       rhagwelwyd y byddai gorwariant o £240,000 mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·       y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth

·       arbedion ac arbedion effeithlonrwydd ar gyfer cyllideb 2024/25 (£10.384m)

·       y wybodaeth ddiweddaraf am Ysgolion, y Cyfrif Refeniw Tai a Rheoli’r Trysorlys.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis ddiwygiad i’r argymhelliad yn yr adroddiad, i gynnwys cymeradwyaeth y Cabinet o ddefnydd bwriadedig taliad untro cyfran y Cyngor o ail ariannu Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru i dalu am y costau ychwanegol yn y Gwasanaeth Gwastraff fel yr amlinellir ym mharagraff 6.2 yr adroddiad, a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Julie Matthews.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad.  Rhagwelwyd gorwariant o £240,000 yn fuan yn y flwyddyn ariannol o’i gymharu â dim tanwariant pan adroddwyd am hyn ddiwethaf ym mis Gorffennaf.  Roedd y prif feysydd o orwariant yng Ngwasanaethau Addysg a Phlant a Gwasanaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd, ac i raddau llai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd oedd yn cael eu gwrthbwyso gan danwariant ar gyllidebau corfforaethol ar gyfer eitemau yn cynnwys cyflogau ac ynni a ddigwyddodd yn hwyr ym mlwyddyn ariannol 2023/24, a rhagwelwyd y byddant yn digwydd eto yn 2024/25.  Pwysleisiwyd hefyd y gallai llawer o bethau newid yn rhai o’r meysydd risg uwch yn y misoedd nesaf, yn enwedig newidiadau i leoliadau preswyl yng Ngwasanaethau Plant, niferoedd o bobl ddigartref, gofal a gomisiynwyd yng Ngofal Cymdeithasol i Oedolion a Chludiant Ysgol.   Roedd y Cyfrif Refeniw Tai wedi adrodd tanwariant bychan yn ystod y flwyddyn a rhagwelwyd balans o ychydig o dan £1.3m.  Rhagwelwyd gostyngiad ym malansau ysgolion ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gydag ysgolion i geisio lleihau costau rhywfaint o’r defnydd bwriadedig a ragwelwyd. 

 

Fe ymatebodd yr Aelod Arweiniol a Swyddogion i gwestiynau ynglŷn â’r taliad untro yr oedd y Cyngor wedi’i gael o’i gyfran am ail ariannu Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru.   Fe eglurwyd bod y risgiau sy’n gysylltiedig â Phartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru wedi lleihau ers iddo gael ei sefydlu ac wrth i’r prosiect symud ymlaen o’r cam datblygiadol i’r cam gweithredol.   Roedd ail ariannu Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru yn hwyrach o ystyried y risg llai, a’r modd y cawsant eu hariannu ar farchnadoedd cyfalaf, wedi golygu bod y pum Awdurdod Lleol wedi derbyn cyfran enillion.   Roedd gwaith mewn cysylltiad â hynny wedi bod yn barhaus ers peth amser, ond o ystyried natur dechnegol y gwaith oedd ei angen, dim ond yn y pythefnos diwethaf yr oedd yr arian wedi cyrraedd.   Gan mai taliad untro oedd o, y Cabinet ddylai benderfynu sut i’w ddefnyddio.  O ran y cyllid ychwanegol oedd ei angen ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff wrth symud ymlaen, byddai’r mater yn cael ei drafod ymhellach yng Ngweithdy’r Cyngor ar 26 Medi, cyfarfod arbennig o’r Cabinet ar 1 Hydref a Phwyllgor Craffu Cymunedau ar 24 Hydref, ac felly roedd yna gyfleoedd i ystyried a thrafod y manylion ynglŷn â darpariaeth gwasanaeth ac adnoddau ychwanegol oedd eu hangen.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r diwygiad i’r argymhelliad -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni, a

 

(b)      cadarnhau bod y gyfran enillion o  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 318 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol -

 

·       Ymateb drafft Rheolwyr i Asesiad Perfformiad Panel - Tachwedd

·       Cytundeb Gofal Cartref Gogledd Cymru - Ionawr

 

Fe nodwyd hefyd y dylai’r eitem ar Drefniadau Llywodraethu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig a oedd wedi’i threfnu at fis Hydref gael ei gohirio wrth ddisgwyl am fanylion yr adroddiad gan Gyngor Gwynedd fel yr awdurdod arweiniol i’w rannu â’r holl Awdurdodau Lleol yng ngogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.50am.