Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT I’W NODI

Croesawodd yr Arweinydd y Cynghorydd Diane King i’w chyfarfod Cabinet cyntaf fel Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd.  Ymatebodd y Cynghorydd King gan ddweud ei bod yn frwd dros addysg ac y byddai’n ceisio cael effaith gadarnhaol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 403 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2024 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2024.

 

Materion yn Codi – Tudalen 11: Eitem 6 Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi: y Rhyl – mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian Jones, rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad am yr eitem yn cadarnhau bod cyfarfod cychwynnol Bwrdd Tref y Rhyl wedi’i gynnal y diwrnod cynt ac roedd wedi bod yn gadarnhaol iawn.  Byddai gwaith yn parhau i ymgymryd â’r camau gweithredu gofynnol erbyn y dyddiad cau.  Efallai y byddai mwy o hyblygrwydd ar gyfer y dyddiad cau gan fod Llywodraeth y DU wedi newid.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

SYSTEM RHEOLI GWYBODAETH GOFAL CYMDEITHASOL NEWYDD pdf eicon PDF 403 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorwyr Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyo’r Achos Busnes a chymryd rhan yn y Rhaglen genedlaethol Cysylltu Gofal.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)      cymeradwyo’r Achos Busnes sydd ynghlwm yn Atodiad 1 ac Atodiad 2 (Rhan 2) yr adroddiad;

 

(b)      rhoi cymeradwyaeth ôl-weithredol i:

 

·       Gyfranogiad Sir Ddinbych yn y rhaglen Cysylltu Gofal genedlaethol fel y nodir ym mharagraff 4.2 yr adroddiad, a

·       Sir Ddinbych yn dechrau’r cam caffael ar sail anrhwymol fel y nodir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad;

 

(c)      gofyn i swyddogion gyflwyno adroddiad arall ar ddiwedd y broses gaffael i ystyried dyfarnu contract.  Rhagwelir y byddai hyn yn cael ei wneud ym mis Rhagfyr/Ionawr.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad ar y cyd, gyda’r Cynghorwyr Julie Matthews a Diane King, yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr Achos Busnes ac i fod yn rhan o’r rhaglen gaffael genedlaethol, Cysylltu Gofal, gyda’r bwriad o newid y system rheoli gwybodaeth Gofal Cymdeithasol bresennol oedd yn tynnu at ei therfyn.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys atodiad cyfrinachol gyda gwybodaeth ariannol a gofynnwyd i’r Cabinet fynd i sesiwn breifat os oeddent eisiau trafod yr atodiad hwnnw.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir ynglŷn â’r rhaglen genedlaethol i alluogi darparu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng Nghymru drwy un datrysiad digidol a’r rhesymeg dros y bwriad i symud oddi wrth y contract gwreiddiol gyda PARIS i gymryd rhan yn y rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer system cofnodion gofal ar y cyd i ofal cymdeithasol ac iechyd.  Darparwyd manylion am y dull caffael a’r terfynau amser oedd ynghlwm â hynny, gan gynnwys y penderfyniad brys a wnaed gyda chefnogaeth Aelodau Arweiniol i gychwyn y broses gaffael, gyda chais am gymeradwyaeth ôl-weithredol gan y Cabinet.  Ar ôl i’r broses gaffael ddod i ben, byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i ystyried dyfarnu’r contract.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon, ynghyd â’r Partneriaid Busnes TGCh a Gwasanaethau Digidol i ateb unrhyw gwestiynau technegol.  Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau fel a ganlyn –

 

·       cyfiawnhawyd cost sylweddol y cynnig yn yr hinsawdd ariannol anodd oedd ohoni gan fod y system gyfredol yn tynnu at derfyn ei hoes ac na fyddai’n cael ei chynnal yn y dyfodol.  Ar ôl ystyried opsiynau i’w newid am un newydd, byddai’r dewis a ffefrir i fod yn rhan o’r broses genedlaethol yn creu arbedion costau, yn cefnogi gweithio’n rhanbarthol ac yn rhoi mynediad at gyllid gan Lywodraeth Cymru sydd heb ei bennu eto

·       o ran y gofrestr risg RCC5: Risg o ddiffyg cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, rhoddwyd sicrwydd y byddai’r fanyleb ar gyfer y rhaglen genedlaethol yn mynnu bod pyrth gwe’n bodloni gofynion y Gymraeg

·       roedd pob dewis a ystyriwyd wedi’u manylu yn yr achos busnes ac roedd angen amlwg i gaffael system TG newydd yn lle PARIS un ai eleni neu yn y dyfodol agos.  Pwysleisiwyd nad oedd unrhyw ymrwymiad wedi’i wneud hyd yma a phan fyddai’r broses gaffael wedi’i chwblhau, cynigiwyd y dylid cyflwyno adroddiad arall i’r Cabinet i ystyried y gwir gostau ac unrhyw ddyfarniad contract a oedd yn debygol o fod ym mis Rhagfyr/Ionawr.

·       Ni fyddai’r darparwr meddalwedd ar gyfer PARIS yn cynnal elfen gwasanaethau cymdeithasol y system yn ddatblygiadol a thechnolegol o hyn ymlaen ac felly roedd y system gyfredol yn tynnu at ddiwedd ei hoes ddefnyddiol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r Achos Busnes oedd ynghlwm yn Atodiad 1 ac Atodiad 2 (Rhan 2) i’r adroddiad;

 

(b)      rhoi cymeradwyaeth ôl-weithredol i:

 

·       Sir Ddinbych gymryd rhan yn rhaglen genedlaethol Cysylltu Gofal fel y nodir ym mharagraff 4.2 yn yr adroddiad, ac i

·       Sir Ddinbych ddechrau’r cam caffael heb fod ar sail rwymol fel y nodir ym mharagraff 4.4 yn yr adroddiad;

 

(c)      gofyn i swyddogion gyflwyno adroddiad arall ar ddiwedd y broses gaffael i ystyried dyfarnu contract.  Rhagwelid y byddai hyn yn cael ei wneud ym mis Rhagfyr/Ionawr.

 

 

6.

PROSIECTAU CRONFA FFYNIANT BRO GORLLEWIN CLWYD: SGWÂR SANT PEDR A PHARC CAE DDÔL pdf eicon PDF 337 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cam nesaf y ddau brosiect Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd yn Rhuthun.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn 

 

(a)      nodi sefyllfa prosiectau Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd a gymeradwywyd yn Rhuthun; 

 

(b)      cymeradwyo cam nesaf y prosiect, dechrau’r dyluniadau manwl, a

 

(c)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gam nesaf dau brosiect Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd yn Rhuthun – gwelliannau i’r Parth Cyhoeddus wrth Sgwâr Sant Pedr a Pharc Cae Ddôl.

 

Roedd y prosiectau wedi’u cymeradwyo o fewn cais y Cyngor am gyllid dan ail rownd Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.  Roedd manylion allbynnau’r contractau a beth roedd pob cynllun yn mynd i’w gyflawni wedi’i nodi yn yr adroddiad, ynghyd â’r cynnydd hyd yma.  Rhoddodd y Rheolwr Traffig a Chludiant drosolwg o’r hyn oedd yn yr adroddiad, yn cynnwys gwaith hyd yma ar brosiectau a manylion y gwaith ymgynghori ac ymgysylltu cynhwysfawr a wnaed, gan gynnwys gyda Chyngor Tref Rhuthun a Grwpiau Ardal Aelodau Rhuthun, a chanfyddiadau a’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ehangach.  Er bod cefnogaeth eang ar gyfer y ddau brosiect, tynnwyd sylw’r Cabinet at y pryderon a nodwyd ar gyfer pob cynllun a’r camau gweithredu arfaethedig i leddfu’r pryderon hynny.  O ran llywodraethu, roedd Grŵp Budd-ddeiliaid wedi’i sefydlu, ynghyd â Bwrdd Prosiect.

 

Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       Croesawai’r Cabinet y buddsoddiad yn Rhuthun, gan gydnabod gwelliannau a manteision y prosiectau i’r ardal.  Er bod cefnogaeth leol i’r prosiectau yn gyffredinol, roedd angen ymateb i bryderon a godwyd a lleihau’r effaith ar fusnesau a thrigolion wrth wneud y gwelliannau, a thrafodwyd rhagor am bwysigrwydd cyfathrebu’n barhaus ac yn amserol

·       Sgwâr Sant Pedr – er bod y rhan fwyaf o’r ymatebion i’r ymgynghoriad o blaid y cynigion, byddai camau’n cael eu cymryd i liniaru a mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd, oedd yn cynnwys rhannu adborth o’r ymgynghoriad a pharhau â’r broses ymgysylltu gyda busnesau a thrigolion; gellid ymdrin â phryderon ynghlwm â pharcio ar gam yr ymgynghoriad ar Orchymyn Traffig, lle byddai cyfle i wneud newidiadau i gyfyngiadau parcio, a byddai pryderon am golli masnach yn cael eu datrys gyda threfniadau tebyg i brosiect gwella’r parth cyhoeddus a wnaed yn Llangollen yn ddiweddar a thrwy’r rôl trafod â busnesau a ysgwyddwyd gan y contractwr i weithio’n agos gyda busnesau lleol i amharu cyn lleied â phosib’ arnynt a sicrhau bod problemau’n cael eu dynodi a’u datrys cyn gynted â phosib’

·       Parc Chwarae Cae Ddôl – dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne fod cwestiynau wedi’u codi ynglŷn â threfnu’r gwaith i osod parc chwarae hygyrch newydd i gael ei wneud dros yr haf ac eglurodd ei bod yn rhaid gwario cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer y prosiect cyn diwedd y flwyddyn ac y byddai wedi bod yn annoeth gohirio’r gwaith.  Tynnodd sylw at y cyfleusterau ardderchog oedd yn cael eu gosod, a fyddai’n cyd-fynd â’r uwchgynllun cyffredinol ar gyfer Cae Ddôl ac o fudd i blant a’u teuluoedd yn yr ardal

·       Bloc Toiledau Cae Ddôl – roedd trafodaethau cynnar yn cael eu cynnal gyda Chyngor Tref Rhuthun i weld a fyddai modd iddynt ysgwyddo’r cyfrifoldeb am reoli’r toiledau pe baent yn cael eu hadnewyddu â chyllid y Gronfa Ffyniant Bro; byddai’r aelodau lleol yn cael gwybod am gynnydd drwy’r Grŵp Budd-ddeiliaid a Bwrdd y Prosiect.  Soniodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis am drefniant tebyg gyda Chyngor Tref Corwen, gan annog cyfarfod rhwng y Cynghorau Tref i drafod y trefniant a oedd yn gweithio’n dda yng Nghorwen.  Roedd y Cynghorydd Brian Jones yn poeni am deimladau’r cyhoedd am fuddsoddi mewn cyfleusterau toiledau pan oedd eu dyfodol yn ansicr.  Cadarnhaodd y swyddogion na fyddai unrhyw fuddsoddiad heb sicrwydd am ddarpariaeth yn y dyfodol ac roedd angen ymdrin â’r mater yn ymarferol er mwyn creu cyswllt rhwng gwaith adolygu cyfleusterau cyhoeddus a thrafodaethau am gyllid y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

DYFARNIAD CYLLID FFYNIANT BRO LLYWODRAETH Y DU (ROWND 3) – ETHOLAETH DYFFRYN CLWYD. pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi ynghlwm) yn rhoi gwybod i’r Cabinet am y penderfyniad brys a wnaed i dderbyn y cynnig dyfarniad Grant gan Lywodraeth y DU,  dan Rownd 3 y Gronfa Ffyniant Bro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn 

 

(a)      cymeradwyo’r penderfyniad brys a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd/Aelod Arweiniol a’r Dirprwy Arweinydd i dderbyn y cynnig Grant gan Lywodraeth y DU o £19,973,282 o dan Rownd 3 y Gronfa Ffyniant Bro.

 

(b)      cadarnhau ei fod yn deall yr adroddiad a’r newidiadau a wnaed i gais Dyffryn Clwyd i’r Gronfa Ffyniant Bro fel rhan o broses ddyrannu cyllid Rownd 3 Llywodraeth y DU a’i fod yn derbyn y Dyraniad Grant Rownd 3 ar gyfer etholaeth Dyffryn Clwyd, a

 

(c)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad yn rhoi gwybod i’r Cabinet am y penderfyniad brys a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi wrth ymgynghori gyda’r Arweinydd/Aelod Arweiniol a’r Dirprwy Arweinydd i dderbyn cynnig dyfarnu Grant gan Lywodraeth y DU o £19,973,282 dan 3edd rownd y Gronfa Ffyniant Bro.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir i’r Gronfa Ffyniant Bro, gan gynnwys canlyniad rowndiau cynigion 1 a 2 y Gronfa, a’r cynnig gan Lywodraeth y DU am ddarpar ddyfarniad grant dan rownd 3 o ychydig llai nag £20 miliwn ym mis Tachwedd 2023 yn seiliedig ar arfarniadau blaenorol o geisiadau a gyflwynwyd dan rownd 2.  Ar ôl adolygu’r cais, roedd y Cyngor wedi gwneud tri addasiad i adlewyrchu’r newidiadau i amgylchiadau ers ei gyflwyno ym mis Awst 2022 oedd yn ymwneud â thynnu prosiectau a oedd eisoes wedi cael cyllid o ffynhonnell arall, newid cyfraniad cyllid cyfatebol y Cyngor o £1.9 miliwn am gyllid y Fargen Dwf, ac addasu prosiectau i adlewyrchu effeithiau chwyddiant.  Roedd gwerth y Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer yr ardal yn parhau’r un fath.

 

Derbyniodd y Cabinet y rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad brys a wnaed gan nodi’r newidiadau a wnaed i’r cais am gyllid yn dilyn yr adolygiad diweddar.  Fe wnaeth y Cynghorydd Julie Matthews ailfynegi pwysigrwydd cyfathrebu ac ymgysylltu â’r cyhoedd am y prosiectau a’r manteision o ganlyniad a holodd am gynlluniau at y dyfodol ynghlwm â hynny.  Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Amgylchedd y diffyg manylion mewn prosiectau penodol ar adeg cyflwyno’r cais a rhai wedi’u datblygu’n fwy nag eraill ac roedd gwaith yn cael ei wneud i wneud i’r uchelgeisiau hynny ffitio o fewn y gyllideb oedd ar gael.  Rhoddodd sicrwydd ynglŷn â chyfathrebu ac ymgysylltu at y dyfodol, yn enwedig gan fod y cyllid bellach wedi’i sicrhau.  Soniodd y Cynghorydd Emrys Wynne am y cyfeiriad at y Gymraeg yn yr Asesiad o Effaith ar Les a gofynnodd am newid y geiriad i gryfhau’r cyfeiriad hwnnw i ddweud “Bydd byrddau dehongli dwyieithog yn cael eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth…”.  Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol i newid y geiriad er mwyn eglurder.

 

Cododd y Cynghorydd Brian Jones nifer o gwestiynau a phryderon ynglŷn â’r terfynau amser i gwblhau’r prosiectau a oedd wedi’u rhestru yn yr adroddiad, diffyg manylion o ran prosiectau a chostau, rhinweddau prosiectau unigol, sicrhau bod ymgynghoriad cyhoeddus yn amserol ar gam priodol yn y broses, ac unrhyw effaith bosib’ ar y dyfarniad cyllid o ganlyniad i’r newid i Lywodraeth y DU.

 

Ymatebodd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol i’r materion a godwyd fel a ganlyn –

 

·       roedd yr Adran yn Llywodraeth y DU wedi newid ei henw o Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i Adran Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ac roedd disgwyl am rywfaint o ganllawiau cyffredinol am y ffordd y byddai ffyniant bro’n gweithio yn y dyfodol.  Fodd bynnag, ni welwyd unrhyw arwydd y byddai'r dyfarniad cyllid yn cael ei dynnu'n ôl, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo ar gyflawni'r prosiectau

·       cyfeiriwyd at gyfarfod cychwynnol Bwrdd Tref y Rhyl, a’r cynllun hirdymor ar gyfer y Rhyl yn rhan ganolog iawn o'r agenda ffyniant bro a'r arwyddion oedd y byddai estyniad i'r terfynau amser presennol i gwblhau prosiectau heb unrhyw newidiadau sylweddol wrth symud ymlaen; roedd pwysigrwydd cyfathrebu ac ymgysylltu â'r cyhoedd a'r gymuned fusnes hefyd wedi'i drafod ac roedd hynny’n cael ei gyfrif yn hollbwysig gan bawb dan sylw

·       roedd yr Arweinydd wedi cyfarfod â Gill German AS a Becky Gittins AS ynghlwm â nifer o faterion ac roedd wedi mynegi pryderon o ran terfynau amser yr agenda ffyniant bro

·       roedd yr adroddiad yn ymwneud  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y STRATEGAETH A CHYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG AR GYFER 2025/26 – 2027/28 pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, yn cynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn 

 

(a)      nodi’r adborth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(b)      cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig sydd wedi’u cynnwys yn Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad, yn cynnwys defnyddio’r cronfeydd wrth gefn fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.6 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad gan geisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2025/26 – 2027/28, gan gynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio’r aelodau drwy’r adroddiad a oedd yn cynnwys –

 

·       adborth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar fersiynau cyntaf y Strategaeth a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (Atodiad 1 i’r adroddiad)

·       y Cynllun Ariannol Tymor Canolig lefel uchel oedd yn cynnwys amcangyfrifon bras o bwysau oedd yn hysbys, ynghyd ag effaith amcangyfrifon o gynnydd i Dreth y Cyngor a chyllid gan Lywodraeth Cymru gydag ystod o ragdybiaethau i roi amcangyfrif isel, canolig ac uchel pob pwysau o ran costau (Atodiad 2 i’r adroddiad), ac

·       ail fersiwn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig gyda data fel yr oedd ddechrau Gorffennaf yn datgan maint yr her ariannol sy’n wynebu’r Cyngor gan nodi materion ariannol (Atodiad 3 i’r adroddiad), a phwyntiau allweddol wedi’u hamlygu yn yr adroddiad eglurhaol ynghyd â diweddariadau wedi’u gwneud i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi’u lliwio’n felyn a defnydd o gronfeydd wrth gefn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ellis i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad am eu hadborth gwerthfawr ar y Strategaeth a’r Cynllun, a oedd wedi cael ei ystyried yn llawn.  Roedd ail fersiwn yr offeryn olrhain arbedion wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yr wythnos cynt ac roedd yn cael ei groesawu ar y cyfan, heb unrhyw adborth pellach.  Pwysleisiodd yr Arweinydd ei bod yn hollbwysig i’r holl aelodau fod yn gwybod am y datblygiadau ariannol diweddaraf.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r adborth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad oedd yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac yn

 

(b)      cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig oedd yn Atodiadau 2 a 3 i’r adroddiad, yn cynnwys defnyddio’r cronfeydd wrth gefn fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.6 yn yr adroddiad.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad misol a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –

 

·       y gyllideb refeniw net ar gyfer 2024/25 oedd £271.021 miliwn (£250.793 miliwn yn 2023/24)

·       manylion arbedion effeithlonrwydd gan wasanaethau ar gyfer cyllideb 2024/25 (£10.384 miliwn) a chynnydd ar gyflawni arbedion a gymeradwywyd oedd yn parhau i gael eu holrhain/monitro

·       y sefyllfa bresennol ynghlwm â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol, ynghyd ag ysgolion, y Cyfrif Refeniw Tai a Rheoli’r Trysorlys

 

Tynnodd y Cynghorydd Ellis sylw’n benodol at yr offeryn olrhain arbedion a ddatblygwyd i fonitro arbedion oedd yn cael eu cyflawni a oedd yn parhau i fod ar y gweill.  Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio y byddai’r offeryn olrhain arbedion yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet bob chwarter blwyddyn o hyn ymlaen er mwyn gwybod am y cynnydd drwy gydol y flwyddyn.

 

Cododd y Cynghorydd Rhys Thomas nifer o gwestiynau ynglŷn â’r offeryn olrhain arbedion a holodd hefyd a fyddai modd cael y sefyllfa gyllidebol gyfredol yn uniongyrchol gan wasanaethau unigol bob mis.  Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Gwasanaeth i’r materion a godwyd, gan gadarnhau bod adborth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio dan yr eitem flaenorol wedi gofyn am yr offeryn olrhain arbedion a oedd eisoes yn cael ei ddatblygu ac yn rhoi hyder yn y broses.  Roedd yr offeryn olrhain arbedion yn parhau i fod ar y camau datblygu cynnar a byddai rhagor o waith yn cael ei wneud i ddatblygu’r system a darparu rhagor o fanylder wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.  Eglurodd y Pennaeth Cyllid fod gan bob Pennaeth Gwasanaeth gyswllt cyllid, a byddai’n edrych a fyddai modd iddynt hwy hefyd weithio gydag Aelodau Arweiniol i geisio cael sefyllfa gyllidebol fisol ar gyfer eu meysydd portffolio unigol.

 

Holodd y Cynghorwyr Bobby Feeley a Terry Mendies am y goblygiadau o ran cost oedd yn deillio o gyflwyno’r gwasanaeth casglu ailgylchu a gwastraff newydd a’r sefyllfa ariannol at y dyfodol.  Dywedodd y swyddogion fod diweddariad ar y goblygiadau ariannol ynghlwm â chyflwyno’r model gwastraff newydd yn cael ei baratoi ar hyn o bryd ac y byddai’n cael ei rannu â’r aelodau dros y dyddiau nesaf.  Roedd yr adnoddau ychwanegol a ddefnyddiwyd yn y cam cyflwyno yn cael eu cyfrif yn gostau ‘untro’ yn unig o a fyddai’n cael eu dilyn gan gyfnod pontio i weithredu fel arfer pan fyddai gostyngiad graddol yn yr adnoddau ychwanegol.  Roedd y sefyllfa hirdymor yn anhysbys ar hyn o bryd a byddai angen ystyried unrhyw gostau refeniw rheolaidd i sicrhau gwasanaeth cynaliadwy at y dyfodol a’r goblygiadau yn sgil hynny ar gyllideb y gwasanaeth ar yr adeg briodol.  Eglurwyd nad cyflawni arbediad oedd pwrpas y gwasanaeth newydd, ond lleihau’r pwysau a’r gorwariant roedd y gwasanaeth blaenorol yn destun iddo, gyda chostau cynyddol bob blwyddyn.  Rhoddodd Aelod Arweiniol Cyllid sicrwydd ei bod yn herio swyddogion ynglŷn â’r sefyllfa ariannol, a bellach roedd modd olrhain costau’n rheolaidd.  Nid oedd effaith y gostyngiad tybiedig o £500,000 i gost y gwasanaeth o ganlyniad i’r model newydd yn hysbys ar hyn o bryd; nid oedd y ffigwr hwnnw wedi’i gynnwys yn yr offeryn olrhain arbedion gan ei fod ynghlwm ag arbedion newydd y cafwyd hyd iddynt ers y gyllideb flaenorol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd ar y strategaeth y cytunwyd arni.

 

 

10.

RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 317 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes y gallai’r eitem ar Drefniadau Llywodraethu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig a oedd wedi’i threfnu at fis Medi gael ei gohirio wrth ddisgwyl am fanylion yr adroddiad gan Gyngor Gwynedd fel yr awdurdod arweiniol i’w rannu â’r holl awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

11.

GWASANAETHAU CEFNOGI’R GRANT CYMORTH TAI

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ymwneud â nifer o wasanaethau Grant Cymorth Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn 

 

(a)      cymeradwyo caffael y Contract “Cadw Fy Nghartref” gyda gwerth uwch o £185,000 i gyfanswm o £685,000 y flwyddyn, ac yn cytuno i ymestyn y tri chontract presennol i fis Medi 2025 tra bod y broses gaffael yn digwydd a sicrhau bod darpariaeth gwasanaeth yn cael ei gynnal.  Yn ogystal â hyn, bod y Cabinet hefyd yn cytuno i amrywio’r contract Wallich presennol i ddarparu gwasanaeth cyfryngu peilot yn ystod cyfnod yr estyniad i fis Medi 2025.  Roedd y cynnig ar gyfer contract 3 blynedd gyda’r dewis i’w ymestyn am 2 flynedd arall, Ffurflen Gomisiynu (Atodiad 1 yr adroddiad);

 

(b)      cymeradwyo rhoi tendr agored ar gyfer Contract y “Gwasanaeth Lloches a Chefnogaeth yn ôl yr Angen” a ddarperir ar hyn o bryd gan Uned Diogelwch Trais Teuluol Gogledd Cymru.  Roedd y cynnig ar gyfer gwasanaeth a ail gomisiynwyd am 5 mlynedd ynghyd â’r dewis i’w ymestyn am 2 flynedd arall;

 

(c)      cytuno i gyfuno’r 3 prosiect “Gwasanaeth Cefnogaeth yn ôl yr Angen ar gyfer Iechyd Meddwl” presennol a ddarperir yn allanol sydd wedi’u contractio ar hyn o bryd tan 31 Hydref 2024 i un prosiect canolog ac ymgorffori’r gwasanaeth i’r tîm iechyd meddwl a lles presennol (fel y nodir yn Atodiad 5 yr adroddiad), a hepgor y cyfleuster galw i mewn er mwyn osgoi’r perygl o fethu â rhoi’r 3 mis o rybudd gofynnol ar 31 Gorffennaf i’r darparwyr contract presennol, a

 

(d)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau fel y nodir yn Atodiadau 2 a 4 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad cyfrinachol a oedd yn darparu gwybodaeth ynghlwm â nifer o Wasanaethau’r Grant Cymorth Tai a’r argymhellion fel camau gweithredu.

 

Rhoddwyd gwybodaeth i’r Cabinet ynghlwm â’r canlynol:

 

·       y cynnig diwygiedig am brosiect cymorth cyfannol newydd sy'n ymwneud â thai, “Cadw Fy Nghartref“, sydd wedi’i gynllunio i gefnogi pobl sy'n byw yn Sir Ddinbych i gynnal eu llety ac atal digartrefedd

·       cynigion ar gyfer dyfodol y contract Tai â Chymorth (Lloches a Chefnogaeth yn ôl yr Angen), a oedd yn cynnig cefnogaeth ar sail anghenion oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, i rai oedd wedi dioddef cam-drin domestig a’u haelwydydd, a

·       cynigion i symleiddio’r ddarpariaeth oedd ar gael ynghlwm â Darpariaeth Cefnogaeth Iechyd Meddwl yn ôl yr Angen y Grant Cymorth Tai.

 

Roedd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd a Rheolwr Gwasanaeth – y Gwasanaeth Digartrefedd hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.  Byddai’r tri phrosiect yn cael eu hariannu’n llwyr trwy Grant Cymorth Tai Sir Ddinbych, a oedd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.  Darparwyd rhagor o fanylion am bob gwasanaeth cymorth ynghyd â’r rhesymau y tu ôl i argymhellion yr adroddiad.  O ran y penderfyniad oedd yn ymwneud â’r Gwasanaeth Cefnogaeth Iechyd Meddwl yn ôl yr Angen, ceisiwyd cymeradwyaeth i atal y gallu i’w alw i mewn oherwydd yr terfynau amser caeth oedd ynghlwm â datblygu’r argymhelliad.

 

Trafododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a’i argymhellion gan godi nifer o gwestiynau gyda’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion ynghlwm â hynny.  Eglurodd y swyddogion y rhesymau dros y penderfyniad i gael contract allanol ar gyfer y prosiect Cadw Fy Nghartref o ystyried faint o gyllid y Grant Cymorth Tai a’r arbenigeddau/hyblygrwydd oedd eu hangen gyda nifer o sefydliadau’n cydweithio, a fyddai hefyd yn lleihau’r costau rheoli ac yn sicrhau gwell gwerth am arian gyda’r dull hwnnw.  Roedd y Gwasanaeth Cefnogaeth Iechyd Meddwl yn wasanaeth llai gyda llai o risg i ddod â’r gwasanaeth yn fewnol o ystyried bod gwerth y contract yn llawer is, a’r bwriad oedd ehangu’r ddarpariaeth fewnol bresennol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo caffael y Contract “Cadw Fy Nghartref” gyda gwerth uwch o £185,000, gan greu cyfanswm o £685,000 y flwyddyn, ac yn cytuno i ymestyn y tri chontract cyfredol i fis Medi 2025 tra bo’r broses gaffael yn digwydd a sicrhau bod gwasanaeth yn parhau i gael ei ddarparu.  Yn ogystal â hyn, fod y Cabinet hefyd yn cytuno i amrywio’r contract Wallich cyfredol i ddarparu gwasanaeth cyfryngu peilot yn ystod cyfnod yr estyniad i fis Medi 2025.  Roedd y cynnig ar gyfer contract 3 blynedd gyda’r dewis i’w ymestyn am 2 flynedd arall, Ffurflen Gomisiynu (Atodiad 1 i’r adroddiad);

 

(b)      cymeradwyo rhoi tendr agored ar gyfer Contract y “Gwasanaeth Lloches a Chefnogaeth yn ôl yr Angen” a oedd yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan Uned Diogelwch Trais Teuluol Gogledd Cymru.  Roedd y cynnig ar gyfer gwasanaeth wedi’i ailgomisiynu am 5 mlynedd ynghyd â’r dewis i’w ymestyn am 2 flynedd arall;

 

(c)      cytuno i gyfuno 3 phrosiect cyfredol y “Gwasanaeth Cefnogaeth Iechyd Meddwl yn ôl yr Angen” a oedd yn cael eu darparu’n allanol ac a oedd wedi’u contractio ar hyn o bryd tan 31 Hydref 2024 yn un prosiect canolog ac ymgorffori’r gwasanaeth i’r tîm iechyd meddwl a lles presennol (fel y nodir yn Atodiad 5 i’r adroddiad), ac atal y gallu i’w alw i mewn er mwyn osgoi’r perygl o fethu â rhoi’r 3 mis o rybudd gofynnol ar 31 Gorffennaf i’r darparwyr contract cyfredol, ac yn

 

(d)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiadau o Effaith ar  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

TREFNIADAU ASESIAD PERFFORMIAD PANEL - PENODI PANEL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o’r Cymheiriaid a ddewiswyd er mwyn sefydlu Panel Asesu Perfformiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn 

 

(a)      ystyried y Cyfoedion ar gyfer yr Asesiad Perfformiad Panel: sef yr Uwch Swyddog Cyfoedion, yr Uwch Aelod Etholedig Cyfoedion, y Cadeirydd Annibynnol a’r ddau Gyfoed o’r cyhoedd ehangach, sectorau preifat neu wirfoddol, a

 

(b)      cymeradwyo’r Cyfoedion a ddewiswyd er mwyn sefydlu’r Panel.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cymheiriaid dethol er mwyn sefydlu’r Panel Asesu Perfformiad.

 

Roedd y Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol a Joseph Lewis, Swyddog Gwella o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn bresennol.

 

Roedd angen i’r Cyngor wneud trefniadau i benodi Panel i asesu i ba raddau roedd yn bodloni ei ofynion perfformiad.  Ar ôl gwneud ymarfer cwmpasu a oedd wedi mynd drwy’r prosesau democrataidd perthnasol, roedd yr adroddiad yn cynnwys pedwar ymgeisydd a oedd wedi’u dewis ar gyfer rolau penodol ar sail y cwmpas y cytunwyd arno a chydbwysedd daearyddol ac o ran amrywiaeth.  Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, roedd enw pumed ymgeisydd hefyd wedi’i gyflwyno i’w ystyried a diolchwyd i’r Swyddog Gwella am ei waith yn gyffredinol ac yn hynny o beth a hefyd i’r Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol am ei chefnogaeth hi.

 

Ar ôl ystyried safbwyntiau’r Cynghorydd Emrys Wynne, roedd y Cynghorydd Gwyneth Ellis wedi bod yn falch o gynnwys pumed ymgeisydd i’w ystyried, a oedd yn siarad Cymraeg ac o Ogledd Cymru, ac yn deall cymhlethdod y system.  Yn dilyn hynny, cynigiodd newid i’r argymhelliad i gynnwys y pumed ymgeisydd ar gyfer y sector gwirfoddol, preifat neu gyhoeddus yn ehangach i gael cymeradwyaeth.

 

Ystyriodd y Cabinet y Cymheiriaid ar gyfer yr Asesiad Perfformiad Panel gan gefnogi’r argymhellion yn llawn.  Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne wedi bod yn benodol falch o nodi bod Cymar ychwanegol wedi’i gyflwyno, fel y rhannwyd gyda’r aelodau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      ystyried y Cymheiriaid ar gyfer yr Asesiad Perfformiad Panel: sef ar gyfer Uwch Gymar y Swyddogion, Uwch Gymar yr Aelodau Etholedig, y Cadeirydd Annibynnol a’r ddau Gymar o’r sectorau gwirfoddol, preifat neu gyhoeddus yn ehangach, ac yn

 

(b)      cymeradwyo’r Cymheiriaid a ddewiswyd er mwyn sefydlu’r Panel.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.20pm.