Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorwyr Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod
Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd a Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol Cofnodion: Y Cynghorwyr Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod
Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd a Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cododd yr Arweinydd y mater brys canlynol - Cyflwyno’r
Gwasanaeth Casglu Deunyddiau Ailgylchu a Gwastraff newydd Cofnodion: Ymddiheurodd yr
Arweinydd ar ran y Cyngor i breswylwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y
problemau sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r gwasanaeth newydd ac i aelodau sydd
wedi bod yn gweithio’n galed ar ran preswylwyr. Diolchodd hefyd i aelodau am
roi gwybod am gasgliadau a fethwyd yn eu wardiau ac i breswylwyr am eu hamynedd
a’u hymdrechion i ailgylchu. Dywedodd yr
Arweinydd ei fod wedi bod mewn cyswllt dyddiol â’r Prif Weithredwr, y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi a’r Aelod Arweiniol am y
sefyllfa. Er bod y cyfraddau casglu wedi gwella, roedd yn amlwg bod angen gweld
cynnydd anferthol o ran cyflymdra a gwelliant i ymdrin â’r ôl-groniad a
gweithio i sicrhau bod y system yn gweithio’n iawn. Sicrhaodd yr Arweinydd ei
fod ef a’r Aelod Arweiniol yn herio’r swyddogion yn drwyadl i sicrhau bod
problemau’n cael eu datrys cyn gynted â phosibl ac roedd pawb yn gweithio mor
galed â phosibl i gael gwared ar yr ôl-groniad, ymdrin â’r problemau a sicrhau
bod y system yn gweithio’n iawn yn y dyfodol.
Byddai’r digwyddiadau’n ymwneud â chyflwyno’r system newydd yn destun
ymchwiliad craffu cyhoeddus a byddai’r broses honno’n dechrau cyn gynted â
phosibl ar ôl yr etholiad. Roedd cyfarfod arbennig o’r Grŵp Cadeiryddion
ac Is-Gadeiryddion Craffu wedi’i drefnu ar gyfer 8 Gorffennaf. Ymddiheurodd yr
Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Barry Mellor i aelodau a phreswylwyr. Ychwanegodd
fod y cyflwyno wedi’i ddwyn ymlaen gan y Cabinet blaenorol, ond fel Cabinet,
roeddent yn credu mai dyma’r peth iawn i’w wneud gan barhau â hynny.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Mellor mai problem weithredol ydoedd a’i fod wedi bod
mewn cyswllt rheolaidd â’r swyddogion perthnasol i gyflymu’r gwelliannau.
Ynghyd â’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, roedd wedi bod allan
gyda’r criwiau i weld drosto’i hun yr anawsterau oedd yn wynebu preswylwyr a
gwaith caled y criwiau, oedd yn gweithio sifftiau ychwanegol i ymdrin â’r
ôl-groniad. O’r herwydd, roedd yn hyderus y byddai’r problemau'n cael eu datrys
ac y byddai’r system yn cael ei hymgorffori’n llwyddiannus, er nid mor gyflym
â’r hyn a ragwelwyd. Diolchodd i
breswylwyr am eu hamynedd a rhoddodd sicrwydd bod popeth posibl yn cael ei
wneud i wireddu manteision y system newydd mor gyflym â phosibl. Caniataodd yr
Arweinydd gwestiynau, ond atgoffodd yr aelodau bod craffu ar gyflwyno’r
gwasanaeth newydd yn broses ar wahân drwy ymchwiliad dan arweiniad aelodau. Yn ystod y
drafodaeth mynegodd yr aelodau eu pryderon a’u gofidiau am y gwasanaeth newydd
a’r effaith ar breswylwyr, a chafwyd nifer o enghreifftiau o broblemau mewn
wardiau gwahanol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Wrth siarad ar ran y
Grŵp Annibynnol, roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn dymuno diolch
i’r criwiau a’r staff ar y rheng flaen oedd yn gweithio’n galed mewn
amgylchiadau anodd. Roedd yn dymuno rhoi ar gofnod hefyd bod y cyn Gabinet wedi
pleidleisio ar gysyniad y gwasanaeth newydd, nid y dull gweithredu. Cododd yr aelodau gwestiynau a phryderon
penodol am agweddau amrywiol o gyflwyno’r gwasanaeth a methiannau allweddol a
gofynnwyd am sicrwydd am y camau i ymdrin â’r ôl-groniad presennol a bod y
system yn gweithio’n effeithlon yn y dyfodol, a chyflwynwyd nifer o awgrymiadau
am hynny. Ymatebodd yr
Arweinydd, yr Aelod Arweiniol, y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol
a’r Swyddog Monitro i’r cwestiynau a materion a godwyd fel a ganlyn - ·
roedd yr effaith ar y
preswylwyr a effeithiwyd yn andwyol gan y newid gwasanaeth yn annerbyniol ac
roedd yn wirioneddol ddrwg gan y Cyngor am y gofid a achoswyd o’r herwydd · roedd y cyfraddau casglu ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
21 Mai 2024. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Chludiant (copi ynghlwm) yn cyflwyno Strategaeth Hinsawdd a Natur y Cyngor
(2021/22 – 2029/30) ar gyfer ei ystyried ac argymell i’r Cyngor y dylid ei
fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn – (a) argymell
bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Strategaeth Hinsawdd a Natur (2021/22 –
2029/30) fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac yn (b) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i
ystyriaethau fel yr amlinellir yn Atodiad 2 i’r adroddiad. Cofnodion: Datganodd y Cyngor
Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 a mabwysiadodd Strategaeth ddrafft
yn 2021, oedd angen cael ei hadolygu bob tair blynedd. Roedd y Strategaeth ddiwygiedig wedi cael ei
chyflwyno ynghyd â manylion y broses adolygu ac ymgysylltu, canlyniadau'r
ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddogfen ddrafft a’r diwygiadau arfaethedig a wnaed
i’r Strategaeth o ganlyniad. Soniodd y Cynghorydd
Mellor am y cynnydd da a wnaed ers mabwysiadu’r Strategaeth, ond oherwydd yr
heriau ariannol oedd yn wynebu cynghorau, nid oedd y newid yn digwydd yn ddigon
cyflym i fodloni targedau 2030. Ni fyddai’n hawdd bodloni’r nodau hynny yn y
Strategaeth ddiwygiedig, ond roedd y Cyngor yn cadw at yr uchelgais a’r
ymrwymiad honno i wneud cymaint ag y gallai mor gyflym ag y gallai gyda’r
adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac adfer natur i
genedlaethau'r dyfodol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes drosolwg o’r broses adolygu ac ymgysylltu
a diolchodd i’r rhai a fu’n rhan ohoni am eu cyfraniadau. Tynnodd sylw at feysydd i’w nodi yn y
Strategaeth ddiwygiedig oedd yn cynnwys tair adran newydd yn ymwneud â lleihau
allyriadau a chynyddu amsugno, cynyddu gwytnwch ac adfer natur ynghyd â
chyflwyno adran ar gyllid, atodiad technegol a newidiadau i broses/polisi a
chamau gweithredu/diweddariadau prosiect.
Croesawodd y Cabinet
y Strategaeth gan gefnogi ei gynnwys a’i uchelgais i gyflawni er mwyn
cenedlaethau'r dyfodol er gwaetha’r anawsterau. Cyfeiriwyd at rôl bwysig y
Cyngor fel arweinydd cymunedol a gofynnwyd a ellid gwneud mwy ar lefel
gymunedol i godi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu’n well am natur frys yr agenda
hwnnw. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad,
Digidol ac Asedau fod y Strategaeth yn gonglfaen, ochr yn ochr â’r Cynllun
Corfforaethol, o ran dylanwadu a gweithio gyda phartneriaid a chytunodd bod
angen creu ymwybyddiaeth ymhlith pobl gyda chamau gweithredu penodol yn y
Strategaeth ar gyfathrebu a newid ymddygiad, a bod adnodd pwrpasol ar gyfer
hynny wrth symud ymlaen. Cododd y Cynghorydd
Rhys Thomas nifer o gwestiynau technegol gyda’r Pennaeth Gwasanaeth i gael eu
trafod ymhellach y tu allan i’r cyfarfod. Gofynnodd am sicrwydd bod y Cyngor,
ar y cyd â mynd i’r afael a lleihau carbon, hefyd yn gweithio tuag at weithredu
mewn ffordd sy’n gadarnhaol yn ecolegol, i gynyddu nifer y rhywogaethau prin a
dod â bywyd gwyllt yn ôl i Sir
Ddinbych. Cadarnhaodd y Pennaeth
Gwasanaeth fod mwy o gydbwysedd yn y Strategaeth newydd rhwng gweithredu ar
garbon/yr hinsawdd ac adfer natur, a soniodd am waith oedd yn cael ei wneud ar
y rhaglen adfer natur. Roedd hyfforddiant wedi cael ei ddarparu’n flaenorol ar
lythrennedd carbon ac roedd hyfforddiant ar y gweill yn y dyfodol ar
lythrennedd ecolegol, fyddai’n rhoi gwybodaeth i’r aelodau am y ddau faes. PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn - (a) argymell
bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Strategaeth Hinsawdd a Natur (2021/22 –
2029/30) fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac yn (b) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i
ystyriaethau fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad. |
|
CYNLLUN HIRDYMOR AR GYFER TREFI: Y RHYL PDF 230 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf
Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i’r Cabinet am y penderfyniadau dirprwyedig a’r camau a gymrwyd yn dilyn
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi ac yn cefnogi’r wybodaeth sydd
wedi’i chynnwys, ac wedi’i hatodi, i’r adroddiad hwn, yn cynnwys penodiad
Cadeirydd Bwrdd newydd y Rhyl ac aelodaeth arfaethedig y Bwrdd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jason
McLellan yr adroddiad, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am
y penderfyniadau dirprwyedig a’r camau a gymerwyd fel rhan o fenter Cynllun
Hirdymor ar gyfer Trefi a rhaglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn dilyn
cyfarfod y Cabinet ar 21 Mai 2024. Cafodd y Cabinet wybod am y camau a gymerwyd erbyn 3 Mehefin 2024 oedd
yn cynnwys penodi Adam Roche fel Cadeirydd Bwrdd Tref y Rhyl ynghyd â manylion
am Strwythur y Bwrdd, y Cylch Gorchwyl, Polisi Gwrthdaro Buddiannau a’r
ffurflen Ffiniau’r Dref. Roedd y wybodaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU
ynghlwm â’r adroddiad. Cafodd y Cabinet
wybod hefyd am gamau gweithredu oedd angen eu cymryd gan y Bwrdd erbyn 1
Tachwedd 2024 oedd yn cynnwys: cytuno ar lywodraethu; cytuno ar gynllun
ymgysylltu; cynnal adolygiad o’r data; cynnal ymgysylltiad cyhoeddus;
datblygu’r weledigaeth 10 mlynedd a datblygu’r cynllun cyflawni ar gyfer y 3
blynedd gyntaf. Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield gwestiynau gweithdrefnol am y
broses benodi ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd Tref a’i aelodaeth a’r wybodaeth a
gyflwynwyd i Lywodraeth y DU. Gofynnodd hefyd am i ystyriaeth gael ei roi i
benodi dau Gynghorydd Tref y Rhyl ar y Bwrdd. Wrth ymateb i faterion a godwyd,
a chwestiynau pellach gan aelodau, ymatebodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Barry
Mellor a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi fel a ganlyn - · ailadrodd y rhesymeg y tu ôl i ddirprwyo camau gan y
Cabinet i alluogi’r tasgau gael eu cwblhau yn yr amserlen dynn i fodloni’r
terfyn amser am yr arian, ac roedd yr holl fudd-ddeiliaid wedi cael y wybodaeth
ddiweddaraf am y broses a’r cynnydd a wnaed · rhoddwyd eglurhad manwl am y broses drylwyr ar gyfer
enwebu a phenodi Cadeirydd y Bwrdd Tref (yn cynnwys meini prawf, dethol,
cyfweld, matrics sgorio a defnyddio ymgynghorydd) a rhinweddau penodi Adam
Roche i’r rôl ynghyd ag aelodaeth y Bwrdd gan ystyried yr arweiniad a roddwyd o
ran cynrychiolwyr statudol ac anstatudol. · roedd yr arweiniad wedi awgrymu rhwng 12 – 15 aelod ac
roedd y Bwrdd yn cynnwys 16 aelod: 5 statudol ac 11 anstatudol er mwyn cael
cynrychiolaeth dda o sectorau perthnasol. Mae’n bosibl y bydd cyfle hefyd i
ffurfio is-grwpiau gyda mewnbwn ehangach gan y sectorau hynny i gyd-fynd â’r
tair thema · nid oedd gofyniad statudol i gael cynrychiolydd o Gyngor Tref
y Rhyl, ond er mwyn cydnabod eu rôl bwysig, roedd Cynghorydd Tref y Rhyl wedi
cael ei gynnwys ar y Bwrdd. Ystyriwyd bod y cydbwysedd rhwng cynrychiolwyr
etholedig a rhai o’r gymuned, busnes a sectorau eraill yn briodol ac yn unol
â’r arweiniad · roedd sicrwydd wedi’i roi y byddai’r rhaglen yn parhau yn
y dyfodol os oedd newid mewn llywodraeth ar ôl yr etholiad. Wrth gloi, cyfeiriodd yr Arweinydd at y disgwyliad y byddai’r Bwrdd Tref yn
gweithio gyda’r holl aelodau etholedig yn y Rhyl yn y dyfodol er lles y dref. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi ac yn cefnogi’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad hwn,
ac wedi’i hatodi iddo, yn cynnwys penodiad Cadeirydd Bwrdd newydd y Rhyl ac
aelodaeth arfaethedig y Bwrdd. Ar y pwynt hwn (11.40am) cymerwyd egwyl am luniaeth. |
|
HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD 2023 I 2024 PDF 413 KB Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol (copi ynghlwm), yn cyflwyno Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad ar
gyfer 2023 i 2024 er mwyn i’r Cabinet ei ystyried a’i gadarnhau cyn ei gyflwyno
i’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi cynnwys yr adroddiad, gan gynnwys y
chwe cham gwella a restrwyd ym mharagraff 4.4 yn yr adroddiad, ac yn (b) cadarnhau cynnwys Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad
2023-2024 i’w gyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2024 i’w gymeradwyo. Cofnodion: Yn absenoldeb y Cynghorydd Gwyneth Ellis,
cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac
Asedau yr adroddiad a Hunanasesiad y Cyngor ar gyfer 2023 i 2024 er mwyn i’r
Cabinet eu hystyried cyn iddynt fynd gerbron y Cyngor. Roedd y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad
hefyd yn bresennol. Roedd Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad yn
darparu dadansoddiad diwedd blwyddyn o gynnydd a heriau yn ôl amcanion
perfformiad allweddol (h.y. themâu’r Cynllun Corfforaethol). Arweiniodd y swyddogion yr aelodau drwy’r adroddiad
oedd yn cynnwys Crynodeb Gweithredol (Atodiad I), yn tynnu sylw at berfformiad
yn erbyn y Cynllun Corfforaethol a’r saith maes llywodraethu; yr Adroddiad
Diweddaru Perfformiad (Atodiad Il) o fis Hydref at fis Mawrth 2024; camau
gweithredu o’r Heriau Perfformiad Gwasanaeth (Atodiad Ill) a chwmpas drafft yr
Asesiad Perfformiad Panel (Atodiad lV).
Roedd adborth eisoes wedi’i roi gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi iddynt ystyried yr adroddiad. Rhoddwyd
trosolwg o’r cynnydd a wnaed ynghyd â’r heriau oedd o’n blaenau. Nodwyd fod yn
rhaid ystyried perfformiad yng nghyd-destun cyfyngiadau cyllidebol a disgwylid
i’r cyflawniad fod yn arafach o’r herwydd o bosibl. Tynnwyd sylw penodol hefyd
at y chwe gweithgaredd gwella a nodwyd. Diolchodd y Cabinet i’r swyddogion am yr adroddiad
cynhwysfawr a’r gwaith caled. Canolbwyntiodd y prif faterion trafod ar y canlynol
- · rhoddwyd disgrifiad manwl o bwrpas yr Asesiad Perfformiad
Panel a’r disgwyliadau. Trafodwyd cwmpas drafft yr Asesiad a chafodd ei
groesawu fel cyfle arall i asesu perfformiad o safbwynt gwahanol i arwain
gwelliannau a pherfformiad gwell yn y dyfodol. Roedd y meysydd pwyslais drafft
yn cynnwys Arweinyddiaeth, Cynigion ar y Gyllideb/Trawsnewid a Gweithio mewn
Partneriaeth. Bydd y Cabinet yn cael adroddiad arall ym mis Gorffennaf i
gymeradwyo’r trefniadau. · er ei bod yn bwysig cynnal uchelgeisiau’r Cyngor a
pharhau i ymdrechu i wella, derbynnir bod llawer o faterion, o ran cyfyngiadau
cyllidebol a’r economi ehangach, y tu hwnt i reolaeth y Cyngor · cafodd y problemau gyda chyflwyno'r gwasanaeth gwastraff
newydd a’r effaith ar berfformiad, ynghyd â phroblemau eraill y tynnwyd sylw
atynt yn y misoedd diwethaf eu codi fel pryder a hefyd yr effaith ar enw da’r
awdurdod a’r thema o fod yn Gyngor sy'n cael ei gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei
berfformiad. Roedd y prosiect gwastraff yn rhan o’r thema Sir Ddinbych Mwy
Gwyrdd yn y Cynllun Corfforaethol a byddai sylwadau am ei gyflwyno yn rhan o
adroddiad perfformiad chwarter 2. Roedd
pob awdurdod lleol yn wynebu heriau sylweddol i’r gyllideb ac roedd y gwaith yn
canolbwyntio ar y rhaglen drawsnewid i gyflawni gwasanaethau. Roedd fframwaith
rheoli perfformiad y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys dangosyddion rheoli
ariannol · trafodwyd y thema Cyngor sy'n cael ei
gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei berfformiad yn fanwl a nodwyd bod perfformiad
yn un o saith maes llywodraethu yr oedd yn ofynnol i’r Cyngor eu hasesu ar
gyfer iechyd corfforaethol da. Rhan o bwyslais y thema hon yn y Cynllun
Corfforaethol oedd meithrin dull “un Cyngor” o gefnogi’r naill a’r llall, gan
weithio gyda’n gilydd i ymdrin â phroblemau’n agored a thryloyw, bod yn
awdurdod dysgu, cydnabod perfformiad da a gwneud y gwelliannau angenrheidiol
mor gyflym â phosibl mewn meysydd nad oedd yn perfformio cystal · unwaith eto, cydnabu’r Arweinydd y problemau wrth
gyflwyno’r gwasanaeth gwastraff newydd a rhoddodd sicrwydd eto bod pob ymdrech
yn cael ei wneud i’w datrys · ni chyfeiriwyd at achosion o dorri amodau
cynllunio/gorfodaeth yn yr adroddiad perfformiad a chytunodd yr aelodau i
godi’r mater gyda’r gwasanaeth perthnasol fel mesur posibl i’w gynnwys mewn
adroddiadau yn y dyfodol ac adrodd yn ôl ar y canlyniad i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio nesaf · nod yr adroddiad oedd ystyried ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa refeniw derfynol
ar gyfer 2023/24 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) Nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer
2023/24, ac yn (b) cymeradwyo sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn
ar gyfer 2023/24 fel y disgrifir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 - 3. Cofnodion: Yn absenoldeb y Cynghorydd Gwyneth Ellis,
cyflwynodd y Prif Gyfrifydd yr adroddiad ar sefyllfa refeniw derfynol 2023/24
a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau, ac arweiniodd yr
aelodau drwy fanylion yr adroddiad. Yn fyr, y sefyllfa derfynol gyda chyllidebau corfforaethol a gwasanaeth
(gan gynnwys tanwariant heb ei ddirprwyo o £115mil gan ysgolion) yw gorwariant
o £513mil. Ynghyd â diffyg bychan o £163mil yn Nhreth y Cyngor a gasglwyd,
mae’n golygu bod £676mil o gronfeydd wrth gefn Lliniaru’r Gyllideb wedi’i
ddefnyddio i ariannu’r gorwariant net. Bu i ysgolion orwario o £5.258m gan
arwain at gyfanswm gorwariant y gyllideb o £5.934m. Nodwyd y trosglwyddiadau
i’r cronfeydd wrth gefn ac ohonynt, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn rhan o’r
gyllideb neu wedi cael eu cymeradwy’n flaenorol. Yn olaf, cyfeiriwyd at
gyllideb 2024/25, oedd yn broses barhaus ac roedd y gwaith yn parhau ar y
cynigion ar gyfer arbed. Roedd risgiau’n gysylltiedig â rheoli cyllidebau a
chyflawni arbedion bob amser ac roeddent yn cael eu monitro’n agos. Dywedodd yr Arweinydd fod y pwysau sy’n wynebu’r Cyngor a’r amgylchiadau
ariannol anodd wedi cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad. Roedd wedi bod yn
falch o weld llwyddiant y mesurau rheoli’r gyllideb a gyflwynwyd yn ystod y
flwyddyn mewn rhai gwasanaethau a bod meysydd galw risg uchel fel Gwasanaethau
Plant a Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn parhau i gael eu monitro’n agos. Yn olaf, pwysleisiodd yr Arweinydd mor
bwysig oedd bod aelodau’n mynychu’r gweithdai cyllideb sydd yn yr arfaeth i
sicrhau bod pawb yn rhan o’r broses honno yn y dyfodol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer
2023/24; ac yn (b) cymeradwyo sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn
ar gyfer 2023/24 fel y disgrifir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 - 3. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET PDF 329 KB Derbyn Rhaglen Waith
y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried. PENDERFYNWYD nodi rhaglen
waith y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm. |