Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau

Cofnodion:

Y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim datganiadau cysylltiad.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 340 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2024 (copi’n amgaeedig). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2024.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2024 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

CANLYNIAD ADOLYGIAD Y PWYLLGOR CRAFFU PARTNERIAETHAU O BENDERFYNIAD Y CABINET YNGHYLCH Y RHAGLEN DREIGL CYMUNEDAU DYSGU CYNALIADWY

Ystyried canlyniad adolygiad o’r penderfyniad a wnaethpwyd gan y Cabinet ar 23 Ebrill 2024 ynghylch y Rhaglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a oedd wedi cael ei galw i mewn a’i hystyried gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 16 Mai 2024.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi canlyniad yr adolygiad o benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â Chymunedau Dysgu Cynaliadwy - Rhaglen Dreigl.

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes fod y penderfyniad a wnaethpwyd gan y Cabinet ar 23 Ebrill 2024 ynghylch y Rhaglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi cael ei alw i mewn ac wedi ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 16 Mai 2024.

 

Canlyniad yr adolygiad o benderfyniad y Cabinet oedd peidio â chyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet gan olygu na fyddai’r penderfyniad yn newid ac y bydd yn cael ei weithredu.

 

PENDERFYNWYD nodi canlyniad yr adolygiad o benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â Chymunedau Dysgu Cynaliadwy - Rhaglen Dreigl.

 

 

6.

ASESIAD DRAFFT O’R FARCHNAD DAI LEOL (LHMA) pdf eicon PDF 235 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi amgaeedig) yn cyflwyno’r Asesiad Drafft o’r Farchnad Dai Leol ar gyfer Sir Ddinbych a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo Asesiad Drafft o Farchnad Tai Lleol Sir Ddinbych i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a

 

(b)      dirprwyo awdurdod i Aelodau Arweiniol Tai a Chymunedau i gytuno ar unrhyw fân newidiadau golygyddol sydd eu hangen i’r Asesiad Drafft o’r Farchnad Dai Leol, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cynghorydd Rhys Thomas, bu i’r Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, gyflwyno’r adroddiad a’r Asesiad Drafft o’r Farchnad Dai Leol (LHMA) ar gyfer Sir Ddinbych a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r asesiad i Lywodraeth Cymru.

 

Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) yn archwilio'r angen/galw am dai nawr ac yn y dyfodol yn Sir Ddinbych ac mae'n rhan allweddol o'r dystiolaeth sy'n cefnogi polisïau gan gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol a'r Strategaeth Tai a Digartrefedd.  Roedd yn ofyniad statudol i’r Cyngor adolygu anghenion o ran tai o bryd i’w gilydd ac mae’r LHMA wedi ei ddatblygu yn seiliedig ar ganllawiau a methodoleg pecyn gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau dull cyson ar draws bob awdurdod lleol yng Nghymru.

 

Roedd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad, Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai ac Uwch Swyddog - Cynllunio Strategol a Thai yn bresennol.  Cynghorwyd y Cabinet fod yr LHMA am gyfnod o 15 mlynedd gydag adolygiad llawn bob 5 mlynedd a diweddariad rhwng blwyddyn 2 a 3.  Roedd yr LHMA yn darparu tystiolaeth allweddol ar gyfer nifer o feysydd o waith y Cyngor ac roedd yn seiliedig ar ddata, yn darparu tystiolaeth i gefnogi creu polisi wrth symud ymlaen.  Roedd yn cynnwys 10 o ardaloedd marchnad dai a ddiffiniwyd a bu ymgysylltu eang â budd-ddeiliaid wrth ei ddatblygu.  Hysbyswyd y Cabinet ynglŷn â’r canfyddiadau, yn gryno -

 

·       roedd y mwyafrif o’r angen o ran tai o ganlyniad i ôl-groniad o’r angen presennol a dim ond rhan fechan oherwydd twf y boblogaeth

·       roedd y mwyafrif o’r angen ar gyfer tai rhent cymdeithasol ac eiddo llai 1 neu 2 ystafell wely gan fod aelwydydd 1 neu 2 unigolyn yn cynrychioli 70% o boblogaeth Sir Ddinbych

·       roedd materion fforddiadwyedd ar draws y rhan fwyaf o ddeiliadaeth tai ac roedd diffyg tai ar gael yn fater allweddol o ganfuwyd, yn arbennig y rhai sydd ar gael i’w rhentu

·       roedd angen 400 o gartrefi fforddiadwy fesul blwyddyn am y 5 mlynedd gyntaf o’r LHMA, ar y sail y dylid bodloni’r angen presennol o fewn y 5 mlynedd gyntaf er bod cwestiwn ynghylch a oedd hynny’n gyraeddadwy ai peidio

·       roedd angen 153 o gartrefi fforddiadwy fesul blwyddyn am gyfnod 15 mlynedd yr LHMA ac felly roedd llawer o waith yn digwydd o ran darparu tai fforddiadwy ar safleoedd datblygu, gan ail-ddefnyddio eiddo gwag, a ffyrdd eraill amrywiol o gynyddu cyflenwad

·       ni fu i’r LHMA osod y targed tai fforddiadwy ar gyfer y Cynlluniau Datblygu Lleol ond roedd yn rhan o’r dystiolaeth gyffredinol ar gyfer y CDLl.

 

Bu i’r Cabinet ystyried yr adroddiad cynhwysfawr, gan nodi’r broses ddynodedig, canfyddiadau allweddol ac allbynnau o’r asesiad.  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r hyder yn y ffigyrau a gynhyrchwyd, cymysgedd tai'r farchnad agored yn y dyfodol, bodloni’r angen am 400 o gartrefi fforddiadwy, ac ail-ddefnyddio eiddo gwag.

 

Ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau fel a ganlyn -

 

·       cyfeiriwyd at y cyfoeth o ddata a chymhlethdod y model a soniwyd am y pedwar senario rhagolwg tai gwahanol a ddefnyddiwyd, gan ddefnyddio prif ragamcan Llywodraeth Cymru i gefnogi ffigwr angen o ran tai LHMA.  Roedd y ffigwr prif ragamcan o 3165 o gartrefi yn debyg i ofyniad y CDLl ar gyfer 3275 o gartrefi felly roedd hyder yn y ffigyrau hynny o ystyried y cysondeb rhwng y ddau a’r broses gadarn a’r wybodaeth fanwl a oedd yn sail i’r LHMA.

·       o ran y cymysgedd y farchnad a awgrymwyd roedd gwahaniaeth rhwng yr angen a’r dyhead, ond y nod oedd darparu hyblygrwydd yn y farchnad dai o ystyried y dyhead am ystafell sbâr neu le astudio ac o ystyried yr  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYNLLUNIAU HIRDYMOR AR GYFER TREFI: Y RHYL pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd (copi yn amgaeedig) ynglŷn ag oddeutu £20 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y Rhyl, fel rhan o fenter Cynlluniau Hirdymor ar gyfer Trefi Llywodraeth y DU, a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer yr ymateb arfaethedig i’r camau gweithredu gofynnol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi a’r Arweinydd/Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol i Lywodraeth y DU er mwyn bodloni gofynion y gronfa erbyn y dyddiad cau, sef 3 Mehefin 2024.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad ynglŷn â’r gronfa £20 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y Rhyl, rhoddodd ychydig o gefndir i’r adroddiad, a gofynnodd am gefnogaeth y Cabinet i’r ymateb arfaethedig i’r camau gweithredu sydd eu hangen.

 

Mae’r adroddiad yn nodi’r prif delerau ac amodau ar gyfer yr £20 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd ar gyfer y Rhyl fel rhan o fenter Cynlluniau Hirdymor ar gyfer Trefi a rhaglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.  Byddai cyllid yn cael ei ddyfarnu i’r Cyngor a fyddai’n gyfrifol am y cyllid ac am gyflwyno’r cynllun.  Roedd angen cyflawni rhai gweithredoedd erbyn 3 Mehefin 2024 (dyddiad terfynol diwygiedig o 1 Mehefin fel nodwyd yn yr adroddiad) megis penodi Cadeirydd y Bwrdd Tref ynghyd â chyflwyno Bywgraffiad y Cadeirydd, Strwythur y Bwrdd, Cylch Gorchwyl, Polisi Gwrthdaro Buddiannau, a Ffiniau Tref.  Er y croesawyd yr arian roedd yr amserlen yn heriol a gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo’r tasgau hynny i’r Swyddog Arweiniol a’r Arweinydd/Aelod Arweiniol i gyrraedd dyddiad terfynol o ran cyllid.  Rhoddwyd manylion y camau gweithredu dilynol sy’n rhaid i’r Bwrdd eu cyflawni cyn 1 Tachwedd.

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd ymhelaethu ar gynnydd a’r gwaith a wnaed hyd yma i gyflawni’r camau gweithredu angenrheidiol erbyn 3 Mehefin ac i sicrhau’r cyllid a oedd yn ymwneud yn bennaf â threfniadau a thasgau gweinyddol, gan gynnwys cyfweliadau i benodi Cadeirydd y Bwrdd yn ddiweddarach yr wythnos honno, a chynrychiolaeth ac aelodaeth y Bwrdd.  Roedd gwaith i’r ail ddyddiad terfynol o 1 Tachwedd yn ymwneud â’r weledigaeth hirdymor (10 mlynedd) ar gyfer y dref a chynllun cyflawni 3 mlynedd yn seiliedig ar flaenoriaethau pobl leol ac roedd y buddsoddiad a’r adfywio yn alinio â thair thema allweddol.  Byddai’r dasg honno yn golygu llawer o waith ymgysylltu ac roedd arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer hynny (ar wahân i’r gronfa £20 miliwn).  Ychwanegodd yr Arweinydd fod llawer o waith wedi ei wneud mewn cyfnod byr a mynegodd ei ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r broses honno.

 

Roedd y Cabinet yn croesawu’r arian ychwanegol ar gyfer y Rhyl a thrafodwyd amrywiol agweddau ar yr adroddiad gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi a’r Amgylchedd.

 

Roedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

·       nodwyd fod rhaid i weledigaeth a blaenoriaethau’r dref ar gyfer buddsoddiad ac adfywio fod wedi eu halinio â’r themâu o (1) ddiogelwch, (2) strydoedd mawr, treftadaeth ac adfywio, a (3) chludiant a chysylltedd a oedd yn themâu eithaf eang ac yn addas ar gyfer y Rhyl - roedd gweledigaeth eisoes ar gyfer y Rhyl a fyddai’n cael ei hadolygu ar y cyd â datblygiad y weledigaeth hirdymor newydd er mwyn cysylltu ag un ddogfen gydlynol.

·       roedd rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â’r cysyniad fod y Rhyl yn cael ei flaenoriaethu o flaen ardaloedd eraill yn y sir ar gyfer buddsoddiad, a oedd hefyd wedi ei adlewyrchu yn y Rhyl gyda rhai yn teimlo fod mwy o arian yn cael ei wario yn Rhuthun, a derbyniwyd fod angen i’r Cyngor fod yn glir wrth gyfathrebu gyda’r cyhoedd, er bod yr arian yn benodol ar gyfer y Rhyl, fod buddsoddiad yn cael ei wneud ar draws y sir gydag arian ffyniant bro ar gyfer De Clwyd a Gorllewin Clwyd yn ogystal â Dyffryn Clwyd ac arian ffyniant cyffredin ar draws y sir.  Roedd y Rhyl yn denu buddsoddiad ychwanegol oherwydd ei heriau economaidd-gymdeithasol a’i bod yn cynnwys dwy o’r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru a bod buddsoddiad hefyd yn creu buddion cadarnhaol ar gyfer gweddill y sir.  Roedd swyddogion yn mynd i  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 313 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r ychwanegiadau canlynol -

 

·       Diweddariad ar Strategaeth a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 – 2027/28 - i’w ychwanegu i fis Gorffennaf, Hydref ac Ionawr

·       Gosod Cyllideb Refeniw 2025/26 - i’w ychwanegu i fis Ionawr

·       Cynllun Cyfalaf 2025/26 – 2027/28 - i’w ychwanegu i fis Ionawr

·       Gosod Cyllideb Refeniw a Threth y Cyngor 2025/26 - i’w ychwanegu i fis Chwefror

 

Byddai’r Arweinydd yn trafod gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi a’r Amgylchedd am y posibilrwydd o ddod ag adroddiad diweddaru i’r Cabinet ar y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi: y Rhyl fel y trafodwyd yn gynharach ar y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30pm.