Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Jason McLellan – Cysylltiad Personol sy’n
Rhagfarnu – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Rhys Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Pauline Edwards – Cysylltiad Personol –
Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Mark Young – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Jason McLellan – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 7 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganwyd y cysylltiadau canlynol - Datganodd y Cynghorydd Jason McLellan gysylltiad personol
sy’n rhagfarnu ag eitem 5 ar y rhaglen – Prosiect Archifau Gogledd Ddwyrain
Cymru gan fod ei wraig yn gweithio ar y prosiect yng Nghyngor Sir y Fflint. Datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas gysylltiad
personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu –
Rhaglen Dreigl gan ei fod yn byw’n
agos at Ysgol Uwchradd Dinbych ac yn defnyddio’r llwybr beicio’n ddyddiol a
fyddai’n cael ei effeithio’n ddifrifol pe bai Ysgol Plas Brondyffryn yn cael ei
lleoli ar y safle a ffafrir. Datganodd y Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol ag
eitem 6 ar y rhaglen – Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu – Rhaglen Dreigl gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol ac
yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Uwchradd Dinbych. Datganodd y Cynghorydd Pauline Edwards gysylltiad
personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu –
Rhaglen Dreigl gan ei bod yn
Llywodraethwr Ysgol ac yn Is-gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Pendref. Datganodd y Cynghorydd Jason McLellan gysylltiad personol
ag eitem 7 ar y rhaglen – Diweddariad i Strategaeth a Chynllun Ariannol Tymor
Canolig ar gyfer 2025/26 – 2027/28 ac Adolygiad o Gadernid a Chynaliadwyedd
Ariannol y Cyngor i’r graddau yr oedd yn ymwneud â chymeradwyo prosiect Ysgol y
Llys gan fod yr ysgol yn sownd i’w gartref ef. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19
Mawrth 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
19 Mawrth 2024. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024 a chadarnhau eu bod yn
gywir. |
|
PROSIECT ARCHIFAU GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU PDF 245 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a
Threftadaeth (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet i dderbyn y cynnig
grant tuag at gost y cyfleuster archifau newydd ar y cyd, ac ymrwymiad i
gyfrannu arian cyfatebol cyfalaf, yn amodol ar Gyngor Sir y Fflint yn cadarnhau
eu bod yn derbyn y grant a'u cyfraniad cyfalaf. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cadarnhau ei gefnogaeth i Archifau Gogledd
Ddwyrain Cymru i dderbyn cynnig grant Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
o £7,371,397, yn amodol bod Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn gwneud yr un fath; (b) cadarnhau’r ymrwymiad i Gyngor Sir
Ddinbych gyfrannu cyllid cyfatebol o £2,052,358 o gyllid cyfalaf a fyddai’n
cael ei dalu drwy fenthyca darbodus yn amodol bod Cyngor Sir y Fflint yn
cadarnhau eu bod yn derbyn y grant a’u cyfraniad cyfalaf hwythau. Disgwyliwyd mai’r uchafswm cost refeniw i
Gyngor Sir Ddinbych fyddai tua £136,000; (c) rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif
Weithredwr ac Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, i lofnodi
Cytundeb Cydweithio sy’n cynnwys adeiladu’r cyfleuster newydd, gweithrediad
Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Phenawdau’r Telerau ar gyfer prydlesu’r
adeilad newydd, cyn belled nad yw’r gost yn fwy na’r gyllideb gyffredinol o
£12,892,294, a Cofnodion: Wedi iddo ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn,
gadawodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, y cyfarfod am yr eitem hon
a chymerodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Gill German, rôl y Cadeirydd. Cyflwynodd y Cynghorydd Emrys Wynne yr adroddiad ar
gam nesaf Prosiect Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn dilyn ei gymeradwyo mewn
egwyddor gan y Cabinet ym mis Hydref 2023. Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gasglu,
cadw a gwneud dogfennau o bwysigrwydd hanesyddol yn hygyrch. Yr oedd gwasanaeth archifau ar y cyd â
Chyngor Sir y Fflint (CSFf) wedi ei sefydlu’n flaenorol a chynhaliwyd gwaith i
greu datrysiad cynaliadwy hirdymor ar gyfer storio archifau. Pwysleisiwyd y problemau sy’n gysylltiedig â
storio archifau Sir Ddinbych yng Ngharchar Rhuthun a threuliwyd rhai
blynyddoedd yn archwilio’r dewisiadau amrywiol. Daeth y gwaith hwnnw i’r casgliad mai’r
dewis gorau a mwyaf cost effeithiol oedd gweithio ar y cyd gyda CSFf ar adeilad
di-garbon net pwrpasol newydd ar gampws Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug a chafodd
ei gefnogi mewn egwyddor gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2020 a mis Hydref 2023. Ym mis Hydref 2023, cymeradwyodd y Cabinet gais am
gyllid ar y cyd gyda CSFf i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn ceisio
grant cyfalaf o £7,371,397 i ariannu cyfleuster pwrpasol newydd yn Yr Wyddgrug
ar y ddealltwriaeth y byddai CSDd a CSFf yn darparu cyfraniadau arian cyfatebol
o £2,052,358 a £3,078,537 yn y drefn honno.
Roedd y cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn
llwyddiannus, ac roedd yr adroddiad yn argymell bod y Cabinet yn cadarnhau ei
gefnogaeth i dderbyn y cynnig grant a’i ymrwymiad i gyfrannu at arian cyfatebol
cyfalaf, yn amodol ar bod CSFf yn gwneud yr un fath. Os caiff ei gymeradwyo, byddai presenoldeb
archif yn parhau yng Ngharchar Rhuthun. Pwysleisiwyd y rheswm dros y gwariant sylweddol ar
y gwasanaeth yn yr hinsawdd ariannol bresennol ac eglurwyd y cyllid. Cafodd amrywiaeth o ddewisiadau eu hystyried
ar gyfer storio casgliadau archifau yn y dyfodol ac roedd costau sylweddol i
bob un ac mae’n debyg y byddai’r rhain yn costio mwy na’r cynnig presennol yn
yr hirdymor. Gan fod y trefniadau
presennol yn anghynaladwy a heb fod yn gallu cyflawni dyletswyddau statudol y
Cyngor, nid oedd “gwneud dim” yn opsiwn.
Byddai swm arian cyfatebol Sir Ddinbych yn cael ei ariannu drwy fenthyca
darbodus a byddai’r cynnig yn rhoi cyfle i gaffael cyfleuster archifau newydd,
addas i bwrpas ar gyfer y 50 mlynedd nesaf a datrysiad hirdymor. Roedd y Cynghorydd Wynne yn credu mai’r
cynnig oedd y dewis mwyaf cost effeithiol ar gael a’r un a oedd yn rhoi’r
canlyniadau gorau ar gyfer darparu gwasanaeth. Roedd y Pennaeth Tai a Chymunedau a Rheolwr y
Gwasanaeth Archifau ar y Cyd yn bresennol.
Pwysleisiwyd bod llawer o’r gwaith wedi’i wneud dros gryn amser i
archwilio’r holl ddewisiadau ar gael ar gyfer y prosiect hirsefydlog i ganfod y
datrysiad gorau wrth symud ymlaen a sicrhau bod deunyddiau archifau’n cael eu
storio’n ddiogel a bod gwasanaeth effeithlon yn cael ei ddarparu, gan wneud y
mwyaf o fynediad y cyhoedd i’r deunyddiau hynny. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar y cytundeb
cydweithio ac ar Benawdau’r Telerau ar gyfer prydlesu’r adeilad a gofynnwyd i’r
Cabinet ddirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr a’r Aelod Arweiniol i arwyddo’r
dogfennau hynny pan fyddant yn barod o ystyried y terfynau amser sy’n ymwneud
â’r broses. Roedd y Cabinet wedi trafod rhinweddau’r prosiect ar sawl achlysur, gan ystyried y trefniadau anghynaladwy presennol a’r cyfrifoldebau statudol o ran archifau ynghyd â’r costau sylweddol sy’n gysylltiedig â’r prosiect ar adeg o bwysau cyllideb na welwyd mo’i debyg o’r blaen. ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYMUNEDAU DYSGU CYNALIADWY - RHAGLEN DREIGL PDF 231 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol
dros Addysg, Plant a Theuluoedd (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i gyflwyno’r Rhaglen Amlinellol Strategol ddrafft ar gyfer y Rhaglen
Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu i Lywodraeth Cymru i’w hystyried. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn – (a) cymeradwyo bod y Rhaglen Amlinellol
Strategol ddrafft ar gyfer y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, (Atodiad 1 yr
adroddiad), yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w hystyried, a (b) chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3
yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gill
German yr adroddiad gan geisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r Rhaglen
Amlinellol Strategol ddrafft ar gyfer y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i
Lywodraeth Cymru (LlC) i’w hystyried. Roedd LlC wedi newid ei ddull
i ddarparu’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif
gynt), gan symud oddi wrth fandiau 5 mlynedd o fuddsoddiad i ddull mwy hyblyg
dros gyfnod hirach o 9 mlynedd wedi’i rannu’n dri bloc o dair blynedd yr
un. Gofynnwyd i
awdurdodau lleol ddiweddaru eu Rhaglenni Amlinellol Strategol o dan y strwythur
newydd gyda phrosiectau sydd yn eu hanfod yn barod am achosion busnes i gael eu
cyflwyno yn y tair blynedd gyntaf, i brosiectau sy’n cael eu datblygu ac yn
mynd trwy ymgynghori statudol gael eu cyflwyno yn yr ail gam o dair blynedd ac
i brosiectau sydd ar y gweill gael eu cyflwyno ar gyfer y tair blynedd
olaf. Byddai’r rhaglen yn cael ei
hadolygu bob tair blynedd. Roedd y cynigion a’r rhesymau
dros gyflwyno buddsoddiad ysgolion y Cyngor fesul cam dros y 9 mlynedd nesaf
wedi’i amlinellu yn yr adroddiad a gan yr Aelod Arweiniol, yn gryno – · oherwydd yr
oedi, ni fyddai’r 4 prosiect Band B (Ysgol Plas Brondyffryn, Ysgol Pendref,
Ysgol Bryn Collen/Ysgol Gwernant, ac Ysgol Uwchradd Dinbych) yn cael eu darparu
o fewn yr amserlenni gwreiddiol ac o ystyried y pwysau ariannol presennol roedd
angen ail-ystyried beth oedd yn fforddiadwy dros ba gyfnod o amser. Argymhellir ein bod yn cadw at yr ymrwymiad
i ddatblygu’r holl 4 prosiect Band B a’u hymgorffori i’r Rhaglen Amlinellol
Strategol newydd, ond bod yr amserlenni datblygu yn cael eu hailbroffilio i
ledaenu’r pwysau refeniw dros gyfnod hirach. · cynigiwyd
hefyd cynnwys prosiect ychwanegol yn y Rhaglen Amlinellol Strategol i gael ei
gyflwyno o fewn y tair blynedd gyntaf yn ymwneud ag adeiladu estyniad bach i
Ysgol y Castell a oedd mewn perygl oherwydd costau cynyddol; drwy ei gynnwys yn
y rhaglen byddai’n ei ganiatáu i barhau heb unrhyw ofynion benthyca gan y
Cyngor gyda’r cyllid cyfatebol sydd ei angen yn cael ei ddarparu gan
gyfraniadau gan ddatblygwr Adran 106. · roedd gofyn
i’r Cyngor wneud cyfraniad cyfalaf i’r prosiectau Band B presennol a fyddai’n
cael eu hariannu drwy fenthyca darbodus.
Os byddai’r holl brosiectau Band B yn trosglwyddo i’r tair blynedd
gyntaf mae’n debygol y byddai angen gwneud toriadau pellach i wasanaethau, yn
cynnwys cyllidebau ysgol dirprwyedig, er mwyn ariannu’r costau benthyca, a dyna
pam fod y cynnig yn ymwneud â gwasgaru’r benthyciad hwnnw dros amserlen sy’n
haws i’w rheoli. · gan mai Ysgol
Plas Brondyffryn oedd y prosiect mwyaf datblygedig, cynigiwyd ceisio buddsoddi
yn yr ysgol honno yn y tair blynedd gyntaf gyda’r prosiectau Band B lleiaf
datblygedig yn cael eu cynnwys yn yr ail gyfnod o dair blynedd (2027 – 2030),
ac yn y cyfnod olaf o dair blynedd (2030 – 2033) byddai angen rhoi ystyriaeth i
ddatblygu uchelgeisiau pellach gan ddibynnu ar y sefyllfa ariannol ar adeg yr
adolygiad cyntaf yn 2027. Derbyniwyd y
byddai’r cynnig yn ergyd i’r ysgolion hynny a fyddai angen aros yn hirach am y
gwelliannau sydd eu hangen ond byddai gwaith yn parhau tuag at wireddu’r
uchelgeisiau hynny cyn gynted â phosibl yn cynnwys unrhyw waith dros dro a
ellir ei ddatblygu yn y cyfamser. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, y Pennaeth Addysg a’r Prif Reolwr – Cymorth i Ysgolion hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Ychwanegodd y Pennaeth Addysg bod yno benderfyniadau anodd ac amhoblogaidd i’w gwneud ond, o ystyried yr hinsawdd ariannol, roedd yn galonogol bod uchelgeisiau’r Cyngor ar gyfer buddsoddi yn yr ysgolion hynny yn cael eu ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion
sy’n weddill mewn perthynas â chyllideb 2024/25, yn paratoi ar gyfer gosod
cyllideb yn y tymor canolig (2025/26 - 2027/28), ac yn hunanasesu lefel
bresennol y Cyngor o gadernid a chynaliadwyedd ariannol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo’r diweddariadau fel a restrir
yn adran 2.1 yr adroddiad, a (b) chymeradwyo cychwyn y cyfnod dylunio ar
gyfer prosiectau Ysgol Bro Elwern, Ysgol Henllan, Ysgol Bro Cinmeirch ac Ysgol
y Llys i alluogi i’r Achos Busnes Llawn gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w
gymeradwyo fel y manylir arno yn adran 4.7 ac Atodiadau 6 i 9 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n weddill yn ymwneud â chyllideb
2024/25, pennu’r gyllideb yn y tymor canolig (2025/26 – 2027/28) ac adolygiad o
gadernid a chynaliadwyedd ariannol y Cyngor. Arweiniwyd y Cabinet yn fanwl drwy’r adroddiad a
oedd yn canolbwyntio ar y canlynol – ·
crynodeb o’r sefyllfa wrth bennu
cyllideb 2024/25, yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y setliad ariannu
terfynol, Cynllun Ymadael Gwirfoddol a’r traciwr arbedion ·
Strategaeth a Chynllun
Ariannol Tymor Canolig 2025/26 – 2027/28 yn cynnwys rhagamcanion cyllideb
presennol ynghyd â’r rhagdybiaethau a oedd yn tanategu’r rhagamcanion a dull
strategol y Cyngor i reoli ei gyllidebau gan amlinellu rhai o’r materion
ariannol a oedd yn wynebu’r Cyngor dros y tair blynedd nesaf ·
hunanasesiad o gadernid a
chynaliadwyedd ariannol gan amlinellu asesiad o sefyllfa’r Cyngor yn erbyn
themâu cyffredin a materion a nodwyd gan CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid
Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth), a ·
cheisio cymeradwyaeth y
Cabinet i gychwyn y cyfnod dylunio ar gyfer prosiectau Ysgol Bro Elwern, Ysgol
Henllan, Ysgol Bro Cinmeirch ac Ysgol y Llys i alluogi i’r achos busnes llawn
gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo. Cafodd y prosiectau eu hariannu'n llawn a'u
cymeradwyo gan y Grŵp Craffu Cyfalaf. Tynnodd yr Arweinydd sylw at bwysigrwydd yr adroddiad,
a gafodd ei drafod yn helaeth yn Briffio’r Cabinet, a’r pwysau allweddol sy’n
wynebu’r Cyngor a sut eir i’r afael arnynt ynghyd â’r broses ar gyfer
craffu. Croesawodd y Cynghorydd Julie
Matthews y Cynllun Cyfathrebu i sicrhau bod yr holl aelodau yn rhan o’r broses
ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth symud ymlaen. Cafodd cyfres o weithdai i aelodau o ran y
gyllideb a thrawsnewidiad ei gynllunio a fyddai’n rhoi’r cyfle i’r holl aelodau
ymgysylltu yn y broses honno i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfnod
heriol dros ben. Tynnodd y Cynghorydd
Gwyneth Ellis sylw’r Cabinet at y traciwr arbedion a fyddai’n cael ei
ymgorffori i’r adroddiad cyllid misol i’r Cabinet yn y dyfodol i fonitro
cynnydd a darpariaeth arbedion. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn – (a) cymeradwyo’r
diweddariadau fel y rhestrir yn adran 2.1 yr adroddiad, a (b) chymeradwyo
cychwyn y cyfnod dylunio ar gyfer prosiectau Ysgol Bro Elwern, Ysgol Henllan,
Ysgol Bro Cinmeirch ac Ysgol y Llys i alluogi i’r Achos Busnes Llawn gael ei gyflwyno
i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo fel y manylir arno yn adran 4.7 ac Atodiadau
6 i 9 yr adroddiad. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET PDF 316 KB Derbyn Rhaglen
Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen
waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w ystyried a
nododd yr aelodau ychwanegiad i’r cyfarfod ym mis Medi yn ymwneud â Chynllun
Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych. PENDERFYNWYD nodi
rhaglen waith y Cabinet. Daeth y cyfarfod i
ben am 12.40pm. |