Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Yn anffodus, roedd y Cyfieithydd ar y
Pryd wedi’i hoedi ac felly byddai’r cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gyfer y
cyfarfod yn dechrau unwaith iddi gyrraedd. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
23 Ionawr 2024. Materion yn Codi – Tudalen 7, Eitem 5:
Canlyniad Adolygiad y Pwyllgor Craffu Cymunedau o Benderfyniad y Cabinet yn
ymwneud â’r Cynnig am Arbedion i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siop Un Alwad –
mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, bu i’r Cynghorydd Emrys
Wynne gadarnhau bod gwaith i ddatblygu’r ymrwymiadau a wnaed mewn perthynas â’r
ffordd ymlaen ar gyfer y gwasanaeth llyfrgelloedd/siop un stop wedi
dechrau. Roedd cyfarfod anffurfiol
wedi’i gynnal gyda swyddogion i drafod gwaith y tasglu a byddai cyfarfod
ffurfiol yn cael ei gynnal ym mis Ebrill i ddechrau’r broses a oedd yn cynnwys
monitro effaith lleihau oriau agor a defnydd y llyfrgell, modelau cyflawni
amgen a’r ddarpariaeth ynghyd ag unrhyw gyfleoedd ychwanegol i gynyddu incwm a
gwneud y mwyaf o ddefnydd adeiladau llyfrgell. Yn y pen draw, byddai’r gwaith hwn yn
arwain at Strategaeth Lyfrgelloedd newydd. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
FFRAMWAITH AILWAMPIO TAI GWAG Y CYNGOR PDF 239 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau
(copi’n amgaeedig) sy’n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ail-dendro
Fframwaith Tai Gwag y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet – (a) yn cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad)
fel rhan o’i ystyriaethau, a (b) yn cymeradwyo ail-dendro
Fframwaith Ailwampio Tai Gwag y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys
Thomas yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ail-dendro Fframwaith
Ailwampio Tai Gwag y Cyngor. Roedd y Gwasanaeth Tai yn
rheoli oddeutu 3,480 o eiddo tenantiaeth gydag oddeutu 250 o eiddo yn dod yn
wag bob blwyddyn (yn wag tra bod tenantiaid newydd yn cael eu dyrannu). Roedd yr eiddo hynny yn cael eu hailwampio i’r
safon gosod newydd gan arwain at wariant o dros £4miliwn y flwyddyn. Cafodd y fframwaith presennol ei awdurdodi
gan y Cabinet yn 2018 i leihau costau ac amser o ran gwneud gwaith ar dai gwag
wrth gynnal safonau ansawdd. Dyluniwyd
ail iteriad y fframwaith i barhau â’r gwelliannau hynny. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion a
manyleb y fframwaith gan gynnwys pwysoliad ansawdd/pris o 60/40 gyda gwerth
disgwyliedig o £16miliwn dros bedair blynedd a’r tendr wedi’i rannu yn 4 lot. Roedd Pennaeth y Gwasanaeth
Tai a Chymunedau a’r Swyddog Arweiniol Eiddo Tai yn bresennol ar gyfer yr eitem
hon. Dywedwyd wrth y Cabinet bod eiddo
gwag yn rhoi cyfle delfrydol i wneud gwaith adnewyddu. Fodd bynnag, gallai’r trosiant gymharol fach
mewn tenantiaid, gyda rhai wedi byw mewn eiddo ers degawdau cyn iddynt ddod yn
wag, arwain at fod angen gwneud gwaith adnewyddu mawr. Hefyd, roedd angen i’r gwaith gael ei wneud
mor gyflym â phosibl o ystyried yr incwm rhenti a fyddai’n cael ei golli tra
bod yr eiddo yn wag, a’r angen i weithio yn unol â’r Safon Ansawdd Tai Cymru
newydd wrth symud ymlaen. Roedd y
fframwaith yn rhoi cyfle gwych i ddarparu gwaith cyson i gontractwyr lleol ac
ehangu eu profiad/galluoedd i fodloni anghenion tai modern. Roedd y Cabinet yn falch o nodi
bod cael contractwyr lleol enwebedig i weithio gyda Sir Ddinbych dros oes y
fframwaith wedi arwain at ddarpariaeth gwasanaeth gwell yn nhermau ansawdd a
gwerth, ac roedd defnyddio contractwyr lleol yn golygu bod arian yn aros yn Sir
Ddinbych. Nodwyd hefyd bod y fframwaith
yn helpu i sicrhau amseroedd cwblhau cynt ar gyfer gwaith adfer a thendro
gwaith newydd ar dai gwag. Croesawyd y
buddion cymunedol a restrir yn yr adroddiad a’r Asesiad o’r Effaith ar Les hefyd
gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddi, prentisiaethau a chreu swyddi. Atebodd y swyddogion i
gwestiynau gan aelodau’r Cabinet ac aelodau eraill fel a ganlyn – · roedd y
Cyngor yn awyddus i wneud y mwyaf o fuddion cymunedol lle bynnag bo’n bosibl ac
roedd cynlluniau ar waith i wneud gwasanaethau tai yn fwy rhagweithiol o ran
mesur buddion cymunedol a sut oedden nhw’n effeithio ar denantiaid yn benodol;
roedd gwaith hefyd yn mynd rhagddo gyda chontractwyr trwy Sir Ddinbych yn
Gweithio i’w cefnogi nhw i gynnig prentisiaethau a lleoliadau’r cynllun Dechrau
Gweithio ac ati, ynghyd â gwaith corfforol i neuaddau/mannau cymunedol gyda’r
gwaith sydd wedi’i gwblhau yng Nghanolfan Phoenix yn Rhydwen Drive yn cael ei
ddefnyddio fel enghraifft · roedd y Tîm
Gwytnwch Cymunedol wedi gweithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd
sector i’w helpu nhw i gael cyllid i gyflawni eu huchelgeisiau mewn meysydd
lle’r oedd yna’r potensial i gael cyllid ar gyfer buddion cymunedol · cwblhawyd
Asesiad o’r Effaith ar Les fel grŵp yn cynnwys y Swyddog Arweiniol Eiddo
Tai, Prif Swyddog Buddsoddiadau Tai a’r Swyddog Arweiniol – Eiddo Corfforaethol
a’r Stoc Dai. Er nad oedd Cymdeithas
Tenantiaid Sir Ddinbych wedi bod yn rhan uniongyrchol o ddatblygu’r Asesiad o’r
Effaith ar Les, roeddent wedi bod yn rhan yn nhermau datblygu’r fframwaith
newydd · rhoddwyd sicrwydd bod cyflymder cwblhau gwaith ar dai gwag yn cael ei fonitro’n agos a’i herio yn rheolaidd; roedd oed a chyflwr yr eiddo, hyd y denantiaeth flaenorol, a gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ARGYMHELLION Y GRŴP CRAFFU CYFALAF PDF 244 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet i’r
prosiectau a nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2024/25 a’u hargymell i’r
Cyngor Llawn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet – (a) yn nodi cynnwys yr adroddiad, (b) yn cymeradwyo’r egwyddorion ar gyfer
cynlluniau cyfalaf fel y nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad, ac (c) yn cefnogi'r prosiectau a ddangosir yn
Atodiad 1 yr adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2024/25, a’u hargymell
yn unol â hynny i'r Cyngor llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Gwyneth Ellis yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a
nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2024/25, yn ôl argymhellion y
Grŵp Craffu Cyfalaf, i’w cyflwyno i’r Cyngor llawn i’w hystyried a’u
cymeradwyo. Cynghorwyd y Cabinet o’r
cyllid sydd ar gael ar gyfer dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni parhaus o
waith, ynghyd â rôl y Grŵp Craffu Cyfalaf a’u gwaith o ran adolygu’r
cynigion am ddyraniadau. Roedd manylion
argymhellion y Grŵp Craffu Cyfalaf a’i rhesymau dros gefnogi prosiectau
penodol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.
O ystyried graddfa’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, roedd
moratoriwm ar unrhyw gynlluniau pellach a ariennir gan CSDd ar gyfer 2023/24
wedi’i gytuno ac roedd y Cabinet a’r Tîm Gweithredol Corfforaethol wedi
datblygu egwyddorion diwygiedig a meini prawf ar gyfer cynlluniau cyfalaf mewn
blynyddoedd i ddod fel y nodir yn yr adroddiad. Y prif bwyntiau i’w nodi oedd yr angen am
fwy o ddibyniaeth ar gyllid grant, pwyslais ar gynlluniau buddsoddi i arbed, ac
ymrwymiad i leihau benthyca blynyddol trwy weithio tuag at gymeradwyo
dyraniadau bloc sydd gyfystyr ag arian cyfalaf cyffredinol sydd ar gael gan
Lywodraeth Cymru. Roedd angen edrych ar
y rhaglen gyfalaf yng nghyd-destun yr heriau ariannol presennol ac roedd
rhaglen lai wedi’i hawgrymu gan yr aelodau i’w hystyried fel rhan o’r gwaith
cyffredinol i osod cyllidebau cytbwys yn y dyfodol. Dywedodd y Cynghorydd Gill
German bod y Bwrdd Moderneiddio Addysg
wedi cydnabod y llawer iawn o waith sydd wedi’i wneud i gael cyllid grant ar
gyfer adeiladau ysgol sy’n rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa dda. Roedd adeiladau ysgol hefyd wedi cael eu
heffeithio gan gamreolaeth economi’r DU gyda chostau cynyddol a chwyddiant, ac
er bod yno angen i leihau gwariant cyfalaf o ystyried y sefyllfa ariannol, bu
gwariant sylweddol ar adeiladau ysgol yn y blynyddoedd diwethaf ac ynghyd â
pharhau i wneud y gorau o ddyraniadau cyllid grant, roedd hyder y gellir cynnal
safon dda o adeiladau ysgol. Siaradodd y Cynghorydd Elen Heaton o blaid y meini
prawf/egwyddorion ar gyfer cynlluniau cyfalaf fel y nodir yn yr adroddiad, a
oedd, yn ei barn hi, wedi helpu i fynd i’r afael ag anghenion cymharol
uniongyrchol wrth hefyd bwysleisio ymrwymiad i gynllunio hirdymor gan arwain at
ddull synhwyrol a chynaliadwy wrth symud ymlaen. Cytunodd yr Arweinydd, gan gadarnhau’r dull
i gynlluniau cyfalaf mewn ymateb i bwysau ariannol enfawr, yn enwedig gyda
chynlluniau buddsoddi i arbed, yn cynnwys cynllunio yn y tymor canolig a’r
hirdymor. PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet – (a) yn nodi cynnwys yr adroddiad; (b) yn cymeradwyo’r egwyddorion ar gyfer
cynlluniau cyfalaf fel y nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad, ac (c) yn cefnogi'r prosiectau a ddangosir yn
Atodiad 1 yr adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2024/25, a’u hargymell
yn unol â hynny i'r Cyngor llawn. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r
cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
misol a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23) ·
rhagwelwyd y byddai
gorwariant o £2.840 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
amlygwyd y risgiau ar hyn o
bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ·
rhoddwyd manylion arbedion
ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn) ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr. Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr
Aelodau drwy’r adroddiad. Roedd
gostyngiad wedi bod yn y gorwariant a ragwelir ar gyllidebau corfforaethol a
gwasanaethau o £2.840 miliwn o’i chymharu â £3.229 miliwn y mis blaenorol gyda
symudiad cadarnhaol o ychydig yn llai na £390,000. Roedd y prif feysydd o orwariant yn parhau i
fod mewn Addysg a Gwasanaethau Plant, Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a
Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd.
Y mis hwn, bu costau cynyddol mewn gwaith cynnal a chadw dros y gaeaf
a'r fflyd a oedd wedi'u gwrthbwyso’n gyfan gwbl gan arbedion pellach a ganfuwyd
gan wasanaethau a rhyddhau rhywfaint o arian wrth gefn corfforaethol. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai wedi nodi cynnydd
bychan yn eu tanwariant ar £126,000 o £108,000 oherwydd gostyngiad mewn
cyfraniad refeniw i gyfalaf gyda rhagolygon o falans diwedd blwyddyn o ychydig
yn llai na £800,000. Nid oedd unrhyw
newid y mis hwn yn y defnydd a ragwelir o gronfeydd wrth gefn i ysgolion a oedd
yn parhau i fod ychydig dros £7miliwn.
Roedd yr atodiadau arferol wedi’u cynnwys ar y Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr. Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi’r gostyngiad
mewn gorwariant ond roedd y Cyngor yn parhau i fod mewn sefyllfa ariannol anodd
a oedd wedi’i adlewyrchu yn yr adroddiad misol gyda heriau amlwg o’n
blaenau. Bu iddo ddiolch i’r Aelod
Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a’r Tîm Cyllid am eu gwaith caled parhaus yn ystod
y cyfnod heriol hwn. PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r
cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET PDF 297 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried. PENDERFYNWYD nodi rhaglen
waith y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 10.40am. |