Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
21 Tachwedd 2023 i’w cymeradwyo. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
CYNNIG ARBEDION LLYFRGELL/SIOP UN ALWAD PDF 262 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Treftadaeth
a Diwylliant (copi ynghlwm) yn amlinellu sut ellir cyflawni arbedion trwy
leihau gwasanaethau llyfrgell/siop un alwad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi’r adroddiad ac yn cymeradwyo’r cynnig
i leihau oriau agor Llyfrgelloedd / Siopau Un Alwad o oddeutu 40%, ynghyd ag
arbedion cysylltiedig mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth, i roi arbediad
disgwyliedig o £360,000, a (b) chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1
yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Emrys Wynne yr adroddiad a
oedd yn amlinellu sut y gellid cyflawni arbedion trwy leihau Gwasanaethau Llyfrgelloedd/Siopau
Un Alwad. Roedd y
cynnig wedi’i gyflwyno oherwydd yr heriau ariannol digynsail a oedd yn wynebu’r
Cyngor a’r gofyniad i bob gwasanaeth ddarparu arbedion sylweddol. Roedd yr adroddiad yn egluro’r arbedion
posibl o’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad; effaith bosibl yr
arbedion; ystyriaethau penodol i’r Cabinet a’r Tîm Gweithredol Corfforaethol i
lywio trafodaethau’r dyfodol, ac roedd yn argymell bod y Cabinet yn
cymeradwyo'r cynnig i leihau oriau agor Llyfrgelloedd/Siopau Un Alwad o tua
40%, ynghyd ag arbedion cysylltiedig mewn meysydd gwasanaeth eraill, er mwyn
cyflawni arbediad disgwyliedig o £360,000. Roedd y
Cynghorydd Wynne yn glir nad oedd yn gyfforddus â’r cynnig, ond o ystyried y
cyd-destun ariannol, roedd angen gwneud llawer o benderfyniadau anodd ac
eglurodd y rhesymeg sy’n sail i’r dewis i leihau oriau agor ar draws pob
llyfrgell yn hytrach na chau llyfrgelloedd unigol yn llwyr fel ffordd fwy teg o
gyflawni arbedion. Roedd newidiadau
wedi’u gwneud i’r cynnig gwreiddiol i ymateb i adborth o’r ymgynghoriad. Roedd y cynnig presennol yn seiliedig ar
leihau oriau agor o 40% yn hytrach na 50% gan arwain at agor llyfrgelloedd am
30 awr ychwanegol yr wythnos yn gyffredinol a oedd yn darparu tua £90,000 yn
llai o arbedion ond a oedd hefyd yn galluogi grwpiau defnyddwyr trydydd parti i
ddefnyddio adeiladau’r llyfrgell y tu allan i oriau agor arferol
llyfrgelloedd. Roedd y Cynghorydd Wynne
o’r farn fod y cynnig presennol yn fwy cytbwys ac yn well i ddefnyddwyr y
llyfrgell a staff na’r cynnig blaenorol.
Roedd y cynnig yn diogelu llyfrgelloedd i’r graddau yr oedd hynny’n
bosibl ar hyn o bryd, a byddai’n sicrhau nad oedd rhaid i unrhyw lyfrgell
gau. Gyda thristwch mawr, argymhellodd y
Cynghorydd Wynne y cynnig, ond roedd yn credu mai hwn oedd y trefniant gorau
posibl i lyfrgelloedd yn y sefyllfa ariannol bresennol. Eglurodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi y broses a arweiniodd at y
cynnig presennol fel rhan o’r broses ehangach o osod y gyllideb er mwyn sicrhau
bod y Cyngor yn gosod cyllideb gytbwys, gyda’r cynnig yn newid dros amser i
ymateb i adborth o’r ymgynghoriad.
Ystyriwyd bod y cynnig yn gymesur a realistig o ystyried y sefyllfa
ariannol a lefel yr arbedion gofynnol.
Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau fod y toriad arfaethedig i’r
gyllideb tua 21% o gyllideb y gwasanaeth ac roedd yn cynnwys lleihau oriau agor
llyfrgelloedd a rhai arbedion cysylltiedig mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth
hefyd, yr oeddent yr un mor werthfawr.
Tynnodd sylw at Atodiad 2 a oedd yn egluro’r model gwasanaeth 40%
arfaethedig a oedd wedi’i ddatblygu trwy ymgynghori ag undebau a staff. Pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo’r cynnig,
byddai ymgynghoriad staff ffurfiol a allai arwain at fân adolygiadau
gweithredol, ond y model hwn yn fras fyddai’r un a fyddai’n cael ei weithredu. Diolchodd y Cabinet i’r Aelod Arweiniol am ei waith wrth gyflwyno cynnig mor anodd ond cytbwys gan roi ystyriaeth i’r holl ffactorau. Mynegodd y Cynghorydd Julie Matthews ei rhwystredigaeth dros y toriadau sydd wedi cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU dros yr 13 mlynedd diwethaf ac effaith gronnus y cynni ar arian Llywodraeth Leol sydd wedi arwain at y sefyllfa ariannol enbyd bresennol. Er nad oedd neb o blaid toriadau i’r gwasanaeth llyfrgelloedd, derbyniwyd y byddai angen i bob gwasanaeth wneud arbedion er mwyn darparu cyllideb gytbwys, o ystyried y sefyllfa ariannol enbyd, ac yn y cyd-destun hwnnw, roedd y Cabinet yn ystyried bod y cynnig yn deg a chymesur. Fodd bynnag, roedd y Cabinet yn awyddus i osgoi unrhyw doriadau pellach i’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU CYFALAF A REFENIW TAI 2024/25 PDF 240 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynnydd rhent blynyddol ar
gyfer Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar
gyfer 2024/25 a Chynllun Busnes y Stoc Dai. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) Mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai
ar gyfer 2024/25 (Atodiad 1 yr adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad
2 yr adroddiad); (b) cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â
Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol i rent wythnosol
cyfartalog o £109.34, i’w weithredu o ddydd Llun, 1 Ebrill 2024; (c) nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 yr
adroddiad) ar yr ystyriaethau y rhoddir sylw iddynt wrth benderfynu ar yr
argymhelliad hwn, a (d) bod y Cabinet yn cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4
yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad a
oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cynnydd rhent blynyddol ar
gyfer Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai ar
gyfer 2024/25 a Chynllun Busnes y Stoc Dai. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y sefyllfa derfynol
ddiweddaraf a ragwelwyd ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai a’r gyllideb arfaethedig
ar gyfer 2024/25 a oedd wedi’i chyfrifo i alluogi darparu gwasanaethau refeniw,
y rhaglen buddsoddi cyfalaf ac i ddatblygu’r rhaglen adeiladu newydd. O ran y cynnydd rhent blynyddol, roedd
Llywodraeth Cymru wedi gosod uchafswm cynnydd rhent o 6.7% a chynigiwyd cynyddu
rhenti wythnosol o hynny oherwydd y pwysau ar y Cyfrif Refeniw Tai i fuddsoddi
mewn cartrefi er mwyn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru a cheisio cyrraedd
targed y Cynllun Corfforaethol ar gyfer cartrefi newydd. Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod 72% o denantiaid y
Cyngor wedi cael cefnogaeth gyda’u taliadau rhent; byddai’r Cyngor yn cefnogi’r
28% arall o denantiaid pe baent mewn anhawster ariannol; cytunodd 85% o
ymatebion i’r arolwg tenantiaid fod eu rhenti’n cynnig gwerth am arian ac ni
wnaeth y Cyngor na Llywodraeth Cymru droi tenantiaid allan oherwydd caledi
ariannol. Roedd y Pwyllgor Craffu
Cymunedau wedi rhoi ystyriaeth i’r adroddiad a chymeradwyo’r cynnwys. Eglurodd Pennaeth Tai a Chymunedau fod oedran y
stoc tai presennol yn golygu bod angen buddsoddi’n gyson ynddo a bod bodloni
Safonau Ansawdd Tai Cymru newydd yn creu pwysau ychwanegol. Roedd pwysau i ariannu rhaglenni adeiladu
newydd hefyd gyda chyfnodau heriol o’n blaenau.
Cynigiwyd cynyddu rhent i’r uchafswm a osodwyd ond roedd ffydd bod y
rhent yn fforddiadwy i denantiaid.
Rhoddodd y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol drosolwg o’r asesiad
fforddiadwyedd ac eglurodd sut oedd y rhent wedi’i gyfrifo gan ddefnyddio model
rhent byw Sefydliad Joseph Rowntree sy’n seiliedig ar y 30% o incymau isaf Sir
Ddinbych, gyda rhenti nad ydynt yn uwch na 28% o incwm wythnosol yr enillion
hynny. Roedd y gwaith hwnnw wedi dangos
bod rhenti’n fforddiadwy, a byddai’r holl incwm o renti yn cael ei
ail-fuddsoddi yn y stoc tai. Soniodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y
Pwyllgor Craffu Cymunedau am drafodaethau’r Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyried
yr adroddiad ar 7 Rhagfyr 2023. Talodd y
Cynghorydd Williams deyrnged i waith y Tîm Tai Cymunedol gan ddiolch iddynt am
eu holl waith caled a’u cyflawniadau, a dywedodd fod yr adborth o’r Pwyllgor Craffu
wedi bod yn hynod o gadarnhaol a bod argymhelliad yr adroddiad wedi’i
gymeradwyo. Roedd un maes pryder yn
ymwneud â gwres ffynhonnell aer a’r angen i edrych ar wresogi eilaidd i sicrhau
nad oedd tenantiaid heb wres am unrhyw gyfnod.
Cadarnhaodd Pennaeth Tai a Chymunedau fod y mater yn cael ystyriaeth
bellach a bod asesiadau risg yn cael eu cynnal.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Williams am ei adborth ar ôl y
Pwyllgor Craffu a chroesawodd fwy o’r dull hwnnw wrth symud ymlaen. Roedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar
y canlynol – · Eglurwyd bod y Cyfrif Refeniw Tai wedi’i glustnodi a’i
fod i gyd ar wahân i gyllideb y Cyngor a’r broses o osod y gyllideb · rhoddodd Aelodau longyfarchiadau i’r Tîm Tai Cymunedol am
y cyflawniadau o ran tai cymdeithasol, o ran gwella darpariaeth bresennol a
chreu tai cymdeithasol newydd, er budd tenantiaid a phreswylwyr y sir · eglurodd swyddogion y gwelliant i’r stoc tai Cyngor presennol trwy’r rhaglen ôl-osod gyda chyllid grant yn cael ei ddarparu i gyflawni gwelliannau fel paneli solar, toeau newydd ac inswleiddio waliau allanol ynghyd â gwelliannau a gynlluniwyd sy’n codi o Safon Ansawdd Tai Cymru newydd o ran ‘gwres fforddiadwy’ a gwelliannau ynni trwy bympiau gwres yr awyr, paneli solar ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CAFFAEL PROSIECT CEFNOGI LLETY CYNALIADWY NEWYDD (ATAL DIGARTREFEDD) PDF 223 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
ynghlwm) yn nodi cynigion ar gyfer prosiect cefnogi holistaidd newydd mewn
perthynas â thai a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau caffael y
gwasanaeth hwn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo cychwyn y broses
gaffael fel sydd wedi’i nodi ar y Ffurflen Gomisiynu yn Atodiad 1 yr adroddiad,
a (b) chadarnhau ei fod wedi
darllen ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad a
oedd yn nodi cynigion ar gyfer prosiect cefnogi holistaidd newydd mewn
perthynas â thai a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau caffael y
gwasanaeth. Dyluniwyd y prosiect i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir
Ddinbych i gynnal eu llety ac atal digartrefedd ac roedd yn rhan o broses
ailgomisiynu gwasanaethau cefnogi mewn perthynas â thai er mwyn alinio â’r
trosglwyddo i Ailgartrefu Cyflym.
Byddai’r contract yn cael ei ariannu’n llawn gan y Grant Cymorth Tai a
ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru a byddai am gyfnod o dair blynedd a bydd dewis
i’w ymestyn am ddwy flynedd arall, yn amodol ar berfformiad boddhaol, cyllid
parhaus a pherthnasedd strategol. Byddai’r gwasanaeth yn disodli tri gwasanaeth
cymorth yn ôl yr angen presennol sy’n cael eu darparu gan dri sefydliad ar
wahân. Roedd manylion am y caffael wedi’u
nodi ar y Ffurflen Gomisiynu a oedd wedi’i hatodi i’r adroddiad. Gwnaeth y Rheolwr Gwasanaeth – Cymorth Busnes a
Chymunedau amlygu’r angen i gynyddu lefel y cymorth i bobl mewn tenantiaethau a
pharhau â’r cymorth hwnnw er mwyn sicrhau bod y tenantiaethau hynny’n cael eu
cynnal er mwyn osgoi achosion mynych o ddigartrefedd. Roedd cyflenwyr presennol yn cael eu hannog i
gydweithio i ddarparu gwasanaeth amddisgyblaethol. Er nad oedd arwydd o werth y contract wedi’i
roi, rhagwelwyd y byddai’r prosiect yn arwain at arbediad a fyddai’n mynd i’r
afael â phwysau mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth. Cyfeiriodd y Cynghorydd Julie Matthews at yr
Asesiad o Effaith ar Les a chroesawodd y symudiad at ganlyniadau sy’n
canolbwyntio ar unigolion a gofynnodd ragor o gwestiynau yn hynny o beth. Eglurodd swyddogion y broses bresennol a’r
bwriad i sicrhau’r ddarpariaeth cymorth gywir wedi’i theilwra i’r
unigolyn/aelwyd er mwyn diwallu eu hanghenion a chynnal eu tenantiaeth trwy
gydol y cyfnod a byddai’r dull hwnnw’n cael ei drosglwyddo i bob darparwr ar
gyfer y prosiect newydd. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo cychwyn y broses
gaffael fel sydd wedi’i nodi ar y Ffurflen Gomisiynu yn Atodiad 1 yr adroddiad,
a (b) cadarnhau ei fod wedi darllen
ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad). |
|
CONTRACT AR GYFER CLUDO, DIDOLI A BROCERA DEUNYDD AILGYLCHU CYMYSG SYCH PDF 230 KB Ystyried
adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Barry
Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) ynglŷn â
chontract y Cyngor ar gyfer prosesu deunydd Ailgylchu Cymysg Sych (ailgylchu
bin glas) a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y contract presennol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) wedi rhoi ystyriaeth i
gynnwys yr Adroddiad Amrywio Contract sy’n cyd-fynd (Atodiad 1 yr adroddiad), a (b) yn cymeradwyo estyniad i’r
contract am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad, h.y. byrdra ac ansicrwydd
cyfnod y contract, defnydd gorau o adnoddau a lefel yr hyder fod y telerau a
gynigiwyd gan y cyflenwr yn cynnig gwerth am arian. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad
am gontract y Cyngor ar gyfer prosesu Deunydd Ailgylchu Cymysg Sych (ailgylchu
bin glas) a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y contract presennol
yn unol â’r Adroddiad Amrywio Contract. Eglurwyd rhywfaint o gefndir i’r sefyllfa bresennol
o ystyried bod contract y Cyngor ar gyfer prosesu Deunydd Ailgylchu Cymysg Sych
wedi dod i ben, ond nid oedd disgwyl i’r gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu
ddechrau tan Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2024/25, a fyddai’n golygu bod angen
i’r Cyngor wneud trefniadau dros dro tan i’r gwasanaeth newydd ddechrau. Roedd yr adroddiad yn egluro’r rhesymeg a
oedd yn sail i’r argymhelliad i ymestyn y contract presennol gyda Shotton Mill
gan gynnwys sicrwydd o ran costau/lefelau gwasanaeth; galw anghymesur ar
adnoddau presennol sy’n deillio o ymarfer caffael llawn, ac ystyriaethau o ran
gwerth am arian. Atgoffodd y Cynghorydd Mellor yr Aelodau fod y
Cyngor yn arfer cael taliad o £25 fesul tunnell am ddeunydd ailgylchu, ond bod
rhaid talu swm sylweddol i gael gwared arno ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd yn falch o gyhoeddi bod
Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi trwydded ar gyfer yr Orsaf Trosglwyddo
Gwastraff newydd a rhoddodd deyrnged i waith caled pawb a fu’n rhan o’r
prosiect, a fu’n dasg enfawr a oedd yn dod i’w therfyn, a byddai o fudd i’r
Cyngor wrth symud ymlaen. Ychwanegodd yr
Arweinydd ei ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r prosiect am eu gwaith caled. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet – (a) wedi rhoi ystyriaeth i
gynnwys yr Adroddiad Amrywio Contract sy’n cyd-fynd (Atodiad 1 yr adroddiad), a (b) yn cymeradwyo estyniad i’r
contract am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad, h.y. byrdra ac ansicrwydd
cyfnod y contract, defnydd gorau o adnoddau a lefel yr hyder fod y telerau a
gynigiwyd gan y cyflenwr yn cynnig gwerth am arian. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer
2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni; (b) cymeradwyo Sylfaen y Dreth Gyngor i osod
cyllideb 2024/25 fel y manylir yn Atodiad 5 yr adroddiad; (c) cymeradwyo achos busnes Ysgol Bro
Cinmeirch i’w gyflwyno i Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru fel y manylir yn
Adran 6.9 ac Atodiad 6 yr adroddiad, a (d) cymeradwyo achos busnes Ysgol y Llys i’w
gyflwyno i Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru fel y manylir yn Adran 6.9 ac
Atodiad 7 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23) ·
rhagwelwyd gorwariant o
£3.325 miliwn yn y cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
amlygwyd y risgiau ar hyn o
bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ·
rhoddwyd manylion arbedion
ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn) ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr. Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr
Aelodau drwy’r adroddiad. Roedd cynnydd
bach o ran y gorwariant a ragwelir ar gyllidebau gwasanaethau a’r gyllideb
gorfforaethol ac roedd y prif feysydd gorwariant yn dal i fod o ganlyniad i
wasgfeydd o fewn y Gwasanaethau Digartrefedd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion,
Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol. Nid oedd newidiadau o ran y Cyfrif Refeniw
Tai ac o ran ysgolion, roedd cynnydd bach yn y defnydd a ragwelir o gronfeydd
wrth gefn y byddai angen i ysgolion eu defnyddio yn ystod y flwyddyn. Roedd yr atodiadau arferol wedi’u cynnwys ar
y Cynllun Cyfalaf a Phrosiectau Mawr. Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo sylfaen Treth y
Cyngor ar gyfer gosod cyllideb 2024/25 hefyd ynghyd ag achosion busnes cyfalaf
sy’n ymwneud ag Ysgol Bro Cinmeirch ac Ysgol y Llys. Byddai’r ddau brosiect ysgol yn ceisio tynnu 100%
o’r costau ariannu o Raglen Grant Cyfalaf berthnasol Llywodraeth Cymru. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr
Amgylchedd a’r Economi i gwestiwn gan y Cynghorydd Terry Mendies ynghylch
gosodiadau mewnol datblygiad Marchnad y Frenhines. Eglurodd fod y cam adeiladu’n tynnu at ei
derfyn a’r bwriad oedd cytuno ar natur y gosodiadau terfynol gyda gweithredwr y
cyfleuster. Oherwydd nad oedd y
bartneriaeth arfaethedig gyda Mikhael Hotel and Leisure Group wedi’i datblygu,
byddai gwaith yn cael ei wneud o fewn y cyllid a oedd ar gael i roi gosodiadau
yn y cyfleuster fel sy’n briodol er mwyn galluogi agor y cyfleuster. Cytunwyd y byddai’r Cynghorydd Mendies yn
codi cwestiynau pellach sy’n ymwneud ag agweddau eraill ar ddatblygiad Marchnad
y Frenhines y tu allan i’r cyfarfod oherwydd nad oeddent yn ymwneud ag
adroddiad cyllid y Cabinet a oedd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer
2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni; (b) cymeradwyo Sylfaen y Dreth Gyngor i osod
cyllideb 2024/25 fel y manylir yn Atodiad 5 yr adroddiad; (c) cymeradwyo achos busnes Ysgol Bro
Cinmeirch i’w gyflwyno i Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru fel y manylir yn
Adran 6.9 ac Atodiad 6 yr adroddiad, a (d) cymeradwyo achos busnes Ysgol y Llys i’w
gyflwyno i Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru fel y manylir yn Adran 6.9 ac
Atodiad 7 yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 295 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet i’w
hystyried, a nododd yr aelodau’r diwygiadau canlynol – ·
Pennu Ffioedd Cartrefi
Gofal 2024/25 – wedi’i symud o fis Ionawr i fis Mawrth ·
Cael gwared ar Fferm
Peronne, Dinbych – wedi’i ychwanegu at fis Ionawr PENDERFYNWYD nodi rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd O dan ddarpariaethau Adran 100A
Deddf Llywodraeth Leol 1972, PENDERFYNWYD gwahardd y Cyhoedd
a’r Wasg o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol, gan y byddai’n debygol y
byddai gwybodaeth wedi'i heithrio fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4
Atodlen 12A y Ddeddf yn cael ei datgelu. Dogfennau ychwanegol: |
|
FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU 3 - PENODI CONTRACTWYR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi,
Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi ynghlwm) yn cyflwyno canlyniad y
broses gaffael ar gyfer Cam 3 o Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru a cheisio
cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer penodi’r contractwyr llwyddiannus. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo penodi’r contractwyr
llwyddiannus fel a nodir yn yr adroddiad, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad
cyfrinachol ar ganlyniad y broses gaffael ar gyfer Cam 3 Fframwaith Adeiladu
Gogledd Cymru a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer penodi’r contractwyr
llwyddiannus. Roedd y fframwaith yn gydweithrediad rhwng chwe
Awdurdod gogledd Cymru, a Sir Ddinbych oedd yr Awdurdod cynnal, a’r prif nod
oedd darparu gwerth am arian a buddion cymunedol ar draws y rhanbarth. Roedd yr adroddiad yn egluro’r broses gaffael
a’r strategaeth lotio ac roedd yn argymell penodi grŵp cymwys o
gontractwyr y gallai pob Awdurdod yng ngogledd Cymru neu unrhyw gorff arall yn
y sector cyhoeddus ei ddefnyddio, gan osgoi’r broses gaffael hirfaith ac arwain
at arbedion sylweddol o ran amser a chost.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo penodi’r contractwyr
llwyddiannus fel a nodir yn yr adroddiad, a (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm. |