Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Caniataodd yr Arweinydd ddatganiad gan y Cynghorydd
Peter Scott, Cadeirydd y Cyngor, ar ddyfarniad dros dro Cyllid Ffyniant Bro a
gyhoeddwyd yn ddiweddar. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Caniataodd
yr Arweinydd ddatganiad gan y Cynghorydd Peter Scott, Cadeirydd y Cyngor. Fel Cadeirydd y Cyngor Sir, bu i’r Cynghorydd Peter
Scott longyfarch yr Arweinydd, y Cyngor a James Davies, AS am sicrhau bron i
£20 miliwn dros dro ar gyfer gogledd y sir gan y Gronfa Ffyniant Bro. Roedd y Cynghorydd Scott yn sicr y byddai
preswylwyr Sir Ddinbych yn elwa yn y dyfodol. Bu i’r Arweinydd ddiolch i’r Cynghorydd Scott am ei
ddatganiad ac eglurodd bod y cyllid yn ymwneud â thaliad cyfalaf unwaith yn
unig ar gyfer prosiectau penodol yn unig na ellir ei ddefnyddio i fynd i’r
afael â’r bwlch cyllido anferth sy’n wynebu’r Cyngor. Fodd bynnag, cafodd y cyllid ei groesawu, a
byddai’r Cyngor yn gweithio’n galed i ddatblygu prosiectau yn unol â’r amodau
cysylltiedig ac yn darparu'r buddion mwyaf o’r cyllid hwnnw. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn amodol ar bwynt
cywirdeb, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023 a chadarnhau
eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
24 Hydref 2023. Cywirdeb – Aelodau yn Bresennol – Dywedodd y Cynghorydd Alan
James nad oedd ei bresenoldeb yn y cyfarfod diwethaf wedi’i gofnodi yng
nghofnodion y cyfarfod hwnnw. Materion yn Codi – Eitem 5 Datrysiad
Storio ar gyfer ein Casgliadau Archifau – Cadarnhaodd y Cynghorydd Emrys Wynne
bod y cais am gyllid ar gyfer y cyfleuster archifau ar y cyd newydd wedi’i
gyflwyno i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. PENDERFYNWYD, yn amodol ar y pwynt
cywirdeb uchod, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023 a
chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
DIWYGIO ASESIAD O ANGHENION LLETY SIPSIWN A THEITHWYR (2023) SIR DDINBYCH PDF 299 KB Ystyried
adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Win
Mullen-James, Aelod Arweiniol Tai a Datblygu Lleol (copi’n amgaeedig) sy’n
gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr
diwygiedig er mwyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cadarnhau ei gefnogaeth i’r dull o fynd
ati i gyflawni adolygiad o Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych fel
un cadarn ac un a oedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru; (b) cymeradwyo Asesiad diwygiedig o Lety
Sipsiwn a Theithwyr Sir Ddinbych i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru; (c) rhoi awdurdod wedi’i ddirprwyo i Aelod
Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio i gytuno ar fân newidiadau golygyddol
sydd angen eu gwneud i’r Asesiad drafft o Lety Sipsiwn a Theithwyr cyn ei
gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a (d) chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4
yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.
Cafodd hyn ei wneud cyn cyflwyno’r asesiad cyntaf yn 2021 ac roedd
wedi’i adolygu yn 2023. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Win Mullen-James yr
adroddiad gan ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddiwygiadau i’r Asesiad Llety
Sipsiwn a Theithwyr drafft i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys atodiad
cyfrinachol a oedd yn manylu gwybodaeth bersonol a gofynnwyd i’r Cabinet symud
i sesiwn breifat wrth drafod elfennau cyfrinachol yr adroddiad. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu’r gofynion deddfwriaethol yn ymwneud ag asesu anghenion
llety Sipsiwn a Theithwyr ac yn cadarnhau bod asesiad y Cyngor wedi’i gyflwyno
i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.
Ers hynny, mae teulu ag anghenion presennol a oedd wedi gwrthod cymryd
rhan yn flaenorol wedi gofyn a allant gael eu cynnwys a chytunwyd i adolygu’r
asesiad. Sefydlwyd Grŵp Tasg a
Gorffen i gefnogi gweithio ar yr asesiad newydd a chafodd eu hadroddiad ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Hydref 2023 a gymeradwyodd eu
casgliadau ac argymhellwyd i’r Cabinet y dylid cymeradwyo’r Asesiad Llety
Sipsiwn a Theithwyr drafft diwygiedig i’w ail-gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Eglurodd y
Cynghorydd Peter Scott, Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen, y cefndir o ran
sefydlu’r Grŵp gan fanylu ar y gwaith a wnaed a oedd yn dod i benllanw
mewn adroddiad terfynol a gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar
gasgliadau ac argymhellion y Grŵp.
Roedd y Pwyllgor Craffu wedi cymeradwyo casgliadau’r Grŵp Tasg a
Gorffen: bod methodoleg Llywodraeth Cymru wedi’i defnyddio’n briodol i
ddadansoddi’r angen a bod y dull a fabwysiadwyd ar gyfer darparu’r Asesiad
Llety Sipsiwn a Theithwyr yn gadarn ac yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru,
a’r argymhelliad y dylid cymeradwyo’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr
diwygiedig i’w ail-gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen o’r farn
bod y dull a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwaith hwn, gyda chynrychiolaeth aelodau o
bob Grŵp Ardal Aelodau, wedi gweithio’n dda ac roedd yr aelodaeth gyfredol
yn awyddus i barhau i gydweithio ar waith yn y dyfodol. Aeth y
Cynghorydd Win Mullen-James drwy’r adroddiad gyda’r Cabinet. Yn gryno – ·
y ddarpariaeth ychwanegol
amcangyfrifedig sydd ei hangen am 5 mlynedd gyntaf cyfnod yr astudiaeth
(2023/24 – 2028/29) yw 16 llain preswyl parhaol ·
yn seiliedig ar yr angen
erbyn 2033, bydd angen 2 llain preswyl parhaol arall ·
felly, roedd y cyfanswm ar
gyfer y cyfnod cyfan ar draws Sir Ddinbych yn 18 llain preswyl parhaol sy’n
gynnydd o 6 llain preswyl parhaol o gymharu â’r Asesiad Llety Sipsiwn a
Theithwyr blaenorol a gwblhawyd yn 2021 ·
nid oedd tystiolaeth o'r
angen am safle tramwy parhaol. Anogodd y
Cynghorydd Mullen-James y Cabinet i gymeradwyo argymhellion yr adroddiad i
sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei ddyletswyddau cyfreithiol. Yn dilyn ail-gyflwyno’r Asesiad Llety
Sipsiwn a Theithwyr diwygiedig, roedd y cam nesaf yn cynnwys nodi safleoedd i
fodloni’r anghenion hynny gyda chefnogaeth gan y Grŵp Tasg a Gorffen
presennol. Bu i’r Cynghorydd
Mullen-James ganmol y gwaith gwerthfawr a chydweithredol a wnaed gan y
Grŵp Tasg a Gorffen a’r swyddogion ar yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr
ac ategwyd hyn gan yr Arweinydd, y Cabinet ehangach a’r Prif Weithredwr. Bu i’r
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad ddiolch i’r
aelodau am eu cefnogaeth a’u her drwy gydol y broses gan ailadrodd pwysigrwydd
cael methodoleg a dull cadarn fel y dangoswyd yn y gwaith hwn. Bu i’r Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai
hefyd amlinellu diffiniad lleiniau preswyl a thramwy gyda phwyslais y gwaith
presennol ar yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr a nodi’r angen; roedd cam nesaf
y broses yn ymwneud â mynd i’r afael â’r angen hwnnw. Bu i’r Cabinet gydnabod yr adroddiad cynhwysfawr ac ymgysylltiad cadarnhaol ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL: GORFFENNAF – MEDI 2023 PDF 218 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ar berfformiad y Cyngor yn erbyn ei
Gynllun Corfforaethol ar ddiwedd mis Medi 2023 (chwarter 2). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd
chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2023) a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft
cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 30 Tachwedd 2023. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Cyngor yn erbyn ei
Gynllun Corfforaethol ar ddiwedd mis Medi 2023, gan gynnwys yr amcanion
Cydraddoldeb Strategol a’r saith maes llywodraethu allweddol. Cynghorwyd y Cabinet bod fformat yr adroddiad wedi
newid ychydig ers y chwarter diwethaf i adlewyrchu trafodaethau ar yr adroddiad
hwnnw ac yn ystod yr adolygiad cyfran.
Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Perfformiad,
Digidol ac Asedau bod yr adroddiad yn amlinellu perfformiad y Cyngor yn erbyn
pob un o’r naw thema ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a Medi 2023 ac
roedd yn rhoi tystiolaeth a oedd yn ffurfio rhan o’r Hunanasesiad fel bo’n
ofynnol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Defnyddiwyd y gwaith hwnnw i dynnu sylw at
lwyddiannau a meysydd o ddatblygiad ac mae hefyd yn dyfeisio ac yn gweithredu
ymyriadau i’w gwella, ac anogwyd yr aelodau i ddefnyddio’r ddogfen fel offer
mewn trafodaethau pellach wrth symud ymlaen. Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad
drosolwg cyffredinol o berfformiad a dywedodd bod statws yr holl fesurau ar
gyfer pob thema yn ‘oren – derbyniol’ a bod prosiectau ychydig yn well gyda
statws ‘melyn – yn profi rhwystrau’; roedd hyn ac eithrio’r thema ‘Sir Ddinbych
teg, diogel a mwy cyfartal’ gyda’r mesurau hynny yn dangos fel rhai ‘coch –
blaenoriaeth i’w gwella’, gan adlewyrchu rhai o’r materion tymor hirach o ran
bod heb waith ac amddifadedd materol.
Rhoddwyd crynodeb o’r mesurau a’r prosiectau o dan bob un o themâu’r
Cynllun Corfforaethol i’r Cabinet ynghyd â throsolwg o newyddion cyfrannol ac
eitemau pwyllgor. Bu i’r Arweinydd ddiolch i’r Aelod Arweiniol a’r
swyddogion am y trosolwg a’r negeseuon allweddol sy’n codi o’r ddogfen
gynhwysfawr. Nododd y Cabinet bod yr
adroddiad yn adlewyrchu’r sefyllfa ym mis Medi 2023 a bod rhai pethau wedi
symud ymlaen ers hynny. Codwyd y
materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd – ·
bod data Mynegai
Amddifadedd Lluosog Cymru yn cael ei gyhoeddi bob pedwar i bum mlynedd gyda’r
data mwyaf diweddar sydd ar gael yn dod o 2019, a bydd aelodau yn cael eu
cynghori o argaeledd y data Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru newydd cyn gynted
ag y mae’n dod yn hysbys. Roedd mesurau
eraill hefyd yn cael eu holrhain, yn enwedig mewn perthynas â’r thema Sir
Ddinbych teg, diogel a mwy cyfartal, fel aelwydydd mewn amddifadedd materol a
phlant sy’n byw mewn tlodi. ·
Soniodd y Cynghorydd Gill
German am y gwaith da yn ei maes portffolio a oedd newydd fethu’r dyddiad cau
ym mis Medi ar gyfer ei gynnwys yn yr adroddiad presennol. Cyfeiriwyd at y cyfleusterau gofal plant
ychwanegol yn Ysgol Penmorfa ym Mhrestatyn gyda gwaith tebyg yn cael ei wneud
yng Nghanolfan y Dderwen yn y Rhyl, a oedd yn brosiect gwych yn nhermau
moderneiddio addysg a darparu cyfleusterau mewn ardal o amddifadedd, a’r
Grŵp Chwarae Cyfrwng Cymraeg a oedd yn cefnogi’r gwaith yn Ysgol Dewi Sant
a darpariaeth y Gymraeg. Derbyniwyd
grant cyfalaf Llywodraeth Cymru i gefnogi gwaith ar ysgolion bro ac roedd
ymgysylltiad cadarnhaol wedi bod gydag ysgolion o ran hynny. Nodwyd bod Ysgol Uwchradd Prestatyn, fel yr
ysgol beilot ar gyfer y fenter, yn enghraifft o arfer da gyda manylion wedi’u
darparu ynghyd ag ysgolion eraill ar wefan Llywodraeth Cymru. · Cafwyd rhywfaint o ddadlau ynglŷn â phwysigrwydd y data yn yr adroddiad er mwyn monitro perfformiad a nodi arfer da a meysydd i’w gwella. Pwysleisiwyd mai nod y Cynllun Corfforaethol oedd darparu’r canlyniadau gorau posibl i breswylwyr a sicrhau gwelliannau ar draws pob thema wrth gydnabod bod hwn ar adeg o anawsterau ariannol difrifol a ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y
cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23) ·
rhagwelwyd y byddai
gorwariant o £3.316 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
amlygwyd y risgiau ar hyn o
bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ·
rhoddwyd manylion arbedion
ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn) ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr. Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr
Aelodau drwy’r adroddiad. Amlygwyd y
gostyngiad o ran y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau gwasanaeth a
chorfforaethol o £3.446 miliwn y mis diwethaf i £3.326 miliwn ynghyd â chrynodeb
o’r prif symudiadau. Roedd lleihad bychan
wedi bod yn y gorwariant a ragwelwyd ar gyfer Gwasanaethau Addysg a Phlant a
chynnydd yn y gorwariant a ragwelwyd ar gyfer Gofal Cymdeithasol i
Oedolion. Roedd y setliadau cyflog ar
gyfer 2023/24 wedi’u cytuno arnynt ac roedd gwaith wedi’i wneud i gadarnhau
costau ynni ac roedd yr arian hwnnw wedi’i ryddhau o gyllidebau corfforaethol
a’i drosglwyddo i wasanaethau. Byddai
ynni a thâl yn cael effaith gadarnhaol ar Gynllun Ariannol Tymor Canolig y
Cyngor gan edrych ymlaen tuag at gyllideb 2024/25. Nid oedd newidiadau i’r adroddiad mewn
perthynas ag Ysgolion ac roedd y Cyfrif Refeniw Tai a’r atodiadau arferol
wedi’u cynnwys ar y Cynllun Cyfalaf a’r diweddariad ar y Prif Brosiectau. Bu i’r Arweinydd ddiolch i’r swyddogion am y
Gweithdy ar Gyllideb y Cyngor a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol lle cafwyd
presenoldeb da ac adborth pwysig.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Gill German at y sefyllfa ariannol enbyd sy’n
wynebu cynghorau ar draws Cymru a Lloegr ac roedd yn gobeithio y byddai
gweithred bositif yn Natganiad yr Hydref i fynd i’r afael â’r pwysau digynsail
sy’n wynebu llywodraeth leol. Cyfeiriodd
yr Arweinydd at gyfarfod lefel uchel gydag Arweinwyr y Cyngor, Swyddogion A.151
a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn yr wythnos i ystyried y
farn ar unwaith yn dilyn canlyniad Datganiad yr Hydref a byddai’n adrodd yn ôl
wedi hynny. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y
cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 368 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet er mwyn i’r aelodau ei
hystyried. PENDERFYNWYD nodi rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.10 am. |