Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PROFEDIGAETH Fe gyfeiriodd yr Arweinydd at y newyddion trist fod
gwraig y Cynghorydd Peter Scott, Sue Scott, wedi marw a siaradodd ar ran pawb
wrth rannu eu meddyliau, gweddïau a chydymdeimlad. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Gill German – Cysylltiad Personol – Eitem 6
ar y Rhaglen Y Cynghorydd Pauline Edwards – Cysylltiad Personol –
Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Brian Jones – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Rhys Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Mark Young – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 6 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd German gysylltiad
personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, gan ei bod
yn Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. Datganodd y Cynghorydd Pauline Edwards gysylltiad
personol ag eitem 6 ar y rhaglen – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, gan ei bod
yn Llywodraethwr Ysgol Pendref. Datganodd y Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol ag
eitem 5 ar y rhaglen – ail bleidlais AGB y Rhyl, gan ei fod yn Gyfarwyddwr AGB
y Rhyl. Datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas gysylltiad personol ag
eitem 6 ar y rhaglen – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, gan ei fod yn byw yn
agos at safle Ffordd Ystrad ac yn Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag
eitem 6 ar y rhaglen – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, gan fod ganddo
gysylltiad personol agos gydag unigolion sy’n byw ger un o’r safleoedd. Datganodd y Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol ag
eitem 6 ar y rhaglen – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, gan ei fod yn Llywodraethwr
Ysgol Uwchradd Dinbych. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniataodd yr Arweinydd gwestiwn mewn perthynas â
fandaliaeth ar yr arwyddion ffordd 20mya a gyflwynwyd yn ddiweddar. Cofnodion: Caniataodd yr Arweinydd gwestiwn mewn perthynas â
fandaliaeth ar yr arwyddion ffordd terfyn cyflymder 20mya a gyflwynwyd yn
ddiweddar. Gofynnodd y Cynghorydd Karen Edwards pwy fyddai’n
gyfrifol am gostau parhaus a oedd yn ymwneud â’r cynllun 20mya, er enghraifft,
arwyddion wedi’u fandaleiddio, cywiro camgymeriadau, ac unrhyw amrywiadau yn y
dyfodol, ai’r Cyngor neu Lywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol? Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r
Economi mai eiddo’r Cyngor oedd yr arwyddion a’r rhagdybiaeth oedd mai’r Cyngor
fyddai’n gyfrifol am unrhyw gostau sy’n ymwneud â fandaliaeth neu ddifrod, yn
yr un modd ag unrhyw ased arall. Roedd y
mater a oedd yn ymwneud ag amrywiadau yn y dyfodol yn wahanol o bosibl a
deallwyd y byddai adolygiad cenedlaethol o’r cynllun a rhywfaint o ganllawiau
diwygiedig o ran eithriadau posibl yn y dyfodol. Pe bai unrhyw newidiadau i’r cynllun fel rhan
o’r canllawiau diwygiedig a’r adolygiad yn y dyfodol, gallai Llywodraeth Cymru
ariannu’r newidiadau hynny, ond byddai angen cadarnhau’r sefyllfa ar y
pryd. Ychwanegodd y Cynghorydd Barry
Mellor y byddai’r adolygiad yn debygol o gael ei gynnal ym mis Mawrth 2024 ac
roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai cyllid ar gael ar gyfer unrhyw
eithriadau eraill a gaiff eu cyflwyno. O
ran fandaleiddio’r arwyddion 20mya, byddai’r Cyngor yn trwsio’r difrod cyn
gynted ag sy’n bosibl, ac roedd yn fater i’r Heddlu. Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Edwards am ei
chwestiwn ac anogodd Aelodau i adrodd yn ôl am farn preswylwyr am y terfyn
cyflymder 20mya er mwyn llywio’r adolygiad yn y dyfodol, a byddai Grwpiau Ardal
yr Aelodau yn rhan o’r broses honno hefyd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
18 Gorffennaf 2023. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
AIL BLEIDLAIS ARDAL GWELLA BUSNES (AGB) Y RHYL PDF 303 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf
Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi yn amgaeedig) ar gynigion ar gyfer ail
dymor Ardal Gwella Busnes y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi cynnwys Cynllun Busnes yr AGB
(Atodiad 1 yr adroddiad) ac yn cefnogi’r argymhelliad nad oes unrhyw sail i roi
feto ar y cynigion o dan Ddeddfwriaeth AGB Cymru (2005) (gweler paragraffau 4.8
a 4.9 yr adroddiad); (b) awdurdodi swyddogion i gyflawni unrhyw
gytundebau cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer gweithredu Ardoll yr AGB,
trefniadau gwasanaeth a’r bleidlais ac unrhyw faterion angenrheidiol eraill ar
gyfer yr AGB arfaethedig; (c) cadarnhau y bydd CSDd yn defnyddio un o’i
bleidleisiau ym mhleidlais AGB o blaid yr AGB, a (d) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad II yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd yr adroddiad a oedd yn
egluro cefndir sefydlu AGB y Rhyl ym mis Tachwedd 2018 ynghyd â’r broses o
ddatblygu’r AGB a’r agweddau cyfreithiol yn hynny o beth. Roedd y tymor 5 mlynedd cyntaf yn dod i ben
ac roedd angen pleidlais newydd pe bai’r AGB am barhau. Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi
a’r Amgylchedd yn Gyfarwyddwr AGB y Rhyl gan gynrychioli’r Cyngor. Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried y canlynol – ·
a oedd yn cytuno ag
argymhelliad y swyddog, sef nad oedd sail i roi feto ar gynnig yr AGB. Gallai'r Cyngor roi feto ar gynnig yr AGB pe
bai’n gwrthdaro ag unrhyw bolisi corfforaethol CSDd neu yn gosod baich ariannol
sylweddol anghymesur ar unrhyw unigolyn neu ddosbarth o unigolion. Ar ôl adolygu’r Cynllun Busnes newydd
(ynghlwm i’r adroddiad), roedd swyddogion o’r farn nad oedd yr un o’r
darpariaethau’n berthnasol, a ·
sut ddylai’r Cyngor (CSDd)
ddefnyddio ei bleidleisiau yn y bleidlais.
Roedd y Cyngor yn berchen ar nifer o eiddo yn ardal AGB y Rhyl ac roedd
yn gymwys i ddefnyddio 20 o bleidleisiau.
Barn y Cyfarwyddwr Corfforaethol oedd y gallai AGB fod yn rym da a chadarnhaol
a byddai ail dymor o fudd i waith adfywio parhaus y dref. Roedd y Cynllun Busnes yn cefnogi thema Sir
Ddinbych Ffyniannus yn y Cynllun Corfforaethol ac roedd barn Llywodraeth Cymru
yn cefnogi’r AGB. Felly, roedd yn
gobeithio bod AGB y Rhyl yn parhau y tu hwnt i’r bleidlais am ail dymor ac y
byddai’r gymuned fusnes yn cefnogi parhad yr AGB. Diolchodd yr
Arweinydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am y gefnogaeth roedd wedi’i darparu
trwy gydol y broses. Diolchodd hefyd i
Nadeem Ahmed, Cadeirydd AGB y Rhyl ac Abigail Pilling, Rheolwr AGB y Rhyl, yr
oedd wedi cwrdd â nhw’n ddiweddar gyda’r Cynghorydd Barry Mellor, ac am eu
presenoldeb yn y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, ac roedd yn gwerthfawrogi
gwaith y Pwyllgor a’i Gadeirydd wrth graffu ar y cynigion. Dywedodd yr
Arweinydd fod AGB yn rhoi pŵer i fusnesau benderfynu ar welliannau yr
oeddent am eu gwneud mewn ardal ddaearyddol a chodi arian i’w darparu. Roedd yn ffurf leol iawn o ddemocratiaeth. Er bod CSDd yn fudd-ddeiliad allweddol yn AGB
y Rhyl, roedd yn annibynnol i’r Cyngor.
Fodd bynnag, roedd yr AGB wedi’i chael yn anodd cael eu hystyried yn
annibynnol o ystyried sylwadau mai dim ond oherwydd bod gan CSDd gyfran
anghyfiawn o’r pleidleisiau yr oedd wedi llwyddo. Roedd o’r farn fod gan yr AGB gefnogaeth
busnesau, ond roedd yn anodd dadlau yn erbyn y naratif negyddol oherwydd y
nifer isel a bleidleisiodd. Cafodd 99 o’r 463 o bleidleisiau cymwys eu bwrw;
enillodd y bleidlais gadarnhaol o 66 pleidlais, ond roedd 36 o’r pleidleisiau
hynny wedi’u bwrw gan CSDd. Gellid priodoli amryw resymau i’r nifer isel a
bleidleisiodd, ond disgwyliwyd nifer uwch mewn ail bleidlais, a byddai mwy o
fusnesau’n gefnogol o ystyried yr hyn a oedd wedi’i ddarparu dros y tymor 5
mlynedd. Cytunodd yr Arweinydd gyda swyddogion nad oedd sail i roi feto ar gynigion yr AGB a gofynnodd i’r Cabinet roi ystyriaeth ofalus i sut i ddefnyddio pleidleisiau CSDd mewn ail bleidlais. Cyfeiriodd at ymgynghoriadau gyda chraffu ac eraill, gan gynnwys argymhelliad Grŵp Ardal yr Aelodau y Rhyl, sef nad yw CSDd yn arfer ei hawl i bleidleisio yn rownd nesaf yr AGB. Barn yr Arweinydd oedd fod AGB y Rhyl yn chwarae rôl sylweddol yn adfywiad y dref, ar ôl darparu mentrau cadarnhaol yn y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
YSGOL PLAS BRONDYFFRYN – PROSIECT ARFAETHEDIG I ADEILADU YSGOL NEWYDD PDF 245 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a
Theuluoedd, (copi amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth Cabinet ar gyfer safle a
ffafrir i ddatblygu prosiect adeilad newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD, trwy
bleidlais fwyafrifol, bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo’r
safle a ffefrir ar gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn
ar safle Ffordd Ystrad, a ddangosir fel safle A ar y cynllun atodedig yn
Atodiad 2 yr adroddiad a chytuno i gefnogi symud ymlaen trwy gyflwyno cais
cynllunio; (b) cytuno
bod yn rhaid i’r cais cynllunio ddangos yn glir y bydd darpariaeth awyr agored
amgen o fudd cymunedol cyfwerth neu fwy yn cael ei hadeiladu yn lle’r gofod
hamdden a gollir drwy ddatblygu ar gae chwarae’r ysgol, a (d) chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les, yn Atodiad
3 yr adroddiad, fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Roedd y prosiect yn
rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Band B) a
gymeradwywyd ym mis Medi 2020. Roedd yr
ysgol yn cynnig darpariaeth arbenigol i ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed ag awtistiaeth
a’r cynnig oedd dod â 3 o’r 4 safle presennol at ei gilydd mewn adeilad
pwrpasol a chynyddu capasiti i fodloni galw. Darparwyd rhywfaint
o gefndir i’r prosiect gan gynnwys gwaith dichonoldeb ar y cynigion am adeilad
newydd ac ymgynghoriad â budd-ddeiliaid am safle Ffordd
Ystrad (Safle A). Roedd y prif broblemau
a godwyd o’r ymgynghoriad cynllunio anffurfiol yn ymwneud â dewis safle, colli
cyfleusterau chwaraeon a mynediad priffyrdd, a darparwyd ymatebion/camau
lliniaru ar gyfer y materion hynny. Wrth
gefnogi’r angen am gyfleusterau gwell, roedd gan Grŵp Ardal Aelodau
Dinbych bryderon dros Safle A a gofynnwyd i swyddogion adolygu’r pryderon hynny
ac asesu safleoedd a lleoliadau amgen.
Gwnaed gwaith dichonoldeb ar safle arall (Safle B) a darparwyd cyngor
cwnsler cyfreithiol am y risgiau i’r Cyngor o safbwynt polisi cynllunio. Ni allai’r Aelod Arweiniol na’r swyddogion
gefnogi symud ymlaen â Safle B oherwydd bod cyfyngiadau cynllunio sylweddol i’w
goresgyn y tu hwnt i’r rhai ar Safle A, ac o safbwynt addysgol, o ystyried yr
effaith ar gynlluniau datblygu yn y dyfodol ar gyfer Ysgol Uwchradd Dinbych.
Fodd bynnag, Safle B oedd y dewis a ffefrir gan Grŵp Ardal Aelodau
Dinbych. Amlygodd y Cynghorydd German fesurau lliniaru i
fynd i’r afael â phryderon dros Safle A. Tynnodd sylw at yr Asesiad o Effaith
ar Les a derbyniodd yr effaith negyddol gyffredinol ar gymunedau cydlynol a
phreswylwyr Dinbych a’r angen am fesurau lliniaru ychwanegol i fynd i’r afael
â’r holl faterion a godwyd. Roedd y
Cynghorydd Martyn Hogg wedi sôn am effaith gymunedol y tu allan i’r cyfarfod ac
roedd sicrwydd wedi’i ddarparu y byddai’n parhau fel mater byw. Byddai gwaith
yn cael ei wneud i nodi cyfleoedd a chynyddu manteision mannau agored eraill yn
y dref, yn ogystal â disodli’r cyfleusterau chwaraeon. Yn gyffredinol, roedd hwn yn ganlyniad
cadarnhaol net ar gyfer y cynnig gyda buddiolwyr ar draws Sir Ddinbych. Wrth gloi, cadarnhaodd y Cynghorydd German ei bod
wedi bod yn broses hir ac roedd hi wedi’i siomi nad oedd canlyniad wedi’i
sicrhau a oedd wrth fodd pawb ond diolchodd i bawb a fu’n rhan o’r broses am eu
gwaith caled a’u gwedduster. O
ganlyniad, argymhellodd ddatblygu â safle Ffordd Ystrad (Safle A) ar gyfer yr
adeilad newydd. Mynegodd y Cynghorydd Rhys Thomas bryderon nad oedd y broses ymgysylltu ac ymgynghori, fel a nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion, wedi’i dilyn yn briodol, a dangosodd hyn trwy dynnu sylw at ddogfennau gan fudd-ddeiliaid allweddol, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Dinbych a Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig, hysbysiad o fwriad y Cyngor i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar Safle A tua deuddeg mis o flaen llaw, argraff arlunydd o safle’r ysgol tua chwe mis cyn hynny, a’r ffaith nad oedd Grŵp Ardal Aelodau Dinbych wedi’i gynnwys mewn cyfarfod safle gyda datblygwyr. Ychwanegodd y Cynghorydd Emrys Wynne ei bod yn debyg bod cyfres o fethiannau wedi bod dros gyfnod hwy na deunaw mis a gofynnodd a oedd tystiolaeth fod Corff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Dinbych wedi mynegi barn. Gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis am ragor o eglurder hefyd am faterion a godwyd gan y Cynghorydd Martyn Hogg (yr oedd wedi’u hanfon dros ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan Gynghorwyr Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal
Cymdeithasol a Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi yn
amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Cyfalaf Strategol
10 Mlynedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a blaenoriaethau
cyfalaf Sir Ddinbych i wella iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a chytuno gyda blaenoriaethau cyfalaf
Sir Ddinbych ar gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol integredig i ddiwallu
anghenion y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad i
ofyn i’r Cabinet gymeradwyo Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a blaenoriaethau cyfalaf Sir Ddinbych ar
gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Darparwyd rhywfaint o gefndir i sefydlu’r Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol, â’r nod o hwyluso cydweithio er mwyn gwella iechyd a
gofal cymdeithasol ar draws y rhanbarth.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol ddatblygu a gweithredu cynlluniau cyfalaf strategol er
mwyn adlewyrchu’r olwg 10 mlynedd o anghenion buddsoddi cyfalaf yn y
rhanbarth. Roedd pob un o’r chwe
awdurdod lleol wedi cyflwyno eu blaenoriaethau cyfalaf o ran prosiectau iechyd
a gofal cymdeithasol integredig i greu un strategaeth ranbarthol. Roedd prosiectau Sir Ddinbych yn cynnwys
Ysbyty Brenhinol Alexandra, Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dinbych, a
Gerddi Glasfryn, Dinbych. Roedd y
Cynllun yn ddogfen fyw a fyddai’n cael ei hadolygu a’i diweddaru o leiaf bob
blwyddyn ac roedd yn caniatáu i brosiectau’r dyfodol gael eu hychwanegu at y
rhestr flaenoriaeth cyfalaf dros y 10 mlynedd nesaf. Cywirodd y Cynghorydd Heaton anghywirdeb a gafodd
ei adrodd yn y wasg o ran cyllid ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra a
drafodwyd yn y Pwyllgor Craffu Partneriaethau.
Nid oedd elfen bartneriaeth y cyllid, sef tua 20% o gyfanswm y cyllid
gofynnol, wedi’i sicrhau. Roedd y
ffurflenni angenrheidiol ar gyfer gwaith cwmpasu dechreuol a dichonoldeb y
prosiect wedi’u cymeradwyo’n ddiweddar, a rhannwyd y newyddion da gyda’r
Pwyllgor Craffu. Roedd y cam nesaf yn
cynnwys cymeradwyaeth leol i’r ffurflenni angenrheidiol, a phe bai’r Cabinet yn
cymeradwyo’r argymhellion, byddai’r blaenoriaethau hynny’n cael eu cyflwyno i’r
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i’w cymeradwyo a’u cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf
Rhanbarthol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru a chytuno gyda blaenoriaethau cyfalaf Sir Ddinbych ar
gyfer gwella iechyd a gofal cymdeithasol integredig i ddiwallu anghenion y
dyfodol. |
|
STRATEGAETH GAFFAEL SIR DDINBYCH PDF 215 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb
a Strategaeth Gorfforaethol (copi yn amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet o Strategaeth Gaffael Sir Ddinbych sydd wedi'i diweddaru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau, a (b) chymeradwyo’r Strategaeth Gaffael
ddiweddaraf (Atodiad 1 yr adroddiad) sy’n cefnogi blaenoriaethau a nodau lles
Sir Ddinbych, a’i rôl ym mharatoadau Sir Ddinbych ar gyfer y newidiadau i
reoliadau caffael cyhoeddus sydd ar y gweill. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad
i ofyn i’r Cabinet gymeradwyo Strategaeth Gaffael Sir Ddinbych wedi’i
diweddaru. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno Strategaeth Gaffael
newydd ac wedi’i diweddaru Sir Ddinbych a oedd ei hangen er mwyn adlewyrchu a
chefnogi’r blaenoriaethau corfforaethol a nodau lles presennol, ac alinio â Bil
Caffael Llywodraeth y DU a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus
(Cymru) a oedd ar y gweill. Roedd y
ddeddfwriaeth newydd yn ceisio sicrhau gwerth am arian a chaffael cymdeithasol
gyfrifol ac roedd cyfleoedd i gefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor
hefyd. Roedd y Strategaeth yn cynnwys tri chanlyniad
penodol i’r Cyngor, sef – ·
gwella’r cyfraniad yr oedd
ei weithgarwch caffael yn ei wneud i’r economi leol ·
gweithio mewn partneriaeth
â’i gadwyn gyflenwi i gyflawni lleihad o 35% o ran allyriadau carbon er mwyn
cyfrannu at y nod o gael sector cyhoeddus net sero erbyn 2030 ·
sicrhau gwerth am arian o’r
nwyddau a’r gwasanaethau yr oedd yn eu caffael Amlygodd Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd Dros Dro a’r Rheolwr Caffael Cydweithredol a Fframwaith feysydd allweddol y
Strategaeth. Roedd y Cabinet yn
croesawu’r Strategaeth a’r cyfleoedd cadarnhaol yr oedd yn eu cynnig, yn
enwedig o ran busnesau lleol a chynyddu gwariant lleol, ymgysylltu â
phartneriaethau cymdeithasol, lleihau allyriadau carbon, mynd i’r afael â’r
agenda lles a gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol. Gan ystyried cyfoeth y newidiadau, roedd yr
Arweinydd yn annog hyfforddiant ac ymgysylltu gan Aelodau. Cytunodd y swyddogion y gellid trefnu
Gweithdy i Aelodau, a fyddai’n arbennig o ddefnyddiol i’r Cabinet o ystyried eu
cyfrifoldebau dros ddyfarnu contractau, er mwyn deall y gofynion newydd yn
well. Trafododd y Cabinet
amryw agweddau’r Strategaeth gyda swyddogion, a soniodd fwy am fanteision
caffael lleol a mentrau fel digwyddiad “Cwrdd â’r Prynwr” er mwyn ymgysylltu â
busnesau lleol i adeiladu capasiti a hyder yn y farchnad leol a sicrhau eu bod
yn y sefyllfa orau i wneud cais am gontractau a’u hennill. Yn ogystal, roedd y ddeddfwriaeth newydd yn
darparu gweithdrefn hyblyg a fyddai’n galluogi’r Cyngor i gefnogi’r gadwyn
gyflenwi leol a sicrhau ei bod yn rhoi cyflenwyr lleol yn y sefyllfa orau
bosibl i wneud cais. Roedd y Cabinet yn
falch o nodi y byddai’r Strategaeth yn cefnogi nifer o themâu yn y Cynllun
Corfforaethol hefyd, gan gynnwys Sir Ddinbych ffyniannus, Sir Ddinbych mwy
gwyrdd, a Chyngor sy'n cael ei gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei
berfformiad. Roedd y Cynghorydd Gill
German yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi arwain ar y broses hon gyda Deddf
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Lleol (Cymru). PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau, a (b) chymeradwyo’r Strategaeth Gaffael
ddiweddaraf (Atodiad 1 yr adroddiad) sy’n cefnogi blaenoriaethau a nodau lles
Sir Ddinbych, a’i rôl ym mharatoadau Sir Ddinbych ar gyfer y newidiadau i
reoliadau caffael cyhoeddus sydd ar y gweill. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 2022/23 PDF 209 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet
ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli’r trysorlys ac i ddangos
cydymffurfiaeth â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod
2022/23. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi perfformiad swyddogaeth
Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2022/23 a’i chydymffurfiaeth â’r
Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys
Blynyddol 2022/23 (Atodiad 1 yr adroddiad), a (b) chadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad)
fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid
ac Archwilio yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am
berfformiad dull rheoli’r trysorlys ac i ddangos cydymffurfiaeth â therfynau’r
trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn 2022/23. Amlygodd y Pennaeth Cyllid ac
Archwilio’r prif bwyntiau o ran benthyca
a gweithgarwch buddsoddi. Bu nifer o
fenthyciadau’n aeddfedu a £30 miliwn o fenthyca newydd. Byddai’r swm hwnnw’n
cynyddu’n sylweddol yn y flwyddyn ddilynol wrth fenthyca ar ran Llywodraeth
Cymru a fyddai’n ariannu’r ad-daliadau ar gyfer y cynlluniau amddiffyn yr
arfordir. Roedd gweithgarwch buddsoddi i
gyd yn weithgarwch tymor byr ac roedd yn ymwneud ag arian parod yn aros i gael
ei wario, a oedd yn cael ei fenthyca yn syth cyn yr oedd ei angen. Eglurwyd dangosyddion darbodus a nodwyd yn
Atodiad B wrth Aelodau, gan gadarnhau cymarebau priodol o ran costau ariannu a
lefelau benthyca o fewn terfynau. Roedd
cymhareb costau ariannu i ffrwd refeniw net ychydig yn is na 7% a fyddai’n
debygol o newid yn y dyfodol o ystyried ymrwymiadau benthyca’r Cyngor yn y
dyfodol, a’r lefel isel ddisgwyliedig o ran setliadau wrth symud ymlaen. Nododd y Cabinet fod y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn monitro’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys
a’u bod wedi craffu ar yr adroddiad.
Rhoddodd y Pennaeth Cyllid grynodeb o’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth
honno. Soniodd hefyd am sesiwn
hyfforddiant yn yr hydref a oedd wedi’i hanelu’n benodol at y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar reoli’r trysorlys, ond anogwyd pob Aelod i
fynychu. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi perfformiad swyddogaeth
Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2022/23 a’i chydymffurfiaeth â’r
Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys
Blynyddol 2022/23 (Atodiad 1 yr adroddiad), a (b) chadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad)
fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd
yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio’r
adroddiad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a
wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23) ·
rhagwelwyd y byddai gorwariant
o £3.119 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
amlygwyd y risgiau ar hyn o
bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ·
rhoddwyd manylion arbedion ac
arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn) ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr. Amlygwyd y cynnydd o ran y gorwariant a ragwelwyd
ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £2.395 miliwn y mis diwethaf i
£3.119 miliwn. Roedd yr adroddiad yn
cynnwys incwm a ragdybir o £700,000 o ran ariannu gwastraff a fyddai angen ei
ddileu, oherwydd bod cadarnhad wedi dod ers hynny na fyddai’r cyllid yn dod i
law yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.
Byddai gwariant ar eitemau eraill, fel cludiant ysgol, yn hysbys y mis
nesaf, a fyddai’n darparu darlun cliriach yn gyffredinol. Roedd gwasanaethau yn adolygu eu gwariant a’u
hincwm i liniaru effaith gwariant cyffredinol y gyllideb ac roedd camau
gweithredu eraill yn cael eu cymryd yn ystod y flwyddyn gan gynnwys arfer mwy o
reolaethau dros recriwtio, ac roedd manylion am hyn wedi’u rhannu gyda’r
Aelodau i gyd. Er bod modd defnyddio’r
gronfa wrth gefn ar gyfer lliniaru ar y gyllideb i dalu am y gorwariant eleni,
byddai hynny ar draul yr adnoddau a fydd ar gael wrth ymateb i wasgfeydd
annisgwyl mewn blynyddoedd i ddod. Roedd yr Arweinydd yn ddiolchgar i’r Pennaeth
Cyllid ac Archwilio am yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r sefyllfa anodd iawn
sy’n wynebu’r Cyngor a’r penderfyniadau anodd a oedd i ddod. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd
yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 361 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet, a nododd Aelodau eitem
ychwanegol ar gyfer mis Tachwedd, a oedd yn ymwneud ag Ail-dendro Contractau
Byw â Chymorth. PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 1.15pm. |