Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2021 (copi wedi’i amgáu). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2021 . Materion yn Codi – Tudalen 9, Eitem 6 Canolfan Asesu Breswyl Is
Ranbarthol ar gyfer Plant – Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Meirick Davies, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Cymunedau fod diweddariad wedi ei ddarparu ynglŷn â’r
drwydded moch daear, y cytunodd ei gylchredeg eto. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
ADEILADAU'R FRENHINES Y RHYL - CAFFAEL CAM 1 PDF 46 KB I ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr
Economi a Llywodraethu Corfforaethol a Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi wedi'i amgáu)
yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r strategaeth gaffael i benodi prif
gontractwr ar gyfer Cam 1 Datblygiad Adeiladau’r Frenhines y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r strategaeth gaffael i benodi prif gontractwr ar gyfer Cam 1
datblygiad Adeiladau’r Frenhines y Rhyl. Cofnodion: Cyflwynodd
Hugh Evans a Julian Thompson-Hill yr adroddiad ar y cyd yn ceisio cymeradwyaeth
y Cabinet ar gyfer y strategaeth gaffael i benodi prif gontractwr ar gyfer Cam
1 datblygiad Adeiladau'r Frenhines, Y Rhyl. Darparwyd
peth gwybodaeth gefndir mewn perthynas â chaffael y safle a chynlluniau ar
gyfer ei ailddatblygu (dros nifer o gamau/cyfnodau) a ystyriwyd yn hollbwysig i
adfywiad a llwyddiant economaidd yr ardal yn y dyfodol. Roedd y gwaith o ddymchwel y
safle yn mynd rhagddo’n dda ac roedd angen proses gaffael ar gyfer y cam nesaf
er mwyn penodi prif gontractwr ar gyfer cam 1 y datblygiad. Ychydig o dan £11 miliwn oedd
yr amcangyfrif o gost cyffredinol cyflenwi cam 1, a dim ond o safbwynt caffael
ar gyfer y cam adeiladu oedd yr adroddiad yn berthnasol, gydag amcangyfrif o £4
miliwn ar gyfer gwerth y contract. Roedd manylion yr
amcangyfrifon o gost wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, yn ogystal ag amserlenni
cyflawni er mwyn cyrraedd terfynau amser cyllid grant. Cynigiwyd defnyddio Lot 3
Partneriaeth Adeiladu Goledd Cymru a cheisiwyd awdurdodiad i gychwyn caffael
gan ddefnyddio’r fethodoleg honno gan ddod ag adroddiad yn ôl i'r Cabinet ar y
penderfyniad terfynol ar gontractwr a gymeradwywyd. Ailadroddodd
y Cynghorydd Meirick Davies bwysigrwydd cadw cymaint o’r elfennau pensaernïol /
hanesyddol o’r adeiladau â phosib a rhoddodd yr Arweinydd sicrwydd o ran hynny,
gan nodi fod swyddogion yn cadw briff gwylio. PENDERFYNWYD fod y Cabinet yn
cymeradwyo'r strategaeth gaffael i benodi prif gontractwr ar gyfer Cam 1
datblygiad Adeiladau'r Frenhines, Y Rhyl. |
|
Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac
Asedau Strategol (copi wedi’i amgáu) yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) nodi’r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth
gyllidebol y cytunwyd arni; (b) cymeradwyo
sefydlu cronfa wrth gefn benodol a throsglwyddo £200,000 i helpu i ariannu'r
gwaith dros yr haf fel rhan o Gynllun Rheoli Cyrchfan (nodir yn adran 6.3 yr
adroddiad), a (c) cymeradwyo sefydlu cronfa wrth gefn benodol a
throsglwyddo £59,000 i helpu i ariannu costau prosiect yn ymwneud â’r prosiect
Ffyrdd Newydd o Weithio (nodir yn adran 6.4 yr adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad
oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn
2019/20). ·
rhagwelwyd
tanwariant o £2.318miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau
corfforaethol ·
amlygwyd
y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol. ·
amlinellwyd
effaith ariannol y coronafeirws a'r sefyllfa o ran ceisiadau i Lywodraeth Cymru
hyd yma, yn ogystal â chyllid grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru sy’n
gysylltiedig â Covid. ·
manylion
o arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y cytunwyd
arno, gan gynnwys cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad
actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion
ysgolion (£0 .692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn). ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai. Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo sefydlu dwy
gronfa benodol i helpu i ariannu (1) gwaith fel rhan o’r Cynllun Rheoli
Cyrchfan, a (2) chostau cychwynnol prosiect sy’n ymwneud â’r Prosiect Ffyrdd
Newydd o Weithio. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at gau
cyfrifon 2020/21 a allai olygu newidiadau i’r ffigyrau cyn yr adroddiad ar y
sefyllfa derfynol ym mis Mehefin. Arweiniodd y Cabinet drwy elfennau amrywiol yr adroddiad gan gynnwys
ffynonellau cyllido Llywodraeth Cymru gydag oddeutu £7.4 wedi ei dderbyn hyd
yma yn erbyn hawliadau gwariant a derbyn hawliad colli incwm Chwarter 4 oedd yn
gyfanswm o oddeutu £11.2 miliwn am y flwyddyn ynghyd â'r effaith ar y
tanwariant a ragwelwyd o'r mis diwethaf. Amlygwyd symudiadau gwasanaeth hefyd
gyda’r symudiadau mwyaf yn ymwneud â'r Gwasanaeth Priffyrdd, Cyfleusterau ac
Amgylcheddol, a Chyllid ac Eiddo. Amlygodd y Pennaeth Cyllid hefyd y lefel uwch o ansicrwydd yn ystod y
cyfnod hwn yn y flwyddyn ariannol gyda'r amrywiol ffrydiau cyllid yr oedd angen
cyfrif amdanynt yn briodol, a allai newid y sefyllfa ariannol rhwng rŵan
a’r sefyllfa ariannol derfynol. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd - ·
cyfeiriwyd
at drafodaethau blaenorol o safbwynt y rhesymau y tu nol i'r rhai elfennau o'r
hawliadau na chafwyd eu caniatáu ac
roedd proses lle gellid trafod yr hawliadau hynny gydag adrannau Llywodraeth
Cymru; roedd rhai o'r elfennau hynny na chaniatawyd yn wreiddiol bellach wedi
eu caniatáu mewn hawliadau mwy diweddar gan fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud
gwaith pellach i elfennau unigol ac / neu roedd cyllid pellach wedi dod ar
gael. ·
doedd
dim posibilrwydd o gymryd unrhyw arian grant yn ôl o wariant penodol na cholled
incwm oedd wedi ei asesu wrth i'r hawliadau hynny gael eu prosesu; fodd bynnag
fel gyda phob grant byddai proses archwilio a gallai elfennau gael eu nodi fel
rhan o’r broses honno ·
tra
rhagwelwyd gorwariant o ychydig dros £2.3 miliwn ar hyn o bryd, roedd hynny yn
bennaf oherwydd gwariant nad oedd wedi ei wario o fewn blwyddyn ariannol
2020/21 o ganlyniad i Covid-19. Galwyd am egluro’n well y rhesymu y tu nol i’r
gorwariant a ragwelwyd, a tra derbyniwyd mai ‘tanwariant’ oedd y term technegol
cywir am gyllid nad oedd wedi ei wario yn ystod y flwyddyn ariannol a
glustnodwyd, cytunwyd fod angen darparu mwy o eglurder mewn adroddiadau yn y
dyfodol. Byddai’r adroddiad sefyllfa derfynol olaf yn
cynnwys mwy o fanylion a chynigion fod gwasanaethau yn cael caniatâd i gario eu
tanwariant ymlaen at bwrpasau penodol. Roedd yn broses agored a thryloyw i'r Cabinet
ystyried a ddylent gymeradwyo gallu cario tanwariant gwasanaethau ymlaen i’r
flwyddyn ariannol nesaf ai peidio. · Roedd yr Arweinydd yn gefnogol o sefydlu cronfa er mwyn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 78 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd blaenraglen waith y Cabinet i’w
hystyried, a noddodd aelodau eitem ychwanegol ar gyfer Mai sef ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet i dendro’r Fframwaith Cynnal a Chadw Ymatebol ar gyfer
Eiddo Ysgolion ac Eiddo nad ydynt yn Ysgolion. PENDERFYNWYD nodi
Blaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel
y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAM 1 GWAITH GALLUOGI - ESTYNIAD YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY GAN GYNNWYS GORSAF TROSGLWYDDO GWASTRAFF CSDd - DYFARNU CONTRACT Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a'r Amgylchedd (copi wedi’i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet
ar gyfer dyfarnu’r contract ar gyfer darparu Cam 1 yr estyniad i Ystâd
Ddiwydiannol Colomendy. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) cymeradwyo
dyfarnu Contract ar gyfer Cam 1 Gwaith Galluogi – Estyniad Ystâd Ddiwydiannol
Colomendy gan gynnwys Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff CSDd i’r contractwr a enwyd
fel yr argymhellwyd o fewn yr adroddiad ac yn unol â’r Adroddiad Argymhellion
Dyfarnu Contract (Atodiad 1 i’r adroddiad), a (b) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones yr adroddiad
cyfrinachol oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i
gyflawni Cam 1 yr estyniad i Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, gan gynnwys Gorsaf
Trosglwyddo Gwastraff (GTG) Cyngor Sir Ddinbych. Roedd manylion y prosesau a gyflawnwyd yn ystod yr
ymarfer caffael yn cael eu manylu yn yr adroddiad gan gynnwys pris a graddfa
ansawdd ac amcangyfrif o werth yn arwain at ddewis y contractwr a ffefrir. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y dull gweithredu
ar y cyd a’r buddion a fyddai hynny yn ei gynnig o safbwynt credu gwaith yn yr
ardal ac o safbwynt darparu cyfleusterau o ansawdd uchel i’r cyngor. Talodd deyrnged hefyd i’r Rheolwr Prosiect
a’i dîm am y gwaith a wnaed. Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a’r Aelod Arweiniol
dros Gyllid i fwy o fanylder ynglŷn
â'r gost a'r buddion i'r cyngor, a’r broses o adfer costau gan y
consortiwm a’r bwriad y byddai’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff yn cynnwys
technolegau ecogyfeillgar er mwyn lleihau ei ôl troed carbon. Croesawodd y Cabinet y cydweithio rhwng y sector
cyhoeddus a’r sector preifat a’r buddion y byddai hynny’n ei gyflwyno i’r
ardal. Ar ôl ystyried manylion yr adroddiad, roedd y Cabinet yn fodlon gyda
chanlyniad y broses gaffael a’r argymhellion. Diolchodd yr Arweinydd hefyd i'r swyddogion am eu
gwaith caled. PENDERFYNWYD y byddai’r
Cabinet yn – (a) cymeradwyo
dyfarnu’r Contract ar gyfer Gwaith Galluogi Cam 1 – Estyniad Ystâd Ddiwydiannol
Colomendy gan gynnwys Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Cyngor Sir Ddinbych i’r
Contractwr a enwir yn yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ac yn unol â’r
Adroddiad Argymell Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr adroddiad), a (b) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 i’r
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cyn cau’r cyfarfod, ac ar gais yr Arweinydd
rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau drosolwg o’r sefyllfa gyfredol o
safbwynt Covid-19. Yn gyffredinol roedd y darlun ar draws Cymru yn gwella, heb
unrhyw frigiad mawr o achosion. Dim ond
pump achos positif a gofnodwyd yn Sir Ddinbych dros y pum niwrnod diwethaf gyda
cyfartaledd treigl saith diwrnod o 5.2 achos fesul 100,000 o boblogaeth, o’i
gymharu â chyfartaledd cyffredinol Cymru o 12.2 fesul 100,000 o
boblogaeth. Roedd trafodaethau ar lefel
cenedlaethol yn mynd rhagddynt ynglŷn â thrydydd ton, er nad oedd disgwyl
i hynny olygu y byddai’r un nifer o bobl angen gofal ysbyty brys nac o bosib yn
marw o ganlyniad i Covid-19, oherwydd y rhaglen frechu. Daeth y cyfarfod i ben am 11.10am. |