Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO/PWYNTIAU I’W NODI (i)
Croesawodd yr Arweinydd aelod o’r Pwyllgor
Safonau, Julia Hughes i’r cyfarfod fel arsylwr.
Yn ogystal, llongyfarchodd y
Cadeirydd y Cynghorydd Alan Hughes (Corwen) ar ei etholiad a chroesawodd ef i’r
Cyngor (ii)
I nodi Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod dywedodd
yr Arweinydd y byddai munud o dawelwch am 12 hanner dydd i gofio a myfyrio am
effeithiau'r pandemig (iii)
Ar wahoddiad y Cadeirydd tynnodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd sylw at y canllawiau a ddarperir i
aelodau etholedig o ran sut i ymddwyn yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a’u
cyfrifoldebau yn hynny o beth i sicrhau bod y Cyngor yn parhau’n amhleidiol. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd
Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Gwyneth Kensler – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y rhaglen Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag
eitem 5 – Polisi Gwirfoddoli oherwydd bod ei wraig yn wirfoddolwr mewn ysgol
gynradd. Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol
ag eitem 8 – Adroddiad Cyllid, am ei bod wedi gwneud cais am grant busnes bach
ar ran Theatr Twm o’r Nant. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16
Chwefror 2021. Materion yn Codi – Tudalen
11, Eitem 6, Adolygiad o’r Polisi enwi a rhifo strydoedd – dywedodd y
Cynghorydd Meirick Davies ei fod wedi tynnu sylw at y ffaith fod dwy linell
gyntaf paragraff 6.1 union yr un fath a chytunodd y swyddog y byddai’n eu
cywiro. Gofynnodd yr Arweinydd bod
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd yn edrych ar y pwynt a
godwyd ac ymateb yn uniongyrchol ar ôl y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol Gwasanaethau
Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol, (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo’r Polisi Gwirfoddoli newydd, y prosesau diwygiedig a’r dogfennau
cysylltiedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cefnogi’r polisi, y prosesau a’r dogfennau cysylltiedig newydd ar gyfer
rheoli gweithgareddau gwirfoddoli yn y Cyngor, fel y manylir arnynt yn yr
adroddiad; (b) cymeradwyo’r diwygiad arfaethedig i’r Polisi Amser i Ffwrdd o’r Gwaith ar
gyfer gweithwyr sy'n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol (Atodiad
7 i’r adroddiad), ac yn (c) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Richard Mainon adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’n ffurfiol
y Polisi Gwirfoddoli, prosesau diweddaredig a’r ddogfennaeth gysylltiedig ar
gyfer rheoli gweithgaredd gwirfoddoli o fewn y Cyngor. Dywedwyd
wrth y Cabinet bod y ddogfennaeth yn cynnwys ymagwedd newydd tuag at hyrwyddo
cyfleodd gwirfoddoli o fewn y cyngor a chanllawiau clir ar sut i reoli,
recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr ynghyd â sicrhau eglurder o ran sefyllfa
rheolwyr a gweithwyr sy'n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli. Mae’r polisi newydd yn darparu
ymdriniaeth gyson ar draws y cyngor ar yr un pryd â chefnogi amrywiol anghenion
gwahanol feysydd gwasanaeth, gan gynnig ‘siop un stop’ ar-lein ar gyfer yr holl
gyfleoedd gwirfoddoli yn seiliedig ar system fewnol. Cyfeiriwyd at yr
ymgynghoriadau a gynhaliwyd, yn cynnwys gydag undebau llafur, ac er nad yn
gworaeth, siaradodd y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Iechyd a Diogelwch a
Pherthnasoedd Gweithwyr yn ffafriol am y polisi gan ei argymell ar gyfer
cymeradwyaeth. Cymeradwyodd
y Cynghorydd Mainon y gyfres o ddogfennau a diolchodd i’r swyddogion am eu
gwaith caled. Croesawodd
y Cabinet y dogfennau polisi newydd sy'n rhoi cyfarwyddyd arfer gorau clir a
chyson ar gyfer gweithgareddau gwirfoddoli gan dalu teyrnged hefyd i'r
cyfraniad gwerthfawr y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud ac a amlygwyd yn glir yn
ystod y pandemig. Cyfeiriodd
yr Arweinydd at hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr fel elfen bwysig o
sicrhau bod pobl yn deall y broses ac y gallant ddod yn wirfoddolwyr mewn
ffordd syml. Nodwyd
fod rhai gwasanaethau megis y Gwasanaethau Cefn Gwlad a’r Gwasanaethau Cymorth
Cymunedol yn dibynnu’n drwm ar wirfoddolwyr ac fel Aelodau Arweiniol y meysydd
gwasanaeth hyn canmolodd y Cynghorwyr Tony Thomas a Bobby Feeley’r cyfraniadau
gwerthfawr hyn. Er
eu bod yn croesawu’r polisi roeddent yn gobeithio na fyddai’r gwaith gweinyddol
ychwanegol sydd wedi dod yn sgil gwneud y broses recriwtio’n fwy ffurfiol yn
arwain at golli gwirfoddolwyr. Croesawodd
y Cynghorydd Mark Young y polisi hefyd ac roedd yn awyddus iddo fod mor
gynhwysol â phosibl; holodd ynghylch y symudiad tuag at gyfleoedd ar-lein,
ad-dalu treuliau a chefnogaeth ar gyfer rheolwyr. Ymatebodd
y Cynghorydd Richard Mainon a’r swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn – ·
byddai cyfleoedd gwirfoddoli’n
cael eu hysbysebu ar-lein a byddai staff rheng-flaen yn gallu edrych am y
cyfleoedd hynny ar ran pobl eraill a gallai Cynghorwyr Tref a Chymuned hefyd
helpu i godi ymwybyddiaeth. Gallai
gwaith mewn cymunedau hefyd amlygu llwybrau posibl i helpu pobl i gael at
gyfleoedd gwirfoddoli. ·
cafwyd sicrwydd y byddai dull
amgen o dalu ar gael i ad-dalu treuliau gwirfoddolwyr nad oes ganddynt gyfrif
banc. ·
cytunwyd y byddai angen
capasiti rheoli i gefnogi gwirfoddolwyr ac roedd llawer wedi'i ddysgu
ynglŷn â hyn yn ystod y pandemig o ran trefnu staff a gwirfoddolwyr i
gefnogi cymunedau a gwasanaethau. Mae
pwysigrwydd sicrhau digon o gapasiti rheoli i gefnogi gwirfoddolwyr yn iawn
wedi’i amlygu fel rhywbeth y mae’n rhaid ei ystyried mewn mwy o fanylder er
mwyn sicrhau y caiff y sylw priodol. ·
mae bwriad i’r dogfennau
polisi fod yn hyblyg fel bod modd gwneud unrhyw ychwanegiadau a rhannu arfer da
os daw unrhyw ddysgu neu ddiweddariadau polisi i’r amlwg yn ddiweddarach. ·
cymerwyd ymagwedd bwyllog a
phwrpasol wrth ddatblygu’r polisi o safbwynt biwrocratiaeth gyda gwahanol
lefelau o wiriadau’n angenrheidiol yn ddibynnol ar y risg, yn cynnwys diogelu,
sy'n gysylltiedig â gwahanol swyddi gwirfoddoli. Mae risg yn bodoli hefyd os na
chaiff y prosesau priodol eu sefydlu. Fodd bynnag cydnabuwyd
pryderon yr aelodau ynghylch colled gwirfoddolwyr posibl o ganlyniad i
ffurfioli’r broses a chytunwyd y dylid monitro ymgysylltiad â’r broses yn
ofalus er mwyn sicrhau nad yw’n rhwystr rhag recriwtio. Atebodd yr Arweinydd a’r swyddogion gwestiynau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CANOLFAN ASESU GOFAL PRESWYL PLANT IS-RANBARTHOL – DIWEDDARIAD AR Y PROSIECT PDF 219 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg,
Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio
derbyn cymeradwyaeth y Cabinet i lofnodi Gweithred Ariannol y Bartneriaeth er
mwyn dyfarnu'r contract i godi Uned Asesu Gofal Preswyl Plant. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo llofnodi Gweithred Ariannol y Bartneriaeth er mwyn gallu
dyfarnu’r contract i godi Canolfan Asesu Gofal Preswyl Plant, ac yn (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith
ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac
Ymgysylltiad Cyhoeddus yr adroddiad gan ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i roi
sêl bendith i Weithred Ariannol y Bartneriaeth er mwyn caniatáu’r contract ar
gyfer adeiladu’r Uned Breswyl Asesu Plant (CRAU). Datblygwyd
y CRAU mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) a Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd yn cael ei leoli yn ardal CBSC gyda
Chonwy fel y Partner Arweiniol. Bydd
y prosiect yn darparu 3 adeilad arbennig i’r pwrpas yn cynnwys uned asesu a
llety preswyl ar gyfer hyd at 6 o blant a phobl ifanc am uchafswm o 12 wythnos. Bydd y ganolfan yn cael ei
noddi’n llwyr gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru ar gost o
£2,687,529 gyda grant y Gronfa Gofal
Integredig ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/21 a 2021/22. Mae
manylion y tendr wedi’u darparu a bydd y contract yn cael ei ddyfarnu yn amodol
ar gymeradwyaeth y Weithred Ariannol gan CBSC a CSDd Rhagwelwyd y byddai’r gwaith
adeiladu’n dechrau yn y gwanwyn 2021 ac wedi’i gwblhau erbyn gwanwyn 2022. Adroddodd
Pennaeth Dros dro’r Gwasanaethau Plant ar ddatblygiad gofalus y model yn
seiliedig ar arfer da i ddiwallu anghenion plant agored i niwed; byddai hefyd yn diwallu
blaenoriaethau’r cyngor a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cadw plant yn lleol
sydd wedi’i brofi i wella deilliannau ac yn yr hirdymor leihau costau. Byddai’r ganolfan yn galluogi
adsefydlu plant yn gynt drwy weithio’n uniongyrchol gyda’r plant a’u
teuluoedd, darparu seibiant a hefyd bod
â fformiwleiddiad seicolegol. Mae’r
tîm eisoes wedi’i sefydlu gan wneud gwahaniaeth a dargyfeirio plant i ffwrdd o ofal hirdymor. Cafwyd cefnogaeth ardderchog
gan yr holl asiantaethau partner a hefyd gan aelodau sy’n rhan o’r bwrdd
prosiect a fydd yn parhau i roi cyfeiriad a throsolwg. Mae angen trafodaeth ar wahân
am y costau parhaus a’r cyd-gyfrifoldeb dros y ganolfan wrth symud ymlaen ond
mae'r bartneriaeth a’r ymrwymiad yn wirioneddol gryf. Croesawodd
y Cabinet yr adroddiad cadarnhaol a’r gwaith caled sydd wedi’i wneud i sicrhau
bod y prosiect yn dwyn ffrwyth er budd plant agored i niwed lleol a'u
teuluoedd. Codwyd
y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth ddilynol - ·
Dywedodd y Cynghorydd Julian
Hughes eto bod yr adroddiad yn cyfeirio at y cam adeiladu sydd wedi’i ariannu’n
llawn ond dywedodd y bydd pwysau ariannol i’w wynebu yn y dyfodol o ran yr
elfen refeniw angenrheidiol i ddarparu'r cyfleuster fel yr amlygir yn yr
adroddiad. Fodd
bynnag yn y tymor canolig byddai’n fenter ‘gwario i gynilo’ a fyddai’n helpu i
leihau’r gorwariant yn y gwasanaeth wrth symud ymlaen ac roedd yn llwyr
gefnogol o’r prosiect. Ychwanegodd bod y Grŵp
Buddsoddi Strategol wedi adolygu’r elfen gyfalaf a’i hargymell i’r Cabinet. ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Brian Jones at y risg
a ddynodwyd yna adran 10.4 o’r adroddiad gan ddweud y gallai caffael trwydded
moch daear gan Gyfoeth Naturiol Cymru gymryd peth amser ac y dylid cadw hyn dan
adolygiad agos. Awgrymodd
y Cynghorydd Meirick Davies y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru am estyniad amser
os oes angen i ddiogelu yn erbyn unrhyw oedi a allai ddigwydd oherwydd hyn. Roedd gan y Cynghorydd
Hilditch-Roberts hyder yn y prosesau a ddilynwyd gan y cyngor cysylltiedig â’r
prosiectau adeiladu gyda phawb yn
gweithio gyda’i gilydd i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar y safle. Y bwriad yw adeiladu’r
ganolfan a’i rhoi ar waith cyn gynted â phosib wrth ddilyn y prosesau
angenrheidiol a gweithredu o fewn y gyfraith. · Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros dro i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Bobby Feeley gan gadarnhau er byddai peth hyblygrwydd o ran y cyfyngiad amser o 12 wythnos ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN CORFFORAETHOL, CHWARTER 3, 2020-2021 PDF 208 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol, (copi’n amgaeedig) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun
Corfforaethol 2020-2021 ar ddiwedd chwarter 3 (Hydref-Rhagfyr 2020). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd
chwarter 3 2020/21 ac yn cadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r
Cabinet ar berfformiad Cynllun Corfforaethol 2020 - 2021 hyd ddiwedd chwarter 3
(Hydref - Rhagfyr 2020). Mae’r
Cynllun Corfforaethol yn gosod cyfeiriad strategol y Cyngor a'i flaenoriaethau
dros y cyfnod o bum mlynedd. Roedd
crynodeb o’r data a’r diweddaraf am brosiectau wedi’i ddarparu ar gyfer
chwarter 3, ynghyd â thablau data yn amlinellu’r sefyllfa bresennol. Mae Covid-19 wedi effeithio ar
yr amserlen adrodd ond bydd pethau’n ôl i’r drefn arferol yn fuan iawn ac mae'r
effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth â’r ymateb parhaus i ddelio â’r pandemig
wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Roedd
perfformiad hollgynhwysfawr yn dda gyda dau fesur wedi’u hasesu fel bod yn
flaenoriaeth ar gyfer gwelliant yn seiliedig ar eu mesurau. Roedd y Pwyllgor Craffu
Perfformiad wedi ystyried yr adroddiad a chodwyd cwestiynau ynghylch prosiectau
penodol sy’n canolbwyntio’n benodol ar dai a gofal ychwanegol ymysg pethau
eraill. Rhoddodd
Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad eglurhad pellach ar y
newidiadau i’r trefniadau adrodd a fydd yn ôl ar y trywydd cywir erbyn yr haf. Arweiniodd yr aelodau drwy’r
adroddiad gan egluro’r gwelliannau cyffredinol ers yr adroddiad diwethaf gyda’r
rhan fwyaf o brosiectau yn cyflawni yn ôl y disgwyl a dim ond un neu ddau
wedi’u hoedi. Cafodd
yr adroddiad dderbyniad da gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad a bu cryn
drafodaeth am dai gan fod hwn yn faes a amlygwyd fel blaenoriaeth ar gyfer
gwelliannau. Eglurwyd
y byddai cynnydd cyflym mewn datblygiadau tai newydd a fydd wedi’i adlewyrchu
yn y data gan arwain at welliant cyflym dros y flwyddyn i ddod. Roedd y flaenoriaeth arall ar
gyfer gwella yn canolbwyntio ar bobl ifanc a mesurau cysylltiedig â
chyrhaeddiad a phresenoldeb; yn anffodus nid oedd data ar gael ar gyfer unrhyw
un o’r mesurau hyn ac mae’n annhebygol y bydd data o safon ar gael am beth
amser, sydd yn her i’r awdurdod. Wrth gloi, cyfeiriwyd at y
ddwy brif her sy’n wynebu’r awdurdod, sef y rhwystrau rhag dysgu sy'n wynebu
pobl ifanc a sut i ddiogelu dinasyddion agored i niwed mewn cymunedau, yn
arbennig rhag allgau digidol a sicrhau bod eu lleisiau i’w clywed a'u bod yn
dal yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Roedd
aelodau’r Cabinet yn gyfarwydd â’r blaenoriaethau hyn a'r cynnydd sy'n cael ei
wneud gan eu bod yn faterion a drafodir gyda Phenaethiaid Gwasanaethau yn
rheolaidd. Roedd
yr Arweinydd yn falch o nodi’r cynnydd a wnaed er gwaethaf Covid-19 a diolchodd
i'r holl wasanaethau a swyddogion am eu hymrwymiad i gefnogi'r Cynllun
Corfforaethol. Atgoffodd
yr aelodau bod y cyngor wedi llunio
Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol gydag un o'r heriau mwyaf yn ymwneud ag
ehangu darpariaeth a chysylltedd digidol; mynegodd ei rwystredigaeth ynghylch y
ffaith nad yw pethau'n symud ymlaen yn ddigon cyflym, gyda'r cyngor yn ddibynnol ar Lywodraethau'r DU a Llywodraeth Cymru i
gyfeirio cwmnïau i fuddsoddi mewn meysydd anodd cyrraedd atynt. Er hynny mae’r ymrwymiad i’r flaenoriaeth hon
yn parhau. PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd
chwarter 3 2020/21 a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol, (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y
strategaeth gyllido y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion
ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd o safbwynt y
strategaeth gyllidol gytunedig fel y’i hamlinellir isod - ·
y
gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 yw £208.302m miliwn (£198.538m miliwn yn
2019/20). ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.718miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaethau a chyllidebau
corfforaethol ·
amlygwyd
y risgiau cyfredol a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol. ·
effaith
ariannol y Coronafeirws a’r sefyllfa o safbwynt hawliadau i Lywodraeth Cymru
(LlC) hyd yma, ynghyd â chyllid grant arall gan LlC cysylltiedig a Covid-19. ·
manylion
yr arbedion a’r arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448 miliwn y
cytunwyd arnynt, yn cynnwys arbedion corfforaethol yn ymwneud ag adolygiad
actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2 miliwn); 1% arbedion
ysgolion (£0.692 miliwn); arbedion gwasanaeth (£1.756 miliwn). ·
rhoddwyd
diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun
Cyfalaf Tai. Aeth y
Cynghorydd Thompson-Hill â’r Cabinet drwy amrywiol elfennau’r adroddiad a
symudiadau ers y mis blaenorol. Symudiad mewn cyllidebau gwasanaethau a
gwasanaethau corfforaethol a thanwariant a ragwelir o £0.718m (gorwariant o
£1.759m y mis diwethaf) sydd wedi'i adlewyrchu i raddau helaeth yng ngrant
colled incwm Chwarter 3 a chyllid grant
cysylltiedig â Covid-19 Llywodraeth Cymru.
Y symudiad mewn cyllidebau corfforaethol sy’n dangos tanwariant o £1.867
wedi’i adlewyrchu yn y cyllid sydd i ddod gan Lywodraeth Cymru i wrthbwyso
effaith blwyddyn lawn Covid ar Arenillion Treth y Cyngor a'r Cynllun
Gostyngiadau Treth y Cyngor, ond yn gysylltiedig yn bennaf â dyraniad cyllid
newydd gan LlC (£1.663m) i gydnabod y pwysau a roddwyd ar y Cyngor cyfan yn
sgil ymateb i Covid. Argymhellwyd bod
unrhyw danwariant cyffredinol, gan roi ystyried i geisiadau gwasanaethau am ddwyn
tanwariant penodol yn ei flaen, yn cael
ei roi yn y Gronfa Lliniaru'r Gyllideb i helpu gyda'r ymateb parhaus i Covid
a'r broses gyllidol ar gyfer 2022/23. Dywedodd
y Pennaeth Cyllid bod swm y cyllid grant gan LlC yn debygol o fod yn fwy na
£20m ar gyfer y cyngor yn uniongyrchol heb gynnwys y cymorth ariannol a roddwyd
i fusnesau. Amcangyfrifwyd gorwariant o
£14m ar ddechrau’r flwyddyn ac mae’r effaith gadarnhaol ar y sefyllfa ariannol
wedi’i wireddu drwy waith partneriaeth gyda LlC a’r strategaeth ariannol a
bennwyd mewn ymateb i Covid-19. Manteisiodd
y Cynghorydd Thompson-Hill ar y cyfle i roi diweddariad i’r aelodau ar y gyfres
ddiweddaraf o grantiau busnes a gyhoeddwyd ar 12 Mawrth ac a weinyddir gan y
Cyngor, a thalodd deyrnged unwaith eto i waith diflino'r staff a chwaraeodd ran
ym mhrosesu cyflym yr hawliadau i dros 1300 o fusnesau, sydd gyfwerth â gwerth
£5.5m o gymorth. Ategodd aelodau eraill
y sylwadau hyn a chytunodd yr Aelod Arweiniol y byddai’n trosglwyddo
gwerthfawrogiad yr aelodau a’r sylwadau cadarnhaol a gafwyd gan fusnesau i’r
staff. Ymatebodd
yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid i gwestiynau fel a ganlyn – ·
Holodd
y Cynghorydd Hugh Irving ynghylch y
prosesau i ddiogelu yn erbyn talu hawliadau twyllodrus a chafodd wybod am y
gwiriadau sy’n cael eu cynnal i osgoi hyn a’r gwaith pellach sy’n mynd yn ei
flaen gydag Archwilio Mewnol a’r Fenter Twyll Genedlaethol. Roedd grantiau’n seiliedig ar yr Ardreth
Annomestig Cenedlaethol sy'n diogelu rhag cwmnïau ffug er bod elfen ‘yn ôl
disgresiwn’ fach ar gyfer busnesau bychan sydd ddim yn talu Ardrethi Annomestig. Oherwydd yr elfen o hunan-ardystio sy’n
rhan o’r broses a rhyddhad cyflym y cyllid mae’n bosibl y gallai fod achosion o
wneud taliadau pan na ddylent fod wedi’u gwneud a fydd o bosibl yn arwain at
ad-hawlio grantiau. · Eglurwyd er nad yw’r sefyllfa diwedd blwyddyn wedi’i chyrraedd eto ac y gallai newid, y rhagamcaniad presennol yw ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 275 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol amgaeedig y Cabinet a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd y rhaglen gwaith i’r dyfodol er
ystyriaeth a nododd yr aelodau y byddai’r eitem ar reolau gweithdrefnau
contractau'n cael ei symud o fis Ebrill. PENDERFYNWYD nodi Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol,
dan ddarpariaethau Adran 100(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y
byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym
Mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf. Ar y
pwynt hwn (11.30 am) cymerodd y pwyllgor egwyl deng munud] Dogfennau ychwanegol: |
|
FFRAMWAITH DYLUNIO GRAFFEG AC ARGRAFFU Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol
Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, (copi’n amgaeedig) yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Fframwaith Dylunio Graffeg ac Argraffu newydd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo’r Fframwaith Dylunio Graffeg ac Argraffu, fel y manylir
arno yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
adroddiad cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i’r Fframwaith System
Brynu Ddynamig. Rhoddodd y Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid rywfaint o gefndir ar y
swyddogaeth ddylunio â chaffael bresennol. Yn dilyn adolygiad derbyniwyd yn gyffredinol, er
bod y fframwaith presennol yn addas i'r pwrpas, bod angen mwy o hyblygrwydd o
ran rhoi mwy o ddewis o ddarparwyr er mwyn sicrhau gwerth am arian, cysyniadau
dylunio newydd a mwy o gystadleurwydd. O ganlyniad i hyn cynigiwyd System Brynu Ddynamig
(SBDd) gyda meini prawf yn cynnwys gwasanaethau o ansawdd, darparu gwerth am
arian a datrys problemau ar draws pum ‘lot’ er mwyn mynd i’r afael â bylchau yn
y fframwaith bresennol ac anghenion gwasanaethau'r cyngor. Argymhellwyd y dylid sefydlu’r fframwaith
newydd am gyfnod o chwe blynedd. Gan y byddai’r SBDd yn gydweithrediad â Chyngor Sir y Fflint amcangyfrifir
y bydd gwariant ar y contract dros £4 miliwn a bod felly angen cymeradwyaeth y
Cabinet. Nododd y Cabinet rinweddau’r SBDd arfaethedig o
safbwynt rhoi gwerth am arian drwy fwy o gystadleuaeth a’r dewis sydd ar gael i
wasanaethau'r cyngor. Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth
Gwasanaeth bod gwaith rhagweithiol yn cael ei wneud gyda’r ysgolion i annog y
defnydd o’r fframwaith a rhannu arfer gorau; ymhelaethwyd ar y posibilrwydd o ganiatáu
i fwy o gwmnïau lleol fod yn rhan o’r fframwaith a chadarnhawyd pwysoliad o
blaid cyflenwyr lleol; rhoddwyd sicrwydd ynghylch gwiriadau rheoli ansawdd i
sicrhau'r defnydd cywir o’r Gymraeg a’r
Saesneg ar ddeunyddiau a gynhyrchir ac eglurwyd gwaith cyflenwyr arbenigol o ran argraffu arwyddion stryd a lifrai
cerbydau ar ddeunyddiau arbenigol. Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies am gymhariaeth costau ar gyfer
cynnyrch a gynhyrchwyd yn fewnol yn flaenorol ac eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth
na fyddai’r fframwaith bob amser yn darparu cynnyrch rhatach gyda phwysoliad
ansawdd mewn rhai meysydd. Un o’r rhesymau dros ymestyn nifer y ‘lotiau’ oedd
cynnig mwy o ddewis ar draws yr Awdurdod. PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn cymeradwyo'r Fframwaith System Brynu Ddynamig newydd fel y’i manylir
yn yr adroddiad. |
|
DIWRNOD CENEDLAETHOL O FYFYRDOD Ar y pwynt hwn
(hanner dydd) cafwyd munud o dawelwch i nodi Diwrnod Cenedlaethol o
Fyfyrdod ac i gofio’r bywydau a gollwyd oherwydd y pandemig Coronafeirws a'r
rhai y mae digwyddiadau'r deuddeng mis diwethaf wedi effeithio arnynt. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAFFAEL GOFAL A CHYMORTH MEWN CYNLLUN TAI GOFAL YCHWANEGOL I BOBL HŶN A PHOBL GYDAG ANABLEDDAU CYMHLETH Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac
Annibyniaeth, (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi dwy
asiantaeth ofal i ddarparu gofal a chymorth yn Awel y Dyffryn fel y nodir yn yr
adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
– (a) cymeradwyo penodi’r darparwr gwasanaeth a enwir ac a argymhellir yn yr
adroddiad i ddarparu gofal a chymorth i unigolion gydag anableddau cymhleth
sy’n byw ym mloc C, ac yn (b) cymeradwyo penodi'r darparwr gwasanaeth a enwir ac a argymhellir yn yr
adroddiad i ddarparu gofal a chymorth i bobl hŷn sy’n byw ym mlociau A a B
Tai Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn yn Ninbych. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad
cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i benodi dwy asiantaeth ofal i
ddarparu gofal a chymorth yn Awel y Dyffryn yn dilyn ymarfer caffael
llwyddiannus fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad. Datblygwyd Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Awel y
Dyffryn gan y cyngor mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin ac mae’n cynnwys
66 uned gofal ychwanegol (blociau A a B)
a bloc ar wahân o 8 uned ar gyfer anableddau cymhleth (bloc C). Rhagwelwyd
yn wreiddiol y byddai’r cynllun yn barod erbyn mis Medi 2020 ond oherwydd y cyfyngiadau Covid ni fydd
yn agor tan fis Gorffennaf 2021. Rhoddwyd manylion y ddau ymarfer caffael ar
wahân a’r argymhellion dyfarnu contract yn yr adroddiad cysylltiedig ag (1)
asiantaeth Gofal yn y Cartref addas i ddarparu gofal a chymorth ar gyfer
blociau A a B, a (2) darparwr arbenigol i ddarparu gofal a chymorth i’r 8 uned
ar gyfer pobl ag anableddau cymhleth ym Mloc C.
I ddangos gwerth am arian roedd yr adroddiad hefyd yn nodi faint
fyddai’n ei gostio i’r cyngor ddarparu lefel debyg o ofal a chymorth i flociau
A a B yn fewnol. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol bod angen dau
gontract ar wahân oherwydd natur arbenigol y ddarpariaeth ar gyfer pobl ag
anableddau cymhleth. Atebodd swyddogion gwestiynau am y gwiriadau a’r cydbwyso
ariannol a wnaed fel rhan o’r broses a pha gynlluniau wrth gefn sydd wedi’u
sefydlu, gan gadarnhau hefyd na chafwyd
unrhyw gostau ychwanegol oherwydd Covid-19 gyda’r costau wedi’u cyfrifo yn
seiliedig ar nifer yr oriau o ofal a chymorth sy’n cael eu prynu. Roedd costau
ychwanegol cysylltiedig â’r cyfnod trosglwyddo ond roedd oedi’r cynllun wedi
rhoi cyfle i weithio gyda’r cwmni ar recriwtio staff yn barod ar gyfer
agor. Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth
Kensler bod Grŵp Ardal Aelodau Sir Ddinbych wedi cael cyflwyniad ar y
cynllun a thaith rithiol a’i bod hi’n cymeradwyo’r rhaglen. Croesawodd y Cabinet y cynllun ac ar ôl ystyried
yr ymarfer caffael diweddar a chanlyniad
y broses honno ynghyd ag argymhellion yr adroddiad – PENDERFYNWYD
bod
y Cyngor yn: (a) Cymeradwyo penodiad y darparwr gwasanaeth
a enwyd fel yr argymhellir yn yr adroddiad i ddarparu gofal a chymorth i
unigolion gydag anableddau cymhleth sy’n byw ym mloc C, a (b) Cymeradwyo penodiad y darparwr gwasanaeth
a enwyd fel yr argymhellir yn yr adroddiad i ddarparu gofal a chymorth i bobl
hŷn a fydd yn byw ym Mlociau A a B Tai Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn,
Dinbych. Daeth y cyfarfod i ben am 12.10 pm. |