Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN CYSYLLTIADAU Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag
unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Mai 2025 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mai 2025 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
27 Mai 2025. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mai 2025 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
CYLLID MENTER BENTHYCA LLYWODRAETH LEOL LLYWODRAETH CYMRU Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd (copi ynghlwm) ynglŷn â phenderfyniad brys a wnaed ar 12 Mehefin 2025 i gymeradwyo derbyn cyllid Menter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn nodi’r penderfyniad a’r rhesymau pam y bu’n rhaid ei wneud ar frys
cyn cyfarfod nesaf y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Delyth Jones yr adroddiad
ynghylch penderfyniad brys a wnaed gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r
Amgylchedd ar 12 Mehefin 2025 i gymeradwyo derbyn cyllid Menter Benthyca
Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru (LlC). Roedd y cofnod o’r penderfyniad brys
wedi’i atodi i’r adroddiad. Byddai’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol yn
darparu tua £4.8 miliwn o gyllid ar gyfer gwaith cynnal a chadw priffyrdd yn
ystod 2025/2027 a byddai Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid refeniw i gefnogi
benthyca dros 20 mlynedd ac ni fyddai unrhyw effaith ariannol sylweddol ar y
Cyngor gan y byddai LlC yn darparu’r holl gyllid. Y rhesymeg dros wneud y
penderfyniad brys oedd symud ymlaen gyda chyflawni’r rhaglen waith lawn yn
gyflym, o fewn amserlenni heriol a gydag adnoddau prin ar yr amser gorau
posibl. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr ymgynghori angenrheidiol
gyda Grwpiau Ardal yr Aelodau ar y rhaglen arfaethedig wedi’i gynnal cyn dod i
benderfyniad. Roedd y Cynghorydd Barry Mellor hefyd yn cefnogi’r penderfyniad i
sicrhau nad oedd unrhyw oedi diangen ac roedd yn falch o adrodd bod y gwaith
wedi dechrau eisoes ar y priffyrdd. Roedd y Cabinet yn croesawu’r cyllid cyfalaf
ychwanegol ar gyfer gwelliannau priffyrdd a dechrau'r rhaglen ddwy flynedd.
Mewn ymateb i’r cwestiynau, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r
Amgylchedd sicrwydd ynghylch gohebiaeth barhaus â phreswylwyr mewn perthynas
â’r gwaith dros y ddwy flynedd nesaf ac i arddangos y gwaith sydd wedi’i wneud.
Roedd swyddogion wedi mynychu cyfarfodydd Grwpiau Ardal yr Aelodau i drafod y
rhaglen arfaethedig ar gyfer y flwyddyn nesaf a oedd yn cynnwys cyllid cyfalaf
y Cyngor ei hun a'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ynghyd ag
ymgynghori pellach cyn diwedd y flwyddyn ariannol i gadarnhau blaenoriaethau ar
gyfer yr ail flwyddyn. Trafodwyd
blaenoriaethu ffyrdd i'w gwella gyda Grwpiau Ardal yr Aelodau yn flynyddol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Bobby Feeley, rhoddodd swyddogion
sicrwydd ynghylch y broses flaenoriaethu a mewnbwn gan aelodau lleol mewn
perthynas â hynny, yn ogystal â’r broses ariannu, a wnaeth alluogi’r Cyngor i
wario tua £4.8 miliwn dros ddwy flynedd a ariannwyd gan fenthyciad a ad-dalwyd
drwy’r Grant Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o 20 mlynedd.
Roedd yn ddull ariannu sefydledig tebyg i'r cynllun amddiffyn yr arfordir, ond
yn yr achos hwn, cafodd ei ariannu 100% gan Lywodraeth Cymru. Roedd y rhaglen
waith dwy flynedd o hyd wedi’i datblygu i gyd-fynd â’r swm o gyllid a
ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd yr Arweinydd yn croesawu mewnbwn Grwpiau
Ardal yr Aelodau er mwyn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i wybodaeth ac adborth
lleol fel rhan o’r broses o flaenoriaethu ar gyfer y gwaith hwnnw a thynnodd
sylw at bwysigrwydd manteisio i’r eithaf ar y cyfle i gyflawni’r rhaglen lawn o
fewn yr amserlen. Cafodd pwysigrwydd cyfathrebu ei ailadrodd hefyd. PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn nodi’r penderfyniad a’r rhesymau pam y bu’n rhaid ei wneud ar frys
cyn cyfarfod nesaf y Cabinet. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Strategaeth
Gorfforaethol, Polisi, Cydraddoldeb ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn
cyflwyno Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad ar gyfer 2024 i 2025 ac
Adroddiad Diweddariad ar Berfformiad bob chwe mis (mis Hydref 2024 i fis Mawrth
2025) er mwyn i’r Cabinet ei ystyried a’i gadarnhau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi cynnwys yr adroddiad, gan gynnwys
yr adborth gan Bwyllgorau a grynhowyd yn Atodiad V yr adroddiad; (b) yn cadarnhau cynnwys Atodiadau I i IV ar gyfer eu cyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf er
mwyn eu cymeradwyo, ac (c) yn nodi’r prif negeseuon sy’n deillio o’r
Hunanasesiad a’r Adroddiad ynghylch y Wybodaeth Ddiweddaraf am Berfformiad
rhwng mis Hydref a mis Mawrth (yn enwedig y camau gwella). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad
a Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad ar gyfer 2024 i 2025 ac Adroddiad
Diweddaru Perfformiad (Hydref 2024 - Mawrth 2025) i'r Cabinet eu hystyried cyn
eu cyflwyno i'r Cyngor. Fe arweiniwyd y Cabinet drwy’r adroddiad, a oedd yn
cynnwys Crynodeb Gweithredol (Atodiad I) yn tynnu sylw at berfformiad yn erbyn
yr amcanion a'r saith maes llywodraethu; yr Adroddiad Diweddaru Perfformiad
Hydref 2024 - Mawrth 2025 (Atodiad II); yr holl gamau gwella y dechreuwyd
arnynt ers 2023 (Atodiad III); adroddiad newydd Llais y Dinesydd (Atodiad IV)
yn triongli ystod o ddata, a’r newidiadau a argymhellwyd gan
y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad (Atodiad
V). Wrth fyfyrio, dywedodd y Cynghorydd Matthews y
dylai’r Cyngor fod yn falch o’r hyn a gyflawnwyd dan amgylchiadau anodd dros y
deuddeg mis diwethaf, a bod tystiolaeth glir o gyflawni i safonau uchel.
Tynnodd sylw at y pum cyflawniad allweddol dros y cyfnod hwn, yn ogystal â’r
pedair her allweddol a meysydd i’w gwella (Atodiad I). Diolchodd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth
Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau i'r Tîm Cynllunio Strategol am
lunio’r ddogfennaeth ac am fewnbwn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r
Pwyllgor Craffu Perfformiad, a gofynnwyd i’r Cabinet ystyried a derbyn, neu fel
arall am y newidiadau a argymhellwyd (Atodiad V). Tynnodd sylw hefyd at y
gofynion deddfwriaethol ar gyfer monitro ac adrodd ar berfformiad a nodi camau
gwella ac roedd 9 cam gwella wedi’u nodi ar gyfer y cyfnod hwn, a nodir yn
adran 4.3 yn yr adroddiad (addasu geiriad camau gwella ii ac iv a argymhellwyd
gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad). Rhannwyd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd â’r
Cabinet ynglŷn â chynnydd y camau gwella a nodwyd yn flaenorol dros y
blynyddoedd diwethaf (Atodiad III). Rhoddodd y Swyddog Cynllunio Strategol a Gwella
gyd-destun pellach, gan ddweud bod 20% (16) o ddangosyddion y cynllun
corfforaethol wedi cael eu categoreiddio’n “goch” ac y byddai’r tîm yn gweithio
i ragatal dangosyddion wrth symud ymlaen i osgoi gwaethygu ac ymgymryd â gwaith
pellach i wneud adroddiadau’n haws eu defnyddio. Aeth yn ei blaen i dynnu sylw
at ac ymhelaethu ar sawl maes “gwyrdd” o berfformiad rhagorol, yn ogystal â
meysydd “coch” lle’r oeddent yn wynebu heriau. Diolchodd y Cabinet i’r swyddogion am yr adroddiad
sylweddol a’r gwaith caled. Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y
canlynol – ·
Tynnwyd sylw at bwysigrwydd
y dogfennau fel ffordd o reoli perfformiad ac fe anogwyd yr amrywiol bwyllgorau
llywodraethu o fewn y Cyngor gan y swyddogion i nodi meysydd ar gyfer craffu
arnynt ymhellach a chyflawni eu rhaglenni gwaith. ·
Roedd adroddiad Llais y
Dinesydd yn ffordd newydd o gynnwys ystod o ddata gan wasanaethau’r Cyngor, a
oedd wedi ymgysylltu’n uniongyrchol ag unigolion a ddarparodd safbwyntiau
gwerthfawr ynghylch rhai o’r manylion a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol, yn
ogystal â’r Arolwg Budd-ddeiliaid blynyddol. Mewn rhai achosion, roedd y data a
gedwir gan wasanaethau yn atgyfnerthu canfyddiadau'r Arolwg Budd-ddeiliaid, ond
mewn achosion eraill roedd cyferbyniad, a data gwasanaethau o bosibl yn darparu
ymateb mwy nodweddiadol o ystyried bod yr Arolwg Budd-ddeiliaid yn destun tuedd
hunan-ddewis. Roedd cam gwella ix yn canolbwyntio ar drefniadau amgen o ran
adborth er mwyn gwella hyder yn y data a gasglwyd, ac roedd nifer o
ddewisiadau’n cael eu hystyried ar hyn o bryd, gan gynnwys cynnal arolygon
budd-ddeiliaid ar hap a defnyddio data wedi’i feincnodi megis yr Arolwg
Preswylwyr Cenedlaethol a'r bwriad oedd parhau gydag adroddiad Llais y Dinesydd
yn y dyfodol. Byddai cynigion yn cael
eu dwyn gerbron y Cabinet i'w hystyried maes o law. · Mynegwyd pryder bod y dadansoddiad yn adroddiad Llais y Dinesydd yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADOLYGU PREMIYMAU TRETH Y CYNGOR AR AIL GARTREFI / CARTREFI GWAG HIRDYMOR Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol Cyllid (copi ynghlwm)
yn ceisio i’r Cabinet adolygu’r premiymau Treth y Cyngor ar hyn o bryd a’r
newidiadau a argymhellir i’r polisi. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn argymell i’r Cyngor - (a) Bod
Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor (premiymau safonol) yn parhau ar y lefelau
presennol o 150% o Ebrill 2026; (b) bod
premiymau ar gyfer eiddo Gwag Hirdymor sydd wedi bod yn wag am fwy na 5 mlynedd
yn cynyddu’n flynyddol o 25% hyd at yr uchafswm o 300%, gan arwain at y
premiymau presennol o 200% yn codi i 225% o Ebrill 2026, 250% o Ebrill 2027,
ac yn y blaen, a (c) Cyflwyno dau gategori newydd ar gyfer
rhyddhad o’r premiwm yn Adran 13a o’r Polisi Rhyddhad yn ôl Disgresiwn, fel y
nodir ym mharagraffau 4.7 – 4.9 yr adroddiad. Cofnodion: Rhoddwyd ychydig o gefndir i’r newidiadau deddfwriaethol sydd wedi’u
cyflwyno gan Lywodraeth Cymru ers 2017, sy’n galluogi awdurdodau lleol i godi
premiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor a
chymeradwyaethau blaenorol y Cyngor o ran cynyddu premiymau mewn perthynas â
hynny. Nod y polisi oedd lleihau nifer yr eiddo sy’n ail gartrefi ac eiddo gwag
hirdymor a sicrhau mwy o dai fforddiadwy yn y Sir. Roedd yr adroddiad yn
rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Cabinet ynghylch yr adolygiad diweddaraf o’r
premiymau hynny, fel bod modd deall effaith y polisi presennol a’r newidiadau
polisi a argymhellwyd. Fe nodwyd canlyniad yr adolygiad a’r newidiadau a argymhellwyd. Yn gryno – ·
roedd nifer yr ail
gartrefi yn parhau’n sefydlog ac nid oedd yn destun pryder o'i gymharu â Chynghorau
eraill yng Ngogledd Cymru – ystyriwyd ei bod hi’n rhy gynnar i asesu effaith
lawn y cynnydd diweddar mewn premiymau ac felly ni argymhellwyd unrhyw
newidiadau. ·
roedd arwyddion
cynnar yn awgrymu bod y cynnydd mewn premiymau ar eiddo gwag hirdymor yn cael
yr effaith a ddymunir a gwelwyd gostyngiad yn y nifer ohonynt – felly, ni
argymhellwyd unrhyw newidiadau ar y cam hwn a byddai’r sefyllfa’n cael ei
hadolygu. ·
Roedd eiddo gwag
hirdymor sydd wedi bod yn wag ers dros 5 mlynedd wedi profi’n fwy o her ac
roedd y Cyngor hefyd â’r ail gyfran fwyaf o eiddo o’r fath allan o 5 Cyngor yng
Ngogledd Cymru – felly argymhellwyd cyflwyno cynnydd premiwm ychwanegol o 25%,
o un flwyddyn i’r llall, ar gyfer yr eiddo hynny o fis Ebrill 2026 ymlaen. ·
gan weithredu ar
adborth er mwyn cefnogi perchnogion newydd eiddo gwag hirdymor, lle defnyddiwyd
y gostyngiad cyn iddynt fod yn berchen arno, cafodd 2 gategori ychwanegol o
gefnogaeth eu hargymell: Adnewyddu
Cyffredinol ac Adnewyddu Sylweddol. Ychwanegodd y Pennaeth
Cyllid ac Archwilio y byddai'r adroddiad hefyd yn cael ei ystyried gan y
Pwyllgor Craffu Cymunedau cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i wneud penderfyniad, ac y
byddai’n sicrhau bod digon o rybudd yn cael ei roi i’r sawl yr effeithir arnynt
gan unrhyw newidiadau a gyflwynir. Trafododd y Cabinet yr
adroddiad gyda'r Aelod Arweiniol a'r swyddogion ac roedd yn falch o nodi'r hyn
a ddysgwyd o ganfyddiadau’r adolygiad a arweiniodd at argymhellion wedi’u
teilwra ar gyfer Sir Ddinbych, gan gefnogi perchnogion newydd lle bo hynny’n
briodol a chynnal pwysau ar yr eiddo gwag hirdymor hynny a oedd yn arddangos yr
heriau mwyaf parhaus. Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd swyddogion y
diffiniadau ar gyfer y ddau gategori newydd o gefnogaeth a ragnodir mewn
deddfwriaeth ac roedd gwaith adnewyddu cyffredinol yn ymwneud yn bennaf â
gwaith ailwampio ac adnewyddiadau sylweddol i waith strwythurol, ond byddai'r
eithriad dewisol yn berthnasol fesul achos. Roedd yr aelodau’n falch bod
synnwyr cyffredin wedi’i ddefnyddio mewn perthynas â’r eithriadau dewisol ac fe
wnaethant gyfeirio at achosion hysbys lle’r oedd hynny wedi arwain at
ganlyniadau cadarnhaol i breswylwyr. Roedd y Cabinet yn gobeithio y byddai gweithredu'r argymhellion yn sicrhau’r canlyniad a ddymunir a chadarnhaodd yr Aelod Arweiniol mai'r elfen fwyaf anodd a oedd ynghlwm â’r eiddo gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag ers dros 5 mlynedd oedd y cynnydd yn y gyfran ohonynt, a dyna pam yr argymhellwyd cynyddu’r premiwm, er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwnnw’n benodol, ochr yn ochr â gostyngiad ychwanegol er mwyn helpu perchnogion newydd ac annog dod â’r eiddo’n ôl i ddefnydd. Adroddodd swyddogion hefyd ar y broses gydweithredol a gymerwyd, y dull wedi’i dargedu a chyfeirio perchnogion ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET Derbyn Rhaglen
Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried. Nododd yr aelodau
fod yr eitemau’n ymwneud â’r Adolygiad o Strategaeth yr Ystâd Amaethyddol a
Dyfodol Cefndy wedi’u haildrefnu o fis Gorffennaf i fis Medi. PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD o
dan Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r
Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn
ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan
4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMESTYN CONTRACT CYFLEOEDD GWAITH CYNNIG Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a
Gofal Cymdeithasol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn
contract. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo estyniad i’r contract o 24 Gorffennaf 2025 i 31 Mawrth 2026 er mwyn
rhoi amser i gyflawni’r gwaith sy’n ofynnol er mwyn gwerthuso’r ddarpariaeth a
chyrraedd penderfyniad ar sut ddylai hyn gael ei siapio a’i ddarparu yn yr hirdymor. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad cyfrinachol, a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer ymestyn y contract cyfleoedd gwaith
presennol a ddarparwyd gan Cynnig. Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo ymestyn y contract flwyddyn ym mis
Gorffennaf 2024 (gyda’r dewis o’i ymestyn am gyfnod pellach o 12 mis), fel bod
modd adolygu’r dulliau presennol o ddarparu gwasanaethau cyn unrhyw ymarferion
ail-dendro. Oherwydd problemau o ran capasiti, ni wnaed cynnydd ar y gwaith hwn
fel y bwriadwyd, ac felly gofynnwyd am estyniad byr a therfynol fel bod modd
cyflawni’r gwaith hwnnw. Fe nodwyd manylion y gwasanaeth a ddarparwyd a’r
contract presennol. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau, gan ymhelaethu ar y gwaith sydd i’w
wneud dros yr wyth mis nesaf o ran gwerthuso dewisiadau a dadansoddi cost a
budd. Yn ogystal â'r gwaith hwnnw, roedd cynlluniau gofal a chymorth
dinasyddion unigol sy’n derbyn gwasanaethau yn cael eu hadolygu’n flynyddol,
gan ddangos proses ddeinamig barhaus o gomisiynu ar sail unigol ac ar sail
gwasanaethau. Roedd angen i'r Cyngor adolygu ei holl wasanaethau'n barhaus, er
mwyn bod yn gynaliadwy a darparu gwasanaethau cost effeithiol a phriodol i
ddiwallu anghenion preswylwyr. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo ymestyn y contract o 24 Gorffennaf 2025 i 31 Mawrth 2026 er mwyn
rhoi amser i gyflawni’r gwaith sy’n ofynnol fel bod modd gwerthuso’r
ddarpariaeth hon a dod i benderfyniad ynghylch sut y dylai hyn gael ei
ddatblygu a’i ddarparu yn yr hirdymor. Daeth y cyfarfod i ben am 12.25 pm. |