Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PROFEDIGAETH Cyfeiriodd yr Arweinydd at farwolaeth drist y Cynghorydd
Hugh Irving a fyddai’n cael ei golli gan bawb a rhoddodd deyrnged i’w waith
caled a’i ymroddiad dros gyfnod hir i Brestatyn a’r preswylwyr yno. Cafwyd
munud o dawelwch. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag
unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiadau eu datgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiadau eu datgan. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2025 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2025. PENDERFYNWYD
derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2025 a chadarnhau eu bod yn
gywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Chludiant (copi'n amgaeëdig) yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Asesiad o
Anghenion Lleol, y Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol, a’r camau nesaf ar gyfer
darpariaeth cyfleusterau cyhoeddus yn Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn cymeradwyo'r Asesiad Anghenion Lleol
(Atodiad 1 i'r adroddiad); (b) yn cymeradwyo'r Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol (Atodiad 4 i'r adroddiad); (c) yn cefnogi'r camau nesaf arfaethedig ar
gyfer pob cyfleuster Cyfleusterau Cyhoeddus (Atodiad 6 i'r adroddiad); (e) yn dirprwyo awdurdod i'r Aelod Arweiniol
dros Briffyrdd a'r Amgylchedd gytuno ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen cyn
cyhoeddi'r Strategaeth Toiledau Lleol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad
yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Asesiad o Anghenion Lleol, y Strategaeth
Ddrafft Toiledau Lleol, a’r camau nesaf ar gyfer darpariaeth cyfleusterau
cyhoeddus yn Sir Ddinbych. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd ac
Economi, Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Prif Reolwr Arlwyo
a Glanhau hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Tynnodd y Cynghorydd Mellor
sylw at bwysigrwydd toiledau cyhoeddus, a bu’n gweithio gyda’r gwasanaeth
gyda’r bwriad o gadw’r toiledau ar agor pan roedd yna angen clir amdanynt ac roedd
hyn wedi’i nodi adlewyrchu yn yr adroddiad. Tynnodd y Pennaeth Gwasanaeth sylw penodol at yr
elfennau canlynol yn yr adroddiad – ·
Asesiad o Angen am Doiledau
Cyhoeddus - yr asesiad o angen am doiledau mewn cymunedau lleol ac ymgynghoriad
cyhoeddus, ac fe nodwyd angen am doiledau cyhoeddus yn y Rhyl, Prestatyn,
Dinbych, Rhuthun, Llangollen a Chorwen, ond ni nodwyd bod eu hangen yn
Llanelwy, Rhuddlan na Dyserth. ·
Strategaeth Ddrafft
Toiledau Lleol (yn seiliedig ar Asesiad o Angen ac ymgynghoriad cyhoeddus dilynol)
- yn nodi’r cynllun i gyflawni’r nod cyffredinol ar gyfer darpariaeth Toiledau
Cyhoeddus ·
Camau nesaf - manylu ar y
ddarpariaeth bresennol a dewisiadau at y dyfodol er mwyn sicrhau bod amcanion y
Strategaeth yn cael eu bodloni tra’n gweithio o fewn cyfyngiadau cyllidebol.
Roedd hyn yn golygu canolbwyntio ar ddarpariaeth Toiledau Cyhoeddus mewn trefi
oedd ag angen wedi’i nodi; adolygu ffioedd ar gyfer toiledau a buddsoddi
ynddynt er mwyn gallu codi tâl amdanynt; adolygu trefniadau gweithredol ac oriau
agor toiledau cyhoeddus; edrych ar yr opsiwn o drosglwyddo toiledau cyhoeddus
sy’n berchen i’r Cyngor i sefydliadau/partneriaid eraill, a hybu ac ehangu’r
Cynllun Toiledau Cymunedol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cynllun arfaethedig
ar gyfer toiledau cyhoeddus, ac yn gryno, roedd yn argymell - ·
Dylai’r Cyngor roi’r gorau
i weithredu Toiledau Cyhoeddus mewn trefi lle nad oedd angen wedi’i nodi, o
ystyried bod gweithredu Toiledau Cyhoeddus yn wasanaeth dewisol. ·
Dylid cau a digomisiynu
cyfleusterau PODiau oedd wedi cyrraedd diwedd eu hoes ac nad oedd meddalwedd na
darnau ar gael ar eu cyfer bellach. ·
Dylai Toiledau Cyhoeddus
lle’r oedd angen wedi’i nodi gael eu huwchraddio er mwyn iddynt allu derbyn
taliad heb arian parod er mwyn iddynt allu gweithredu heb staff (ni fu cais i
Gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru i ddiweddau’r cyfleusterau yn
llwyddiannus, ac roedd cyfleoedd ariannu allanol eraill yn cael eu hystyried,
yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned a
cheisio eu cyfraniadau ynghyd â buddsoddiad o gronfeydd cyfalaf y Cyngor) ·
Gosod y pris i ddefnyddio
Toiledau Cyhoeddus ar lefel i alluogi’r gwasanaeth i weithredu o fewn ei
gyllideb, a gweithio mewn partneriaeth bellach gyda Chynghorau
Dinas/Tref/Cymuned. ·
Parhau i hyrwyddo’r Cynllun
Toiledau Cymunedol i gynyddu faint sy’n ymuno. Fe ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a’i gynnwys yn
ofalus. Er nad oedd unrhyw un o blaid
lleihau darpariaeth cyfleusterau cyhoeddus yn y sir, roedd y Cyngor, ynghyd â
phob Awdurdod Lleol arall, yn wynebu pwysau sylweddol ar y gyllideb, ac o fewn
y cyd-destun hwnnw yr oedd angen gwneud penderfyniadau anodd i warchod
gwasanaethau statudol. Cafodd
pwysigrwydd toiledau cyhoeddus ei gydnabod, ac fe ystyriodd y Cabinet y
cynlluniau i fuddsoddi ac uwchraddio cyfleusterau yn seiliedig ar angen a
nodwyd, a hefyd y mesurau lliniaru a amlinellwyd ar gyfer y cyfleusterau a
allai gau. Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y
canlynol – · Tynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne sylw at bwynt cywirdeb ac fe gadarnhawyd bod Rhuthun wedi’i gynnwys fel tref gydag angen a nodwyd ar gyfer Toiledau Cyhoeddus ac roedd Pwyllgor Gŵyl Rhuthun (nid Cyngor Tref Rhuthun) wedi mynegi diddordeb i fod yn gyfrifol am gyfleusterau Stryd y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Adnoddau (copi’r amgaeedig) yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am faterion sy’n weddill yn ymwneud â
chyllideb 2025/26, yn gosod y cefndir ar gyfer pennu’r gyllideb yn y tymor
canolig (2026/27 – 2028/29), ac yn diweddaru’r hunanasesiad o lefel bresennol y
Cyngor o gadernid a chynaliadwyedd ariannol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r diweddariadau
fel y'u rhestrir yn adran 2.1 o'r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr
adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n weddill yn ymwneud â
chyllideb 2025/26, yn gosod y gyllideb yn y tymor canolig (2026/27 – 2028/29),
a hunanasesiad wedi’i ddiweddaru o gadernid a chynaliadwyedd ariannol y Cyngor.
Arweiniwyd y Cabinet yn fanwl drwy’r adroddiad a
oedd yn canolbwyntio ar y canlynol – ·
Fersiwn derfynol o draciwr
arbedion 2024/25 oedd yn dangos bod 82% o gynigion arbedion mawr a 92% o
arbedion nad ydynt yn rhai strategol wedi cael eu cyflawni. ·
Roedd y Cyngor wedi gosod
cyllideb 2025/26 a Threth y Cyngor ar 20 Chwefror 2025 gyda chynnydd bach yn
setliad llywodraeth leol terfynol o £29,659. ·
Strategaeth a Chynllun
Ariannol Tymor Canolig 2026/27 – 2028/29 yn cynnwys rhagamcanion cyllideb
presennol ynghyd â rhagdybiaethau a oedd yn tanategu’r rhagamcanion a dull strategol
y Cyngor i reoli ei gyllidebau gan amlinellu rhai o’r materion ariannol a oedd
yn wynebu’r Cyngor dros y tair blynedd nesaf, a ·
Hunanasesiad o gadernid a
chynaliadwyedd ariannol gan amlinellu asesiad o sefyllfa’r Cyngor yn erbyn
themâu cyffredin a materion a nodwyd gan CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid
Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth). Diolchodd yr Arweinydd i’r Pennaeth Gwasanaeth am
yr adroddiad cynhwysfawr oedd yn tynnu sylw at yr heriau ariannol o’n blaenau,
gan roi’r penderfyniadau anodd yr oedd angen eu gwneud mewn cyd-destun, gan
gyfeirio at yr eitem flaenorol ar Doiledau Cyhoeddus fel enghraifft. Fe achubodd ar y cyfle hefyd i ddiolch i’r
Cynghorydd Gwyneth Ellis am ei gwaith caled dros y tair blynedd diwethaf fel
Aelod Cabinet Arweiniol. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr £11m o bwysau.
Roedd gwaith wedi cael ei wneud i leihau’r pwysau hynny. Roedd hyn yn cynnwys
cyfuniad o ddulliau drwy arbedion a chynyddu incwm. Roedd angen gwneud
penderfyniadau anodd o ran arbedion gan ystyried y sefyllfa ariannol
gyffredinol, ac er bod yna rywfaint o feirniadaeth bod penderfyniadau unigol yn
cael eu cymryd ar eu pen eu hunain, a bod y swm oedd yn cael ei arbed yn
gymharol fach o’i gymharu â’r gyllideb gyffredinol, mae’r Strategaeth a
Chynllun Ariannol Tymor Canolig yn nodi maint yr her ariannol a byddai angen yr
holl arbedion ac elfennau i ddarparu cyllideb gytbwys. Roedd hi’n iawn derbyn y
prawf a’r her tra’n trafod cynigion arbedion unigol, ond roedd hi hefyd yn
bwysig ystyried y cyd-destun ariannol cyffredinol er mwyn gwneud y
penderfyniadau hynny. Ymatebodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio i
gwestiynau fel a ganlyn – ·
Yn dilyn argymhelliad gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, roedd y cynnydd amcangyfrifedig mewn canran
yn y lefel o Dreth y Cyngor oedd ei angen i ariannu’r pwysau’n llawn, gan dybio
na fyddai arbedion yn cael eu cyflawni na chynnydd yn y Grant Cynnal Refeniw,
wedi cael ei gynnwys yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Roedd yn ffigur damcaniaethol a dull y Cyngor
o ariannu’r bwlch yma yn y gyllideb hyd yn hyn oedd cyfuniad o
arbedion/arbedion effeithlonrwydd a chynyddu Treth y Cyngor. ·
Cytunwyd bod cyfathrebu
gyda phreswylwyr am y gyllideb yn bwysig, ond roedd hefyd yn heriol o ystyried
cymhlethdodau o ran cyllid llywodraeth leol, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo
mewn cysylltiad â hynny gyda ffrwd gwaith yn edrych ar gyllidebau a thrawsnewid
cyfathrebu. Roedd taflen Treth y Cyngor
wedi cael ei diweddaru yn manylu ar gost gwasanaethau a nifer o gyfrifoldebau
yr oedd gan y Cyngor. O ystyried natur barhaus yr angen am y gwaith hwnnw,
cytunodd y Pennaeth Gwasanaeth i adrodd yn ôl i’r Cabinet yn benodol ar y
gwaith cyfathrebu hwnnw. · Yr arbediad gwreiddiol yn y gyllideb ar ôl adolygu’r ddarpariaeth Llyfrgelloedd oedd £360,000; roedd £300,000 wedi cael ei gyflawni yn 2024/25 yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET Derbyn Rhaglen
Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet. Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm. |