Agenda and decisions

Agenda and decisions

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Alan James – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 342 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025 (copi’n amgaeedig). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2025 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

5.

DOD Â’R GWASANAETH GWELLA YSGOLION RHANBARTHOL I BEN pdf eicon PDF 220 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â’r newidiadau sydd eu hangen a’r ffordd ymlaen arfaethedig i gyflawni swyddogaethau statudol gwella ysgolion yn dilyn cau GwE.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)      Bod y Cyngor hwn yn cymeradwyo terfynu’r cytundeb i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru yng nghyd-destun y Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion rhanbarthol (GwE) ar 31 Mai 2025 a diddymu’r gofyn am Gyd-bwyllgor GwE yn sgil hynny;

 

(b)      Bod y Cyngor hwn yn cadarnhau ei rwymedigaeth dan y contract wrth ddod â’r trefniant hwn i ben, a

 

(c)      Bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

6.

POLISÏAU AD - POLISI AFLONYDDU RHYWIOL NEWYDD A’R POLISI ADLEOLI A DDIWEDDARWYD pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu’r Polisi Aflonyddu Rhywiol a’r diwygiadau i’r Polisi Adleoli.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Polisi Aflonyddu Rhywiol a’r Polisi Adleoli, ac yn

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 a 4 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod i benderfyniad.

 

7.

POLISI SY’N CEFNOGI MAETHU pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu’r Polisi Cefnogi Maethu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r Polisi Cefnogi Maethu, ac yn

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad), ei ddeall a’i ystyried wrth ddod i benderfyniad.

 

8.

TROSGLWYDDO BARGEN DWF GOGLEDD CYMRU I GYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 294 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd a’r Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi’n amgaeedig) ynghylch y cynnig i drosglwyddo Bargen Dwf Gogledd Cymru i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru yn unol â’r penderfyniad mewn egwyddor a wnaed gan y Cabinet blaenorol yn Rhagfyr 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      Cytuno i sefydlu Cytundeb Partneriaeth a Chyllido (Atodiad 2 i’r adroddiad) a throsglwyddo swyddogaeth y Corff Atebol, cyfrifoldeb dros gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r trefniadau cyllido ar gyfer y Fargen Dwf i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar 31 Mawrth 2025 neu cyn hynny;

 

(b)      Cytuno i amnewid a neilltuo, fel y bo’r gofyn, i drosglwyddo gweithrediad Bargen Dwf Gogledd Cymru a’r hawliau a rhwymedigaethau ym mhob cytundeb cyllido sydd yng ngofal Cyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (“y Bwrdd Uchelgais”) i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (“y Cyd-bwyllgor Corfforedig”);

 

(c)      Cytuno i drosglwyddo ac amnewid a/neu neilltuo’r holl fuddiannau yn y portffolio o brosiectau a ariennir gan Fargen Dwf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau, taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran y Bwrdd Uchelgais i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig;

 

(d)      Cytuno i drosglwyddo a/neu neilltuo’r holl falansau ariannol, arian yn ddyledus ac asedau yng ngofal Cyngor Gwynedd ar ran y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru;

 

(e)      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gymeradwyo a gweithredu’r cytundebau, y gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol eraill ar eu ffurf derfynol, fel y bo’n angenrheidiol i weithredu'r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (b) a (c) uchod;

 

(f)       Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Partneriaeth a Chyllido, cytuno i derfynu’r cytundeb GA2 a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ben;

 

(g)      Cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru a’i fod yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Bargen Dwf Gogledd Cymru yn amodol ar amnewid y Fargen Dwf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog ychwanegol sy'n cynnwys telerau allweddol y Cytundeb Cydweithio ("GA2") rhwng y chwech o Gynghorau Cyfansoddol a’r pedwar o bartïon Addysg, a

 

(h)      Chytuno i roi’r penderfyniadau uchod ar waith yn ddiymdroi heb eu galw i mewn, yn unol ag adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor, fel y gellir trosglwyddo ar 31 Mawrth 2025 neu cyn hynny.

 

9.

GOSOD FFIOEDD CARTREFI GOFAL PRESWYL A NYRSIO 2025/26 pdf eicon PDF 413 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer gosod ffioedd Cartrefi Gofal Preswyl a Nyrsio Pobl Hŷn ar gyfer 2025/26.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo cynyddu Ffioedd Gofal, yn ychwanegol i ffioedd 2024/25, o ran Cartrefi Nyrsio a Phreswyl i Bobl Hŷn ar gyfer 2025/2026 fel a ganlyn -

 

·       3.8% ar gyfer Gofal Preswyl Safonol

·       6.6% ar gyfer Gofal Preswyl i Henoed Bregus eu Meddwl (EMI)

·       5.9% ar gyfer Gofal Nyrsio Safonol

·       7.2% ar gyfer Gofal Nyrsio i Henoed Bregus eu Meddwl (EMI)

 

(b)      cymeradwyo y bydd unrhyw ddarparwr nad yw’n derbyn y ffioedd arfaethedig yn dilyn ymarfer Care Cubed, er mwyn pennu pris teg am eu gofal (ymarfer llyfr agored yn flaenorol).

 

10.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni.

 

11.

RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 308 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.