Agenda and decisions

Agenda and decisions

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol, Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2024 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

5.

STRATEGAETH DDRAFFT TOILEDAU LLEOL pdf eicon PDF 234 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi'n amgaeëdig) yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cydnabod y gwaith a gwblhawyd hyd yma yn dilyn adolygiad o anghenion y boblogaeth leol a gynhaliwyd drwy ymgynghoriad cyhoeddus ac yn cymeradwyo’r asesiad o anghenion terfynol (cafodd yr Asesiad o Anghenion Dros Dro ei atodi fel Atodiad 2 i'r adroddiad);

 

(b)      cymeradwyo’r strategaeth ddrafft a’r cynllun gweithredu (Atodiad 1 i’r adroddiad) yn unol â Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017: Darpariaeth Toiledau;

 

(c)      dirprwyo awdurdod i Aelod Arweiniol Priffyrdd a’r Amgylchedd i gytuno ar unrhyw fân newidiadau golygyddol sydd eu hangen i’r strategaeth ddrafft cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a

 

(d)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

6.

GOSOD RHENTI TAI A CHYLLIDEBAU CYFALAF A REFENIW TAI 2025/26 pdf eicon PDF 410 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gynyddu rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2025/26 a Chynllun Busnes y Stoc Dai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)      Mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2025/26 (Atodiad 1 yr adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 yr adroddiad);

 

(b)      cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol o 2.7% i rent wythnosol cyfartalog o £112.29, i’w weithredu o ddydd Llun, 7 Ebrill 2025;

 

(c)      nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 yr adroddiad) ar yr ystyriaethau y rhoddir sylw iddynt wrth benderfynu ar yr argymhelliad hwn, a

 

(d)      bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

7.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni;

 

(b)      cymeradwyo Sylfaen y Dreth Gyngor i osod cyllideb 2025/26 fel y manylir yn Atodiad 3 yr adroddiad;

 

(c)      cymeradwyo’r defnydd o’r gronfa gyfalaf wrth gefn i ariannu’r gorwariant ar gynllun Lôn Parcwr, fel y manylir yn Adran 6.8 i’r adroddiad, a

 

(d)      cymeradwyo achos busnes Ysgol y Castell i’w gyflwyno i Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru fel y manylir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad.

 

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 330 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

9.

GWASANAETH CEFNOGAETH ATAL DIGARTREFEDD A CHAM-DRIN DOMESTIG SIR DDINBYCH, PROSIECT GRANT CEFNOGI TAI (HSG) - AILGARTREFU’N GYFLYM

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn cynnwys canlyniad yr ymarfer tendro ar gyfer Gwasanaeth Cefnogi Atal Digartrefedd a Cham-drin Domestig yn ôl y angen a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer dyfarnu’r contract i’r darparwr penodol yn unol ag argymhellion yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cydnabod fod ymarfer tendr teg a chadarn wedi ei gynnal yn unol â Rheolau Gweithdrefn Gontractau Sir Ddinbych ac a oedd wedi nodi ‘enillydd’ clir (fel y nodir yn adran 3.1 yr adroddiad) a oedd wedi amlinellu rhaglen fanwl a oedd yn bodloni amcanion a dyheadau manylion y prosiect a nodir yn y cais tendr (Atodiad 3 i’r adroddiad);

 

(b)      cytuno i ddyfarnu’r contract i’r darparwr contract a enwir (fel nodir yn adran 3.2 yr adroddiad) yn seiliedig ar eu cynigion tendr ar lefel y ffi a gynigir, a

 

(c)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

10.

PENODI CONTRACTWYR AR GYFER FFRAMWAITH CYNNAL A CHADW AC AILWAMPIO TAI GWAG

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn cynnwys canlyniad y broses gaffael Y Fframwaith Tai Gwag a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer dyfarnu’r fframwaith i’r darparwr penodol yn unol ag argymhellion yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a

 

(b)      penodi’r contractwyr fel yr argymhellir a manylir yn Nhabl 1 (adran 3.2 yr adroddiad) sydd wedi cael ei werthuso yn unol â'r fethodoleg sgorio a phwysoli a fanylir o fewn y dogfennau tendro, ar gyfer Fframwaith Tai Gwag yn ôl y telerau a amlinellir o fewn yr adroddiad.

 

11.

MARCHNAD Y FRENHINES Y RHYL GWEITHREDIADAU / RHEOLI

Ystyried cyd-adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorwyr Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd a Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu a dyfarnu contract i reoli Marchnad y Frenhines yn y Rhyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi am ddyfarnu contract i'r parti a enwir ac am y cyfnod a nodir yn adran 3.1 yr adroddiad, fel yr argymhellwyd gan Fwrdd y Prosiect.  Byddai awdurdod dirprwyedig yn destun ymgynghoriad gyda Swyddog Adran 151, Swyddog Monitro, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau, a'r Aelodau Arweiniol perthnasol;

 

(b)      cytuno i warantu unrhyw golledion am gyfnod y contract rheoli, yn unol ag adran 6 yr adroddiad.  Rhagwelwyd y gallai hyn gael ei gwmpasu gan gyllideb bresennol, a ddatblygwyd yn benodol at ddiben cefnogi adfywio, a

 

(c)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.