Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a
Thai (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu’r
strwythur ffioedd a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer y Cynllun Trwyddedu
Gorfodol Arbennig newydd a dirprwyo pwerau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Iechyd
y Cyhoedd (Cymru) 2017 i Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Chefn Gwlad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn – (a) mabwysiadu’r
strwythur ffioedd a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer y Cynllun Trwyddedu
Gorfodol Triniaethau Arbennig fel nodir yn Nhabl 1 Atodiad 2; (b) dirprwyo’r
swyddogaethau o dan y Rheoliadau newydd i’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y
Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad fel y nodir yn Atodiad 3; (c) awdurdodi
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad i ddiwygio’r
ffioedd a’r taliadau yn unol â’r cynllun statudol, fel bo’n briodol, o hyn
ymlaen. (b) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4
yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Rhoddwyd cefndir i’r fframwaith cyfreithiol oedd â’r nod o wella a
chynnal safonau atal a rheoli haint yn y diwydiant triniaethau arbennig a
sicrhau iechyd a diogelwch cleientiaid ac ymarferwyr. Roedd strwythur ffioedd
ar gyfer y cynllun newydd wedi cael ei gytuno’n genedlaethol ac roedd wedi’i
gyfrifo i sicrhau cysondeb yn y costau i fusnesau ac adfer costau i awdurdodau
lleol. Byddai’r ffioedd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd fel sy’n ofynnol gan y
rheoliadau. Roedd manylion y gweithgareddau oedd yn cael eu cynnwys yn y
cynllun, y strwythur ffioedd a gytunwyd yn genedlaethol a’r swyddogaethau
arfaethedig i’w dirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth ynghlwm i’r adroddiad. Gofynnodd y Cabinet nifer o gwestiynau, yn enwedig o ran costau a
gallu’r Cyngor i wneud y dyletswyddau ychwanegol a sicrhau cydymffurfiaeth,
ynghyd â materion yn codi o’r Asesiad o Effaith ar Les i leihau’r effaith ar
fusnesau. Ymatebodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd i gwestiynau fel a
ganlyn: ·
ni fyddai staff ychwanegol
yn cael eu cyflogi i wneud y gwaith, fyddai’n cael ei rannu rhwng y timau
trwyddedu a gwarchod y cyhoedd ·
byddai rhywfaint o gostau
sefydlu cychwynnol a byddai adolygiad yn cael ei gynnal ar ôl blwyddyn ar yr
amser a dreuliwyd yn ymgymryd â’r cyfrifoldebau newydd (sy’n cael ei
amcangyfrif ar hyn o bryd) i sicrhau bod costau’n cael eu hadfer, ynghyd ag
adolygiadau pellach bob tair blynedd ·
byddai’r eiddo/ymarferwyr
hynny sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd yn cael eu trosglwyddo i’r cynllun
newydd a byddai cyswllt yn cael ei wneud gydag eraill fyddai angen trwydded
efallai; roedd gwaith hefyd ar y gweill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y
cynllun newydd a byddai pob busnes yn cael archwiliad pellach o fewn cyfnod y
drwydded o dair blynedd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau newydd ·
rhoddwyd mwy o fanylion am
effaith bosibl y ffioedd newydd ar fusnesau, yn enwedig y rhai ble roedd elfen
triniaethau arbennig eu busnes yn fychan ac felly nad oeddent o bosibl yn hyfyw
yn ariannol o’r herwydd ·
roedd busnesau wedi cymryd rhan
yn ystod yr ymgynghoriad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru wrth ddrafftio’r
rheoliadau newydd ac roedd y Cyngor wedi annog busnesau’n weithredol i adrodd
yn ôl fel rhan o’r broses honno. Diolchodd yr Aelod Arweiniol i’r swyddogion am eu gwaith caled a thynnodd
sylw at bwysigrwydd y ddeddfwriaeth newydd o ran iechyd cyhoeddus a gwarchod y
cyhoedd. PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn – (a) mabwysiadu’r
strwythur ffioedd a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer y Cynllun Trwyddedu
Gorfodol Triniaethau Arbennig newydd fel nodir yn Nhabl 1 Atodiad 2; (b) dirprwyo’r
swyddogaethau o dan y Rheoliadau newydd i’r Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y
Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad fel y nodir yn Atodiad 3; (c) awdurdodi
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad i ddiwygio’r
ffioedd a’r taliadau yn unol â’r cynllun statudol, fel bo’n briodol, o hyn
ymlaen, a (b) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4
yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
STRATEGAETH RHEOLI ASEDAU 2024 – 2029 PDF 374 KB I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) sy’n cyflwyno’r Strategaeth Rheoli
Asedau 2024 - 2029 ar gyfer ei fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo mabwysiadu
Strategaeth Rheoli Asedau 2024 – 2029 (Atodiad 1 yr adroddiad), a (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis y Strategaeth
Rheoli Asedau 2024 – 2029 sydd wedi’i adolygu a’i ddiweddaru, ar gyfer ei
fabwysiadu. Roedd y Strategaeth Rheoli Asedau presennol wedi’i fabwysiadu gan y
Cyngor ym mis Gorffennaf 2017 ac roedd yn hen bryd ei adolygu. Nod y Strategaeth Rheoli Asedau newydd yw sicrhau bod y
cynlluniau asedau a’r deilliannau a geisir yn cyd-fynd â Themâu Strategol y
Cyngor fel yr amlinellir yn y Cynllun Corfforaethol i sicrhau bod ein hasedau
eiddo yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r blaenoriaethau hyn. Tynnwyd sylw at yr egwyddor sylfaenol ar
gyfer y Strategaeth newydd fel a ganlyn - “Byddwn yn darparu’r asedau cywir, yn y lle cywir, ac yn
y cyflwr cywir i fodloni anghenion darparu gwasanaeth cyfredol ac yn y dyfodol,
gan ystyried pwy sydd orau i fod yn berchen a gweithredu bob ased a chyfleoedd
ar gyfer cydweithio.” Mae pedair blaenoriaeth wedi’u dynodi yn y Strategaeth
newydd i gyd-fynd â’r Cynllun Corfforaethol a chynhaliwyd ymgynghoriad trylwyr
ar lefel swyddogion ac aelodau. Mae canlyniadau’r broses honno yn yr adroddiad.
[Er cywirdeb, roedd y Strategaeth wedi cael ei adolygu gan y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau ar 12 Medi ac nid ar 12 Mai fel y nodwyd yn yr adroddiad.] Arweiniodd y Pennaeth Gwasanaeth y Cabinet drwy’r
adroddiad a’r atodiadau gan bwysleisio pwysigrwydd y ddogfen a gwaith caled y
rhai oedd yn rhan o’r tîm Asedau. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Gwasanaeth i
gwestiynau fel a ganlyn – ·
cytunwyd i gynnwys
cyfeiriad at y buddsoddiad ysgol newydd yn Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ym
mharagraff 7.1.1 y Strategaeth newydd cyn ei gyhoeddi ·
cyllid a gallu fyddai’r prif
gyfyngiadau wrth gyflawni’r Strategaeth newydd ·
roedd y Strategaeth yn
nodi’r canlyniadau a fwriadwyd a byddai cydweithio o fewn y Cyngor a chyda
partneriaid i ddenu mewnfuddsoddiad a gwneud y mwyaf o gyfleoedd; roedd y Bloc
Toiledau yng Nghorwen yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft i ddangos manteision
dull o’r fath ·
cyfeiriwyd at gymhlethdodau
cyllideb llywodraeth leol a chadarnhawyd na fyddai’n bosibl gwerthu asedau i
dalu am gostau o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, gellid defnyddio unrhyw incwm a
gafwyd wrth werthu asedau, megis Caledfryn yn Ninbych, i ariannu cynlluniau
cyfalaf eraill yn y Cyngor, ac roedd hyn yn cael ei ystyried ·
roedd adnoddau ac asedau,
yn cynnwys gwaredu, yn cael eu hystyried yn rheolaidd gan y Grŵp Rheoli
Asedau, oedd ar agor i bob Cynghorydd fynychu. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo mabwysiadu
Strategaeth Rheoli Asedau 2024 – 2029 (Atodiad 1 yr adroddiad), a (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. |
|
PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI / CARTREFI GWAG HIRDYMOR PDF 476 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo polisi
codi tâl y Cyngor ar gyfer 1 Ebrill 2025 a chymeradwyo’r amserlen arfaethedig i
adolygu’r polisi ar gyfer 2026/27. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi a chymeradwyo polisi codi tâl y
Cyngor ar gyfer 1 Ebrill 2025 fel y nodir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, a (b) cymeradwyo’r amserlen
arfaethedig a nodir yn yr adroddiad i adolygu’r polisi ar gyfer 2026/27. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn
gofyn i’r Cabinet gymeradwyo polisi’r Cyngor i godi Premiwm Treth Cyngor ar Ail
Gartrefi / Cartrefi Gwag Hirdymor ar gyfer 1 Ebrill 2025 a chymeradwyo’r
amserlen arfaethedig i adolygu’r polisi ar gyfer 2026/27. Atgoffwyd y Cabinet am y polisi codi tâl a gymeradwywyd gan y Cyngor llawn
ym mis Medi 2023, oedd yn golygu, o 1 Ebrill 2025 y byddai 150% yn cael ei godi
ar ben y Dreth Cyngor safonol am y ddau fath o eiddo oedd wedi bod yn wag am
lai na 5 mlynedd a 50% ychwanegol am eiddo oedd wedi bod yn wag a heb eu
dodrefnu am 5 mlynedd neu fwy. Nid oedd y polisi yn cynnwys 2026/27 ymlaen ac
roedd cynlluniau ar gyfer adolygiad i ddeall effaith y polisi cyfredol i lywio
penderfyniadau yn y dyfodol wedi cael eu nodi yn yr adroddiad, ynghyd ag
amserlenni. Pwysleisiwyd eto mai pwrpas y premiwm yw cynyddu nifer y tai
fforddiadwy yn Sir Ddinbych a chynnal a meithrin cymunedau cynaliadwy. Roedd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio, y Prif Reolwr
Refeniw, Budd-daliadau a Chontractau a’r Rheolwr Darparu Gwasanaeth - Refeniw a
Budd-daliadau yn bresennol. Roedd y Cabinet yn ystyried bod y cynllun gweithredol
a nodwyd yn yr adroddiad yn ddull synhwyrol, â strwythur da i roi cyfle i bob
budd-ddeiliad, yn cynnwys y cyhoedd, i ymateb fel rhan o’r broses. Trafododd y
Cabinet fanylion yr adroddiad â swyddogion gan ofyn cwestiynau am y
mecanweithiau adolygu a phwerau dewisol y Cyngor i hepgor unrhyw bremiwm mewn
amgylchiadau penodol. Manylodd y
swyddogion ar y fethodoleg adolygu, fyddai’n cynnwys dadansoddi’r cyfoeth o
wybodaeth a gafwyd ac effaith y newid a gwersi a ddysgwyd gan awdurdodau lleol
eraill, gan gymharu data a pholisi gyda phartneriaid rhanbarthol a
chenedlaethol i roi adolygiad cynhwysfawr i arwain y polisi yn y dyfodol.
Rhoddodd y swyddogion enghreifftiau hefyd o achosion ble gellid defnyddio
pwerau dewisol, a phwysleisiwyd bod pob achos yn cael ei ystyried ar ei
rinweddau ei hun ac y byddai dull ymarferol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi
unigolion pan fo’n bosibl. Cadarnhaodd
rhai aelodau eu bod wedi gweld drostynt eu hunain pa mor barod oedd swyddogion
i ystyried achosion unigol yn ofalus. Nodwyd hefyd bod arweiniad Llywodraeth
Cymru yn gofyn am ddull ymarferol gan awdurdodau lleol wrth adolygu’r premiwm
ac ystyried rhyddhad dewisol a byddai dadansoddi data yn helpu i lywio
argymhellion posibl o ran eithriadau i’r premiwm yn y dyfodol. Roedd hi’n
bwysig bod digon o amser yn cael ei roi i’r polisi esblygu er mwyn deall yn
llawn beth yw’r effeithiau a sicrhau y gellir diwygio’r polisi yn seiliedig ar
y data sydd ar gael, a dyna’r rheswm am y dull a gymerwyd yn y Cynllun
Gweithredol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi a chymeradwyo polisi codi tâl y
Cyngor ar gyfer 1 Ebrill 2025 fel y nodir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, a (b) cymeradwyo’r amserlen arfaethedig
a nodir yn yr adroddiad i adolygu’r polisi ar gyfer 2026/27. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Strategaeth
Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, ac ystyried y
cynnigion arbedion cynnar ar gyfer pennu cyllideb 2025/26. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo’r Strategaeth
Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig sydd yn Atodiadau 1 a
3 yr adroddiad; (b) nodi’r cynigion arbedion
cynnar ar gyfer pennu cyllideb 2025/26 fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad, a (c) nodi’r gwaith parhaus i bennu
cyllideb gytbwys yn 2025/26. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
yn diweddaru’r Cabinet ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun
Ariannol Tymor Canolig, a gofynnodd am i gynigion arbedion cynnar gael eu
hystyried ar gyfer pennu cyllideb 2025/26. Ni fu llawer o newid i’r dogfennau ers y fersiwn
blaenorol ac nid oedd unrhyw newid i’r darlun cyffredinol. Fodd bynnag,
gallai’r sefyllfa newid yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y DU ar 30 Hydref 2024. O
ran yr arbedion arfaethedig, roedd canlyniad cadarnhaol wedi bod i’r ffordd y
mae’r Cyngor yn ymateb i ddarparu gwasanaethau digartrefedd fyddai hefyd yn
creu arbedion sylweddol. Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio’r aelodau
drwy’r adroddiad a oedd yn cynnwys – ·
y Cynllun Ariannol Tymor
Canolig lefel uchel oedd yn cynnwys rhagamcaniadau presennol ar y gyllideb, ynghyd
ag ystod o ragdybiaethau i roi amcangyfrif isel, canolig ac uchel pob pwysau
ynghyd ag effaith amcangyfrifon o gynnydd i Dreth y Cyngor a chyllid gan
Lywodraeth Cymru (Atodiad 2 i’r adroddiad) ·
roedd y Strategaeth
Ariannol Tymor Canolig yn crynhoi data hyd at ddechrau mis Hydref yn nodi dull
strategol y Cyngor o reoli ei gyllid a maint yr her ariannol (Atodiad 3 i’r
adroddiad) ac roedd y prif bwyntiau wedi’u hamlygu yn yr adroddiad eglurhaol
a’r newidiadau a wnaed i’r Strategaeth wedi’u hamlygu mewn melyn, a ·
chynnydd ar gynigion arbed
mewn gwasanaethau oedd yn cael eu datblygu fel rhan o’r gwaith pennu cyllideb
ar gyfer 2025/26 (Atodiad 2 i’r adroddiad). Roedd llawer o’r gwaith yn canolbwyntio ar bennu’r
gyllideb ar gyfer 2025/26 a rhagwelwyd y byddai costau darparu gwasanaethau’n
codi £18 miliwn. Roedd cynnydd mewn cyflogau staff yn parhau’n bwysau ynghyd â
phwysau sylweddol ar wasanaethau yn ymwneud yn bennaf â gwasanaethau oedd yn
cael eu harwain gan alw, oedd yn sylweddol, a thu allan i reolaeth y Cyngor i
raddau helaeth. Roedd rhagdybiaethau gweithredol wedi’u gwneud am setliad
ariannol Llywodraeth Cymru ar ostyngiadau ychydig yn negyddol a Threth y Cyngor
ar tua 9%, oedd yn gadael bwlch a ragwelir yn y gyllideb o £12 miliwn, fyddai’n
gofyn am arbedion sylweddol ar hyd a lled yr awdurdod er mwyn mantoli’r
gyllideb. Roedd cynigion arbedion cynnar wedi cael eu dwyn ymlaen ac roedd
llawer o waith yn dal ar y gweill i fodloni’r arbedion gofynnol. Roedd y
rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn rhagweld bwlch o £15 miliwn yn 2026/27 a £14
miliwn yn 2027/28. Diolchodd yr Arweinydd i’r Pennaeth Gwasanaeth am y
trosolwg manwl ac roedd y dogfennau eisoes wedi cael eu trafod yn fanwl gan y
Cabinet. Nodwyd bod Gweithdy ar Gyllideb y Cyngor wedi cael ei gynnal yn ddiweddar
i bob aelod. Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y
canlynol – ·
rhoddwyd diweddariad ar y
system ariannol newydd a gyflwynwyd yn ddiweddar oedd yn disodli nifer o
systemau gwahanol ac roedd yr elfen modiwl rhagolygon ariannol ar waith ers mis
Medi. Roedd y system newydd yn newid mawr i ffordd y tîm o weithio a darparu
gwybodaeth ariannol; byddai’r system yn parhau i gael ei mireinio ac roedd
hyfforddiant a datblygu ar y gweill · cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at osod Treth y Cyngor ym mis Chwefror ac y byddai preswylwyr yn disgwyl iawndal oherwydd y tarfu a achoswyd wrth gyflwyno’r system gwastraff newydd. Eglurodd y swyddogion fod Treth y Cyngor yn ariannu’r gwasanaethau cyffredinol a ddarperir gan y Cyngor ac nad oedd yn gysylltiedig â maes gwasanaeth penodol; roedd yn dreth yr oedd gan y Cyngor rwymedigaeth gyfreithiol i’w gosod ac roedd gan y rhai sy’n cael gorchymyn Treth y Cyngor rwymedigaeth i’w dalu. Nid rhwymedigaeth gytundebol ydoedd y gellid rhoi iawndal i unigolion amdano. Cytunodd y ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd ar y
strategaeth y cytunwyd arni. Cofnodion: Rhoddwyd
crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2024/25 oedd £271.021 miliwn (£250.793 miliwn yn 2023/24) ·
rhagwelwyd y byddai tanwariant
o £400,000 mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
y risgiau a’r
rhagdybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth ·
arbedion effeithlonrwydd
gan wasanaethau ar gyfer cyllideb 2024/25 (£10.384 miliwn) a chynnydd ar
gyflawni arbedion a gymeradwywyd oedd yn parhau i gael eu holrhain/monitro ·
y wybodaeth ddiweddaraf am
Ysgolion, y Cyfrif Refeniw Tai a Rheoli’r Trysorlys. Arweiniodd y
Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad. Rhagwelir tanwariant
o £400,000 (ac eithrio ysgolion) o’i gymharu â gorwariant o £240,000 y mis
diwethaf oherwydd diwygio’r model ar gyfer darparu gwasanaethau digartrefedd a
lleihau gwariant ar lety brys. Roedd gwasanaethau’n
gyffredinol yn parhau i orwario ac roedd meysydd o orwariant gan wasanaethau’n
cael eu mantoli gan danwariant ar gyllidebau corfforaethol yn cynnwys tâl ac
ynni. Roedd meysydd risg uchel yn cynnwys lleoliadau preswyl mewn Gwasanaethau
Plant, gofal a gomisiynir mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Chludiant
Ysgolion. Roedd yr offeryn olrhain arbedion wedi cael ei gynnwys yn yr
adroddiad yn ogystal â throsolwg o’r cynnydd. Roedd 82% o’r arbedion a
ragwelwyd wedi cael eu cyflawni ar brosiectau mawr a 90% o arbedion heb fod yn
strategol. Rhagwelir diffyg cyffredinol o £2.7 miliwn i ysgolion ac roedd
gwaith ar y gweill gyda’r ysgolion i geisio lleihau faint o falansau sy’n cael
eu defnyddio. Nododd y
Cabinet, yn ychwanegol i’w adroddiad misol rheolaidd, roedd cyfarfod cyllideb
wedi cael ei gynnal yn ddiweddar i bob aelod a byddai trafodaeth gynnar am y
gyllideb yng nghyfarfod nesaf y Cyngor ar 12 Tachwedd. Roedd y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid
ac Archwilio hefyd wedi gwneud trefniadau i gyfarfod â’r holl grwpiau
gwleidyddol ar wahân i drafod y gyllideb ac roedd yr Arweinydd wedi pwysleisio
mor bwysig oedd i gymaint o aelodau â phosibl fod yn y trafodaethau hynny am y
gyllideb er mwyn rhoi eu mewnbwn i’r broses. Roedd y Cynghorydd Julie Matthews
hefyd yn awyddus i sicrhau bod ymgysylltu priodol yn digwydd â’r cyhoedd ar y
broses o bennu’r gyllideb. Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio at
gymhlethdodau’r gyllideb llywodraeth leol a’r gwaith gyda’r Grŵp
Cyfathrebu ar y Gyllideb ynghyd â chynlluniau i gyfathrebu â’r cyhoedd o ran
codi ymwybyddiaeth am gyllid y Cyngor a’r gwasanaethau a ddarperir drwy ffyrdd
megis y cyfryngau cymdeithasol, fideos ar wefan y Cyngor a ffeithluniau ynghyd
ag ymgynghori ar gynigion ar y gyllideb yn y dyfodol. PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd ar y
strategaeth y cytunwyd arni. |
|
SYSTEM RHEOLI GWYBODAETH GOFAL CYMDEITHASOL NEWYDD - DYFARNU CONTRACT PDF 230 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorwyr
Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a
Strategaeth Gorfforaethol, Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal
Cymdeithasol a Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyo’r Achos Busnes a chymryd rhan yn y Rhaglen genedlaethol
Cysylltu Gofal. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo’r adroddiad
Dyfarnu Contract sydd ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad, a (b) parhau i gefnogi cyfranogiad
Sir Ddinbych yn y rhaglen genedlaethol Cysylltu Gofal. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad ar y cyd
â’r Cynghorwyr Julie Matthews a Diane King yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo dyfarnu’r
contract a chyfranogiad parhaus yn y rhaglen genedlaethol cysylltu gofal. Roedd
yr adroddiad yn cynnwys atodiadau cyfrinachol gyda gwybodaeth ariannol a
gofynnwyd i’r Cabinet fynd i sesiwn breifat os oeddent eisiau trafod y manylion
ariannol. Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo cyfranogiad Sir Ddinbych
mewn proses gaffael ar gyfer system rheoli gwybodaeth gofal cymdeithasol newydd
yn seiliedig ar yr Achos Busnes a gyflwynwyd yn ei gyfarfod ar 30 Gorffennaf
2024. Rhoddwyd manylion y broses dendro fel rhan o glwstwr o chwe awdurdod
lleol yng Ngogledd Cymru ynghyd â’r broses werthuso leol a sesiynau cymedroli.
Bydd gan gontractau a ddyfernir gyfnod cychwynnol o 7 mlynedd, gyda’r opsiwn
i’w hymestyn fesul 2 flynedd hyd at uchafswm o 21 mlynedd. Roedd crynodeb o
gostau’r tendr a chopi drafft o’r dyfarniad wedi cael eu cynnwys yn yr
atodiadau cyfrinachol. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol a Phartneriaid
Busnes TGCh yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol y broses drylwyr a gynhaliwyd yn fewnol, gyda phartneriaid
rhanbarthol a’r broses gaffael genedlaethol, gydag ymgysylltiad gan gydweithwyr
TG arbenigol a’r gwasanaeth fyddai’n defnyddio’r system newydd os bydd yn cael
ei chaffael. Pwysleisiodd y Cynghorydd Julie Matthews mor bwysig oedd cael
system newydd a thynnodd sylw at y broses gaffael drylwyr a gynhaliwyd a’r
gwasanaeth gwell fyddai preswylwyr yn ei gael o ganlyniad i’r system newydd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo’r adroddiad
Dyfarnu Contract sydd ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad, a (b) parhau i gefnogi cyfranogiad
Sir Ddinbych yn y rhaglen genedlaethol Cysylltu Gofal. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET PDF 329 KB Derbyn Rhaglen
Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen
waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried. Nododd y Cabinet na fydd yr eitem ar Drefniadau Llywodraethu’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn barod mewn pryd i’w chyflwyno i’r Cabinet ym mis Tachwedd. PENDERFYNWYD nodi rhaglen
waith y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.30am. |