Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd a Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd a Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cododd yr Arweinydd y mater brys canlynol - Cyflwyno’r Gwasanaeth Casglu Deunyddiau Ailgylchu a Gwastraff newydd

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn bwriadu codi’r mater brys canlynol - Cyflwyno’r Gwasanaeth Casglu Deunyddiau Ailgylchu a Gwastraff newydd.

 

Ymddiheurodd yr Arweinydd ar ran y Cyngor i breswylwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y problemau sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r gwasanaeth newydd ac i aelodau sydd wedi bod yn gweithio’n galed ar ran preswylwyr. Diolchodd hefyd i aelodau am roi gwybod am gasgliadau a fethwyd yn eu wardiau ac i breswylwyr am eu hamynedd a’u hymdrechion i ailgylchu. 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi bod mewn cyswllt dyddiol â’r Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi a’r Aelod Arweiniol am y sefyllfa. Er bod y cyfraddau casglu wedi gwella, roedd yn amlwg bod angen gweld cynnydd anferthol o ran cyflymdra a gwelliant i ymdrin â’r ôl-groniad a gweithio i sicrhau bod y system yn gweithio’n iawn. Sicrhaodd yr Arweinydd ei fod ef a’r Aelod Arweiniol yn herio’r swyddogion yn drwyadl i sicrhau bod problemau’n cael eu datrys cyn gynted â phosibl ac roedd pawb yn gweithio mor galed â phosibl i gael gwared ar yr ôl-groniad, ymdrin â’r problemau a sicrhau bod y system yn gweithio’n iawn yn y dyfodol.    Byddai’r digwyddiadau’n ymwneud â chyflwyno’r system newydd yn destun ymchwiliad craffu cyhoeddus a byddai’r broses honno’n dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiad. Roedd cyfarfod arbennig o’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu wedi’i drefnu ar gyfer 8 Gorffennaf.

 

Ymddiheurodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Barry Mellor i aelodau a phreswylwyr. Ychwanegodd fod y cyflwyno wedi’i ddwyn ymlaen gan y Cabinet blaenorol, ond fel Cabinet, roeddent yn credu mai dyma’r peth iawn i’w wneud gan barhau â hynny. Pwysleisiodd y Cynghorydd Mellor mai problem weithredol ydoedd a’i fod wedi bod mewn cyswllt rheolaidd â’r swyddogion perthnasol i gyflymu’r gwelliannau. Ynghyd â’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, roedd wedi bod allan gyda’r criwiau i weld drosto’i hun yr anawsterau oedd yn wynebu preswylwyr a gwaith caled y criwiau, oedd yn gweithio sifftiau ychwanegol i ymdrin â’r ôl-groniad. O’r herwydd, roedd yn hyderus y byddai’r problemau'n cael eu datrys ac y byddai’r system yn cael ei hymgorffori’n llwyddiannus, er nid mor gyflym â’r hyn a ragwelwyd.   Diolchodd i breswylwyr am eu hamynedd a rhoddodd sicrwydd bod popeth posibl yn cael ei wneud i wireddu manteision y system newydd mor gyflym â phosibl. 

 

Caniataodd yr Arweinydd gwestiynau, ond atgoffodd yr aelodau bod craffu ar gyflwyno’r gwasanaeth newydd yn broses ar wahân drwy ymchwiliad dan arweiniad aelodau.

 

Yn ystod y drafodaeth mynegodd yr aelodau eu pryderon a’u gofidiau am y gwasanaeth newydd a’r effaith ar breswylwyr, a chafwyd nifer o enghreifftiau o broblemau mewn wardiau gwahanol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Wrth siarad ar ran y Grŵp Annibynnol, roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn dymuno diolch i’r criwiau a’r staff ar y rheng flaen oedd yn gweithio’n galed mewn amgylchiadau anodd. Roedd yn dymuno rhoi ar gofnod hefyd bod y cyn Gabinet wedi pleidleisio ar gysyniad y gwasanaeth newydd, nid y dull gweithredu.   Cododd yr aelodau gwestiynau a phryderon penodol am agweddau amrywiol o gyflwyno’r gwasanaeth a methiannau allweddol a gofynnwyd am sicrwydd am y camau i ymdrin â’r ôl-groniad presennol a bod y system yn gweithio’n effeithlon yn y dyfodol, a chyflwynwyd nifer o awgrymiadau am hynny.

 

Ymatebodd yr Arweinydd, yr Aelod Arweiniol, y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Swyddog Monitro i’r cwestiynau a materion a godwyd fel a ganlyn -

 

·       roedd yr effaith ar y preswylwyr a effeithiwyd yn andwyol gan y newid gwasanaeth yn annerbyniol ac roedd yn wirioneddol ddrwg gan y Cyngor am y gofid a achoswyd o’r herwydd

·       roedd y cyfraddau casglu  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 313 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024 (copi ynghlwm). 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

STRATEGAETH HINSAWDD A NATUR CYNGOR SIR DDINBYCH (2021/22 - 2029/30) - ADOLYGU AC ADNEWYDDU BLWYDDYN 3 pdf eicon PDF 243 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) yn cyflwyno Strategaeth Hinsawdd a Natur y Cyngor (2021/22 – 2029/30) ar gyfer ei ystyried ac argymell i’r Cyngor y dylid ei fabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      argymell bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Strategaeth Hinsawdd a Natur  (2021/22 – 2029/30) fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac yn

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau fel yr amlinellir yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Strategaeth Hinsawdd a Natur y Cyngor (2021/22 – 2029/30) (a elwid yn flaenorol yn Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol) i’w hystyried.

 

Datganodd y Cyngor Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 a mabwysiadodd Strategaeth ddrafft yn 2021, oedd angen cael ei hadolygu bob tair blynedd.   Roedd y Strategaeth ddiwygiedig wedi cael ei chyflwyno ynghyd â manylion y broses adolygu ac ymgysylltu, canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddogfen ddrafft a’r diwygiadau arfaethedig a wnaed i’r Strategaeth o ganlyniad.

 

Soniodd y Cynghorydd Mellor am y cynnydd da a wnaed ers mabwysiadu’r Strategaeth, ond oherwydd yr heriau ariannol oedd yn wynebu cynghorau, nid oedd y newid yn digwydd yn ddigon cyflym i fodloni targedau 2030. Ni fyddai’n hawdd bodloni’r nodau hynny yn y Strategaeth ddiwygiedig, ond roedd y Cyngor yn cadw at yr uchelgais a’r ymrwymiad honno i wneud cymaint ag y gallai mor gyflym ag y gallai gyda’r adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac adfer natur i genedlaethau'r dyfodol.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes drosolwg o’r broses adolygu ac ymgysylltu a diolchodd i’r rhai a fu’n rhan ohoni am eu cyfraniadau.   Tynnodd sylw at feysydd i’w nodi yn y Strategaeth ddiwygiedig oedd yn cynnwys tair adran newydd yn ymwneud â lleihau allyriadau a chynyddu amsugno, cynyddu gwytnwch ac adfer natur ynghyd â chyflwyno adran ar gyllid, atodiad technegol a newidiadau i broses/polisi a chamau gweithredu/diweddariadau prosiect.  

 

Croesawodd y Cabinet y Strategaeth gan gefnogi ei gynnwys a’i uchelgais i gyflawni er mwyn cenedlaethau'r dyfodol er gwaetha’r anawsterau. Cyfeiriwyd at rôl bwysig y Cyngor fel arweinydd cymunedol a gofynnwyd a ellid gwneud mwy ar lefel gymunedol i godi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu’n well am natur frys yr agenda hwnnw. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau fod y Strategaeth yn gonglfaen, ochr yn ochr â’r Cynllun Corfforaethol, o ran dylanwadu a gweithio gyda phartneriaid a chytunodd bod angen creu ymwybyddiaeth ymhlith pobl gyda chamau gweithredu penodol yn y Strategaeth ar gyfathrebu a newid ymddygiad, a bod adnodd pwrpasol ar gyfer hynny wrth symud ymlaen.

 

Cododd y Cynghorydd Rhys Thomas nifer o gwestiynau technegol gyda’r Pennaeth Gwasanaeth i gael eu trafod ymhellach y tu allan i’r cyfarfod. Gofynnodd am sicrwydd bod y Cyngor, ar y cyd â mynd i’r afael a lleihau carbon, hefyd yn gweithio tuag at weithredu mewn ffordd sy’n gadarnhaol yn ecolegol, i gynyddu nifer y rhywogaethau prin a dod  â bywyd gwyllt yn ôl i Sir Ddinbych.  Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod mwy o gydbwysedd yn y Strategaeth newydd rhwng gweithredu ar garbon/yr hinsawdd ac adfer natur, a soniodd am waith oedd yn cael ei wneud ar y rhaglen adfer natur. Roedd hyfforddiant wedi cael ei ddarparu’n flaenorol ar lythrennedd carbon ac roedd hyfforddiant ar y gweill yn y dyfodol ar lythrennedd ecolegol, fyddai’n rhoi gwybodaeth i’r aelodau am y ddau faes.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)      argymell bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Strategaeth Hinsawdd a Natur (2021/22 – 2029/30) fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac yn

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

 

6.

CYNLLUN HIRDYMOR AR GYFER TREFI: Y RHYL pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y penderfyniadau dirprwyedig a’r camau a gymrwyd yn dilyn cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi ac yn cefnogi’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys, ac wedi’i hatodi, i’r adroddiad hwn, yn cynnwys penodiad Cadeirydd Bwrdd newydd y Rhyl ac aelodaeth arfaethedig y Bwrdd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad,  gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y penderfyniadau dirprwyedig a’r camau a gymerwyd fel rhan o fenter Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi a rhaglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn dilyn cyfarfod y Cabinet ar 21 Mai 2024.

 

Cafodd y Cabinet wybod am y camau a gymerwyd erbyn 3 Mehefin 2024 oedd yn cynnwys penodi Adam Roche fel Cadeirydd Bwrdd Tref y Rhyl ynghyd â manylion am Strwythur y Bwrdd, y Cylch Gorchwyl, Polisi Gwrthdaro Buddiannau a’r ffurflen Ffiniau’r Dref. Roedd y wybodaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU ynghlwm â’r adroddiad.   Cafodd y Cabinet wybod hefyd am gamau gweithredu oedd angen eu cymryd gan y Bwrdd erbyn 1 Tachwedd 2024 oedd yn cynnwys: cytuno ar lywodraethu; cytuno ar gynllun ymgysylltu; cynnal adolygiad o’r data; cynnal ymgysylltiad cyhoeddus; datblygu’r weledigaeth 10 mlynedd a datblygu’r cynllun cyflawni ar gyfer y 3 blynedd gyntaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield gwestiynau gweithdrefnol am y broses benodi ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd Tref a’i aelodaeth a’r wybodaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU. Gofynnodd hefyd am i ystyriaeth gael ei roi i benodi dau Gynghorydd Tref y Rhyl ar y Bwrdd. Wrth ymateb i faterion a godwyd, a chwestiynau pellach gan aelodau, ymatebodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Barry Mellor a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi fel a ganlyn -

 

·       ailadrodd y rhesymeg y tu ôl i ddirprwyo camau gan y Cabinet i alluogi’r tasgau gael eu cwblhau yn yr amserlen dynn i fodloni’r terfyn amser am yr arian, ac roedd yr holl fudd-ddeiliaid wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am y broses a’r cynnydd a wnaed

·       rhoddwyd eglurhad manwl am y broses drylwyr ar gyfer enwebu a phenodi Cadeirydd y Bwrdd Tref (yn cynnwys meini prawf, dethol, cyfweld, matrics sgorio a defnyddio ymgynghorydd) a rhinweddau penodi Adam Roche i’r rôl ynghyd ag aelodaeth y Bwrdd gan ystyried yr arweiniad a roddwyd o ran cynrychiolwyr statudol ac anstatudol.

·       roedd yr arweiniad wedi awgrymu rhwng 12 – 15 aelod ac roedd y Bwrdd yn cynnwys 16 aelod: 5 statudol ac 11 anstatudol er mwyn cael cynrychiolaeth dda o sectorau perthnasol. Mae’n bosibl y bydd cyfle hefyd i ffurfio is-grwpiau gyda mewnbwn ehangach gan y sectorau hynny i gyd-fynd â’r tair thema

·       nid oedd gofyniad statudol i gael cynrychiolydd o Gyngor Tref y Rhyl, ond er mwyn cydnabod eu rôl bwysig, roedd Cynghorydd Tref y Rhyl wedi cael ei gynnwys ar y Bwrdd. Ystyriwyd bod y cydbwysedd rhwng cynrychiolwyr etholedig a rhai o’r gymuned, busnes a sectorau eraill yn briodol ac yn unol â’r arweiniad

·       roedd sicrwydd wedi’i roi y byddai’r rhaglen yn parhau yn y dyfodol os oedd newid mewn llywodraeth ar ôl yr etholiad.

 

Wrth gloi, cyfeiriodd yr Arweinydd at y disgwyliad y byddai’r Bwrdd Tref yn gweithio gyda’r holl aelodau etholedig yn y Rhyl yn y dyfodol er lles y dref.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi ac yn cefnogi’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad hwn, ac wedi’i hatodi iddo, yn cynnwys penodiad Cadeirydd Bwrdd newydd y Rhyl ac aelodaeth arfaethedig y Bwrdd.

 

Ar y pwynt hwn (11.40am) cymerwyd egwyl am luniaeth.

 

 

7.

HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD 2023 I 2024 pdf eicon PDF 413 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), yn cyflwyno Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad ar gyfer 2023 i 2024 er mwyn i’r Cabinet ei ystyried a’i gadarnhau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, gan gynnwys y chwe cham gwella a restrwyd ym mharagraff 4.4 yn yr adroddiad, ac yn

 

(b)      cadarnhau cynnwys Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad 2023-2024 i’w gyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2024 i’w gymeradwyo.

 

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cynghorydd Gwyneth Ellis, cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau yr adroddiad a Hunanasesiad y Cyngor ar gyfer 2023 i 2024 er mwyn i’r Cabinet eu hystyried cyn iddynt fynd gerbron y Cyngor.   Roedd y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad hefyd yn bresennol.

 

Roedd Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad yn darparu dadansoddiad diwedd blwyddyn o gynnydd a heriau yn ôl amcanion perfformiad allweddol (h.y. themâu’r Cynllun Corfforaethol).

 

Arweiniodd y swyddogion yr aelodau drwy’r adroddiad oedd yn cynnwys Crynodeb Gweithredol (Atodiad I), yn tynnu sylw at berfformiad yn erbyn y Cynllun Corfforaethol a’r saith maes llywodraethu; yr Adroddiad Diweddaru Perfformiad (Atodiad Il) o fis Hydref at fis Mawrth 2024; camau gweithredu o’r Heriau Perfformiad Gwasanaeth (Atodiad Ill) a chwmpas drafft yr Asesiad Perfformiad Panel (Atodiad lV).  Roedd adborth eisoes wedi’i roi gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi iddynt ystyried yr adroddiad. Rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd a wnaed ynghyd â’r heriau oedd o’n blaenau. Nodwyd fod yn rhaid ystyried perfformiad yng nghyd-destun cyfyngiadau cyllidebol a disgwylid i’r cyflawniad fod yn arafach o’r herwydd o bosibl. Tynnwyd sylw penodol hefyd at y chwe gweithgaredd gwella a nodwyd.

 

Diolchodd y Cabinet i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a’r gwaith caled.

 

Canolbwyntiodd y prif faterion trafod ar y canlynol -

 

·       rhoddwyd disgrifiad manwl o bwrpas yr Asesiad Perfformiad Panel a’r disgwyliadau. Trafodwyd cwmpas drafft yr Asesiad a chafodd ei groesawu fel cyfle arall i asesu perfformiad o safbwynt gwahanol i arwain gwelliannau a pherfformiad gwell yn y dyfodol. Roedd y meysydd pwyslais drafft yn cynnwys Arweinyddiaeth, Cynigion ar y Gyllideb/Trawsnewid a Gweithio mewn Partneriaeth. Bydd y Cabinet yn cael adroddiad arall ym mis Gorffennaf i gymeradwyo’r trefniadau.

·       er ei bod yn bwysig cynnal uchelgeisiau’r Cyngor a pharhau i ymdrechu i wella, derbynnir bod llawer o faterion, o ran cyfyngiadau cyllidebol a’r economi ehangach, y tu hwnt i reolaeth y Cyngor

·       cafodd y problemau gyda chyflwyno'r gwasanaeth gwastraff newydd a’r effaith ar berfformiad, ynghyd â phroblemau eraill y tynnwyd sylw atynt yn y misoedd diwethaf eu codi fel pryder a hefyd yr effaith ar enw da’r awdurdod a’r thema o fod yn Gyngor sy'n cael ei gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei berfformiad. Roedd y prosiect gwastraff yn rhan o’r thema Sir Ddinbych Mwy Gwyrdd yn y Cynllun Corfforaethol a byddai sylwadau am ei gyflwyno yn rhan o adroddiad perfformiad chwarter 2.   Roedd pob awdurdod lleol yn wynebu heriau sylweddol i’r gyllideb ac roedd y gwaith yn canolbwyntio ar y rhaglen drawsnewid i gyflawni gwasanaethau. Roedd fframwaith rheoli perfformiad y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys dangosyddion rheoli ariannol

·       trafodwyd y thema Cyngor sy'n cael ei gynnal yn dda, ac sy’n uchel ei berfformiad yn fanwl a nodwyd bod perfformiad yn un o saith maes llywodraethu yr oedd yn ofynnol i’r Cyngor eu hasesu ar gyfer iechyd corfforaethol da. Rhan o bwyslais y thema hon yn y Cynllun Corfforaethol oedd meithrin dull “un Cyngor” o gefnogi’r naill a’r llall, gan weithio gyda’n gilydd i ymdrin â phroblemau’n agored a thryloyw, bod yn awdurdod dysgu, cydnabod perfformiad da a gwneud y gwelliannau angenrheidiol mor gyflym â phosibl mewn meysydd nad oedd yn perfformio cystal

·       unwaith eto, cydnabu’r Arweinydd y problemau wrth gyflwyno’r gwasanaeth gwastraff newydd a rhoddodd sicrwydd eto bod pob ymdrech yn cael ei wneud i’w datrys

·       ni chyfeiriwyd at achosion o dorri amodau cynllunio/gorfodaeth yn yr adroddiad perfformiad a chytunodd yr aelodau i godi’r mater gyda’r gwasanaeth perthnasol fel mesur posibl i’w gynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol ac adrodd yn ôl ar y canlyniad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nesaf

·       nod yr adroddiad oedd ystyried  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 410 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2023/24 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      Nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2023/24, ac yn

 

(b)      cymeradwyo sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2023/24 fel y disgrifir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 - 3.

 

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cynghorydd Gwyneth Ellis, cyflwynodd y Prif Gyfrifydd yr adroddiad ar sefyllfa refeniw derfynol 2023/24 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau, ac arweiniodd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad.

 

Yn fyr, y sefyllfa derfynol gyda chyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys tanwariant heb ei ddirprwyo o £115mil gan ysgolion) yw gorwariant o £513mil. Ynghyd â diffyg bychan o £163mil yn Nhreth y Cyngor a gasglwyd, mae’n golygu bod £676mil o gronfeydd wrth gefn Lliniaru’r Gyllideb wedi’i ddefnyddio i ariannu’r gorwariant net. Bu i ysgolion orwario o £5.258m gan arwain at gyfanswm gorwariant y gyllideb o £5.934m. Nodwyd y trosglwyddiadau i’r cronfeydd wrth gefn ac ohonynt, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn rhan o’r gyllideb neu wedi cael eu cymeradwy’n flaenorol. Yn olaf, cyfeiriwyd at gyllideb 2024/25, oedd yn broses barhaus ac roedd y gwaith yn parhau ar y cynigion ar gyfer arbed. Roedd risgiau’n gysylltiedig â rheoli cyllidebau a chyflawni arbedion bob amser ac roeddent yn cael eu monitro’n agos.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y pwysau sy’n wynebu’r Cyngor a’r amgylchiadau ariannol anodd wedi cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad. Roedd wedi bod yn falch o weld llwyddiant y mesurau rheoli’r gyllideb a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn mewn rhai gwasanaethau a bod meysydd galw risg uchel fel Gwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn parhau i gael eu monitro’n agos.   Yn olaf, pwysleisiodd yr Arweinydd mor bwysig oedd bod aelodau’n mynychu’r gweithdai cyllideb sydd yn yr arfaeth i sicrhau bod pawb yn rhan o’r broses honno yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)      nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer 2023/24; ac yn

 

(b)      cymeradwyo sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2023/24 fel y disgrifir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 - 3.

 

 

9.

RHAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 329 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm.