Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cofnodion: Y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a
Chymunedau |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dim datganiadau cysylltiad. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2024 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2024. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2024 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
CANLYNIAD ADOLYGIAD Y PWYLLGOR CRAFFU PARTNERIAETHAU O BENDERFYNIAD Y CABINET YNGHYLCH Y RHAGLEN DREIGL CYMUNEDAU DYSGU CYNALIADWY Ystyried
canlyniad adolygiad o’r penderfyniad a wnaethpwyd gan y Cabinet ar 23 Ebrill
2024 ynghylch y Rhaglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a oedd wedi cael ei
galw i mewn a’i hystyried gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 16 Mai 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi canlyniad yr
adolygiad o benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â Chymunedau Dysgu Cynaliadwy -
Rhaglen Dreigl. Cofnodion: Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a
Busnes fod y penderfyniad a wnaethpwyd gan y Cabinet ar 23 Ebrill 2024 ynghylch
y Rhaglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi cael ei alw i mewn ac wedi ei
ystyried gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 16 Mai 2024. Canlyniad yr adolygiad o benderfyniad y Cabinet oedd peidio â chyfeirio’r
mater yn ôl i’r Cabinet gan olygu na fyddai’r penderfyniad yn newid ac y bydd
yn cael ei weithredu. PENDERFYNWYD nodi canlyniad yr
adolygiad o benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â Chymunedau Dysgu Cynaliadwy -
Rhaglen Dreigl. |
|
ASESIAD DRAFFT O’R FARCHNAD DAI LEOL (LHMA) PDF 235 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
amgaeedig) yn cyflwyno’r Asesiad Drafft o’r Farchnad Dai Leol ar gyfer Sir
Ddinbych a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo Asesiad Drafft o Farchnad
Tai Lleol Sir Ddinbych i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a (b) dirprwyo awdurdod i Aelodau Arweiniol
Tai a Chymunedau i gytuno ar unrhyw fân newidiadau golygyddol sydd eu hangen
i’r Asesiad Drafft o’r Farchnad Dai Leol, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Cofnodion: Yn absenoldeb y Cynghorydd Rhys Thomas, bu i’r
Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, gyflwyno’r adroddiad a’r Asesiad Drafft
o’r Farchnad Dai Leol (LHMA) ar gyfer Sir Ddinbych a gofynnodd am gymeradwyaeth
y Cabinet i gyflwyno’r asesiad i Lywodraeth Cymru. Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) yn
archwilio'r angen/galw am dai nawr ac yn y dyfodol yn Sir Ddinbych ac mae'n
rhan allweddol o'r dystiolaeth sy'n cefnogi polisïau gan gynnwys y Cynllun
Datblygu Lleol a'r Strategaeth Tai a Digartrefedd. Roedd yn ofyniad statudol i’r Cyngor adolygu
anghenion o ran tai o bryd i’w gilydd ac mae’r LHMA wedi ei ddatblygu yn
seiliedig ar ganllawiau a methodoleg pecyn gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau
dull cyson ar draws bob awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad, Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai ac Uwch Swyddog -
Cynllunio Strategol a Thai yn bresennol.
Cynghorwyd y Cabinet fod yr LHMA am gyfnod o 15 mlynedd gydag adolygiad
llawn bob 5 mlynedd a diweddariad rhwng blwyddyn 2 a 3. Roedd yr LHMA yn darparu tystiolaeth
allweddol ar gyfer nifer o feysydd o waith y Cyngor ac roedd yn seiliedig ar
ddata, yn darparu tystiolaeth i gefnogi creu polisi wrth symud ymlaen. Roedd yn cynnwys 10 o ardaloedd marchnad dai
a ddiffiniwyd a bu ymgysylltu eang â budd-ddeiliaid wrth ei ddatblygu. Hysbyswyd y Cabinet ynglŷn â’r
canfyddiadau, yn gryno - ·
roedd y mwyafrif o’r angen
o ran tai o ganlyniad i ôl-groniad o’r angen presennol a dim ond rhan fechan
oherwydd twf y boblogaeth ·
roedd y mwyafrif o’r angen
ar gyfer tai rhent cymdeithasol ac eiddo llai 1 neu 2 ystafell wely gan fod
aelwydydd 1 neu 2 unigolyn yn cynrychioli 70% o boblogaeth Sir Ddinbych ·
roedd materion
fforddiadwyedd ar draws y rhan fwyaf o ddeiliadaeth tai ac roedd diffyg tai ar
gael yn fater allweddol o ganfuwyd, yn arbennig y rhai sydd ar gael i’w rhentu ·
roedd
angen 400 o gartrefi fforddiadwy fesul blwyddyn am y 5 mlynedd gyntaf o’r LHMA,
ar y sail y dylid bodloni’r angen presennol o fewn y 5 mlynedd gyntaf er bod
cwestiwn ynghylch a oedd hynny’n gyraeddadwy ai peidio ·
roedd angen 153 o gartrefi
fforddiadwy fesul blwyddyn am gyfnod 15 mlynedd yr LHMA ac felly roedd llawer o
waith yn digwydd o ran darparu tai fforddiadwy ar safleoedd datblygu, gan ail-ddefnyddio
eiddo gwag, a ffyrdd eraill amrywiol o gynyddu cyflenwad ·
ni fu i’r LHMA osod y
targed tai fforddiadwy ar gyfer y Cynlluniau Datblygu Lleol ond roedd yn rhan
o’r dystiolaeth gyffredinol ar gyfer y CDLl. Bu i’r Cabinet ystyried yr adroddiad cynhwysfawr,
gan nodi’r broses ddynodedig, canfyddiadau allweddol ac allbynnau o’r
asesiad. Gofynnwyd cwestiynau
ynglŷn â’r hyder yn y ffigyrau a gynhyrchwyd, cymysgedd tai'r farchnad
agored yn y dyfodol, bodloni’r angen am 400 o gartrefi fforddiadwy, ac ail-ddefnyddio
eiddo gwag. Ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau fel a ganlyn - ·
cyfeiriwyd at y cyfoeth o
ddata a chymhlethdod y model a soniwyd am y pedwar senario rhagolwg tai
gwahanol a ddefnyddiwyd, gan ddefnyddio prif ragamcan Llywodraeth Cymru i gefnogi
ffigwr angen o ran tai LHMA. Roedd y
ffigwr prif ragamcan o 3165 o gartrefi yn debyg i ofyniad y CDLl ar gyfer 3275
o gartrefi felly roedd hyder yn y ffigyrau hynny o ystyried y cysondeb rhwng y
ddau a’r broses gadarn a’r wybodaeth fanwl a oedd yn sail i’r LHMA. · o ran y cymysgedd y farchnad a awgrymwyd roedd gwahaniaeth rhwng yr angen a’r dyhead, ond y nod oedd darparu hyblygrwydd yn y farchnad dai o ystyried y dyhead am ystafell sbâr neu le astudio ac o ystyried yr ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYNLLUNIAU HIRDYMOR AR GYFER TREFI: Y RHYL PDF 238 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf
Economaidd a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd (copi yn amgaeedig) ynglŷn ag
oddeutu £20 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y Rhyl, fel rhan o fenter
Cynlluniau Hirdymor ar gyfer Trefi Llywodraeth y DU, a cheisio cymeradwyaeth y
Cabinet ar gyfer yr ymateb arfaethedig i’r camau gweithredu gofynnol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi a’r Arweinydd/Aelod
Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth
angenrheidiol i Lywodraeth y DU er mwyn bodloni gofynion y gronfa erbyn y
dyddiad cau, sef 3 Mehefin 2024. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jason
McLellan yr adroddiad ynglŷn â’r gronfa £20 miliwn a gyhoeddwyd yn
ddiweddar ar gyfer y Rhyl, rhoddodd ychydig o gefndir i’r adroddiad, a
gofynnodd am gefnogaeth y Cabinet i’r ymateb arfaethedig i’r camau gweithredu
sydd eu hangen. Mae’r adroddiad yn nodi’r prif
delerau ac amodau ar gyfer yr £20 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd ar gyfer y Rhyl
fel rhan o fenter Cynlluniau Hirdymor ar gyfer Trefi a rhaglen Ffyniant Bro
Llywodraeth y DU. Byddai cyllid yn cael
ei ddyfarnu i’r Cyngor a fyddai’n gyfrifol am y cyllid ac am gyflwyno’r
cynllun. Roedd angen cyflawni rhai
gweithredoedd erbyn 3 Mehefin 2024 (dyddiad terfynol diwygiedig o 1 Mehefin fel
nodwyd yn yr adroddiad) megis penodi Cadeirydd y Bwrdd Tref ynghyd â chyflwyno
Bywgraffiad y Cadeirydd, Strwythur y Bwrdd, Cylch Gorchwyl, Polisi Gwrthdaro
Buddiannau, a Ffiniau Tref. Er y
croesawyd yr arian roedd yr amserlen yn heriol a gofynnwyd am gymeradwyaeth y
Cabinet i ddirprwyo’r tasgau hynny i’r Swyddog Arweiniol a’r Arweinydd/Aelod
Arweiniol i gyrraedd dyddiad terfynol o ran cyllid. Rhoddwyd manylion y camau gweithredu dilynol
sy’n rhaid i’r Bwrdd eu cyflawni cyn 1 Tachwedd. Bu i’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd ymhelaethu ar gynnydd a’r gwaith a
wnaed hyd yma i gyflawni’r camau gweithredu angenrheidiol erbyn 3 Mehefin ac i
sicrhau’r cyllid a oedd yn ymwneud yn bennaf â threfniadau a thasgau
gweinyddol, gan gynnwys cyfweliadau i benodi Cadeirydd y Bwrdd yn ddiweddarach
yr wythnos honno, a chynrychiolaeth ac aelodaeth y Bwrdd. Roedd gwaith i’r ail ddyddiad terfynol o 1
Tachwedd yn ymwneud â’r weledigaeth hirdymor (10 mlynedd) ar gyfer y dref a
chynllun cyflawni 3 mlynedd yn seiliedig ar flaenoriaethau pobl leol ac roedd y
buddsoddiad a’r adfywio yn alinio â thair thema allweddol. Byddai’r dasg honno yn golygu llawer o waith
ymgysylltu ac roedd arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer hynny
(ar wahân i’r gronfa £20 miliwn).
Ychwanegodd yr Arweinydd fod llawer o waith wedi ei wneud mewn cyfnod
byr a mynegodd ei ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r broses honno. Roedd y Cabinet yn croesawu’r
arian ychwanegol ar gyfer y Rhyl a thrafodwyd amrywiol agweddau ar yr adroddiad
gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi a’r Amgylchedd. Roedd prif feysydd y
drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol - · nodwyd fod rhaid i weledigaeth a blaenoriaethau’r dref ar gyfer
buddsoddiad ac adfywio fod wedi eu halinio â’r themâu o (1) ddiogelwch, (2)
strydoedd mawr, treftadaeth ac adfywio, a (3) chludiant a chysylltedd a oedd yn
themâu eithaf eang ac yn addas ar gyfer y Rhyl - roedd gweledigaeth eisoes ar
gyfer y Rhyl a fyddai’n cael ei hadolygu ar y cyd â datblygiad y weledigaeth
hirdymor newydd er mwyn cysylltu ag un ddogfen gydlynol. · roedd rhywfaint o drafodaeth ynglŷn â’r cysyniad fod y Rhyl yn cael ei flaenoriaethu o flaen ardaloedd eraill yn y sir ar gyfer buddsoddiad, a oedd hefyd wedi ei adlewyrchu yn y Rhyl gyda rhai yn teimlo fod mwy o arian yn cael ei wario yn Rhuthun, a derbyniwyd fod angen i’r Cyngor fod yn glir wrth gyfathrebu gyda’r cyhoedd, er bod yr arian yn benodol ar gyfer y Rhyl, fod buddsoddiad yn cael ei wneud ar draws y sir gydag arian ffyniant bro ar gyfer De Clwyd a Gorllewin Clwyd yn ogystal â Dyffryn Clwyd ac arian ffyniant cyffredin ar draws y sir. Roedd y Rhyl yn denu buddsoddiad ychwanegol oherwydd ei heriau economaidd-gymdeithasol a’i bod yn cynnwys dwy o’r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru a bod buddsoddiad hefyd yn creu buddion cadarnhaol ar gyfer gweddill y sir. Roedd swyddogion yn mynd i ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET PDF 313 KB Derbyn Rhaglen
Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen
waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr
aelodau’r ychwanegiadau canlynol - ·
Diweddariad ar Strategaeth
a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 – 2027/28 - i’w ychwanegu i fis
Gorffennaf, Hydref ac Ionawr ·
Gosod Cyllideb Refeniw
2025/26 - i’w ychwanegu i fis Ionawr ·
Cynllun Cyfalaf 2025/26 –
2027/28 - i’w ychwanegu i fis Ionawr ·
Gosod Cyllideb Refeniw a
Threth y Cyngor 2025/26 - i’w ychwanegu i fis Chwefror Byddai’r Arweinydd yn trafod gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr
Economi a’r Amgylchedd am y posibilrwydd o ddod ag adroddiad diweddaru i’r
Cabinet ar y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi: y Rhyl fel y trafodwyd yn
gynharach ar y rhaglen. PENDERFYNWYD nodi rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.30pm. |