Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Win
Mullen-James. Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Win
Mullen-James a oedd yn sâl a dymunodd wellhad buan iddi. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod cofnodon y cyfarfod a gynhaliwyd ar
20 Chwefror yn cael eu derbyn a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20
Chwefror 2024 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
PENNU FFIOEDD CARTREFI GOFAL PRESWYL A NYRSIO 2024/25 PDF 487 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal
Cymdeithasol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer pennu
ffioedd cartrefi gofal ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn cymeradwyo gosod ffioedd cartrefi gofal gwaelodlin ar gyfer blwyddyn
ariannol 2024/25 yn unol â Thabl 1 ym mharagraff 4.5 yr adroddiad sy’n
cynrychioli cynnydd o 8.8%. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton yr adroddiad yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer gosod ffioedd cartrefi gofal preswyl a nyrsio
ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn dilyn ymgynghoriad â darparwyr gofal ac a
oedd yn cynnig cynnydd o 8.8%. Roedd ffioedd cartrefi gofal yn rhan sylweddol o’r gyllideb gofal
cymdeithasol flynyddol, gyda tua £13 miliwn yn cael ei ddyrannu i tua 364 o
leoliadau mewn 82 o gartrefi gofal.
Roedd darpariaeth gofal yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac roedd hyn wedi’i
adlewyrchu yn nyraniadau’r gyllideb ar gyfer 2024/25 i ddiogelu gofal
cymdeithasol ac addysg gymaint ag sy’n bosibl yn ystod argyfwng ariannu
Llywodraeth Leol. Rhoddwyd diweddariad
ar ymgysylltu â darparwyr gofal ynghyd â dewisiadau cynyddu ffioedd ar gyfer
2024/25. Gan ystyried y goblygiadau
ariannol, roedd dewisiadau cost is wedi’u cyflwyno hefyd, ond er bod y cynnydd
arfaethedig o 8.8% yn sylweddol uwch na setliad 3.8% y Cyngor a byddai’n
cynyddu gwariant o fwy na £1 miliwn, roedd yn cydbwyso fforddiadwyedd i
drethdalwyr lleol, cynaliadwyedd gwasanaethau hanfodol eraill, a sicrhau
iawndal teg i ddarparwyr gofal gwerthfawr ar ôl ystyried chwyddiant a’r Cyflog
Byw Gwirioneddol. Pwysleisiodd y Cynghorydd Heaton fod y Cyngor yn gwerthfawrogi eu
darparwyr gofal a’u bod yn ymrwymedig i feithrin perthynas agored a theg. Ni ddylai unrhyw ddarparwr deimlo eu bod yn
wynebu argyfwng ariannol oherwydd iawndal annheg am wasanaethau a byddai cynnig
ymarfer llyfr agored yn parhau i ganiatáu ymgysylltiad tryloyw a thrafodaeth
deg am gost wirioneddol gofal a defnyddio arian trethdalwyr yn effeithlon. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg
a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd yn bresennol ar gyfer
yr eitem hon. Eglurodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol fod y broses gosod ffioedd yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol
er mwyn cyflwyno argymhelliad i’w drafod mewn fforwm cyhoeddus gyda thryloywder
am y broses a gymaint ag sy’n bosibl o ymgysylltiad â darparwyr gofal a
chydweithwyr rhanbarthol. Roedd polisi
drws agored ar gyfer darparwyr gofal ac roedd trafodaethau am ffioedd cartrefi
gofal yn cael eu croesawu trwy gydol y flwyddyn. Roedd y Grŵp Ffioedd Rhanbarthol wedi’i
ail-sefydlu ac roedd ymgysylltiad wedi bod â darparwyr gofal eto a byddai
gwaith yn parhau gan ystyried adborth gan ddarparwyr. Bu’r Cabinet yn trafod yr adroddiad a nodi’r ymdrechion a wnaed i
ymgysylltu â darparwyr, y themâu sy’n codi o’r ymarfer ymgysylltu dechreuol ac
adborth dilynol ar ôl ymgynghoriad ar y cynnig ffioedd. Roedd y Cabinet yn awyddus i sicrhau bod pob
darparwr gofal yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i’w staff a gofynnwyd
cwestiynau o ran y dull ymgysylltu rheolaidd a chyfathrebu â darparwyr gofal,
yr angen i sicrhau bod darparwyr llai yn ymgysylltu'r un fath â’r broses, a
gofynnwyd am ragor o fanylion am liniaru’r risgiau a nodwyd yn yr adroddiad
hefyd. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion i’r cwestiynau a’r sylwadau
fel a ganlyn – ·
er ei bod wedi’i gwneud yn glir bod darpariaeth ar gyfer y Cyflog Byw
Gwirioneddol wedi’i chynnwys yn y gyfradd ffioedd a gynigiwyd a bod disgwyliad
i ddarparwyr gofal dalu’r Cyflog hwn i’w staff, nid oedd system gytundebol na
system arall i orfodi’r taliad yn gyfreithiol.
Fodd bynnag, pe na bai staff yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol, roedd yn
debygol y byddent yn gadael i weithio i ddarparwyr eraill a oedd yn talu’r
gyfradd honno. · Roedd Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol ac wedi sefydlu’r Fforwm Gwaith Teg gyda’r bwriad o sicrhau bod staff yn cael y tâl, telerau ac amodau, a’r gydnabyddiaeth maen nhw’n eu haeddu trwy fargeinio ar y cyd. Cadarnhawyd bod Fforwm Gofal Cymru (corff cynrychiadol ar gyfer darparwyr gofal ar ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r
cyllidebau a osodwyd ar gyfer 2023/24 a symud ymlaen yn erbyn y strategaeth a
gytunwyd. Cofnodion: Rhoddwyd crynodeb o
sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn – · y gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696
miliwn yn 2022/23) · rhagwelwyd y byddai gorwariant o £2.780 miliwn mewn cyllidebau
gwasanaeth a chorfforaethol · amlygwyd y risgiau ar hyn o bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â
chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol · nodwyd arbedion gwasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd ar gyfer
cyllideb 2023/24 (£8.172 miliwn) · rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r
Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a phrosiectau mawr. Arweiniodd y Pennaeth
Cyllid ac Archwilio yr Aelodau drwy’r adroddiad. Roedd gostyngiad bach wedi bod yn y
gorwariant a ragwelir ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £2.780 miliwn
gyda symudiad o £60,000 o’i gymharu â’r
mis diwethaf. Roedd y prif feysydd
gorwariant yn parhau i fod mewn Addysg a Gwasanaethau Plant, Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol a Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd, gyda
mân newidiadau o’r mis diwethaf. Roedd
y Cyfrif Refeniw Tai wedi nodi gostyngiad bychan yn eu tanwariant o £126,000 i
£110,000 oherwydd gostyngiad mewn rhent gyda rhagolygon o falans diwedd
blwyddyn o £812,000. Bu newid bach o ran
y defnydd a ragwelir o gronfeydd wrth gefn ysgolion, sef £7.026 miliwn o’i
gymharu â £7.054 miliwn y mis diwethaf.
Roedd yr atodiadau arferol wedi’u cynnwys ar y Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr. Oherwydd bod cyfrifon
y Cyngor yn cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ni fyddai’r adroddiad monitro
cyllid rheolaidd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ebrill; byddai’r
adroddiad cyllid ar gyfer mis Ebrill yn canolbwyntio ar y Strategaeth Ariannol
Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a byddai’n cynnwys strategaeth
lefel uchel ar gyfer gosod y gyllideb yn y dyfodol. Byddai’r adroddiad sefyllfa ariannol derfynol
ar gyfer 2023/24 yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Mai. Codwyd y materion
canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd – ·
Ailddatblygu Marchnad y Frenhines, y Rhyl –
roedd y cyfleuster wedi’i drosglwyddo i’r Cyngor ym mis Chwefror. Rhoddwyd sicrwydd nad oedd bwriad i geisio cyllid
ychwanegol gan fod cyllideb ddigonol ar gael i gwblhau’r prosiect yn barod ar
gyfer ei weithredu. Oherwydd rhesymau
sy’n ymwneud â sensitifrwydd masnachol, ni ellir rhoi rhagor o fanylion am
benodi gweithredwr ac agor y cyfleuster ar hyn o bryd, ond byddai’r wybodaeth
honno’n cael ei rhannu gydag Aelodau a’r cyhoedd ehangach cyn gynted ag sy’n
bosibl. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd y byddai’n barod i drefnu taith o’r
cyfleuster a gofynnodd i Aelodau roi gwybod iddo os oeddent am fynychu. Cytunodd hefyd y byddai’n canfod y costau i’r
Cyngor o gymryd cyfrifoldeb dros dro dros y cyfleuster a byddai’n adrodd yn ôl
wrth y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am hyn. · Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – cadarnhawyd y byddai’r gwariant hyd yma’n
cael ei rannu rhwng Llywodraeth Cymru (LlC) a’r Cyngor (CSDd), ac ar gyfer
ysgolion â gofynion dysgu ychwanegol, byddai hyn yn rhaniad o LlC 75% / CSDd
25%, ac ar gyfer ysgolion eraill, byddai hyn yn rhaniad o LlC 65% / CSDd 35%. · Tanwariant oherwydd rheoli swyddi gwag – roedd yr ymadrodd hwn wedi ymddangos sawl gwaith yn y Naratif Amrywiad Gwasanaeth (Atodiad 2 yr adroddiad) ac roedd yn adlewyrchu rheolyddion recriwtio sydd ar waith i ystyried pob swydd wag cyn iddi gael ei llenwi, gyda’r bwriad o leihau’r gorwariant mewn cyllidebau gwasanaeth. Roedd y broses yn cael ei dilyn ar gyfer swyddi gwag ar draws y Cyngor, nid dim ond ar gyfer maes gwasanaeth ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET PDF 310 KB Derbyn Rhaglen
Waith y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD
nodi rhaglen waith y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd
rhaglen waith y Cabinet i’w hystyried a nododd Aelodau fod ychwanegiad at gyfarfod
mis Ebrill sy’n ymwneud â Dyfarnu Cyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y DU (Rownd
3) – Etholaeth Dyffryn Clwyd. PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith
y Cabinet. Daeth
y cyfarfod i ben am 11.00 am. |