Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Byddai’r Cynghorydd Win Mullen-James yn cyrraedd y
cyfarfod yn hwyr oherwydd ymrwymiad cynharach. Cofnodion: Byddai’r Cynghorydd Win Mullen-James yn cyrraedd yn hwyr
oherwydd ymrwymiad cynharach. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
19 Rhagfyr 2023. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
Ystyried
canlyniad yr adolygiad o’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr
2023 yn ymwneud â’r cynnig am arbedion i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd/Siopau Un
Alwad a oedd wedi’i alw i mewn a’i ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar
11 Ionawr 2024. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (a) Bod y Cabinet yn cydnabod arsylwadau,
canlyniadau ac argymhellion Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei adolygiad o
benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â’r ‘Cynnig am Arbedion i’r Gwasanaeth
Llyfrgelloedd / Siop Un Alwad’, ac (b) Nad
yw’r Cabinet yn derbyn argymhelliad 3.2 adroddiad y Pwyllgor Craffu, mae’n
cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol a wnaeth ar 19 Rhagfyr 2023, ac yn ymgymryd
â mwy o waith i nodi ffynonellau cyllid amgen. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y
Pwyllgor Craffu Cymunedau yr adroddiad ar ganfyddiadau ac argymhellion y
Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2024 yn dilyn ystyried galw i mewn
benderfyniad y Cabinet a wnaed ar 19 Rhagfyr 2023 mewn perthynas â’r Cynnig
Arbedion Llyfrgell/Siop Un Alwad. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at y drafodaeth hirfaith yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar
sail galw’r penderfyniad i mewn, ac yn amlygu pryderon penodol y Pwyllgor
ynghylch y gostyngiad mewn oriau agor a’r effaith y byddai hynny’n ei chael ar
y canlynol – · argaeledd a hygyrchedd y gwasanaeth llyfrgelloedd a
siopau un alwad i breswylwyr, yn arbennig y rhai mwyaf diamddiffyn a’r rhai
wedi’u heithrio’n ddigidol · argaeledd ‘canolfannau clyd’ ar gyfer y rhai a gafodd eu
taro waethaf gan yr argyfwng costau byw, pobl a oedd yn unig, a’r rhai sy’n byw
gyda phroblemau iechyd a’u gofalwyr · argaeledd cyfleusterau llyfrgell ar gyfer plant a phobl
ifanc i’w defnyddio i astudio neu waith ymchwilio, neu fel lloches ddiogel i
ffwrdd o sefyllfaoedd personol neu deuluol anhrefnus · argaeledd llyfrgelloedd i'w defnyddio gan grwpiau
cymunedol a sefydliadau gwirfoddol er mwyn iddynt ddarparu gwasanaethau cymorth
a chyngor y mae mawr eu hangen i drigolion. Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu am effeithiau
negyddol anfwriadol posibl ar wasanaethau eraill y cyngor sydd eisoes dan
bwysau, yr effaith andwyol ar forâl staff a’r effaith y gallai colli staff
profiadol ei chael ar gapasiti’r gwasanaeth yn y dyfodol i ddarparu
gwasanaethau o safon. Teimlai'r Aelodau
nad oedd digon o ymchwiliadau wedi'u gwneud gyda chyrff allanol neu sefydliadau
allanol i sicrhau cyllid neu adnoddau eraill i helpu i gynnal y lefelau
gwasanaeth presennol cyn i benderfyniad gael ei wneud. O ganlyniad, gofynnwyd i’r Cabinet ailystyried
ei benderfyniad gwreiddiol gan ystyried casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor
Craffu bod y Cabinet yn -
(i)
cydnabod arsylwadau,
canlyniadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei adolygiad o
benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â’r ‘Cynnig am Arbedion i’r Gwasanaeth
Llyfrgelloedd/Siop Un Alwad’; ac
(ii)
yn cytuno i argymhelliad y
Pwyllgor i ohirio gweithrediad y penderfyniad nes fydd mwy o gwaith archwilio
wedi’i gwblhau er mwyn canfod ffynonellau cyllido amgen sydd ar gael i’r Cyngor
a chyrff partner eraill yn y sector preifat neu’r sector cyhoeddus. Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Williams am
adrodd ar drafodaeth ac argymhellion y Pwyllgor Craffu. Diolchodd y Cabinet hefyd i'r Pwyllgor
Craffu am eu gwaith. Cydymdeimlodd y Cynghorydd Emrys Wynne â'r pryderon a godwyd ynghylch yr effaith bosibl y byddai gostyngiad mewn oriau yn ei chael fel y nodwyd yn yr adroddiad. Fodd bynnag, roedd yn parhau o’r un farn bod y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn, a’r pryderon hynny, wedi’u trafod yn drylwyr gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr a bod y Cabinet wedi bod yn gwbl ymwybodol o’r holl faterion a risgiau hynny pan wnaed y penderfyniad. Roedd angen y penderfyniad i ymateb i'r her ariannol ddifrifol a gosod cyllideb gytbwys. Roedd y Cabinet wedi gwrando ac ymateb i adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus gyda newidiadau yn arwain at tua 30 o oriau agor ychwanegol o gymharu â'r cynnig gwreiddiol ac agor ar ddiwrnodau penodol. Nid oedd yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Craffu i ohirio gweithredu’r penderfyniad hyd nes y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud i ganfod ffynonellau ariannu amgen. Roedd eisoes wedi ymrwymo i weithio gydag aelodau, swyddogion, a Chynghorau Dinas/Tref/Cymuned i ystyried modelau amgen o ddarparu gwasanaethau llyfrgell gyda’r bwriad o ddiogelu a thyfu’r ddarpariaeth honno at y dyfodol, lliniaru’r toriadau, a chwilio am ffynonellau incwm eraill, ac roedd angen dybryd i osod cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYLLIDEB Y CYNGOR 2024/25 PDF 275 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn nodi goblygiadau Setliad Drafft
Llywodraeth Leol 2024/25 a chynigion i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet – (a) yn nodi effaith y Setliad
Dros Dro ar gyfer 2024/25; (b) cefnogi’r cynigion a
amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr
adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn
derfynol ar gyfer 2024/25; (c) argymell i’r Cyngor y cynnydd
cyfartalog o 8.23% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ynghyd ag
1.11% yn ychwanegol ar gyfer y cynnydd yn yr ardoll i Awdurdod Tân ac Achub
Gogledd Cymru; mae hyn yn hafal i gynnydd cyffredinol o 9.34% a gynigir; (d) argymell i’r Cyngor bod
awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Bennaeth Cyllid ac Archwilio mewn ymgynghoriad
ag Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian wrth gefn sydd wedi’i
gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500,000 os oes yna symud rhwng
ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y
Cyngor yn amserol; (e) cefnogi’r strategaeth i
ddefnyddio arian wrth gefn fel y nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad a’i
hargymell i’r Cyngor llawn; a (f) chadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel y nodir yn Adran 7
yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Gwyneth Ellis yr adroddiad yn nodi goblygiadau Setliad Ariannol Dros Dro
Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol 2024/25 a chynigion i osod cyllideb
gytbwys ar gyfer 2024/25, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor. Roedd yr heriau ariannol
digynsail a oedd yn wynebu’r cyngor, ynghyd â’r holl awdurdodau lleol eraill,
yn golygu bod angen proses wahanol i bennu’r gyllideb ac roedd wedi bod yn
broses hynod o anodd ac anghyfforddus.
Diolchodd y Cynghorydd Ellis i bawb a gymerodd ran yn y broses honno a
oedd wedi arwain at gyflwyno cyllideb gytbwys. Darparodd y Cynghorydd Ellis
a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio drosolwg o broses y gyllideb a’r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’u hargymell
i’r Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25. Yn gryno, roedd y setliad dros dro wedi
arwain at gynnydd arian parod o 3.6% (£6.720m) ac yn dilyn addasiad sylfaen
treth y cyngor roedd yn uwch na’r gymhariaeth arian parod ar 3.7% (o gymharu â
chyfartaledd Cymru o 3.1%) gyda’r setliad terfynolyn cael ei ddisgwyl yn gynnar
ym mis Mawrth. Roedd y setliad yn
cynnwys pob cynnydd mewn cyflogau i athrawon a swyddi nad ydynt yn rhai addysgu
a chyfrifoldeb i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal. Rhoddwyd manylion am bwysau gwerth £24.682
miliwn ac roedd y setliad dros dro yn cynhyrchu £6.720 miliwn gan adael bwlch
cyllido gwerth £17.962 miliwn gyda chynigion i gau’r bwlch hwnnw wedi eu nodi
yn yr adroddiad a’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod. Cynigiwyd codiad Treth y Cyngor o 8.23%
ynghyd ag 1.11% ychwanegol (newid i'r ffigwr dangosol o 1.3% yn yr adroddiad)
ar gyfer y cynnydd yn yr ardoll i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru sy'n
cyfateb i godiad cyffredinol o 9.34% i gynhyrchu £7.580 miliwn o refeniw
ychwanegol. Tynnwyd sylw hefyd at y
defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gynorthwyo gyda gosod
y gyllideb. Roedd y risgiau o beidio â
chyflawni cyllideb gytbwys hefyd wedi'u nodi ynghyd â mesurau lliniaru a gwaith
pellach sydd ei angen yn y dyfodol.
Roedd y rhagolygon ariannol tymor canolig yn edrych yr un mor
heriol. Gan fod y setliad terfynol yn
hwyr, argymhellwyd bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo er mwyn galluogi
addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500,000. Roedd yn bwysig nodi pe na bai cynigion yn
yr adroddiad yn cael eu derbyn, bod yn rhaid cyflwyno cynigion amgen er mwyn cyflawni cyfrifoldeb statudol y Cyngor i osod
cyllideb gytbwys. Yn ystod y drafodaeth
condemniodd y Cabinet y sefyllfa ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol a oedd
yn golygu bod yn rhaid gwneud toriadau difrifol i wasanaethau hanfodol er mwyn
pennu cyllideb gytbwys a galwyd am gyllid gwell a chynaliadwy i ddarparu'r
gwasanaethau hynny. Nodwyd bod galwadau
diweddar wedi’u gwneud gan Aelodau Seneddol ar draws y sbectrwm gwleidyddol i
Lywodraeth y DU ddarparu cyllid ychwanegol i lywodraeth leol. O ystyried y cyd-destun ariannol presennol, roedd
y Cabinet yn credu bod cynigion y gyllideb yn cynrychioli’r canlyniad gorau i
sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol a dysgwyr ysgol yn cael eu
hamddiffyn cyn belled ag y bo modd ac i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed
mewn cymdeithas. Croesawodd y Cabinet y setliad uwch na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru ond nododd ei fod yn seiliedig ar ddata a fyddai’n arwain at alw uwch am wasanaethau ac nad oedd yn newid y sefyllfa gyllidebol yn sylweddol o ystyried y byddai darparu gwasanaethau yn 2024/25 yn costio £24.682 miliwn ychwanegol o gymharu â 2023/24, yn bennaf oherwydd pwysau chwyddiant a chynnydd mawr yn y galw gan wasanaethau cleientiaid. Cydnabuwyd y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR “DRETH GYNGOR DECACH” PDF 239 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer
yr ymateb arfaethedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar “Dreth Gyngor
Decach”. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r
ymgynghoriad fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad, a chefnogi argymhellion
swyddogion ynglŷn â’r cynnig ehangach a’i gyflawni drwy ddull
cynyddrannol, a (b) gweithredu’r penderfyniad ar unwaith fel
penderfyniad brys dan Adran 7.25 Cyfansoddiad y Cyngor yn seiliedig ar y
rhesymeg a nodir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r ymateb arfaethedig i ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar “Dreth Gyngor Decach”. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cychwyn
ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i system Treth y Cyngor gyda’r nod o
wneud dosbarthu trethi’n decach drwy ostwng Treth y Cyngor i’r rhai yn y bandiau
is a allai gael trafferth cyfrannu tra’n ei chynyddu ar gyfer y rhai yn y
bandiau uwch. Gofynnwyd am farn ar dri
opsiwn: (1) Diwygio ar Raddfa Fach; (2) Diwygio ar Raddfa Gymedrol, a (3)
Diwygio Ehangach ynghyd ag amserlenni gweithredu. Arweiniodd y Prif Reolwr
Refeniw, Budd-daliadau a Chontractau'r Cabinet drwy fanylion yr adroddiad ar yr
ymgynghoriad ynghyd â'r rhesymeg y tu ôl i'r ymateb arfaethedig a'r risg, y
materion a'r manteision i'r Cyngor a'i drigolion. Ar ôl rhoi trosolwg o'r tri opsiwn, argymhellwyd
bod y Cabinet yn cefnogi'r Diwygio Ehangach, gan ei fod yn cael ei ystyried fel
y ffurf decaf o opsiwn trethiant o fewn yr ymgynghoriad ar gyfer trigolion.Mae’r risg
bosibl i’r Cyngor drwy ddibynnu mwy ar gyllid Grant Cynnal Refeniw wedi cael ei
amlygu yn yr ymateb arfaethedig a gofynnwyd i Lywodraeth Cymru roi mwy o
sicrwydd ar effeithiau cyfatebol y Grant Cynnal Refeniw. Er mwyn sicrhau bod unrhyw effeithiau’n cael
eu deall yn llawn a’u bod yn cael eu rhoi ar waith ar gyflymder y gellir ei
reoli gan y cyngor, cynigwyd cefnogi’r dull fesul cam. Argymhellwyd hefyd bod penderfyniad y Cabinet
ar yr ymateb arfaethedig i’r ymgynghoriad yn cael ei weithredu ar unwaith er
mwyn sicrhau bod yr ymateb yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau. Croesawodd y Cabinet y newidiadau arfaethedig i
system Treth y Cyngor i wneud y dreth yn decach ac yn fwy blaengar a chefnogodd
argymhellion yr adroddiad a'r opsiwn Diwygio Ehangach a fyddai o'r budd gorau i
drigolion Sir Ddinbych. Fodd bynnag,
roedd y posibilrwydd o dynnu £8 miliwn o sylfaen treth y cyngor o ganlyniad i
symud i’r strwythur bandiau newydd yn y cynllun estynedig a’r ddibyniaeth ddilynol
ar y golled honno’n cael ei digolledu gan y Grant Cynnal Refeniw yn achos
pryder a thynnodd y Cabinet sylw at bwysigrwydd setliad Grant Cynnal Refeniw
teg a chymesur i alluogi'r awdurdod i ddarparu gwasanaethau i drigolion. Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio
weithrediad y system bresennol o ddyrannu'r Grant Cynnal Refeniw ar sail gallu
awdurdodau lleol i godi Treth y Cyngor a pharhad yr egwyddor honno i'r dyfodol
ond byddai angen rhagor o fanylion er mwyn deall yn well oblygiadau llawn y
newid hwnnw, a dyna pam y ceisir sicrwydd gan Lywodraeth Cymru yn yr ymateb i'r
ymgynghoriad. Ychwanegodd y Cynghorydd
Gill German ei bod yn bwysig i bob awdurdod lleol ymateb i’r ymgynghoriad er
mwyn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r
ymgynghoriad fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad, a chefnogi argymhellion
swyddogion ynglŷn â’r cynnig ehangach a’i gyflawni drwy ddull fesul cam, a (b) gweithredu’r penderfyniad ar unwaith fel
penderfyniad brys dan Adran 7.25 Cyfansoddiad y Cyngor yn seiliedig ar y
rhesymeg a nodir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd
yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23) ·
rhagwelwyd y byddai
gorwariant o £3.229 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
amlygwyd y risgiau ar hyn o
bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ·
rhoddwyd manylion arbedion
ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn) ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr. Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr
Aelodau drwy’r adroddiad. Bu gostyngiad
bychan yn y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o
£96k o gymharu â’r mis blaenorol ac roedd y prif feysydd gorwariant yn parhau i
fod oherwydd pwysau ym meysydd Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd,
Addysg a Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol. Bu cynnydd yn y Gwasanaethau Addysg a Phlant
oherwydd bod anghenion dau leoliad presennol yn cynyddu gan arwain at symudiad
negyddol o £480k a oedd wedi’i wrthbwyso gan wasanaethau’n canfod arbedion yn
ystod y flwyddyn drwy roi’r gorau i wariant nad oedd yn hanfodol ac oedi
gwariant lle bo modd. Roedd y Cyfrif
Refeniw Tai wedi nodi gostyngiad bychan yn eu tanwariant o £122k i £108k oherwydd
gostyngiad bychan mewn incwm rhent gyda rhagolygon o falans diwedd blwyddyn o
£754k. Nid oedd unrhyw newid yn y
defnydd a ragwelwyd o gronfeydd wrth gefn ar gyfer ysgolion. Roedd yr atodiadau arferol wedi’u cynnwys ar
y Cynllun Cyfalaf a Phrosiectau Mawr. Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelod Arweiniol a'r
Pennaeth Gwasanaeth am eu gwaith caled parhaus ac ailadroddodd bwysigrwydd yr
adroddiadau monitro rheolaidd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd
yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 298 KB Derbyn Rhaglen Gwaith
i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen waith i’r dyfodol y Cabinet i’w
hystyried a nododd yr aelodau un ychwanegiad ar gyfer mis Chwefror ar ‘Cynigion
Cyllideb Gyfalaf 2024/25’. PENDERFYNWYD nodi rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol, dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai
gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym
Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
GWAREDU FFERM PERONNE, FFORDD COPPY, DINBYCH Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddatgan nad oes angen Fferm Peronne ar y Cyngor bellach a chymeradwyo
ei gwaredu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo datgan nad oes angen Fferm
Peronne, sydd ag amlinell goch ar y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad, a
chymeradwyo cael gwared â’r fferm fel y nodir yn yr adroddiad, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad D yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
cyfrinachol yn gofyn am sêl bendith y Cabinet i ddatgan bod Peronne Farm yn
warged i ofynion y Cyngor ac i gymeradwyo cael gwared arni fel y nodir yn yr
adroddiad yn unol â'r polisi presennol. Dywedwyd wrth y Cabinet bod yr eiddo'n rhan o'r
Ystâd Amaethyddol a darparwyd manylion ei drefniadau gweithredu presennol
ynghyd â'r cytundebau tenantiaeth sydd ar waith a'r telerau gwaredu
arfaethedig. Fel rhan o'r broses
cysylltwyd ag aelodau ward lleol a'r cyngor cymuned lleol ac ni dderbyniwyd
unrhyw wrthwynebiadau i'r gwarediad.
Roedd y Grŵp Rheoli Asedau hefyd yn cefnogi'r gwarediad fel y
nodwyd ac yr argymhellwyd i'r cyngor. Wrth ystyried yr adroddiad nododd y Cabinet y
byddai cyfran o elw net y gwerthiant yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwariant
cyfalaf cyfredol a fyddai'n lleihau costau benthyca'r Cyngor ac yn caniatáu
rhyddhau cyllid o'r gyllideb ariannu cyfalaf i ariannu'r pwysau parhaus a
grëwyd gan y gwarediad, a oedd yn dal i adael derbyniad cyfalaf sylweddol. O ran darparu manylion y derbyniadau cyfalaf
a gynhyrchwyd a'u defnydd, gellid cynnwys y wybodaeth hon yn y Strategaeth
Gyfalaf yn y dyfodol. Byddai'r Cabinet
yn trafod y Cynllun Cyfalaf yn ei gyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo datgan nad oes angen Fferm
Peronne, sydd ag amlinell goch ar y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad, a
chymeradwyo cael gwared â’r fferm fel y nodir yn yr adroddiad, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad D yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm. |