Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PROFEDIGAETH Bu’r Arweinydd yn myfyrio ar farwolaeth y Cynghorydd
Peter Prendergast, y bu’n gweithio agos ag o fel Cadeirydd, ac a fyddai’n cael
ei golli’n fawr. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Jason McLellan – Cysylltiad Personol sy’n
Rhagfarnu – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Jason McLellan gysylltiad personol
sy’n rhagfarnu ag eitem 5 ar y Rhaglen – Datrysiad Storio ar gyfer ein
Casgliadau Archifau, gan fod cydnabod personol agos iddo yn gweithio ar y
prosiect yng Nghyngor Sir y Fflint. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
19 Medi 2023. Materion yn codi – Eitem 5, Ail Bleidlais Ardal Gwella
Busnes (AGB) y Rhyl – gofynnodd y Cynghorydd Barry Mellor a allai’r Arweinydd
gadarnhau bod Cyngor Tref y Rhyl wedi ysgrifennu ato yn mynegi pryder
ynglŷn â sylwadau anghywir a fynegwyd gan y Cynghorwyr Justine Evans a
Brian Jones yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet yn ymwneud â rhan y Cyngor Tref
yn AGB y Rhyl, ac a fyddai camau pellach yn cael eu cymryd gan y Cyngor Sir
parthed hynny. Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod wedi derbyn llythyr gan
Glerc Tref y Rhyl, a rannwyd gyda’r Swyddog Monitro oherwydd ei gynnwys. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod wedi
derbyn llythyr gan Gyngor Tref y Rhyl yn mynegi pryderon ynglŷn â rhai
gwallau ffeithiol yn ymwneud â rhan y Cyngor Tref yn AGB y Rhyl, ac yn mynnu
bod y Cyngor Tref yn cael cynrychiolaeth o AGB y Rhyl pan fo hynny’n briodol.
Yr oedd hefyd yn mynegi pryder ynglŷn â honiad a wnaed am y Cyngor Tref. Yr oedd y Swyddog Monitro wedi siarad gyda
Chlerc y Dref, a chadarnhau nad oedd yn fater i’r Cyngor Sir ymchwilio iddo os
oedd cwyn wedi ei wneud ynglŷn â’r Cyngor Tref, ond os oedd gan unrhyw un
bryderon ynglŷn â’r Cyngor Tref, dylai’r sawl sydd â phryder ysgrifennu at
y Cyngor Tref fel ei fod yn gallu ymdrin â’r mater. Os oedd gan y Cyngor Tref unrhyw bryder
ynglŷn ag ymddygiad unrhyw aelod unigol, gallai ddilyn y broses briodol i
ymdrin â’r mater pe dymunai. Holodd y Cynghorydd Brian Jones am y sefyllfa parthed
gweddarllediad y cyfarfod hwnnw, a oedd wedi ei dynnu oddi ar wefan y
Cyngor. Dywedodd y Swyddog Monitro fod
gofyniad i ddarlledu’r cyfarfod ond nad oedd gofyniad i gadw’r gweddarllediad
ar y wefan, ac eglurodd yr amgylchiadau lle gellid tynnu gweddarllediad oddi ar
y wefan, gan gynnwys pryderon yn ymwneud â gwybodaeth bersonol. Cadwyd copi o’r gweddarllediad, a phe ceid
cais rhyddid gwybodaeth ystyrid a oedd unrhyw eithriadau yn berthnasol i unrhyw
wybodaeth a geid yn y gweddarllediad.
Dywedodd y Cynghorydd Jones efallai y byddai’n cyfathrebu ymhellach
gyda’r Prif Weithredwr am y mater. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
DATRYSIAD STORIO AR GYFER EIN CASGLIADAU ARCHIFAU PDF 237 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a
Threftadaeth (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer y dewis a
ffefrir ar gyfer storio casgliadau archif y Cyngor yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cefnogi Dewis 2 fel y dewis a ffefrir,
h.y. (yn amodol ar gais llwyddiannus, gweler (b) isod) adeiladu cyfleuster
archifau newydd ar y cyd ar gampws Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, i symud
casgliadau ein harchifau o Garchar Rhuthun, a datblygu cynllun gweithgareddau
sy’n seiliedig ar y gymuned i gyrraedd cymunedau ledled Sir Ddinbych. Yr oedd crynodeb manwl o’r dewisiadau a oedd
ar gael wedi ei ddarparu yn Atodiad A yr adroddiad; (b) awdurdodi swyddogion i gyflwyno cais am
gyllid ar y cyd gyda Chyngor Sir y Fflint i Gronfa Dreftadaeth y Loteri
Genedlaethol Cymru, yn ceisio grant cyfalaf o £7 miliwn i ariannu adeilad
di-garbon pwrpasol ar gampws Theatr Clwyd; (c) dyrannu £2,052,358 o gyllid cyfalaf Cyngor
Sir Ddinbych fel ein harian cyfatebol tuag at y cyfleuster archifau newydd ar y
cyd, yn amodol ar gais llwyddiannus am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri
Genedlaethol; (d) cefnogi
paratoi cynlluniau i wella’r cynnig i ymwelwyr yng Ngharchar Rhuthun, gan
gynnwys cadw presenoldeb yr archifau ar y safle, a bydd y gwasanaeth yn agored
bum niwrnod yr wythnos gyda gwasanaeth digidol ar gael drwy gydol yr amser, a
gwasanaeth archifydd ar un o’r dyddiau hynny o leiaf; a (e) chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad C
yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Wedi iddo ddatgan cysylltiad personol sy’n
rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, y
cyfarfod am yr eitem hon a chadeiriwyd gan y Cynghorydd Gill German. Cyflwynodd y Cynghorydd Emrys Wynne adroddiad yn
ceisio cefnogaeth y Cabinet i’r dewis a ffefrir ar gyfer storio casgliadau
archifau’r Cyngor yn y dyfodol. Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gasglu,
cadw a gwneud dogfennau o bwysigrwydd hanesyddol yn hygyrch. Yr oedd gwasanaeth archifau ar y cyd â
Chyngor Sir y Fflint (CSyFf) wedi ei sefydlu’n flaenorol, ac, oherwydd bod y
ddau Gyngor yn wynebu problemau tebyg gydag adeiladau nad ydynt yn addas i’r
diben mwyach ar gyfer storio deunydd archifol, yr oedd awydd i ganfod datrysiad
ar y cyd. Amlygwyd y problemau sy’n
gysylltiedig â storio archifau yng Ngharchar Rhuthun, a’r angen am ddatrysiad
cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Yr oedd
yr adroddiad yn nodi’r dewisiadau amrywiol sydd ar gael, a’u
hymarferoldeb. Yr oedd costau sylweddol
i bob un o’r dewisiadau, a risgiau posibl, ond gan fod y trefniadau presennol
yn anghynaladwy a heb fod yn gallu cyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor, nid
oedd “gwneud dim” yn opsiwn. Felly,
rhoddwyd dadl dros y dewis a ffefrir, sef adeilad archifau ar y cyd yn yr
Wyddgrug (yn amodol ar gyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol) a
chynigion ar gyfer Carchar Rhuthun er mwyn gwella’r cynnig i ymwelwyr. Dywedodd y Cynghorydd Wynne fod y Cabinet blaenorol
wedi cymeradwyo cynnig tebyg ym mis Tachwedd 2020, ond bu’r cais am gyllid yn
aflwyddiannus. Dywedodd Pennaeth Tai a
Chymunedau y byddai cyfraniad ariannol Sir Ddinbych ychydig dros £2 miliwn a
byddai’n darparu adnodd a oedd yn costio cyfanswm o £12 miliwn, darparu mwy o
wytnwch ar gyfer darparu gwasanaeth a gwneud gwell cyfraniad tuag at
flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Ni fyddai angen benthyca darbodus ar
gyfer y prosiect tan 2026/27. Ystyriwyd yr adroddiad a’r dewisiadau sydd ar gael
yn ofalus gan y Cabinet, ynghyd â’r rhesymeg dros yr argymhelliad a’r dewis a
ffefrir wrth symud ymlaen. Yr oedd y
Cabinet wedi trafod y mater ar sawl achlysur ac wedi herio swyddogion i
archwilio pob dewis yn llawn, yn arbennig o ystyried y costau sylweddol sy’n
gysylltiedig â’r prosiect, a hynny yng nghyd-destun y pwysau cyllidebol
digynsail a oedd yn wynebu’r awdurdod, a phenderfyniadau anodd yn gorfod cael
eu gwneud parthed cwtogi gwasanaethau a thoriadau i’r gyllideb er mwyn darparu
cyllideb gytbwys. Yn ogystal, gwnaed y
pwynt bod y sefyllfa ariannol enbyd sy’n wynebu awdurdodau lleol yn ganlyniad i
benderfyniadau uniongyrchol a wnaed gan Lywodraeth y DU dros nifer o
flynyddoedd. Derbyniodd y Cabinet fod
gwasanaeth archifau yn wasanaeth statudol a bod angen datrysiad, a chan
ystyried y gwaith a wnaed gan swyddogion ac ar ôl ystyried y dewisiadau a
gyflwynwyd yn ofalus, cytunwyd mai’r dewis a ffefrir, fel y’i nodwyd, oedd y
dewis gorau er mwyn sicrhau gwasanaeth cynaliadwy a gwydn yn y dyfodol, ac er
mwyn galluogi’r Cyngor i fodloni ei ddyletswyddau statudol yn hynny o
beth. Nodwyd buddion eraill hefyd, fel y
manylir yn yr Asesiad o Effaith ar Les, i ehangu safle Carchar Rhuthun, a
fyddai’n cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn hybu’r economi leol yn Rhuthun a’r cyffiniau,
ynghyd â chynlluniau i helaethu ac amrywio cynulleidfa’r gwasanaeth, a bod o
fudd i gymunedau lleol ac addysg. Yr oedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio
ar y canlynol – · nododd y Cynghorydd Gwyneth Ellis mai CSyFf fyddai’n berchen ar y cyfleuster archifau newydd, a holodd pam na allai Sir Ddinbych fod yn berchen ar 40% yn unol â chyfraniad ariannol y sir. Dywedodd y swyddogion fod CSyFf yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
YSGUBORIAU HALEN (DE) LÔN PARCWR A CHORWEN PDF 220 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Chludiant (copi ynghlwm) yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen â phrosiect Ysguboriau Halen (De) i’r
cam tendro a chaffael. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo proses dendro a chaffael y
prosiect er mwyn datblygu adeiladau newydd a hwyluso storfa ddiogel a chywir ar
gyfer halen at ddibenion gweithrediadau cynnal a chadw’r gaeaf sydd yn
gwasanaethu de’r Sir, ynghyd â gwelliannau llety a storfa offer a lles yn safle
Corwen, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad A yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor adroddiad yn
ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen â phrosiect Ysguboriau Halen (De)
i’r cam tendro a chaffael. Datblygwyd cynigion dan ddau brosiect ar wahân i
hwyluso’r gwaith o ddylunio ac adeiladu dau gyfleuster storio halen pwrpasol –
un ar gyfer depo Lôn Parcwr, Rhuthun, ac un ar gyfer depo Corwen – yn ogystal â
gwella cyfleusterau lles drwy gael rhywbeth yn lle’r adeiladau ‘Portakabin’
dros dro yng Nghorwen. Yr oedd y
cymeradwyaethau a’r cyllid angenrheidiol eisoes wedi eu dyfarnu ar gyfer pob
prosiect unigol, ond gan fod y ddau brosiect wedi eu grwpio gyda’i gilydd ers
hynny at ddibenion tendro fel prosiectau dylunio ac adeiladu, yr oedd cyfanswm
gwerth y contract yn fwy na £2 miliwn ac, felly, yr oedd angen cymeradwyaeth y
Cabinet er mwyn symud y prosiect yn ei flaen i’r cam caffael. Darparodd Rheolwr yr Uned Waith a Gwasanaethau
Stryd drosolwg o’r adroddiad a’r rhesymeg y tu ôl i’r prosiectau er mwyn mynd
i’r afael â materion amgylcheddol presennol yn ymwneud â storio halen yn y
depos, yn ogystal â’r gwelliant a oedd wirioneddol ei angen o ran cyfleuster ar
gyfer iechyd a diogelwch a lles staff.
Eglurwyd manteision cyfuno’r ddau brosiect ysgubor halen unigol i un
prosiect at ddibenion tendro i sicrhau gwell gwerth am arian a datrysiad mwy
costeffeithiol ar gyfer y Cyngor. Atebodd y swyddogion gwestiynau aelodau’r Cabinet
fel a ganlyn – ·
cadarnhawyd bod ceisiadau
ar wahân am gyllid wedi eu cymeradwyo’n flaenorol ar gyfer y ddau brosiect –
gan y Grŵp Buddsoddi Strategol a’r Cabinet – ac yr oedd cyllid eisoes wedi
ei ddyrannu ar gyfer y prosiectau o Gronfa Blaenoriaethau Cyfalaf Sganio’r
Gorwel ·
eglurwyd bod gweithrediadau
o safle Corwen wedi eu hatal oherwydd bod halen yn cael ei olchi i’r system
ddraenio, ac yr oedd ychwanegion wedi eu holrhain i’r Cyngor gan Gyfoeth
Naturiol Cymru. Ers hynny, yr oedd yr
holl waith graeanu yn ne’r sir wedi ei weithredu o Lôn Parcwr. Arweiniodd hynny
at gynnydd mewn amser teithio ac amser anghynhyrchiol, gan arwain hefyd at fwy
o allyriadau carbon ·
dywedwyd bod rhai problemau
llygredd posibl mewn perthynas ag Afon Dyfrdwy wedi eu codi gan Gyfoeth
Naturiol Cymru, ac yr oedd rhai o’r profion a wnaed ar y pryd yn cynnwys olion
o halen. Nododd y Cabinet fod y cyllid wedi ei gymeradwyo
a’i ddyrannu’n flaenorol ar gyfer y prosiectau heb yr angen am fenthyca
ychwanegol na chreu pwysau cyllideb wrth symud ymlaen. Cefnogodd y Cabinet y ddadl a roddwyd – o ran
yr angen am gyfleusterau storio halen a oedd yn addas i’r diben ac yn sicrhau cydymffurfiaeth
â safonau amgylcheddol, a darparu gwasanaeth yn effeithiol, ynghyd â
chyfleusterau lles addas ar gyfer staff. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo proses dendro a chaffael y
prosiect er mwyn datblygu adeiladau newydd a hwyluso storfa ddiogel a chywir ar
gyfer halen at ddibenion gweithrediadau cynnal a chadw’r gaeaf sydd yn
gwasanaethu de’r sir, ynghyd â gwelliannau llety a storfa offer a lles yn safle
Corwen, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad A yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer
2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni; (b) cymeradwyo’r cynnig i osod cyfleusterau
newydd ar gyfer storio halen yn Nepo Parc Cinmel ym Modelwyddan, fel y nodir yn
Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad; a (c) nodi’r defnydd o arian at raid y Rhaglen
Gyfalaf i dalu am y gorwariant a ragwelir ar gynllun atgyweirio’r Wal yng
Ngardd yr Arglwydd yn Nant Clwyd y Dre, fel y nodir yn Adran 6.10 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn amlygu’r
sefyllfa ariannu parthed cynllun atgyweirio’r Wal yng Ngardd yr Arglwydd yn
Nant Clwyd y Dre, ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyfleusterau newydd ar
gyfer storio halen yn Nepo Parc Cinmel. Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23) ·
rhagwelwyd y byddai
gorwariant o £3.446 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
amlygwyd y risgiau ar hyn o
bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ·
rhoddwyd manylion arbedion
ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.172 miliwn) ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr. Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr
Aelodau drwy’r adroddiad. Amlygwyd y
cynnydd yn y gorwariant a ragwelir ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol,
o £3.119 miliwn y mis diwethaf i £3.446 miliwn, yn bennaf oherwydd pwysau
ychwanegol yng nghyllidebau Gofal Cymdeithasol a Thai a’r Amgylchedd wedi ei
wrthbwyso gan arbedion yng nghyllideb Ariannu Cyfalaf. Er bod modd defnyddio’r gronfa wrth gefn ar
gyfer lliniaru ar y gyllideb i dalu am y gorwariant eleni, byddai hynny ar
draul yr adnoddau a fydd ar gael wrth ymateb i bwysau annisgwyl mewn
blynyddoedd i ddod. Wrth ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd Rhys Thomas ynglŷn â gostyngiad ym malans y
Cyfrif Refeniw Tai, eglurwyd nad oedd isafswm yr oedd rhaid ei gadw mewn cronfa
wrth gefn, ond yn hanesyddol yr oedd balansau o £1 miliwn wedi eu cadw. Câi’r swm a gedwid mewn cronfeydd wrth gefn
eu hadolygu’n rheolaidd ac yn rhan o Gynllun Busnes y Stoc Dai. Tynnwyd sylw’r Cabinet at y defnydd o gyllid arian
at raid i dalu am y gorwariant a ragwelir ar gynllun atgyweirio’r Wal yng
Ngardd yr Arglwydd yn Nant Clwyd y Dre o ganlyniad i nifer o elfennau, gan
gynnwys estyniad i’r briff gwylio archaeolegol oherwydd canfyddiadau Rhufeinig
o bwys a gofynion iechyd a diogelwch.
Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo cyfleusterau newydd ar gyfer
storio halen yn Nepo Parc Cinmel ym Modelwyddan er mwyn sicrhau cyfleusterau
sy’n addas i’r diben a chydymffurfiaeth â safonau amgylcheddol yn unol â
chymeradwyaethau dan eitem flaenorol yr adroddiad. Dywedodd yr Arweinydd mai dyma gyfarfod olaf
Pennaeth Cyllid ac Archwilio fel Swyddog Adran 151, a diolchodd iddo am ei holl
waith caled parhaus. Sefyllfa’r gyllideb
oedd y mater â’r mwyaf o frys a oedd yn wynebu’r awdurdod – mae penderfyniadau
anodd i ddod ac mae pawb yn gweithio’n galed i ddarparu cyllideb gytbwys ar
gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer
2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni; (b) cymeradwyo’r cynnig i osod cyfleusterau
newydd ar gyfer storio halen yn Nepo Parc Cinmel ym Modelwyddan, fel y nodir yn
Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad; a (c) nodi’r defnydd o arian at raid y Rhaglen
Gyfalaf i dalu am y gorwariant a ragwelir ar gynllun atgyweirio’r Wal yng
Ngardd yr Arglwydd yn Nant Clwyd y Dre, fel y nodir yn Adran 6.10 yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 373 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet er mwyn i’r aelodau ei
hystyried. PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.45am. |