Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n peri rhagfarn ag unrhyw fater i’w ystyried
yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Gill German – Cysylltiad Personol – Eitemau
6 a 10 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Rhys Thomas – Cysylltiad Personol – Eitemau
6 a 10 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Gill German a Rhys Thomas
gysylltiad personol ag eitem rhif 6 ar y rhaglen, gan eu bod yn Gyfarwyddwyr
Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Datganodd y Cynghorwyr Gill German a Rhys Thomas
gysylltiad personol ag eitem rhif 10 ar y rhaglen, gan fod ganddynt gysylltiad
gydag un o’r cyflenwyr posibl. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Mai 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
23 Mai 2023. Materion yn Codi – Tudalen 8 – Eitem 6: Cam 2 o Gontract Gwaith Gorsaf
Trosglwyddo Gwastraff Newydd CSDd – Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hugh
Irving, dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd a’r Economi y byddai
Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant ychwanegol o £890,000 i ddiwallu’r
pwysau a nodwyd yn ei gyfanrwydd. Tudalen 8 – Eitem 5: Canlyniad Adolygiad Pwyllgor Craffu
Partneriaethau o Benderfyniad y Cabinet yn ymwneud â’r Ceisiadau ar y Rhestr
Fer ar gyfer Cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Yn dilyn
penderfyniad y Cabinet (b) i ystyried y prosesau ar gyfer gweithredu
argymhellion y Pwyllgor Craffu, gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am
gael cofnodi yn y cofnodion bod y Cabinet ers hynny wedi nodi mewn e-bost i’r
holl gynghorwyr sut fyddai’n ymateb i bob argymhelliad. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, a Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd (copi
ynghlwm), yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cyngor weithredu fel y Corff
Arweiniol ar gyfer adnewyddu Cytundeb Gofal Cartref Rhanbarthol Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo bod Cyngor Sir Ddinbych yn
gweithredu fel Corff Arweiniol / Comisiynydd Arweiniol ar gyfer y Gwahoddiad i
Dendro ar gyfer adnewyddu Cytundeb Gofal Cartref Rhanbarthol Gogledd Cymru, a
chymeradwyo Adran Gaffael y Cyngor i arwain ymarfer y Gwahoddiad i Dendro i
sicrhau bod y drefn briodol yn cael ei dilyn, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) a’r Ffurflen
Gomisiynu (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Elen
Heaton a Gill German a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo bod y Cyngor yn
gweithredu fel Corff Arweiniol ar ran y chwe awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd
yng ngogledd Cymru wrth ymdrin â’r Gwahoddiad i Dendro ar gyfer adnewyddu
Cytundeb Gofal Cartref Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae’r Cyngor wedi arwain ymarfer y Gwahoddiad i Dendro
o’r blaen i sefydlu’r cytundeb rhanbarthol cyfredol a oedd i fod i ddod i ben
ar 31 Mawrth 2025. Cynigiwyd adnewyddu’r
cytundeb i alluogi partneriaid i weithio gyda darparwyr allanol er mwyn
datblygu gwasanaethau gofal a chymorth cartref safonol ledled y rhanbarth a
gallu bodloni gofynion deddfwriaethol.
Byddai cwmpas y Gwahoddiad i Dendro yn cynnwys ystod ehangach o
wasanaethau gofal cartref na’r hyn a gwmpesir ar hyn o bryd, fel y nodir yn yr
adroddiad. Yr oedd y Cabinet yn falch o nodi’r gwasanaethau gofal
cartref ychwanegol a ddarperid a manteision y dull gweithredu hwnnw ynghyd â’r
cymorth i gefnogi busnesau bach lleol i ddod yn ddarparwyr gofal. Amlygwyd prif gasgliadau’r Asesiad o Effaith
ar Les hefyd – effaith gadarnhaol ar gefnogi recriwtio a chadw yn y sector,
cyfleoedd gyrfaol a gweithio gyda chyflogwyr a cholegau i ddatblygu
sgiliau. Wrth ymateb i gwestiynau,
cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd na
fyddai unrhyw gost ychwanegol i’r Cyngor o ganlyniad i arwain y Gwahoddiad i
Dendro, ac, unwaith y byddai’r fframwaith wedi ei sefydlu, byddai pob awdurdod
lleol yn gyfrifol am reoli ei ran o’r fframwaith, ac os byddai darparwyr yn
dymuno gweithio ledled y rhanbarth, byddai’r awdurdodau lleol yn gweithio ar y
cyd ar gyfer hynny. Croesawodd y Cabinet
y gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg a’r gofyniad i ddarparwyr fod â pholisïau i
fodloni deddfwriaeth / canllawiau. Cadarnhawyd
y byddai gwaith yn cael ei wneud i geisio alinio’r polisïau hynny gyda
pholisïau’r Cyngor ei hun ar gyfer y dyfodol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo bod Cyngor Sir Ddinbych yn
gweithredu fel Corff Arweiniol / Comisiynydd Arweiniol ar gyfer y Gwahoddiad i
Dendro ar gyfer adnewyddu Cytundeb Gofal Cartref Rhanbarthol Gogledd Cymru, a
chymeradwyo Adran Gaffael y Cyngor i arwain ymarfer y Gwahoddiad i Dendro i
sicrhau bod y drefn briodol yn cael ei dilyn, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) a’r Ffurflen
Gomisiynu (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
STRATEGAETH Y GYMRAEG 2023-28 PDF 207 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a
Threftadaeth (copi ynghlwm), yn cyflwyno Strategaeth newydd y Gymraeg i’r
Cabinet ei chymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo Strategaeth newydd y Gymraeg sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i’r
adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Emrys Wynne yr adroddiad a Strategaeth newydd y
Gymraeg 2023-28 er mwyn i’r Cabinet ei chymeradwyo. [Mabwysiadwyd y Strategaeth gyfredol yn 2017,
ac mae’n rhaid i’r Cyngor ddiwygio ei Strategaeth bob pum mlynedd.] Adroddodd y Cynghorydd Wynne am y mesurau a gyflwynwyd dros y bum mlynedd
ddiwethaf i hybu’r Gymraeg a hwyluso’r defnydd ohoni yn y sir, ynghyd â’r
Strategaeth a’r weledigaeth newydd ar gyfer y Gymraeg er mwyn gwneud mwy o
gynnydd yn y gwaith hwnnw. Yr oedd y
Strategaeth wedi ei chymeradwyo gan Bwyllgor Llywio’r Gymraeg a’i mabwysiadu
gan Fforwm Partneriaeth y Gymraeg Sir Ddinbych.
Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Llywodraethu a Busnes a Swyddog y
Gymraeg bwysigrwydd y Strategaeth hefyd, ac amlygu uchelgeisiau’r Cyngor, gan
siarad am yr angen i weithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill er mwyn
cyflawni’r uchelgeisiau. Lluniwyd
adroddiad sicrwydd ar y Strategaeth gan y Ganolfan Cynllunio Iaith, ac
ystyriwyd ei argymhellion. Croesawodd y Cabinet y Strategaeth a’r mesurau i ddatblygu Sir Dinbych fel
sir ddwyieithog, gan roi’r cyfle i bawb ddefnyddio a siarad Cymraeg. Canmolwyd gwaith caled Swyddog y Gymraeg ac
eraill mewn perthynas â hyn. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd – ·
Amlygodd y Cynghorydd Rhys Thomas y galw am wersi nofio / ffitrwydd
dwyieithog yn rhai o ganolfannau hamdden y Cyngor a chynlluniau i ddarparu
gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg, a chadarnhaodd swyddogion fod y Cyngor yn
gweithio’n agos gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (HSDd), a oedd wedi
ymrwymo i Strategaeth y Gymraeg.
Gwahoddodd y Cynghorydd Thomas drafodaethau pellach ar y mater mewn
cyfarfod o Fwrdd HSDd, ac ychwanegodd yr Arweinydd y byddai hefyd yn bwnc
buddiol ar gyfer Bwrdd Llywodraethu Strategol HSDd. Croesawodd swyddogion y cyfle am fwy o
drafodaeth ac ymgysylltu yn ymwneud â’r Strategaeth ·
Adroddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am lwyddiant y Strategaeth
flaenorol a’r angen am lansiad priodol i’r Strategaeth newydd i sicrhau ei bod
yn cael ei hyrwyddo’n eang. Cytunodd y
Cynghorydd Wynne fod cyfathrebu’n hanfodol bwysig a chadarnhaodd fod trafodaethau’n
mynd rhagddynt mewn perthynas â hynny.
Cynhwyswyd gweithgareddau hyrwyddo yn nogfen y Strategaeth hefyd ·
Byddai cefnogaeth yn cael ei darparu ar gyfer staff ac aelodau i ddatblygu
eu sgiliau Cymraeg, ac yr oedd cyrsiau Cymraeg ar gael hefyd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo Strategaeth newydd y Gymraeg sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i’r
adroddiad. |
|
HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD 2022 I 2023 PDF 294 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), yn cyflwyno Hunanasesiad y Cyngor o’i
Berfformiad ar gyfer 2022 i 2023 er mwyn i’r Cabinet ei ystyried a’i gadarnhau
cyn ei gyflwyno i’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cadarnhau cynnwys Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad 2022-2023 i’w gyflwyno
i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2023 i’w gymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
a Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad ar gyfer 2022 i 2023 i’r Cabinet eu
hystyried cyn eu cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo ym mis Gorffennaf 2023. Yr oedd Hunanasesiad
y Cyngor o’i Berfformiad yn darparu dadansoddiad diwedd blwyddyn o gynnydd a
heriau yn ôl amcanion perfformiad allweddol (h.y. themâu’r Cynllun
Corfforaethol) a data yn ôl fframwaith rheoli perfformiad y Cynllun
Corfforaethol newydd. Arweiniodd Pennaeth Dros Dro Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad,
Digidol ac Asedau yr aelodau drwy’r adroddiad, a oedd yn cynnwys dau
atodiad. Yr oedd yn cyflwyno Crynodeb
Gweithredol (Atodiad I) yn amlygu perfformiad yn ôl amcanion a’r saith maes
llywodraethu, a’r Adroddiad Diweddaru Perfformiad chwarterol rheolaidd (Atodiad
II), yn ymdrin â’r cyfnod o fis Ionawr i fis Mawrth 2023 yn fframwaith rheoli
perfformiad y Cynllun Corfforaethol newydd.
Yr oedd y ddwy ddogfen hyn, wrth eu cyfuno â’r tri adroddiad diweddaru
blaenorol, yn ffurfio’r Hunanasesiad ar gyfer 2022 i 2023. Pwysleisiwyd bod adroddiadau rheolaidd yn un
o ofynion monitro hanfodol y fframwaith rheoli perfformiad a Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Rhoddwyd yr adroddiad ger bron Pwyllgor Craffu Perfformiad a’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio, a darparwyd trosolwg o’r materion a godwyd yn y
cyfarfodydd hynny hefyd. Cydnabu’r Cabinet y dogfennau cynhwysfawr a oedd â’r nod o ddarparu adlewyrchiad
clir a thryloyw o berfformiad y Cyngor mewn meysydd allweddol, a diolchwyd i’r
swyddogion am eu gwaith caled yn hyn o beth.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cymerodd aelodau’r Cabinet y cyfle i
dynnu sylw at brosiectau a mesuryddion perfformiad penodol yn eu meysydd
portffolio unigol, i roi sicrwydd a rhesymeg y tu ôl i feysydd penodol a nodwyd
ar gyfer eu gwella a pherfformiad yn y dyfodol.
Yr oedd y themâu’n drawsbynciol ac yn ategu ei gilydd, ac amlygwyd
hyblygrwydd y trefniadau llywodraethu gyda phrosesau i fonitro darpariaeth yn
effeithiol yn ôl y Cynllun Corfforaethol a nodi camau unioni ar gam
cynnar. Byddai adroddiad am y trefniadau
llywodraethu a mewnbwn a chraffiad aelodau yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ym
mis Gorffennaf. Yr oedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol – ·
amlygodd yr aelodau a
swyddogion bwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau diwylliant o drin
pobl ag urddas a pharch ym mhob agwedd o’r Cyngor a’i waith, ac annog unigolion
i godi llais a rhannu pryderon er mwyn gallu gweithredu. Yr oedd Cod Ymddygiad a Fframwaith Moesegol
ar gyfer aelodau, gyda phrosesau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau y darperid
digon o hyfforddiant a chefnogaeth i fodloni’r safonau perthnasol, ac yr oedd
hefyd brosesau cenedlaethol a lleol i’w gweithredu pan nad oedd y safonau wedi
eu cyrraedd. Eglurwyd rôl y Grŵp
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol hefyd.
Cynlluniwyd gwaith i lunio canllaw i gynghorwyr ar gyfer ymdrin ag
aflonyddu, camdriniaeth a bygythion, a disgwylid yr wybodaeth ddiweddaraf
ynglŷn â chynnydd yn yr adroddiad chwarterol nesaf. Cytunodd swyddogion hefyd i adolygu’r defnydd
o unrhyw ymadroddion goddrychol yn y ddogfen · eglurwyd y fethodoleg ar gyfer meincnodi data perfformiad, a nodwyd y disgwylid nifer uwch o ddangosyddion coch ar y cam cynnar hwn, a bod gwelliannau wedi eu dangos fel cynnydd yn cael eu gwneud dros hyd bywyd y Cynllun Corfforaethol. Yr oedd statws perfformiad Coch / Melyn / Oren / Gwyrdd yn rhoi darlun clir o berfformiad a’r meysydd yr oedd angen canolbwyntio mwy arnynt. Yr oedd y mesurau’n adlewyrchu’r hyn oedd yn digwydd mewn cymunedau, a dyluniwyd y prosiectau i gael effaith gadarnhaol ar y mesurau hynny. Yr oedd gan y Cyngor hanes blaenorol da o reoli prosiectau, a dim ond nifer fach o brosiectau ‘mewn perygl’ oedd yna ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) nodi’r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni; (b) cymeradwyo’r cynlluniau i
ddarparu arian cyfatebol i gefnogi Cynllun Grant Cartrefi Gwag i ddod â defnydd
yn ôl i eiddo gwag, fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad; a (c) nodi’r defnydd o arian wrth
gefn y rhaglen gyfalaf i ariannu’r gorwariant a ragwelir ar gynllun cyfalaf
Depo’r Gerddi Botaneg (cam 1), fel y nodir yn Adran 6.10 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. [Gohiriwyd Adroddiad llawn
Crynhoi’r Gyllideb ar gyfer 2023/24, a byddai’n cael ei gyflwyno yng nghyfarfod
y Cabinet yn y dyfodol.] Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2023/24 oedd £250.793 miliwn (£233.696 miliwn yn 2022/23) ·
rhagwelwyd y byddai
gorwariant o £3.348 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
amlygwyd y risgiau ar hyn o
bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ·
rhoddwyd manylion arbedion
ac arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£8.182 miliwn) ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr. Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo rhoi arian
cyfatebol i gefnogi Cynllun Grant Cartrefi Gweigion a nodi’r defnydd o arian at
raid y rhaglen gyfalaf er mwyn ariannu’r gorwariant a ragwelir ar gynllun
cyfalaf Depo’r Gerddi Botaneg (cam 1). Arweiniodd Pennaeth
Cyllid ac Archwilio yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y gorwariant
sylweddol a ragwelid eisoes yn gynnar yn y flwyddyn ariannol a oedd angen ei
fonitro’n ofalus, a siaradodd am y dewisiadau posibl oedd ar gyfer rheoli’r
gorwariant a oedd wedi eu llywio i raddau helaeth gan wasanaethau a arweinir
gan alw. Amlygwyd hefyd y peryglon yn
ymwneud â setliadau cyflog ar gyfer 2023/24 ac ynni a phwysau chwyddiannol
eraill, a byddai’r Cabinet yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r sefyllfa
ddatblygu. Ymatebodd y Cynghorydd
Gill German (Aelod Arweiniol Addysg) a swyddogion i gwestiynau / sylwadau’r
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fel a ganlyn – ·
yr oedd y Cyngor wedi
cytuno o’r blaen ar y rhaglen o brosiectau Band B (Rhaglen Cymunedau Dysgu
Cynaliadwy Llywodraeth Cymru), a chymeradwywyd amlen gyllid i reoli’r rhaglen
honno, gyda’r prosiectau’n cael eu cyflwyno pan oeddynt yn barod. Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am statws y
prosiectau hynny, gyda’r bwriad o’u datblygu fel bo’n briodol. Gall yr hinsawdd economaidd gyfredol a chynnydd
mewn costau beri risg i brosiectau’r dyfodol, ond yn y sefyllfa bresennol
byddai’r prosiectau yn symud yn eu blaenau fel y cynlluniwyd. Byddai raid defnyddio’r sianeli priodol ar
gyfer gwneud penderfyniadau yn ymwneud ag unrhyw geisiadau am gyllid ychwanegol
y tu hwnt i’r amlen gyllid ·
ymhelaethwyd ar y rhesymeg
y tu ôl i’r gorwariant a ragwelid, yn bennaf o ganlyniad i gostau gofal
cymdeithasol i blant ac oedolion a oedd yn anodd eu rhagweld ac yn wariant
angenrheidiol, ynghyd â dewisiadau posibl ar gyfer rheoli’r gorwariant a
monitro’r sefyllfa’n agos er mwyn cynnwys y costau hyn wrth symud ymlaen. Ynghyd â chynnydd costau a phwysau
chwyddiannol eraill, yr oedd y sefyllfa ariannol a oedd yn wynebu’r Cyngor yn
anodd a heriol. Mae awdurdodau lleol eraill mewn sefyllfa debyg oherwydd pwysau
cynyddol ar gyllidebau cynghorau ·
wrth ymateb i’r awgrym bod
yr arbedion effeithlonrwydd o 1% gan ysgolion yn cael eu cymryd o gyfartaledd
treigl 3 blynedd, siaradodd y Cynghorydd German am y dull partneriaeth gydag
ysgolion a’r ddeialog barhaus i ganfod y ffordd orau ymlaen gyda’i gilydd mewn
perthynas â hynny. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi’r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2023/24 a’r cynnydd yn ôl y strategaeth y cytunwyd arni; (b) cymeradwyo’r cynlluniau i
ddarparu arian cyfatebol i gefnogi Cynllun Grant Cartrefi Gweigion i ddod â
defnydd yn ôl i eiddo gwag, fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad;
a (c) nodi’r defnydd o arian at raid y rhaglen gyfalaf i ariannu’r gorwariant a ragwelir ar gynllun cyfalaf Depo’r Gerddi Botaneg (cam ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 366 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet i’w hystyried. Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Terry Mendies, cadarnhaodd Pennaeth
Cyllid ac Archwilio fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer
Premiwm Ail Gartrefi a Chartrefi Gweigion Hirdymor wedi ei gynnal, ac y byddai
adroddiad am y ffordd ymlaen yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Gorffennaf
a’r Cyngor ym mis Medi. PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i’r dyfodol y Cabinet. |
|
MARCHNAD Y FRENHINES – CAFFAEL GWEITHREDWR PDF 241 KB Ystyried
adroddiad (sy’n cynnwys dau atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Jason
McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd
(copi ynghlwm), yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r
cyflenwr a ffefrir ar gyfer gweithredu Marchnad y Frenhines. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo dyfarnu Contract i’r cyflenwr
a ffefrir i gynnal Marchnad y Frenhines yn seiliedig ar argymhellion y Bwrdd
Prosiect a manylion yr Adroddiad Argymhelliad Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr
adroddiad), a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan adroddiad yn
gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r cyflenwr a ffefrir i
gynnal Marchnad y Frenhines yn seiliedig ar argymhellion y Bwrdd Prosiect (yn
unol â’r Adroddiad Argymhelliad Dyfarnu Contract). Yr oedd Marchnad y Frenhines yn brosiect
datblygu ac adfywio allweddol i’r Cyngor.
Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys dau atodiad cyfrinachol a gofynnwyd i’r
Cabinet symud i sesiwn breifat wrth drafod elfennau cyfrinachol y dogfennau
oherwydd rhesymau sensitifrwydd masnachol. Yr oedd y Cyngor yn adeiladu Cam 1 safle
Adeiladau’r Frenhines yn y Rhyl ar hyn o bryd, sef y neuadd fwyd / marchnad
newydd a gofod hyblyg i gynnal digwyddiadau.
Darparwyd manylion y broses gaffael i benodi gweithredwr i gynnal a
rheoli Marchnad y Frenhines pan fydd wedi ei datblygu. Yn dilyn gwerthusiad, dewiswyd cyflenwr a
ffefrir gan y Bwrdd Prosiect, a oedd ers hynny wedi bodloni holl wiriadau
trylwyr a diwydrwydd dyladwy’r Cyngor. Argymhellodd y Bwrdd Prosiect fod y
Cyngor yn penodi’r cyflenwr a ffefrir ac yn gweithio gyda nhw i orffen y gwaith
ar Farchnad y Frenhines a chytuno ar strategaeth ac amserlen i agor i’r
cyhoedd. GWAHARDD Y WASG A’R
CYHOEDD Ar y pwynt hwn, mynegodd yr aelodau eu bod yn
dymuno trafod elfennau cyfrinachol y dogfennau a oedd ynghlwm â’r adroddiad, ac
yn dilyn hynny – PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol, dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai
gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym
Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Yn ystod trafodaeth faith, ystyriodd y Cabinet y
dull caffael a ddefnyddir i sicrhau gweithredwr ar gyfer Marchnad y Frenhines
ar ran y Cyngor, ynghyd â’r broses werthuso a’r dulliau sgorio a
ddefnyddir. Trafodwyd rhinweddau’r
darpar gyflenwyr posibl a’u hachosion busnes yn fanwl, a heriwyd eu sgôr yn ôl
meini prawf penodol a chanlyniadau’r broses werthuso, gan ystyried hefyd
ffactorau lleol eraill. Cymerodd yr
aelodau y cyfle i fynegi eu barn unigol o blaid neu yn erbyn argymhelliad yr
adroddiad, a lleisio eu barn ar y darpar gyflenwyr posibl, eu cyflwyniadau
tendr, a’r ffordd orau ymlaen. Ceisiwyd
mwy o eglurder ynglŷn ag agweddau penodol o’r caffael, a chodwyd
cwestiynau am elfennau amrywiol y broses, a manylion yn y cyflwyniadau tendr a
chasgliadau’r Panel Gwerthuso a’r Bwrdd Prosiect, a oedd yn arwain at
argymhelliad yr adroddiad ynglŷn â’r cyflenwr a ffefrir. Ymatebodd yr Arweinydd a swyddogion i’r holl
bwyntiau a godwyd. Wedi ystyried yr adroddiad yn ofalus a’r holl
wybodaeth o’i flaen, ac ystyried y safbwyntiau a fynegwyd ac ymatebion i’r
cwestiynau, PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo dyfarnu Contract i’r cyflenwr
a ffefrir i gynnal Marchnad y Frenhines yn seiliedig ar argymhellion y Bwrdd
Prosiect a manylion yr Adroddiad Argymhelliad Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr
adroddiad), a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. [5 aelod o blaid, 0 yn erbyn, a 3 yn ymatal] [Yr oedd rhaid i’r Cynghorydd Barry Mellor adael y
cyfarfod cyn diwedd y drafodaeth oherwydd ymrwymiad cynharach, ac felly nid
oedd yn bresennol ar gyfer y bleidlais uchod] |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD
gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol, dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai
gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym
Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
ESTYNIAD I GONTRACTAU PROSIECT ATAL DIGARTREFEDD AMLDDISGYBLAETHOL ADULLAM, PROSIECT WALLICH GIFT A NO SECOND NIGHT OUT CLWYD ALYN (TŶ GOLAU) Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a
Chymunedau (copi ynghlwm), yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn contractau
Prosiect Atal Digartrefedd Amlddisgyblaethol Adullam a Phrosiect Wallich GIFT,
ac ymestyn y cytundeb cydweithredol sydd ar waith ar gyfer y prosiect No Second
Night Out (Tŷ Golau). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cytuno i ymestyn contractau Prosiect Atal
Digartrefedd Amlddisgyblaethol Adullam a GIFT Wallich hyd at 31 Hydref 2024, a
chytuno i ymestyn cytundeb cydweithredol sydd ar waith rhwng Cyngor Sir
Ddinbych a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn 3 blynedd i 31 Hydref 2026 ar gyfer y
prosiect No Second Night Out (Tŷ Golau), a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd
Rhys Thomas yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn contractau Prosiect
Atal Digartrefedd Amlddisgyblaethol Adullam a Phrosiect Wallich GIFT, ac
ymestyn y cytundeb cydweithredol sydd ar waith ar gyfer y prosiect No Second
Night Out (Tŷ Golau). Eglurodd Rheolwr Gwasanaeth Cymorth Busnes a
Chymunedau y rhesymeg y tu ôl i ymestyn contractau i ganiatáu digon o amser ar
gyfer cwmpasu tai â chymorth a chefnogaeth yn ôl yr angen, er mwyn deall y
raddfa a’r galw yn llwyr i sicrhau bod y prosiectau’n cyd-fynd â phroses
bontio’r Cyngor i ddull ailgartrefu cyflym. Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a chefnogi’r
argymhellion i ymestyn y contractau i alluogi i’r gwaith gofynnol gael ei wneud
i lunio a darparu’r contractau’n well yn y tymor hirach a galluogi dull
gweithredu mwy cyfannol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cytuno i ymestyn contractau Prosiect Atal
Digartrefedd Amlddisgyblaethol Adullam a GIFT Wallich hyd at 31 Hydref 2024, a
chytuno i ymestyn cytundeb cydweithredol sydd ar waith rhwng Cyngor Sir
Ddinbych a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn 3 blynedd i 31 Hydref 2026 ar gyfer y
prosiect No Second Night Out (Tŷ Golau), a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Daeth y cyfarfod i ben am 1.35pm. |