Agenda, decisions and draft minutes
- Manylion Presenoldeb
- Blaenddalen Agenda PDF 291 KB
- Pecyn adroddiadau'r agenda
- OUTCOME OF THE PARTNERSHIPS SCRUTINY COMMITTEE'S REVIEW OF CABINET'S DECISION RELATING TO APPLICATIONS SHORTLISTED FOR SHARED PROSPERITY FUNDING PDF 610 KB
- Penderfyniadau wedi eu hargraffu PDF 289 KB
- Cofnodion Drafft Argraffedig PDF 326 KB
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriad. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
25 Ebrill 2023. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25
Ebrill 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
Ystyried
canlyniad yr adolygiad o’r penderfyniad a gymerwyd gan y Cabinet ar 25 Ebrill
2023 yn berthnasol i Geisiadau ar y Rhestr Fer ar gyfer y Gronfa Ffyniant
Gyffredin sydd wedi bod yn destun craffu ac wedi cael ei ystyried gan y
Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar 18 Mai 2023. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cydnabod bod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau yn parchu penderfyniad y Cabinet ar 25 Ebrill 2023, i’r graddau
y mae’n ymwneud â’r prosiectau ar y rhestr fer a luniwyd gan y Grŵp
Partneriaethau Craidd i’w cymeradwyo, a (b) mewn ymgynghoriad gyda’r Swyddogion arweiniol perthnasol,
ystyried y mecanweithiau ar gyfer gweithredu argymhellion y Pwyllgor Craffu,
fel y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3.2 - 3.6, mewn modd priodol ac amserol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Peter Scott, Is-Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu Partneriaethau, yr adroddiad sy’n manylu ar ganfyddiadau ac argymhellion
y Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyried penderfyniad y Cabinet ar 25 Ebrill 2023 a
alwyd i mewn. Roedd y penderfyniad yn ymwneud â cheisiadau a rhoddwyd ar y
rhestr fer ar gyfer cyllid y Gronfa Ffyniant a Rennir. Yn fras, cafodd y Pwyllgor eu sicrhau bod y broses a
ddefnyddiwyd i ddelio gyda’r ceisiadau ac i lunio rhestr fer wedi bod yn un
cadarn, teg a phroffesiynol. Fodd bynnag, credwyd bod trefniadau cyfathrebu
agweddau ar gyllid y Gronfa Ffyniant a Rennir gydag aelodau etholedig wedi bod
braidd yn wan. O ganlyniad, roedd y Pwyllgor wedi argymell bod y Cabinet yn
cadarnhau ei benderfyniad i’r graddau y mae’n ymwneud â’r prosiectau sydd
wedi’u rhoi ar y rhestr fer gan y Grŵp Partneriaethau Craidd i’w
cymeradwyo, ac wrth wneud hynny yn cytuno ar fesurau pellach (fel y nodir ym
mharagraffau 3.2-3.6 yr adroddiad) er mwyn cryfhau’r trefniadau cyfathrebu. Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Scott am adrodd ar
drafodaeth a’r argymhellion y Pwyllgor Craffu. Gan fod y Pwyllgor Craffu wedi
cadarnhau penderfyniad y Cabinet, ac oherwydd hwyrni’r adroddiad ar yr
argymhellion, gyda rhagor o ystyriaeth angen ei rhoi i’r dulliau gweithredu,
cynigiodd yr Arweinydd ddiwygiad i’r argymhellion i adlewyrchu’r materion hynny
a’r ffordd orau ymlaen. Cytunodd y Cabinet, gan amlygu’r angen am Gynllun
Cyfathrebu cadarn ac ymgysylltu priodol. Gofynnodd y Cynghorydd
Hilditch-Roberts i’r Cabinet gytuno mewn egwyddor â’r argymhellion bras ac ar amserlen
briodol i’w gweithredu. Cafodd sylwadau’r Cynghorydd eu cydnabod gan yr
Arweinydd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) Cydnabod bod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau yn parchu penderfyniad y Cabinet ar 25 Ebrill 2023, i’r graddau
y mae’n ymwneud â’r prosiectau ar y rhestr fer a luniwyd gan y Grŵp
Partneriaethau Craidd i’w cymeradwyo, ac (b) Mewn ymgynghoriad â’r swyddogion
arweiniol perthnasol, yn ystyried y mecanwaith i weithredu argymhellion y
Pwyllgor Craffu, fel y nodir ym mharagraffau 3.2-3.6, mewn modd amserol a
phriodol. |
|
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Chludiant (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer y bwriad
arfaethedig o symud ymlaen i gwblhau gwaith Cam 2 yn yr Orsaf Trosglwyddo
Gwastraff newydd yn Ninbych, ar ôl i’r prif gontractwr fynd i ddwylo’r
gweinyddwyr, a darparu diweddariad ar bwysau cyllideb oherwydd y sefyllfa. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (b) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau; (b) cefnogi’r ffordd ymlaen a ffefrir i gwblhau gwaith Cam 2
yn yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy,
Dinbych a (c) chydnabod y pwysau diweddaraf ar y
gyllideb a chytuno i barhau i weithio ar risg wrth i drafodaethau am
ffynonellau cyllid posibl ar gyfer y pwysau gael eu cynnal â Llywodraeth Cymru. Roedd
hyn yn hanfodol er mwyn lliniaru’r risg o oedi pellach fyddai’n effeithio eto
ar gostau a’r rhaglen, yn cynnwys y rhaglen ehangach o newid mewn gwasanaeth y
mae cwblhau’r Orsaf yn hanfodol ar ei chyfer. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mellor yr adroddiad yn gofyn am
gefnogaeth y Cabinet i’r ffordd ymlaen arfaethedig i gwblhau gwaith Cam 2
Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff yn Ninbych, ar ôl i’r prif gontractwr (RL Davies
& Son Ltd) fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a darparodd y wybodaeth ddiweddaraf
ar y pwysau mae hynny’n ei rhoi ar y gyllideb. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r
Economi a’r Rheolwr Prosiect Corfforaethol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.
Atgoffwyd y Cabinet o’r cefndir a’r sefyllfa ddiweddaraf o ran gwaith Cam 2 a’r
pedwar dewis i symud ymlaen. Argymhellir dewis 4 er mwyn i’r Cyngor barhau i
fod yn gontractwr rheoli a fydd yn ffurfioli’r trefniadau sydd yn eu lle dan yr
Adroddiad Eithrio sydd wedi galluogi parhau â’r gwaith ers diwedd mis Chwefror
2023. Soniwyd am y sefyllfa o ran y gyllideb a dywedwyd bod y trafodaethau yn
parhau gyda Llywodraeth Cymru o ran a fyddant yn mynd i’r afael â’r pwysau
diweddaraf ar y gyllideb o £890,987. Os nad yw’r llywodraeth yn gallu ariannu’r
pwysau, bydd adroddiad ar y dewisiadau yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet. Trafododd y Cabinet yr adroddiad gyda’r swyddogion a
chadarnhawyd bod gorffen y gwaith yn hanfodol i weithredu’r newid i’r
gwasanaeth. Roedd y prosiect gwastraff yn ei hanfod yn ymwneud â gwelliant
amgylcheddol a chynyddu cyfraddau ailgylchu er mwyn cyrraedd targed ailgylchu
Llywodraeth Cymru o 70% (mae’r llywodraeth hefyd wedi buddsoddi llawer yn y
prosiect). Roedd y Cabinet yn croesawu buddion amgylcheddol y model gwastraff
newydd a’r system newydd o wahanu ac ailgylchu, ac yn cydnabod cost cynyddol
sylweddol parhau gyda’r trefniadau ailgylchu cymysg sy’n oddeutu £75 y dunnell
ynghyd â’r ddirwy bosib’ gan Lywodraeth Cymru os nad ydym yn cyrraedd y
targedau ailgylchu. Mae yna hefyd berygl o’r llywodraeth yn adfachu’r arian os
nad yw’r depo yn cael ei orffen a’r gwasanaeth newydd ddim yn dwyn ffrwyth.
Wrth gydnabod cymhlethdod y prosiect diolchodd y Cabinet i’r swyddogion am eu
gwaith gan obeithio y bydd y canlyniad yn un llwyddiannus ar ôl trafod y pwysau
cyllidebol gyda Llywodraeth Cymru. Agorodd yr Arweinydd y drafodaeth i’r aelodau etholedig
eraill a oedd yn bresennol a bu iddynt ofyn cwestiynau a mynegi pryderon
ynghylch y goblygiadau ariannol a’r pwysau cyllidebol, ynghyd â’r risgiau a’r
dewisiadau i’r dyfodol. Ymatebodd y swyddogion fel a ganlyn – ·
Cadarnhawyd cywirdeb yr
amcangyfrif cyllidebol yn dilyn yr adolygiad diweddar o’r holl becynnau gwaith
a’r arian at raid gan ddweud y bydd yna wastad berygl o’r anhysbys ·
Mae’r pwysau cyllidebol
wedi’i achosi gan y ffaith bod prif gontractwr y prosiect wedi mynd i ddwylo’r
gweinyddwyr, rhywbeth y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ·
Darparwyd manylion y
gwarantau a’r indemniadau proffesiynol sy’n ymwneud â’r prosiect ·
Bydd risgiau’r prosiect yn
mynd yn llai wrth i’r gwaith fynd rhagddo a thynnu tua’r terfyn ·
Mae’r oedi o ran cael
trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu o’r depo newydd yn dal yn risg,
ond bydd yr aelodau yn cael gwybod am y cynnydd ·
Mae trafodaethau yn parhau
efo Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyllido’r pwysau cyllidebol ac os nad yw’r
trafodaethau yn dwyn ffrwyth bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar y dewisiadau
cyllido / yr effaith ·
Rhoddwyd sicrwydd ynghylch
rheolaeth y prosiect, y trefniadau llywodraethu a’r gwaith monitro risg, ac
roedd y swyddogion yn hyderus y bydd y prosiect yn cael ei gyflawni ·
Amlygwyd y cyfle i’r
aelodau ymgysylltu ag agweddau craffu ar y newid yn y gwasanaeth a’r cynnydd yn
ystod cyfarfodydd y pwyllgor craffu ym mis Mehefin a mis Hydref, a chytunwyd i
gynnwys y risgiau cysylltiedig â’r prosiect fel rhan o’r broses honno. · Eglurwyd sut y cafodd y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
PREMIWM TRETH Y CYNGOR AR GARTREFI GWAG HIRDYMOR AC AIL GARTREFI PDF 231 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn diweddaru’r Cabinet ar
ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r uchafswm lefel o
bremiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor a
gofyn am safbwyntiau'r Cabinet ar sut i symud ymlaen gydag unrhyw godi tâl
ychwanegol posib ar y cartrefi hyn yn Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cytuno bod y premiymau ail gartrefi
safonol, ac eiddo gwag hirdymor yr un fath, i leihau effaith trethdalwyr yn
osgoi talu (a fyddai efallai’n gwneud cais i symud i’r categori mwyaf ffafriol)
ac i sicrhau nad yw’r baich gweinyddol yn cael ei gynyddu’n sylweddol, ac eithrio
ar gyfer eiddo sy’n gorwedd o fewn yr argymhelliad; (b) cytuno â’r cynigion canlynol a fydd yn
hysbysu ymgynghoriad cyhoeddus cyn i’r Cabinet a’r Cyngor wneud eu
penderfyniadau terfynol: ·
bod y Premiwm a godir ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn aros ar
50% o Ebrill 2023 ac yna’n cynyddu i 100% o Ebrill 2024 ac i 150% o Ebrill 2025 ·
bod eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn ers 5 mlynedd neu fwy yn
talu premiwm o 50% yn fwy na’r Premiwm safonol, a (c) bod y penderfyniad yn cael ei weithredu
ar unwaith, yn unol â pharagraff 7.25 o gyfansoddiad y Cyngor, o wybod bod
angen cwblhau’r ymgynghoriad angenrheidiol mewn modd amserol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
ar y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r
uchafswm lefel o bremiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi
gwag hirdymor a gofynnodd am farn y Cabinet ar sut i symud ymlaen gyda chyflyno
unrhyw dâl ychwanegol posib’ ar y cartrefi hyn yn Sir Ddinbych. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfres o
fesurau i fynd i’r afael a diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru, sy’n cynnwys
hyblygrwydd newydd i godi cyfraddau uwch ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail
gartrefi (hyd at 300% o’r premiwm). Mae’r swyddogion yn argymell ymateb pwyllog
i gadw’r premiwm ar 50% ar gyfer mis Ebrill 2023, ac yna cynyddu’r premiwm i
100% ym mis Ebrill 2024 ac i 150% ym mis Ebrill 2025. Bydd unrhyw gynnydd
arfaethedig yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Nod y cynnydd arfaethedig yw
lleihau nifer yr eiddo gwag ac ail gartrefi, nid cynhyrchu incwm. Manylodd Pennaeth Cyllid ac Archwilio ar amserlenni
tynn y broses i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus, adrodd yn ôl i’r Cabinet ac yna
cyflwyno cynnig gerbron y Cyngor Llawn a gwneud y penderfyniad terfynol. O
ystyried yr amserlen gofynnir i’r Cabinet hefyd gymeradwyo gweithredu’r
penderfyniad ar unwaith. Y penderfyniad ar y cam hwn yw ymgynghori ynghylch y
cynigion a bod unrhyw benderfyniad sylweddol yn destun adroddiad arall. Roedd y Cabinet yn croesawu’r cynigion yn yr
adroddiad fel ffordd i ddefnyddio eiddo gwag, cynyddu nifer y cartrefi
fforddiadwy ar gyfer pobl sydd angen tai a galluogi pobl leol i aros yn eu
cymunedau. Mae’r dull graddol i gynyddu’r premiwm hefyd yn derbyn croeso, a bod
digon o rybudd yn cael ei roi o’r cynigion er mwyn rhoi digon o amser i berchnogion
ystyried eu sefyllfa. Cyfeiriwyd at y cydweithio rhwng y llywodraeth a Phlaid
Cymru, a’r ymrwymiad i fynd i’r afael a materion fel prinder tai a diffyg tai
fforddiadwy i bobl leol. Cadarnhaodd y swyddogion fod diffyg eglurder ynghylch
bwriad awdurdodau lleol cyfagos wrth ddefnyddio’r hyblygrwydd newydd yma. Gwnaeth ddau aelod etholedig (nad ydyn yn aelodau
o’r Cabinet) sylwadau a gofyn cwestiynau am yr effaith niweidiol bosib’ ar
dwristiaeth, busnesau bach a’r economi leol o ganlyniad i godi cyfraddau uwch
ynghyd â’r incwm posib’. Ymatebodd y Cabinet a’r swyddogion i’r materion a
godwyd fel a ganlyn – ·
Nod y cynnydd arfaethedig
yn y cyfraddau yw newid ymddygiad ac annog perchnogion i ddefnyddio eu heiddo –
nid cynhyrchu incwm ·
Mae’r cynigion yn darparu
dull graddol a phwyllog i gyrraedd uchafswm o 150%, sy’n llai na’r uchafswm o
300% a ganiateir ·
Mae angen cydbwysedd rhwng
yr effaith ar dwristiaeth a’r ddarpariaeth dai, gyda’r angen am dai a
digartrefedd yn prif flaenoriaethau ·
Byddai unrhyw eiddo sy’n
fusnes yn destun cyfraddau busnes ac felly ni fydd yn rhaid iddynt dalu treth y
cyngor ·
Amlygwyd yr anawsterau wrth
amcangyfrif unrhyw refeniw ychwanegol, yn enwedig o ystyried mai lleihau ail
gartrefi yw’r rheswm dros wneud y cynnydd – na fyddai’n cynhyrchu unrhyw
refeniw ychwanegol os yw’n llwyddiannus ·
Byddai unrhyw refeniw
ychwanegol yn sgil y cynnydd yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â’r
materion tai, yn cynnwys digartrefedd a phrinder tai ·
Byddai Asesiad o’r Effaith
ar Les yn cael ei ddarparu fel rhan o’r broses o wneud penderfyniad ar y
cynigion, drwy adroddiadau i’r Cabinet ym mis Gorffennaf ac yna i’r Cyngor ym
mis Medi ·
Rhoddwyd sicrwydd ynghylch
bod trefniadau diogelu yn eu lle fel rhan o’r broses i helpu pobl sy’n wynebu
caledi ariannol Ar ôl adolygu’r adroddiad a’r wybodaeth ategol – PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) Cytuno bod y premiymau ail gartrefi safonol, ac eiddo gwag yn yr hirdymor yr ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
POLISI GWEITHIO’N HYBLYG DRAFFT PDF 232 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb
a Strategaeth Gorfforaethol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet ar y Polisi Gweithio’n Hyblyg a dogfennau canllawiau cysylltiedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo’r Polisi Gweithio’n Hyblyg,
a’r dogfennau canllaw ategol, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 6 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad
yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i’r Polisi Gweithio’n Hyblyg newydd a’r
dogfennau canllaw cysylltiedig. Mae’r Polisi Gweithio’n Hyblyg presennol wedi’i
adolygu yn dilyn y ffyrdd newydd o weithio y mae’r Cyngor wedi’u datblygu yn
ystod ac ar ôl pandemig COVID-19. Mae’r Polisi Gweithio'n Hyblyg newydd yn
galluogi gweithwyr i gael mwy o ddewis o ran sut, ble a phryd maent yn gweithio
ac yn darparu canllawiau clir a dull cyson ar gyfer rheoli gweithwyr mewn
ffordd hyblyg. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Les hefyd yn amlygu manteision y
polisi hwn. Aeth Pennaeth Dros Dro Adnoddau Dynol drwy’r adroddiad a’r
dogfennau cysylltiedig efo’r aelodau. Croesawodd y Cabinet yr adroddiad cynhwysfawr a
manteision y polisi, a oedd yn cynnwys mwy o ddewis i weithwyr, gwella
cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, defnyddio llai ar gerbydau, a’r gallu i
weithio’n hyblyg yn dod yn ddewis pwysig mewn gyrfa ac yn helpu i fynd i’r afael
â materion recriwtio a chadw staff. Atebodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion y
cwestiynau fel a ganlyn – ·
Mae’r polisi drafft wedi’i
gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a
Chysylltiadau Gweithwyr, ac mae’r holl undebau wedi cytuno arno ·
O ran gweithwyr sy'n
gweithio ar eu pen eu hunain, mae yna asesiadau risg yn eu lle ar gyfer
rheolwyr a gweithwyr i ddiogelu unigolion tra maent yn gweithio ·
Mae gweithwyr newydd yn
cael eu cefnogi drwy broses gyflwyno sydd wedi’i diwygio i ystyried y dulliau
gweithio newydd ·
O ran monitro canlyniadau’r
patrymau gweithio newydd, amlygwyd pwysigrwydd cyfarfodydd un-i-un rheolaidd
rhwng rheolwyr a gweithwyr er mwyn sicrhau lles ac fel ffordd i reoli
perfformiad sy’n darparu sgwrs ddwyffordd; mae llawer o bwyslais wedi’i roi ar
werth cyfarfodydd un-i-un a darperir canllawiau ar sut i reoli’r sgyrsiau hynny
i sicrhau’r budd mwyaf ·
Eglurwyd yr anawsterau wrth
ddarparu cymhariaeth rhwng canlyniadau gweithio cyn ac ar ôl COVID-19 oherwydd
diffyg data cymharol a’r cymhlethdodau o ran mesur canlyniadau ar gyfer swyddi
penodol PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) Cymeradwyo’r Polisi Gweithio’n Hyblyg,
a’r dogfennau canllaw ategol, ac yn (b) Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 6 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. |
|
FFRAMWAITH ADEILADU GOGLEDD CYMRU (NWCF) CAM 3 - CYFNOD 1 - CYCHWYN Y PROSIECT PDF 222 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi,
Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol (copi'n amgaeedig) yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ar y broses o gaffael ar gyfer Cam 3 o
Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cadarnhau cychwyn y prosiect i gaffael
Cam 3 Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews yr adroddiad
yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i ddechrau proses gaffael Cam 3 Fframwaith
Adeiladu Gogledd Cymru. Yn dilyn llwyddiant Fframwaith Adeiladu Gogledd
Cymru a’r buddion o ran amser caffael, cost a gwerth ychwanegol a ddarperir
ganddo, cynigir cychwyn prosiect a fydd yn galluogi chwe awdurdod lleol y
gogledd i gael fframwaith ar gyfer caffael prosiectau adeiladu rhanbarthol. Mae
Cam 2 y Fframwaith Adeiladu yn dod i ben ddiwedd mis Mai 2024 ac mae angen
cymeradwyaeth i ddechrau proses Cam 3 er mwyn iddo fod yn ei le erbyn mis
Mehefin 2024. Darparodd y Rheolwr Caffael Cydweithredol a
Fframwaith drosolwg manwl o’r fframwaith a’r manteision, a’r bwriad i fwrw
ymlaen â thrydydd cam ar ran chwe awdurdod lleol y gogledd sy’n cyfrannu’n
gyfartal at adnoddau’r fframwaith. Rhagwelir mai gwerth y fframwaith fydd £600
miliwn o wariant cyhoeddus yn ystod oes y trydydd cam ar draws y gogledd, a
bydd pob corff cyhoeddus yn gallu cael mynediad ato. Mewn ymateb i gwestiynau
cadarnhawyd bod Sir Ddinbych wedi cynnal dau gam blaenorol y fframwaith ar ran
y rhanbarth, sy’n dangos hyder yn y gwaith. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) Cymeradwyo cychwyn y prosiect i gaffael
Cam 3 Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, ac yn (b) Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau. |
|
LLYWODRAETHU ARIAN CRONFA FFYNIANT BRO PDF 216 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a
Threchu Amddifadedd (copi’n amgaeedig) ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer
goruchwylio’r broses o gyflawni prosiectau wedi’u hariannu gan y Gronfa
Ffyniant Bro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen a
deall y trefniadau llywodraethu a sicrwydd a ddisgrifir ac yn fodlon bod y
trefniadau hynny wedi’u hintegreiddio’n ddigonol i fusnes y Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad
ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer goruchwylio’r prosiectau a ariennir
drwy’r Gronfa Ffyniant Bro, a chyfeiriodd at y swm anhygoel o waith sydd wedi’i
wneud ers cais llwyddiannus Gorllewin Clwyd, yn cynnwys trafodaethau gyda
budd-ddeiliaid ynglŷn â chyflawni’r prosiectau. Eglurodd y Rheolwr Rhaglen beth yw’r gofyniad ar y
Cyngor, fel corff cyflawni ar gyfer prosiect Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd – sef
sefydlu bwrdd cyflawni cyfansoddiadol gyda’r Gronfa Ffyniant Bro wedi’i gynnwys
yn ei gylch gorchwyl. Darparodd drosolwg cynhwysfawr o’r ddogfen lywodraethu,
yn cynnwys y mecanweithiau arolygu a sicrwydd sydd yn eu lle a sut maent wedi’u
cynnwys yn nhrefniadau llywodraethu’r Cyngor. Mae cylch gwaith y ddogfen
lywodraethu hefyd yn cynnwys darpariaeth Ffyniant Bro mewn partneriaeth â
Wrecsam ar gyfer ardal de Clwyd, a hefyd mewn perthynas â’r Gronfa Ffyniant
Gyffredin. Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad ac roedd yn fodlon
ar y strwythur llywodraethu cadarn sydd wedi’i gynnwys yn y ddogfen er mwyn
cyflawni’r prosiectau yn llwyddiannus. Pwysleisiodd y Cynghorydd Emrys Wynne
bwysigrwydd cael trefniadau llywodraethu cywir ar waith ac roedd yn edrych
ymlaen at weld y prosiectau yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus yn Rhuthun.
Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn edrych ymlaen at weithio ar y Bwrdd Prosiect
a gyda budd-ddeiliaid i gyflawni prosiectau er budd y trigolion. PENDERFYNWYD Bod y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen a deall y
trefniadau llywodraethu a sicrwydd a ddisgrifir a’i fod yn fodlon bod y
trefniadau hynny wedi’u hintegreiddio’n ddigonol i fusnes y Cyngor. |
|
ADRODDIAD ARIANNOL (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2022/23) PDF 230 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn nodi’r sefyllfa refeniw derfynol
ar gyfer 2022/23 a’r defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer
2022/23; (b) cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o
gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1
a 2, a (c) nodi manylion y trosglwyddiadau i’r
Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ac allan ohonynt fel y nodwyd yn Atodiad 3. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
ar sefyllfa refeniw derfynol 2022/23 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth
gefn a balansau. Bydd y Datganiad Cyfrifon Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23 yn
cael ei gyflwyno i’r archwilwyr allanol cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ym mis Medi. Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yr
Aelodau drwy’r adroddiad. Yn fras, mae’r sefyllfa derfynol o ran cyllidebau
gwasanaethau a chorfforaethol (yn cynnwys gorwariant ysgolion o £3.509 miliwn)
yn orwariant o £5.095 miliwn neu’n orwariant o £1.585 miliwn heb ysgolion. Gyda
diffyg bychan o £0.019 miliwn wrth gasglu Treth y Cyngor, mae gwerth £1.604
miliwn o gronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi wedi’u defnyddio i ariannu’r
gorwariant net, gan adael balans o oddeutu £5.5 miliwn. Mae sefyllfa balansau
ysgolion yn well na’r disgwyl ac mae £3.5 miliwn o arian wrth gefn (gan adael
balans o £9 miliwn) wedi’i ddefnyddio i fynd i’r afael â’r gorwariant. Yn olaf,
mae’r driniaeth arfaethedig ar gyfer y cronfeydd wrth gefn a’r balansau wedi’i
nodi yn llawn. Mae’r rhan fwyaf o’r symudiadau wedi’u cyllidebu neu wedi’u
cymeradwyo eisoes. Ategodd y Cynghorodd Gill German, er bod cyllidebau
ysgolion yn edrych yn weddol iach, fod hyn yn bennaf oherwydd cyllid grant
ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag effeithiau’r pandemig.
Soniodd am yr effaith ar iechyd meddwl a lles, a bod angen mynd i’r afael â
materion fel presenoldeb, cymdeithasu ac iaith a llefaredd mewn modd amserol.
Amlygwyd yr heriau a’r risgiau ariannol ehangach, yn cynnwys pwysau chwyddiant
a strategaeth ariannol Llywodraethu y DU wrth ddelio gydag effaith ariannol
COVID-19 a’r argyfwng costau byw. Dywedodd y Cynghorydd German fod yr
anawsterau wedi bod yn ganlyniad uniongyrchol penderfyniadau gwleidyddol
Llywodraeth y DU a phwysleisiodd bwysigrwydd cydweithio er mwyn ymateb i’r
sefyllfa yn y ffordd orau. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) Nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer
2022/23; (b) Cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o
gronfeydd wrth gefn a balansau fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1
a 2, ac yn (c) Nodi manylion y trosglwyddiadau i’r
Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ac allan ohonynt fel y nodwyd yn Atodiad 3. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 293 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet i’w hystyried. Nododd yr Aelodau fod achos busnes Felodrom Gogledd Cymru wedi’i dynnu oddi
ar raglen mis Mehefin ond y bydd yn cael ei ailosod ar y rhaglen waith ar ôl
derbyn cadarnhad ynghylch amserlen y prosiect. PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm. |