Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 21 Chwefror 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
21 Chwefror 2023. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
TERFYNU’R CONTRACT AM BRIF GONTRACTWR AR GYFER CAM 2 Y DEPO GWASTRAFF PDF 236 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Chludiant (copi ynghlwm) ynghylch terfynu’r contract rhwng Cyngor Sir Ddinbych
a R L Davies Ltd (RLD) er mwyn i RLD fod y prif gontractwr ar gyfer Cam 2 y
Depo Gwastraff ar Ystâd Colomendy, Dinbych. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi’r penderfyniad dirprwyedig brys y cyfeirir ato ym mharagraff 2.1 yr
adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad am
derfynu’r contract rhwng Cyngor Sir Ddinbych ac R L Davies Ltd (RLD) i RLD fod
yn brif gontractwr Cam 2 y Depo Gwastraff ar Ystâd Colomendy, Dinbych. Arweiniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r
Economi yr Aelodau drwy’r adroddiad. I
grynhoi, yn eu cyfarfod diwethaf (dan yr adran materion brys), cafodd y Cabinet
wybod fod RLD wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a bod y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi wedi gwneud penderfyniad brys, dan
adran 2.9 Cyfansoddiad y Cyngor, i derfynu’r contract rhwng y Cyngor ac RLD
iddynt fod yn brif gontractwr Cam 2 y Depo Gwastraff ar Ystâd Colomendy,
Dinbych. Roedd y cyfansoddiad yn
caniatáu i benderfyniad dirprwyedig ar frys gael ei wneud lle na allai
penderfyniad aros tan y cyfarfod cyntaf posib o’r Cabinet. Yn ogystal ag adrodd yn ffurfiol ar y penderfyniad
dirprwyedig brys hwnnw, roedd yr adroddiad hefyd yn nodi sut cafodd y contract
ei ddyfarnu, gan gynnwys penderfyniad y Cabinet i ddirprwyo’r penderfyniad i
ddyfarnu’r contract i’r Prif Weithredwr ar 12 Ebrill 2022, o ystyried effaith
yr etholiadau lleol ac amserlenni ar gyfer dyfarnu’r contract, ynghyd â’r
broses dendro a gwerthuso, gan gynnwys y gwiriadau ariannol angenrheidiol a
rheoli risg. Roedd RLD wedi sgorio uchaf
yn y broses dendro ac nid oedd rheswm dilys dros eu diystyru. O ystyried y risg canolig o ddefnyddio’r cwmni,
roedd y contract wedi’i fonitro’n agosach ac roedd rhai o’r is-gontractwyr mwy
sylweddol wedi’u talu’n uniongyrchol er mwyn lliniaru’r risg. Cyfeiriwyd hefyd at y dewisiadau ar gyfer
symud y prosiect ymlaen, a chyflwyno adroddiad i’r Cabinet ym mis Mai ar y
dewis a ffefrir ar gyfer cwblhau adeiladu’r prosiect. Yn y cyfamser, roedd gwaith yn parhau ar y
safle ac roedd is-gontractwyr allweddol wedi’u penodi’n uniongyrchol dan
reolaeth y Tîm Prosiect. Byddai’r holl
gymeradwyaeth caffael angenrheidiol wedi’i roi ar waith ar gyfer y gwaith
hwnnw. Ailadroddodd y Cabinet eu tristwch fod RLD, a oedd yn
fusnes lleol a hirsefydlog, wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ac roeddent yn
meddwl am y gweithwyr a phawb a oedd wedi’u heffeithio gan hyn. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, gofynnodd y
Cabinet am ragor o eglurder am y pwysau o ran amser wrth ddarparu’r prosiect,
yn enwedig effaith unrhyw oedi ar Gam 2 o ran cyflwyno’r prosiect a goblygiadau
o ran cost. Gofynnwyd am sicrwydd hefyd
o ran parhad y gwaith ar y safle yn y cyfnod interim. Gan ymateb i’r materion hynny a chwestiynau pellach a
godwyd gan Aelodau, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r
Economi a’r Rheolwr Prosiect – ·
na fyddai’n bosibl
cyflwyno’r gwasanaeth newydd nes bydd y depo ar agor, felly byddai unrhyw oedi
wrth gwblhau’r depo yn arwain at oedi wrth gyflwyno’r gwasanaeth newydd. Ystyriwyd y gellid darparu’r depo ar amser o
hyd, ac nid oedd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i oedi ei gyflwyno ·
byddai unrhyw oedi wrth
gyflawni’r prosiect yn arwain at oblygiadau o ran cost o ran adeiladu’r depo ei
hun o ystyried y cynnydd o ran chwyddiant a’r gost weithredol i’r
gwasanaeth. Roedd y system bresennol yn
golygu bod angen mynd â deunydd ailgylchu cymysg i gyfleuster oddi ar y safle
i’w ddidoli, am gost gynyddol i’r Cyngor; pan fyddai’r model newydd wedi’i
gyflwyno, byddai incwm yn deillio o’r ailgylchu · yn dilyn terfynu’r contract gyda RLD, roedd y Cyngor wedi penodi is-gontractwyr allweddol yn uniongyrchol i sicrhau bod gwaith yn parhau i ddatblygu ar y safle yn y cyfnod interim er mwyn cyflawni’r rhaglen. Roedd gwiriad cyllid wedi’i gynnal ar bob un o’r is-gontractwyr ac roedd pob un wedi sgorio’n uwch na’r trothwy isaf yn y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
STRATEGAETH DDEWISOL Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD - ADRODDIAD YMGYNGHORI PDF 291 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a
Chynllunio (copi ynghlwm) ynghylch Adroddiad Ymgynghori’r Strategaeth Ddewisol
ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) a cheisio cefnogaeth y Cabinet
ar gyfer Strategaeth Ddewisol y CDLl, gan gyflwyno’r newidiadau a argymhellir
i’r Cyngor i’w cymeradwyo’n derfynol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau; (b) argymell y Strategaeth a Ffefrir fel y’i
diwygiwyd gan yr adroddiad i’r Cyngor i’w gymeradwyo’n derfynol, ac (c) argymell bod y Strategaeth a Ffefrir
gymeradwy fel y’i diwygiwyd gan yr adroddiad yn ffurfio sail i ddatblygu’r
Cynllun Datblygu Lleol Newydd i’w Archwilio ar gyfer ymgynghoriad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Win Mullen-James yr
adroddiad ar Adroddiad Ymgynghori’r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun
Datblygu Lleol Newydd (CDLl) a cheisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer
Strategaeth a Ffefrir y CDLl, a chyflwyno’r newidiadau a argymhellir i’r Cyngor
i’w cymeradwyo’n derfynol. Roedd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai a’r Prif
Swyddog Cynllunio yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Roedd yr adroddiad eglurhaol i gyfarfod y
Grŵp Cynllunio Strategol ar 23 Chwefror 2023 (Atodiad 1 yr adroddiad) yn
crynhoi’r newidiadau a argymhellwyd i’r Strategaeth a Ffefrir. Roedd Adroddiad Ymgynghori’r Strategaeth a
Ffefrir (Atodiad 2 yr adroddiad), yn nodi manylion llawn yr ymgynghoriad a
gynhaliwyd, yr ymatebion a ddaeth i law, a’r diwygiadau a argymhellwyd i
Strategaeth a Ffefrir y CDLl. Roedd y
newidiadau arfaethedig wedi cael eu hasesu drwy’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd ac
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ac mae’r canlyniadau wedi llunio’r newidiadau
arfaethedig terfynol. Yn gryno, roedd newidiadau allweddol i’r
Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys rhagor o amlygrwydd a phwysigrwydd i elfennau
fel lliniaru newid hinsawdd, lleihau carbon a theithio llesol yn y weledigaeth,
amcanion a pholisïau allweddol; gostyngiad o ran faint o dir glas cyflogaeth
Dosbarth B newydd ddylid ei ddyrannu yn y strategaeth dwf yn dilyn adolygiad yr
ymgynghorwyr o’r sylfaen dystiolaeth, a dileu Safle Strategol Bodelwyddan o’r
strategaeth ofodol yn dilyn pryderon am ei ddarparu yn sgil newidiadau i gyllid
y fargen dwf. Argymhellwyd bod y targed
tai fforddiadwy’n cael ei gynyddu hefyd.
Byddai’r targed gwirioneddol yn cael ei lywio gan yr Asesiad o’r
Farchnad Dai Leol. Yn olaf, cyfeiriwyd
at waith y Grŵp Cynllunio Strategol a rhoddwyd gwahoddiad agored i bob
Aelod fynychu. Cydnabu’r Cabinet bwysigrwydd datblygu gwaith ar y
CDLl i sicrhau bod y Cyngor yn cael dylanwad lleol ar fathau o ddatblygiadau ar
draws y sir a’u lleoliad, a’u bod yn cael cyfle i newid polisïau a dyraniadau i
adlewyrchu materion a meysydd newydd fel newid hinsawdd. Croesawodd y Cabinet y newidiadau allweddol,
yn enwedig y pwyslais o’r newydd ar liniaru newid hinsawdd, teithio llesol, y
Gymraeg a chynyddu’r targed tai fforddiadwy.
Croesawyd y mewnbwn gan Gynghorwyr, swyddogion proffesiynol, a’r ymateb
da o’r ymgynghoriad cyhoeddus hefyd, a soniwyd yn benodol am waith caled y
Grŵp Cynllunio Strategol. Fel aelod
o’r Grŵp Cynllunio Strategol, amlygodd y Cynghorydd Peter Scott y gwaith
caled a wnaed eisoes a gwaith pellach wrth symud ymlaen, a rhoddodd deyrnged i
waith caled swyddogion, gan gymeradwyo’r adroddiad yn llawn. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd - ·
amlygwyd yr angen am
fanylion yn y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd am fwriad y Cyngor, gan gynnwys
elfennau sy’n ymwneud â newid hinsawdd a rhoddodd swyddogion sicrwydd y byddai
adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno, yn gyntaf i’r Grŵp Cynllunio
Strategol, ar fanylion a geiriad polisïau i gwmpasu’r materion hynny a fyddai’n
rhoi cyfle i Aelodau fod yn rhan o’r gwaith hwnnw ar gam cynnar · roedd yr adroddiad yn cyfeirio at ddarpariaeth ar gyfer lefel o dwf a gaiff ei gefnogi gan dir ar gyfer 3,775 o gartrefi newydd er mwyn bodloni gofyniad tai o 3,275 annedd, a bod y gwahaniaeth yn ymwneud â chynllun wrth gefn i sicrhau bod y 3,275 o anheddau’n cael eu darparu. Ers dechrau cyfnod y cynllun yn 2018, roedd tua 1,200 o anheddau o’r cyfanswm o 3,275 wedi’u hadeiladu eisoes, ac roedd tua 1,000 o anheddau naill ai’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd neu’n safleoedd lle’r oedd caniatâd cynllunio wedi’i roi ac a fyddai’n debygol o ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf. Felly, roedd yn debygol y byddai darpariaeth tir ar gyfer tua 1,000 o anheddau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYFLWYNO SYSTEM GAFFAEL DDEINAMIG AR GYFER DARPARU GRANTIAU CYFLEUSTERAU I BOBL ANABL PDF 308 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar ddatblygu a gweithredu System
Gaffael Ddeinamig mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint ar gyfer darparu
Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl Gorfodol, yn unol â Rheolau presennol y
Weithdrefn Gontractau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo datblygiad a gweithrediad System Gaffael Ddeinamig mewn partneriaeth
gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu’r Grant Gorfodol Cyfleusterau i Bobl Anabl
yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau presennol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad i
geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer datblygiad a gweithrediad System
Gaffael Ddeinamig mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu’r
Grant Gorfodol Cyfleusterau i Bobl Anabl yn unol â Rheolau’r Weithdrefn
Gontractau presennol. Roedd gofyniad statudol ar Awdurdodau Lleol i
ddarparu addasiadau, trwy Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, i unigolion
diamddiffyn er mwyn eu galluogi i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartref eu
hunain. Nid oedd y broses bresennol o
gaffael gwaith addasu yn cyd-fynd â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau’r Cyngor ac
felly roedd System Gaffael Ddeinamig wedi’i hargymell, mewn partneriaeth gyda
Chyngor Sir y Fflint, a fyddai’n caniatáu i’r ddau Awdurdod Lleol ddarparu
Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl ar draws y ffin trwy drawstoriad da o
gontractwyr cymwys. Eglurwyd y broses
gaffael bresennol a’r System Gaffael Ddeinamig newydd. Roedd y System Gaffael Ddeinamig yn debyg i
restr gymeradwy o gontractwyr ond roedd yn darparu mwy o hyblygrwydd ac roedd
yn cael ei gweithredu fel proses gwbl electronig, a fyddai’n agored drwy gydol
cyfnod dilysu’r system brynu i unrhyw gwmni sy’n bodloni’r meini prawf
dethol. Y bwriad oedd darparu adroddiad
pellach ar ddiwedd y broses gaffael o ran gweithredu’r System Gaffael
Ddeinamig. Cydnabu’r Cabinet fanteision y System arfaethedig a
fyddai’n darparu mwy o hyblygrwydd a gwerth am arian, gyda chronfa ehangach o
gontractwyr a allai wneud cais am wahanol lotiau wrth i waith fod ar gael, ac
er mwyn diwallu anghenion rhai a oedd angen cyfleusterau i bobl anabl yn y
ffordd orau mewn modd mwy amserol.
Ymatebodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai a’r Prif Syrfëwr Prosiect
Adeiledig i gwestiynau, gan gadarnhau bod y dyraniad cyfalaf blynyddol wedi
cynyddu i £1.5 miliwn o ystyried cost gynyddol addasiadau oherwydd pwysau
chwyddiant. Roedd y grant gorfodol yn
dal i fod yn £36,000 ond roedd y swm a roddwyd fel grant cyn pridiant ar yr
eiddo wedi cynyddu o £5,000 i £10,000 a oedd yn rhoi rhagor o hyblygrwydd i
osod y rhan fwyaf o’r addasiadau canolig, fel lifftiau grisiau a rampiau, a oedd
yn cyd-fynd â newidiadau Llywodraeth Cymru i brofion modd ar gyfer addasiadau
ar gyfer anableddau. Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi bod yr
archwiliad mewnol wedi nodi’r gwelliant gofynnol a chroesawodd y broses well
newydd, gan longyfarch pawb a fu’n rhan o’r broses a’r gwaith caled a wnaed er
mwyn galluogi addasiadau i gartrefi er budd pobl ag anableddau ac i sicrhau
ansawdd bywyd gwell. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo datblygiad a gweithrediad System Gaffael Ddeinamig mewn partneriaeth
gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu’r Grant Gorfodol Cyfleusterau i Bobl Anabl
yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau presennol. |
|
ADNEWYDDU’R FFRAMWAITH CONTRACTWR CYNNAL A CHADW TAI GWAG PDF 241 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau caffael ac ymrwymo i
gontract ar gyfer penodi nifer o gontractwyr i fframwaith i gynnal gwaith
ailwampio i eiddo domestig gwag ym mherchnogaeth y Cyngor (a elwir yn dai
gwag). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo ail-dendro’r
fframwaith tai gwag, a (b) cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad)
fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys
Thomas yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau caffael
ac ymrwymo i gontract i benodi nifer o gontractwyr i fframwaith i wneud gwaith
ailwampio i eiddo domestig gwag sydd ym mherchnogaeth y Cyngor (a elwir yn dai
gwag). Rhoddwyd rhywfaint o wybodaeth
gefndirol a oedd yn cynnwys dull y Cyngor o wella ansawdd eiddo gwag cyn eu hail-osod,
a oedd yn effeithio ar amseroedd cwblhau a chynnydd o ran costau. Eglurodd y Rheolwr Gweithrediadau Eiddo fod y
fframwaith presennol wedi’i sefydlu yn dilyn archwiliad mewnol yn 2017 ond
byddai’n dod i ben ym mis Medi 2023. O
ystyried ei lwyddiant, y bwriad oedd ail-dendro’r fframwaith, a mynd allan i’r
farchnad eto i sicrhau gwerth gorau.
Dywedwyd wrth y Cabinet y byddai darparu fframwaith yn lleihau costau ac
amser o ran cynnal gwaith ar unedau tai gwag, a chynyddu incwm i’r Cyfrif
Refeniw Tai wrth gynnal y safon eithriadol sydd wedi’i gosod o ran tai o
ansawdd uchel ar gyfer tenantiaid tai’r Cyngor. Cydnabu’r Cabinet yr angen i
leihau costau ac amseroedd cwblhau ar gyfer eiddo gwag o ystyried y pwysau
presennol o ran tai, ond roeddent hefyd yn siarad o blaid yr angen i waith
priodol gael ei wneud er mwyn sicrhau bod cartrefi o safon, sy’n addas i’r
diben, yn cael eu hail-osod a fyddai, yn eu tro, yn cael parch a gofal gan
denantiaid, ac roedd Aelodau’n falch bod tai o safon yn cael eu hystyried yn
flaenoriaeth. Roedd y Cabinet hefyd yn
falch o nodi’r cynnydd disgwyliedig o ran amseroedd cwblhau tai gwag fel rhan
o’r fframwaith newydd a’r cyfleoedd i fusnesau lleol a masnachwyr bach yn Sir
Ddinbych. O ran prynu tai’r Cyngor yn
ôl, cadarnhawyd nad oedd y fframwaith ei hun ar gyfer ‘prynu’n ôl’ yn benodol,
ond gellid defnyddio contractwyr ar y fframwaith ar gyfer gwaith gofynnol ar
eiddo a brynwyd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo ail-dendro’r
fframwaith tai gwag, a (b) cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad)
fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb; (b) cymeradwyo gofynion arian
cyfatebol ar gyfer rhaglen Grant Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd, fel y nodir yn
adran 6.8 ac Atodiad 5 yr adroddiad, ac (c) cymeradwyo prosiect ‘Pedair
Priffordd Fawr’ fel rhan o raglen Grant Ffyniant Bro De Clwyd fel y nodir yn
adran 6.9 ac Atodiad 6 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn – ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2022/23 oedd £233.696 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22) ·
rhagwelwyd y byddai
gorwariant o £2.846 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol
(gorwariant o £2.249 miliwn fis diwethaf) ·
amlygwyd y risgiau ar hyn o
bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ·
rhoddwyd manylion arbedion
gwasanaeth a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£0.754 miliwn) ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr. Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r gofyniad arian
cyfatebol ar gyfer rhaglen Grant Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd hefyd, ynghyd â
phrosiect ‘Pedair Priffordd Fawr’ fel rhan o raglen Grant Ffyniant Bro De
Clwyd. Tynnodd y Pennaeth Cyllid sylw at yr elfennau
canlynol yn yr adroddiad – ·
roedd y cynnydd o ran
gorwariant o £0.6 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol oherwydd
pwysau ychwanegol yn y Gwasanaethau Plant (roedd y rhan fwyaf o’r pwysau’n
ymwneud â lleoliadau plant y rhagwelwyd y byddent yn para’n hirach nag a
ragwelwyd o’r blaen) a’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (lle’r oedd
cronfeydd wrth gefn y gwasanaeth wedi’u defnyddio i liniaru’r gorwariant). Roedd dewisiadau i ariannu’r gorwariant yn
cynnwys lefel sylfaenol y cronfeydd wrth gefn a chronfeydd wrth gefn a
glustnodwyd a’r gronfa wrth gefn lliniaru’r gyllideb; byddai argymhellion yn
cael eu gwneud pan fyddai’r sefyllfa derfynol yn hysbys ·
roedd cais Gorllewin Clwyd
ar gyfer cyllid Ffyniant Bro a’r arian cyfatebol gofynnol wedi’i gytuno o’r
blaen gan y Cabinet. Ar ôl i Lywodraeth
y DU gymeradwyo’r cais, gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r gofyniad arian
cyfatebol yn ffurfiol, fel a ymrwymwyd gan y Cyngor eisoes, gan ddod i
£1,038,108. Roedd rhaglen Ffyniant Bro
De Clwyd a’r cyllid gofynnol wedi’i gymeradwyo mewn egwyddor eisoes gan y
Cabinet. Ar ôl i’r Bwrdd Cyllideb
adolygu’r achos busnes ar gyfer prosiect ‘Pedair Priffordd Fawr’, argymhellwyd
bod y Cabinet yn cymeradwyo’r prosiect, a oedd yn fwy na £1 miliwn. Roedd egwyddor y ddau gais wedi’i chymeradwyo
eisoes ac roedd y ddau achos busnes wedi’u hadolygu a’u cefnogi gan y Bwrdd
Cyllideb. Byddai’r Grŵp Craffu
Cyfalaf newydd yn cynnal adolygiadau pellach o achosion busnes. Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod ef ac Aelodau
Rhuthun wedi cwrdd â David Jones, AS Gorllewin Clwyd, i drafod materion
llywodraethu a gwariant i ddarparu prosiectau. Cyfeiriodd y Cynghorydd Gill German at elfen o’r
adroddiad a oedd yn ymwneud â’r Gwasanaethau Addysg a Phlant, gan bwysleisio’r
angen uchel yn y Gwasanaethau Plant a bod amcanestyniadau’n dangos y byddai’r
angen yn parhau. Soniodd am adborth gan
y gwasanaeth ac ysgolion a’i phrofiad uniongyrchol ei hun o’r effaith ar ôl y
pandemig a’r cynnydd o ran materion iechyd meddwl, gydag effaith anghymesur ar
blant o gefndiroedd incwm isel. Er bod
pwysau amlwg o ran y gyllideb, roedd gan y Gwasanaethau Plant rôl hanfodol o
ran delio â’r materion hynny a chefnogi cydweithwyr iechyd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb; (b) cymeradwyo gofynion arian
cyfatebol ar gyfer rhaglen Grant Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd, fel y nodir yn
adran 6.8 ac Atodiad 5 yr adroddiad, ac (c) cymeradwyo prosiect ‘Pedair
Priffordd Fawr’ fel rhan o raglen Grant Ffyniant Bro De Clwyd fel y nodir yn
adran 6.9 ac Atodiad 6 yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 228 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet i’w hystyried, a nododd yr
aelodau’r diwygiadau canlynol – ·
Cam 2 y Depo Gwastraff yng
Ngholomendy, Dinbych – symudwyd o fis Ebrill i fis Mai ·
Eisteddfod Genedlaethol
Cymru - (Datgan Diddordeb) – ychwanegwyd at fis Ebrill ·
Fframwaith Partneriaeth
Adeiladu Gogledd Cymru, 3ydd iteriad – ychwanegwyd at fis Mai ·
Premiwm Ail Gartrefi a
Chartrefi Gwag Hirdymor – ychwanegwyd at
fis Mai a mis Gorffennaf ·
Strategaeth y Gymraeg –
ychwanegwyd at fis Mehefin Cyfeiriodd yr Arweinydd at broses datblygu’r prosiectau ar gyfer rhaglen
ariannu Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd a chytunwyd i drafod y trefniadau hynny yn
sesiwn Briffio’r Cabinet. Roedd y
Cynghorydd Emrys Wynne yn awyddus i egluro’r broses a’r rhai a oedd yn rhan
ohoni er mwyn sicrhau bod y prosiectau’n cael eu darparu mewn modd effeithlon
ac effeithiol. PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.30am. |