Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Rhys Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 7 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Gareth Sandilands – Cysylltiad Personol –
Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganwyd y cysylltiadau canlynol - Datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas gysylltiad personol ag
eitem 5 ar y rhaglen – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, oherwydd ei fod yn byw
ar Ffordd Ystrad yn agos i Ysgol Plas Brondyffryn ac Ysgol Uwchradd Dinbych. Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad sy’n
rhagfarnu ag eitem 7 ar y rhaglen - Comisiynu Sefydliadau i gyflawni rhaglen o
dan Y Gronfa Ffyniant Gyffredin am ei fod yn Gyfarwyddwr Bwrdd Cadwyn Clwyd. Datganodd y Cynghorydd Gareth Sandilands gysylltiad
personol ag eitem 7 ar y rhaglen - Comisiynu Sefydliadau i gyflawni rhaglen o
dan Y Gronfa Ffyniant Gyffredin am ei fod yn Ymddiriedolwr Cyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r
Economi am y penderfyniad brys a wnaed, o dan 2.9 y cyfansoddiad, i derfynu’r
contract rhwng y Cyngor ac R L Davies iddynt weithredu fel y prif gontractwr ar
gyfer Depo Gwastraff 2 ar Ystâd Colomendy, Dinbych. Cofnodion: Roedd yr Arweinydd yn drist i adrodd fod RL Davies a oedd
gyda chytundeb â’r Cyngor ar gyfer y Depo Gwastraff wedi mynd i weinyddiaeth yn
ddiweddar. Yr Arweinydd, Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Mynegodd yr Aelod
Arweiniol a’r Cynghorydd dros Yr Amgylchedd a’r Economi, Barry Mellor ei
dristwch o glywed y newyddion a chydymdeimlai â gweithwyr y cwmni a phawb sydd
wedi’u heffeithio. Roedd RL Davies wedi
bod yn gwmni hir sefydlog ac wedi cyflawni nifer o brosiectau gwych yn y
rhanbarth dros y blynyddoedd. O ran yr effaith ar y Cyngor fe ddywedodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi fod penderfyniad brys wedi
cael ei wneud, o dan 2.9 yng nghyfansoddiad y Cyngor, i derfynu’r contract rhwng
y Cyngor ac RL Davies ac iddyn nhw weithredu fel y prif gontractwr ar gyfer
Depo Gwastraff 2 ar Ystâd Colomendy, Dinbych.
Caniataodd y cyfansoddiad i benderfyniad dirprwyedig ar frys i gael ei
wneud lle na allai penderfyniad aros tan y cyfarfod nesaf posib o’r
Cabinet. Byddai’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol a’r Aelod Arweiniol yn cydweithio i ddod ag adroddiad i Friffio’r
Cabinet a’r Cabinet ym mis Mawrth ar y penderfyniad i ddyfarnu’r cytundeb i RL
Davies a’r dewisiadau i gwblhau’r prosiect.
Darparwyd sicrwydd fod popeth yn cael ei wneud i sicrhau fod y prosiect
yn mynd yn ei flaen. Parhaodd y gwaith
ar y safle gyda rhai isgontractwyr yn gweithio o dan gyfarwyddyd y Cyngor. Hysbyswyd yr holl aelodau am y datblygiadau
diweddaraf ac roedd yr Arweinydd yn awyddus i sicrhau fod y lefel o ymrwymiad
yn parhau wrth i faterion symud ymlaen. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 24 Ionawr 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
24 Ionawr 2023. PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
24 Ionawr 2023 fel cofnod cywir. |
|
PROSIECT YSGOL PLAS BRONDYFFRYN - ADRODDIAD GWRTHWYNEBIAD TREFNIADAETH YSGOL PDF 234 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol
Addysg, Plant a Theuluoedd (copi ynghlwm), yn gofyn am adolygiad y Cabinet o’r
Adroddiad Gwrthwynebiad ac a ddylid cymeradwyo’r cynnig a nodir yn yr Hysbysiad
Statudol i gynyddu capasiti Ysgol Plas Brondyffryn o 116 i 220. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) adolygu’r Adroddiad Gwrthwynebiad ynghlwm
fel Atodiad 2 i’r adroddiad; (b) cadarnhawyd ei fod yn fodlon y dilynwyd
proses statudol fel y nodwyd yn Nghod Sefydliad yr Ysgol; (c) cymeradwyo’r cynnig fel y nodwyd yn yr
Hysbysiad Statudol o ran cynyddu gallu Ysgol Plas Brondyffryn o 116 i 220, a (d) cadarnhawyd eu bod wedi darllen, deall a
chymryd i ystyriaeth yr Asesiad o Effaith ar Les, fel y manylwyd yn Atodiad 1
yr adroddiad, fel rhan o’i ystyriaeth, gan nodi nad oedd lleoliad safle ar
gyfer ailddatblygu wedi’i gytuno nai’i ymrwymo gan y Cabinet na’r Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gill German yr adroddiad yn gofyn
i’r Cabinet ystyried y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd wrth ymateb i’r Hysbysiad
Statudol gan y Cyngor ar y cynnig i gynyddu cynhwysedd Ysgol Plas Brondyffryn o
116 i 220 ac i ystyried os fydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo ac i symud
ymlaen gyda’r prosiect. Roedd y Prosiect yn rhan o Raglen Cymunedau
Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Band B) a gymeradwywyd ym mis Medi
2020. Mae’r ysgol yn cynnig darpariaeth
arbenigol i ddisgyblion gydag awtistiaeth 3 - 19 oed ar dri safle ar wahân ac y
byddai’n symud i gyfleuster pwrpasol a newydd sbon er mwyn gallu cynnal y
cynnydd mewn cynhwysedd a chwrdd ag anghenion y plant ar y sbectrwm
awtistig. O ystyried y ddarpariaeth
arbenigol, byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu 75% o’r gwaith adeiladu a Sir
Ddinbych yn cyfrannu 25% ato. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod adolygiad
o’r Adroddiad ar Wrthwynebiadau yn rhan o’r broses gyfreithiol sydd ei angen
cyn penderfynu ar yr Hysbysiad Statudol.
Roedd manylion am ddau wrthwynebiad yn yr adroddiad a oedd yn
canolbwyntio ar leoliad yr adeilad newydd yn hytrach na’r cynnydd mewn
cynhwysedd ynghyd ag ymateb y Cyngor i’r pryderon hynny. Roedd yr ysgol wedi gordanysgrifio ar hyn o
bryd a rhagwelir cynnydd yn y galw wrth symud ymlaen. Mae’r cynnig i gynyddu’r cynhwysedd yn unol â
chytuno ar safle, cymeradwyo caniatâd cynllunio, bod y cyllid ar gael a bod yr
adeilad newydd yn gallu ymdopi â’r cynnydd mewn cynhwysedd. Dywedodd yr Arweinydd eto fod yr adroddiad yn cyfeirio at
gynnydd yng nghynhwysedd yr ysgol ac nid lleoliad unrhyw adeilad newydd sydd
wedi bod wrth wraidd y gwrthwynebu. Cododd y Cynghorydd Rhys Thomas bryderon ynglŷn ag
argymhelliad 3.4 gan ei fod yn cyfeirio at yr Asesiad Effaith ar Les a oedd yn
cyfeirio at safle penodol ar gyfer yr adeilad newydd sydd eto i’w benderfynu;
gofynnodd am eglurhad ynghylch yr argymhelliad yn yr Adroddiad ar
Wrthwynebiadau cyn belled ag y mae’n berthnasol i gynhwysedd yn unig, a’r
broses ar wahân ar gyfer dewis safle, a thynnodd sylw at y dryswch ynglŷn
â’r ddwy broses o ystyried nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi’u derbyn
ynghylch cynyddu’r cynhwysedd ond yn hytrach wedi canolbwyntio ar safle’r
adeilad newydd. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Addysg a’r Dirprwy Swyddog Monitro i’r
pwyntiau a godwyd ac unrhyw gwestiynau eraill i ddilyn, fel a ganlyn - ·
Roedd yr Asesiad Effaith ar
Les yn seiliedig ar y safle a ffefrir ar yr amser ac ni fu rhagdybiaeth mai dyma
fyddai’r safle ar gyfer yr adeilad newydd gan nad oedd hynny wedi’i benderfynu
eto; roedd dichonolrwydd safle arall hefyd o dan ystyriaeth a byddai unrhyw
safle a fyddai’n cael ei adnabod yn cael ei wneud yn unol â’r prosesau priodol. Pe bai safle gwahanol yn cael ei nodi byddai
angen adolygu’r Asesiad Effaith ar Les, a phe bai safle tu allan i Ddinbych yn
cael ei gynnig yna byddai angen ail-ddechrau’r broses gyfan. ·
Roedd angen i Cabinet
gymryd yr Asesiad Effaith ar Les i ystyriaeth fel rhan o’i ystyriaeth, ond nid
oedd angen cytuno â’r holl bwyntiau; mae’n bosib nad yw’r Asesiad wedi
canolbwyntio’n ddigonol ar effaith y cynnydd mewn cynhwysedd ac felly roedd
elfennau oedd yn canolbwyntio ar leoliad.
O ganlyniad, cynigiodd y Cynghorydd Rhys Thomas fod diwygiad yn cael ei
wneud i argymhelliad 3.4, eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, a
fyddai’n egluro bod y safle ei hun heb gael ei gytuno arno neu bod y Cabinet
neu Gyngor heb ymrwymo i safle eto. · Mae’r argymhelliad yn yr Adroddiad ar Wrthwynebiadau yn cyfeirio at y cynnig ‘I ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Chludiant (copi ynghlwm), yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer
Strategaeth Ynni Gogledd Cymru, a nodi’r wybodaeth a ddarparwyd ynglŷn â
chychwyn Cynllunio Ardal Leol yn Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo Strategaeth Ynni
Gogledd Cymru a Chynllun Gweithredu fel sydd ynghlwm i’r adroddiad, yn
cymeradwyo’r weledigaeth ac uchelgais y strategaeth, ond yn dymuno mynegi
amheuaeth am y defnydd o niwclear i gyflawni uchelgeisiau datgarboneiddio’r
rhanbarth, a (b) nodi dechrau Cynllunio Ynni
Ardal Leol yn y sir. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Barry Mellor adroddiad yn gofyn am gefnogaeth Strategaeth a Chynllun Gweithredu
Ynni Gogledd Cymru, ac i nodi’r wybodaeth a ddarparwyd ynglŷn â pharhau
gyda Chynllunio Ardal Leol yn Sir Ddinbych. Mae pob rhanbarth yng
Nghymru wedi datblygu Strategaeth a Chynllun Gweithredu Ynni a bellach yn gofyn
am gefnogaeth ddemocrataidd gan bob rhanbarth awdurdod lleol. Eglurodd y Rheolwr Rhaglen
Newid Hinsawdd fod gan Gymru darged deddfwriaethol i leihau ei allyriadau
carbon i sero net erbyn 2050. Mae
Strategaeth Ynni Gogledd Cymru wedi nodi’r prif flaenoriaethau a chyfleoedd i
gyflawni ei huchelgais ar gyfer datgarboneiddio ac mae’r Cynllun Gweithredu yn
dehongli’r blaenoriaethau’n gamau gweithredu ac ymyriadau strategol. Mae gwaith wedi cael ei wneud gan Lywodraeth
Cymru ac Uchelgais Gogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â
budd-ddeiliaid yn cynnwys y Cyngor, i lunio’r ddogfennaeth hynny. Roedd rhai camau gweithredu lle'r oedd
awdurdodau lleol wedi cael eu cynnig i arwain; nid oedd angen cyllid ar lawer
ond byddai’n golygu amser staff ar draws ystod o wasanaethau. Un cam gweithredu oedd cwblhau Cynllun Ynni
Ardal Leol ar gyfer pob sir, gan gynnwys Sir Ddinbych, i ddarparu dull yn
seiliedig ar dystiolaeth i adnabod y ffordd fwyaf effeithiol i gwrdd â’r targed
sero net yn lleol ac yn genedlaethol.
Dechreuodd y gwaith hynny yn Ionawr 2023 gyda’r bwriad o’i orffen yn
Ionawr 2023 gyda chynlluniau i gael eu cyflwyno i’r Cabinet i’w cymeradwyo. Nododd y Cabinet yr adroddiad cynhwysfawr a
phwysigrwydd y strategaeth ynni ar gyfer cyflawni uchelgeisiau’r rhanbarth ar
gyfer datgarboneiddio. Wrth ystyried yr
adroddiad, canolbwyntiodd y drafodaeth ar y meysydd canlynol - ·
Mynegodd y Cynghorydd Rhys Thomas ei bryderon ei hun,
ac eraill ar y Cyngor, ynglŷn â’r defnydd posib o ynni niwclear yn y
rhanbarth fel y cyfeirir ato yn y Strategaeth.
Eglurodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd fod niwclear yn y rhestr fel
rhan o gymysgedd technoleg, yn arbennig mewn perthynas â chreu trydan
adnewyddadwy er mwyn cwrdd â tharged 2050, ac roedd yn unol â pholisïau Llywodraeth
Cymru a’r DU. Tynnwyd sylw at raddfa’r
cyfraniad niwclear y byddai’r Strategaeth yn ei ddisgwyl er mwyn cwrdd â’r
targed ochr yn ochr ag ynni gwynt ar y tir ac ar y môr, PV solar ac ynni llanw
a morol. Y disgwyl fyddai bod prosiectau
niwclear yn cael eu cyfyngu i safleoedd trwyddedig yn barod fel Wylfa a
Thrawsfynydd gyda rheoli gwastraff yn cael ei wneud yn y fan a’r lle. Cynigodd y Cynghorydd Rhys Thomas fod
diwygiad yn cael ei wneud i argymhelliad 3.1, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd
Barry Mellor, i fynegi amheuaeth ynglŷn â defnyddio niwclear er mwyn cwrdd
ag uchelgeisiau datgarboneiddio’r rhanbarth, gyda’r holl Gabinet yn pleidleisio
o blaid y diwygiad. ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis at y Cynllunio
Ynni Ardal Leol gan gynnig y defnydd o gynlluniau ynni lleol fel yr un yng
Nghorwen, fel rhan o’r broses gan ganmol y gwaith o ran hynny. Roedd y Cynghorydd Julie Matthews hefyd yn
awyddus i sicrhau fod y cymunedau lleol yn elwa. Cadarnhawyd fod perchnogaeth leol o ynni
adnewyddadwy yn cael ei gynnwys ym mlaenoriaethau’r Strategaeth · Roedd y Cynghorydd Barry Mellor yn falch o adrodd ar ei ymweliad sydd i ddod o Ysgol Tir Morfa, Y Rhyl, ac i weithio i leihau allyriadau carbon yr ysgol gydag offer newydd wedi’i gomisiynu gan Dîm Ynni'r Adran Eiddo. Mae cwmni bwyler o’r DU, ‘Ideal’ wedi darparu dau bwmp gwres yr awyr i’w gosod yn yr ysgol fel rhan o gynllun peilota ac mae’r Tîm Ynni wedi gosod PV solar a storfa batri er mwyn cefnogi’r lleihad mewn allyriadau carbon ar y safle, a allai ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
COMISIYNU SEFYDLIADAU I DDARPARU RHAGLEN DAN Y GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN PDF 233 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf
Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi ynghlwm), yn gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i gomisiynu Cadwyn Clwyd a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
i ddarparu rhaglen waith (gan gynnwys cyfundrefn grantiau neu ‘Gronfa
Allweddol’) dan rai ymyriadau’r Gronfa Ffyniant Cyffredin. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet y
cytuno i gomisiynu Cadwyn Clwyd a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
i gynnal rhaglen o waith yn cyfuno darpariaeth uniongyrchol a chronfa allweddol
ar gyfer themâu (a fyddai’n agored i geisiadau gan gymunedau Sir Ddinbych, boed
yn breswyl neu’n fasnachol), fel y manylwyd yn Atodiad A ac Atodiad B yr
adroddiad. Cofnodion: [Gadawodd y Cynghorydd Emrys Wynne y cyfarfod ar
gyfer yr eitem hon ar y rhaglen gan ei fod wedi datgan cysylltiad sy'n
rhagfarnu. Cyflwynodd ei ymddiheuriadau
hefyd ar gyfer gweddill y cyfarfod gan fod ganddo ymrwymiad arall.] Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad
yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gomisiynu Cadwyn Clwyd a CGGSDd i
gyflawni rhaglen o waith (i gynnwys trefn grant neu ‘Cronfa Allweddol’) o dan
ymyraethau Y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiadau’n
flaenorol ar Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth Y DU a oedd yn rhan o’r
agenda Ffyniant Bro. Mae gwerth
prosiect hyd at o leiaf £250,000 wedi cael ei gytuno arno ar gyfer ceisiadau
Cronfa Ffyniant Gyffredin Y DU. Mae’r
adroddiad yn canolbwyntio ar fecanwaith i gefnogi prosiectau gwerth isel o lai
na £250,000 trwy sefydlu trefn grant (Cronfeydd Allweddol) a fyddai ar gael i gymunedau
a busnesau ac yn cyfrannu at allbynnau a chanlyniadau’r ymyriadau unigol. Wrth sefydlu’r isadeiledd i gyflawni’r
prosiectau llai cynigwyd y dylid gwneud y comisiynu o dan themâu Cefnogaeth i
Fusnesau a Chynyddu Gallu Cymuned a bod Cadwyn Clwyd a CGGSDd yn cael eu
comisiynu yn uniongyrchol i gyflawni’r pecyn o gefnogaeth a fyddai ar gael i
gymunedau er mwyn sicrhau fod pobl yn gallu gwneud y mwyaf o fuddion y
prosiectau. Croesawodd y Cabinet yr adroddiad ac amlygwyd y
pwysigrwydd o gefnogi prosiectau llai o fewn cymunedau a sicrhau fod yr
isadeiledd yn ei le i rymuso a chefnogi sefydliadau lleol, adeiladu ymrwymiad a
chynhwysedd cymunedol, a bod yn ymatebol i angen lleol. Nodwyd bod gan y ddau sefydliad gysylltiad
uniongyrchol i gymunedau ac mewn sefyllfa dda i annog sefydliadau llai i wneud
cais yn uniongyrchol iddyn nhw ac i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol o ran
‘cefnogaeth i fusnesau’ a ‘chynyddu gallu cymuned’, a fyddai hefyd yn cyfrannu
at y Cynllun Corfforaethol, ac yn golygu Sir Ddinbych mwy teg a chyfartal. Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â
hyfforddiant a datblygiad, cadarnhaodd Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a
Marchnata fod y broses grant ei hun yn rhan bwysig o’r hyfforddiant a ddarperir
i sicrhau fod cynigion cryf yn cael eu cyflwyno a hefyd o ran cefnogi
sefydliadau i wneud y mwyaf o bob ffrwd ariannu sydd ar gael iddyn nhw, yn
ogystal â chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac i alluogi sefydliadau i
flodeuo gyda’r sgiliau ac arbenigedd angenrheidiol mewn modd diogel a
chynaliadwy. PENDERFYNWYD bod y Cabinet y
cytuno i gomisiynu Cadwyn Clwyd a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
i gynnal rhaglen o waith yn cyfuno darpariaeth uniongyrchol a chronfa allweddol
ar gyfer themâu (a fyddai’n agored i geisiadau gan gymunedau Sir Ddinbych,
boed yn breswyl neu’n fasnachol), fel y manylwyd yn Atodiad A ac Atodiad B yr
adroddiad. Ar y pwynt hwn (11.25 am) cymerodd y pwyllgor egwyl am
luniaeth. |
|
ARGYMHELLION BWRDD Y GYLLIDEB - CYFALAF PDF 230 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer
prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2023/24 ac
argymhelliad i’r Cyngor llawn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y prosiectau a
nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2023/24 yn
cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Gwyneth Ellis yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a
nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2023/24 yn ôl argymhellion y Bwrdd
Cyllideb ac fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Wedi’r Grŵp Buddsoddiad
Strategol ddod i ben mae proses
cymeradwyo cyfalaf newydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Yn y cyfamser mae’r Bwrdd Cyllideb - Cyfalaf
wedi cwrdd i ystyried y cynigion sydd wedi cael eu paratoi gan bob
gwasanaeth. Cynghorwyd Cabinet o’r
cyllid sydd ar gael ar gyfer dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni parhaus o
waith, a gwaith y Bwrdd Cyllideb gydag adolygu’r cynigion am ddyraniadau. Mae crynodeb o’r argymhellion wedi cael ei
ddarparu sy’n cynnwys ffynhonnell ariannu ar gyfer pob prosiect a’r rhesymeg
dros gefnogi’r prosiectau a dyraniadau penodol hynny. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod yr adroddiad yn cynnwys elfennau
o ddydd i ddydd ar gyfer gwariant cyfalaf fel trwsio a chynnal a chadw er mwyn
gwneud yn siŵr fod asedau yn parhau i fod yn addas i’r diben. Mae’r Benthyca Darbodus i gynnal y gwariant
o £4m ar gyfer Priffyrdd wedi cael ei gynnwys hefyd. Mae’r broblem o gwrdd â’r cynnydd mewn
costau wedi cael ei amlygu wrth i elfennau wedi’u hariannu’n allanol un ai gael
eu rhewi neu eu gostwng yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd lleihad
yng Nghyllideb Cyfalaf Llywodraeth Cymru.
O ganlyniad, roedd y Cyngor yn gorfod ariannu mwy o’r elfen hynny gyda
chronfeydd cyfalaf yn cael eu defnyddio i helpu cynnal y lefel o gyllido yn y
flwyddyn ar gyfer yr ardaloedd hynny sy’n cael eu gweld fel blaenoriaethau. PENDERFYNWYD bod y prosiectau a
nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2023/24 yn
cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn. |
|
Ystyried
adroddiad (sydd yn cynnwys
atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd
Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi
ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb; (b) cymeradwyo’r ffurflen gomisiynu i dendro, trwy un o’r fframweithiau
sy’n bodoli, ar gyfer bob dosbarth o wasanaethau yswiriant (ac eithrio morol a
therfysgaeth sy’n farchnadoedd arbenigol) ar gyfer yr awdurdod, fel nodir yn
adran 6.8 ac Atodiad 5 yr adroddiad, a (c) cymeradwyo’r weithdrefn i ddileu Trethi Busnes na ellir eu
hadennill, fel y manylir yn adran 6.9 yn Atodiad 6 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn - ·
mae’r gyllideb refeniw net
ar gyfer 2022/23 yn £233.696 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22) ·
rhagwelir y byddai
gorwariant o £2.249 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol
(gorwariant o £2.305m mis diwethaf) ·
amlygwyd y risgiau ar hyn o
bryd a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ·
manylion o arbedion gwasanaeth
a chynnydd mewn ffioedd a chostau (£0.754m) ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr. Gofynnwyd hefyd i’r Cabinet gymeradwyo’r ffurflen
gomisiynu i wneud tendr am wasanaethau yswiriant, ac i gymeradwyo’r diddymu o
Gyfraddau Busnes na ellir eu hadennill. Tynnodd y Pennaeth Cyllid sylw at yr elfennau
canlynol yn yr adroddiad - ·
gorwariant ar gyfer y
gwasanaeth a chyllidebau corfforaethol wedi aros yn sefydlog ar lefel o £2.2m -
£2.3m a oedd yn fforddiadwy gyda’r defnydd o gronfeydd wrth gefn ·
oherwydd y cyfanswm gwerth
a amcangyfrifwyd ar gyfer y tendr am wasanaethau yswiriant, roedd angen
cymeradwyaeth gan Cabinet, a byddai canlyniadau’r arferiad tendr yn cael ei
adrodd yn ôl i’r Cabinet ym Mehefin / Gorffennaf yn dibynnu ar y cynnydd. ·
manylion y cyfraddau busnes
na ellir eu hadennill wedi cael eu cynnwys fel atodiad cyfrinachol i’r
adroddiad ac angen cymeradwyaeth Cabinet gan fod y cyfanswm wedi mynd y tu hwnt
i’r cyfyngiad a benderfynwyd arno.
Nodwyd mai incwm Llywodraeth Cymru ydoedd a bod y Cyngor wedi’i gasglu
ar ei ran, ond yn yr achos hwn nid oedd posibilrwydd i gasglu’r ddyled ac
byddai’n rhaid cynnwys y ddyled a’i ddiddymu. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb; (b) cymeradwyo’r ffurflen gomisiynu i dendro, trwy un o’r fframweithiau
sy’n bodoli, ar gyfer bob dosbarth o wasanaethau yswiriant (ac eithrio morol a
therfysgaeth sy’n farchnadoedd arbenigol) ar gyfer yr awdurdod, fel nodir yn
adran 6.8 ac Atodiad 5 yr adroddiad, a (c) cymeradwyo’r weithdrefn i ddileu Trethi Busnes na ellir eu
hadennill, fel y manylir yn adran 6.9 yn Atodiad 6 yr adroddiad. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 296 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr
aelodau’r ychwanegiadau canlynol i gyfarfod mis Mawrth - ·
Cytundeb i benodi prif
gontractwr ar gyfer Cam 2 Depo Gwastraff ·
Adnewyddu’r Fframwaith
Contractwr Cynnal a Chadw Tai Gwag PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 am. |