Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Richard Mainon Cofnodion: Y Cynghorydd Richard Mainon |
|
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a drafodir yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Mark Young – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 8 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – Cysylltiad Personol –
Eitem Rhif 11 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Bobby Feeley – Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 11 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol
gydag eitem 8 ar y rhaglen - Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn o ran yr hyn sy’n
ymwneud ag Ysgol Uwchradd Dinbych gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol ar gyfer
Ysgol Uwchradd Dinbych. Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad
personol gydag eitem 11 ar y rhaglen - Adroddiad Cyllid o ran yr hyn sy’n
ymwneud â Phrosiect Glasdir gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol ar gyfer Ysgol
Pen Barras. Datganodd y Cynghorydd Bobby Feeley gysylltiad personol
gydag eitem 11 ar y rhaglen - Adroddiad Cyllid o ran yr hyn sy’n ymwneud â
Phrosiect Glasdir gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol ar gyfer Ysgol Gynradd
Stryd y Rhos. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
15 Mawrth 2022 . PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
Ystyried adroddiad yn gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, (copi’n amgaeedig) sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am y sefyllfa ddiweddaraf o ran cost a chyllideb prosiect Ailfodelu’r Gwasanaethau Gwastraff ac sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Achos Busnes diwygiedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn- (a) cydnabod y sefyllfa ddiweddaraf
o ran cost a chyllideb (Atodiad 1 i’r adroddiad); (b) cymeradwyo’r Achos Busnes
ddiweddaraf (Atodiad 2 i’r adroddiad); (c) dirprwyo awdurdod i’r Prif
Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro i alw ar
gyllid cynllun cyfalaf heb ei neilltuo os bydd angen oherwydd cynnydd afreolus
mewn costau o ganlyniad i chwyddiant neu faterion cadwyn gyflenwi. Adroddir ar unrhyw alwad ar y cyllid hwn i’r
cyfarfod nesaf o’r Cabinet, a (d) cadarnhau ei fod wedi
darllen, yn deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 i’r
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones adroddiad yn
diweddaru’r Cabinet ar gostau diweddaraf a’r sefyllfa ariannol ar y Prosiect
Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer
Achos Busnes wedi’i ddiweddaru a dirprwyo awdurdod i swyddogion priodol i alw
ar gyllid sydd heb ei neilltuo yn y cynllun cyfalaf os bydd angen. Tynnodd y Cynghorydd Jones sylw at dryloywder rheolaeth y
prosiect a oruchwyliwyd gan y Bwrdd Prosiect Gwastraff ac sy’n destun craffu
gyda diweddariadau rheolaidd i’r aelodau.
Yn unol â chynlluniau eraill y Cyngor roedd effaith cynnydd mewn costau
nwyddau a deunyddiau yn fyd-eang wedi effeithio ar y prosiect, ac roedd hyn y
tu hwnt i reolaeth y Cyngor, ac wedi arwain at gyflwyno Achos Busnes wedi’i
ddiweddaru i geisio cymeradwyaeth. Cyflwynodd Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
rywfaint o gefndir y prosiect a’r gwaith a wnaed ers cymeradwyo’r Achos Busnes
gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2018.
Pwysleisiodd fuddion y model newydd a fydd yn arwain at gynnydd mewn lefelau
ailgylchu, ailgylchu o safon uwch, llai o allyriadau carbon a’r gwasanaeth
gwastraff yn costio llawer llai na’r model presennol. Roedd safle’r depo ger Ystâd Ddiwydiannol
Colomendy a thrwy weithio ar y cyd gyda phedwar o fusnesau lleol i gaffael tir
ar gyfer y safle, roedd swyddi lleol wedi’u diogelu a swyddi newydd wedi’u
creu. Ond, roedd y datblygiad wedi
cymryd mwy o amser na’r disgwyl gydag effaith Covid-19 hefyd yn amharu ar
gynnydd. Y prif newid ers cymeradwyo’r Achos Busnes oedd y cynnydd
sylweddol mewn chwyddiant a chostau nwyddau a deunyddiau oherwydd ffactorau
byd-eang nad oedd modd eu rhagweld.
Roedd yr arian at raid yn y gyllideb gyffredinol wedi’i gynyddu i £2m ym
mis Gorffennaf 2019 i ddelio â risgiau / elfennau anhysbys. Ond, oherwydd cynnydd sylweddol yng nghostau
nwyddau / deunyddiau yn y deuddeg mis
diwethaf, roedd pwysau costau o £3.588m wedi’u nodi ar draws y prosiect. Roedd cais am £1.588m o gyllid ychwanegol ar
gyfer y diffyg ariannol wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis
Mawrth. Roedd costau chwyddiant yn
parhau i fod yn risg nes bo’r tendrau wedi’u dychwelyd a’r contractau wedi’u
dyfarnu. I gydnabod y broblem honno
roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yn
ychwanegol i’r 22 o awdurdodau lleol. Eglurodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill nad oedd y
sefyllfa ariannol yn unigryw i’r prosiect gwastraff gyda’r cynnydd mewn costau
wedi’i gynnwys mewn nifer o gynlluniau ar draws yr awdurdod. Roedd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r prosiect
hwn a’r cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn golygu ar y cam hwn bod y prosiect
wedi’i ariannu’n llawn gan alluogi’r contractau gofynnol yn yr
wythnosau/misoedd sydd i ddod hyd at gwblhau ac roedd yn cefnogi’r
argymhellion. Ychwanegodd y Cynghorydd
Brian Jones bod contract y Cyngor gydag United Paper Mills (UPM) Shotton i
ailgylchu gwastraff y cartref yn dod i ben yn yr hydref 2023 a fyddai’n debygol
o arwain at bwysau ariannol ychwanegol ar y gwasanaeth gwastraff, ac y byddai
unrhyw oedi yn y prosiect y tu hwnt i’r hydref 2023 yn arwain at fwy o gostau
i’r Cyngor. Ymatebodd y Cynghorwyr Brian Jones a Julian
Thompson-Hill, a Phennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol i’r cwestiynau
fel a ganlyn – ·
roedd Llywodraeth Cymru wedi
cadarnhau £1.588m o gyllid grant ychwanegol i gynorthwyo i ddiwallu’r pwysau o
ran costau gan olygu bod y prosiect wedi’i ariannu’n llawn ar hyn o bryd, ond
roedd costau chwyddiant yn parhau i fod yn risg nes y dyfernir y contract. · darparu sicrwydd bod y prosiect wedi’i ddatblygu cyn gynted â phosibl. Roedd wedi cymryd pymtheg mis yn dilyn cymeradwyaeth yr Achos Busnes gwreiddiol i gaffael y safle oherwydd cymhlethdodau gyda’r gofrestrfa tir a’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CERBYDAU FFLYD GWASTRAFF NEWYDD 5M – DYFARNU’R CONTRACT PDF 217 KB Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, (copi’n amgaeedig) sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r cyflenwr a ffefrir ar gyfer 14 Cerbyd Adfer Adnoddau 5M fel rhan o brosiect ailfodelu ehangach y Gwasanaethau Gwastraff. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn- (a) cymeradwyo dyfarnu’r
contract i’r cyflenwr a ffefrir ar gyfer yr 11 RRV 5M disel a 3 RRV 5M
allyriadau isel iawn am gost o £2,712,231.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ariannu £2,217,231 a bydd Llywodraeth Cymru
yn cyfrannu £495,000 i brynu’r 3 cerbyd allyriadau isel iawn. Gweler Atodiad 1
(Rhan 2) am fwy o fanylion ariannu; (b) cadarnhau ei fod wedi
darllen, wedi deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3)
fel rhan o’u hystyriaethau, a (c) cymeradwyo gweithredu’r
penderfyniad ar unwaith oherwydd yr amser mae’n ei gymryd i gyflenwi’r cerbydau
RRV 5M mwyaf, ac (yr un mor bwysig) i sicrhau’r prisiau tendro o gofio’r
ansicrwydd yn y farchnad a chwyddiant yn y prisiau sy’n gallu golygu bod y
prisiau tendro yn cael eu tynnu’n ôl ar fyr rybudd. Cofnodion: [Cyfeiriodd Pennaeth y
Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd at yr atodiadau cyfrinachol am resymau
sensitifedd masnachol a chynghori y dylai unrhyw gwestiynau sy’n codi o ran yr
elfennau hynny gael eu cyflawni mewn sesiwn breifat]. Cyflwynodd y Cynghorydd Brian
Jones yr adroddiad ar y broses a gymerwyd yn ystod yr ymarfer caffael fflyd fel
rhan o brosiect ehangach o ran ail-fodelu gwasanaethau gwastraff a cheisio
cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r cyflenwr a ffefrir ar gyfer 14
o Gerbydau Adfer Adnoddau newydd 5M (RRV).
Roedd dyfarnu contract yn cynnwys 11 cerbyd gwastraff RRV 5M disel a 3
cerbyd gwastraff allyriant isel iawn (ULEV).
O ystyried y cyfnodau arweiniol hir ar gyfer yr RRV 5M mwy ac i sicrhau
prisiau’r tendr argymhellwyd bod y penderfyniad yn cael ei weithredu ar
unwaith. Ychwanegodd Pennaeth Priffyrdd
a Gwasanaethau Amgylcheddol, yn dilyn trafodaeth bellach gyda Llywodraeth
Cymru, y cytunwyd i gynyddu nifer y cerbydau gwastraff ULEV o 2 i 3 a fyddai’n
lleihau allyriadau’r fflyd ymhellach ac yn cynrychioli newid sylweddol i sut yr
oedd y gwasanaeth yn gweithredu.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Jones bod angen lansio’r model gwastraff
newydd yn yr hydref 2023 i osgoi pwysau ariannol pellach ar y gwasanaeth yn dilyn
terfyn y contract presennol gydag United Paper Mills. Roedd y Cabinet yn cefnogi’r
camau i leihau allyriadau carbon y fflyd ac wedi trafod dibynadwyedd / cadernid
y cerbydau gwastraff ULEV gyda swyddogion i ddiwallu anghenion yr awdurdod a’r
ffyrdd newydd o weithio yn y dyfodol ynghyd â’r amseroedd arwain i ddiwallu
terfynau amser cyflenwi. Ymatebodd y
swyddogion– ·
bod gwaith wedi’i gyflawni ar hyfywedd y cerbydau ULEV a’u cyfyngiadau
ar lwybrau gwahanol, amodau ac ati, ac roedd hyder y byddant yn diwallu
ymrwymiadau’r gwasanaeth - roedd unrhyw risg o ran hynny wedi’i liniaru trwy
gyflwyno nifer fechan i’r fflyd ar y pwynt hwn a’r bwriad oedd cyflwyno mwy o
gerbydau ULEV dros amser; roedd yn debygol pan fyddai’r cerbydau disel yn
cyrraedd diwedd oes y byddai’n ofynnol eu disodli gyda cherbydau heb
allyriadau, a dyna’r rheswm dros gyflwyno’r rhain fesul cam er mwyn rheoli
risg. ·
roedd y Tîm Cynnal a Chadw wedi derbyn hyfforddiant i gynnal a chadw
cerbydau trydan a oedd yn darparu cyfleoedd posibl ar gyfer y gwasanaeth fflyd
i gyd-weithio yn y dyfodol. Roedd yr
Uned Cynnal a Chadw ym Modelwyddan ar ffurf garej masnachol a gobeithir y
byddai’r newid yn darparu buddion hirdymor i’r gymuned fusnes yn lleol a’r fflyd
fewnol. ·
disgwylir y byddai’r amser arweiniol eithaf hir yn darparu’r cyfle i
gomisiynu’r cerbydau a darparu’r hyfforddiant gofynnol i’r staff newydd yn
barod i gyflwyno ffordd newydd o weithio –yn amodol ar beidio ag wynebu
problemau sylweddol yn y diwydiant, dylai’r cyflenwyr allu cyflwyno’r cerbydau
mewn oddeutu blwyddyn er mwyn gallu cyflwyno’r model gwastraff newydd erbyn yr
hydref 2023. Gwahoddodd yr Arweinydd ragor
o gwestiynau gan aelodau heb fod yn aelodau o'r Cabinet ac ymatebodd yr Aelod
Arweiniol a’r swyddogion i'r pwyntiau canlynol a godwyd– ·
roedd gwastraff y cartref na ellir ei ailgylchu yn cael ei brosesu ym
Mharc Adfer, Glannau Dyfrdwy, fel rhan o drefniant ar y cyd gyda phum awdurdod
Gogledd Cymru tra bo gwastraff y cartref y gellir ei ailgylchu yn cael ei
brosesu yn United Paper Mills, Shotton. ·
roedd y rhesymau a roddwyd pam fod cerbydau trydan yn ddrytach na
cherbydau disel yn cynnwys cost y batri o gymharu ag injan tanio mewnol, yr
ymchwil a chostau datblygu technoleg newydd sy’n cael ei dalu ar y dechrau fel
arfer, a grymoedd y farchnad. · eglurwyd y rhesymeg dros y penderfyniad i gael cerbydau cwbl drydanol. Er bod cerbydau hybrid llai ar gael roedd y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, (copi’n amgaeedig) ynglŷn â datblygiad Cam 2 Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd CSDd ac i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract i’r contractwr a ffefrir drwy benderfyniad wedi’i ddirprwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn- (a) cymeradwyo dyfarnu’r
contract i’r contractwr a ffefrir drwy Benderfyniad Dirprwyedig gan y Prif
Weithredwr (mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro) ar
ddiwedd y broses dendro, gan gymryd fod cais y Contractwr o fewn terfyn
fforddiadwyedd y gwaith. Disgwylir i’r
Penderfyniad Dirprwyedig gael ei wneud ar 5 Mai 2022 neu wedi hynny; (b) cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r
adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a (c) rhoi’r penderfyniad
dirprwyedig ar waith ar unwaith oherwydd y pwysau o ran amser i fynd â’r
prosiect yn ei flaen, a dyfarnu contract i ganiatáu i waith ddechrau ar Gam 2
ar y safle cyn gynted â phosibl i wneud y mwyaf o’r amodau adeiladu ffafriol
dros yr haf a lliniaru’r risgiau a achosir gan ansefydlogrwydd parhaus y
farchnad a phwysau o ran costau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Brian
Jones yr adroddiad am Gam 2 datblygiad Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd CSDd
a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract i’r contractwr a ffefrir
drwy benderfyniad wedi’i ddirprwyo. Roedd y Cabinet wedi
cymeradwyo’r ymarfer tendro ar gyfer Cam 2 ym mis Hydref 2021 ac roedd yr
adroddiad yn nodi’r gwaith a wnaed o ran y broses dendro hyd yma a Gwaith
Galluogi Cam 1 a ddarparwyd mewn cydweithrediad â phedwar busnes ar Ystâd
Ddiwydiannol Colomendy a gwblhawyd ym mis Mawrth 2022. Roedd y tendr yn seiliedig ar bwysoliad o
60% pris a 40% ansawdd gyda rhagamcan o werth cyn derbyn tendr o £5.25m. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendr oedd 4
Mai 2022 ac yna byddai ymarfer gwerthuso’n cael ei gyflawni i benderfynu ar y
contractwr a ffefrir i gyflawni Cam 2.
Yn absenoldeb Cabinet ym mis Mai ac er mwyn symud ymlaen â’r prosiect ac
osgoi pwysau pellach o ran costau argymhellwyd bod y contract yn cael ei
ddyfarnu drwy benderfyniad wedi’i ddirprwyo, ar yr amod bod cynnig y contractwr
a ffefrir o fewn yr amlen fforddiadwyedd ar gyfer y gwaith. Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd Tony Thomas darparodd y swyddogion sicrwydd y bu gweithio agos gyda
Gwasanaethau Cefn Gwlad a’r Tîm Bioamrywiaeth ers dechrau’r prosiect er mwyn
sicrhau bod unrhyw effaith o ran y datblygiad yn cael ei leihau a’i reoli mewn
perthynas â bywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Ar y pwynt hwn diolchodd y
Cynghorydd Brian Jones i’r swyddogion sy’n gweithio ar y prosiect gwastraff gan
gyfeirio’n benodol at y Rheolwr Prosiect, yn enwedig o ystyried y cymhlethdodau
a’r heriau sydd wedi codi. Ar ran y
Cabinet, ychwanegodd yr Arweinydd ei ddiolch gan dynnu sylw at fuddion y
prosiect i’r preswylwyr yn hirdymor. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn– (a) cymeradwyo dyfarnu’r
contract i’r contractwr a ffefrir drwy benderfyniad wedi’i ddirprwyo gan y Prif
Weithredwr (mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro) ar
ddiwedd y broses dendro, ar yr amod bod cynnig y Contractwr o fewn yr amlen
fforddiadwyedd ar gyfer y gwaith.
Disgwylir y bydd y penderfyniad wedi’i ddirprwyo yn cael ei wneud ar,
neu ar ôl, 5 Mai 2022; (b) cadarnhau ei fod wedi
darllen, yn deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau, a (c) bod y penderfyniad wedi’i ddirprwyo yn cael ei
weithredu ar unwaith oherwydd y pwysau o ran amser i symud ymlaen â’r rhaglen a
dyfarnu Contract er mwyn dechrau ar Gam 2 ar y safle cyn gynted â phosibl i
wneud y mwyaf o’r amodau ffafriol ar gyfer adeiladu dros yr haf a lliniaru’r
risgiau o ran anwadalrwydd y farchnad a phwysau o ran costau. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cyflwyno Achos Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru a dechrau ymgynghori ynghylch cynigion i gynyddu nifer y lleoedd o 116 i 220. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn- (a) cymeradwyo mynd ati i
ymgynghori’n ffurfiol ar gynnig i gynyddu ei chapasiti o 116 i 220; (b) cymeradwyo cyflwyno’r Achos
Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru i’w ystyried, a (c) cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r
adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts adroddiad yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno Achos Amlinellol Strategol ar gyfer prosiect
Ysgol Plas Brondyffryn i Lywodraeth Cymru a dechrau ymgynghori ar gynigion
trefniadaeth ysgolion i gynyddu’r capasiti o 116 i 220. Roedd y Prosiect yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu
Llywodraeth Cymru (Band B) a gymeradwywyd ym mis Medi 2020. Ar hyn o bryd roedd yr ysgol yn darparu
darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion gydag awtistiaeth rhwng 3-19 oed ar
draws pedwar safle yn Ninbych. Y cynnig
oedd uno’r holl safleoedd gyda’i gilydd mewn adeilad pwrpasol mewn cae wrth
ymyl Canolfan Hamdden Dinbych (sy’n cael ei ddefnyddio gan Ysgol Uwchradd
Dinbych ar hyn o bryd) ac i gynyddu capasiti’r ysgol gan fod y galw am y
lleoedd hyn wedi cynyddu. Roedd y
rhesymeg dros y cynnydd mewn galw a ragwelir a’r problemau capasiti presennol
wedi’u nodi ac fe dynnwyd sylw at y pwysigrwydd i ddiwallu’r galw ac anghenion
dysgwyr, gyda’r sefyllfa bresennol hefyd yn her i’r athrawon a’r dysgwyr eraill
mewn ysgolion ar draws y sir.
Cyfeiriwyd hefyd at yr ymgynghoriad a’r ymgysylltu a wnaed gyda
budd-ddeiliaid, adrannau ac aelodau lleol o ran cynigion y prosiect a sut y
byddant yn cael eu datblygu. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd - ·
roedd capasiti o 220 wedi’i
ystyried fel maint realistig ar gyfer yr ysgol i ddiwallu’r cynnydd a ragwelir
ac fe roddir blaenoriaeth i ddisgyblion Sir Ddinbych ·
codwyd pryderon dros nifer
y disgyblion sy’n aros i gael eu hasesu ac roedd y Cyngor mewn trafodaethau
rheolaidd gyda chydweithwyr iechyd o ran hynny ·
Canmolodd y Cynghorydd Mark
Young y prosiect a diolch i’r swyddogion am yr ymweliad safle gan nodi bod
cyfathrebu yn fater allweddol yn y broses ·
roedd caniatâd cynllunio ar
gyfer y prosiect yn broses ar wahân, sy’n annibynnol o’r Cabinet, ac roedd yn
fater i’r Pwyllgor Cynllunio ei benderfynu ar seiliau cynllunio. ·
byddai’r adeilad yn cael ei
ddylunio mewn modd y byddai’n gallu adeiladu estyniad i’r ysgol yn y dyfodol os
bydd angen er mwyn diwallu cynnydd pellach mewn galw ·
cyfeiriwyd at yr ysgol fel
ysgol cyfrwng Saesneg gyda mwyafrif y disgyblion yn dod o aelwydydd sy’n siarad
Saesneg. Ond nid oedd dynodiad ar gyfer
ysgolion arbennig o ran darpariaeth iaith ac roedd addysg yn cael ei ddarparu
yn y Gymraeg ar gais - derbyniwyd y gellir newid y geiriau yn yr Asesiad o
Effaith ar y Gymraeg i adlewyrchu bod yr ysgol yn darparu addysg yn Gymraeg a
Saesneg ar gyfer y disgyblion yn eu hiaith a ffefrir. Cydnabu’r Cabinet bwysigrwydd y prosiect a chefnogi’r argymhellion yn llawn
er mwyn sicrhau ei gyflwyno cyn gynted â phosibl. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn– (a) cymeradwyo symud ymlaen i
ymgynghoriad ffurfiol ar gynnig i gynyddu’r capasiti o 116 i 220; (b) cymeradwyo cyflwyno’r Achos
Amlinellol Strategol i’w ystyried gan Lywodraeth Cymru, ac (c) yn
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar
Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, (copi’n amgaeedig) ar drefniadau cydweithio cenedlaethol Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu ac i dderbyn cytundeb y Cabinet i lofnodi Cytundeb Cyfreithiol y Cyd-bwyllgor ar gyfer y Cyd-bwyllgor arfaethedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn- (a) mabwysiadu’r cynigion ar
gyfer datblygu’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu
Cenedlaethol ar gyfer Cymru, gan ei fod yn cymryd cyfrifoldeb dros Faethu
Cymru; (b) cadarnhau eu cefnogaeth ar
gyfer y Cytundeb Cyd-bwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a
Maethu Cymru ac yn cytuno bod yr awdurdod yn llofnodi’r cytundeb; (c) enwebu, yn ffurfiol, eu
cynrychiolydd ar y Cyd-bwyllgor, a (d) datblygu’r dull
cenedlaethol, dirprwyo llywodraethu cysylltiedig, a threfniadau craffu lleol yn
cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Cyngor Llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad ar drefniadau
cydweithio cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu a cheisio
cytundeb y Cabinet i lofnodi Cytundeb Cyfreithiol Cyd-bwyllgor ar gyfer y
Cyd-bwyllgor arfaethedig. Roedd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) wedi bod mewn bodolaeth
ers 2014 ac wedi galluogi newid sylweddol a gwelliant mewn gwasanaethau
mabwysiadu ledled Cymru. Roedd cynigion
wedi’u datblygu drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ymestyn strwythur
llywodraethu’r NAS i gynnwys ymagwedd genedlaethol ar gyfer gwasanaethau maethu
penodol drwy Faethu Cymru. Roedd
Cytundeb Cyfreithiol ar y cyd wedi’i ddrafftio i’w lofnodi gan y 22 o
awdurdodau lleol. Roedd y cytundeb yn
cynnwys cynllun dirprwyo ffurfiol gyda Chyd-bwyllgor yn darparu mecanwaith i’r
holl awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflawni rôl weithredol a goruchwyliol ar
gyfer NAS a Maethu Cymru. Gofynnwyd i
bob awdurdod lleol enwebu aelod o’u Pwyllgor Gweithredol / Cabinet i fod yn
aelod â phleidlais ar y Cyd-bwyllgor. Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant gyd-destun pellach i’r adroddiad a
buddion bod Maethu Cymru yn cynyddu capasiti cefnogaeth a denu mwy o ofalwyr
maeth i awdurdodau lleol gan alluogi cadw mwy o blant yn eu cymunedau. Nodwyd y byddai’r Arweinydd yn enwebu
cynrychiolydd o’r Cabinet ar y Cyd-bwyllgor ar ôl etholiadau lleol mis Mai. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn– (a) mabwysiadu’r cynigion ar
gyfer datblygu trefniadau llywodraethu ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu
Cenedlaethol Cymru, wrth iddo dderbyn cyfrifoldeb ar gyfer Maethu Cymru; (b) cadarnhau eu cefnogaeth ar
gyfer Cytundeb Cyd-bwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a
Maethu Cymru a chytuno bod yr awdurdod yn llofnodi’r cytundeb; (c) yn enwebu eu cynrychiolydd
ar y Cyd-bwyllgor, a (d) bod datblygiad y dull
cenedlaethol, dirprwyaeth gysylltiol ar gyfer llywodraethu, a threfniadau
craffu lleol yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r
Cyngor Llawn. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, (copi’n amgaeedig) ynglŷn â chanlyniad yr ymarfer caffael i sefydlu Fframwaith Cynnal a Chadw Rhagweithiol ar gyfer gwaith ar stoc adeiladau corfforaethol y Cyngor ac i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi’r contractwyr argymelledig ar gyfer lotiau’r fframwaith. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn- (a) cymeradwyo penodi’r
contractwyr a argymhellir i gyfrannau’r Fframwaith fel y nodir yn Atodiad 1 i’r
adroddiad, a (b) cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 i’r
adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau, a Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad
ar ganlyniad yr ymarfer caffael i sefydlu Fframwaith Cynnal a Chadw
Rhagweithiol ar gyfer gwaith ar stoc adeiladau corfforaethol y Cyngor ac yn
ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi contractwyr a argymhellir i lotiau’r
fframwaith. Roedd y Cabinet wedi
cymeradwyo ymarfer ail-dendro ar gyfer Fframwaith Cynnal a Chadw Rhagweithiol
ym mis Mai 2021 y gellir ei ddefnyddio i benodi contractwyr i ymgymryd â gwaith
rhagweithiol / mân o dan £10 mil. Roedd
y tendr wedi’i rannu i 6 lot yn ôl rhanbarth a math o waith fel y nodwyd yn yr
adroddiad ynghyd â manylion monitro perfformiad gweithrediad y fframwaith. Roedd y fframwaith arfaethedig yn sicrhau
cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth caffael a Rheolau’r Weithdrefn Gontractau
tra’n symleiddio penodi contractwyr sydd wedi’u cymeradwyo drwy broses
gystadleuol. Roedd yr holl gontractwyr
a fyddai’n cael eu penodi ar y fframwaith wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych ac yn
rhai yr oedd y Cyngor wedi gweithio â nhw’n flaenorol. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn– (a) cymeradwyo penodi’r
contractwyr a argymhellir i lotiau’r Fframwaith fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr
adroddiad, a (b) chadarnhau ei fod wedi
darllen, yn deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd
a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn manylu
ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod - ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21). ·
rhagwelwyd tanwariant o
£0.386m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (rhagwelwyd £1.533m o
danwariant fis diwethaf) gyda’r newid yn bennaf oherwydd cynnydd untro yn y
Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2021/22 o £60m (cyfran CSDd £1.994m) a gyhoeddwyd
gan Lywodraeth Cymru gyda chais bod £10m (cyfran CSDd £0.332m) yn cael ei
ddefnyddio i ariannu gwelliannau i drefniadau teithio ar gyfer gweithwyr gofal
gan gynnwys cerbydau trydan; byddai’r £1.662m sy’n weddill yn cael ei roi mewn
Cronfa Wrth Gefn Lliniaru’r Gyllideb i gynorthwyo’r Cyngor i ymdopi gyda
phwysau chwyddiant. ·
manylion
arbedion ac arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arnynt gwerth £2.666 miliwn yn
ymwneud â ffioedd a chostau, arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth
gwasanaeth ac ysgolion. ·
tynnwyd
sylw at y risgiau a’r tybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion ynghyd ag effaith ariannol y
coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol i Lywodraeth Cymru, a ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli’r Trysorlys
a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr. Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at Raglen Ysgolion
yr 21ain Ganrif - Prosiect Glasdir a holi a oedd y gwaith i greu iard ysgol
ychwanegol wedi bod mewn ymateb i broblemau y tynnwyd sylw atynt yn y
wasg. Eglurodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts nad oedd adroddiadau’r wasg yn adlewyrchu’r sefyllfa’n deg a
gofyn bod ei ymateb yn cael ei gofnodi.
Eglurodd sut yr oedd cynrychiolwyr pob ysgol wedi’u penodi i weithio
gyda’r Tîm Prosiect ac wedi diwygio cynlluniau i sicrhau eu bod yn ymarferol ar
gyfer addysgu. Ond, roedd Ysgol Pen
Barras hefyd wedi newid dyluniad yr iard i fod yn ardal ymarferol a
gwastad. Pan gymeradwywyd yr ysgolion
roedd yr arwynebedd fesul disgybl yn fwy yn Ysgol Stryd y Rhos o gymharu ag
Ysgol Pen Barras ond roedd ar wair ac yn fwdlyd ac nid oedd yn ofod ymarferol i
chwarae. O ganlyniad, gwnaed gwaith i
adeiladu iard ychwanegol i ddarparu gofod ymarferol ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos
a oedd wedi costio llai na’r rhagamcan a nodwyd cyn cyflwyno tendr ac roedd
wedi’i ariannu o’r dyraniad cyffredinol i brosiectau ysgolion Rhuthun. Roedd y cyfarpar ar safle Ysgol Pen Barras
wedi’i ariannu gan eu Cymdeithas Rhieni ac Athrawon, nid yr awdurdod lleol, ac
felly roedd gwriant fesul disgybl ar yr ysgol newydd a rennir yn gyfartal. O ystyried cwestiwn pellach ar Gynllun
Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl eglurwyd bod y cyfeiriadau yn y wasg yn
cyfeirio at gynllun gwahanol oedd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd
a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 291 KB Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried. Eglurodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd bod Cabinet
ychwanegol wedi’i drefnu dros dro ar gyfer 28 Mehefin i sicrhau bod digon o
amser ar gyfer adroddiadau gan nad yw’r Cabinet yn cyfarfod ym mis Mai. PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Gan mai dyma gyfarfod Cabinet olaf tymor presennol y Cyngor, bu i’r
Arweinydd gymryd y cyfle i ddiolch i’r holl aelodau am eu cefnogaeth,
cyfraniadau a’u gwaith caled ar y cyd dros y pum mlynedd diwethaf er budd y
preswylwyr. Roedd yn teimlo fod gan Sir
Ddinbych y sylfeini i ddiwallu heriau yn y dyfodol. Diolchodd i’r swyddogion am eu gwasanaeth
gwerthfawr, yn enwedig yn ystod pandemig y coronafeirws ac o dan amgylchiadau
anodd iawn. Yn olaf, diolchodd yr
Arweinydd i’r Prif Weithredwr am ei waith caled a dymuno’n dda i’r staff ar
gyfer tymor nesaf y Cyngor a phob dymuniad da i’r ymgeiswyr yn yr
etholiadau. Bu i’r Prif Weithredwr
ddiolch i’r Arweinydd, y Cabinet a’r holl aelodau am eu cefnogaeth a’u gwaith
caled. Roedd yr aelodau eraill yn ategu
at y diolchiadau gan gyfeirio’n arbennig at y cynghorwyr nad oeddent yn sefyll
yn yr etholiad, gyda phob dymuniad da iddynt ar gyfer y dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 12.10 pm. |