Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Barry Mellor. Cofnodion: Y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd
a Chludiant. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
cysylltiad sy'n rhagfarnu a phersonol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w hystyried
yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Julie Matthews– Cysylltiad Personol – Eitem
Rhif 5 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Julie Matthews gysylltiad personol
ag eitem 5 ar y rhaglen – Gosod Rhent Tai a Chyllidebau Refeniw a Chyfalaf
2023/24, oherwydd bod ganddi ffrindiau a theulu a oedd yn byw mewn tai cyngor. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni godwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022
(copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
22 Tachwedd 2022. Materion yn Codi – Tudalen 9, Eitem
6 Cytundeb Cyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd Diwygiedig – dywedodd y
Cynghorydd Win Mullen-James fod y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig bellach wedi’i
gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
GOSOD RHENT TAI A CHYLLIDEBAU REFENIW TAI A CHYFALAF 2023/24 PDF 238 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a
Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i godi rhent
blynyddol tai cyngor Sir Ddinbych ac i gymeradwyo Cyllidebau Cyfalaf a
Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24 a’r Cynllun Busnes Stoc Dai. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod – (a) Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24
(Atodiad 1 i’r adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 i’r
adroddiad) yn cael ei fabwysiadu; (b) rhent anheddau'r Cyngor yn cael eu
cynyddu’n unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol o 5%
i’w weithredu o ddydd Llun 3 Ebrill 2023; (c) nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 i’r
adroddiad) am Effeithiolrwydd Cost, Fforddiadwyedd a Gwerth am Arian, a (d) Y Cabinet yn cadarnhau eu bod wedi
darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad a
oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gynnydd rhent blynyddol Tai Sir
Ddinbych, Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24
a'r Cynllun Busnes Stoc Dai. Rhoddwyd rhywfaint o gefndir i’r adroddiad, gan
gynnwys y cefndir economaidd gyda’r argyfwng costau byw a’r cynnydd o 10.1%
mewn chwyddiant (CPI) a chynnydd o hyd at 30% ar gyfer costau rhaglen gyfalaf a
chynnal a chadw. O ganlyniad, roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod uchafswm
cynyddu rhent o 6.5% yng Nghymru (7% wedi’i osod gan Lywodraeth y DU ar gyfer
Lloegr), ynghyd â chytuno ar rai diwygiadau ychwanegol â’r sector tai. Cynigiwyd cynyddu rhenti wythnosol o 5%, gan
arwain at rent wythnosol cyfartalog o £102.31 (cynnydd o £4.87 mewn rhent
wythnosol). O gyflawni’r cynnig, cafwyd cydbwysedd rhwng cynnal a chadw a
buddsoddi yn y stoc dai, a’r effaith ar denantiaid o ganlyniad i’r cynnydd. Arweiniodd y Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol y
Cabinet trwy fanylion yr adroddiad ac effaith yr hinsawdd economaidd bresennol
o ran buddsoddi yn y stoc dai i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys
targedau amgylcheddol/effeithlonrwydd tanwydd) ac ariannu rhaglenni adeiladu
newydd ynghyd â’r effaith ar denantiaid a chyllid aelwydydd. Fel rhan o’r
broses o osod rhent, cynhaliwyd asesiad o effeithlonrwydd cost, gwerth am arian
a fforddiadwyedd i denantiaid, ac roedd hyder bod gwaith wedi dangos bod
rhenti’n fforddiadwy, gyda rhenti Sir Ddinbych ar yr ochr isaf o ran y rhent
darged ac yn cael eu monitro’n barhaus.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys y canlyniad a
ragwelir ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2022/23, yn unol â’r adroddiad monitro
misol gyda’r balansau a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn o £2,157 miliwn.
Eglurwyd hefyd effaith y cynnydd mewn rhent ar Gynllun Busnes y Stoc Dai, gyda
phob 1% o gynnydd mewn rhent yn darparu £170,000 o incwm refeniw bob blwyddyn
er mwyn caniatáu £3.5 miliwn o fenthyciad ar gyfer buddsoddiad dros gyfnod Cynllun
Busnes y Stoc Dai. Byddai’r argymhelliad i gyflwyno cynnydd o 5% ac nid 6.5% yn
costio tua £250,000 i’r Cyfrif Refeniw Tai bob blwyddyn o Gynllun Busnes y Stoc
Dai. Byddai cynnydd o 5% werth
£850,000, gan arwain at fuddsoddiad o £8.5 miliwn dros ddeng mlynedd. Nodwyd
bod 72% o denantiaethau yn derbyn budd-daliadau lles a chymorth costau tai
gydag unrhyw gynnydd mewn rhent, a delir gan y cymorth hwnnw, a rhoddwyd
sicrwydd ynghylch gwaith parhaus i gefnogi tenantiaid cymaint â phosibl. Roedd ymrwymiad i beidio â throi neb allan
oherwydd caledi ariannol a darparu cefnogaeth wedi’i thargedu i denantiaid. Roedd y Cabinet yn cydnabod yr angen i gydbwyso lefel y cynnydd mewn rhent
i gwrdd ag anghenion buddsoddi’r stoc dai yn y dyfodol yn erbyn fforddiadwyedd
i denantiaid. Dywedodd y Cynghorydd
Julie Matthews, bod y Cabinet wedi gofyn am ragor o fanylion, nad oedd wedi’u
cynnwys yn yr adroddiad, o ran gwerthusiadau dewisiadau o gynnydd canrannol
eraill at ddibenion cymharu, er mwyn gwerthuso’r effaith ar y gwahanol lefelau
a gwneud penderfyniad gwybodus. Wrth drafod, roedd yn ymddangos y bu peth
camddealltwriaeth ynghylch lledaenu’r data hwnnw a oedd ar gael yn rhwydd ac
wedi’i ddosbarthu i aelodau ar gais, ac ymddiheurodd swyddogion nad oedd y
Cynghorydd Matthews wedi derbyn y data modelu. Fe nodwyd yn yr adroddiad bod
pob cynnydd o 1% mewn rhent yn cyfateb i £170,000 bob blwyddyn ar gyfer
benthyciadau buddsoddi, gyda 3% o gynnydd yn effeithio’n sylweddol ar y rhaglen
gyfalaf. O ran cydbwyso’r effaith ar fuddsoddiad tai a fforddiadwyedd i denantiaid,
ymatebodd y Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol fel a ganlyn – · cynigiwyd y 5% arfaethedig yn dilyn modelu helaeth o wahanol ddewisiadau er ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Y BROSES GYFALAF A DYFODOL Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 231 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar
gyfer y broses cyfalaf newydd arfaethedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYDbod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo’r broses cyfalaf
newydd, a (b) Bod y Cabinet yn cefnogi
Cylch Gorchwyl drafft y Grŵp Craffu Cyfalaf a fydd yn cael ei gyflwyno i’w
gymeradwyo yng nghyfarfod cyntaf o’r Grŵp. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
yn diweddaru’r Cabinet ynghylch proses gosod cyllideb cyfalaf newydd
arfaethedig a newidiadau i’r Cylch Gorchwyl ac enw’r Grŵp Buddsoddi
Strategol. Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo y rhesymeg sy’n
sail i’r adolygiad o’r broses gyfalaf, gan ystyried adborth gan y Grŵp
Buddsoddi Strategol ac er mwyn sicrhau dull mwy strategol. Cafodd y cynigion eu
trafod yn Sesiwn Friffio’r Cabinet, yr Uwch Dîm Arwain, a’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio a oedd wedi rhoi mewnbwn. Cafodd y Cabinet eu harwain
trwy’r fersiwn ddrafft o’r broses gyfalaf, fel y’i nodir yn yr adroddiad, a
oedd yn cynnwys Grŵp Caffael Cyfalaf newydd arfaethedig. Roedd yr
egwyddorion arweiniol a oedd yn sail i’r adolygiad yn cynnwys yr angen am
lywodraethu, craffu a thryloywder cryf a chydamseru prosesau. Roedd prif bwyntiau’r cynnig yn cynnwys – ·
sefydlu Grŵp Craffu
Cyfalaf sy’n cynnwys uwch swyddogion allweddol a chynrychiolwyr o’r Cabinet a
Phwyllgorau Craffu i adolygu cynigion achos busnes ar gyfer buddsoddiad cyfalaf
(ac eithrio cynlluniau llai na £0.250 miliwn a ariannwyd 100% gan gyllid grant
allanol, i’w cymeradwyo ar lefel uwch swyddog) ·
ni fyddai’r Grŵp Craffu
Cyfalaf yn gwneud penderfyniadau ffurfiol, ond byddai eu barn yn cael ei
ystyried gan gyrff eraill sy’n gwneud penderfyniadau: Y Cabinet i gymeradwyo cynlluniau cyfalaf,
ond mae angen cymeradwyaeth y Cyngor llawn ar gyfer y Cynllun Cyfalaf
blynyddol; y Tîm Gweithredol Corfforaethol i gymeradwyo cynlluniau llai na £1
miliwn os bydd y Grŵp Craffu Cyfalaf wedi cofnodi cymorth; y Cabinet i
wneud y penderfyniad terfynol ar bob cynllun dros £1 miliwn; gallai cynlluniau
llai na £1 miliwn na chefnogir gan y Grŵp Craffu Cyfalaf gael eu cyflwyno
i’r Cabinet gan y Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer penderfyniad terfynol, os nad
oes modd dod i gytundeb. ·
roedd angen gwaith pellach
ar fanylion y ffurflenni cais cyfalaf a’r broses, gyda’r nod o gwblhau pob
prosiect cyfalaf ar ffurflenni prosiect Verto, i gynnwys yr holl wybodaeth
ychwanegol sydd ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau ar achosion busnes
cyfalaf, byddai canllawiau gweithredol manwl yn cael eu llunio erbyn y Gwanwyn.
·
byddai’r Grŵp Craffu
Cyfalaf a Bwrdd y Gyllideb yn cael eu cefnogi gan Wasanaethau Pwyllgorau o fis
Ebrill a byddai’r broses a’r cylch gorchwyl yn destun adolygiad blynyddol. Croesawodd y Cabinet yr ymgynghoriad ar y broses
newydd arfaethedig, gan gynnwys craffu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
ar y dull hwnnw, ac roedd yn cefnogi’r broses newydd fel modd o gryfhau’r
prosesau democrataidd a darparu mwy o dryloywder o ran y trefniadau craffu a
gwneud penderfyniadau dan sylw.
Rhoddodd y Cynghorwyr Arwel Roberts a Gareth Sandilands, aelodau
blaenorol o’r Grŵp Buddsoddi Strategol eu safbwynt ar y trefniadau
blaenorol, a oedd yn ddefnyddiol i’r Cabinet, ac roeddent yn mynegi eu
cefnogaeth ar gyfer y broses newydd arfaethedig a rhinweddau’r dull hwnnw. O
ystyried y newidiadau sylweddol ar lefel y Cabinet ac uwch swyddogion ers
etholiadau llywodraeth leol mis Mai, ystyriwyd ei bod hi’n amserol adolygu a
gweithredu’r dull newydd. Amlygwyd
pwysigrwydd ymrwymiad y Cyngor llawn i’r broses, gyda phawb yn cydweithio er
budd holl drigolion y sir. Mewn ymateb i’r cwestiynau, dywedodd y Pennaeth
Cyllid ac Eiddo – ·
er y byddai’r newid
arfaethedig i gynlluniau cyllid grant yn ystod y flwyddyn hyd at £0.250 miliwn
i’w gymeradwyo ar lefel swyddog yn symleiddio’r broses honno, mai prif nod y
broses newydd oedd darparu dull mwy strategol â mwy o dryloywder, gyda
gwybodaeth ar gael yn rhwydd a hygyrch ar modern.gov, a sicrhau mwy o graffu ar
gynlluniau a phenderfyniadau mwy a wneir. · roedd y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen foderneiddio ysgolion trwy’r Rhaglen Cymunedau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYDbod y Cabinet yn - (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb; ac (b) cymeradwyo’r cynlluniau i wario grant cyfalaf
(£1.203 miliwn) ar uwchraddio ceginau a chyfleusterau cinio Ysgolion er mwyn
darparu ar gyfer y cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd,
y manylir arno yn adran 6.9 ac Atodiad 5 i’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y
strategaeth a gytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Darparwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn – ·
roedd y gyllideb refeniw
net ar gyfer 2022/23 yn £233.693 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22). ·
rhagwelwyd gorwariant o
£2.189 miliwn yn y cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (gorwariant o £5.535
miliwn fis diwethaf) ·
tynnwyd sylw at y risgiau a
thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chwyddiant. ·
arbedion gwasanaeth manwl a
chynnydd mewn ffioedd a thaliadau (£0.754 miliwn); ni ofynnwyd am unrhyw
arbedion gan y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion. ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys, y Cynllun Cyfalaf a
phrosiectau mawr. Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd gymeradwyo cynlluniau i
wario grant cyfalaf (£1.203 miliwn) i uwchraddio cyfleusterau cegin ac ystafell
fwyta ysgolion er mwyn darparu ar gyfer y cynllun prydau ysgol am ddim cynradd
cyffredinol. Adroddodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar y camau a
gymerwyd i leihau’r gorwariant a ragwelir o £5.535 miliwn o’r mis diwethaf i
£2.189 miliwn a oedd yn cynnwys tanwariant mewn costau ariannu cyfalaf yn
bennaf oherwydd oedi â phrosiectau; £400,000 o’r arian wrth gefn yn dilyn
trosglwyddiadau ariannol terfynol ar y setliad cyflog; £230,000 yn deillio o’r
arbedion dulliau newydd o weithio yn ymwneud â chostau teithio staff, a thua £1
miliwn mewn arbedion gwasanaeth o oedi wrth recriwtio a defnyddio cronfeydd
wrth gefn. Ategwyd pwysigrwydd lleihau’r tanwariant, a fyddai’n caniatáu tua
£2.7 miliwn o’r gronfa wrth gefn lliniaru cyllideb i helpu ariannu’r gyllideb
ar gyfer y flwyddyn nesaf, er mwyn caniatáu amser i wneud yr addasiadau
angenrheidiol i’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Er bod sefyllfa’r
gyllideb wedi gwella’n sylweddol ers y mis blaenorol ac yn adlewyrchu’r
sefyllfa hyd yma, efallai y nodir pwysau eraill yn y dyfodol, megis cynnal a
chadw yn y gaeaf, o ystyried yr amodau oer presennol. Yn olaf, cyfeiriwyd at yr
argymhelliad i gymeradwyo cynlluniau i wario grant cyfalaf i uwchraddio
cyfleusterau ystafelloedd bwyta a cheginau ysgolion, a gefnogwyd gan Fwrdd y
Gyllideb. Ymhelaethodd y Cynghorydd Gill German ar gyflwyno’r
cynllun prydau ysgol am ddim cyffredinol yn raddol fel rhan o’r cytundeb
partneriaeth rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ar lefel Llywodraeth Cymru, er
budd pob plentyn ysgol gynradd. Cyfeiriodd at yr heriau o ran uwchraddio
ceginau a chyfleusterau a diolchodd i’r Tîm Arlwyo a fu’n gweithio’n ddiflino i
ddarparu’r cynllun, ac a fyddai o ganlyniad yn cael ei gyflwyno’n gynnar i holl
ddisgyblion Blwyddyn 1 yn Sir Ddinbych o fis Ionawr 2023. Roedd y grant cyfalaf
yn hanfodol o ran gweithredu’r cynnig pryd ysgol am ddim a sicrhau bod y
seilwaith angenrheidiol yn ei le. Adroddodd y Cynghorydd German hefyd am y digwyddiad
Nadolig Gofalwyr Maeth diweddar a’r cynnig rhagorol ar gyfer maethu’r awdurdod
lleol gan gynnwys y lefel o ofal a chymorth y naill a’r llall yn y gwasanaeth.
Cydnabuwyd y pwysau cyllidebol yn y maes gwasanaeth hwnnw a rhoddwyd sicrwydd y
byddai gwaith yn mynd rhagddo i fynd i’r afael â’r pwysau cyllidebol a
hyrwyddo’r gwasanaeth maethu a’i fuddion ymhellach yn y flwyddyn newydd. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn: (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb, a (b) chymeradwyo’r cynlluniau i wario grant cyfalaf (£1.203 miliwn) i uwchraddio cyfleusterau ystafell fwyta a cheginau ysgolion er mwyn darparu ar gyfer y cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cynradd Cyffredinol fel y manylir yn adran 6.9 yn yr adroddiad ac ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 301 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sy’n amgaeedig a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet i’w hystyried, a nododd yr
aelodau’r diwygiadau canlynol - ·
Ysgol Plas Brondyffryn
(Achos Busnes Amlinellol) – wedi’i dynnu o raglen mis Ionawr ·
Ysgol Plas Brondyffyrn
(Adolygu adroddiad gwrthwynebu) – wedi’i ychwanegu at raglen mis Chwefror ·
Strategaeth Ynni Gogledd
Cymru – wedi’i ychwanegu at raglen mis Chwefror PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel
y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
ARGYMELL Y GRŴP GOSOD FFI RANBARTHOL Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a
Gofal Cymdeithasol (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i
argymhellion Grŵp Ffioedd Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer 2023/24,
ffioedd Cartref Preswyl a Gofal Nyrsio. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn yr holl argymhellion o’r Grŵp Ffioedd fel y
nodir o fewn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton adroddiad cyfrinachol i ofyn i’r
Cabinet gymeradwyo argymhellion ffioedd Cartrefi Preswyl a Nyrsio, Grŵp
Ffioedd Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer 2023/24. Roedd Grŵp Ffioedd 2023/24 yn cynnwys cynrychiolwyr o chwe awdurdod
lleol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chrëwyd
argymhelliad unigol ar gyfer ffioedd Cartrefi Preswyl a Nyrsio 2023/24 gan
gynnwys: Gofal Preswyl Cyffredin; Gofal
Preswyl ar gyfer yr Henoed gyda Salwch Meddwl; Gofal Nyrsio, a Gofal Nyrsio ar
gyfer yr Henoed gyda Salwch Meddwl.
Cyfeiriwyd at y fethodoleg a’r canllawiau a ddefnyddiwyd ynghyd â data
perthnasol ac oriau gofal diwygiedig i gyfrif am gymhlethdod cynyddol yr angen
er mwyn cyflawni argymhelliad. Cytunodd y Grŵp Ffioedd yn unfrydol â’r
argymhellion yn yr adroddiad, ac roeddent o’r farn eu bod yn gyfraddau rhesymol
ac yn amddiffyn pedwar categori Cartref Gofal. Cafodd tabl o gyfraddau ffioedd Cartrefi
Gofal Sir Ddinbych ar gyfer 2022/23 a’r cynnydd canrannol ar gyfer 2023/24
hefyd ei gynnwys at ddibenion cymharu.
Darparwyd manylion ynghylch y cynnydd o ran y costau a ragwelir yng
ngwariant Cartref Gofal Sir Ddinbych. Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a thrafod gwerth y cynnydd arfaethedig
mewn ffioedd fel y nodir, gan gynnwys y rhesymeg sy’n sail i ganran yr enillion
ar fuddsoddiad, er mwyn adlewyrchu’r dull rhanbarthol a’r effaith ddilynol ar
faint yr elw, y dylid ei amlygu.
Mynegwyd peth pryder ynghylch y sylw negyddol yn y wasg gan ffynonellau
nad ydynt yn adlewyrchu’r sefyllfa’n gywir o ran ffioedd cartrefi gofal a’r
berthynas â darparwyr gofal. O ran ansawdd y gofal a ddarperir, rhoddwyd
sicrwydd gan swyddogion ynglŷn â’r broses monitro contract a’r adolygiad
rheolaidd o becynnau gofal er mwyn sicrhau safonau uchel. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn holl argymhellion y Grŵp Ffioedd, fel y nodir
yn yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 12.20pm. |