Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Byddai’r Cynghorydd Emrys Wynne yn hwyr yn cyrraedd y
cyfarfod. |
|
Aelodau i ddatgan
cysylltiad sy'n rhagfarnu a phersonol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w hystyried
yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
18 Hydref 2022. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
CYNLLUN CLUDIANT CYNALIADWY DRAFFT PDF 236 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Chludiant (copi ynghlwm) yn cyflwyno’r Cynllun Cludiant Cynaliadwy Drafft i
gael barn y Cabinet cyn yr ymgysylltiad cyhoeddus fydd yn cael ei gynnal ar y Cynllun
yn gynnar yn 2023. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) nodi cynnwys y Cynllun
Cludiant Cynaliadwy Drafft, yn Atodiad A i’r adroddiad; (b) nodi, yn dilyn yr ymarfer ymgysylltu â’r
cyhoedd, ac unrhyw ddiwygiadau o ganlyniad, y byddai fersiwn derfynol y Cynllun
Cludiant Cynaliadwy yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w drafod ac i roi
cymeradwyaeth derfynol yng nghanol 2023, a (c) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o
Effaith ar Les (Atodiad B yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad
yn ceisio barn y Cabinet ar y Cynllun Cludiant Cynaliadwy cyn yr ymarfer
ymgysylltu â’r cyhoedd i ddod ar y Cynllun ar ddechrau 2023. Byddai fersiwn terfynol o’r Cynllun yn cael
ei gyflwyno i’r Cabinet ar gyfer cymeradwyaeth derfynol yng nghanol 2023. Darparwyd rhywfaint o gefndir i’r Cynllun a
ddatblygwyd gan swyddogion o wahanol wasanaethau’r cyngor i adlewyrchu natur
trawsbynciol cludiant. Cyfeiriwyd at
amcanion a dyletswyddau amgylcheddol y cyngor ac roedd y Cynllun yn cynnwys
holl weithgareddau cysylltiedig â chludiant i annog teithio cynaliadwy, o’r
Rhaglen Newid Hinsawdd ac Ecolegol a phrosiectau/polisïau eraill. I alinio gyda Strategaeth Cludiant Cymru,
“Llwybr Newydd”, roedd y Cynllun yn cynnwys gweledigaeth 20 mlynedd a
blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf a olynir gan set arall o
flaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd yn dilyn hynny. Pwysleisiwyd nad oedd camau o fewn y Cynllun
yn angenrheidiol yn newydd, gyda llawer o waith yn cael ei wneud dros nifer o
flynyddoedd. Roedd y gweithgareddau
hynny wedi eu cynnwys mewn un ddogfen hygyrch ar gyfer eglurder a byddent hefyd
yn helpu i nodi unrhyw fylchau posibl. Roedd y Cabinet yn croesawu’r Cynllun drafft ac
ymarfer ymgysylltu dilynol i roi cyfle i rhanddeiliaid a’r cyhoedd ddarparu
mewnbwn i’r broses. Derbyniwyd e-bost
gan y Cynghorydd Jon Harland yn awgrymu mân adolygiadau i’r Cynllun, gan gynnwys
y cwmpas i edrych eto ar ‘Fysiau Cerdded’ i gynnwys ‘Bysiau Beicio’ hefyd i
annog mwy o ddysgwyr i gerdded a beicio i’r ysgol, a darparu llwybrau diogel i
ysgolion i hwyluso teithio llesol.
Amlygodd y Cynghorydd Gill Greenland waith ar y gweill ar hyn o bryd
gydag ysgolion gan gynnwys hyfedredd beicio a chysylltiadau i draffig/parcio a
gwneud ysgolion yn fannau diogel, a byddai hefyd yn codi’r materion hynny fel
yr aelod arweiniol perthnasol. Roedd y
Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd yn cadarnhau y gellir bwrw ymlaen a
chynnwys bysiau beicio fel rhan o waith dichonoldeb ac yn cydnabod pwysigrwydd
llwybrau diogel i’r ysgol i annog teithio mwy gwyrdd. Roedd yna rywfaint o ddadl ar deilyngdod
‘Bysiau Cerdded’ a phwysigrwydd prynu i mewn gan rieni a’r sawl yn hwyluso’r
cynllun iddo fod yn llwyddiannus. Roedd
y Cynghorydd Julie Matthews wedi amlygu materion a godwyd gan rai preswylwyr
heb unrhyw le parcio oddi ar y stryd ar gael i wefru cerbyd ac roedd yn falch i
nodi cyfeiriad yn y Cynllun i ddatblygu’r ddarpariaeth. Roedd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd
yn ymateb i gwestiynau pellach ynglŷn â phwysigrwydd y Cynllun i hybu twf
economaidd a chadarnhawyd y byddai’r Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a
Ffederasiwn Busnesau Bach yn cael ei gynnwys yn rhan ymgysylltu â rhanddeiliaid
o’r Cynllun. O ran cynigion
Llywodraeth Cymru ar gyfer terfyn cyflymder 20mya, roedd y nod yn cynnwys
diogelwch ffyrdd ac annog dewisiadau teithio llesol. Byddai adroddiad ar y terfyn cyflymder 20mya
yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 8 Rhagfyr 2022. Ategodd yr Arweinydd bod y Cynllun mewn ffurf
drafft ar hyn o bryd ac yn annog cyfranogiad llawn yn y broses ymgysylltu cyn i
Gynllun terfynol gael ei gymeradwyo ganol 2023. Roedd yn falch o nodi y byddai pwyntiau’r
Cynghorydd Harland yn cael eu symud ymlaen. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) nodi cynnwys y Cynllun
Cludiant Cynaliadwy Drafft, yn Atodiad A i’r adroddiad; (b) nodi, yn dilyn yr ymarfer
ymgysylltu â’r cyhoedd, ac unrhyw ddiwygiadau o ganlyniad, y byddai fersiwn
derfynol y Cynllun Cludiant Cynaliadwy yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w
drafod ac i roi cymeradwyaeth derfynol yng nghanol 2023, a (c) cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYTUNDEB CYFLAWNI DIWYGIEDIG Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD PDF 227 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a
Chynllunio (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet ar y Cytundeb Cyflawni
diwygiedig i fynd gerbron y Cyngor i’w gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth
Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cadarnhau eu bod wedi
darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn
yr atodiad i’r adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau, a (b) argymell y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig i fynd ymlaen i’r Cyngor i’w
gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Win Mullen-James yr
adroddiad yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i Gytundeb Cyflawni diwygiedig i
ddisodli’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) 2018 - 2033 i fynd gerbron y Cyngor
i’w gymeradwyo a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Mae’r Cytundeb Cyflawni yn nodi’r amserlen i symud
ymlaen i fabwysiadu’r CDLl newydd ac yn amlinellu pwy, sut a phryd fydd y
Cyngor yn ymgynghori ar y camau amrywiol. Cafodd y Cytundeb Cyflawni presennol
ei gymeradwyo ym Mai 2018. Mae angen Cytundeb Cyflawni diwygiedig yn sgil yr
oedi yn yr amserlen gytunedig a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19, oedi mewn
cyhoeddi’r canllawiau a pholisi perygl llifogydd ac etholiadau lleol. Nid oedd yn bosibl darparu camau ymgynghori
ffurfiol pellach nes oedd y Cytundeb Cyflawni diwygiedig wedi’i
gymeradwyo. Cafodd y Cytundeb Cyflawni
diwygiedig ei ystyried gan y Grŵp Cynllunio Strategol yn Hydref 2022, lle
argymhellwyd iddo fynd i’r Cabinet a’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth. Roedd y Cabinet wedi ystyried yr adroddiad ac er yn
derbyn bod yr oedi yn yr amserlen flaenorol oherwydd rhesymau y tu hwnt i
reolaeth y Cyngor, roedd yn awyddus i’r gwaith gael ei ddatblygu gynted â
phosibl. Gofynnwyd cwestiynau am y dull
a gymerwyd, ac oherwydd yr amgylchiadau a oedd unrhyw gwmpas i newid y dyddiad
dechrau 2018 o ystyried y byddai’r Cynllun yn cael ei fabwysiadu rhai blynyddoedd
ar ôl y dyddiad hwnnw, a pha un a all y CDLl fod yn ddogfen barhaus wedi’i
hadolygu’n achlysurol yn hytrach na chael dyddiad dechrau a dyddiad
terfyn. Roedd effaith yr oedi ar
elfennau o’r CDLl presennol yr oedd aelodau yn dymuno eu herio hefyd yn bryder. Ymatebodd yr Uwch Swyddog Cynllunio i gwestiynau a
sylwadau fel a ganlyn – ·
nodwyd bod awdurdodau lleol
eraill hefyd wedi profi oedi oherwydd materion tebyg, gan gynnwys effaith y
targedau ffosffad newydd ar ddatblygiad, ac roedd yna hyder y byddai’r Cytundeb
Cyflawni diwygiedig yn datblygu’r CDLl i’w fabwysiadu. ·
byddai’r CDLl newydd yn
cynnwys y cyfnod 2018 - 2033 ac er y gwerthfawrogir y byddai rhan o’r Cynllun
yn y gorffennol, roedd yn arferol i CDLlau o ystyried y broses gylchol. Oherwydd yr oedi, byddai’r broses yn debyg o
gymryd dwy flynedd yn fwy na’r hyn a drefnwyd yn wreiddiol. ·
roedd y Cytundeb Cyflawni
diwygiedig yn cynnwys amserlen dynn ac uchelgeisiol ond roedd yna hyder y
byddai’n cael ei fodloni gyda’r bwriad i fabwysiadu’r CDLl newydd yn 2025 gyda
digon o amser yn weddill yn y Cynllun ar gyfer ei weithredu a chyflawni ei nod
ac amcanion. Roedd y Cytundeb Cyflawni
diwygiedig angen cymeradwyaeth y Cyngor cyn cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar
gyfer eu cytundeb. ·
os byddai dyddiad dechrau’r
Cynllun yn cael ei symud nawr, byddai angen ailddechrau’r broses gyfan
(oherwydd bod y sail tystiolaeth wedi’i gasglu ar gyfer 2018 - 2033) fyddai’n
ychwanegu blynyddoedd ychwanegol i’r broses mabwysiadu Cynllun newydd. ·
rhoddwyd rhagor o wybodaeth
ar y broses gylchol o fabwysiadu’r CDLl, fel arfer cyn i’r Cynllun presennol
ddod i ben, o ddechrau’r adolygiad mwyafswm o 4 blynedd o’i fabwysiadu. ·
Byddai’r CDLl yn parhau
mewn grym (yn dibynnu ar fabwysiadu CDLl newydd) a oedd ar hyn o bryd y tu hwnt
i’w ddyddiad terfyn ac roedd yna hyder bod y CDLl presennol yn parhau’n
berthnasol ac yn addas i’r diben wrth ystyried ceisiadau cynllunio. ·
roedd yna feysydd polisi
newydd i’w cynnwys yn y CDLl newydd, fel newid hinsawdd a ble roedd yna
newidiadau i bolisi cenedlaethol (oedd yn anghydwedd â pholisi lleol) byddent
yn cael blaenoriaeth. · wrth ystyried ceisiadau cynllunio, mae’n bosibl y bydd yna ystyriaethau materol perthnasol eraill ac roedd yn iawn bod aelodau yn herio elfennau o fewn y CDLl. Roedd safleoedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
DEDDF RHENTU CARTREFI (CYMRU) 2016 A DEFNYDDIO TENANTIAETH RAGARWEINIOL PDF 221 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi’r gorau i ddefnyddio
Tenantiaeth Ragarweiniol i denantiaid newydd y cyngor a rhoi gwybod i’r Cabinet
am y cytundeb tenantiaeth newydd i denantiaid y cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cytuno i beidio â defnyddio Tenantiaeth
Ragarweiniol mwyach i denantiaid newydd y cyngor, a (b) Bod y Contract Meddiannaeth newydd ar
gyfer holl denantiaid y cyngor, a chrynodeb o’r prif newidiadau a gyflwynir gan
y ddeddfwriaeth newydd yn cael eu nodi. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad yn
ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i roi’r gorau i ddefnyddio Tenantiaeth
Ragarweiniol i denantiaid newydd y cyngor a hysbysu’r Cabinet am gytundeb
tenantiaeth newydd ar gyfer tenantiaid y Cyngor. Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym ar 1
Rhagfyr 2022, a bydd yn cyflwyno cyfraith tenantiaeth newydd ar gyfer pob
tenant yng Nghymru. Roedd y fframwaith
deddfwriaethol newydd yn rhoi cyfle i adolygu polisi Tenantiaeth Ragarweiniol y
Cyngor a ystyriwyd yn “llym” ac yn groes i’r dull modern presennol i reoli a
chefnogi tenantiaethau newydd gydag ystod o ddatrysiadau eraill. Roedd y mwyafrif o gynghorau a Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig yn cymryd yr un camau. Roedd y ddeddf newydd hefyd yn golygu
disodli’r Denantiaeth Ddiogel bresennol gyda Chontract Meddiannaeth Ddiogel ac
roedd gwaith wedi’i wneud i sicrhau bod y denantiaeth bresennol yn newid yn
gywir i’r contract newydd. Darparwyd
manylion y cytundeb tenantiaeth newydd gan gynnwys cyfeirio at drosglwyddo
tenantiaeth, hawl olyniaeth a safon Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw ynddi. Roedd y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn
pwysleisio pwysigrwydd deddfwriaeth newydd a gwaith sylweddol a wnaed gan y Tîm
Tai Cymunedol. Y Swyddog Arweiniol -
roedd Tai Cymunedol wedi amlinellu’r prif elfennau o’r ddeddfwriaeth newydd a
gweinyddu tenantiaethau a rhoi sicrwydd nad oedd tenantiaid wedi colli unrhyw
ddiogelwch mewn cyfraith. Argymhellwyd
nad yw Tenantiaethau Rhagarweiniol yn cael eu defnyddio mwyach oherwydd newid
hinsawdd a chefnogaeth ddwys i denantiaid newydd. Cyfeiriwyd hefyd at y safon Ffitrwydd
Annedd i Bobl Fyw ynddi o ystyried achos erchyll marwolaeth plentyn yn Rochdale
ar ôl llwydni yn ei gartref a rhoi sicrwydd am addasrwydd cartrefi’r cyngor. Roedd y Cabinet yn cefnogi newid dull i denantiaid newydd
ac yn ceisio mwy o wybodaeth yn y cyswllt hwnnw ynghyd â gwaith i gadw cartrefi
mewn cyflwr da. Cadarnhaodd swyddogion
bod y mwyafrif o awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o’r
un farn o ran tenantiaethau rhagarweiniol gydag ymrwymiad tebyg i beidio troi
aelwydydd allan, yn arbennig i ddigartrefedd, ble bynnag bo’n bosibl. Roedd gwaith i gefnogi tenantiaid drwy
ddeuddeg mis cyntaf y denantiaeth yn seiliedig ar asesiad o anghenion trwyadl
o’r aelwyd, rhannu gwybodaeth, ymweliadau rheolaidd gan Swyddogion Tai ac
atgyfeiriadau fel bo’n briodol i’r sawl sydd angen cefnogaeth ychwanegol. Hysbyswyd y Cabinet am waith ar y gweill i
gynnal safonau ansawdd mewn cartrefi, gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag
anwedd, gyda briffiadau staff a gwybodaeth i denantiaid. Rhoddwyd sicrwydd, yn groes i arfer
cyffredin yn Lloegr i atal gwaith atgyweirio unwaith y cofnodwyd hawliad
atgyweirio, roedd Sir Ddinbych yn parhau i weithio gyda thenantiaid i wneud
unrhyw waith atgyweirio sy’n weddill. Roedd yr Arweinydd yn diolch i’r swyddogion am y sicrwydd
a roddwyd a gwaith a wnaed i gefnogi tenantiaid a’u helpu i wneud dewisiadau
hysbys i reoli eu cartrefi orau. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) cytuno i beidio â defnyddio Tenantiaeth
Ragarweiniol mwyach i denantiaid newydd y cyngor, a (b) Bod y Contract Meddiannaeth newydd ar
gyfer holl denantiaid y cyngor, a chrynodeb o’r prif newidiadau a gyflwynir gan
y ddeddfwriaeth newydd yn cael eu nodi. |
|
POLISI GOSOD TAI NEWYDD YN LLWYN EIRIN, DINBYCH PDF 213 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet at gyfer Polisi Gosod Lleol i
ddyrannu cartrefi yn Llwyn Eirin, Dinbych. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r Polisi Gosod Tai Lleol ar gyfer dyrannu tai yn Llwyn Eirin,
Dinbych (wedi ei atodi fel Atodiad 1 i’r adroddiad). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys
Thomas yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Cabinet am Bolisi Gosod
Lleol i ddyrannu’r 22 o dai newydd yn Llwyn Eirin, Dinbych. Roedd dyrannu tai ar gyfer
rhentu cymdeithasol yn derbyn sylw drwy’r Polisi Dyrannu a gymeradwywyd gan y
Cyngor yn 2017 ac yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth berthnasol a
chanllawiau gweinyddu cofrestr dai a dyrannu tai. Oherwydd y nifer fawr o dai newydd yn Llwyn
Eirin byddai angen dull newydd i sicrhau’r gymysgedd gywir o aelwydydd i
ffurfio cymuned newydd wydn tra’n bodloni’r angen lleol am dai. Mae’r Polisi Gosod Tai Lleol ynghlwm yn
nodi sut y byddwn yn targedu aelwydydd presennol yn Ninbych, o fewn categorïau
a ffefrir rhesymol, i greu cymysgedd o aelwydydd Band 1 (Angen Brys) a Band 2
(Angen Tŷ) a hybu cymuned gynaliadwy o aelwydydd gyda chysylltiadau â’r
ardal. Roedd y Cabinet wedi amlygu
tai fel prif flaenoriaeth ac roedd yn croesawu datblygiad newydd tai cyngor i
fynd i’r afael â’r angen am dai a adeiladwyd i safon passivhaus. Roedd yr angen i greu cymuned gynaliadwy
drwy’r polisi gosod lleol wedi’i dderbyn ac roedd y Cabinet yn falch i nodi
blaenoriaeth ar gyfer y ddwy ward yn Ninbych ac y byddai preswylwyr Dinbych ym
Mand 1 yn cael eu cartrefu. Byddai’r
dull hefyd yn creu mwy o symud yn y farchnad dai gyfan. Cadarnhawyd unwaith yr oedd y 22 cartref
wedi eu gosod, byddai gosodiadau yn y dyfodol yn cael eu gosod yn unigol yn
unol â phrif bolisi dyrannu.
Cadarnhaodd swyddogion mai’r bwriad oedd ystyried teilyngdod polisi
gosodiadau lleol ar gyfer cynlluniau tai newydd yn y dyfodol o dros 10 cartref
er mwyn creu cymunedau cynaliadwy a byddai’r Cabinet hefyd yn cyfrannu fel rhan
o’r broses honno. O ran darparu
cefnogaeth ar gyfer y datblygiad newydd, byddai Swyddogion Tai yn gweithio’n
unigol gyda thenantiaid a byddai’r Tîm Gwydnwch Cymunedol yn ymgysylltu a’r tenantiaid newydd i helpu i ddatblygu
cymuned gynaliadwy a sicrhau llwyddiant wrth symud ymlaen. Cadarnhawyd bod Deddf Tai 1996 yn caniatau i
awdurdodau lleol greu polisi gosod lleol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo’r Polisi Gosod Tai Lleol ar gyfer dyrannu tai yn Llwyn Eirin,
Dinbych (wedi ei atodi fel Atodiad 1 i’r adroddiad). Ar y pwynt hwn (11.25 am) cymerodd y pwyllgor egwyl am
luniaeth.
|
|
DIWEDDARIAD HUNANASESIAD PERFFORMIAD, CHWARTER 2, 2022 I 2023 PDF 215 KB Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol (copi ynghlwm) ar berfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar
ddiwedd chwarter 2, 2022 i 2023. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2
2022/23 a chadarnhau cynnwys yr adroddiad drafft. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Gwyneth Ellis yr adroddiad ynghylch perfformiad y Cyngor yn erbyn ei
swyddogaethau ar ddiwedd chwarter 2, 2022 i 2023, gan gynnwys amcanion y
Cynllun Corfforaethol a Chydraddoldeb Strategol, a’r saith maes llywodraethu
allweddol. Cafodd yr adroddiad ei
gyflwyno mewn dwy ran yn amlinellu cynnydd yn erbyn Amcanion Perfformiad a
Meysydd Llywodraethu, ac roedd yn casglu’r dystiolaeth oedd yn ffurfio rhan o
Hunanasesiad o berfformiad yn erbyn swyddogaethau fel bo’r angen o dan Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o ddiweddariadau prosiect a data,
ynghyd â thablau data sy’n rhoi amlinelliad llawn o’n sefyllfa bresennol. Cyflwynwyd gweithgareddau diweddar y cyngor
hefyd sy’n dangos ein bod yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y
Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol. Eglurodd y Pennaeth Interim
Busnes Gwella a Moderneiddio bod yr adroddiad yr olaf yn seiliedig ar y Cynllun
Corfforaethol ar gyfer 2017 i 2022, y Cynllun Corfforaethol newydd a gymeradwywyd
yn Hydref 2022. Arweiniodd yr
Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad y Cabinet drwy bob un o’r pump
maes blaenoriaeth, yn amlygu prif negeseuon a mesurau perfformiad yn y cyswllt
hwnnw. Tynnwyd sylw hefyd at y
deilliannau iechyd corfforaethol, yn arbennig meysydd pryder yn ymwneud â
Chyllid; Gallu Staff o fewn Archwilio Mewnol; Cofrestr Risg Gorfforaethol a
Recriwtio/Cadw Staff. Fodd bynnag,
roedd yr adroddiad hefyd yn dangos cynhyrchedd a chynnydd anhygoel a wnaed ar
draws y cyngor cyfan. Codwyd y pwyntiau canlynol yn
ystod y drafodaeth a ddilynodd - ·
roedd aelodau yn amlygu’r swyddogaeth hanfodol a wnaed gan Archwilio
Mewnol a thrafodwyd y nifer o swyddi gwag yn y Tîm Archwilio Mewnol a’u gallu i
ddarparu’r sicrwydd perthnasol oedd yn ofynnol. Dywedodd Swyddogion y byddai rhywfaint o
waith archwilio mewnol yn debyg o gael ei gomisiynu i sicrhau bod hanfodion y
cynllun archwilio wedi eu cwblhau ac ymgymerwyd ag ymarfer recriwtio i sicrhau
digon o gapasiti wrth symud ymlaen. Rhoddwyd sicrwydd y byddai’r mater yn parhau i
gael ei fonitro drwy adroddiadau perfformiad chwarterol. Cytunwyd i hysbysu’r Cabinet a Briffio’r
Cabinet am gynnydd ·
anawsterau recriwtio staff a nifer o swyddi gwag ar draws y cyngor yn
cael ei gydnabod gyda marchnad lafur anodd, ac nid oedd y broblem yn unigryw yn
Sir Ddinbych. Mewn ymateb, roedd y
cyngor yn adolygu pob agwedd o’i broses recriwtio i’w gwneud mor hawdd â
phosibl i bobl ymgysylltu a sicrhau bod y cyngor yn gyflogwr deniadol. ·
roedd rhai o’r mesurau yn y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru wedi eu
cyhoeddi’n achlysurol ac felly roedd yn anodd asesu’r sefyllfa bresennol a
chynnydd y dyfodol yn gywir. Roedd y
mater hwnnw yn cael ei drafod yn genedlaethol o ran sut y gellir cael mynediad
i fwy o ddata presennol i fonitro’r sefyllfa.
O waith diweddar a wnaed fel rhan o’r Asesiad o Les, a phwysau a wynebir
gan gymunedau fel Covid-19 a’r argyfwng costau byw, rhagwelir y byddai yna fwy
o bwysau o ran amddifadedd oedd yn debyg o fod wedi ehangu. O ystyried thema Sir Ddinbych mwy teg a
chyfartal, roedd fframwaith yn cael ei ddatblygu i fonitro amddifadedd a
pherfformiad yn agos mewn cymunedau o ran incwm a chyflogaeth ac ati. Roedd yr Arweinydd yn amlygu pwysigrwydd
data perthnasol i gymell polisi a nodi’r angen a chyfeiriwyd at waith Data
Cymru y byddai’n adrodd yn ôl arno. · roedd statws canran band eang cyflym iawn yn Sir Ddinbych wedi’i amlygu fel blaenoriaeth ar gyfer gwella a chyfeiriodd y Cynghorydd Emrys Wynne at ddod a’r prosiect i ben yn Llanfwrog a’r effaith ar gymunedau. Derbyniwyd bod cysylltedd yn fater cymhleth, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, ac roedd y tu allan i ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y
strategaeth gyllido y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn - ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2022/23 oedd £233.693 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22) ·
gorwariant o £5.535 miliwn
wedi’i ragweld ar gyfer gwasanaeth a chyllidebau corfforaethol (£2.661miliwn o
orwariant y mis diwethaf) oherwydd pwysau ychwanegol o fewn Gofal Cymdeithasol
(Oedolion a Phlant), y Gwasanaeth Digartrefedd a Chludiant Ysgol. ·
tynnwyd sylw at y risgiau a
thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith y coronafeirws a chwyddiant. ·
manylion am arbedion
gwasanaethau a chynnydd mewn ffioedd a thaliadau (£0.754 miliwn); ni ofynnwyd
am arbedion gan Wasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion ·
rhoddwyd diweddariad cyffredinol
ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd
diweddariad ar brosiectau mawr. Roedd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo wedi amlygu’r
cynnydd sylweddol mewn gorwariant ers y mis blaenorol. Er bod yna ddigon o arian wrth gefn ar
gyfer y lefel o orwariant, os byddai angen yr holl arian wrth gefn oedd ar gael
ar gyfer gorwariant yn ystod y flwyddyn, byddai’n cyfyngu unrhyw gymorth yn y
broses gyllideb anodd ar gyfer 2023/24 a 2024/25. Byddai gwasanaethau yn adolygu incwm a gwariant
gyda’r bwriad i leihau’r gorwariant.
Roedd modd arall o ddelio â’r gorwariant yn cynnwys defnyddio’r gronfa
wrth gefn lliniaru’r gyllideb ac arian wrth gefn cyffredinol ynghyd ag oedi
posibl wrth recriwtio ble bo’n briodol.
Polisi presennol y cyngor oedd cynnal lefel yr arian wrth gefn £5miliwn
ac felly byddai unrhyw ostyngiad o £5miliwn angen newid polisi. Nodwyd bod y colofnau amrywiad gwasanaeth
yn Atodiad 2 wedi eu gosod yn y drefn anghywir ond roedd y ffigyrau a’r naratif
yn gywir. Roedd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yn talu teyrnged i
waith caled y Pennaeth Cyllid ac Eiddo a’i dîm ar y gyllideb bresennol a
gorwariant ac mewn gosod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn arbennig o
ystyried y lefel bresennol o ansicrwydd.
Roedd yr Arweinydd yn adleisio’r teimladau hynny a’i werthfawrogiad o’r
holl waith caled. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y
strategaeth gyllido y cytunwyd arni.
|
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 277 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr
aelodau’r ychwanegiadau canlynol - ·
Ffioedd Cartrefi Gofal yn
Sir Ddinbych blwyddyn ariannol 2023/24 - Rhagfyr ·
Cynlluniau Byw â Chymorth
Anabledd Dysgu Sir Ddinbych - Ionawr ·
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin
- Ionawr i Fehefin PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. |
|
CYNLLUNIAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR CANOL Y RHYL A CHANOL PRESTATYN - PAPUR DILYNOL PDF 225 KB Ystyried
adroddiad diweddaru (sy’n cynnwys dau atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd
Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant ynghylch dau gynllun
amddiffyn yr arfordir posib ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn a cheisio
cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r Cyngor gydag argymhelliad i
ariannu cyfnod adeiladu’r ddau gynllun. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cadarnhau ei fod wedi
ystyried cynnwys yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer pob cynllun (sydd
wedi’u hatodi fel Atodiad 3a ac Atodiad 3b yn yr adroddiad); (b) cefnogi’r cynnig i symud
cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan
ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn
cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad; (c) cefnogi’r cynnig i symud
cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan
ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn
cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad, ac (d) dirprwyo awdurdod i Fwrdd
Prosiect Amddiffyn yr Arfordir gyflawni’r cynlluniau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad
gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am ddau gynllun amddiffynfeydd
arfordirol posibl ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn a gofynnodd am
gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r Cyngor gydag argymhelliad i
ariannu cam adeiladu’r ddau gynllun. Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad tebyg yn eu
cyfarfod diwethaf ac wedi cefnogi cynigion i ddatblygu’r ddau gynllun a’u
cyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad.
Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Economi a’r Amgylchedd yn egluro
wrth gwblhau’r achos busnes llawn, canfuwyd bod costau prosiect anghywir ar
gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl wedi’i gynnwys yn adroddiad y
Cabinet, gyda ffigwr o £58miliwn wedi’i ddefnyddio yn lle £66miliwn, ac roedd
yn ymddiheuro am y gwall. Nodwyd nad
oedd y Cabinet wedi gwneud penderfyniad cyllid yn eu cyfarfod diwethaf, ond
roedd yn briodol adrodd ar y sefyllfa ariannol gywir yn ôl i’r Cabinet o
ystyried y lefel gynyddol o ymrwymiad ariannol a nodwyd. Tynnwyd sylw’r Cabinet at y ffaith bod y
ddau gynllun yn dal i haeddu cefnogaeth y cyngor er mwyn diogelu tref y Rhyl a
Phrestatyn rhag y risg o lifogydd.
Byddai 85% o gyfanswm cost y cynlluniau yn parhau i gael eu hariannu gan
Lywodraeth Cymru ac er bod gwaith yn parhau i werthuso dewisiadau i leihau’r
costau, roedd y dybiaeth bresennol yn seiliedig ar fwyafswm cost cyfunol y ddau
gynllun sef £92miliwn. Roedd y Cabinet wedi ystyried rhinweddau’r ddau
gynllun yn eu cyfarfod diwethaf a phwysigrwydd diogelu tref y Rhyl a Phrestatyn
rhag y perygl o lifogydd a’r trychineb a achoswyd gan ddigwyddiadau
llifogydd. Nodwyd bod y ddau gynllun wedi
eu prisio’n llawn a’r gwall yn ymwneud â ffigwr anghywir wedi’i gynnwys yn
adroddiad y Cabinet a nodwyd yn ystod gwiriadau a balansau dilynol. Ar ôl ystyried y diweddariad a chost y
prosiect wedi’i gywiro ar gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl, roedd
y Cabinet yn parhau o’r farn bod y ddau gynllun yn hanfodol ar gyfer diogelwch
a chynaliadwyedd y trefi hynny i breswylwyr, busnesau a thwristiaeth a’i fod yn
anochel bod y trefi hynny yn cael eu diogelu.
Roedd y Cynghorydd Gareth Sandilands yn cefnogi’r
prosiect ond gofynnodd am sicrwydd o ran sefydlogrwydd ariannol i’r cynlluniau
wrth symud ymlaen. Roedd yr Aelod
Arweiniol a swyddogion yn amlygu llwyddiant Cynllun Amddiffyn yr Arfordir
Dwyrain y Rhyl a gwblhawyd o fewn cyllideb ac o flaen yr amserlen. Byddai dull tebyg yn cael ei ddefnyddio ar
gyfer cynlluniau Canol y Rhyl a Phrestatyn gyda phob agwedd o gostau yn cael eu
monitro’n barhaus gan y contractwyr a’r cyngor. Roedd pob risg wedi eu prisio a’u cynnwys
yn y gyllideb ond y rhagdybiaeth oedd na fyddai pob risg yn dwyn ffrwyth ac
roedd costau chwyddiant hefyd wedi eu cynnwys yn y gyllideb na fydd ei angen o
bosibl. O ganlyniad, roedd yna hyder yn
narpariaeth y gyllideb ar gyfer y ddau gynllun a gellir derbyn sicrwydd o ran
eu cyflawni.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cadarnhau ei fod wedi
ystyried cynnwys yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer pob cynllun (sydd
wedi’u hatodi fel Atodiad 3a ac Atodiad 3b yn yr adroddiad); (b) cefnogi’r cynnig i symud
cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan
ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn
cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad; (c) cefnogi’r cynnig i symud cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno ... view the full Cofnodion text for item 12. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel
y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. Dogfennau ychwanegol: |
|
PROSIECT CEFNOGI LLETY BRYS DROS DRO (ATAL DIGARTREFEDD) Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a
Chymunedau (copi ynghlwm) yn cynnwys canlyniad yr ymarfer tendro ar gyfer y
Prosiect Cefnogi Llety Brys Dros Dro newydd a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i
ddyfarnu’r contract i’r darparwr gwasanaeth penodol a argymhellir yn yr
adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cydnabod fod ymarfer tendr
teg a chadarn wedi ei gwblhau yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contractau Sir
Ddinbych, a oedd wedi adnabod ‘enillydd’ clir, a oedd wedi gosod rhaglen sydd
wedi bodloni nodau a dyheadau manylion y prosiect a nodwyd yng nghais y tendr. (b) cytuno i ddyfarnu’r contract
i’r darparwr gwasanaeth a enwyd a argymhellwyd fel nodir yn yr adroddiad yn
seiliedig ar eu cynigion tendr ar y lefel ffi a gynigiwyd, yn unol â’r
adroddiad dyfarnu (wedi ei atodi fel Atodiad 4 i’r adroddiad) a (c) cadarnhau eu bod wedi
darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer Cynllun
Cyflawni’r Grant Cymorth Tai 2022-25 (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i
ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas adroddiad cyfrinachol yn manylu
canlyniad yr ymarfer tendro ar gyfer y Prosiect Cefnogi Llety Brys Dros Dro
newydd a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract i’r darparwr
gwasanaeth penodol fel y manylir yn yr adroddiad. Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo dechrau’r broses gaffael yn flaenorol fel y
nodwyd yn y Ffurflen Gomisiynu yn Gorffennaf 2022. Nod y prosiect oedd datblygu cynnig llety
brys dros Dro Sir Ddinbych i gynnig profiad gwell ble cefnogwyd pobl i wella eu
lles a datblygu eu dyfodol. Trefnwyd
i’r prosiect ddechrau yn Ionawr 2023 gyda chyfnod arweiniol o 4 mis a
gwasanaethau yn dechrau yn Ebrill 2023 i gydfynd ag agor Epworth Lodge yn y
Rhyl. Darparwyd manylion yr ymarfer
caffael a darparwr gwasanaeth a argymhellwyd oedd yn bodloni manylion y
prosiect orau. Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas y byddai’r prosiect yn darparu cefnogaeth
24 awr cynhwysfawr yn ogystal â’r gefnogaeth bresennol i’r sawl mewn llety dros
dro. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cydnabod fod ymarfer tendr
teg a chadarn wedi ei gwblhau yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contractau Sir
Ddinbych, a oedd wedi adnabod ‘enillydd’ clir, a oedd wedi gosod rhaglen sydd
wedi bodloni nodau a dyheadau manylion y prosiect a nodwyd yng nghais y tendr. (b) cytuno i ddyfarnu’r contract
i’r darparwr gwasanaeth a enwyd a argymhellwyd fel nodir yn yr adroddiad yn
seiliedig ar eu cynigion tendr ar y lefel ffi a gynigiwyd, yn unol â’r
adroddiad dyfarnu (wedi ei atodi fel Atodiad 4 i’r adroddiad) a (c) cadarnhau eu bod wedi
darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer Cynllun
Cyflawni’r Grant Cymorth Tai 2022-25 (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o'i
ystyriaethau. Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm. |