Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Aelodau i ddatgan cysylltiad sy'n rhagfarnu a phersonol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Gill German - Cysylltiad Personol - Eitem 5 Y Cynghorydd Rhys Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem 5 a 7 Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Gill German a’r Cynghorydd Rhys
Thomas gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen – Cynlluniau Amddiffynfeydd
Arfordirol Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn, o ran Hamdden Sir Ddinbych
Cyfyngedig (HSDd), oherwydd eu bod yn Gyfarwyddwyr HSDd. Datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas gysylltiad personol ag
eitem 7 ar y rhaglen hefyd – Prosiect Ysgol Plas Brondyffryn, oherwydd ei fod
yn byw’n agos at yr ysgol. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar
29 Medi 2022. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
CYNLLUNIAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR CANOL Y RHYL A CHANOL PRESTATYN PDF 224 KB Ystyried
adroddiad (sy’n cynnwys dau atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Barry
Mellor, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) ynghylch dau
gynllun amddiffyn yr arfordir posib ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol Prestatyn a
cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r Cyngor gydag
argymhelliad i ariannu cyfnod adeiladu’r ddau gynllun. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn: (a) cadarnhau ei fod wedi
ystyried cynnwys yr Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer bob cynllun (sydd
wedi’u hatodi fel Atodiad 3a ac Atodiad 3b yn yr adroddiad); (b) yn cefnogi’r cynnig i symud
cynllun Amddiffyn Arfordir canol y Rhyl yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan
ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn
cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad; (c) yn cefnogi’r cynnig i symud
cynllun Amddiffyn Arfordir canol Prestatyn yn ei flaen i’r cam adeiladu, gan
ddefnyddio’r model cyllid cymorth grant a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn
cytuno i’r cynnig gael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer penderfyniad, ac (d) yn
dirprwyo awdurdod i Fwrdd Prosiect Amddiffyn yr Arfordir gyflawni’r cynlluniau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad
am ddau gynllun amddiffynfeydd arfordirol posibl ar gyfer Canol y Rhyl a Chanol
Prestatyn a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r prosiect i’r
Cyngor gydag argymhelliad i ariannu cam adeiladu’r ddau gynllun. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dau atodiad
cyfrinachol a oedd yn nodi gwybodaeth ariannol a gofynnwyd i’r Cabinet symud i
sesiwn breifat wrth drafod elfennau cyfrinachol y dogfennau. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r
Amgylchedd, y Rheolwr Adain – Rheoli Rhwydwaith a’r Ymgynghorydd Amddiffynfeydd
Arfordirol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon hefyd. Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y
ddau gynllun er mwyn lleihau perygl llifogydd yn ardaloedd Canol y Rhyl a
Chanol Prestatyn. Roedd y Cyngor wedi
gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu’r cynlluniau a byddai achos
busnes terfynol yn cael ei gyflwyno cyn hir i gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth
Cymru. Cost gyfun y ddau gynllun oedd
tua £84 miliwn, a chaiff 85% ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel cymorth grant,
sy’n cael ei dalu i’r Cyngor dros gyfnod o 25 mlynedd drwy’r Grant Cynnal
Refeniw. Roedd ymgynghori helaeth
wedi’i gynnal ar y ddau gynllun ac roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Bwrdd
Cyllideb wedi craffu ar y cynlluniau arfaethedig a chefnogi cyflwyno’r prosiect
i’w gymeradwyo. Roedd caniatâd cynllunio
wedi’i roi ar gyfer y ddau gynllun ym mis Gorffennaf 2022. Eglurwyd y rhesymu dros y cynlluniau ymhellach gan
gyfeirio at effaith newid hinsawdd, dirywiad amddiffynfeydd presennol rhag
llifogydd a dinistr digwyddiadau llifogydd.
Amlygwyd llwyddiant Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl hefyd a’r
gwersi a ddysgwyd o’r prosiect hwnnw.
Roedd Cynllun Canol y Rhyl wedi’i ddylunio i leihau risg llifogydd yn
sylweddol i tua 600 o eiddo preswyl a masnachol ac roedd Cynllun Canol
Prestatyn wedi’i ddylunio i ddiogelu mwy na 2,000 o eiddo preswyl a masnachol;
roedd y ddau gynllun yn hanfodol ar gyfer diogelwch a chynaliadwyedd y trefi
hynny ar gyfer preswylwyr, busnesau a thwristiaeth. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd – ·
Roedd y Cynghorydd Gill
German yn awyddus i sicrhau bod pryderon a fynegwyd gan breswylwyr (yn dilyn
adroddiadau yn y wasg) a oedd yn byw ger Cynllun Canol Prestatyn wedi cael
sylw. Dywedwyd wrthi fod y mwyafrif o’r
pryderon hyn wedi bod yn seiliedig ar gamddealltwriaeth o’r cynlluniau. Roedd swyddogion wedi cysylltu â phreswylwyr
i roi sicrwydd yn hynny o beth gan egluro bod y cynllun yn bellach o lawer i
ffwrdd o ffin eu heiddo nag a adroddwyd yn y wasg, a bod addasiadau pellach
wedi’u gwneud i ymestyn y pellter hwnnw, ac ni fu unrhyw gynlluniau ar gyfer
llwybr cerdded/beicio ar ben y bwnd, a fu’n bryder arall. ·
Dywedodd yr Arweinydd a’r Cynghorydd
Gill German (aelodau’r ward) eu bod wedi bod yn yr ardal yn ddiweddar i siarad
â phreswylwyr, ynghyd â thrydydd aelod y ward, y Cynghorydd Kelly Clewett, ac
ni chodwyd unrhyw bryderon am Gynllun Canol Prestatyn. Er ei bod wedi bod yn bleser nodi’r
ymgysylltu cynhwysfawr a oedd wedi’i gynnal eisoes, pwysleisiodd yr Arweinydd
bwysigrwydd ymgysylltiad rhagweithiol parhaus a chyfathrebu ag aelodau a
phreswylwyr wrth symud ymlaen, yn enwedig o ystyried yr amhariad anochel a
achosir o ganlyniad i’r cam adeiladu.
Rhoddwyd sicrwydd y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal am
fanylion y cynlluniau a’r rhaglen ddarparu, pe bai’r cynlluniau’n cael eu
cymeradwyo. Cynigiwyd mesurau ymgysylltu
tebyg i’r rhai a gynhaliwyd yn ystod Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl,
a oedd yn cynnwys newyddlenni rheolaidd a chyfleuster galw heibio. · Cyfeiriodd y Cynghorydd Rhys Thomas at Gynllun Canol y Rhyl a phryderon o ran yr effaith niweidiol ar weithrediad cyfleusterau Hamdden Sir Ddinbych ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant
(copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno cynllun
penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig ar gyfer caffael tir i ddibenion dal a
storio carbon a gwelliannau ecolegol gan gymryd ystyriaeth o argymhellion y
Pwyllgor Craffu Cymunedau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo cyflwyno’r
cynllun penderfyniadau dirprwyedig newydd ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol
a lesddaliadol) at ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol fel y
cynigir yn Atodiad 3 yr adroddiad, ac (b) yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn Atodiad 4 yr adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno’r cynllun newydd arfaethedig
ar gyfer gwneud penderfyniadau dirprwyedig ar gyfer caffael tir ar gyfer dal a
storio carbon a dibenion gwelliannau ecolegol, ar ôl ystyried argymhellion y
Pwyllgor Craffu Cymunedau i ganiatáu i dir gael ei gaffael yn fwy prydlon ac
effeithiol fel bod y Cyngor yn gwireddu ei ddatganiad Argyfwng Hinsawdd ac
Argyfwng Ecolegol a’r targedau cysylltiedig. Roedd penderfyniad gwreiddiol y Cabinet ym mis
Chwefror 2022 i gymeradwyo’r cynllun dirprwyo arfaethedig wedi bod yn destun
galw i mewn. Yn ei gyfarfod ym mis
Gorffennaf, roedd y Cabinet wedi cytuno i ailystyried ei benderfyniad
gwreiddiol gan roi ystyriaeth i argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau. Roedd yr adroddiad yn mynd i’r afael ag
argymhellion y Pwyllgor Craffu a oedd yn cynnwys ceisio ymatebion i
ymgynghoriadau gan sefydliadau allweddol; diwygio geiriad yn y cynllun dirprwyo
arfaethedig, o ran ei fod yn berthnasol i gysylltu â chynghorwyr lleol a
Grwpiau Ardal yr Aelodau; cynnal adolygiad o adnoddau staffio yn y Gwasanaethau
Cefn Gwlad ar yr adeg briodol i sicrhau digon o gapasiti i ddelio â’r
dyletswyddau ychwanegol yn y dyfodol, a darparu gwybodaeth fanwl am raddio tir
amaethyddol yn Sir Ddinbych. Rhoddodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd grynodeb o’r adroddiad a
chadarnhau bod pob un o argymhellion y Pwyllgor Craffu wedi cael sylw. Tynnodd sylw at dargedau Di-garbon Net a
Chyngor Ecolegol Gadarnhaol ar gyfer 2030 y Cyngor hefyd a’r rhesymeg dros
gaffael at ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol. Ychwanegodd y Cynghorydd Mellor fod y Cynghorydd
Huw Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi bod yn fodlon bod y
materion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu wedi cael sylw. Fodd bynnag, roedd wedi gofyn i aelodau gael
gwybod am unrhyw achosion o gaffael tir pan fyddai’n digwydd, ac roedd y
Cynghorydd Mellor yn ystyried bod hwn yn gais rhesymol. Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Huw
Williams a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau am eu gwaith a oedd wedi arwain at y
canlyniad presennol. Roedd y Cynghorydd
Emrys Wynne yn croesawu’r adolygiad hefyd ac amlygodd werth craffu a’i bwysigrwydd
ym mhrosesau’r Cyngor.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) cymeradwyo cyflwyno’r
cynllun penderfyniadau dirprwyedig newydd ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol
a lesddaliadol) at ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol fel y
cynigir yn Atodiad 3 yr adroddiad, ac (b) cadarnhau eu bod wedi
darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn
Atodiad 4 yr adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
PROSIECT YSGOL PLAS BRONDYFFRYN - ADRODDIAD YMGYNGHORI FFURFIOL AR DREFNIADAETH YSGOL PDF 343 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a
Theuluoedd (copi ynghlwm) ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol i gynyddu’r
capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn a cheisio cymeradwyaeth y
Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gynyddu’r capasiti
o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn o 1 Medi 2024 os bydd yr adeilad newydd
yn barod. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol
i gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn; (b) cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i
Gyngor Sir Ddinbych gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn o
28 Ebrill 2025 ymlaen. Bydd gweithredu’r
cynnig yn amodol ar gytuno ar safle, derbyn caniatâd cynllunio, p’un a fydd
cyllid ar gael a p’un a fydd yr adeilad newydd yn barod, ac (c) yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiadau o Effaith ar Les, fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gill German yr adroddiad am
ganfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol am brosiect Ysgol Plas Brondyffryn a
cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol i’r Cyngor
gynyddu’r capasiti o 116 i 220 yn Ysgol Plas Brondyffryn. Cyfeiriodd hefyd at ddiwygiad i argymhelliad
3.2 yr adroddiad, i gynnwys dyddiad gweithredu diwygiedig sef 28 Ebrill 2025. Roedd y prosiect yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu
Llywodraeth Cymru (Band B) a gymeradwywyd ym mis Medi 2020. Ar hyn o bryd, roedd yr ysgol yn darparu
darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag awtistiaeth rhwng 3 a 19 oed ar
draws pedwar safle yn Ninbych. Y cynnig
oedd dod â phob safle at ei gilydd mewn adeilad pwrpasol mewn cae drws nesaf i
Ganolfan Hamdden Dinbych ac a ddefnyddir gan Ysgol Uwchradd Dinbych ar hyn o
bryd, a chynyddu capasiti’r ysgol wrth i alw am y lleoedd arbenigol hynny
gynyddu. Roedd manylion yr ymatebion i’r
ymgynghoriad wedi’u nodi yn yr adroddiad, ynghyd â’r adroddiad ymgynghori a’r
dogfennau ategol. Soniodd y Pennaeth Addysg a’r Prif Reolwr – Cymorth i Ysgolion fwy am y
cynnig i gynyddu capasiti’r ysgol yn seiliedig ar y cynnydd a ragwelir o ran
galw a materion presennol o ran capasiti.
Roedd trafodaethau wedi bod yn parhau â Llywodraeth Cymru yn ystod proses
ddatblygu’r achos busnes a gwnaed llawer o waith i sicrhau bod maint yr ysgol
yn gywir wrth symud ymlaen, a llwybr clir ar gyfer cynyddu niferoedd disgyblion
yn raddol yn yr ysgol, a threfniadau derbyn. Roedd y Cabinet yn croesawu’r cynnig i gynyddu capasiti’r ysgol er mwyn
bodloni’r galw cynyddol am leoedd.
Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn - ·
amlygodd y Cynghorydd Elen
Heaton yr angen i greu rhagor o gyfleoedd i rai sy’n gadael yr ysgol sydd ag
anableddau dysgu. Cadarnhawyd bod y
dyluniad presennol ar gyfer yr ysgol yn cynnwys caffi cymunedol, a’r nod oedd
darparu rhagor o ymgysylltiad cymunedol yn yr ysgol a chyfleoedd i ddisgyblion
ag anableddau dysgu, yn enwedig mewn darpariaeth ôl-16, i ddefnyddio’r
cyfleusterau newydd a datblygu sgiliau cymdeithasol a chysylltiadau â’r gymuned
ehangach. Roedd ysgolion cynradd yn y
sir oedd ag ardaloedd caffi eisoes a modelau eraill yn y trydydd sector oedd ag
oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Fodd bynnag, roedd hi’n hollbwysig diogelu disgyblion, ac os na ellid
gwarantu hynny, ni fyddai unrhyw ddatblygiadau. ·
Mynegodd y Cynghorydd Rhys
Thomas bryderon am eiriad argymhelliad 3.2 yr adroddiad a gofynnodd am eglurder
am elfennau penodol yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion a sut roedd yn ymwneud â’r
cynnig, yn enwedig o ran nodi lleoliad ar gyfer yr ysgol, pryderon am y broses
ymgynghori ochr yn ochr â’r ymgynghoriad cyn ymgeisio ar wahân ar gyfer safle
newydd arfaethedig yr ysgol, a phryderon am y safle arfaethedig ei hun. Roedd
cyfarfod arbennig o Grwpiau Ardal yr Aelodau Dinbych wedi’i drefnu i drafod y
broses dewis safle a phryderon yn hynny o beth.
O ganlyniad, roedd yn teimlo y byddai rhinweddau wrth oedi cyhoeddi’r
hysbysiad neu aileirio argymhelliad 3.2 i sicrhau eglurder o ran y broses bresennol
a gwneud penderfyniadau. Nododd y
Cynghorydd Gill German ei dewis am ddiwygiad er eglurder yn hytrach nag oedi, o
ystyried yr amserlen a’r effaith bosibl ar ddatblygu prosiectau eraill. Darparodd y Swyddog Monitro gyngor cyfreithiol am y pwyntiau hyn, a
phwyntiau dilynol a godwyd er mwyn egluro prosesau eraill, fel a ganlyn – ¨ nid cynnig ar gyfer ysgol newydd oedd hwn; roedd y cynnig yn ymwneud â chynyddu capasiti ysgol bresennol, felly roedd darpariaethau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ymwneud â’r hysbysiad a’r ymgynghoriad o ran eu bod yn ymwneud ag addasu ysgol bresennol nid ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
SYSTEM GWRESOGI ARDAL BETWS GWERFIL GOCH PDF 236 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi
ynghlwm) ynghylch y posibilrwydd o system wresogi ardal ar gyfer pentref Betws
Gwerfil Goch yn cynnwys darparu pympiau gwres o'r ddaear i anheddau’r cyngor a
rhai preifat a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi’r Contractwr, Kensa i
ddechrau cam dylunio’r prosiect. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD - bod y Cabinet yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgaredd ymgysylltu ac yn cymeradwyo penodi’r contractwr Kensa i fynd ati gyda cham dylunio’r prosiect. [Bydd y cam hwn yn y prosiect yn cymryd 12-16 wythnos.] Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys
Thomas yr adroddiad am brosiect system gwresogi ardal ar gyfer pentref Betws
Gwerful Goch, gan ymgorffori darpariaeth pympiau gwres o’r ddaear (GSHP) i
anheddau’r Cyngor ac anheddau sy’n eiddo preifat. Gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet i benodi
contractwr i fwrw ymlaen â cham dylunio’r prosiect. Darparwyd rhywfaint o gefndir
i’r prosiect gan gynnwys y cyfle i ymestyn gwaith ôl-osod i berchnogion
cartrefi preifat mewn ardaloedd oddi ar y grid/anodd eu cynhesu, a’r rhesymeg a
oedd yn sail i ddewis Betws Gwerful Goch ar gyfer y cynllun. Roedd partner technegol (Kensa) wedi’i ddewis
trwy fframwaith y Gynghrair Caffael Cymreig ac roedd astudiaethau dichonoldeb
dechreuol yn cefnogi hyfywedd y cynllun. Roedd cyllid grant 100% wedi’i sicrhau
gan Lywodraeth Cymru i gwmpasu cost y GSHP anheddau preifat yn yr ardal ar yr
amod y byddai’r prosiect yn cael ei ddarparu yn 2022/23. Byddai ymgysylltu cymunedol yn
allweddol i ddarparu’r cynllun yn llwyddiannus a soniodd yr Uwch Bensaer fwy am
y gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu hyd yma, a gafodd eu croesawu, ac
roedd rhagor o gynlluniau i ymgysylltu â rhai na wnaethant ymateb. Rhoddodd amlinelliad o gwmpas y gwaith
dylunio hefyd a gofynion ar gyfer eiddo unigol, a byddai’r cyngor yn cynnal
gwaith arolwg hefyd i gynhyrchu elfen ‘pasbort’ y cynllun ar gyfer blynyddoedd
y dyfodol. Roedd y Cabinet yn croesawu’r
prosiect arloesol a’r buddion y byddai’n eu cyflwyno i breswylwyr o ran
effeithlonrwydd ynni ac arbed costau, a hefyd o ran y rhaglen newid hinsawdd
gydag ynni adnewyddadwy a lleihau carbon.
Roedd y prosiect yn adlewyrchu uchelgeisiau’r Cyngor a’i ddull o feddwl
ymlaen ac roedd yn gyfle cyffrous i Fetws Gwerful Goch. Os byddai’r prosiect yn cael ei ddarparu’n
llwyddiannus dan amgylchiadau mor anodd ac mewn lleoliad anghysbell, y syniad
oedd y gellid ei ddarparu bron yn unrhyw le yn y sir, ac roedd y Cabinet yn
falch o nodi’r cyfle posibl i’r prosiect peilot gael ei gyflwyno i bentrefi
eraill sydd â heriau tebyg. Nodwyd hefyd
y byddai modd i unrhyw breswylwyr nad oeddent wedi ymuno â’r cynllun ar y
dechrau ymuno’n ddiweddarach o ystyried y byddai’r isadeiledd ynni ar waith
eisoes, er y byddai angen iddynt dalu costau’r pwmp gwres. Diolchwyd i swyddogion am eu gwaith caled
wrth sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun a chefnogi’r gwaith o’i ddarparu o fewn
yr amserlenni tynn a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgaredd ymgysylltu ac yn cymeradwyo
penodi’r contractwr Kensa i fynd ati gyda cham dylunio’r prosiect. [Bydd y cam hwn yn y prosiect yn cymryd 12-16
wythnos.] |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 2021/22 PDF 209 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli’r trysorlys ac i ddangos cydymffurfiaeth â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2021/22. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) nodi perfformiad swyddogaeth
Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2021/22 a’i chydymffurfiaeth â’r
Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol
2021/22 (Atodiad 1 yr adroddiad), ac (b) yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Gwyneth Ellis adroddiad yn diweddaru'r Cabinet ar berfformiad y swyddogaeth
rheoli trysorlys ac sy’n dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r
Dangosyddion Darbodus yn ystod 2021/22.
Diben yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd o ran gweithgareddau rheoli
trysorlys y Cyngor. Amlygodd y Pennaeth Cyllid ac
Eiddo bwysigrwydd rheoli’r trysorlys, a chyfeiriodd at y cefndir economaidd a'i
effaith ar weithgareddau rheoli'r trysorlys.
Amlygodd y prif bwyntiau ar gyfer aelodau yn nhermau gweithgareddau
benthyca a buddsoddi a chadarnhaodd eu bod yn cydymffurfio â phob dangosydd
darbodus a nodwyd, gan fynd â’r aelodau drwy'r dangosyddion hynny fel y manylir
yn Atodiad B gan gadarnhau cymarebau addas o ariannu costau a lefelau benthyca
o fewn terfynau. Nodwyd bod y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yn monitro’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys a’u bod
wedi derbyn yr adroddiad. Roedd sesiwn
hyfforddiant Rheoli’r Trysorlys wedi’i threfnu gyda’r Ymgynghorwyr Rheoli’r
Trysorlys, Arlingclose, ar gyfer 28 Hydref 2022, ac roedd pob aelod wedi cael
gwahoddiad i fynychu. Cydnabu’r Arweinydd yr
adroddiad cynhwysfawr a phwysigrwydd y gweithdrefnau cadarn a oedd ar waith ar
gyfer delio â’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys a gwaith y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio yn hynny o beth. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) nodi perfformiad swyddogaeth
Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2021/22 a’i chydymffurfiaeth â’r
Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys
Blynyddol 2021/22 (Atodiad 1 yr adroddiad), ac (b) cadarnhau eu bod wedi
darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn - (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb; ac (b) yn cymeradwyo’r cynlluniau i wario grant cyfalaf Ysgolion (£1.799 miliwn) i wella awyru, cefnogi datgarboneiddio a lleihau’r ôl-groniad o waith cynnal a chadw mewn ysgolion, fel y nodir yn adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth
y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel
a ganlyn - ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2022/23 oedd £233.693 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22) ·
rhagwelir y byddai
gorwariant o £2.661 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
tynnwyd sylw at y risgiau a
thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith y Coronafeirws a chwyddiant ·
manylion am arbedion
gwasanaethau a chynnydd mewn ffioedd a thaliadau (£0.754 miliwn); ni ofynnwyd
am arbedion gan Wasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr. Gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer
cynlluniau i wario grant cyfalaf ysgolion hefyd er mwyn gwella awyriad, cefnogi
datgarboneiddio a lleihau ôl-groniad gwaith cynnal a chadw. Amlygodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod y
gorwariant uwch o’r mis blaenorol yn ymwneud yn bennaf â’r Gwasanaethau Plant a
Gofal Cymdeithasol i Oedolion a oedd yn wasanaethau a gaiff eu harwain gan alw
ac a oedd yn anodd eu rhagweld. Er bod y
gorwariant ar hyn o bryd ar lefel y gellid ei hariannu gyda chronfeydd wrth
gefn lefel sylfaen, roedd y gorwariant yn cynyddu, a oedd yn dal i fod yn risg
i’r Cyngor. Byddai’r materion
ailadroddus hynny’n cael eu hystyried fel rhan o’r broses o osod y gyllideb ar
gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Cyfeiriwyd hefyd at amrywiaethau eraill o fewn cyllidebau gwasanaeth a
risgiau i’w nodi wrth symud ymlaen o ran nifer o gontractau ysgolion, gan
gynnwys cludiant ysgol, nad oedd wedi’i gymeradwyo eto, ac roedd yn debygol o
gael ei adrodd yn y cyfarfod nesaf.
Roedd y setliad cyflog ar gyfer athrawon a staff nad oeddent yn athrawon
yn dal i fod yn risg, gyda rhagdybiaethau’n seiliedig ar y cynnig tâl presennol
y gellid ei fforddio yn y flwyddyn – byddai unrhyw gynnydd yn cynyddu’r
gorwariant presennol ymhellach. Yn olaf,
cyfeiriwyd at yr achos busnes oedd gerbron Cabinet i’w gymeradwyo o ran
gwario’r grant cyfalaf ysgolion a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. Fel Aelod Arweiniol, soniodd y Cynghorydd
Gill German fwy am y gwariant arfaethedig i wella awyriad mewn ysgolion a’r flaenoriaeth
ar gyfer cadw ysgolion ar agor lle bynnag bo’n bosibl, a rhoi sylw i’r
ôl-groniad gwaith cynnal a chadw mewn ysgolion ac allyriadau carbon, ac
ychwanegodd ei chefnogaeth i’r achos busnes. Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Barry
Mellor, cadarnhaodd y pennaeth Cyllid ac Eiddo fod Llywodraeth Cymru wedi
datblygu pecyn ariannu a fyddai’n debygol o gwmpasu’r costau ychwanegol i
wasanaethau sy’n cynorthwyo ffoaduriaid o Wcráin. PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn – (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd
ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb; ac (b) cymeradwyo’r cynlluniau i
wario grant cyfalaf Ysgolion (£1.799 miliwn) i wella awyru, cefnogi
datgarboneiddio a lleihau’r ôl-groniad o waith cynnal a chadw mewn ysgolion,
fel y nodir yn adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 287 KB Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr
aelodau fod y ddwy eitem ganlynol wedi’u hychwanegu ar gyfer mis Tachwedd – ·
Polisi Gosod Tai Lleol ·
Cynllun Datblygu Lleol
Newydd – Cytundeb Cyflawni diwygiedig drafft PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm. |