Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Datganodd yr aelodau canlynol ddiddordeb personol yn
rhaglen 8 ar y rhaglen ‘Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Band B’ - Roedd gan y Cynghorydd Gill German ddau o blant yn Ysgol
Uwchradd Prestatyn Roedd gan y Cynghorydd Jason McLellan blentyn yn Ysgol
Uwchradd Prestatyn Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne yn Llywodraethwr yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun Cofnodion: Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol yn
eitem 8 ar y rhaglen ‘Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Band B’ - Roedd gan y Cynghorydd Gill German ddau o blant oedd yn
mynychu Ysgol Uwchradd Prestatyn Roedd gan y Cynghorydd Jason McLellan blentyn oedd yn
mynychu Ysgol Uwchradd Prestatyn Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne yn Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Brynhyfryd,
Rhuthun |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniataodd yr Arweinydd i gwestiwn gael ei roi gerbron y Cabinet am ffioedd gofal ac i ateb gael ei roi hefyd. Cofnodion: Ar y pwynt hwn, dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi derbyn
cais gan y Cynghorydd Mark Young i gyflwyno cwestiwn hwyr i’r Cabinet
ynglŷn â ffioedd gofal a gofynnwyd am gyngor ar hynny. Eglurodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y darpariaethau
cyfansoddiadol sy’n ymwneud â chwestiwn i’w gyflwyno i’r Cabinet, a’r meini prawf
ar gyfer mater brys, ni fodlonwyd yr un ohonynt yn yr achos hwn. Fodd bynnag, roedd gan yr Arweinydd
ddisgresiwn i ganiatáu'r cwestiwn. Ar ôl ystyried y cwestiwn a nodi
pwysigrwydd y testun, defnyddiodd yr Arweinydd ei ddisgresiwn a chaniatáu i’r cwestiwn
gael ei gyflwyno. Roedd y
cwestiwn yn cyfeirio at bolisi presennol ac roedd yr Arweinydd yn cynghori ac
yn atgoffa’r Cynghorydd Young am y dulliau mewnol sydd ar gael o fewn y Cyngor,
fel y Pwyllgorau Craffu, os bydd yn dymuno herio neu graffu’r polisi hwnnw. Darllenodd y Cynghorydd Mark Young ei gwestiwn fel a
ganlyn: “Byddwch yn ymwybodol o’r wasg ar draws Cymru ac yn fwy
diweddar yng Ngogledd Cymru o ran costau gofal sy’n cael ei dalu gan awdurdodau
lleol. Y mis diwethaf, pleidleisiodd Cabinet
Cyngor Gwynedd i gynyddu ffioedd ar gyfer gofal nyrsio o 25%, ac erbyn hyn mae
Ynys Môn hefyd wedi cytuno i gynyddu ffioedd o 25%. Rwyf wedi cael gwybod bod Conwy a Wrecsam
hefyd wedi cynnal adolygiadau o lefelau cyllido. Felly yn sgil yr adroddiadau diweddar hyn, fy
nghwestiwn i, ar ôl i’r uchod gael eu codi yn y wasg, ac i mi yn bersonol, ac
wrth fynd ar eu pen eu hunain mae’r cynghorau yn symud i ffwrdd o’r dull
rhanbarthol ar gyllid gofal, beth yw sefyllfa Sir Ddinbych mewn perthynas â
hyn? Teimlaf y bydd yr ymateb gan y
Cabinet heddiw yn ddefnyddiol ac yn cael ei werthfawrogi gan aelodau etholedig,
trigolion a darparwyr gofal.” Ymatebodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r cwestiwn fel a ganlyn: “Rwy’n ymwybodol o’r wasg diweddar o ran ffioedd gofal
yng Ngogledd Cymru ac rwy’n croesawu’r cyfle i fynd i’r afael â’r mater ac
egluro sefyllfa Sir Ddinbych. Bob
blwyddyn, mae Cyngor Sir Ddinbych yn gosod ffioedd cyn y flwyddyn ariannol
nesaf ar gyfer pecynnau gofal Nyrsio a Phreswyl a gomisiynir yn allanol,
Cartrefi Gofal Arbenigol, Gofal Cartref a Chynlluniau Byw â Chymorth. Nid yw hwn yn benderfyniad unochrog, mae mewn
cydweithrediad â Grŵp Ffioedd Gofal Rhanbarthol Gogledd Cymru ac mewn
ymgynghoriad gyda darparwyr. Yn fras, yn
dilyn y fethodoleg hon a gytunwyd yn rhanbarthol, gwnaed penderfyniad ym mis
Ionawr eleni i gynyddu ffioedd ac i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Golygai hyn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022
- 23 (o ffioedd y flwyddyn flaenorol) roedd cynnydd o 6.96% ar gyfer cartrefi
gofal preswyl, 10.15% ar gyfer cartrefi gofal preswyl EMI, 7.04% ar gyfer
cartrefi nyrsio, 10.21% ar gyfer cartrefi nyrsio EMI, a 8.12% ar gyfer gofal
cartref. Anfonwyd llythyrau ym mis Chwefror i ddarparwyr yn amlinellu’r cynnydd arfaethedig mewn ffioedd, a chynhaliwyd cyfarfodydd i drafod hyn. Er bod nifer o’n darparwyr wedi croesawu hyn, mae pryderon wedi cael eu codi am y cynnydd mewn costau, megis cynnydd mewn costau tanwydd yn effeithio ar ofal cartref, cynnydd mewn costau bwyd, cyfleustodau ac yswiriant yn effeithio ar gartrefi gofal, gan gydnabod bod rhai wedi dibynnu ar gymorth ariannol Covid-19 dros dro Llywodraeth Cymru sydd bellach wedi dod i ben, ac wrth gwrs y gost o heriau recriwtio a chadw staff. Felly, gwnaed penderfyniad arall ym mis Mehefin eleni i gydnabod yr her bresennol ac i ddarparu cynnydd ychwanegol i’r ffioedd presennol, a hefyd hoffwn nodi bod hyn cyn i Wynedd ac Ynys Môn ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
28 Mehefin 2022. Materion yn codi -
Tudalen 8, Eitem 5 Cymeradwyaeth Cais Cronfa Codi’r
Gwastad Llywodraeth y DU - Etholaeth Gorllewin Clwyd - Mewn ymateb i gwestiynau
gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts o ran newidiadau i’r broses ers y
cyfarfod diwethaf ac os fyddai hyn yn effeithio ar gais Sir Ddinbych, awgrymodd
yr Arweinydd ei fod yn cwrdd â’r Cynghorydd Hilditch-Roberts a Phennaeth
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad tu allan i gyfarfod y
Cabinet er mwyn trafod y mater ymhellach. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau, (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Cabinet adolygu ei benderfyniad gwreiddiol yn ymwneud â’r cynllun penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig ar gyfer caffael tir (rhydd-ddaliadol a lesddaliadol) i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol, gan roi sylw i ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cydnabod
casgliadau, pryderon ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn ei
adolygiad o benderfyniad y Cabinet ar 15 Chwefror 2022 o ran ‘Cynllun Penderfyniadau Dirprwyedig
Arfaethedig ar gyfer Caffael Tir (Rhydd-ddaliadol a Lesddaliadol) i Ddibenion
Dal a Storio Carbon a Gwella Ecolegol’; (b) yn cytuno i ailystyried ei
benderfyniad gwreiddiol, gyda’r bwriad o gyflymu’r broses benderfynu ar gyfer
prynu tir, ac fel rhan o’r adolygiad hwnnw bydd yn ystyried ac yn cymryd i
ystyriaeth yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu fel y nodir ym
mharagraff 3.2 o’r adroddiad, a (c) gofyn i swyddogion ddod ag adroddiad gerbron y Cabinet ar yr adolygiad hwnnw, i’w ystyried gan y Cabinet ym mis Hydref. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams, Cadeirydd y
Pwyllgor Craffu Cymunedau adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar ganfyddiadau ac argymhellion
y Pwyllgor Craffu yn dilyn ystyriaeth o alw mewn penderfyniad y Cabinet ar 15
Chwefror 2022 mewn perthynas â chynllun penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig
ar gyfer caffael tir i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol. Yn gryno, cydnabu’r Pwyllgor pe byddai’r Cyngor am
gyflawni ei uchelgais mewn perthynas â lleihau carbon, byddai angen mabwysiadu
dull amlochrog, a fyddai’n cynnwys prynu darnau o dir i’w defnyddio i osod yn
erbyn y defnydd carbon na ellir ei osgoi, ac roedd y Pwyllgor wedi derbyn
sicrwydd na fyddai tir amaethyddol sefydlog yn cael ei brynu ar gyfer y diben
hwn. Fodd bynnag, codwyd pryderon o ran
y canlyniadau anfwriadol posibl y gall bryniannau tir o’r fath ei gael ar
hyfywedd busnesau amaethyddol lleol yn y dyfodol a bywoliaeth teuluoedd lleol,
a all gael effaith andwyol ar gynaladwyedd economaidd hirdymor cymunedau lleol,
gan newid cyfansoddiad ac ethos bywyd cymunedol mewn ardaloedd gwledig y
sir. O ganlyniad i hynny, gofynnwyd i’r
Cyngor ail-ymweld â’r penderfyniad gan ystyried pryderon ac argymhellion y
Pwyllgor i sicrhau cefnogaeth cymunedau gwledig ar gyfer y broses, atgyfnerthu
cyfranogiad aelodau etholedig yn y broses, a sicrhau y byddai adnoddau digonol
ar gael i’r Tîm Gwasanaethau Cefn Gwlad i ddarparu dyheadau amgylcheddol y
Cyngor. Pwysleisiodd y Cynghorydd Williams nad oedd y
Pwyllgor Craffu yn erbyn egwyddor y dull, ond ei fod eisiau prosesau cywir yn
eu lle i wasanaethau trigolion Sir Ddinbych a sicrhau proses agored a thryloyw. Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a canolbwyntiwyd ar y
prif faterion trafod a ganlyn - ·
Roedd
y Cynghorydd Gwyneth Ellis yn gefnogol o’r Cabinet yn ailystyried ei
benderfyniad gan ystyried barn y Pwyllgor Craffu. Fodd bynnag, roedd hi’n teimlo y dylai’r
camau a argymhellwyd ym mharagraffau 3.2 (i) - (iv) gael eu hystyried fel rhan
i’r ail-ystyriaeth yn hytrach na chael eu cytuno ymlaen llaw, a chynigodd
addasiad ar y sail honno, gan adrodd yn ôl i’r Cabinet wedyn ·
rhoddwyd eglurder o ran y
broses gwneud penderfyniadau a rôl craffu, a nodwyd yn sgil y galw i mewn, nid
oedd penderfyniad y Cabinet wedi cael ei weithredu. Er y gallai swyddogion barhau i brynu tir o
dan y prosesau cyfredol, roedd y broses gwneud penderfyniadau cyflym wedi ei atal
tan i’r Cabinet ail-ystyried ei benderfyniad. ·
roedd
cefnogaeth gyffredinol ar gyfer y dull i gaffael tir ar gyfer dibenion dal a
storio carbon a gwelliannau ecolegol, o ystyried yr argyfwng newid hinsawdd,
ynghyd â’r angen i gyflymu’r broses penderfyniad dirprwyedig ar gyfer prynu tir
er mwyn bodloni’r amcan heb unrhyw oedi. ·
er y cytunwyd y dylid
cyflawni ymgynghoriad pellach gyda’r Undeb Amaethwyr a Ffederasiwn Clybiau
Ffermwyr Ifanc cyn gynted â phosibl, cydnabu hefyd bod angen ymateb yn gyflym
er mwyn lleihau unrhyw oedi o ran y Cabinet yn gwneud y penderfyniad olaf ar y
mater. Adroddodd y Cynghorydd Huw
Williams ar lwyddiant y Grŵp Tasg a Gorffen Perygl Llifogydd fel fforwm ar
gyfer trafod, ac os oedd yn briodol, byddai Grŵp Tasg a Gorffen yn gallu
cael ei sefydlu fel ffordd o ymgysylltu â’r partïon perthnasol yn y mater hwn. ·
o ran terfynau amser,
awgrymwyd y byddai adroddiad yn ôl i’r Cabinet ym mis Hydref yn darparu digon o
amser i weithio gydag Undebau Amaethwyr a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc i
geisio ymatebion cynhwysfawr mewn perthynas â’r cynllun arfaethedig fel yr
argymhellwyd gan y Pwyllgor Craffu. · Cadarnhaodd Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod y broses o gaffael tir yn parhau ac adroddodd ar bryniant tir presennol yn Llanelwy ar gyfer y diben a oedd wedi ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Y GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN PDF 213 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd, (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo datblygu Rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin ymhellach, dirprwyo awdurdod i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir Ddinbych ar gyfer cynhwysiant yn y Strategaeth Fuddsoddi Ranbarthol, ac i Gyngor Gwynedd weithredu fel corff arweiniol ar gyfer cyflwyno’r Strategaeth a chyflawni’r rhaglen. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo datblygiad pellach
rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir Ddinbych ac yn rhanbarthol drwy fewnbwn
swyddogion, yn unol â’r egwyddorion a nodir yn yr adroddiad; (b) rhoi awdurdod dirprwyedig
i’r Prif Weithredwr a’r Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd i
ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir Ddinbych ar gyfer eu cynnwys yn y Strategaeth
Fuddsoddi Ranbarthol i alluogi i gyllid y rhaglen gael ei dynnu i lawr, a (c) cefnogi’r cynnig i ofyn i Gyngor Gwynedd weithredu fel corff arweiniol i gyflwyno’r Strategaeth Fuddsoddi Ranbarthol i Lywodraeth y DU ac i arwain darpariaeth y rhaglen wedi hynny. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad yn
ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu’r Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin
ymhellach, dirprwyo awdurdod i ddatblygu a chyflwyno blaenoriaethau Sir
Ddinbych ar gyfer eu cynnwys yn y Strategaeth Buddsoddi Rhanbarthol ac i Gyngor
Sir Gwynedd weithredu fel arweinydd rhanbarthol ar gyfer y rhaglen. Roedd y Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn rhan o’r agenda
Codi’r Gwastad gan ddisodli Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Roedd yn bennaf yn rhaglen cyllido refeniw a
dyraniad unigol Sir Ddinbych oed £25,647,958. Eglurodd y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid
y trefniadau ar gyfer cynllunio a darparu’r Strategaeth Buddsoddi Rhanbarthol
gyda blaenoriaethau buddsoddi yn canolbwyntio ar: (1) Cymuned a Lle, (2)
Cefnogi Busnesau Lleol, a (3) Pobl a Sgiliau.
Ar y cam hwn, nid oedd angen canfod prosiectau i gyflawni canlyniadau, a
byddai’r elfen honno’n cael ei chyflawni yng ngham nesaf y broses. Yn dilyn cyflwyno’r strategaeth, byddai
prosbectws yn cael ei ddatblygu yn manylu ar ymyraethau a sut allai
budd-ddeiliaid dynnu cyllid i lawr a darparu prosiectau i helpu cyflawni
canlyniadau. Yn olaf, cyfeiriwyd at yr
angen am strwythur partneriaeth rhanbarthol i ddarparu sicrwydd o ran
ymgysylltiad priodol gyda’r broses ac i arsylwi darpariaeth y rhaglen. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd - ·
Roedd y Gronfa Codi’r
Gwastad yn raglen cyllido cyfalaf ac er fod gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin
elfen o gyfalaf, roedd yn rhaglen gyllido refeniw yn bennaf. Gellir defnyddio’r Gronfa Ffyniant Gyffredin
ar gyfer prosiectau refeniw mewn modd i wneud y mwyaf o effeithiau’r prosiectau
Codi’r Gwastad cyfalaf a sicrhau’r gwerth gorau, ac yn rhan annatod o’r un
rhaglen. ·
byddai angen recriwtio
nifer o staff i reoli a darparu’r rhaglen a gellir defnyddio hyd at 4% o
ddyraniad cyllido Sir Ddinbych ei ddefnyddio i wneud cais am gyllid ar gyfer y
diben hwnnw. Fodd bynnag, disgwyliwyd y
byddai llawer llai na’r swm hwnnw yn cael ei wario ar weinyddu’r rhaglen. ·
roedd
yr adroddiad yn canolbwyntio ar strwythur a threfniadau rhanbarthol ar gyfer
darparu’r Strategaeth Buddsoddi Rhanbarthol fel y cam cyntaf yn y broses gyda
manylion y prosiectau i’w darparu a chyflawni canlyniadau i ddilyn yn y cam
nesaf. Fodd bynnag, roedd dull o'r gwaelod
i fyny wedi cael ei gymryd i ddatblygu’r strategaeth ranbarthol gan
ganolbwyntio ar flaenoriaethau ac anghenion lleol yn y lle cyntaf, ac yn dilyn
hynny byddai unrhyw flaenoriaethau cyffredin gydag awdurdodau eraill yn cael eu
hystyried i ganfod lle byddai’n fwy effeithlon neu effeithiol i gydweithio yn
isranbarthol neu’n rhanbarthol. Roedd
posib rhoi sicrwydd fod oddeutu 40% o’r dyraniad wedi ei glustnodi ar gyfer
buddsoddi mewn cymunedau lleol (blaenoriaeth Cymuned a Lle) ·
Roedd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts yn awyddus i aelodau etholedig fod yn rhan o’r broses gwneud
penderfyniadau a nodwyd hynny yn y strwythur ar gyfer trefniadau darparu
lleol. Dywedodd y Pennaeth Cymunedau a
Gwasanaethau i Gwsmeriaid, er nad oedd mandad gan Lywodraeth y DU o ran hynny,
roedd er budd Sir Ddinbych i gyflawni ymarfer ymgysylltu lleol ac roedd
disgwyliad i Gynghorau Cymuned/Tref/Dinas a Grwpiau Ardal yr Aelodau fod yn
rhan o hyrwyddo’r cyfle i wneud cais ar gyfer cyllid a chanfod prosiectau i’w
blaenoriaethu wrth fynd ymlaen. Cynigodd
y byddai’n adrodd yn ôl gyda rhagor o wybodaeth ar y trefniadau lleol fel rhan
o’r cam nesaf. · Cyfeiriodd yr Arweinydd at feirniadaeth o ddiffyg ymgysylltiad gan Lywodraeth y DU gyda Llywodraeth Cymru o ran rhaglenni wedi’u cyllido’n ddomestig i gymryd lle rhaglenni Ewropeaidd megis y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a phwysleisiodd y Cynghorydd Mark Young fod angen mynd i’r afael â’r mater o ystyried y trawsgroesiad o gyfrifoldeb rhwng y ddau lywodraeth a’r heriau a wynebir. ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo dechrau caffael ar gyfer gwasanaeth gefnogi newydd ar gyfer llety dros dro mewn argyfwng i rai digartref. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo cychwyn y broses gaffael
fel sydd wedi’i nodi yn y Ffurflen Gomisiynu sydd yn Atodiad 1 yr adroddiad, a (b) cadarnhau ei fod wedi darllen ac wedi ystyried yr Asesiad Lles (Adroddiad Asesiad Effaith ar Les ar gyfer y Cynllun Cyflawni Grant Cymorth Tai 2022 – 25 yn Atodiad 3 yr adroddiad) Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys
Thomas yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau caffael ar
gyfer gwasanaeth cefnogi digartrefedd newydd ar gyfer llety dros dro mewn
argyfwng. Yn dilyn y gwaith da a
gyflawnwyd yn nhymor blaenorol y Cyngor, roedd gwaith wedi bod yn parhau ers
peth amser ar y prosiect i ddatblygu cynnig llety dros dro mewn argyfwng a
darparu cymorth cyfannol i drigolion mewn llety sy’n eiddo i’r awdurdod lleol,
er mwyn eu cefnogi i mewn i lety parhaol, lleihau’r risg o ddigartrefedd yn
digwydd eto a gwella canlyniadau lles.
Mae caffael wedi cael ei roi yn y Ffurflen Comisiynu wedi’i atodi i’r
adroddiad a byddai’r contract yn cael ei ariannu’n llawn gan Grant Cymorth Tai
a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru. Y
bwriad oedd cynnig contract 5 mlynedd, a fyddai’n cael ei fonitro’n rheolaidd
er mwyn darparu cymorth cynhwysfawr 24 awr i bobl sy’n gadael llety brys dros
dro. Ymatebodd y Rheolwr
Gwasanaeth, Cymorth Busnes a Chymuned i gwestiynau aelodau ar yr adroddiad fel
a ganlyn - ·
roedd oddeutu 185 o aelwydydd mewn llety brys dros dro ar hyn o bryd, a
gyda’r cyllid oedd ar gael, y disgwyliad oedd y byddai cymorth yn gallu cael ei
ddarparu ar gyfer hyd ar 100 - 120 o aelwydydd y flwyddyn ar gyfradd o oddeutu
£2,000 i gefnogi ystod o weithgareddau a oedd angen i symud yr aelwydydd hyn
ymlaen. Roedd contract ar wahân ar gyfer
prosiect atal ac ymyrraeth gynnar i fod i ddechrau ym Medi er mwyn lleihau
nifer y bobl sy’n dod yn ddigartref ac felly rhagwelwyd y byddai’r gwasanaeth
cymorth newydd yn gallu cynnig cymorth i bawb o fewn llety brys dros dro. ·
Fel rhan o’r cynlluniau ailgartrefu cyflym, y nod oedd sicrhau fod yr
amser a dreulir mewn llety brys dros dro mor fyr â phosibl. Fodd bynnag, roedd angen bod yn ystyriol fod
y dull yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac na fyddai holl unigolion yn gallu symud
ymlaen ar unwaith. ·
Roedd mwyafrif y llety brys wedi’u lleoli yng ngogledd y sir, yn bennaf
yn ardal y Rhyl, ac yn cynnwys llety gwely a brecwast a gwestai. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i dendro ar
gyfer gwaith adnewyddu i Epworth Lodge, y Rhyl a fyddai’n darparu llety
mewnol. Fodd bynnag, cydnabu bod
digartrefedd yn fater ar draws y sir ac roedd llety brys dros dro yn ne’r sir a
byddai cymorth yn cael ei ymestyn ar draws Sir Ddinbych. ·
Ar hyn o bryd roedd capasiti
mewn llety brys dros dro ar gyfer 210 o aelwydydd gyda chyfleuster mewnol y
Cyngor, Epworth Lodge yn debygol o fod ar gael yn chwarter olaf y flwyddyn, ac
roedd gwaith pellach angen i ganfod
unedau ychwanegol ar gyfer llety o fewn y sir wrth symud ymlaen. Pwysleisiodd y Cynghorydd Emrys Wynne y
pwysigrwydd o ddarparu llety o’r fath ar gyfer pobl o fewn eu cymunedau eu
hunain ac roedd yn awyddus fod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau unedau ar
draws y sir gyfan ar gyfer y diben hwnnw. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) cymeradwyo dechrau caffael fel y nodwyd
yn y Ffurflen Gomisiynu yn Atodiad 1 yr adroddiad, a (b) chadarnhau ei fod wedi darllen ac ystyried
yr Asesiad o Les (Adroddiad Asesiad o’r Effaith ar Les ar gyfer Cynllun Darparu
Grant Cymorth Tai 2022 - 25 yn Atodiad 3 yr adroddiad). Ar y pwynt hwn (11.20 am) cymerodd y pwyllgor egwyl am
luniaeth. |
|
CYMUNEDAU CYNALIADWY AR GYFER DYSGU - BAND B PDF 214 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd, (copi ynghlwm) ar ganfyddiadau adolygiad y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg o’r broses flaenoriaethu ar gyfer Band B Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, yn unol â chais y Cyngor ym mis Ionawr 2022. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cadarnhau barn y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg nad oedd unrhyw newid arwyddocaol wedi digwydd o ran cyflwr adeiladau ysgolion a bod y trefn polisi presennol ysgolion yn dal yn gyfredol a chywir. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gill
German yr adroddiad ar y canfyddiadau o’r adolygiad gan y Bwrdd Rhaglen
Moderneiddio Addysg ar y broses blaenoriaethu ar gyfer Cymunedau Cynaliadwy
Band B ar gyfer Dysgu, yn ôl cais y Cyngor ym mis Ionawr 2022. Yn dilyn rhybudd o gynnig yn Ionawr 2022, a oedd wedi tarddu o bryderon
dros gyflwr Ysgol Uwchradd Prestatyn, roedd y Cyngor wedi gwneud cais fod
arolygon cyflwr o holl ysgolion yn cael eu hadolygu er mwyn gweld os oeddent
wedi newid i’r fath raddau er mwyn codi amheuon am drefn blaenoriaeth bresennol
ysgolion. Ymhelaethodd y Pennaeth Addysg
ar y broses adolygu a gyflawnwyd gan y Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Addysg yn
Ebrill 2022 a’r ailasesiad o gyflwr adeiladau ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn
adlewyrchiad cywir o’r ystâd addysg. Ni
chanfuodd yr adolygiad unrhyw newid sylweddol o ran cyflwr ysgolion ers 2016 a
fyddai’n effeithio ar y blaenoriaethau dewisol, gan ddod i’r casgliad fod y
blaenoriaethau’n gywir a bod yr ysgolion a gafodd eu neilltuo ar gyfer
buddsoddiad Band B yn cynrychioli’r rhai â’r angen mwyaf. O ran Ysgol Uwchradd Prestatyn yn benodol,
nododd y Bwrdd fod gwaith wedi cael ei gyflawni gyda’r ysgol i wneud y defnydd
gorau o fuddsoddiad cyfalaf o’r cynllun Cynnal a Chadw Adeilad. Yn ystod y drafodaeth, codwyd
y pwyntiau canlynol - ·
Er nad oedd sicrwydd y byddai cyfran pellach o gyllid ar gyfer ysgolion
yn dilyn Band B, roedd disgwyliad o ran hynny, ond roedd natur unrhyw
flaenoriaethau cyllido yn y dyfodol a pha ffurf y buasai hyn yn anhysbys. ·
Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne wedi datgan diddordeb fel llywodraethwr
ysgol Ysgol Brynhyfryd a mynegodd ei siom nad oedd posib cynnwys yr ysgol honno
ac ysgolion eraill oedd angen buddsoddiad fel rhan o’r broses Band B, a
gobeithiai y byddai cyfleoedd eraill i fuddsoddi yn yr ysgolion hynny fel rhan
o’r cyfrannau cyllido yn y dyfodol.
Cydnabu swyddogion fod ysgolion eraill hefyd angen buddsoddiad ac nid
oedd digon o gyllid i fuddsoddi yn yr holl ysgolion hynny. Fodd bynnag, roedd ffrydiau cyllido eraill yn
ychwanegol at Band B, megis y cynllun Cynnal a Chadw Adeiladau, yn cael eu
defnyddio i ymateb i anghenion ysgolion eraill nad oedd yn destun buddsoddiad
mawr trwy Band B ar hyn o bryd. ·
Roedd cyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd yn destun
cyllid ar wahân, gyda chynllun cyfalaf ar gyfer rhai o’r gwaith dechreuol er
mwyn galluogi darpariaeth ar gyfer Derbyn ym Medi a Blwyddyn 1 a 2 yn y Pasg,
gyda dialog rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru o ran gofynion cyflwyno
i Flwyddyn 6 yn y dyfodol. Byddai
goblygiadau refeniw o ganlyniad i’r newid ond roedd y ddarpariaeth prydau ysgol
am ddim yn cael ei hyrwyddo’n fawr gyda’r golwg i sicrhau cofrestriad cryf wrth
fynd ymlaen. Roedd y Cynghorydd Gill German wedi datgan cysylltiad personol yn yr eitem gan fod ei phlant yn mynychu Ysgol Uwchradd Prestatyn ac roedd hi hefyd yn gyn-ddisgybl. Ynghyd â’i chyd aelod Prestatyn, y Cynghorydd Jason McLellan, roedd hi wedi cyflawni taith o’r ysgol ac wedi trafod gyda’r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr y materion yn ymwneud â’r rhybudd o gynnig. Cyfeiriwyd at yr atodiad yn yr adroddiad yn manylu ar y rhaglen 5 mlynedd o fuddsoddiad i fynd i’r afael â blaenoriaethau’r ysgol a’r cynnydd a wnaed o ran hynny, ac roedd hi’n falch o ddarparu diweddariad ar gynnydd pellach o ran y maes parcio a’r coridor mynediad. Hefyd rhoddodd sicrwydd y byddai hi’n sicrhau cynnydd amserol i fynd i’r afael â phrif flaenoriaethau’r ysgol yn unol â’r rhaglen pum mlynedd ac i sicrhau yr amgylchedd orau bosibl ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb. Darparwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y cyngor fel
a ganlyn - ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2022/23 oedd £233.693 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22). ·
rhagwelir y byddai
gorwariant o £1.936 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol. ·
tynnwyd sylw at y risgiau a
thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd
gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chwyddiant ·
manylion o gynnydd mewn
arbedion a ffioedd gwasanaeth (£0.754 miliwn); nid oes geisiwyd unrhyw arbedion
gan Wasanaethau Cefnogi Cymunedau nac Ysgolion ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a
chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr. Fe wnaeth y Pennaeth Cyllid ac Eiddo hefyd dynnu sylw’r
aelodau at y canlynol - ·
Mae sefyllfa’r gyllideb yn
y Gwasanaethau Addysg a Phlant wedi gwaethygu ers y mis diwethaf gyda
rhagolygon o orwariant o £1.938 miliwn; roedd mwyafrif y pwysau (£1.542 miliwn)
yn ymwneud â lleoliadau maethu annibynnol a phreswyl newydd ac roedd yr
anawsterau o ran rhagweld gwariant ar gyfer y gwasanaeth a arweinir gan y galw
wedi ei ddogfennu. Byddai’r agwedd
honno’n ffurfio rhan o drafodaeth am y gyllideb yn yr hydref, o ran sut i ddelio
orau â’r pwysau wrth symud ymlaen. Roedd
posib rheoli cyfanswm y gorwariant presennol o gydag arian wrth gefn, ond
byddai unrhyw gynnydd pellach angen defnyddio lefel sylfaenol y cronfeydd wrth
gefn. ·
Roedd yr arian wrth cefn y
Cynllun Cyfalaf wedi cynyddu o £1.676 miliwn i £2.176 miliwn yn sgil cario
elfen heb ei neilltuo y grant cyfalaf a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym
Mawrth ymlaen, ac roedd £1.2 miliwn o’r arian wrth gefn wedi ei ddyrannu ar
gyfer y Prosiect Gwastraff yn unol â chymeradwyaeth blaenorol y Cabinet yn
Ebrill, gan adael elfen o’r arian wrth cefn cyfalaf ar gyfer nifer o brosiectau
llai. ·
Gan mai mis Medi y bydd y
Cabinet yn cwrdd nesaf yn sgil egwyl ym mis Awst, amlygwyd nifer o risgiau o
ran cyllidebau ysgol, cludiant ysgol, incwm parcio ceir a chwyddiant, gan
gynnwys y cynnig tâl llywodraeth leol a oedd wedi cael ei wneud y diwrnod
blaenorol a’r setliad terfynol. Byddai
monitro’r gyllideb yn agos yn parhau a byddai’r Cabinet yn derbyn adroddiad yn
ôl ym mis Medi. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y
strategaeth gyllido y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 292 KB Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr
aelodau diwygiadau canlynol – ·
Creu Bwrdd Rheoli
Maethynnau (dalgylch Afon Dyfrdwy) - Medi ·
Marchnad y Frenhines: Dyfarnu Contract Gweithredu - wedi’i ail-drefnu ar
gyfer Hydref ·
Adolygu
Penderfyniad y Cabinet: Cynllun penderfyniadau dirprwyedig arfaethedig ar gyfer
caffael tir i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau ecolegol - Hydref PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.05 pm. |