Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Croesawodd yr Arweinydd bawb i gyfarfod cyntaf y Cabinet
o dymor newydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2022 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
12 Ebrill 2022. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD HUNANASESU PERFFORMIAD Y CYNGOR 2021 I 2022 PDF 229 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol dros Gyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi yn amgaeedig) yn cyflwyno Hunanasesiad
Perfformiad y Cyngor ar gyfer 2021 i 2022 i’w gadarnhau cyn ei gyflwyno i’r
Cyngor i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cadarnhau fod yr Adroddiad Hunanasesu Perfformiad yn adlewyrchiad cywir o
Berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22 ac yn argymell fod y Cyngor yn ei
gymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a
Hunanasesiad Perfformiad y Cyngor 2021 i 2022 i’r Cabinet eu hystyried cyn eu
cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo ym mis Gorffennaf 2022. Cynigiodd welliant i argymhelliad yr
adroddiad, bod y Cabinet yn cadarnhau’r adroddiad fel adlewyrchiad cywir o
Berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22 ac argymell ei gymeradwyo gan y Cyngor. Darparodd yr Hunanasesiad Perfformiad ddadansoddiad
diwedd blwyddyn o gynnydd a heriau yn erbyn amcanion perfformiad allweddol
(h.y. Blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol) ac yn y saith maes llywodraethu
ynghyd â naratif ar weithgarwch cynghorau i gefnogi Cydraddoldeb ac
Amrywiaeth. Hon oedd y ddogfen statudol
ofynnol gyntaf a ysgrifennwyd mewn ymateb i Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 ac roedd yn bodloni gofynion y Cyngor o dan nifer o
ddarnau o ddeddfwriaeth. Arweiniodd y Cyd-Bennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio
Dros Dro ac Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad yr aelodau drwy
fanylion yr adroddiad a oedd yn cynnwys tri atodiad. Roedd yn cyflwyno Crynodeb Gweithredol
(Atodiad I) yn amlygu perfformiad yn erbyn amcanion a'r saith maes llywodraethu
ac yn edrych ymlaen at heriau'r dyfodol a meysydd i'w gwella; yr Adroddiad
Diweddaru Perfformiad chwarterol rheolaidd (Atodiad II) ar gyfer Ionawr -
Mawrth 2022, a oedd yn cyfuno â'r Crynodeb Gweithredol a'r tri Adroddiad
Diweddaru blaenorol yn ffurfio'r Hunanasesiad ar gyfer 2021 i 2022; a Chrynodeb
Perfformiad o'r Cynllun Corfforaethol 2017 – 2022 (Atodiad III). Amlygwyd adroddiadau rheolaiddfel un o
ofynion monitro hanfodol o’r fframwaith rheoli perfformiad. Amlygodd swyddogion nifer o negeseuon
allweddol yn deillio o'r Crynodeb Gweithredol mewn perthynas â Chydraddoldeb ac
Amrywiaeth; darparwyd trosolwg o bob un o’r amcanion perfformiad, a hefyd adroddwyd
yn erbyn pob un o’r meysydd llywodraethu. Croesawodd y Cabinet yr adroddiad cynhwysfawr a
gwerthusiad o berfformiad y Cyngor o ran cyflawni ei flaenoriaethau
corfforaethol. Cofnododd y Cynghorydd
Gill German ei gwerthfawrogiad o'r Crynodeb Gweithredol a oedd yn arbennig o
ddefnyddiol iddi wrth amlygu'r meysydd perfformiad a llywio'r Cynllun
Corfforaethol newydd wrth symud ymlaen.
Ategodd y Cynghorydd Julie Matthews y teimladau hynny ac roedd yn falch
o nodi'r cyfeiriadau at Gydraddoldeb a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Dros
Dro. Canolbwyntiwyd ar y prif faterion trafod a ganlyn - ·
Roedd y Cynghorydd Emrys
Wynne yn awyddus i weld adroddiadau cynnydd yn y dyfodol ar ddarpariaeth
teithio llesol yn y sir ac eglurodd swyddogion fod yr adroddiad yn cyd-fynd â’r
Cynllun Corfforaethol a chyfeiriodd at ei gynnwys – roedd y Cynllun
Corfforaethol newydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i’w gyflwyno i’r Cyngor
i’w gadarnhau ym mis Hydref. ·
Roedd Tai Gofal Ychwanegol Awel
y Dyffryn (Dinbych) wedi’u canmol yn fawr ond roedd gwaith i symud Cynllun Tai
Gofal Ychwanegol Rhuthun yn ei flaen wedi wynebu oedi sylweddol – disgwylir y
byddai gwaith yn dechrau ar y safle ddiwedd Mehefin/dechrau Gorffennaf a
byddai’r aelodau’n parhau i gael eu diweddaru fel byddai’r datblygiad yn dod yn
ei flaen. ·
Mewn ymateb i gwestiwn gan
y Cynghorydd Bobby Feeley, amlygodd yr Arweinydd bwysigrwydd Newid Hinsawdd fel
mater a oedd yn eistedd yn dda o fewn portffolio’r Cynghorydd Barry Mellor
ynghyd â thrafnidiaeth a rheoli gwastraff i yrru’r agenda honno yn ei blaen, a
byddai’n rhan enfawr o waith y Cabinet yn y dyfodol gan gynnwys cyrraedd targed
sero carbon net y Cyngor. · Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am fanylion ôl troed carbon datblygiadau newydd/prosiectau seilwaith gan ddatblygwyr a’u cynnwys mewn adroddiadau pwyllgor yn y dyfodol a chadarnhaodd yr Arweinydd y byddai’n mynd i’r afael â’r mater yn uniongyrchol gyda’r Cynghorydd Barry Mellor a swyddogion perthnasol. Ychwanegodd y Cynghorydd Win Mullen-James fod Cyngor Tref y Rhyl yn gofyn am ddatganiad ar effaith y datblygiad ar newid ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
MABWYSIADU FFRAMWAITH ECONOMAIDD RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU PDF 217 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros
Dwf Economaidd ac ymdrin ag Addifadedd (copi yn amgaeedig) yn cyflwyno
Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru i’w fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn
cefnogi a mabwysiadu Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jason
McLellan yr adroddiad a Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREF)
i’w mabwysiadu. Roedd NWREF yn hyrwyddo
datblygiad economaidd cydweithredol ar draws y rhanbarth trwy set o
flaenoriaethau a rennir ac y cytunwyd arnynt ar gyfer cyflawni ymhlith
partneriaid rhanbarthol. Mae’r
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (Gweithio Gyda’n Gilydd i sicrhau Economi Gogledd
Cymru gryfach) yn nodi sut y byddai Llywodraeth Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru a phartneriaid eraill yn gweithio mewn partneriaeth ac yn
cyflawni yn erbyn un fframwaith cyffredin. Darparodd Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd
a Gwasanaethau Cefn Gwlad rywfaint o gefndir ynghylch y cydweithio ac
ymgysylltu wedi'i dargedu ag ystod o randdeiliaid allweddol wrth ddylunio'r
ymagwedd at ddatblygu economaidd a blaenoriaethau a rennir ar gyfer y
rhanbarth. Roedd NWREF yn adeiladu ar
lawer o’r gwaith da presennol a byddai’n gorwedd uwchlaw llawer o’r cynlluniau
a’r strategaethau sydd eisoes ar waith neu i’w datblygu dros y misoedd a’r
blynyddoedd nesaf. Roedd yn nodi ffordd
wahanol o edrych ar dwf economaidd gyda dull cyfannol yn seiliedig ar
egwyddorion Economi Llesiant â thair thema graidd (1) Llesiant Cymdeithasol a
Chymunedol, (2) Economi Carbon ac Allyriadau Isel, a (3) yr Economi Profiad,
gyda nifer o flaenoriaethau wedi'u strwythuro o amgylch y themâu hynny. Roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru (NWEAB) wedi cyd-gynhyrchu’r ddogfen ac wedi argymell y dylai pob un o’r
chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru ei chymeradwyo. Byddai'r fframwaith lefel uchel yn destun
gwaith pellach a datblygiad ar ôl ei fabwysiadu. Croesawodd y Cabinet NWREF a
chydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar draws y rhanbarth a’r
manteision a fyddai’n dod i’r ardal yn ei sgil.
Trafododd y Cabinet y fframwaith gyda swyddogion, gan amlygu nifer o
feysydd pwysig yn y ddogfen a materion i’w datblygu ymhellach – ·
roedd cofrestriad myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch yng Ngogledd Cymru yn
13% (yn erbyn poblogaeth o 22%) ac roedd angen cynyddu’r ganran honno i
adlewyrchu’r boblogaeth ranbarthol yn well a chadw oedolion ifanc yn yr ardal. ·
roedd partneriaid presennol yn cynnwys colegau addysg uwch ac roedd y
fframwaith yn cynnwys llawer o gyfeiriadau at ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc
o ran swyddi gwell mewn sectorau sy’n bwysig i’r rhanbarth ·
tra bod 37% o ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu yng Ngogledd Cymru,
dim ond 8% oedd mewn perchnogaeth leol, ac roedd angen mwy o fanylion ynghylch
sut y gellid cynyddu’r ganran honno i sicrhau bod buddion cynlluniau o’r fath
yn cael eu cadw yn y rhanbarth ·
pwysleisiwyd sicrhau’r set sgiliau cywir yn y rhanbarth ac awgrymwyd y
byddai cyfranogiad pellach gan ysgolion yn fuddiol yn hynny o beth, yn enwedig
o ystyried y cyfleoedd a gyflwynir gyda’r cwricwlwm newydd i deilwra’r cynnig
yn lleol i’r hyn sy’n berthnasol i bobl ifanc yr ardal, cyn ac yn arwain i fyny
at amgylchedd y coleg. Nodwyd bod y
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol wedi’i halinio’n agos â’r NWEAB ac y gellid
gwneud gwaith i gysylltu’r elfennau hynny ymhellach â’r fframwaith. ·
roedd llawer o wahanol strategaethau a chynlluniau ar waith eisoes a
byddai NWREF yn eistedd uwchben y rheini i ddarparu cyd-destun strategol a nodi
unrhyw fylchau neu wendidau a allai fod yn y rhanbarth gyda’r bwriad o fynd i’r
afael â hwy. ·
roedd datblygiad economaidd mewn ardaloedd gwledig yn fater allweddol i
siroedd y rhanbarth ac roedd yn bwysig bod yr economi wledig yn datblygu gyda
chysylltiadau trafnidiaeth priodol i ardaloedd llai hygyrch a busnes/tai
addas. Roedd y fframwaith yn darparu
persbectif cyfannol o’r economi ac yn cynnwys trafnidiaeth, seilwaith digidol a
theithio llesol a fyddai’n rhan o drafodaethau yn y dyfodol. · Dylid cefnogi datblygiad cwmnïau cynhenid yn Sir Ddinbych i lenwi unrhyw fylchau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD CYLLID (SEFYLLFA ARIANNOL DERFYNOL 2021/22) PDF 235 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol dros Gyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi yn amgaeedig) yn nodi’r sefyllfa refeniw
derfynol ar gyfer 2021/22 a’r defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a
balansau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer
2020/21; (b) cymeradwyo'r driniaeth arfaethedig o
gronfeydd a balansau wrth gefn fel y manylir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1,
2 a 3; a (c) nodi manylion y trosglwyddiadau rhwng
Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd fel y nodwyd yn Atodiad 4. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
ar sefyllfa refeniw derfynol 2020/21 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth
gefn a balansau. Tywysodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo yr aelodau drwy
fanylion yr adroddiad a’r atodiadau fel yr amlinellir yn gryno isod – ·
Yn gryno, y sefyllfa
derfynol ar gyllidebau corfforaethol a gwasanaeth (gan gynnwys tanwariant
ysgolion o £6.778m) oedd tanwariant o £9.177m. ·
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru gynnydd untro yn y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2021/22 o
£60m (cyfran CSDd £1.994m) gyda chais i ddefnyddio £10m (cyfran CSDd £0.332m) i
ariannu gwelliannau i drefniadau teithio ar gyfer gweithwyr gofal gan gynnwys
cerbydau trydan; byddai’r £1.662m sy’n weddill yn cael ei roi yn y gronfa
liniaru’r gyllideb wrth gefn i helpu’r Cyngor i ddelio â phwysau chwyddiant ·
manylu ar arbedion
gwasanaeth cyllideb 2021/22 a’r arbedion effeithlonrwydd gofynnol (£2.666m) ·
Tynnwyd sylw at effaith y
coronafeirws a’r cyllid grant sylweddol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru –
derbyniwyd £19m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyda’r rhagdybiaeth y byddai’r
hawliadau grant terfynol (£2.7m) yn cael eu talu yn llawn ·
byddai balans ysgol
cyffredinol o £12.448m yn cael ei ddwyn ymlaen (cynnydd o £6.778m ar falansau
diffyg a ddygwyd ymlaen i 2021/22 o £5.670m) gyda llawer o’r cyllid hwnnw i’w
ddefnyddio yn 2022/23 i adfer o effaith Covid ·
roedd elfennau allweddol
o’r tanwariant mewn cyllidebau corfforaethol (£1.964m) yn ymwneud yn bennaf â
chyllidebau wrth gefn a gedwir yn ganolog ar gyfer gorwariant gwasanaethau,
setliadau cyflog, costau ynni a Threthi Busnes ·
gan ystyried sefyllfa
gyffredinol y gwasanaethau a’r cyllid corfforaethol oedd ar gael, cynigiwyd bod
y gwasanaethau yn dwyn ymlaen y tanwariant net a restrwyd fel balansau gwasanaethau
ymrwymedig er mwyn helpu i gyflawni strategaeth cyllideb 2022/23 a bodloni
ymrwymiadau oedd yn bodoli eisoes ·
disgwyliwyd y byddai angen
cronfeydd wrth gefn cyllideb sylfaenol nas defnyddiwyd yn 2021/22 i ariannu
effaith cynnydd mewn costau chwyddiant yn 2022/23 ·
darparwyd manylion llawn y
trosglwyddiadau i mewn i Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ac allan ohonynt. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd - ·
Croesawodd y Cynghorydd Gill
German y sefyllfa ar gyllidebau ysgolion a chymorth amserol gan Lywodraeth
Cymru gyda chyllid ar gael i fynd i’r afael ag effaith y pandemig a’r heriau
sydd o’n blaenau a thalodd deyrnged i’r ffordd yr oedd ysgolion wedi ymateb yn
ystod y pandemig. Cydnabu hefyd fod
teuluoedd yn cael trafferth gyda’r cynnydd mewn costau byw a byddai cymorth
cyllidol i weithwyr y blynyddoedd cynnar a chysylltiadau teuluol yn hanfodol i
liniaru’r effaith ar blant. ·
Bu peth trafodaeth ar
reolaeth ariannol ysgolion a rhagwelwyd y byddai cyllidebau ysgolion yn
lleihau’n sylweddol dros y tair blynedd nesaf wrth i’r cyllid gael ei wario i
sicrhau bod ysgolion a disgyblion yn adfer o’r pandemig, ac amlygwyd y
cydweithio agos rhwng ysgolion, timau addysg a chyllid i sicrhau bod gan
ysgolion gynlluniau ariannol priodol ar waith a chyllidebau ysgolion cynaliadwy
wrth symud ymlaen. Roedd cymorth penodol
wedi’i ddarparu’n flaenorol i ysgolion mewn trafferthion ariannol ac y byddai
cymorth yn parhau i ysgolion sy’n wynebu pwysau ariannol er mwyn sicrhau
cynllun adfer cadarn. · O ran y defnydd posibl o gronfeydd wrth gefn a balansau ar gyfer gwariant cyfalaf, eglurwyd eu bod yn cael eu hadolygu'n flynyddol fel rhan o broses y gyllideb. Defnyddiwyd y gronfa lliniaru cyllideb wrth gefn i gefnogi cyllidebu a gellid ei defnyddio at ddibenion cyfalaf pe bai'r Cyngor yn penderfynu ar hynny. Roedd y rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf wedi elwa o £1.6m ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a byddai’r adroddiad cyllid i’w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cabinet yn cynnwys crynodeb o’r rhaglen gyfalaf ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 299 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr
aelodau’r diwygiadau canlynol – ·
yr Aelod Arweiniol ar gyfer
eitem Dyfodol Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru a drefnwyd ar gyfer mis
Mehefin oedd y Cynghorydd Julie Matthews ·
Cronfa Codi’r Gwastad:
Etholaeth Gorllewin Clwyd – eitem ychwanegol ar gyfer Mehefin Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd
i ganfod pryd y byddai adroddiad ar Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu
(Band B) Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet. PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.20 pm. |