Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorydd Hugh
Evans, Arweinydd – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 7 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol yn
eitem 7 ar y rhaglen - Datganodd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd, gysylltiad
personol gan ei fod wedi gwerthu rhywfaint o stoc drwy un o’r asiantau
eiddo/arwerthwyr sy’n ymwneud â’r broses ymgynghori. Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol
gan y bydd yn gofyn i’r Tîm Newid Hinsawdd am gymorth i leihau carbon yn Ward
Trefnant (Cefn Meiriadog). |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd 18 Ionawr 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid, yn amodol ar un pwynt o gywirdeb, derbyn cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar
18 Ionawr 2022. Cywirdeb – Tudalen 9 – Eitem 6 – Ymestyn Contract y
Gwasanaethau Hamdden – esboniodd y Cynghorydd Meirick Davies fod ei bwynt yn
ymwneud â’r difrod llifogydd i Fwyty a Theatr Pafiliwn y Rhyl mewn perthynas
â’r amgylchiadau gyda’r tanc dŵr a fyrstiodd, ac a gafodd y tanc ei
archwilio cyn ei drosglwyddo i Hamdden Sir Ddinbych Cyf neu beidio. Fel Aelod Arweiniol, cadarnhaodd y Cynghorydd
Bobby Feeley y byddai’n rhoi ateb i’r Cynghorydd Davies yn uniongyrchol y tu
allan i’r cyfarfod. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr
uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2022 fel
cofnod cywir. |
|
STRATEGAETH Y RHAGLEN CYMORTH TAI PDF 303 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
(copi ynghlwm) yn ceisio cytundeb y Cabinet i’r weledigaeth a chyfeiriad sydd
wedi’u hamlinellu yn Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai a chymeradwyo ei
chyhoeddi. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno gyda gweledigaeth a chyfeiriad strategol Sir Ddinbych a
amlinellwyd o fewn y Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai a chymeradwyo cyhoeddi’r
ddogfen. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad yn
gofyn i’r Cabinet gytuno ar y weledigaeth a sut i fynd i’r afael â digartrefedd
a gwasanaethau cefnogi sy’n gysylltiedig â thai yn y Strategaeth ar gyfer y
Rhaglen Cymorth Tai a’i chyhoeddi. Mae’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu
Strategaeth ar gyfer Rhaglen Cymorth Tai 2022 – 2026, gydag adolygiad
hanner ffordd drwyddi. Bydd angen i’r
Strategaeth ar gyfer Rhaglen Cymorth Tai y Cyngor fod yr unig ddogfen strategol
ar gymorth tai ac atal digartrefedd, ac mae wedi’i llunio i gyd-fynd â’r
Strategaeth Tai a Digartrefedd bresennol sy’n cael ei monitro gan y Grŵp
Tai Strategol a Digartrefedd. Wrth
ddatblygu’r Strategaeth ar gyfer y Rhaglen Cymorth Tai, cynhaliwyd asesiad
trylwyr o anghenion gydag amryw o randdeiliaid a darparwyr a chytunwyd ar saith
blaenoriaeth, sydd ar y cyfan yn adlewyrchu’r camau gweithredu a geir yn y
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Tai a Digartrefedd. Cafodd cynllun gweithredu drafft ei gynnwys i
gefnogi’r modd y darperir y Strategaeth ar gyfer y Rhaglen Cymorth Tai ond
roedd angen amserlenni a chamau gweithredu ychwanegol mwy hirdymor cyn ei
chyhoeddi. Dywedodd y Cynghorydd fod y Strategaeth yn cynrychioli
cam arall yn y cyfeiriad cywir i fynd i’r afael â digartrefedd a diolchodd i’r
swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr.
Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro, Gwasanaeth Cymorth i
Fusnesau fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da wrth weithio tuag at fodel
ailgartrefu cyflym. Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Gwasanaeth Dros
Dro i gwestiynau fel a ganlyn – ·
byddai angen creu fersiwn
derfynol o’r cynllun gweithredu erbyn y bydd y Strategaeth ar gyfer y Rhaglen
Cymorth Tai yn cael ei lansio ddiwedd mis Mawrth. Er hyn, byddai’r cynllun yn hyblyg ac yn cael
ei adolygu’n barhaus er mwyn ymateb i amgylchiadau sy’n newid. ·
gwnaed llawer o gynnydd o
ran sicrhau ymyrraeth brydlon, dulliau ymgysylltu a sicrhau mynediad at
wasanaethau a gweithio gyda phartneriaid mewn ffordd gydlynol i gefnogi
unigolion a theuluoedd fel y bo’n briodol. ·
cafodd cydlynydd iechyd
meddwl a chamddefnyddio sylweddau ei gyflogi’n ddiweddar i helpu unigolion sydd
wedi eu heffeithio gan y problemau hynny er mwyn cynnal eu tenantiaethau. ·
roedd y Pwyllgor Craffu wedi
trafod llawer o’r gwaith yn y Strategaeth a’r cynllun gweithredu ar gyfer y
Rhaglen Cymorth Tai ac fe dderbynion nhw hefyd adroddiad blynyddol am
ddigartrefedd, ac roedd y Grŵp Tai Strategol a Digartrefedd hefyd yn
ymwybodol o’r materion hynny; gan gofio’r amserlen dynn i gyhoeddi Strategaeth
y Rhaglen Cymorth Tai, gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo’r ddogfen. ·
amlygwyd yr heriau mewn
ardaloedd gwledig i ddarparu’r nifer o dai sydd eu hangen gyda’r ddarpariaeth
yn Llangollen a Dinbych a darpariaeth gyfyngedig yn Rhuthun, ynghyd â llety ar
brydles tymor byr, sy’n dibynnu ar gael tai cymdeithasol ac eiddo gan
landlordiaid cymdeithasol cofrestredig - gwnaed pob ymdrech i gadw pobl sy’n
datgan eu bod yn ddigartref mor agos â phosibl at eu cymunedau. ·
cymerir camau i sefydlu
gwasanaeth ymyrraeth gynnar ac atal er mwyn lleihau nifer y bobl sy’n mynd yn
ddigartref ac roedd y ffocws a’r cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru dros y
ddwy flynedd ddiwethaf wedi canolbwyntio ar atal: adlewyrchwyd hynny hefyd yn y
Strategaeth ar gyfer y Rhaglen Cymorth Tai. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cytuno gyda gweledigaeth a chyfeiriad strategol Sir Ddinbych a amlinellir yn y
Strategaeth ar gyfer y Rhaglen Cymorth Tai ac y gellid cyhoeddi’r ddogfen. |
|
GWAHODDIAD I DENDRO'R GWASANAETH CYMORTH ASESU COF RHANBARTHOL - DYFARNU CONTRACTAU PDF 219 KB Ystyried
adroddiad (sy’n cynnwys atodiadau cyfrinachol) gan y Cynghorydd Bobby
Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth (copi ynghlwm) yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu tri chontract yn dilyn cwblhau Gwahoddiad i
Dendro ar gyfer y ‘Gwasanaeth Cymorth Asesu Cof Rhanbarthol’. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn: (a) cymeradwyo
derbyn y tendrau a gyflwynwyd gan y tri chyflenwr a gwrthod y tendr a
gyflwynwyd gan un cyflenwr am y rhesymau a fanylwyd o fewn yr ‘Adroddiad Argymhelliad
Dyfarnu Contract’ (Atodiad 1 yn yr adroddiad), a (b) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyfeiriodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd at ddau atodiad cyfrinachol i’r
adroddiad am resymau sensitifrwydd masnachol ac awgrymodd y dylid holi unrhyw
gwestiynau manwl am yr elfennau hyn mewn sesiwn breifat. Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby
Feeley yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu tri
chontract ar ôl cwblhau Gwahoddiad i Dendro ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth Asesu
Cof Rhanbarthol. [Roedd y Cabinet eisoes
wedi cytuno yn ei gyfarfod ar 23 Tachwedd 2021 y byddai’r Cyngor yn gweithredu
fel y Comisiynydd Arweiniol ar gyfer Gwahoddiad i Dendro ar gyfer y Gwasanaeth
ar ran y Gwasanaeth Cydweithio Rhanbarthol (chwe awdurdod lleol a phartneriaid
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yng Ngogledd Cymru)]. Gallai cyfanswm gwerth y tri
chontract wedi’u cyfuno â’i gilydd fod hyd at £3.36m (£672,000 y flwyddyn dros
gyfnod posibl o 5 mlynedd). Rhoddwyd
manylion am y broses dendro yn yr adroddiad, yn cynnwys nifer yr ymgeiswyr ar
gyfer pob un o’r tair lot a gynigwyd fel rhan o’r Gwahoddiad i Dendro, ynghyd â
gwerthusiad o’r cyflwyniadau tendro a’r dyfarniadau contract a argymhellwyd yn
erbyn pob lot. Roedd Llywodraeth Cymru
wedi cadarnhau cyllid allanol ar gyfer costau’r gweithgaredd rhanbarthol. PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn - (a) cymeradwyo derbyn y tendrau
a gyflwynwyd gan y tri chyflenwr a gwrthod y tendr a gyflwynwyd gan un cyflenwr
am y rhesymau y manylir amdanyn nhw yn yr ‘Adroddiad Argymhelliad Dyfarnu
Contract’ (Atodiad 1 i’r adroddiad), a (b) chadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 i’r
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff,
Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a
Chymunedau a'r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet ar gyfer cynllun penderfyniadau dirprwyedig newydd ar gyfer caffael tir
(rhydd-ddaliadol/lesddaliadol) i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau
ecolegol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) cymeradwyo cyflwyno’r
cynllun newydd o wneud penderfyniad dirprwyedig ar gyfer caffael tir
(rhydd-ddaliadol a lesddaliadol) i ddibenion dal a storio carbon a gwelliannau
ecolegol fel y cynigir yn Atodiad 1 yr adroddiad, a (b) cadarnhau ei fod
wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr
adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorwyr Brian
Jones, Tony Thomas a Julian Thompson-Hill adroddiad ar y cyd yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet i gynllun newydd o ddulliau dirprwyo penderfyniadau er
mwyn caffael tir ar gyfer dal a storio carbon ac at ddibenion gwelliannau
ecolegol. Byddai’r newidiadau
arfaethedig i’r cynllun dirprwyo yn y bôn yn hwyluso’r broses o gaffael tir er
mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei Ddatganiad Newid Hinsawdd ac Argyfwng
Ecolegol a’r targedau yn ei Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol
(2021/22 - 2029/30). Cyfeiriwyd at y
gwaith ymgynghori ac ymgysylltu a wnaed a rhoddwyd sicrwydd y byddai’r dulliau
cyfathrebu agored gyda chymunedau a rhanddeiliaid yn parhau yn y dyfodol. Nodwyd hefyd nad oedd unrhyw fwriad i brynu
tir amaethyddol o safon uchel. O ran
cyllid, roedd rhan o’r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer rhaglen waith y targed
di-garbon net ar gyfer y math hwn o bryniant tir a byddai angen cymeradwyaeth y
Cabinet ar gyfer prosiectau unigol dros £1m.
Amlygwyd hefyd y mesurau diogelu sy’n ymwneud â’r broses o lunio
penderfyniadau, gyda matrics sgorio eglur ar gyfer asesu tir a chyfranogiad
helaeth yr aelodau etholedig a’r swyddogion yn y broses honno. Amlygodd yr Arweinydd y
materion sensitif sy’n gysylltiedig â chaffael tir er mwyn gwrthbwyso
allyriadau carbon a’r effaith ar gymunedau gwledig yn genedlaethol. Er hyn, cyfeiriai’r adroddiad at gynigion i
ddiwygio’r broses ddirprwyo’n unig ac roedd yn eglur yn y broses asesu
safleoedd na chaffaelir tir a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd. Cafodd hefyd gadarnhad ynghylch yr
ymgynghoriad parhaus wrth symud ymlaen. Wrth ystyried yr adroddiad,
canolbwyntiodd y drafodaeth ar y meysydd canlynol - ·
yn unol â pholisi gwaredu tir y Cyngor, ymgynghorwyd â gwasanaethau
mewnol er mwyn canfod a oedd unrhyw ddefnydd ar gyfer y tir cyn y ceir gwared
ag ef, ac roedd hyn hefyd yn cynnwys pa mor addas yw’r tir at ddibenion
amgylcheddol. ·
byddai gwell mynediad at dir i ymwelwyr yn ystyriaeth allweddol ·
mae digon o adnoddau ar gael ar hyn o bryd yn y Gwasanaethau Cefn Gwlad
ar gyfer cynnal a chadw tir ac mae yna fecanwaith drwy Fwrdd y Gyllideb i wneud
cais yn flynyddol am gyllid cyfalaf a chyllid refeniw pe bai angen mwy o
adnoddau i reoli dulliau caffael tir yn y dyfodol a byddai hynny’n ystyriaeth
wrth symud ymlaen. ·
mae’r Cyngor wedi ymrwymo i leihau cymaint â phosibl o’i allyriadau carbon
ac mae ystod o dargedau wedi eu gosod i’r perwyl hwnnw, sy’n cynnwys adeiladau
a fflyd; mae caffael tir ar gyfer dal a storio carbon yn ffordd arall i
gyfrannu at y broses honno a gwrthbwyso allyriadau na ellir cael gwared arnyn
nhw. ·
cafwyd rhywfaint o drafodaeth am gwmnïau preifat yn prynu tir ffermio
yng Nghymru ar gyfer plannu coed er mwyn gwrthbwyso’u hallyriadau carbon eu
hunain, sy’n fater emosiynol ac yn broblem benodol yng nghanolbarth/De Cymru. ·
wrth ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis a natur
ddadleuol y mater, derbyniodd yr Arweinydd ei fod yn fater sensitif ond
rhoddwyd sicrwydd ynghylch y meini prawf ar gyfer caffael tir (nad oedd yn
cynnwys tir amaethyddol/tir cynhyrchu bwyd) a bod y dull yn rhan o raglen o
fesurau lleihau carbon a fyddai’n cyfrannu at raglen amgylcheddol y Cyngor. ·
esboniwyd y sgôr cynaliadwyedd (31 / 36) yn yr Asesiad o Effaith ar Les,
gan ei fod yn fesur eang a’i fod yn cynnwys integreiddio gyda gweithgareddau
eraill a gweithio mewn partneriaeth a’i fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor · roedd yr adroddiad yn ymwneud â’r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau ei bod yn effeithiol a’r aelodau arweiniol oedd y penderfynwyr allweddol ac felly gellid bod yn sicr ei ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADEILADAU’R FRENHINES, Y RHYL - CAIS AM GYLLID YCHWANEGOL PDF 320 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr
Economi a Llywodraethu Corfforaethol a’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am brosiect Adeiladau’r Frenhines, y Rhyl, a
cheisio cymeradwyaeth ar gyfer yr achos busnes wedi’i ddiweddaru a chyllid
ychwanegol i ddarparu Cam 1. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo’r achos busnes a ddiweddarwyd a dyrannu cyllid
ychwanegol i’r prosiect fel y manylwyd yn adran 6 a 9 yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyn cyflwyno’r adroddiad,
mynegodd yr Arweinydd ei siom fod un o Gynghorwyr Cyngor Sir Ddinbych wedi
gwneud datganiad yn y wasg a allai ddifetha enw da’r Cyngor, y prosiect a thref
Y Rhyl er mwyn gwella’i sefyllfa ei hun.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn awdurdod agored, tryloyw ac mae cyfle bob
amser i aelodau gwestiynu a chraffu y tu hwnt i’r Cabinet. Mae wedi cymryd blynyddoedd o waith caled i
fagu hyder ymhlith trigolion Y Rhyl a buddsoddwyr posibl er mwyn helpu i newid
delwedd Y Rhyl ac nid oedd y wybodaeth anghywir yn y wasg wedi helpu gyda
hynny. Os oedd yr aelod yn bresennol,
awgrymwyd y dylai wrando ar y drafodaeth, darllen yr adroddiad a nodi
ffeithiau’r sefyllfa. [Yn ystod y drafodaeth, lleisiodd aelodau eraill eu barn
ar y mater a chanolbwyntiodd yr Arweinydd ar yr adroddiad a’r argymhelliad yn y
drafodaeth.] Cyflwynodd yr Arweinydd
adroddiad ar y cyd â’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill ynghylch diweddaru’r
Cabinet am Brosiect Adeiladau’r Frenhines, Y Rhyl gan ofyn am gymeradwyaeth ar
gyfer yr achos busnes wedi’i ddiweddaru a chyllid ychwanegol i gyflawni Cam 1 y
prosiect. Roedd y prosiect yn hanfodol
ar gyfer gwaith adfywio tref Y Rhyl a llwyddiant economaidd yr ardal yn y
dyfodol a byddai’n ffurfio dolen gyswllt ddefnyddiol wrth gysylltu buddsoddiad
ar y promenâd a’r cynigion drwy’r cais i Gronfa Codi’r Gwastad ar gyfer
gwelliannau ar y stryd fawr. Yn ogystal
â hyn, amlygwyd llwyddiant rhaglen adfywio ehangach y Cyngor gyda phartneriaid,
ac roedd y prosiect yn rhan allweddol o’r rhaglen waith honno er mwyn darparu
mannau masnachu a swyddi yn y dref a chamau yn y dyfodol i ddarparu cartrefi
newydd a chyflogaeth bellach. Mae Llywodraeth
Cymru hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y prosiect ac yn parhau i fod wedi ymrwymo
i’r datblygiad. Amlinellwyd yr elfennau
ariannol a’r rhesymeg sy’n gefndir i’r cynnydd yng nghostau’r prosiect yn yr
adroddiad ac fe’u trafodwyd ymhellach yn y cyfarfod, ac roedd hynny oherwydd
ffactorau a oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac na ellid eu rhagweld, a oedd
yn cynnwys codi lefel llawr gorffenedig yr adeilad er mwyn cwrdd ag amodau
cynllunio a chostau cynyddol sy’n gysylltiedig â deunyddiau adeiladu a gwaith
dymchwel/cael gwared ag asbestos. Er bod
yr holl ddulliau ariannu posibl yn cael eu hymchwilio er mwyn ymdrin â’r diffyg
ariannol i gyflawni Cam 1, ar hyn o bryd byddai angen i’r Cyngor ariannu’r swm
llawn sydd ei angen. Nodwyd y byddai
methu â chwblhau’r prosiect yn debygol o olygu y byddai rhan sylweddol o’r
grant yn cael ei gymryd yn ôl. Cafodd y Cabinet drafodaeth
hir am yr adroddiad a mynegwyd cefnogaeth fel a ganlyn - ·
Credai’r Cynghorydd Brian Jones mai parhau â’r prosiect fyddai’r peth
iawn i’w wneud ar gyfer Y Rhyl ac roedd yn falch o weld cefnogaeth gan
Lywodraeth Cymru a photensial am gyllid Codi’r Gwastad y byddai’r ardal yn elwa
ohono; cyfeiriodd hefyd at waith caled yr Aelodau Arweiniol a’r swyddogion ar y
prosiect. ·
Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn siomedig fod y costau wedi cynyddu
ond roedd yn cydnabod y cynnydd byd-eang mewn costau adeiladu; roedd yn derbyn
bod angen adfywio tref Y Rhyl a soniodd am y gwelliannau a welwyd dros y
blynyddoedd diwethaf a thalodd deyrnged hefyd i rôl Hamdden Sir Ddinbych Cyf o
ran hynny. · Roedd y Cynghorydd Mark Young yn sicr na ellid rhagweld y cynnydd yn y costau, gan ddweud bod cost deunyddiau adeiladu wedi codi rhwng 23% a 78%, a nododd y byddai’n fwy cost effeithiol i fwrw ymlaen â’r prosiect nes bydd wedi ei gwblhau, yn hytrach na cholli’r buddsoddiad. Canmolodd y swyddogion am ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 231 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer
prosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2022/23. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun
Cyfalaf 2022/23 yn cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill yr adroddiad gan geisio cefnogaeth y Cabinet i brosiectau a
nodwyd i’w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2022/23 yn ôl argymhellion y Grŵp
Buddsoddi Strategol (GBS) ac fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Aeth y Cynghorydd
Thompson-Hill â’r aelodau drwy’r adroddiad gan esbonio’r cyllid sydd ar gael ar
gyfer dyraniadau bloc ar gyfer rhaglenni gwaith parhaus. Cyfeiriwyd at waith y GBS o ran adolygu’r
ceisiadau am ddyraniadau a rhoddwyd crynodeb o’u hargymhellion ac fe’u
trafodwyd ymhellach yn y cyfarfod, a oedd yn cynnwys y ffynhonnell ariannu a
argymhellir ar gyfer pob prosiect, ynghyd â’r rhesymeg dros gefnogi’r
prosiectau a’r dyraniadau penodol hynny. Ar wahân i hynny, cyfeiriodd y
Pennaeth Cyllid at gyhoeddiadau diweddar am gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru
a oedd yn datgan y byddai gwaith yn parhau er mwyn manteisio i’r eithaf ar y
ffrydiau incwm hynny ac y byddai’n cael ei adrodd yn ôl i’r Cabinet yn y
dyfodol wedi hynny, ar ôl yr etholiadau. Ystyriodd y Cabinet yr
argymhellion yn yr adroddiad. Cafwyd
ychydig o drafodaeth am y dyraniadau cyllid ar gyfer gwaith isadeiledd a gwaith
atgyweirio arall yn ymwneud â phontydd ac, yn dilyn arolwg o gyflwr pontydd,
nodwyd bod dyraniad cyllid penodol a chynllun deng mlynedd wedi ei lunio ar y
gwaith sydd angen ei wneud. Gan gofio
bod yr arolwg gwreiddiol wedi ei wneud chwe blynedd yn ôl, teimlai’r Cynghorydd
Brian Jones y byddai’n werth adolygu’r gwaith hwnnw er mwyn sicrhau bod y
sefyllfa ddiweddaraf yn diogelu yn erbyn problemau yn y dyfodol ac fel y gellir
blaenoriaethu gwaith fel y bo’n briodol, yn enwedig yn sgil effaith a cholled
Pont Llannerch. Gofynnodd yr Arweinydd
i’r Cynghorydd Thompson-Hill drosglwyddo’r neges honno yn ôl i’r swyddogion. PENDERFYNWYD bod y prosiectau a
nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad i'w cynnwys yng Nghynllun Cyfalaf 2022/23 yn
cael eu cefnogi a’u hargymell i'r Cyngor llawn. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar
gyfer y gyllideb. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y
strategaeth gyllido y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn manylu
ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod - ·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21). ·
rhagwelir y bydd gorwariant
o £1.553 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chyllidebau corfforaethol ·
manylion
arbedion ac arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arnynt sydd werth £2.666 miliwn
yn ymwneud â ffioedd a chostau, arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth
gwasanaethau ac ysgolion. ·
tynnwyd
sylw at y risgiau a’r tybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth
unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion ynghyd ag effaith y coronafeirws
a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol i Lywodraeth Cymru, a ·
rhoddwyd diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli’r Trysorlys
a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr. Soniodd y Pennaeth Cyllid am ffrydiau cyllido eraill a
fyddai ar gael gan Lywodraeth Cymru tua diwedd y flwyddyn ariannol a fyddai’n
effeithio’n gadarnhaol ar y sefyllfa ariannol.
Oherwydd amseriad cyfarfod nesaf y Cabinet ym mis Mawrth ni fydd
adroddiad ariannol yn cael ei gyflwyno ond bydd crynodeb o’r datblygiadau
ariannol dros y misoedd nesaf yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad sefyllfa
derfynol i’r Cabinet a bydd aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am y
datblygiadau hynny wrth i’r sefyllfa ddatblygu. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd - ·
Gofynnodd y Cynghorydd Mark
Young am sicrwydd ynghylch cyflwyno ad-daliad prydlon o’r £150,000 a gyhoeddwyd
gan Lywodraeth Cymru ar gyfer bandiau A i D treth y cyngor a’r rhai a fydd yn
derbyn cynlluniau gostyngiadau treth y cyngor.
Dywedodd y Pennaeth Cyllid, unwaith y byddai manylion y cynllun yn
hysbys, cymerir camau i hwyluso’r modd y caiff ei weithredu cyn gynted â
phosibl ac amlinellodd y trefniadau tebygol i’r perwyl hwnnw. Byddai'r aelodau’n derbyn y wybodaeth
ddiweddaraf wrth i’r sefyllfa ddatblygu. ·
Soniodd y Cynghorydd Brian
Jones am lwyddiant Cynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Dwyrain Y Rhyl a gafodd ei
gwblhau’n gynt ac yn rhatach na’r disgwyl, gan ddiogelu 1600 o gartrefi a
busnesau rhag llifogydd arfordirol. Cyfeiriodd hefyd at £700,000-£750,000
ychwanegol ar gyfer gwariant priffyrdd yn y flwyddyn ariannol bresennol a
chadarnhawyd y disgwylir cadarnhad am y swm gan Lywodraeth Cymru ac oherwydd yr
oedi wrth ryddhau cyllid yn y flwyddyn ariannol bresennol, mae’n debygol y bydd
y cyllid yn cael ei neilltuo ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan
ddefnyddio cyllideb y Cyngor a gafodd ei dwyn ymlaen i’r flwyddyn ariannol
nesaf. ·
wrth ymateb i gwestiwn gan
y Cynghorydd Bobby Feeley, soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau am y
taliad cadw o £1000 ar gyfer pobl sydd wedi eu cofrestru fel gweithwyr gofal
cymdeithasol a fydd hefyd yn elwa o’r cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill
ymlaen. Llywodraeth Cymru a fydd yn
gwneud y taliad ond yr awdurdod lleol a fydd yn hwyluso’r broses i dalu staff
cymwys. Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies,
adroddodd yr Arweinydd am gynlluniau i ddefnyddio hen safle Ysgol Llanfair
Dyffryn Clwyd yn y dyfodol ac mae trafodaethau’n parhau gyda grŵp
cymunedol lleol i’r perwyl hwnnw, cytunodd hefyd y byddai’n canfod a yw
perchnogaeth y tir wedi ei throsglwyddo o’r Esgobaeth i’r Cyngor. O ran incwm
cynllunio, cadarnhaodd y Cynghorydd Mark Young fod gweithgarwch wedi prysuro a
bod swyddogion yn cydweithio er mwyn cynyddu incwm a sicrhau bod y gwasanaeth
yn fwy cynaliadwy wrth symud ymlaen. PENDERFYNWYD y bydd y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllido y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 281 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr
aelodau’r diwygiadau canlynol – ·
cynhelir y cyfarfod nesaf a
drefnwyd yn gynharach ar 15 Mawrth er mwyn iddo gael ei gynnal cyn y cyfnod cyn
yr etholiad a fydd yn dechrau ar 18 Mawrth ·
Fframwaith Ymgynghoriaeth
Gogledd Cymru - mae’r eitem wedi ei haildrefnu o fis Mawrth i fis Gorffennaf ·
Eitemau o’r Pwyllgorau
Craffu: Cael Gwared â Nwyddau na ellir eu Hailgylchu yn y Gwasanaethau Arlwyo
mewn Ysgolion - mis Mawrth PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith
i'r dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm. |